Nodyn Cyngor 11, Atodiad G – Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Mae’r atodiad hwn yn ategu Nodyn Cyngor 11 yr Arolygaeth Gynllunio: Gweithio gyda chyrff cyhoeddus yn y broses cynllunio seilwaith. Mae’r nodyn cyngor yn ymwneud â llawer o’r pwyntiau rhyngweithio generig sy’n berthnasol i’r Arolygiaeth Gynllunio a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (AGID). Mae’r atodiad hwn yn helpu ymgeiswyr i ddeall rôl benodol yr AGID mewn cynllunio seilwaith. Mae’n esbonio:

  • Beth yw’r AGID?
  • Beth mae’r AGID yn ei wneud?
  • Beth yw rôl yr AGID mewn cynllunio defnydd tir?
  • Beth yw rôl yr AGID mewn Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol?
  • Asesiadau Risg
  • Sut i gysylltu â’r AGID (wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu’r trefniadau yn ystod yr achosion o coronafirws (COVID-19))

Beth yw’r AGID?

Mae’r AGID yn gorff cyhoeddus anadrannol statudol â statws y Goron a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Beth mae’r AGID yn ei wneud?

Yr AGID yw rheoleiddiwr cenedlaethol Prydain Fawr ar gyfer iechyd a diogelwch yn y gweithle. Ein nod yw lleihau’r achosion o farwolaethau, anafiadau a salwch sy’n gysylltiedig â gwaith. Cyflawnwn hyn trwy ymchwil, darparu gwybodaeth a chyngor, hyrwyddo hyfforddiant, datblygu rheoliadau a chodau ymarfer, cynnal gweithgarwch caniatáu a thrwyddedu mewn diwydiannau lle ceir peryglon mawr, cynnal arolygiadau ac ymchwiliadau targedig, cymryd camau gorfodi a thrwy weithio gydag awdurdodau lleol ac eraill. Mae ein gwefan ar gael yn www.hse.gov.uk.

Beth yw rôl yr AGID mewn cynllunio defnydd tir?

Oherwydd adnabyddiaeth yr AGID ynghylch peryglon damweiniau mawr, mae’r llywodraeth wedi penodi’r AGID yn ymgynghorai statudol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban ar gyfer awdurdodau cynllunio yn achos ceisiadau am Ganiatâd Sylweddau Peryglus a mathau penodol o ddatblygiadau ger gweithfeydd lle ceir peryglon mawr a phiblinellau lle ceir peryglon damweiniau mawr. Rydym yn gosod ‘pellter ymgynghori’ (a elwir yn ardal perygl i ddiogelwch) o gwmpas safleoedd o’r fath.

Yn achos safleoedd ffrwydron lle cynhelir gweithgarwch gweithgynhyrchu a/neu storio, gall trwydded fodoli o dan Reoliadau Ffrwydron 2014 (fel y’i diwygiwyd). Gallai trwydded fodoli hefyd o dan Reoliadau Nwyddau Peryglus mewn Ardaloedd Harbwr 2016 lle cynhelir gweithgarwch llwytho/dadlwytho, trin a chario ffrwydron o fewn harbwr/ardal harbwr. O dan y ddwy gyfundrefn drwyddedu, mae gan y trwyddedai ddyletswydd i gynnal y pellteroedd gwahanu rhwng gwahanol ddosbarthiadau o leoedd gwarchodedig y mae’r awdurdod trwyddedu perthnasol wedi’u gosod yn y drwydded. Rhaid i’r trwyddedai lunio cynllun o’r pellteroedd gwahanu ac anfon copi ohono at yr awdurdod trwyddedu perthnasol ac at yr awdurdod cynllunio lleol.

Gellir gweld ein prosesau cynllunio defnydd tir ar wefan HSE.

Mae’r AGID wedi trawsnewid y ffordd y maent yn cyflawni’r gwasanaeth cynllunio defnydd tir, gan ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i ddatblygwyr, awdurdodau cynllunio ac eraill (e.e. asiantau, penseiri a thirfeddianwyr) gael mynediad i gyngor ffurfiol yr AGID. Mae Ap Gwe, yn galluogi awdurdodau cynllunio i gael cyngor statudol yr AGID yn uniongyrchol ac mae’n rhoi llwyfan ar-lein i ddatblygwyr ac eraill wneud ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw lain o dir.

