Nodyn Cyngor 8.6: Digwyddiadau archwilio rhithwir

Menyw yn gwylio digwyddiad rhithwir ar gyfrifiadur

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn darparu rhywfaint o’i waith achos Seilwaith Cenedlaethol trwy ddefnyddio digwyddiadau archwilio rhithwir. Mae’r Nodyn Cyngor hwn wedi’i fwriadu ar gyfer pobl a sefydliadau a fydd yn ymwneud ag archwilio cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu lle y bydd digwyddiadau rhithwir yn cael eu defnyddio.

Neidio i’r adran:

  1. Cyflwyniad
  2. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng digwyddiad ffisegol a digwyddiad rhithwir?
  3. Sut mae digwyddiadau rhithwir yn gweithio?
  4. Sut byddaf yn cael gwybod os bydd digwyddiad archwiliad yn cael ei gynnal yn rhithwir?
  5. Y Gynhadledd Drefniadau
  6. Cymryd rhan mewn digwyddiadau rhithwir
  7. Cyfarfodydd Rhagarweiniol Rhithwir
  8. Gwrandawiadau rhithwir – cyffredinol
  9. Yr ymagwedd at wahanol fathau o wrandawiadau rhithwir
  10. Arolygiadau Safle Rhithwir gyda Chwmni
  11. Atodiad A Canllaw i gymryd rhan yn nigwyddiadau rhithwir yr Arolygiaeth Gynllunio (gan gynnwys manylebau technegol)

1. Cyflwyniad

1.1 Mae Deddf Cynllunio 2008 yn sefydlu proses ymchwiliol, ac ysgrifenedig yn bennaf, ar gyfer archwilio ceisiadau am Orchmynion Caniatâd Datblygu (DCO). Mae’r holl dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynir i archwiliad yn cael ei chyhoeddi ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol, sy’n galluogi Partïon â Buddiant a’r cyhoedd i ddarllen y dystiolaeth ac ymateb iddi’n ysgrifenedig o fewn y terfynau amser a nodir yn yr amserlen. Mae’n rhaid i Gyfarfod Rhagarweiniol a rhai mathau o wrandawiadau gael eu cynnal yn unol â Deddf Cynllunio 2008. Mae’r broses lafar yn ychwanegol at y broses ysgrifenedig.


Mae cyflwyniadau ysgrifenedig i archwiliad yr un mor bwysig â chyflwyniadau llafar.


1.2 Yn yr un modd ag y cynhelir gwrandawiadau ffisegol neu ‘bersonol’, bydd gwrandawiadau rhithwir yn cael eu cynnal dim ond pan fydd yr Awdurdod Archwilio yn penderfynu bod angen iddo glywed tystiolaeth lafar er mwyn profi mater yn ddigonol (mewn Gwrandawiad yn ymwneud â Mater Penodol), neu pan fydd Parti â Buddiant yn arfer ei hawl i gael ei glywed (mewn Gwrandawiad Llawr Agored neu Wrandawiad Caffael Gorfodol).

1.3 Rhoddir gwybod i Bartïon â Buddiant o flaen llaw y bydd archwiliad neu ran o archwiliad yn cael ei gynnal/chynnal gan ddefnyddio digwyddiadau rhithwir. Bydd yr holl hysbysiadau’n cael eu cyhoeddi ar dudalen we’r prosiect ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol hefyd. Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn esbonio’r gweithdrefnau sy’n gysylltiedig â digwyddiadau rhithwir a sut i gymryd rhan.


Datblygodd yr Arolygiaeth Gynllunio ddigwyddiadau rhithwir yn y lle cyntaf wrth ymateb i gyngor y Llywodraeth ynglŷn â chyfyngu ar ledaenu’r Coronafeirws (COVID-19) trwy gadw pellter cymdeithasol ac osgoi teithio’n ddiangen. Fodd bynnag, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn ystyried sut y gallai digwyddiadau rhithwir gynnig buddion effeithlonrwydd ehangach, gan gynnwys arbed amser a chostau, i’r bobl a’r sefydliadau sy’n ymwneud â’r archwiliadau, y gwrandawiadau a’r ymchwiliadau a gynhelir gan yr Arolygiaeth. Ar y sail hon, gallai digwyddiadau rhithwir gael eu defnyddio’n ehangach; hyd yn oed pan na fydd cyfyngiadau’r Coronafeirws mewn grym mwyach.


1.4 Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn ychwanegu at y gyfres Nodyn Cyngor Wyth bresennol; yn enwedig Nodyn Cyngor 8.3 (y Cyfarfod Rhagarweiniol) a Nodyn Cyngor 8.5 (Gwrandawiadau ac Arolygiadau Safle). Mae’n addasu’r cyngor a ddarperir yn y dogfennau hyn i gynnwys digwyddiadau rhithwir.

2. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng digwyddiad ffisegol a digwyddiad rhithwir?

2.1 Gall archwiliadau o dan Ddeddf Cynllunio 2008 gynnwys y digwyddiadau canlynol a gynhelir yn gyhoeddus:

  • Cyfarfodydd Rhagarweiniol;
  • Gwrandawiadau yn ymwneud â Mater Penodol;
  • Gwrandawiadau Caffael Gorfodol; a
  • Gwrandawiadau Llawr Agored.

2.2 Lle mae’r digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal mewn lleoliad ffisegol fel swyddfa llywodraeth leol, neuadd gyhoeddus, canolfan gynadledda neu westy, mae Partïon â Buddiant yn mynychu’n bersonol i wneud cyflwyniadau llafar ac i wrando ar y cyflwyniadau llafar a wneir gan eraill ac ymateb iddynt. Gall aelodau’r cyhoedd fynychu i arsylwi. Rydym bob amser wedi cyhoeddi recordiad sain o’r digwyddiadau hyn fel cofnod o’r archwiliad.

2.3 Yn ogystal, gallai archwiliadau gynnwys y mathau canlynol o ddigwyddiadau sydd hefyd yn cynnwys rhyngweithio personol rhwng yr Awdurdod Archwilio, Tîm Achos yr Arolygiaeth Gynllunio a Phartïon â Buddiant:

  • Arolygiadau Safle gyda Chwmni (‘ymweliadau safle’); a
  • Chyfarfodydd eraill (Lle y’u cynhelir o dan a88(5) ac a95 Deddf Cynllunio 2008).

2.4 Cynhelir digwyddiadau rhithwir gan ddefnyddio systemau sy’n galluogi Partïon â Buddiant i gymryd rhan o leoliadau o bell, fel eu cartrefi neu eu swyddfeydd. Mae cyfranogwyr yn ymuno trwy glicio ar ddolen mewn gwahoddiad e-bost neu drwy ddeialu rhif ffôn. Cynhelir digwyddiadau rhithwir ar yr un sail, ac maen nhw’n ddarostyngedig i’r un rhai o ddarpariaethau Deddf Cynllunio 2008, â digwyddiadau ffisegol.

