Nodyn cyngor 1: Adroddiadau ar yr Effaith Leol

Ebrill 2012 Fersiwn 2

Yr Arolygiaeth Gynllunio a phrosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol

Sefydlwyd y broses gynllunio ar gyfer delio â chynigion ar gyfer prosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol (NSIP) gan Ddeddf Cynllunio 2008 (‘Deddf 2008’). Mae proses Deddf 2008, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Lleoliaeth 2011, yn cynnwys archwiliad o brif gynigion yn ymwneud ag ynni, trafnidiaeth, dŵr, gwastraff a dŵr gwastraff, ac mae’n cynnwys cyfleoedd i bobl gael dweud eu dweud cyn i benderfyniad gael ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol.

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn cyflawni swyddogaethau penodol yn ymwneud â chynllunio seilwaith cenedlaethol ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol.

Statws y Nodyn Cyngor hwn

Mae profiad hyd yma wedi dangos bod datblygwyr ac eraill yn croesawu cyngor manwl ar nifer o agweddau ar broses Deddf 2008. Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn rhan o gyfres o nodiadau cyngor felly a ddarperir gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Nid oes unrhyw statws statudol iddo.

Mae’r fersiwn hon o’r Nodyn Cyngor hwn yn disodli pob fersiwn flaenorol.

Jump to section:

  1. Cyflwyniad
  2. Pwysigrwydd yr LIR
  3. Amserlen
  4. Cynnwys yr LIR

1. Cyflwyniad

1.1 Fel rhan o broses Deddf 2008, gwahoddir yr awdurdodau lleol perthnasol i gyflwyno adroddiad ar yr effaith leol (LIR), yn rhoi manylion effaith debygol y datblygiad arfaethedig ar ardal yr awdurdod.

1.2 Bwriad y nodyn cyngor hwn yw rhoi cymorth i awdurdodau lleol o ran ffurf a chynnwys LIR.

1.3 Mae rôl bwysig iawn gan awdurdodau lleol ym mhroses Deddf 2008. Fe’u hanogir i drafod a gweithio drwy’r materion a godwyd gan gynigion yr NSIP gyda darpar ymgeiswyr ymhell cyn cyflwyno’r cais, ac i ymgysylltu ag ymgeiswyr wrth baratoi datganiadau tir cyffredin. Ceir cyfeiriad pellach at ddatganiadau tir cyffredin yng nghyhoeddiad yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol “Planning Act 2008: guidance for the examination of applications for development consent for nationally significant infrastructure projects”, a gellir ei weld drwy fynd i’r porth Seilwaith Cenedlaethol.

1.4 Bydd awdurdodau lleol yn ymwneud hefyd ag ystyried y datganiad ymgynghoriad cymunedol, gan roi sylwadau ar ansawdd proses ymgynghori’r ymgeisydd, llunio LIR a gwneud eu sylwadau eu hunain ar y cais.

1.5 Mae’r Nodyn Cyngor hwn wedi’i drefnu o dan y penawdau canlynol:

  • Pwysigrwydd yr LIR
  • Yr amserlen
  • Cynnwys yr LIR

Pwysigrwydd yr LIR

2.1 Pan fydd cais wedi’i dderbyn i’w archwilio, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol yn penodi ‘Awdurdod Archwilio’ I archwilio’r cais. Daw’r Awdurdod Archwilio o’r Arolygiaeth Gynllunio, a bydd naill ai’n Arolygydd unigol neu’n banel o dri neu fwy o Arolygwyr.

2.2 Fel rhan o’r broses archwilio, bydd yr Awdurdod Archwilio yn gwahodd awdurdodau perthnasol i gyflwyno LIRau erbyn terfyn amser penodol.

Ar ôl cwblhau’r archwiliad, bydd yr Awdurdod Archwilio yn gwneud argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol, a fydd yn penderfynu p’un ai i wneud gorchymyn caniatâd datblygu yn awdurdodi’r prosiect.

2.3 Wrth wneud penderfyniad, rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol ystyried unrhyw LIRau a gyflwynir erbyn y terfyn amser.

