Nodyn Cyngor 9: Amlen Rochdale

Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn esbonio sut y defnyddir y dull ‘Amlen Rochdale’ o dan Ddeddf Cynllunio 2008. Yn arbennig, mae’n mynd i’r afael â defnyddio’r dull Amlen Rochdale sy’n berthnasol i’r broses Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA) a amlinellir yn Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017 (y Rheoliadau AEA).

Er bod y Nodyn Cyngor hwn wedi’i fwriadu’n bennaf ar gyfer Ymgeiswyr, dylai hefyd fod yn ddefnyddiol i bobl eraill sy’n ymwneud â phroses Deddf Cynllunio 2008.

Mae’r Rheoliadau AEA yn cynnwys darpariaethau trosiannol ar gyfer prosiectau penodol. Lle y bodlonir y darpariaethau trosiannol, bydd Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2009 yn parhau i fod yn berthnasol.

Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn cyfeirio at Nodiadau Cyngor eraill, gellir dod o hyd i’r rhain i gyd yr adran Nodiadau Cyngor ar wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol

Neidio i’r adran:

  1. Cyflwyniad
  2. Amlen Rochdale: cefndir
  3. Ymgynghori a chyhoeddusrwydd yn ystod y cam Cyn-ymgeisio
  4. Asesu Effeithiau Amgylcheddol a’r Datganiad Amgylcheddol
  5. Cysondeb dogfennau cais
  6. Casgliadau

1. Cyflwyniad

1.1 Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn rhan o gyfres o Nodiadau Cyngor a gynhyrchwyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio. Mae nifer o Ymgeiswyr wedi ceisio cyngor ar faint o hyblygrwydd a fyddai’n cael ei ystyried yn briodol i fynd i’r afael ag ansicrwydd yn ymwneud â cheisiadau am ganiatâd datblygu trwy broses Deddf Cynllunio 2008. Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn mynd i’r afael â defnyddio dull ‘Amlen Rochdale’ o dan Ddeddf Cynllunio 2008 ac yn rhoi cefndir i’r gyfraith achosion a gwreiddiau’r dull mewn ymarfer Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA) yn y Deyrnas Unedig (DU).

1.2 Defnyddir y dull ‘Amlen Rochdale’ pan fydd natur y Datblygiad Arfaethedig yn golygu nad yw rhai o fanylion y prosiect cyfan wedi cael eu cadarnhau (er enghraifft, union ddimensiynau strwythurau) ar adeg cyflwyno’r cais, a cheisir hyblygrwydd i fynd i’r afael ag ansicrwydd. Defnyddiwyd dull o’r fath mewn cyfundrefnau caniatáu eraill (Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Deddf Trydan 1989) lle y gwnaed cais ar adeg pan nad oedd manylion y prosiect wedi cael eu cadarnhau.

1.3 Amlygir yr angen am hyblygrwydd mewn nifer o Ddatganiadau Polisi Cenedlaethol (NPS) sy’n awgrymu Amlen Rochdale fel dull o fynd i’r afael ag ansicrwydd sy’n gysylltiedig â’r Datblygiad Arfaethedig e.e. amodau’r farchnad sy’n newid. Fodd bynnag, mae Ynni (EN-1), yr NPS ar gyfer Seilwaith Ynni Adnewyddadwy (EN-3) a’r NPS ar gyfer Rhwydweithiau Cenedlaethol oll yn pwysleisio’r angen i sicrhau bod effeithiau arwyddocaol Datblygiad Arfaethedig wedi cael eu hasesu’n briodol.

1.4 Mae angen i Ymgeiswyr benderfynu a oes angen cynnwys hyblygrwydd (ac os felly, faint ohono) yn eu cais am ganiatâd datblygu i fynd i’r afael ag ansicrwydd. Os ceisir hyblygrwydd, mae’n rhaid i Ymgeiswyr sicrhau y cyflawnir y canlynol:

  • bod y dull yn cael ei esbonio’n eglur ar gyfer ymgynghori a chyhoeddusrwydd yn ystod y cam Cyn-ymgeisio;
  • bod y Ddatganiad Amgylcheddol yn esbonio’n llawn sut mae’r hyblygrwydd a geisir wedi cael ei ystyried yn yr asesiadau a pham mae’n angenrheidiol; a
  • bod dogfennau’r cais yn gyson gan gynnwys unrhyw asesiadau amgylcheddol eraill sy’n berthnasol (e.e. Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) neu asesiad Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD).