3. Sut mae digwyddiadau rhithwir yn gweithio?

3.1 Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn defnyddio Microsoft Teams i ddarparu mynediad at ddigwyddiadau rhithwir. Mae Microsoft Teams yn rhaglen ddigidol ddiogel ar gyfer cynnal cynadleddau a chyfarfodydd sy’n caniatáu i sawl unigolyn siarad a rhyngweithio â’i gilydd mewn fforwm rhithwir. Gellir cymryd rhan trwy fideo, lle y gall y mynychwyr weld a chlywed ei gilydd, neu drwy sain, lle y gallant glywed ei gilydd; neu gymysgedd o’r ddau. Gall mynychwyr ymuno o ddyfeisiau digidol fel cyfrifiaduron personol (PCs), gliniaduron, tabledi a ffonau clyfar; neu o ddyfeisiau analog, fel ffonau tirlinell a ffonau symudol nad ydynt yn ffonau clyfar.

3.2 Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr cyfrifiadurol na gallu gosod meddalwedd i ddefnyddio Microsoft Teams; y cyfan sydd ei angen yw agor y ddolen a anfonwyd atoch. Os nad oes gennych gyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar, gallwch ddefnyddio ffôn yn lle hynny trwy ddeialu’r rhif ffôn a anfonwyd atoch neu ddilyn y ddolen o gyfrifiadur cyhoeddus sydd â chysylltiad â’r rhyngrwyd (e.e. mewn bwth llyfrgell). Bydd y rhif ffôn yn alwad cyfradd genedlaethol (nid cyfradd uwch) ac fe allai fod wedi’i gynnwys yn eich pecyn ffôn.


Rhoddir cyngor manwl ar sut i ymuno â chyfarfod Microsoft Teams, gan gynnwys manylebau technegol, yng nghanllaw corfforaethol yr Arolygiaeth Gynllunio ar gymryd rhan mewn digwyddiad rhithwir.


4. Sut byddaf yn cael gwybod os bydd digwyddiad archwiliad yn cael ei gynnal yn rhithwir?

4.1 Bydd yr Awdurdod Archwilio yn nodi yn ei lythyr sy’n gwahodd Partïon â Buddiant i’r Cyfarfod Rhagarweiniol (a elwir yn llythyr Rheol 6) os yw’n bwriadu cynnal y Cyfarfod Rhagarweiniol fel digwyddiad rhithwir. Gallai’r llythyr Rheol 6 hefyd gynnwys manylion ynglŷn â bwriad yr Awdurdod Archwilio i gynnal unrhyw rai o wrandawiadau’r archwiliad fel digwyddiadau rhithwir. Gallai Partïon â Buddiant hefyd gael holiadur penodol i’r achos a/neu Gwestiynau Cyffredin penodol i’r achos sy’n ymdrin â’r weithdrefn rithwir.

4.2 Bydd unrhyw wrandawiadau y mae’r Awdurdod Archwilio wedi penderfynu y byddant yn symud ymlaen fel digwyddiadau rhithwir yn cael eu hysbysebu felly gan yr Ymgeisydd ac yn hysbysiad ffurfiol yr Awdurdod Archwilio o’r gwrandawiad(au) y mae’n rhaid ei roi i bob Parti â Buddiant o leiaf 21 diwrnod cyn i’r gwrandawiad rhithwir gael ei gynnal.

4.3 Bydd y llythyr Rheol 6 a/neu’r llythyr sy’n hysbysu am wrandawiad(au) yn nodi terfyn amser erbyn pryd y mae’n rhaid i Bartïon â Buddiant gadarnhau i’r Awdurdod Archwilio eu bod eisiau cymryd rhan yn y digwyddiad rhithwir. Gallai’r llythyrau hyn gynnwys dolen i wefan lle y gall unrhyw un weld ffrwd fyw o’r digwyddiad (gweler paragraffau 6.3 a 6.4 isod). Bydd Partïon â Buddiant a fydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad rhithwir yn cael neges e-bost ar wahân sy’n cynnwys gwybodaeth bwysig amdano, gan gynnwys dolen i ymuno â’r digwyddiad yn Microsoft Teams a rhif ffôn i’w ddeialu i ymuno â’r digwyddiad yn Microsoft Teams, os bydd angen. Bydd Partïon â Buddiant nad ydynt yn gallu cysylltu â’r rhyngrwyd yn cael cyfarwyddiadau ymuno dros y ffôn neu drwy lythyr.

Bydd llinell pwnc yr e-bost yn cynnwys enw’r cais ac yna’r geiriau ‘Joining Instructions’.

Bydd yr e-bost yn cynnwys atodiadau, gan gynnwys yr agenda ar gyfer y rhith-wrandawiad a gwybodaeth am ddiogelu data.

Bydd prif gorff yr e-bost yn dechrau gyda phennawd mewn print trwm sy’n darparu manylion yr ymgeisydd, y cais ac enw’r gwrandawiad.

Ym mhrif gorff yr e-bost bydd dyddiad y gwrandawiad, amser cychwyn y gynhadledd trefniadau ac amser cychwyn y gwrandawiad yn cael ei arddangos mewn testun trwm. Isod mae hyperddolen a fydd yn darparu mynediad i’r rhith-wrandawiad.

Os ydych chi’n ymuno â’r rhith-wrandawiad dros y ffôn, mae’r rhif ffôn a’r cyfarwyddiadau ymuno wedi’u nodi o dan yr hyperddolen. Mae’r rhain yn darparu manylion am sut i ddeialu i gyfarfod Timau Microsoft a sut i guddio’ch rhif ffôn rhag cyfranogwyr eraill.

Mae rhan olaf yr e-bost yn nodi: ‘Peidiwch â rhannu’r cyfarwyddiadau ymuno hyn, dim ond unigolion sydd wedi hysbysu’r Arolygiaeth Gynllunio o’u dymuniad i gymryd rhan yn unol ag Amserlen yr Arholiad sy’n gallu ymuno â’r gwrandawiad.’

5. Y Gynhadledd Drefniadau

5.1 Oni roddir gwybod i chi fel arall, bydd Tîm Achos yr Arolygiaeth Gynllunio yn cynnal Cynhadledd Drefniadau yn union cyn pob digwyddiad rhithwir. Y Tîm Achos yw’r tîm o swyddogion yr Arolygiaeth Gynllunio sy’n cynorthwyo’r Awdurdod Archwilio. Ni fydd yr Awdurdod Archwilio yn bresennol yn ystod y Gynhadledd Drefniadau. Os ydych yn mynychu’r Cyfarfod Rhagarweiniol neu’r gwrandawiad dilynol, mae’n rhaid i chi fynychu’r Gynhadledd Drefniadau i ddilysu eich cyfranogiad yn y cyfarfod. Mae’r Gynhadledd Drefniadau hefyd yn rhoi cyfle i’r Tîm Achos rannu gwybodaeth bwysig gyda’r cyfranogwyr am y weithdrefn ar gyfer y digwyddiad rhithwir ac ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan Bartïon â Buddiant.

5.2 Gellir ymuno â’r Gynhadledd Drefniadau trwy’r un ddolen â’r digwyddiad rhithwir ffurfiol. Pan fyddwch yn ymuno â’r digwyddiad yn Microsoft Teams, byddwch yn cyrraedd cyntedd rhithwir. Bydd y cyntedd yn arddangos neu’n chwarae neges yn datgan y bydd trefnydd y cyfarfod yn eich derbyn i’r cyfarfod yn fuan. Bydd y Tîm Achos yn derbyn mynychwyr i’r Gynhadledd Drefniadau un ar y tro. Gall hyn gymryd peth amser, felly byddwch yn amyneddgar a pheidiwch â cheisio ailgysylltu. Mae’r Tîm Achos yn gwybod eich bod yn aros a bydd yn eich derbyn cyn gynted ag y bo’n bosibl.