2.4 Anogir awdurdodau lleol yn gryf felly i lunio’r LIRau pan gânt eu gwahodd i wneud hynny.

2.5 Dylai awdurdodau lleol perthnasol roi blaenoriaeth i baratoi eu LIR ni waeth a yw’r awdurdod lleol o’r farn y byddai’r datblygiad yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar eu hardal. Bydd yr awdurdod lleol yn gallu cyflwyno sylw ysgrifenedig ar wahân os yw’n dymuno mynegi barn benodol ar b’un a ddylid caniatáu’r cais.

2.6 Lle mae nifer o awdurdodau lleol perthnasol yn gysylltiedig, gallai awdurdodau lleol ystyried cyflwyno LIR ar y cyd.

Amserlen

3.1 Caiff proses Deddf 2008 ei chrynhoi yn ‘Proses Deddf 2008’, sydd hefyd yn dangos y terfynau amser statudol y mae’n rhaid i’r Awdurdod Archwilio weithredu’n unol â nhw. Mae ‘Rôl yr awdurdod lleol’ 2 yn dangos sut mae Adroddiadau ar yr Effaith Leol yn cydfynd â’r amserlen honno.

3.2 Yr Awdurdod Archwilio sy’n gyfrifol am bennu’r weithdrefn ar gyfer yr archwiliad a’r terfyn amser ar gyfer yr LIR, gan ystyried cymhlethdod y cais a materion perthnasol eraill, a chan ystyried yr amserlen gyffredinol yn Neddf 2008 ar gyfer archwilio’r cais.

3.3 Bydd yr Awdurdod Archwilio yn cynnal cyfarfod rhagarweiniol cyn dechrau’r archwiliad. Ar ôl y cyfarfod rhagarweiniol, bydd yr Awdurdod Archwilio yn cylchredeg nodyn gweithdrefnol i bob parti â buddiant yn ymwneud â’r manylion a’r amserlenni mewn perthynas ag agweddau amrywiol ar yr archwiliad. Bydd hwn yn pennu’r terfyn amser ar gyfer cyflwyno LIRau, a’r cyfnod pan fydd gan bartïon â buddiant y cyfle i wneud sylwadau ysgrifenedig arnynt.

3.4 Ond ni ddylai awdurdodau lleol aros i’r terfyn amser gael ei bennu ar ôl y cyfarfod rhagarweiniol er mwyn dechrau gwaith ar yr LIR. Mae hyn oherwydd bod y cyfarfod rhagarweiniol yn debygol o gael ei gynnal ychydig wythnosau ar ôl i’r cais gael ei dderbyn, ond bydd angen yr LIR yn gynnar yn y cyfnod archwilio. Mae’r terfyn amser a roddir ar gyfer cyflwyno’r LIR yn dilyn y cyfarfod rhagarweiniol yn debygol o fod yn fyr.

3.5 Felly, anogir awdurdodau lleol yn gryf i ddefnyddio’r cyfnod cyn gwneud cais i ddechrau eu gwerthusiad eu hunain o effeithiau lleol y cynnig. Dylai awdurdodau ddechrau llunio’r LIR wedyn cyn gynted ag y caiff y cais ei dderbyn yn ffurfiol gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’u gwahodd i gyflwyno LIR. Bydd y dull hwn yn galluogi cynhyrchu’r LIR o fewn y terfynau amser.

3.6 Yn ymarferol, bydd awdurdodau lleol yn gwybod am y cais gryn amser cyn iddo gael ei gyflwyno, drwy’r ymgynghoriad cyn gwneud cais a gynhaliwyd gan yr ymgeisydd. Yn y cam hwn, dylent sicrhau eu bod yn casglu digon o wybodaeth am y cynllun i’w galluogi i ddechrau Gwaith ar eu gwerthusiad o’r cynnig. Bydd hyn yn cynnwys y fantais ychwanegol o’u galluogi i ganolbwyntio’u hymatebion i ymgynghoriad yr ymgeisydd pan fydd y cais yn cael ei baratoi.