Gellir cael cadarnhad ynghylch p’un ai yw Datblygiad a Gynigir o fewn parth ymgynghori ar gyfer safle lle ceir peryglon mawr neu biblinell lle ceir peryglon damweiniau mawr drwy’r Ap Gwe, ac mae’r gwasanaeth hwn am ddim. Hefyd, gellir darparu cyngor cyn ymgeisio i ddefnyddwyr busnes sy’n bwriadu datblygu safle.

Beth yw rôl yr AGID mewn Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol?

Mae’r AGID yn gorff ymgynghori at ddibenion Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017.

Mae Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017 (Atodlen 4) yn ei gwneud yn ofynnol (lle bo hynny’n berthnasol) i Ddatganiad Amgylcheddol gynnwys “Disgrifiad o effeithiau andwyol sylweddol disgwyliedig y datblygiad ar yr amgylchedd sy’n deillio o’r graddau y mae’r datblygiad yn agored i’r perygl o ddamweiniau difrifol a/neu drychinebau sy’n berthnasol i’r prosiect dan sylw”.

Pan fydd ymgeisydd yn gofyn am Farn Gwmpasu ar Asesu Effeithiau Amgylcheddol gan yr Arolygiaeth Gynllunio mewn perthynas â datblygiad Asesu Effeithiau Amgylcheddol a gynigir, ymgynghorir â’r AGID a byddant yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol i’w cynorthwyo i lunio barn gwmpasu gadarn a fydd yn cael ei defnyddio gan yr ymgeisydd i baratoi eu Datganiad Amgylcheddol.

Hefyd, mae’r AGID yn ymgynghorai statudol yn unol ag adran 42 Deddf Cynllunio 2008 (DC2008), gan ddarparu cyngor diogelwch y cyhoedd mewn perthynas â Phrosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol a gynigir.

Dwy brif ystyriaeth i’r AGID yw: a oes gan y Datblygiad a Gynigir y potensial i achosi damwain fawr (e.e. a oes angen caniatâd sylweddau peryglus ar y datblygiad, a ddaw’r datblygiad o fewn cwmpas y Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr http://www.hse.gov.uk/comah/ neu a allai’r datblygiad effeithio ar safle sy’n berthnasol i’r Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr); ac a yw’n bosibl y gallai’r Datblygiad a Gynigir achosi damweiniau mawr (e.e. a yw o fewn parth ymgynghori o gwmpas safle neu biblinell lle ceir peryglon mawr). Wrth baratoi ein cyngor statudol ar Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, yn ogystal â darparu ein safbwyntiau ar yr ystyriaethau uchod, byddwn hefyd yn tynnu sylw at y canlynol fel y bo’n briodol:

  • P’un ai yw’r Datblygiad a Gynigir ar safle sy’n bodoli lle ceir peryglon mawr, lle y gallai datblygiad newydd o’r fath arwain at ganlyniadau sylweddol o ran peryglon damweiniau mawr.
  • Yr angen i ystyried a ddylid gwneud cais i’r Awdurdod Sylweddau Peryglus am ganiatâd sylweddau peryglus newydd a/neu a oes angen amrywio caniatâd(au) sylweddau peryglus sy’n bodoli.
  • P’un ai oes cyfleuster gerllaw’r Datblygiad a Gynigir lle mae trwydded yn bodoli o dan Reoliadau Ffrwydron 2014 neu Reoliadau Nwyddau Peryglus mewn Ardaloedd Harbwr 2016

Mae gan yr ymgeisydd ddyletswydd i fynd i’r afael â’r holl ymatebion, gan gynnwys yr ymatebion gan ymgyngoreion statudol yn eu Hadroddiad Ymgynghori i’w gyflwyno gyda phob cais ar gyfer Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol. Pan nad yw hyn yn amlwg ac nid yw tîm Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yr AGID wedi cael unrhyw gyswllt uniongyrchol arall, byddwn yn cysylltu â’r ymgeisydd i fodloni ein hunain bod unrhyw faterion sy’n weddill wedi cael sylw. Bydd y rhyngweithio hwn yn egluro p’un ai oes angen Cynrychiolaeth Berthnasol.

Wedyn, defnyddiwn yr un meini prawf i adolygu’r holl ddogfennau perthnasol yn gyson o dan adran 56 DC2008. Fodd bynnag, bydd yr AGID yn codi Cynrychiolaeth Berthnasol dim ond os oes gennym bryderon sy’n parhau sydd angen craffu pellach arnynt yn ystod cyfnod Archwilio’r broses

Hefyd, mae’n bosibl y bydd yr AGID yn dewis cymryd rhan mewn Archwiliad lle ceir materion heb eu datrys, fel arfer o gwmpas safleoedd sydd wedi’u cyfyngu gan barthau ymgynghori cyfredol.