5.3 Bydd y Cyfarfod Rhagarweiniol rhithwir neu’r gwrandawiad rhithwir bob amser yn dechrau ar yr amser a nodwyd yn ffurfiol, ar ôl i’r Gynhadledd Drefniadau orffen. Gofynnir i fynychwyr aros wedi’u mewngofnodi yn y Gynhadledd Drefniadau, a fydd yn newid yn awtomatig i’r Cyfarfod Rhagarweiniol rhithwir neu’r gwrandawiad rhithwir pan fydd yr Awdurdod Archwilio yn ymuno â’r digwyddiad ar yr amser a nodwyd.

Y Gynhadledd Drefniadau – cliciwch i ehangu

6. Cymryd rhan mewn digwyddiadau rhithwir

6.1 Yn y rhan fwyaf o achosion, pan fydd nifer arferol o Bartïon â Buddiant yn ymwneud ag archwiliad, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn disgwyl y bydd Awdurdodau Archwilio yn gallu bodloni pob cais i gymryd rhan mewn Cyfarfod Rhagarweiniol rhithwir a/neu unrhyw wrandawiadau rhithwir a gynhelir.

6.2 Am amrywiaeth o resymau, nid oes modd cynnal digwyddiadau rhithwir llwyddiannus lle mae niferoedd mawr iawn o bobl yn cymryd rhan yn fyw ar yr un pryd. O ran archwiliadau sy’n cynnwys nifer fawr iawn o Bartïon â Buddiant, mae’n bosibl y bydd angen i Awdurdodau Archwilio gynnal digwyddiad rhithwir mewn cyfres o rannau neu sesiynau a/neu gallant gynnig ffrwd fyw o’r digwyddiad fel y gall Partïon â Buddiant wneud cyflwyniadau ysgrifenedig ynglŷn â’r dystiolaeth lafar maen nhw wedi’i chlywed.

6.3 Mae’r ymagwedd at gymryd rhan pan fydd niferoedd mawr iawn o Bartïon â Buddiant yn dymuno cymryd rhan mewn digwyddiad wedi’i hamlinellu yn Atodiad A y Nodyn Cyngor hwn. Bydd llythyr Rheol 6 yr Awdurdod Archwilio bob amser yn nodi p’un a fydd yr archwiliad yn defnyddio’r ymagwedd a amlinellir yn yr atodiad hwn.

Ffrydio’n fyw

6.4 Mae ‘ffrydio’n fyw’ yn cyfeirio at ddarlledu digwyddiad yn fyw dros y rhyngrwyd, gan alluogi pobl i wrando ar ddigwyddiad a/neu ei wylio ar y rhyngrwyd mewn amser real.

6.5 O ran pob archwiliad, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn gwneud penderfyniad ar sail achos unigol ynglŷn â ph’un a fydd digwyddiadau rhithwir yn cynnig ffrydio’n fyw. Gwneir y penderfyniad hwn gan ystyried amgylchiadau unigol yr achos, gan gynnwys:

  • nifer y Partïon â Buddiant cofrestredig a’r Partïon â Buddiant eraill;
  • graddfa’r cais a chymhlethdod y materion sy’n gysylltiedig ag ef; ac
  • anghenion Partïon â Buddiant.

Pwyntiau arfer da

6.6 Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi amlygu cyfres o bwyntiau arfer da i helpu’r rhai sy’n gysylltiedig ac i hwyluso digwyddiadau archwiliad rhithwir fel eu bod yn cael eu cynnal yn ddidrafferth.

PWYNTIAU ARFER DA Cyn y digwyddiad rhithwir…

  • Ymatebwch yn brydlon i unrhyw geisiadau am wybodaeth a wnaed gan yr Awdurdod Archwilio
  • Ymgyfarwyddwch â’r cynnwys perthnasol yn y Nodyn Cyngor hwn a darllenwch yr holl wybodaeth yn y gwahoddiad i’r digwyddiad rhithwir/yr hysbysiad ohono a anfonwyd atoch gan yr Awdurdod Archwilio
  • Os byddwch yn cael eich cynrychioli gan asiant neu gyfreithiwr yn y digwyddiad, ystyriwch a chynlluniwch sut y byddwch yn cyfathrebu’n gyfrinachol yn ystod y digwyddiad rhithwir
  • Gwnewch yn siŵr fod y ddyfais y byddwch yn ei defnyddio i ymuno â’r digwyddiad wedi’i gwefru’n llawn, neu wedi’i chysylltu â phŵer o’r prif gyflenwad, fel na fydd eich cysylltiad â’r digwyddiad yn cael ei dorri
  • Rhowch wybod i’r Tîm Achos erbyn y terfyn amser a nodwyd os hoffech gyfeirio at dystiolaeth ysgrifenedig yn Llyfrgell yr Archwiliad (gan gynnwys cynlluniau, delweddau ac ati) ar y sgrîn yn ystod y digwyddiad rhithwir
  • Os chi yw’r Ymgeisydd, rhowch fersiynau addas i’r we o unrhyw gynlluniau y bydd angen eu rhannu ar y sgrîn yn ystod y digwyddiad rhithwir i’r Tîm Achos
  • Mynychwch sesiwn profi ac ymgyfarwyddo (gweler paragraff 6.5, isod)
  • Os nad ydych yn deall rhywbeth, neu os oes arnoch angen cymorth i baratoi ar gyfer cymryd rhan mewn digwyddiad rhithwir, cysylltwch â’r Tîm Achos mewn da bryd cyn i’r digwyddiad rhithwir gael ei gynnal

PWYNTIAU ARFER DA Yn ystod y digwyddiad rhithwir…

  • Gwnewch yn siŵr eich bod mewn man tawel, preifat a dywedwch wrth bawb sy’n rhannu’r un man â chi i beidio â tharfu arnoch
  • Os byddwch yn defnyddio fideo, gosodwch eich camera fel eich bod yn edrych yn syth tuag ato fel y gellir gweld eich wyneb yn iawn – gwnewch yn siŵr fod yr olygfa y tu cefn i chi’n niwtral neu wedi’i chymylu (mae swyddogaeth cymylu cefndir ar gael yn Microsoft Teams)
  • Ymunwch â’r cyntedd Cynhadledd Drefniadau ychydig funudau cyn y trefnwyd iddi ddechrau
  • Pan fyddwch yn ymuno â’r cyntedd, arhoswch yn amyneddgar i’r Tîm Achos eich derbyn i’r Gynhadledd Drefniadau – gall hyn gymryd hyd at 15 munud weithiau
  • Yn ystod y Gynhadledd Drefniadau, gwrandewch ar y wybodaeth a roddir gan y Tîm Achos. Bydd y wybodaeth hon yn cynnwys cyngor pwysig ar weithdrefnau ac ymddygiad sy’n berthnasol yn ystod ac ar ôl y digwyddiad rhithwir
  • Yn ystod y Cyfarfod Rhagarweiniol neu’r gwrandawiad rhithwir, gwrandewch yn ofalus ar yr Awdurdod Archwilio. Bydd y digwyddiad rhithwir yn cael ei arwain gan yr aelod o’r Awdurdod Archwilio a enwebwyd yn gadeirydd. Bydd y cadeirydd yn cyflwyno’r cyfranogwyr, yn tywys y drafodaeth ac yn arwain cwestiynau
  • I osgoi sŵn cefndir a allai amharu ar y digwyddiad, tawelwch eich microffon pan nad ydych yn cyfrannu at y digwyddiad rhithwir. Os bydd sŵn cefndir a gynhyrchir gan eich microffon yn tarfu ar y digwyddiad, mae’n bosibl y bydd rhaid i’r Tîm Achos dawelu eich microffon heb geisio eich cydsyniad
  • Gwnewch yn siŵr fod copi o’r agenda ar gael i chi (naill ai copi argraffedig neu mewn tab/ffenestr ar wahân ar eich dyfais)
  • Bob tro y byddwch yn siarad, rhowch eich enw ac, os yw’n berthnasol, pwy rydych yn ei gynrychioli
  • Os byddwch yn colli eich cysylltiad â’r digwyddiad rhithwir, neu os na allwch gysylltu ag ef, gallwch naill ai ymuno â’r gynhadledd dros y ffôn gan ddefnyddio’r manylion yn y gwahoddiad neu gysylltu â’r Tîm Achos am gymorth

