Nodyn Cyngor 11, Atodiad A – Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyflwyniad

Mae Nodyn Cyngor 11 yr Arolygiaeth Gynllunio, sef ‘Gweithio gyda Chyrff Cyhoeddus yn y Broses Cynllunio Seilwaith’, yn ymdrin â’r ffordd gyffredinol y mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn ymwneud â chyrff cyhoeddus eraill yn y broses cynllunio seilwaith cenedlaethol, o ran rolau cyrff o’r fath fel ymgyngoreion ynglŷn â cheisiadau gorchymyn caniatâd datblygu arfaethedig a lle mae ganddynt rymoedd caniatáu cyfochrog.

Mae’r Atodiad hwn yn esbonio rôl Cyfoeth Naturiol Cymru wrth ystyried cynigion ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIPs), fel ymgynghorai ac o ran hawlenni, caniatadau a thrwyddedau y mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru y grym i’w rhoi ond a allai fod yn angenrheidiol yn ogystal â Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) ar gyfer NSIP.

Bydd yr Atodiad hwn yn cael ei adolygu fel y bo’r angen i sicrhau ei fod yn aros yn berthnasol ac yn gyfredol.

Diben Cyfoeth Naturiol Cymru

Amlinellir diben cyffredinol Cyfoeth Naturiol Cymru yn Erthygl 4 Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) ac fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae’n rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru:

  1. sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu rheoli’n gynaliadwy mewn perthynas â Chymru, a
  2. chymhwyso egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy,

wrth arfer ei swyddogaethau, i’r graddau bod hynny’n gyson â’u harfer yn briodol.

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru rwymedigaethau hefyd o dan Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i gynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru, ac wrth wneud hynny hybu cydnerthedd ecosystemau, i’r graddau bod hynny’n gyson ag arfer y swyddogaethau hynny’n briodol.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd yn amlinellu pum ffordd o weithio y mae angen i gyrff cyhoeddus (gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru) eu dilyn i gyflawni’r saith nod llesiant, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

Ffynonellau Gwybodaeth

Mae gwybodaeth am y data mynediad agored y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei ddal, gan gynnwys cyfyngiadau ar y defnydd ohono, ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, Deddf Diogelu Data 2018, Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2018 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Rôl Cyfoeth Naturiol Cymru o dan Ddeddf Cynllunio 2008

Mae rôl Cyfoeth Naturiol Cymru yn y broses NSIP yn deillio o Ddeddf Cynllunio 2008 (fel y’i diwygiwyd) ac is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf honno. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru:

  • yn ymgynghorai rhagnodedig; ac
  • yn awdurdod cydsynio / trwyddedu.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn barti statudol o ran archwilio ceisiadau ac mae ganddo rolau perthnasol eraill a ddisgrifir yn ddiweddarach, er enghraifft fel tirfeddiannwr.

Ystyrir y rolau hyn yn eu tro isod.

1. Ymgynghorai Rhagnodedig

Mae Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009 (1 SI 2009/2264) (fel y’u diwygiwyd) yn mynnu yr ymgynghorir â Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn ag unrhyw ddarpar geisiadau NSIP o fewn cwmpas daearyddol Cymru neu sydd fel arall yn debygol o effeithio ar dir yng Nghymru.

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru, fel pob ymgynghorai rhagnodedig, rôl bwysig i’w chwarae yn y broses cyn-ymgeisio. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog ymgeiswyr i gychwyn trafodaethau cyn-ymgeisio cyn cyflwyno cais cwmpasu i’r Arolygiaeth Gynllunio trwy ddefnyddio Gwasanaeth Cynghori Dewisol (DAS) Cyfoeth Naturiol Cymru.