Asesiadau Risg

Os daw’r Datblygiad a Gynigir o fewn cwmpas y Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr, bydd angen i asesiad risg gynnwys gwybodaeth berthnasol ar raddfa a difrifoldeb peryglon o’r Datblygiad a Gynigir, sydd â’r potensial i effeithio ar boblogaethau lleol, a/neu’r gweithfeydd cyfagos lle ceir peryglon mawr. Mae canllawiau ar gael ar gwmpas y Rheoliadau a’r dyletswyddau a osodir ganddynt http://www.hse.gov.uk/pubns/books/l111.htm.

Os nad ddaw’r Datblygiad a Gynigir o fewn cwmpas y Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr, bydd y pryderon diogelwch sy’n gysylltiedig ag unrhyw weithgarwch gwaith yn cael sylw o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974 a’i darpariaethau statudol perthnasol. Yn benodol, dylai’r ystyriaeth hon gael ei chyflawni o dan reolaeth gofyniad o fewn y Rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith i baratoi asesiad risg addas a digonol http://www.hse.gov.uk/risk/index.htm ar gyfer y gweithgareddau arfaethedig, gan nodi peryglon a chymryd camau priodol i reoli a gofalu am y risgiau.

O dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch Prydain Fawr, nid oes gan yr AGID rôl mewn archwilio asesiadau risg neu berygl oni bai fod yr amgylchiadau wedi’u cynnwys mewn rheoliadau penodol (e.e. y sectorau cemegau ar y tir lle rhagorir ar lefelau trothwy ar gyfer sylweddau peryglus).

Yn gyffredinol, nid oes unrhyw ofynion i’r AGID archwilio asesiadau risg/perygl a baratowyd gan drwyddedigion o dan ddeddfwriaeth benodol ar ffrwydron. Fodd bynnag, gellir archwilio asesiadau risg/perygl fel rhan o gyfiawnhad technegol ar gyfer trwyddedu cyfleuster penodol fel rhan o’r broses drwyddedu. Fel arfer, gwneir hyn fesul achos, gan roi ystyriaeth ddyledus i’r materion technegol dan sylw lle na ellir cymhwyso’r meini prawf trwyddedu safonol yn llawn.

Nid oes unrhyw ofynion ychwanegol i unrhyw asesiadau risg a gyflwynir i’r awdurdod cynllunio perthnasol ac a gymeradwyir ganddynt gael eu hystyried gan yr AGID yn ogystal. Fodd bynnag, gallai fod yn fuddiol i ymgeiswyr gynnal asesiad risg cyn gynted ag y bo modd i fodloni eu hunain y bydd eu dyluniad a’u gweithrediad yn bodloni gofynion deddfwriaeth berthnasol ar iechyd a diogelwch wrth i ddyluniad y Datblygiad a Gynigir fynd rhagddo.

Sut i gysylltu â’r AGID (wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu’r trefniadau yn ystod yr achosion o coronafirws (COVID-19))

Ar gyfer NSIP, y cyfeiriad dynodedig a’r e-bost i ymgeiswyr a’r Arolygiaeth Gynllunio gysylltu â’r AGID yw:

[email protected]

Hyd nes y rhoddir rhybudd pellach, ni all yr AGID dderbyn gohebiaeth copi caled. Yn eithriadol, os nad yw’n bosibl e-bostio’r ohebiaeth, dylai’r unig gyfeiriad fod:

Ymgynghoriadau Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol
2.2 Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Redgrave Court
Merton Road
Bootle
Glannau Merswy
L20 7HS

Peidiwch ag anfon copïau caled yn ôl na chopïau dyblyg wedi’u cyfeirio at Brif Weithredwr AGID neu i unrhyw swyddfeydd rhanbarthol.

Sylwer nad ydym bellach yn gallu derbyn cyfryngau symudadwy (e.e. CDs, DVDs a gyriannau USB)

Bydd y rheolwr NSIP yn ymgynghori â chydweithwyr arbenigol fel y bo’n briodol a gall roi ymgeiswyr mewn cysylltiad uniongyrchol â’r arbenigwyr hyn o bryd i’w gilydd.

Mae manylion cyswllt eraill yn ymwneud â chynllunio defnydd tir (gan gynnwys yr gyfer yr App Gwe) yi’w gweld yn: http://www.hse.gov.uk/landuseplanning/contact.htm