6.7 Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn gallu cynnig cyfle i’r rhai sy’n cymryd rhan mewn digwyddiad rhithwir fynychu sesiwn profi ac ymgyfarwyddo yn Microsoft Teams. Bydd y trefniadau ar gyfer y sesiynau hyn, a gynhelir y diwrnod cyn y digwyddiad rhithwir ffurfiol, yn cael eu rhoi i’r cyfranogwyr gan y Tîm Achos.

7. Cyfarfodydd Rhagarweiniol Rhithwir

7.1 Bydd Partïon â Buddiant yn cael gwybod am ddyddiad y Cyfarfod Rhagarweiniol a, lle y bo’n berthnasol, bwriad yr Awdurdod Archwilio i gynnal y Cyfarfod Rhagarweiniol yn rhithwir, yn y llythyr Rheol 6. Os bwriedir cynnal Cyfarfod Rhagarweiniol rhithwir, bydd yr atodiadau i’r llythyr Rheol 6 yn cynnwys gwybodaeth bwysig ynglŷn â:

  • Sut ac erbyn pryd y mae’n rhaid i Bartïon â Buddiant gadarnhau i’r Awdurdod Archwilio eu bod yn dymuno cymryd rhan yn y Cyfarfod Rhagarweiniol rhithwir;
  • sut i ymuno â’r Cyfarfod Rhagarweiniol rhithwir a chymryd rhan ynddo;
  • sut ac erbyn pryd y mae’n rhaid i Bartïon â Buddiant gadarnhau i’r Awdurdod Archwilio eu bod yn dymuno i Ddogfennau Archwiliad penodol gael eu harddangos ar y sgrîn yn ystod y Cyfarfod Rhagarweiniol rhithwir; a
  • sut y bydd y Cyfarfod Rhagarweiniol rhithwir yn cael ei reoli gan yr Arolygiaeth Gynllunio, gan gynnwys cwestiynau cyffredin ynglŷn â’r weithdrefn rithwir.

7.2 Bydd y llythyr Rheol 6 hefyd yn cynnwys agenda ar gyfer y Cyfarfod Rhagarweiniol rhithwir fel atodiad. Oherwydd bod y gallu i gymryd rhan mewn Cyfarfod Rhagarweiniol rhithwir yn dibynnu ar roi dolen neu rif ffôn ymuno i Bartïon â Buddiant unigol (rhoddir neges e-bost enghreifftiol yn Atodiad A), mae’n bwysig bod Partïon â Buddiant yn ystyried yr agenda, yn meddwl p’un a oes angen iddynt siarad a, lle y bo’n berthnasol, cadarnhau eu bod eisiau cymryd rhan erbyn y terfyn amser a nodir yn y llythyr Rheol 6. Ni fydd Partïon â Buddiant nad ydynt yn rhoi gwybod i’r Awdurdod Archwilio eu bod eisiau cymryd rhan erbyn y terfyn amser a osodwyd, ac felly nad ydynt yn cael cyfarwyddiadau ymuno trwy e-bost/ffôn/llythyr, yn gallu cymryd rhan yn y Cyfarfod Rhagarweiniol rhithwir.

7.3 Os nad yw Parti â Buddiant yn cadarnhau ei fod eisiau cymryd rhan yn y Cyfarfod Rhagarweiniol rhithwir, gall wylio fideo a gyhoeddir o’r digwyddiad (a/neu wylio ffrwd fyw o’r digwyddiad, os caiff ei darparu, gweler paragraffau 6.3 a 6.4 uchod) a gwneud cyflwyniadau ysgrifenedig i’r agenda, neu mewn ymateb i’r cyflwyniadau llafar a wnaed yn y Cyfarfod Rhagarweiniol rhithwir gan Bartïon eraill â Buddiant.

7.4 Fel arfer, mae Cyfarfodydd Rhagarweiniol ffisegol neu ‘bersonol’ yn cael eu hagor a’u cau ar yr un diwrnod. O ran Cyfarfodydd Rhagarweiniol rhithwir bach (e.e. sy’n denu 35 o gyfranogwyr neu lai), gallai’r Awdurdod Archwilio benderfynu y gellir cynnal y Cyfarfod Rhagarweiniol rhithwir mewn un sesiwn; gan agor a chau ar yr un diwrnod.

7.5 Lle y bo’r angen, gellir cynnal Cyfarfodydd Rhagarweiniol rhithwir mewn dwy ran, ar ddau ddiwrnod ar wahân, gyda chyfnod gohirio o sawl diwrnod rhyngddynt:

  1. Rhan 1: Clywir agenda’r Cyfarfod Rhagarweiniol rhithwir gyda chyfranogiad gan Bartïon â Buddiant a gadarnhaodd y byddent yn cymryd rhan. Gallai ffrwd fyw o’r digwyddiad gael ei chynnig mewn rhai achosion (gweler paragraffau 6.3 a 6.4 uchod) fel bod Partïon eraill â Buddiant a’r cyhoedd yn gallu gwylio’r digwyddiad mewn amser real. Yna, caiff y Cyfarfod Rhagarweiniol rhithwir ei ohirio tan ddyddiad Rhan 2.
  2. Gohirio: Yn ystod y cyfnod gohirio, cyhoeddir y recordiad fideo o’r Cyfarfod Rhagarweiniol rhithwir ar dudalen y prosiect ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Gall Partïon â Buddiant nad oeddent wedi mynychu Rhan 1, neu a wyliodd ffrwd fyw o’r digwyddiad, lle y’i darparwyd, wneud cyflwyniadau ysgrifenedig i’r agenda a/neu mewn ymateb i’r cynrychiolaethau llafar a wnaed yn y Cyfarfod Rhagarweiniol rhithwir gan Bartïon eraill â Buddiant. Os na dderbynnir unrhyw gyflwyniadau ysgrifenedig erbyn y terfyn amser a osodwyd, neu os yw’r Awdurdod Archwilio o’r farn nad oes angen archwilio cynnwys y cyflwyniadau ysgrifenedig ar lafar, gallai’r Awdurdod Archwilio benderfynu nad oes angen iddo ailgynnull y Cyfarfod Rhagarweiniol a gall gau’r cyfarfod yn ffurfiol trwy Benderfyniad Gweithdrefnol ffurfiol a anfonir at yr holl Bartïon â Buddiant.
  3. Rhan 2: Os bydd angen, caiff y Cyfarfod Rhagarweiniol rhithwir ei ailagor er mwyn i’r Awdurdod Archwilio gadarnhau sut yr ystyriodd unrhyw gyflwyniadau ysgrifenedig a dderbyniwyd. Gallai Partïon â Buddiant a wnaeth gyflwyniadau ysgrifenedig gael eu gwahodd i fynychu Rhan 2 i wneud cyflwyniadau llafar. Yna, caiff y Cyfarfod Rhagarweiniol rhithwir ei gau’n ffurfiol, a bydd yr Archwiliad o’r cais yn dechrau drannoeth.