Nid oes rhaid i ymgeiswyr ddefnyddio’r gwasanaeth hwn; fe’i cynigir fel opsiwn i ganiatáu mynediad at gyngor manylach yn gynnar yn ystod y broses NSIP. Mae’n bwysig ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru yn gynnar oherwydd bod hynny’n helpu i sicrhau dealltwriaeth eglur o’r materion amgylcheddol sy’n gysylltiedig â’r NSIP o’r cychwyn. Mae’n galluogi ymgeiswyr i roi sylw i effeithiau amgylcheddol NSIP, ystyried unrhyw newidiadau canlyniadol i’r dyluniad neu’r gosodiad wrth i fanylion y prosiect esblygu a sicrhau bod yr holl asesiadau perthnasol yn cael eu cynnal.

Mae gan yr ymgeisydd ddyletswydd statudol i ystyried unrhyw ymatebion ymgynghori y mae’n eu derbyn o dan adrannau 42, 47 a 48 Deddf 2008.

Mae ffigur 1 isod yn amlinellu’r gwasanaeth y gall Cyfoeth Naturiol Cymru ei gynnig yn ystod cam cyn-ymgeisio NSIPs.

Ffigur 1: Y gwasanaeth a gynigir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod y cam cyn-ymgeisio

Cyn-ymgeisio – Barn Ragarweiniol

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnig barn ragarweiniol am ddim i NSIPs. Yn rhan o hynny, bydd yn ceisio rhoi:

  • Safbwynt dangosol ynglŷn â’r cyfyngiadau a amlygir yn rhestr o bynciau ymgynghori Cyfoeth Naturiol Cymru y gallai cynllun a’i ddatblygiad cysylltiedig (os yw’n berthnasol) effeithio arnynt;
  • Amlinelliad lefel uchel o’r asesiadau a allai fod yn ofynnol i ategu’r cais NSIP.

Mae manylion sut i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn a chyfyngiadau’r cyngor a roddir ar y cam hwn ar gael yn adran 4 dogfen ganllaw Cyfoeth Naturiol Cymru ‘Canllaw i’n gwasanaeth cyn-ymgeisio ar gyfer cynllunio datblygiad’, sydd ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru:

https://naturalresources.wales/media/682371/guide-to-pre-app-service-final-english.pdf

Darperir y gwasanaeth hwn unwaith ar gyfer pob cynllun. Dylai unrhyw gyngor a roddir hefyd gael ei ystyried ochr yn ochr â’r arweiniad NSIP sydd ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ni fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ceisio dyblygu’r arweiniad hwn yn ei gyngor i chi yn ystod y cam hwn. Hefyd, gall y wybodaeth ganlynol ar wefan Adnoddau Naturiol Cymru gynorthwyo ymgeiswyr i baratoi dogfennau cais. Mae hyn yn cynnwys manylion ble i wirio’r cyfyngiadau amgylcheddol sy’n berthnasol i gais DCO.

Cyn-ymgeisio – Gwasanaeth Cynghori Dewisol (DAS)

Os oes angen cyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ychwanegol at hwnnw a ddarperir yn rhan o’r farn ragarweiniol, neu yn rhan o’n dyletswyddau statudol, gall ymgeiswyr ofyn amdano trwy DAS Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn codi ffi am ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.

Sefydlwyd y DAS i roi cyngor ynglŷn â NSIPs, gan gynnwys cyngor ar Asesiadau Effaith Amgylcheddol, Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd ac arolygon rhywogaethau. Gweler adran 5 dogfen ganllaw Cyfoeth Naturiol Cymru ‘Canllaw i’n gwasanaeth cyn-ymgeisio ar gyfer cynllunio datblygiad’ i gael mwy o wybodaeth am ein ffïoedd a’r hyn y gellir ei ddarparu yn rhan o’n gwasanaeth: https://naturalresources.wales/media/682371/guide-to-pre-app-service-final-english.pdf.

Cyn-ymgeisio – Adran 42

Mae’r cyngor a roddir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod ymgynghoriad Adran 42 (Deddf Cynllunio 2008) yn cael ei roi am ddim o dan ddyletswyddau a chyfrifoldebau statudol Cyfoeth Naturiol Cymru yn y system cynllunio datblygiad.

