Rôl yr Arolygiaeth Gynllunio

Ar 1 Ebrill 2012, o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011, daeth yr Arolygiaeth Gynllunio yn asiantaeth y llywodraeth sy’n gyfrifol am weithredu’r broses gynllunio ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol.

Mae Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yn brosiectau seilwaith mawr megis harbyrau, ffyrdd, gorsafoedd cynhyrchu pŵer (gan gynnwys ffermydd gwynt ar y môr) a llinellau trosglwyddo trydan, sy’n gofyn am fath o ganiatâd a elwir yn ‘ganiatâd datblygu’ o dan weithdrefnau a reolir gan Ddeddf Cynllunio 2008. Caiff caniatâd datblygu, lle y rhoddir, ei roi ar ffurf Gorchymyn Caniatâd Datblygu.

Mae Deddf Cynllunio 2008 yn gosod allan y trothwyon ar gyfer ystyried mathau penodol o brosiectau seilwaith mawr fel rhai o arwyddocâd cenedlaethol sydd angen caniatâd datblygu.

Yn Lloegr, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn archwilio ceisiadau am ganiatâd datblygu gan y sectorau ynni; trafnidiaeth; gwastraff; dŵr gwastraff; dŵr; a busnes a masnachol. Yng Nghymru, mae’n archwilio ceisiadau ar gyfer datblygiadau ynni a harbyrau, yn amodol ar y darpariaethau manwl yn Neddf Cynllunio 2008. Penderfynir materion eraill gan Weinidogion Cymru.

Rhaid i unrhyw un sy’n dymuno adeiladu Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol  wneud cais am ganiatâd i wneud hynny, yn gyntaf. Ar gyfer prosiect o’r fath, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn archwilio’r cais a bydd yn gwneud argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol perthnasol, a fydd yn gwneud penderfyniad i ganiatáu neu wrthod caniatâd datblygu.

Yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol yw’r gweinidog sy’n gyfrifol am faes busnes y llywodraeth sy’n berthnasol i’r cais. Er enghraifft, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch ceisiadau am Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol sy’n briffyrdd.