1.5 Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn rhoi cyngor ar y prif faterion i’w hystyried ac yn awgrymu ffordd ymlaen, yng nghyddestun proses Deddf Cynllunio 2008. Nid yw’n mynd i’r afael â phob sefyllfa lle y ceir ansicrwydd a lle y mae angen hyblygrwydd. Mae’n debygol y bydd sefyllfaoedd eraill ar lefel prosiect sy’n berthnasol i’r dull a drafodir yn y Nodyn Cyngor hwn. Dylai Ymgeiswyr hefyd ystyried y gyfres ehangach o Nodiadau Cyngor a ddarperir gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

2. Amlen Rochdale: cefndir

2.1 Mae Amlen Rochdale yn deillio o ddau achos: R. v Rochdale MBC ex parte Milne (No. 1) and R. v Rochdale MBC ex parte Tew [1999] a R. v Rochdale MBC ex parte Milne (No. 2) [2000]. Roedd yr achosion hyn yn ymdrin â cheisiadau cynllunio amlinellol ar gyfer parc busnes arfaethedig yn Rochdale.

2.2 Maen nhw’n mynd i’r afael â:

  • cheisiadau am ganiatâd cynllunio amlinellol o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990; ac
  • ystyried AEA yng nghyd-destun caniatâd cynllunio amlinellol i alluogi cydymffurfio â Chyfarwyddeb 85/337/EEC y Cyngor fel y’i troswyd gan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1988.

2.3 Er mwyn deall y goblygiadau sy’n deillio o’r ystyriaeth gynhwysfawr o’r materion gan y Barnwr (Sullivan J. (fel yr oedd bryd hynny)) yn Milne (Rhif 2) (‘y Dyfarniad’), mae’n ddefnyddiol nodi rhai o’r cynigion allweddol, fel a ganlyn:

  • dylai’r asesiad gael ei seilio ar ymagwedd ‘sefyllfa waethaf’ ragofalus:
    “yna, bydd ymagwedd o’r fath yn bwydo i’r mesurau lliniaru a ddisgwylir […] Mae’n bwysig i’r rhain fod yn ddigonol i ymdrin â’r sefyllfa waethaf, er mwyn sicrhau bod y datblygiad yn cael yr effaith orau posibl ar yr amgylchedd” (paragraff 122 y Dyfarniad);
  • o ran lefel y wybodaeth sy’n ofynnol:
    “[dylai fod] digon o wybodaeth i allu asesu’r ‘prif’ effeithiau ar yr amgylchedd neu’r effeithiau ‘arwyddocaol tebygol’ ar yr amgylchedd […] a disgrifio’r mesurau lliniaru” (paragraff 104 y Dyfarniad);
  • ni ddylai’r angen am ‘hyblygrwydd’ gael ei gamarfer:
    “Nid yw hyn yn rhoi esgus i ddatblygwyr ddarparu disgrifiadau annigonol o’u prosiectau. Yr awdurdod sy’n gyfrifol am roi’r caniatâd datblygu sydd i benderfynu p’un a yw’n fodlon, o ystyried natur y prosiect dan sylw, bod ganddo ‘wybodaeth lawn’ am ei effeithiau arwyddocaol tebygol ar yr amgylchedd. Os yw’n credu bod lefel ddiangen o hyblygrwydd, ac felly ansicrwydd ynglŷn â’r effeithiau amgylcheddol arwyddocaol tebygol, wedi cael ei chynnwys yn y disgrifiad o’r datblygiad, gall fynnu mwy o fanylion, neu wrthod rhoi caniatâd” (paragraff 95 y Dyfarniad);

2.4 Mae’r Encyclopedia of Planning Law and Practice yn rhoi mwy o wybodaeth am ddiben y Dyfarniad a’i gymhwysiad ymarferol, yn ogystal ag enghreifftiau eraill perthnasol o gyfraith achosion. (Encyclopedia of Planning Law and Practice ISBN: 9780421007406, Golygyddion Cyffredinol: Christopher Lockhart-Mummery, QC; David Elvin, QC; Tîm y Siambrau Tirnod. Gweler yn benodol paragraff 3B-949B.2373.2.10.) Mae egwyddorion allweddol o’r dadansoddiad hwn wedi cael eu hystyried a’u crynhoi yng nghyd-destun y broses ymgeisio am orchymyn caniatâd datblygu (DCO) isod, a dylid rhoi ystyriaeth iddynt:

  • dylai’r dogfennau cais DCO esbonio’r angen am yr hyblygrwydd a geisir a’r graddfeydd amser sy’n gysylltiedig a dylai hyn gael ei ddangos o fewn paramedrau a ddiffiniwyd yn eglur;
  • mae’n rhaid i’r paramedrau a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer y Datblygiad Arfaethedig fod yn ddigon manwl i allu asesu’r effeithiau amgylcheddol arwyddocaol tebygol yn briodol ac i ganiatáu ar gyfer amlygu unrhyw fesurau lliniaru angenrheidiol, o fewn ystod o bosibiliadau os bydd angen;
  • dylai’r asesiadau yn y Datganiad Amgylcheddol fod yn gyson â’r paramedrau a ddiffiniwyd yn eglur a sicrhau bod yr effeithiau arwyddocaol tebygol yn cael eu hasesu’n gadarn;
  • mae’n rhaid i’r DCO beidio â chaniatáu i’r Datblygiad Arfaethedig ymestyn y tu hwnt i’r ‘paramedrau a ddiffiniwyd yn eglur’ y gofynnwyd amdanynt ac a aseswyd. Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddewis gosod gofynion i sicrhau bod y Datblygiad Arfaethedig yn cael ei gyfyngu yn y modd hwn;
  • po fanylaf yw’r cais DCO, yr hawsaf y bydd sicrhau cydymffurfiaeth â’r Rheoliadau.

2.5 Y penderfynwr, yn y pen draw, sydd i bennu faint o hyblygrwydd y gellir ei ganiatáu yn yr achos penodol o ystyried ffeithiau penodol cais. Dylai’r Ymgeisydd sicrhau ei fod wedi asesu’r ystod o effeithiau posibl sy’n ymhlyg yn yr hyblygrwydd a ddarperir gan y DCO. Gallai hyn fod yn anodd mewn rhai achosion.

3. Ymgynghori a chyhoeddusrwydd yn ystod y cam Cyn-ymgeisio

3.1 Mae’r broses a gyflwynir gan Ddeddf Cynllunio 2008 yn gosod dyletswydd ar Ymgeiswyr i ymgysylltu’n ystyrlon â chymunedau yr effeithir arnynt, awdurdodau lleol ac ymgyngoreion statudol eraill ynglŷn â’u cynigion yn ystod y cam Cyn-ymgeisio. Mae’n rhaid i’r Ymgeisydd lunio Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned (SoCC) a rhoi cyhoeddusrwydd iddo. Wrth baratoi hwn, mae’n rhaid iddo ymgynghori ag unrhyw awdurdod lleol perthnasol, a rhoi ystyriaeth i’w safbwyntiau, ynglŷn â chynnwys y SoCC.

3.2 Felly, mae proses Deddf Cynllunio 2008 yn ceisio sicrhau bod cyfleoedd i’r cyhoedd, awdurdodau lleol, ymgyngoreion ac unigolion eraill â buddiant gymryd rhan a lleisio’u barn yn ystod y cam Cyn-ymgeisio. Yn amlwg, er mwyn i ymgynghoriad fod yn effeithiol, bydd angen sicrhau bod posibilrwydd go iawn o ddylanwadu ar y cynnig, ac felly ni ddylai Datblygiad Arfaethedig fod mor ddiysgog fel na all ymateb i sylwadau gan ymgyngoreion.

3.3 Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd ymgynghori yn ystod y cam Cyn-ymgeisio, o ystyried y ffaith bod Deddf Cynllunio 2008 yn gosod ymagwedd sy’n golygu bod yr ymrwymiad mwyaf o ran ymdrech a chostau’n dod ar ddechrau’r broses. Mae angen i ymgynghoriad o’r fath fod yn briodol ac yn gymesur (o ran cynnwys, amseriad ac eglurder), a rhaid adrodd arno’n llawn yn yr Adroddiad Ymgynghori fel y gellir llwyr ddeall ymateb yr Ymgeisydd i’r sylwadau a wnaed o ran esblygiad y Datblygiad Arfaethedig.

3.4 Mae’r weithdrefn Cyn-ymgeisio statudol yn rhoi cyfle i Ymgeiswyr benderfynu ar y rhaglen ymgynghori fwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion ac i amseru’r ymgynghoriad i gyd-fynd â chamau priodol yn esblygiad y Datblygiad Arfaethedig. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r ymgynghoriad gael ei gynnal ar faterion a amlygwyd yn glir ac ar Ddatblygiad Arfaethedig sydd mor fanwl â phosibl. Mae angen i’r cyrff yr ymgynghorir â nhw allu deall y cynigion. Felly, dylai manylion y Datblygiad Arfaethedig gael eu disgrifio mor eglur ac mor syml â phosibl. Yn amlwg, bydd llai o opsiynau ac amrywiadau yn y disgrifiad o’r prosiect yn golygu y bydd yn haws i’w ddeall, yn enwedig o safbwynt pobl sy’n llai cyfarwydd â phroses Deddf Cynllunio 2008. Gallai hefyd fod yn fuddiol i Ymgeiswyr ddefnyddio ffigurau, trawstoriadau, ffotogyfosodiadau neu ddelweddau ffrâm wifren, er enghraifft, i ddangos eu cynigion. Mae angen rhoi ystyriaeth ofalus i amseru’r ymgynghoriad. Yn gynnar yn natblygiad prosiect, fe allai fod yn anodd darparu digon o fanylion i alluogi ymgyngoreion i wneud sylwadau ystyrlon, ond os yw cynigion y prosiect wedi’u datblygu’n sylweddol bydd llai o gyfleoedd i wneud newidiadau mewn ymateb i sylwadau ymgyngoreion. Mae rhagor o wybodaeth am y cam Cyn-ymgeisio ar gael yn Nodyn Cyngor 8.1 yr Arolygiaeth Gynllunio; cwestiynau cyffredin am Ymgynghori â’r Gymuned (sydd ar gael yma: https://infrastructure. planninginspectorate.gov.uk/application-process/frequently-asked-questions/); ac yng nghanllawiau’r llywodraeth ar ymgynghori Cyn-ymgeisio (sydd ar gael yma: https://infrastructure.planninginspectorate.gov.uk/legislation-and-advice/guidance/).