Yn ystod y cam cyn-ymgeisio statudol (adran 42), byddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn disgwyl gweld digon o fanylion i alluogi ymgynghoriad ystyrlon ac i Cyfoeth Naturiol Cymru ddarparu ymateb cynhwysfawr a all, yn ei dro, lywio dyluniad y datblygiad arfaethedig yn well wrth symud ymlaen. Lle bynnag y bo’n bosibl, dylai’r wybodaeth gynnwys yr asesiadau drafft neu gysgodol i fodloni gofynion Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (SI 2017/1012) (y Rheoliadau Cynefinoedd) a’r paramedrau senario ‘achos gwaethaf’ a manylion mesurau lliniaru a digolledu arfaethedig, fel y bo’n berthnasol.

Cyn-ymgeisio – Cyn cyflwyno

Cynghorir ymgeiswyr yn gryf i ddatblygu Datganiadau Tir Cyffredin gyda ni yn ystod y broses cyn-ymgeisio ac i’r rhain gael eu cytuno cyn i’r cam Archwilio ddechrau. I gyflawni hyn, mae’n hollbwysig bod yr ymgeisydd yn mynd i’r afael â materion a amlygwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn gynnar yn ystod trafodaethau cyn-ymgeisio mor gynhwysfawr â phosibl a bod hyn yn cael ei gyfleu’n systematig yn y dogfennau cais. Dylid cynnal llwybr archwilio eglur gan fod hyn yn hanfodol i helpu i ddrafftio Datganiadau Tir Cyffredin.

Anogwn ymgeiswyr yn gryf i ystyried cyflwyno ceisiadau cynllunio a cheisiadau am awdurdodiadau, trwyddedau a chydsyniadau yn brydlon, fel bod modd i unrhyw faterion sy’n codi gael eu hystyried ar yr un pryd â chyflwyno’r DCO. At y diben hwn, dylai ymgeiswyr gyfeirio at y tabl atodedig o awdurdodiadau, trwyddedau a chydsyniadau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol amdanynt:

https://cdn.cyfoethnaturiol.cymru/media/681698/eng-nrw-consents-table.pdf?mode=pad&rnd=131909171450000000

Cyfoeth Naturiol Cymru fel Corff Ymgynghori o dan Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gorff ymgynghori o dan Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017 (SI 2017/572) (y Rheoliadau AEA).

Cyfoeth Naturiol Cymru fel Corff Ymgynghori o dan y Rheoliadau Cynefinoedd

Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r ‘corff cadwraeth natur priodol’ fel y’i diffinnir gan y Rheoliadau Cynefinoedd mewn perthynas â Chymru.

Lle mae ceisiadau Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) yn arwain at oblygiadau i ‘safleoedd Ewropeaidd’ yng Nghymru a’i dyfroedd, mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol, sef yr ‘awdurdod cymwys’ o dan y Rheoliadau, ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru, sef y corff cadwraeth natur priodol, ac ystyried unrhyw gynrychiolaethau a wneir ganddo. Dylid ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd ynglŷn ag asesu prosiectau wedi’u lleoli y tu allan i Gymru ond a allai gael effeithiau arwyddocaol posibl ar safleoedd Ewropeaidd sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol yng Nghymru.

Cwmpas Daearyddol Cyfoeth Naturiol Cymru fel Ymgynghorai Rhagnodedig

Mae rôl Cyfoeth Naturiol Cymru fel ymgynghori rhagnodedig yn dibynnu ar y cyd-destun a bydd yn ymateb i ymgynghoriad fel a ganlyn:

  • Cynigion yn ardal ddaearol Cymru, gan gynnwys effeithiau trawsffiniol o ddatblygiadau y tu allan i Gymru;
  • Cynigion a allai effeithio ar yr ardal forol o fewn 12 môr-filltir o arfordir Cymru. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn cynghori ar effeithiau unrhyw ddatblygiad y tu allan i ddyfroedd Cymru neu ddyfroedd môr mawr Cymru a fyddai, pe byddai’n cael ei adeiladu, wedi’i leoli yn Lloegr/dyfroedd Lloegr a/neu Iwerddon/dyfroedd Iwerddon, ond a fyddai’n effeithio ar harddwch naturiol a/neu dreftadaeth naturiol ac amgylchedd Cymru. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru bellach yn penderfynu ar Drwyddedau Morol ar ran Llywodraeth Cymru, a dylid ymgynghori â Gwasanaeth Trwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd ynglŷn ag unrhyw gynigion y gallai fod angen trwydded forol arnynt;
  • O dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017, mae’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) yn gweithredu fel y Corff Cadwraeth Natur Statudol ar gyfer materion y tu hwnt i 12 môr-filltir. Ceir ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd i gael cyngor cadwraeth natur ynglŷn â chynigion y tu hwnt i 12 môr-filltir lle y gallai’r rhain effeithio ar harddwch naturiol a/neu dreftadaeth naturiol a’r amgylchedd o fewn 12 môr-filltir, a bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydlynu â’r JNCC lle bynnag y bo hynny’n briodol.
  • Mae’n bosibl y bydd amgylchiadau hefyd lle, yn dibynnu ar natur a lleoliad y cynnig, y bydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ddyletswydd ar y cyd â Natural England a/neu Asiantaeth yr Amgylchedd, yn bennaf o ran safleoedd Ewropeaidd trawsffiniol, gan gynnwys Aberoedd Dyfrdwy a Hafren, Afon Dyfrdwy ac Afon Gwy.

2. Awdurdod Cydsynio / Trwyddedu

Mae Adran 150 Deddf Cynllunio 2008 yn galluogi DCO i gynnwys darpariaeth sy’n dileu’r gofyniad i rai caniatadau gael eu rhoi ar wahân, ond dim ond os yw’r corff cydsynio yn caniatáu hyn (“caniatadau rhagnodedig”). Mae Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Partïon â Buddiant a Darpariaethau Amrywiol) 2015 (SI 2015/462) yn rhoi’r adran hon mewn grym. Mae Rhan 1 Atodlen 2 yn amlinellu caniatadau a ragnodir yng Nghymru a Lloegr; mae Rhan 2 Atodlen 2 yn amlygu caniatadau ychwanegol a ragnodir yng Nghymru yn unig. Oni bai y rhagnodir caniatâd penodol yn Rhan 1 neu Ran 2, gall DCO ddileu’r angen i’r caniatâd hwnnw gael ei roi gan y corff awdurdodi.

Os nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn cytuno â chynnwys caniatâd rhagnodedig mewn DCO, mae’n rhaid cyflwyno cais ar wahân am y caniatâd hwnnw i Cyfoeth Naturiol Cymru.

Trwyddedau Morol

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn pennu Trwyddedau Morol ar gyfer gweithgareddau trwyddedadwy tua’r môr o farc penllanw’r gorllanw hyd at y llinell ganol. Nid yw Adran 149A Deddf Cynllunio 2008 (sy’n galluogi DCO i gynnwys darpariaeth sy’n pennu trwydded forol) yn berthnasol i brosiectau sydd o fewn dyfroedd tiriogaethol Cymru (marciau penllanw’r gorllanw hyd at 12 môr-filltir).

Mae angen Trwydded Forol o dan Ran 4 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, cyn cynnal unrhyw ‘weithgaredd morol trwyddedadwy’ yn nyfroedd Cymru. Mae Adran 66 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 yn rhestru’r gweithgareddau trwyddedadwy (yn amodol ar rai eithriadau ac esemptiadau). Mae’n rhaid gwneud cais am drwydded i Cyfoeth Naturiol Cymru.

Wrth asesu cais am Drwydded Forol, mae’n rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru ystyried materion a amlinellir yn adrannau 69(1), 69(2) a 69(3) Deddf 2009. Mae’n rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd roi ystyriaeth lawn i ofynion deddfwriaethol ychwanegol, gan gynnwys:

  • Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007 (fel y’u diwygiwyd);
  • Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017; a’r
  • Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

Dylai ymgeiswyr weithio’n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru cyn cyflwyno eu cais am Drwydded Forol.

Anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu ceisiadau am Drwydded Forol ar yr un pryd â’u cais DCO, os oes modd, fel y gellir ystyried y ceisiadau’n gyfochrog gyda gwybodaeth gyson.

Nid yw swyddogaethau gorfodi o dan Ran 4 Deddf 2009 wedi cael eu dirprwyo i Cyfoeth Naturiol Cymru, felly Llywodraeth Cymru sy’n parhau i fod yn gyfrifol amdanynt.

Mwy o wybodaeth am drwyddedu morol yng Nghymru.

Trwyddedu Amgylcheddol

Mae Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016 (SI 2016/1154) (EPR 16) wedi’u cydgrynhoi yn mynnu bod gweithredwyr cyfleusterau penodol, a allai niweidio’r amgylchedd neu iechyd dynol, yn cael trwyddedau gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae arweiniad ar sut i wneud cais am drwydded amgylcheddol a chydymffurfio.

Ymgeiswyr sy’n gyfrifol am sefydlu p’un a oes angen trwydded amgylcheddol, yn ogystal â DCO, cyn y gellir adeiladu neu weithredu’r gwaith a ganiateir gan Orchymyn Caniatâd Datblygu. Mae’n drosedd gweithredu heb drwydded amgylcheddol neu’n groes i amodau sydd ynghlwm wrth drwydded amgylcheddol lle mae angen un.

Anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu ceisiadau am drwydded amgylcheddol ar yr un pryd â’u cais DCO i hwyluso gwneud penderfyniad yn amserol.

Bydd angen i adroddiad yr Awdurdod Archwilio i’r Ysgrifennydd Gwladol ar y cais DCO gynghori’r Ysgrifennydd Gwladol ynglŷn â’r tebygolrwydd o roi trwydded amgylcheddol ar gyfer y prosiect ar y ffurf y ceisir awdurdodiad DCO amdani.

Bydd ymgysylltu’n gynnar â Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â materion trwyddedu amgylcheddol yn helpu i amlygu materion trwyddedu cymhleth ac yn lleihau’r perygl o beidio â gweithredu’r prosiect arfaethedig. Dylai ymgynghori’n gynnar helpu i osgoi sefyllfa lle mae amodau a osodir o dan drwydded yn gwrthdaro â’r gwaith a awdurdodir gan y DCO (e.e. gallai fod angen stac gorsaf bŵer sy’n uwch na hwnnw a awdurdodir gan y DCO).

Cyfoeth Naturiol Cymru fel Awdurdod Cymwys o dan y Rheoliadau Cynefinoedd

Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r awdurdod cymwys o dan y Rheoliadau Cynefinoedd lle bynnag y mae’n gyfrifol am roi hawlen, caniatâd neu drwydded ar wahân i’r DCO. Bydd yn ymgynghori’n fewnol yn rhan o’r broses o benderfynu ar geisiadau am hawlenni, caniatadau neu drwyddedau.

Trwyddedu Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop o dan y Rheoliadau Cynefinoedd

Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd a Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017 (SI 2017/1013) yn trosi Cyfarwyddeb Cynefinoedd yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn gyfraith y Deyrnas Unedig (DU), ac yn cynnwys amddiffyniad ar gyfer nifer o blanhigion ac anifeiliaid, y cyfeirir atynt fel Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop (EPS). Mae’r rhain yn cynnwys yr holl rywogaethau ystlumod, dyfrgwn, pathewod, morfilod, dolffiniaid, llamidyddion, crwbanod, tegeirian y fign galchog a chrwynllys cynnar.

Mae manylion llawn ar gael yn:

https://naturalresources.wales/permits-and-permissions/species-licensing/?lang=en

Mae’r Rheoliadau’n gwahardd dal, anafu, lladd neu aflonyddu ar unrhyw EPS yn fwriadol. Bydd angen i ddatblygiadau sy’n debygol o aflonyddu ar y rhywogaethau hyn, eu hanafu neu eu lladd gael trwydded EPS gan Cyfoeth Naturiol Cymru (DEFRA yw’r corff trwyddedu EPS ar gyfer cynigion alltraeth y tu hwnt i’r llinell ganol). Bydd y drwydded hon yn ddarostyngedig i feini prawf penodol, gan gynnwys nad oes dewis amgen boddhaol ar gael, ac nad oes unrhyw niwed yn debygol i statws cadwraeth ffafriol (FCS) y rhywogaeth yn ei thiriogaeth naturiol.