Y Cyfarfod Rhagarweiniol rhithwir dwy-ran – cliciwch i ehangu


Mae cyflwyniadau ysgrifenedig i Gyfarfod Rhagarweiniol yr un pwys â chyflwyniadau llafar.


7.6 O ran Cyfarfodydd Rhagarweiniol mawr iawn y mae niferoedd mawr iawn o Bartïon â Buddiant yn gofyn am gymryd rhan ynddynt, gallai’r Awdurdod Archwilio benderfynu cynnal Rhan 1 o’r Cyfarfod Rhagarweiniol rhithwir mewn dwy sesiwn neu fwy, wedi’u gwahanu gan gyfnodau gohirio byr. Yn yr amgylchiadau hyn, gallai Awdurdodau Archwilio hefyd ofyn i Bartïon â Buddiant gyflwyno crynodebau ysgrifenedig o’r cynrychiolaethau llafar maen nhw’n bwriadu eu gwneud erbyn terfyn amser a osodwyd cyn y Cyfarfod Rhagarweiniol rhithwir.

8. Gwrandawiadau rhithwir – cyffredinol

8.1 Bydd Partïon â Buddiant wedi cael gwybod am fwriad yr Awdurdod Archwilio i gynnal gwrandawiadau rhithwir yn y llythyr Rheol 6. Yn ymarferol, gallai’r llythyr Rheol 6 hefyd gynnwys yr hysbysiad ffurfiol o wrandawiadau archwiliad cynnar (yn fuan ar ôl y Cyfarfod Rhagarweiniol) sydd i’w cynnal yn rhithwir. Bydd rôl gwrandawiadau rhithwir yn yr archwiliad yn cael ei chadarnhau yn y llythyr sy’n cadarnhau’r Penderfyniadau Gweithdrefnol a wnaed gan yr Awdurdod Archwilio yn y Cyfarfod Rhagarweiniol neu ar ei ôl (a elwir yn llythyr Rheol 8).

8.2 Ar wahân, bydd yr Awdurdod Archwilio yn rhoi gwybod i’r holl Bartïon â Buddiant am y gwrandawiad(au) rhithwir o leiaf 21 diwrnod cyn y trefnwyd i’r digwyddiad gael ei gynnal. Bydd yr hysbysiad hwn yn cynnwys agenda ddrafft ar gyfer y gwrandawiad(au) rhithwir, O ran Gwrandawiadau Llawr Agored a Gwrandawiadau Caffael Gorfodol Math 2 (gweler isod), gallai’r Awdurdod Archwilio benderfynu peidio â chyhoeddi agenda, a gwybodaeth bwysig ynglŷn â:

  • Sut ac erbyn pryd y mae’n rhaid i Bartïon â Buddiant gadarnhau i’r Awdurdod Archwilio eu bod yn dymuno cymryd rhan yn y gwrandawiad(au) rhithwir;
  • sut i ymuno â’r gwrandawiad(au) rhithwir a chymryd rhan ynddynt;
  • sut ac erbyn pryd y mae’n rhaid i Bartïon â Buddiant gadarnhau i’r Awdurdod Archwilio eu bod yn dymuno i Ddogfennau Archwiliad penodol gael eu harddangos ar y sgrîn yn ystod y gwrandawiad rhithwir; a.

8.3 Gan ddilyn yr un broses â Chyfarfodydd Rhagarweiniol, oherwydd bod y gallu i gymryd rhan mewn gwrandawiad rhithwir yn dibynnu ar roi dolen neu rif ffôn ymuno i Bartïon â Buddiant unigol, mae’n bwysig bod Partïon â Buddiant yn ystyried yr agenda, yn meddwl p’un a oes angen iddynt siarad a, lle y bo’n berthnasol, cadarnhau eu bod eisiau cymryd rhan erbyn y terfyn amser a nodir yn y llythyr Rheol 6 a/neu’r llythyr sy’n rhoi gwybod am y gwrandawiad. Ni fydd Partïon â Buddiant nad ydynt yn rhoi gwybod i’r Awdurdod Archwilio eu bod eisiau cymryd rhan mewn gwrandawiad erbyn y terfyn amser a osodwyd, ac felly nad ydynt yn cael cyfarwyddiadau ymuno trwy e-bost/ffôn/llythyr, yn gallu cymryd rhan yn y gwrandawiad rhithwir.

8.4 Yn yr un modd ag ar gyfer gwrandawiad ffisegol, bydd agenda derfynol ar gyfer pob gwrandawiad archwiliad yn cael ei chyhoeddi ar dudalen we’r prosiect ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol oddeutu wythnos cyn y trefnwyd i’r gwrandawiad rhithwir gael ei gynnal.

8.5 Os nad yw Parti â Buddiant yn cadarnhau ei fod eisiau cymryd rhan yn y gwrandawiad rhithwir, gall wylio fideo a gyhoeddir o’r digwyddiad a/neu wylio ffrwd fyw o’r digwyddiad, os caiff ei darparu (gweler paragraffau 6.3 a 6.4 uchod) a gwneud cyflwyniadau ysgrifenedig i’r agenda, neu mewn ymateb i’r cyflwyniadau llafar a wnaed yn y gwrandawiad rhithwir gan Bartïon eraill â Buddiant.


Mae cyflwyniadau ysgrifenedig i wrandawiad arholiad yr un pwys â chyflwyniadau llafar.


9. Yr ymagwedd at wahanol fathau o wrandawiadau rhithwir 

9.1 Mae tri math o wrandawiad y gellir eu cynnal mewn archwiliad o dan Ddeddf Cynllunio 2008:

  • Gwrandawiadau yn ymwneud â Mater Penodol;
  • Gwrandawiadau Llawr Agored; a
  • Gwrandawiadau Caffael Gorfodol.

9.2 Mae pob math o wrandawiad yn ddarostyngedig i ddarpariaethau cyfreithiol gwahanol, ac felly gweithdrefnau gwahanol. Mae hyn yn golygu pan fydd mathau gwahanol o wrandawiadau’n cael eu cynnal yn rhithwir, gallai’r ymagwedd fod yn wahanol ym mhob achos.

Gwrandawiadau Rhithwir yn ymwneud â Mater Penodol

9.3 Cynhelir Gwrandawiad yn ymwneud â Mater Penodol pan fydd yr Awdurdod Archwilio o’r farn bod angen iddo glywed tystiolaeth lafar i’w gynorthwyo i archwilio mater penodol e.e. sŵn, ansawdd aer, y DCO drafft.