3.5 Mae’n rhaid i Ymgeiswyr allu dangos y cydymffurfiwyd â’r gofynion ymgynghori statudol o dan Ddeddf Cynllunio 2008 (adrannau 42 a 47). Mae’n bosibl cydymffurfio â’r rhannau hyn o Ddeddf Cynllunio 2008 gyda llai na gwybodaeth lawn am y Datblygiad Arfaethedig, ond oni bai bod proses ymgynghori ailadroddol eglur yn cael ei dilyn a dogfennau ychwanegol yn cael eu darparu i ymgyngoreion yn ystod y broses, gallai’r Ymgeisydd fod mewn sefyllfa lle na all ddangos bod y cynigion wedi cael eu hystyried yng ngoleuni’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad. Dylai Ymgeiswyr ofalu bod y disgrifiad o’r Datblygiad Arfaethedig yn eglur fel y gallant ddangos bod y gofynion statudol ynglŷn ag ymgynghori wedi cael eu bodloni.

4. Asesu Effeithiau Amgylcheddol a’r Datganiad Amgylcheddol

4.1 Mae’r broses AEA yn cynnwys:

  • paratoi Datganiad Amgylcheddol neu Ddatganiad Amgylcheddol wedi’i ddiweddaru, fel y bo’n briodol, gan yr Ymgeisydd;
  • cynnal unrhyw ymgynghoriad, cyhoeddiad a hysbysiad fel sy’n ofynnol gan y Rheoliadau neu, fel y bo’r angen, unrhyw ddeddfiad arall mewn perthynas â datblygu AEA; a’r
  • camau y mae’n ofynnol eu cymryd gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu’r awdurdod perthnasol o dan y Rheoliadau.

4.2 Mae’n rhaid i Ddatblygiad Arfaethedig sy’n ddarostyngedig i Gyfarwyddeb 85/337/EEC y Cyngor, fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 97/11/EC y Cyngor (fel y’i troswyd mewn perthynas â phroses Deddf Cynllunio 2008 gan Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2009) a Chyfarwyddeb 2014/52/EU (fel y’i troswyd mewn perthynas â phroses Deddf Cynllunio 2008 gan Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017), gael ei hategu gan Ddatganiad Amgylcheddol sy’n disgrifio’r agweddau ar yr amgylchedd y mae’r Datblygiad Arfaethedig yn debygol o gael effaith arwyddocaol arnynt.

4.3 Mae’n debygol y bydd y rhan fwyaf o geisiadau am Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) a wneir o dan Ddeddf Cynllunio 2008 yn ddatblygiad AEA.

4.4 Yn nodweddiadol, y cais am Farn Gwmpasu (yn rhan o baratoi ar gyfer y Datganiad Amgylcheddol (Rheoliad 10 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017)) yw’r cam gweithdrefnol ffurfiol cyntaf yn y broses DCO. Mae mwyafrif yr Ymgeiswyr yn dewis cyfuno’r broses hon â’r hysbysiad sy’n cadarnhau bod y Datblygiad Arfaethedig yn ddatblygiad AEA (Rheoliad 8 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017).

4.5 Ar adeg y Cais Cwmpasu, mae’n bosibl y bydd angen gadael rhai materion yn agored. Er enghraifft, efallai na fydd manylion y Datblygiad Arfaethedig wedi cael eu cwblhau’n derfynol ac, yn wir, efallai na fydd hynny’n digwydd am gryn amser. Er enghraifft, o ran ffermydd gwynt ar y môr, gallai gwybodaeth fanwl nad yw ar gael ar adeg gwneud y cais am Farn Gwmpasu gynnwys:

  • y math o dyrbinau a nifer y tyrbinau;
  • y math o sylfeini (gallai hyn ddibynnu ar y math o dyrbin a’i uchder ac amodau gwely’r môr);
  • lleoliad llwybr y cebl allforio (p’un a fydd yn cael ei gladdu neu’n gorwedd ar wely’r môr);
  • lleoliad y lanfa;
  • lleoliad pendant unrhyw is-orsaf ar y tir;
  • lleoliad y pwynt cysylltu â’r grid;
  • dulliau ac amseriadau adeiladu; neu
  • ailbweru.