Lle mae cynigion yn debygol o effeithio ar EPS, dylai’r datganiad amgylcheddol (ES) gynnwys manylion cynhwysfawr am y mesurau lliniaru a fydd yn cael eu rhoi ar waith i osgoi, lleihau neu wneud iawn am yr effeithiau er mwyn sicrhau bod FCS y boblogaeth/poblogaethau dan sylw yn cael ei gynnal yn ei thiriogaeth/eu tiriogaeth naturiol.

3. Rolau Eraill Cyfoeth Naturiol Cymru

Hysbysiadau SoDdGA

O ran ceisiadau a allai gael effeithiau arwyddocaol ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGAau), mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru ddyletswyddau o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) (y Ddeddf W&C).

O dan Adran 28I y Ddeddf W&C, mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol neu’r Gweinidog roi gwybod i Cyfoeth Naturiol Cymru cyn awdurdodi gweithrediadau sy’n debygol o niweidio nodweddion o ddiddordeb arbennig SoDdGA. Os yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol neu’r Gweinidog i ganiatáu 28 niwrnod cyn cyhoeddi penderfyniad, mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol neu’r Gweinidog ganiatáu i 28 niwrnod fynd heibio cyn penderfynu p’un ai rhoi caniatâd, ac mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol ystyried unrhyw gyngor a dderbynnir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys cyngor ar osod amodau ar y caniatâd.

Gall Cyfoeth Naturiol Cymru roi cyngor penodol ar effeithiau cynnig ar nodweddion o ddiddordeb arbennig unrhyw SoDdGAau yr effeithir arnynt pan fydd yr ymgeisydd yn darparu’r holl wybodaeth berthnasol. Gall hefyd roi cyngor ar unrhyw arolygon a allai fod yn angenrheidiol ac ar unrhyw ofynion eraill cysylltiedig. Dylai ymgeiswyr drafod mesurau lliniaru ar gyfer gwarchod y SoDdGA gyda Cyfoeth Naturiol Cymru cyn i’r cais gael ei gyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio. Dylai mesurau lliniaru gael eu sicrhau trwy ofynion DCO wedi’u geirio’n briodol y cytunwyd arnynt â Cyfoeth Naturiol Cymru.

Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr

Yng Nghymru, mae Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017 (y Rheoliadau) yn gweithredu (yn rhannol) y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD). Dylid ystyried goblygiadau’r WFD yn ystod cam cyn-ymgeisio’r DCO. Rhennir cyfrifoldebau rhwng yr ymgeisydd, Cyfoeth Naturiol Cymru (asiantaeth briodol o dan y Rheoliadau) a Chynulliad Cenedlaethol Cymru (yr awdurdod priodol). Mae’n rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru, wrth arfer ei swyddogaethau perthnasol, sicrhau y cydymffurfir ag amcanion amgylcheddol yr WFD. Dylai’r ymgeisydd ddarparu asesiad i’r Awdurdod Archwilio ynglŷn ag effeithiau posibl y gweithgaredd arfaethedig yn erbyn yr amcanion amgylcheddol. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu’r asesiad a gyflwynir ac yn rhoi ei gyngor i’r Awdurdod Archwilio.

Caiff datblygiad arfaethedig symud ymlaen dim ond os bodlonir y meini prawf o dan Erthygl 4(7). Mae hyn yn mynnu bod yr ymgeisydd yn cyflwyno gwybodaeth i ategu’r asesiad o dan Erthygl 4(7). Caiff Cyfoeth Naturiol Cymru adolygu cyflwyniad yr ymgeisydd a bydd yn cynghori’r Awdurdod Archwilio ar sail y wybodaeth sydd ar gael, os bodlonwyd y meini prawf ar gyfer rhanddirymiad o dan Erthygl 4(7) (heblaw am faterion sy’n ymwneud ag iechyd neu ddiogelwch dynol). Caiff Cyfoeth Naturiol Cymru ddarparu gwybodaeth ychwanegol, lle y bo’n berthnasol, i alluogi’r Awdurdod Archwilio i bennu p’un a fodlonwyd y meini prawf o dan Erthygl 4(7).