9.4 Mae’r broses a ddilynir gan Bartïon â Buddiant wrth benderfynu p’un a ydynt eisiau gofyn am gael cymryd rhan mewn Gwrandawiad rhithwir yn ymwneud â Mater Penodol yr un fath â’r ymagwedd gyffredinol a ddisgrifir yn adran 8, uchod. Fe’i crynhoir yn Ffig. 4, isod.

Y Gwrandawiad rhithwir yn ymwneud â Mater Penodol – cliciwch i ehangu

Gwrandawiadau Llawr Agored Rhithwir

9.5 Cynhelir Gwrandawiad Llawr Agored pan fydd un neu fwy o Bartïon â Buddiant yn gofyn am gael eu clywed mewn perthynas ag unrhyw un o’r materion a godwyd ganddynt mewn Cynrychiolaeth Berthnasol neu Gynrychiolaeth Ysgrifenedig flaenorol.

9.6 O ran Gwrandawiad Llawr Agored rhithwir, gallai’r Awdurdod Archwilio naill ai:

  • Ddefnyddio ymagwedd lle mae’r holl gyfranogwyr yn mynychu ar yr un pryd a siarad yn eu trefn (pan fydd y niferoedd yn caniatáu hynny); neu
  • ddefnyddio system wedi’i seilio ar apwyntiadau (tueddir gwneud hyn pan fydd nifer fawr iawn o Bartïon â Buddiant eisiau cymryd rhan).

Y Gwrandawiad Llawr Agored rhithwir (nad yw wedi’i seilio ar apwyntiadau) – cliciwch i ehangu

9.7 Yn y system wedi’i seilio ar apwyntiadau, rhoddir amser i Bartïon â Buddiant pryd y cânt eu gwahodd i ymuno â’r digwyddiad rhithwir a siarad. Bydd yr amser a roddwyd i’r Parti â Buddiant yn cael ei gynnwys yn y neges e-bost/llythyr sy’n cynnwys y cyfarwyddiadau ymuno.

9.8 Oni hysbysir fel arall, bydd Cynhadledd Drefniadau yn cael ei chynnal o hyd ar gyfer Gwrandawiadau Llawr Agored a gynhelir o dan y system wedi’i seilio ar apwyntiadau (gweler adran 5, uchod). Ar ddiwedd y Gynhadledd Drefniadau ar gyfer Gwrandawiad Llawr Agored wedi’i seilio ar apwyntiadau, caiff cyfranogwyr naill ai:

  • Aros wedi’u mewngofnodi ac arsylwi’r Gwrandawiad Llawr Agored hyd nes y daw’r amser a roddwyd iddynt i siarad; neu
  • allgofnodi o’r Gynhadledd Drefniadau ac ailymuno yn ystod y Gwrandawiad Llawr Agored oddeutu pum munud cyn yr amser a roddwyd iddynt i siarad.

9.9 Ar ddiwedd y Gwrandawiad Llawr Agored rhithwir, gallai’r Awdurdod Archwilio roi cyfle i’r Ymgeisydd, a fydd wedi bod yn arsylwi, yn ôl pob tebyg, ymateb i’r cynrychiolaethau llafar a wnaed gan y Partïon â Buddiant. Dyma’r un drefn a ddilynir mewn Gwrandawiadau Llawr Agored ffisegol hefyd.

Gwrandawiadau Caffael Gorfodol Rhithwir

9.10 Cynhelir Gwrandawiad Caffael Gorfodol naill ai:

  • Pan fydd yr Awdurdod Archwilio yn penderfynu bod angen iddo glywed tystiolaeth lafar ynglŷn ag achos yr Ymgeisydd dros Gaffael Gorfodol a phwerau cysylltiedig; a/neu
  • pan fydd un neu fwy o Unigolion yr Effeithir Arnynt yn gofyn am gael eu clywed ar faterion yn ymwneud â’r cais Caffael Gorfodol neu Feddiannu Dros Dro sy’n berthnasol i’w tir a/neu eu buddiannau mewn tir.

9.11 Ar y sail hon, mae dau fath o Wrandawiad Caffael Gorfodol rhithwir y gellid eu cynnal:

  • Gwrandawiad Caffael Gorfodol rhithwir Math 1 – I glywed cynrychiolaethau llafar gan yr Ymgeisydd a Phartïon â Buddiant eraill perthnasol ynglŷn ag achos trosfwaol yr Ymgeisydd dros Gaffael Gorfodol a phwerau cysylltiedig.
  • Gwrandawiad Caffael Gorfodol rhithwir Math 2 – I glywed cynrychiolaethau llafar gan Unigolion yr Effeithir Arnynt ynglŷn ag effeithiau’r Datblygiad Arfaethedig ar eu tir a’u buddiannau.

9.12     Gallai Awdurdodau Archwilio benderfynu cynnal Gwrandawiad Caffael Gorfodol sy’n cyfuno elfennau o’r ddau fath uchod.

9.13   Mae Parti â Buddiant yn ymwneud â Gwrandawiad Caffael Gorfodol rhithwir Math 1 gan ddilyn yr un broses ag ar gyfer Gwrandawiad rhithwir yn ymwneud â Mater Penodol.

Y Gwrandawiad Caffael Gorfodol rhithwir Math 1 – cliciwch i ehangu

9.14 O ran Gwrandawiad Caffael Gorfodol rhithwir Math 2, gallai’r Awdurdod Archwilio naill ai:

  • Ddefnyddio’r un weithdrefn ag ar gyfer Gwrandawiad Caffael Gorfodol rhithwir Math 1, a amlinellir uchod; neu
  • ddefnyddio system wedi’i seilio ar apwyntiadau.

9.15 Oni hysbysir fel arall, bydd Cynhadledd Drefniadau yn cael ei chynnal o hyd ar gyfer y ddau fath o Wrandawiad Caffael Gorfodol rhithwir (gweler adran 5, uchod). Ar ddiwedd y Gynhadledd Drefniadau ar gyfer Gwrandawiad Caffael Gorfodol rhithwir Math 2, sy’n wrandawiad wedi’i seilio ar apwyntiadau er mwyn i Unigolion yr Effeithir Arnynt roi tystiolaeth ar amserau penodol, caiff Unigolion yr Effeithir Arnynt naill ai:

  • Aros wedi’u mewngofnodi ac arsylwi’r Gwrandawiad Caffael Gorfodol rhithwir Math 2 hyd nes y daw’r amser a roddwyd iddynt i siarad; neu
  • allgofnodi o’r Gynhadledd Drefniadau ac ailymuno yn ystod y Gwrandawiad Caffael Gorfodol rhithwir Math 2 oddeutu pum munud cyn yr amser a roddwyd iddynt i siarad.

9.15 Ar ddiwedd y Gwrandawiad Caffael Agored rhithwir Math 2, gallai’r Awdurdod Archwilio roi cyfle i’r Ymgeisydd, a fydd wedi bod yn arsylwi, yn ôl pob tebyg, ymateb i’r cynrychiolaethau llafar a wnaed gan yr Unigolion yr Effeithir Arnynt.