4.6 Mae’r Arolygiaeth Gynllunio o’r farn bod y broses ymgynghori a’r Datganiad Amgylcheddol yn rhoi cyfle i esbonio sut mae dyluniad y Datblygiad Arfaethedig wedi esblygu dros amser. Dylai’r cais esbonio’r newidiadau allweddol sydd wedi digwydd wrth i ddyluniad y Datblygiad Arfaethedig symud ymlaen tuag at gyflwyno’r cais.

4.7 Yn ôl y Rheoliadau AEA, pan fydd Barn Gwmpasu wedi cael ei mabwysiadu, rhaid i’r Datganiad Amgylcheddol gael ei seilio ar y Farn Gwmpasu ddiweddaraf a fabwysiadwyd (ar yr amod bod y Datblygiad Arfaethedig yn aros yn sylweddol yr un fath â’r Datblygiad Arfaethedig a oedd yn destun y farn honno (Rheoliad 14 (3)(a) Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017)). Dylai Ymgeiswyr ystyried hyn wrth benderfynu pryd i ofyn am Farn Gwmpasu gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Y Datganiad Amgylcheddol a phennu’r sefyllfa waethaf

4.8 Dylai’r Datganiad Amgylcheddol gynnwys y wybodaeth a nodir yn Rheoliadau AEA 2017 (Rheoliad 14 of Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017) a chefnogi’r Datblygiad Arfaethedig fel y’i disgrifir yn y cais DCO.

4.9 Os daw’n amlwg, wrth baratoi Datganiad Amgylcheddol, na fydd yn bosibl nodi holl fanylion y Datblygiad Arfaethedig, rhaid i’r Datganiad Amgylcheddol esbonio pam a sut yr ymdriniwyd â hyn. Bydd angen i’r Datganiad Amgylcheddol bennu’r paramedrau perthnasol at ddibenion yr asesiad. Pan ddefnyddir yr ymagwedd hon, dylai’r asesiadau yn y Datganiad Amgylcheddol gael eu cynnal ar sail y paramedrau dylunio perthnasol sy’n gymwys i nodweddion y Datblygiad Arfaethedig a gynhwysir yn y DCO. Dylai’r asesiad bennu’r paramedrau hynny sy’n debygol o arwain at yr effaith niweidiol fwyaf (y sefyllfa waethaf) a chael ei gynnal yn unol â hynny i bennu arwyddocâd.

4.10 Dylai’r Datganiad Amgylcheddol gefnogi’r cais am DCO a rhaid iddo gynnwys gwybodaeth eglur sy’n cyflwyno’r effeithiau arwyddocaol sy’n berthnasol i’r Datblygiad Arfaethedig. Os ceisir hyblygrwydd, bydd angen i’r Datganiad Amgylcheddol gynnwys gwybodaeth sy’n ystyried yr amrywiadau sy’n berthnasol i’r Datblygiad Arfaethedig.

4.11 Dylai’r Datganiad Amgylcheddol esbonio’r rhesymau a arweiniodd at yr ansicrwydd ynglŷn â nodweddion y Datblygiad Arfaethedig er mwyn cyfiawnhau’r hyblygrwydd a geisir. Dylai Ymgeiswyr ofalu nad yw’r dull a ddefnyddir i asesu yn rhy gymhleth, oherwydd gallai hyn atal dealltwriaeth o’r asesiad a dod i gasgliad ynglŷn ag effeithiau o arwyddocaol tebygol.

4.12 Mae’n anodd iawn pennu’r sefyllfa waethaf/sefyllfaoedd gwaethaf at ddibenion asesu pan fydd llawer o ansicrwydd a phan geisir cryn dipyn o hyblygrwydd yn y DCO. Dylai Ymgeiswyr ystyried yr ymagwedd at asesu ansicrwydd yn ofalus a deall sut y bydd hyn yn dylanwadu ar gymhlethdod eu hasesiad yn y Datganiad Amgylcheddol. Dylai nodweddion y Datblygiad Arfaethedig nad ydynt wedi’u cwblhau’n derfynol eto gael eu hamlygu’n glir yn y disgrifiad o’r datblygiad yn y Datganiad Amgylcheddol. Dylai’r Ymgeisydd ystyried a yw’n bosibl asesu’n gadarn amrywiaeth o effeithiau sy’n deillio o nifer fawr o baramedrau na phenderfynwyd arnynt. Ni ddylai’r disgrifiad o’r datblygiad yn y Datganiad Amgylcheddol fod mor eang fel nad yw’n ddigon pendant i gydymffurfio â gofynion y Rheoliadau AEA.