Rôl Ystad a Reolir a Rheolwr Tir / Tirfeddiannwr

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dirfeddiannwr ac mae asedau blaenorol Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru (heblaw am Ystad Goetir Llywodraeth Cymru) yn eiddo i Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yn ogystal, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol ac ardaloedd bioamrywiaeth sy’n cynnwys ardaloedd hamdden helaeth. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn rheoli amddiffynfeydd rhag llifogydd. Os oes unrhyw dir o’r fath wedi’i gynnwys o fewn ffin cais DCO, bydd angen rhoi gwybod i Cyfoeth Naturiol Cymru, fel tirfeddiannwr, a rhoi hysbysiad iddo yn rhan o’r cais DCO. Dylid gwneud hyn cyn i’r cais DCO gael ei gyflwyno, a dylid caniatáu o leiaf 28 niwrnod o ddyddiad yr hysbysiad i Cyfoeth Naturiol Cymru ymateb.

Datblygiad ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru

Mae ystad goetir Llywodraeth Cymru yn cynnwys tua 126,000 o hectarau ac mae’n cynrychioli oddeutu 40% o gyfanswm yr ardal goetir yng Nghymru. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli’r ystad hon (yn hytrach na pherchen arni) ar ran Llywodraeth Cymru. Fe’i rheolir at nifer o wahanol ddibenion (gan gynnwys gweithgareddau pren masnachol, cadwraeth natur, hamdden, cynhyrchu ynni adnewyddadwy, ac ati). Fel rheolwr tir, gall Cyfoeth Naturiol Cymru annog datblygiad economaidd yn uniongyrchol neu ar ran Llywodraeth Cymru gan ei bod o fewn grymoedd Llywodraeth Cymru i gyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud hynny.

Lle y cynigir datblygiad DCO ar ystad goetir Llywodraeth Cymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithredu fel asiant ar gyfer Llywodraeth Cymru a bydd yn gweithio gydag ymgeiswyr i sicrhau bod dyletswyddau statudol Cyfoeth Naturiol Cymru fel rheolwr tir/tirfeddiannwr yn cael eu hystyried yn y cais DCO. O ran prosiectau DCO ar yr ystad goetir, dylai ymgeiswyr gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru (rhoddir manylion pwyntiau cyswllt isod) cyn cyflwyno cais cwmpasu i’r Arolygiaeth Gynllunio er mwyn canfod a yw unrhyw dir sydd wedi’i gynnwys yn ardal y prosiect yn dir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Dylid caniatáu o leiaf 28 niwrnod ar gyfer ymateb. Hefyd, o ran ceisiadau DCO ar dir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, mae’n ofynnol i Cyfoeth Naturiol Cymru gael cymeradwyaeth Cabinet Llywodraeth Cymru i ryddhau unrhyw fuddiant yn y tir ar gyfer prosiectau sy’n werth dros £250,000.

Mae’n bwysig cysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru oherwydd bod ymwneud â rôl Cyfoeth Naturiol Cymru fel rheolwr tir a thirfeddiannwr yn gallu bod ar ffurf trafod Cytundebau Opsiwn â’r ymgeisydd i sicrhau bod y cais DCO yn ystyried unrhyw faterion perchenogaeth a rheoli tir.

Pwyntiau Cyswllt

Yn y lle cyntaf, dylai ymgeiswyr gysylltu â Chanolfan Gofal Cwsmeriaid Cyfoeth Naturiol Cymru:

Dylai ymgeiswyr gofio darparu manylion cyswllt fel y gall Cyfoeth Naturiol Cymru ateb yn brydlon.