Costau

Pan fydd ceisiadau ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yn cael eu harchwilio, mae’n bosibl y gall rhai partïon fynd i gostau sylweddol pan fyddant yn cymryd rhan yn y broses. Mewn penderfyniadau cynllunio, y rheol gyffredinol yw y bydd pob parti’n talu eu costau eu hunain: nid oes rhaid i chi dalu costau parti arall os byddwch chi’n ‘colli’. Mae’r un peth yn berthnasol i archwiliadau i geisiadau ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol.

Mae canllawiau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn esbonio’n fanwl sut y bydd cais o’r fath yn cael ei drin ar gyfer dyfarnu costau, ac mae’n rhoi enghreifftiau o ymddygiad afresymol. Hefyd, mae’n rhoi enghreifftiau o arferion da a fydd yn helpu osgoi’r risg o bartïon eraill yn derbyn dyfarniad.