4.13 Pan fydd yr Ymgeisydd yn dewis dilyn asesiad a arweinir gan baramedrau i bennu’r sefyllfa waethaf ar gyfer y Datganiad Amgylcheddol, dylai sicrhau bod y paramedrau perthnasol yn cael eu hesbonio a’u hamlinellu’n eglur er mwyn;

  • sicrhau bod rhyngweithiadau (mae rhyngweithiadau rhwng asesiadau o agweddau yn cynnwys pan fydd nifer o effeithiau ar wahân, e.e. sŵn ac ansawdd aer, yn effeithio ar un derbynnydd, megis anifeiliaid) rhwng asesiadau o agweddau (yr hyn y mae’r Arolygiaeth Gynllunio’n ei olygu wrth ‘agweddau’ yw’r disgrifiadau perthnasol o’r amgylchedd a amlygwyd yn unol â’r Rheoliadau AEA) yn cael eu hystyried sy’n berthnasol i’r sefyllfa waethaf/ sefyllfaoedd gwaethaf a bennwyd, a bod ystyriaeth ofalus yn cael ei rhoi i sut yr asesir y rhain; a
  • sicrhau bod yr asesiad o’r sefyllfa waethaf/sefyllfaoedd gwaethaf yn mynd i’r afael ag effeithiau nad ydynt yn arwyddocaol yn unigol, efallai, ond a allai ddod yn arwyddocaol pan fyddant yn cydberthyn ag effeithiau eraill yn unigol neu ar y cyd ag effeithiau o ddatblygiad arall (gan gynnwys y rhai hynny a amlygwyd mewn asesiadau o agweddau eraill).

4.14 Bydd angen i’r effeithiau cronnol posibl gyda datblygiadau eraill gael eu hamlygu’n ofalus hefyd, fel y gellir dangos bod yr effeithiau arwyddocaol tebygol wedi cael eu hamlygu a’u hasesu yn erbyn y sefyllfa sylfaenol (a fyddai’n cynnwys datblygiadau adeiledig a gweithredol). Wrth asesu effeithiau cronnol, dylid amlygu datblygiadau eraill trwy ymgynghori â’r awdurdodau cynllunio lleol ac awdurdodau eraill perthnasol. Dylai Ymgeiswyr ystyried yr ymagwedd fesul cam tuag at asesu effeithiau cronnol a amlinellir yn Nodyn Cyngor 17 yr Arolygiaeth Gynllunio: Asesu Effeithiau Cronnol.

Archwilio gwybodaeth amgylcheddol

4.15 Wrth archwilio Datblygiad Arfaethedig, rhaid i’r Awdurdod Archwilio fod yn fodlon bod yr effeithiau arwyddocaol tebygol, gan gynnwys unrhyw effeithiau gweddilliol arwyddocaol o ystyried unrhyw fesurau lliniaru a gynigir neu unrhyw effeithiau niweidiol o ganlyniad i’r mesurau hynny, wedi cael eu hasesu’n ddigonol.

4.16 Ar adeg cyflwyno’r cais, ni ddylai’r paramedrau yn y DCO fod mor eang fel eu bod yn cynrychioli Datblygiad Arfaethedig gwahanol i hwnnw yr ymgynghorwyd arno ac a aseswyd yn y Datganiad Amgylcheddol. Anogir yr Ymgeisydd i wneud ymdrech i gyfyngu ar y paramedrau sy’n berthnasol i’r Datblygiad Arfaethedig. Mae angen i’r paramedrau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr asesiad gael eu diffinio’n glir yn y DCO, ac felly yn y Datganiad Amgylcheddol cysylltiedig. Bydd hyn yn symleiddio’r asesiad ac yn rhoi hyder na fyddai’r Datblygiad Arfaethedig yn y DCO (fel y’i hadeiledir) yn arwain at effeithiau arwyddocaol y tu hwnt i’r rhai hynny a aseswyd yn y Datganiad Amgylcheddol.

4.17 Dylai unrhyw Ddatganiad Amgylcheddol a gyflwynir gyda chais am DCO ddangos bod yr effeithiau amgylcheddol arwyddocaol tebygol wedi cael eu hasesu. Dylai unrhyw gyfyngiadau yn yr asesiad gael eu hamlygu a’u hesbonio. Dylai’r wybodaeth amgylcheddol fod yn ddigonol i alluogi Awdurdod Archwilio i wneud argymhelliad, ac i’r Ysgrifennydd Gwladol perthnasol wneud penderfyniad ar y cais.