Y Gwrandawiad Caffael Gorfodol rhithwir Math 2 (nad yw wedi’i seilio ar apwyntiadau) – cliciwch i ehangu

Y Gwrandawiad Caffael Gorfodol rhithwir Math 2 (wedi’i seilio ar apwyntiadau) – cliciwch i ehangu

10. Arolygiadau Safle Rhithwir gyda Chwmni

10.1 O dan Ddeddf Cynllunio 2008, gall Awdurdodau Archwilio gynnal dau fath o arolygiad safle:

  • Arolygiad Safle gyda Chwmni: Fe’i cynhelir gan yr Awdurdod Archwilio yn ystod archwiliad gyda Phartïon â Buddiant, gan gynnwys yr Ymgeisydd, yn bresennol pan fydd yr Awdurdod Archwilio o’r farn bod hynny’n angenrheidiol.
  • Arolygiad Safle Di-gwmni: Fe’i cynhelir gan yr Awdurdod Archwilio ar ei ben ei hun, heb Bartïon â Buddiant yn bresennol, ar unrhyw adeg ar ôl i’r Awdurdod Archwilio gael ei benodi ar y cam Cyn-Archwiliad o’r broses.

10.2 Pan fydd yr Awdurdod Archwilio wedi penderfynu bod angen Arolygiad Safle ffisegol gyda Chwmni, rhoddir y dyddiad, yr amser a’r man cyfarfod i’r holl Bartïon â Buddiant, y mae’n rhaid iddynt ymateb i’r Arolygiaeth Gynllunio i gadarnhau p’un a ydynt eisiau mynychu erbyn y terfyn amser a nodir yn yr hysbysiad. Am resymau ymarferol, mae’n bosibl y bydd angen i’r Arolygiaeth Gynllunio gyfyngu ar nifer y mynychwyr. Cyhoeddir amserlen teithio ar gyfer yr arolygiad ar dudalen we’r prosiect ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol, ynghyd â gwybodaeth bwysig am y logisteg ar gyfer y diwrnod. Diben Arolygiadau Safle gyda Chwmni yw er mwyn i Bartïon â Buddiant dynnu sylw at nodweddion ffisegol y safle a’r amgylchoedd; ni chânt drafod Rhinweddau’r Datblygiad Arfaethedig gyda’r Awdurdod Archwilio; dylai’r cyflwyniadau hynny gael eu gwneud yn ysgrifenedig.

10.3 Cynhelir Arolygiadau Safle Di-gwmni ffisegol ar adeg sy’n gyfleus i’r Awdurdod Archwilio ac ni roddir gwybod i Bartïon â Buddiant amdanynt o flaen llaw. Gallai nodyn ynglŷn â’r Arolygiad Safle Di-gwmni gael ei gyhoeddi ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r arolygiad gael ei gynnal.

10.4 Yn yr un modd â digwyddiadau rhithwir eraill, bydd Arolygiad Safle rhithwir gyda Chwmni yn cael ei gynnal gan ddefnyddio Microsoft Teams ac fe allai ddefnyddio amryw fathau o gyfryngau gweledol, gan gynnwys:

  • Cynlluniau, lluniadau, ffotogyfosodiadau/ffotograffau a fideos/ffilmiau drôn a gynhwyswyd yn nogfennau’r cais (neu atodiadau i ddogfennau’r cais);
  • cynlluniau, lluniadau, ffotogyfosodiadau/ffotograffau a fiedos/ffilmiau drôn a gynhwyswyd yn y dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd a Phartïon eraill â Buddiant;
  • ffilm fideo fyw; a
  • Google Earth.

10.5   Rhaglen fapio ar-lein (neu ‘geoborwr’) yw Google Earth sy’n defnyddio delweddau lloeren, o’r awyr, 3D, a Golwg Stryd i gynrychioli lleoliadau daearyddol. Gellir ei lawrlwytho’n rhad ac am ddim. Er bod Google Earth yn offeryn gwerthfawr sydd o gymorth wrth gael pen ffordd a gosod tystiolaeth archwiliad ffurfiol yn ei chyd-destun, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn cydnabod bod amryw gyfyngiadau’n berthnasol i’r delweddau a ddarperir yn Google Earth, gan gynnwys:

  • Oed y ddelwedd (nid yw’r delweddau mewn amser real, felly ni fyddwch yn gweld newidiadau diweddar neu fyw);
  • cwmpas Google Earth (nid yw rhai ardaloedd wedi’u mapio);
  • ansawdd y ddelwedd (e.e. cydraniad/afluniad); acanhawster barnu graddfa/pellter ac ati ar sgrîn dau ddimensiwn.

Nid tystiolaeth archwiliad yw’r delweddau a gynrychiolir yn Google Earth yn ystod Arolygiad Safle rhithwir gyda Chwmni, ac ni all yr Awdurdod Archwilio na Phartïon eraill â Buddiant ddibynnu arnynt.


10.6 Bydd yr Awdurdod Archwilio yn cysylltu â Phartïon â Buddiant cyn Arolygiad Safle rhithwir gyda Chwmni a drefnwyd i ofyn iddynt roi’r wybodaeth ganlynol erbyn terfyn amser penodol:

  • P’un a ydynt eisiau cymryd rhan yn y digwyddiad;
  • enwebu lleoliadau i’w cynnwys yn yr amserlen teithio; ac
  • amlygu unrhyw dystiolaeth yn Llyfrgell yr Archwiliad yr ydynt eisiau i’r Awdurdod Archwilio gyfeirio ati cyn neu yn ystod yr Arolygiad Safle rhithwir gyda Chwmni.

10.7    Bydd yr amserlen teithio ar gyfer yr Arolygiad Safle rhithwir gyda Chwmni yn cael ei chyhoeddi ar dudalen we’r prosiect ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol cyn y digwyddiad. Bydd yn cynnwys rhestr o dystiolaeth Llyfrgell yr Archwiliad y caiff yr Awdurdod Archwilio a Phartïon â Buddiant gyfeirio ati yn ystod y digwyddiad rhithwir.

10.8    Mae’n rhaid bod Partïon â Buddiant sy’n mynychu Arolygiad Safle rhithwir gyda Chwmni yn gallu ymuno â’r digwyddiad rhithwir ar gyfrifiadur personol, gliniadur neu ddyfais symudol. Oherwydd y ddibyniaeth gynhenid ar ddelweddau gweledol, ni fydd Partïon â Buddiant yn gallu cymryd rhan mewn Arolygiad Safle rhithwir gyda Chwmni gan ddefnyddio ffôn analog. Bydd Partïon â Buddiant nad oes ganddynt fynediad at gyfrifiadur personol, gliniadur neu ddyfais symudol gartref yn gallu cymryd rhan mewn Arolygiad Safle rhithwir gyda Chwmni o hyd drwy ddefnyddio cyfrifiadur cyhoeddus sydd â chysylltiad â’r rhyngrwyd (e.e. mewn bwth llyfrgell).

10.9    Os na allwch fynychu Arolygiad Safle rhithwir gyda Chwmni, gallwch wneud cyflwyniadau ysgrifenedig ynglŷn â’r amserlen teithio gyhoeddedig i’r Awdurdod Archwilio cyn neu ar ôl y digwyddiad.

Sut mae Arolygiad Safle rhithwir gyda Chwmni yn gweithio – cliciwch i ehangu

11. Atodiad A: Cyfranogiad mewn archwiliadau mawr iawn

11.1 Mae Deddf Cynllunio 2008 yn sefydlu proses ysgrifenedig yn bennaf. Mae pwyntiau a wneir yn ysgrifenedig yr un mor bwysig â’r rhai a wneir ar lafar, ac mae’r Cynrychiolaethau Perthnasol yn ffurfio’r sail i strwythur yr Archwiliad, felly mae’n bwysig bod pawb yn cyflwyno eu prif bwyntiau’n ysgrifenedig ar yr adeg hon. Mae’r Cyfarfod Rhagarweiniol, a’r cyflwyniadau ysgrifenedig a wneir iddo, yn helpu’r Awdurdod Archwilio i fireinio strwythur y broses.

11.2 Pan fydd llawer o ddiddordeb ac i sicrhau bod capasiti’r system rithwir yn cael ei reoli’n effeithiol, bydd yr Awdurdod Archwilio yn rhoi ystyriaeth ofalus i’r ffordd orau o drefnu cyfranogiad byw, gan gynnwys lle y bydd ffrydio’n fyw yn cynyddu cyfranogiad ar gyfer y partïon hynny nad ydynt eisiau siarad yn y sesiwn. Bydd y recordiad o’r sesiwn ar gael hefyd ar gyfer unrhyw gyflwyniadau ysgrifenedig dilynol cyn i’r Archwiliad ddechrau.

11.3 Bydd yr holl Bartïon â Buddiant sydd eisiau siarad mewn Gwrandawiad Llawr Agored ac Unigolion yr Effeithir Arnynt sydd eisiau siarad mewn Gwrandawiad Caffael Gorfodol yn cael y cyfle i wneud hynny. Mae pob cais arall yn ôl disgresiwn yr Awdurdod Archwilio. Pan fydd nifer fawr iawn o Bartïon â Buddiant eisiau siarad, mae’n bosibl y bydd angen i’r Awdurdod Archwilio roi terfyn amser i bob siaradwr. Mae’r egwyddorion hyn yr un fath p’un a yw digwyddiad Archwiliad yn ffisegol neu’n rhithwir.

11.4 Pan fydd materion a chwestiynau’n gymhleth, yn cael eu herio neu angen eu hegluro, bydd yr Archwiliad bob amser yn darparu lle ar gyfer cynrychiolaethau byw ac i ofyn ei gwestiynau ei hun os bydd angen, yn ogystal â’r rhai y bydd yn eu rhoi’n ysgrifenedig. Fodd bynnag, nid oes angen ailadrodd cynrychiolaeth a wnaed yn ysgrifenedig neu amlygu cytundeb neu anghytundeb ag eraill mewn gwrandawiad. Mae’n well gwneud cyfraniadau o’r fath yn ysgrifenedig.

11.5 Mae’n rhaid i Bartïon â Buddiant (gan gynnwys Unigolion yr Effeithir Arnynt) sydd eisiau siarad roi gwybod i’r Tîm Achos erbyn y terfyn amser perthnasol a nodwyd fel y gellir ystyried eu dymuniad pan fydd yr Awdurdod Archwilio yn cynllunio’r agenda ar gyfer y digwyddiad. Yna byddant yn cael dolen cyfranogiad byw ar gyfer ymuno â’r digwyddiad rhithwir.

11.6 Gallai Partïon â Buddiant (gan gynnwys Unigolion yr Effeithir Arnynt) nad ydynt eisiau siarad, neu aelodau’r cyhoedd, dderbyn dolen i ffrwd fyw i weld neu wrando ar y trafodion, a bydd recordiad sain/fideo o’r digwyddiad yn cael ei gyhoeddi’n fuan ar ôl i bob sesiwn ddod i ben.

Sut mae digwyddiadau’n cael eu trefnu ar gyfer archwiliadau mawr iawn

Mathau o gyfranogiad mewn digwyddiad archwiliad rhithwir mawr iawn – cliciwch i ehangu

11.7 O ran digwyddiadau rhithwir mawr iawn, bydd yr Awdurdod Archwilio yn gofyn i Bartïon â Buddiant gadarnhau p’un a ydynt eisiau bod yn Gyfranogwr Craidd, yn Gyfranogwr Achlysurol neu’n Arsylwr yn y llythyr sy’n eu gwahodd i’r Cyfarfod Rhagarweiniol rhithwir (a elwir yn llythyr Rheol 6) neu’r llythyr sy’n rhoi gwybod iddynt am wrandawiad rhithwir. Os yw Parti â Buddiant eisiau cymryd rhan mewn digwyddiad, mae’n rhaid iddo gadarnhau i’r Awdurdod Archwilio p’un a yw eisiau bod yn Gyfranogwr Craidd, yn Gyfranogwr Achlysurol neu’n Arsylwr erbyn terfyn amser a nodwyd. Bydd y broses gadarnhau hon yn cael ei hailadrodd ar gyfer pob digwyddiad archwiliad rhithwir a drefnir. Mae hyn yn golygu y caiff Parti â Buddiant sy’n Gyfranogwr Achlysurol yn y Cyfarfod Rhagarweiniol rhithwir fod yn Gyfranogwr Craidd mewn gwrandawiadau archwiliad rhithwir diweddarach.


Oherwydd bod hawl statudol i gael eu clywed mewn gwrandawiadau o’r fath, bydd Partïon â Buddiant sy’n gofyn am gael siarad mewn Gwrandawiad Llawr Agored neu Wrandawiad Caffael Gorfodol rhithwir Math 2 yn cael statws Cyfranogwr Craidd bob amser.


11.8 Bydd yr Awdurdod Archwilio bob amser yn ceisio sicrhau bod pob Parti â Buddiant yn cael cyfranogi yn y modd y mae’n dymuno. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau lle mae terfynau technegol ar nifer y cyfranogwyr sy’n cymryd rhan mewn trafodaethau, perfformiad rhwydweithiau a’r dechnoleg sydd ar gael, efallai na fydd yr Awdurdod Archwilio yn gallu caniatáu pob cais. Efallai y bydd Partïon â Buddiant sy’n gofyn am gael cymryd rhan fel Cyfranogwyr Craidd gan ddefnyddio dolen fideo neu sain o gyfrifiadur neu dabled yn cael cais i gysylltu dros y ffôn yn lle hynny. Efallai y bydd Partïon â Buddiant sy’n gofyn am gael cymryd rhan fel Cyfranogwyr Craidd yn cael cais i gymryd rhan fel Cyfranogwyr Achlysurol.

11.9 Cyn gwneud Penderfyniadau Gweithdrefnol ynglŷn â mathau o gyfranogiad, bydd yr Awdurdod Archwilio bob amser yn ystyried:

  • Cyngor ar allu a pherfformiad technegol Microsoft Teams a’r rhwydwaith, gan ystyried nifer y Partïon â Buddiant sy’n gysylltiedig ac unrhyw faterion eraill sy’n debygol o effeithio ar berfformiad y rhwydwaith;
  • unrhyw gais penodol gan Barti â Buddiant unigol, ynghyd â chymhlethdod y materion a godwyd gan ei Gynrychiolaeth Berthnasol a’r angen i drafod ac ymchwilio i’r materion hyn neu gyflwyniadau ysgrifenedig eraill; ac
  • amgylchiadau unigol y Parti â Buddiant.

Nid yw’r math o gyfranogiad sydd gan Barti â Buddiant mewn digwyddiad archwiliad rhithwir yn effeithio ar ei hawliau statudol fel Parti â Buddiant.