4.18 Wrth archwilio cais, os daw’n amlwg y dylai’r Datganiad Amgylcheddol gynnwys gwybodaeth ychwanegol, er enghraifft i asesu amrywiadau sy’n gysylltiedig â hyblygrwydd yn y cais DCO, byddai ystyriaeth o’r cais yn cael ei hatal tra’n disgwyl y wybodaeth ychwanegol honno (Rheoliad 20 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017).

5. Cysondeb dogfennau cais

5.1 Cyflwynodd Deddf Cynllunio 2008 broses benderfynu symlach ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol. Fel y cyfryw, mae ceisiadau’n cael eu hystyried o fewn cyfnod cymharol fyr, ond yn dilyn ymgynghoriad Cynymgeisio sylweddol. Ni all yr Ysgrifennydd Gwladol dderbyn cais i’w Archwilio oni bai, ymhlith pethau eraill, bod ansawdd ymgynghoriad statudol yr Ymgeisydd wedi bod yn ddigonol.

5.2 Dylai’r dull asesu Amlen Rochdale gael ei ddefnyddio pan fydd angen yn unig ac ni ddylid ei drin fel cyfle i ganiatáu diffyg manylion mewn cais. Dylai Ymgeiswyr wneud pob ymdrech i gwblhau manylion sy’n berthnasol i’r Datblygiad Arfaethedig yn derfynol cyn cyflwyno eu cais DCO. Yn wir, fel yr esboniwyd yn gynharach yn y Nodyn Cyngor hwn, byddai’n fuddiol i bawb sy’n gysylltiedig pe byddai’r Ymgeisydd yn darparu cymaint o wybodaeth â phosibl i lywio’r broses ymgynghori Cyn-ymgeisio.

5.3 Bydd mwy o fanylion o gymorth i’r Archwiliad ac yn lleihau’r posibilrwydd o oedi yn y broses archwilio neu her gyfreithiol lwyddiannus, er enghraifft ynglŷn â digonolrwydd y Datganiad Amgylcheddol. Mae’n hanfodol bod hyblygrwydd yn cael ei ddefnyddio’n gymesur fel nad oes amheuaeth bod y DCO (os caiff ei ganiatáu) ar gyfer prosiect penodol. Gallai methiant i wneud hyn arwain at her gyfreithiol lwyddiannus. Felly, mae sicrhau cysondeb yn yr ymagwedd at hyblygrwydd yn nogfennau’r cais yn hanfodol.

Y Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO)

5.4 Y DCO yw’r brif ddogfen ym mhroses Deddf Cynllunio 2008 yn yr ystyr y bydd (os caiff ei ganiatáu) yn darparu’r pwerau i weithredu’r Datblygiad Arfaethedig. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y DCO yn cael ei wneud fel offeryn statudol a bydd yn amlinellu’r pwerau a’r caniatâd ar gyfer y Datblygiad Arfaethedig. Gall DCO hefyd gynnwys darpariaethau sy’n awdurdodi Caffael yn Orfodol tir neu fuddiannau mewn tir neu hawliau dros dir sy’n destun cais DCO.

5.5 Gallai Ymgeisydd ddewis cynnwys paramedrau yn y DCO fel ffordd ymarferol o fynd i’r afael ag ansicrwydd a darparu’r hyblygrwydd sy’n angenrheidiol. Gellir sicrhau paramedrau yn y DCO mewn sawl ffordd; er enghraifft, trwy eu cynnwys o fewn prif bwerau, trwy eu cynnwys o fewn atodlenni sy’n manylu ar y Datblygiad Awdurdodedig neu drwy eu cynnwys o fewn Gofynion. Dylai Ymgeiswyr ofalu bod unrhyw hyblygrwydd a geisir yn eu DCO wedi cael ei asesu’n gyson ac yn gadarn yn eu Datganiad Amgylcheddol.

5.6 Bydd paramedrau perthnasol sy’n galluogi hyblygrwydd o fewn DCO yn benodol i’r prosiect a’r sector. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • uchafswm/ lleiafswm nifer y tyrbinau, neu uchder mwyaf blaen llafnau’r tyrbin, yn gysylltiedig â fferm wynt ar y môr;
  • uchder neu led mwyaf/ lleiaf adeiladau/ strwythurau sy’n gysylltiedig â chyfnewidfa rheilffordd cludo nwyddau strategol; neu
  • uchder stac mwyaf yn gysylltiedig â gorsaf bŵer sy’n rhedeg ar nwy.

5.7 Wrth bennu lefel dderbyniol o hyblygrwydd, dylai Ymgeiswyr ystyried y wybodaeth a geir mewn Datganiadau Polisi Cenedlaethol (NPS) perthnasol, yn arbennig:

  • NPS EN-3, sy’n datgan (paragraff 2.6.43) bod “gweithredwyr fferm wynt yn annhebygol o wybod pa dyrbinau yn union a fydd yn cael eu caffael ar gyfer y safle tan rywbryd ar ôl i’r caniatâd gael ei roi”;
  • NPS ar gyfer Rhwydweithiau Cenedlaethol, sy’n datgan (paragraff 2.45), o ran cyfnewidfeydd rheilffyrdd cludo nwyddau strategol, bod “angen rhywfaint o hyblygrwydd pan fydd cynlluniau’n cael eu datblygu, i ganiatáu i’r datblygiad ymateb i ofynion y farchnad wrth iddynt godi”; a’r
  • NPS ar gyfer Rhwydweithiau Cenedlaethol (paragraffau 4.18 i 4.19), sy’n esbonio “mewn rhai amgylchiadau, efallai na fydd yn bosibl i union fanylion pob agwedd ar y cynnig fod wedi cael eu cwblhau’n derfynol ar adeg y cais am ganiatâd datblygu”.

5.8 Bydd yr archwiliad, ymhlith pethau eraill, yn ystyried yr angen am yr hyblygrwydd a gynhwysir yn y DCO a derbynioldeb yr hyblygrwydd hwnnw, o ystyried yr NPS perthnasol (fel y bo’n gymwys). Dylai Ymgeiswyr ofalu’n arbennig na fyddai unrhyw hyblygrwydd a geisir (pe byddai’n cael ei ganiatáu) yn arwain at opsiynau sylweddol wahanol a allai gynrychioli Datblygiad Arfaethedig gwahanol i hwnnw a aseswyd yn y Datganiad Amgylcheddol.

5.9 Mae’r un egwyddorion yn berthnasol i gwmpas y pwerau a gynigir mewn unrhyw Drwydded Forol Dybiedig a atodir i DCO.

5.10 Wrth lunio dogfennau eraill y cais, fel Cynlluniau Tir neu’r Datganiad o Resymau, bydd angen i’r Ymgeisydd hefyd ystyried sut mae’r rheiny’n rhoi sylw i’r hyblygrwydd a geisir trwy’r DCO.

Dogfennau eraill y cais

5.11 O ystyried yr angen i ddefnyddio ymagwedd gyson, pan fydd DCO/ DA yn ceisio mynd i’r afael ag ansicrwydd trwy gynnwys rhywfaint o hyblygrwydd, bydd angen i Ymgeiswyr hefyd ystyried sut yr ymdrinnir â hyn yn y dogfennau eraill canlynol sy’n rhan o’r cais:

  • Gwybodaeth am Gaffael yn Orfodol:
    • Cynlluniau Tir
    • Datganiad o Resymau
  • Adroddiad Ymgynghori
  • Trwyddedau Amgylcheddol (os ydynt wedi’u cynnwys)

Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys popeth.

6. Casgliadau

6.1 Mae’r dull asesu Amlen Rochdale yn ffordd gydnabyddedig o asesu Datblygiad Arfaethedig sy’n cynnwys datblygiad AEA lle y ceir ansicrwydd ac y ceisir hyblygrwydd angenrheidiol.

6.2 Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn esbonio sut y gellir defnyddio’r dull asesu Amlen Rochdale yng nghyd-destun proses Deddf Cynllunio 2008 ac yn awgrymu ffyrdd o fynd i’r afael ag ansicrwydd a chaniatáu digon o hyblygrwydd yn y DCO i alluogi’r Datblygiad Arfaethedig i gael ei gyflawni. Mae angen mynd i’r afael â goblygiadau ceisio’r hyblygrwydd hwnnw ar adegau allweddol ac mewn dogfennau allweddol sy’n ofynnol ym mhroses Deddf Cynllunio 2008:

  • yn ystod y broses ymgynghori Cyn-ymgeisio;
  • yn y Datganiad Amgylcheddol; ac
  • yn y disgrifiad o’r prosiect yn nogfennau’r cais, yn enwedig y DCO, ond hefyd dogfennau eraill y cais a amlygwyd mewn mannau eraill yn y nodyn hwn.

6.3 Yr her i Ymgeiswyr yw sicrhau y cyflawnir y canlynol pan fydd ansicrwydd yn bodoli ac y ceisir hyblygrwydd:

  • cydymffurfiwyd â’r gofynion ymgynghori a chyhoeddusrwydd statudol o dan Ddeddf Cynllunio 2008 (adrannau 42, 47 a 48);
  • aseswyd a chyflwynwyd effeithiau amgylcheddol arwyddocaol tebygol y Datblygiad Arfaethedig yn briodol yn y Datganiad Amgylcheddol; a
  • disgrifiwyd y datblygiad mewn ffordd gyson sy’n mynd i’r afael â’r ansicrwydd a’r hyblygrwydd angenrheidiol ym mhob un o ddogfennau perthnasol y cais.