3.7 Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod unrhyw brosesau awdurdodi mewnol angenrheidiol ar waith i fodloni’r amserlen. Mater i awdurdodau lleol yn llwyr yw penderfynu p’un a oes angen cymeradwyaeth gan Aelodau i LIR, ac ar ba ffurf.

Proses Deddf 2008

  1. Cyn gwneud cais: Dim terfyn amserMae’r ymgeisydd yn datblygu’r cynnig ac yn cynnal ymgynghoriad cyn gwneud cais.
  2. Derbyn: Hyd at 28 diwrnod28 diwrnod gan yr Ysgrifennydd Gwladol i adolygu’r cais a phenderfynu p’un ai derbyn neu wrthod.
  3. Cyn yr archwiliad: 2-3 misAwdurdod Archwilio yn cael ei benodi i asesu materion a chynnal cyfarfod rhagarweiniol. Cyfarfod rhagarweiniol – penderfyniad gweithdrefnol ynglŷn â sut mae’r cais i’w archwilio.
  4. Archwiliad: Hyd at 6 mis6 mis i gynnal archwiliad.
  5. Adroddiad ac argymhelliad: Hyd at 3 mis3 mis i gyhoeddi adroddiad ac argymhelliad.
  6. Penderfyniad: Hyd at 3 mis3 mis i gyhoeddi penderfyniad a datganiad o’r rhesymau.
  7. Ar ôl y penderfyniad: 6 wythnos Cyfnod o 6 wythnos ar gyfer her gyfreithiol.

Rôl yr awdurdod lleol

  1. Cyn gwneud cais: Dim terfyn Ymgynghorir ag awdurdodau lleol ar gyfer ardal y safle gan yr ymgeisydd ar y datganiad ymgynghoriad lleol a chyfranogant mewn trafodaethau cyn gwneud cais. Mae awdurdodau lleol yn dechrau gwerthuso effeithiau lleol y cynllun arfaethedig.
  2. Derbyn: Hyd at 28 diwrnod Mae Awdurdodau lleol ac awdurdodau lleol cyfagos yn gwneud sylwadau i’r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch digonolrwydd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan yr ymgeisydd.
  3. Cyn yr archwiliad: 2-3 mis Yr Awdurdod Archwilio yn cynnig terfyn amser drafft ar gyfer cyflwyno Adroddiadau ar yr Effaith Leol (LIRau).
  4. Archwiliad: Hyd at 6 mis Yr Awdurdod Archwilio yn gwahodd ac yn pennu terfyn amser ar gyfer cyflwyno LIRau. Awdurdodau Leol yn cyflwyno LIR o fewn y terfyn amser penodedig, ac yn gwneud sylwadau eraill os dymunant.

    Cynnwys yr LIR

    4.1 Caiff yr unig ddiffiniad o LIR ei roi yn a60(3) y Ddeddf fel ‘adroddiad ysgrifenedig sy’n rhoi manylion am effaith debygol y datblygiad arfaethedig ar ardal yr awdurdod (neu unrhyw ran o’r ardal honno’. Mater i’r awdurdod lleol dan sylw yw cynnwys yr LIR, ar yr amod ei fod yn cydweddu â’r diffiniad statudol hwn.

    4.2 Mae testunau a allai fod o gymorth yn yr adroddiad yn cynnwys:

        • Disgrifiad o’r safle a’r amgylchoedd/lleoliad
        • Manylion y cynnig
        • Hanes cynllunio perthnasol ac unrhyw faterion yn codi
        • Polisïau cynllun datblygu perthnasol, arweiniad neu ddogfennau cynllunio atodol, briffiau datblygu neu uwchgynlluniau wedi’u cymeradwyo ac arfarniad o’u perthynas â’r cynigion a’u perthnasedd iddynt.
        • Cynigion datblygu perthnasol sydd dan ystyriaeth neu y rhoddwyd caniatâd iddynt, ond heb eu cychwyn na’u cwblhau
        • Nodweddion yr ardal leol fel priodweddau trefol a thirwedd, a safleoedd cadwraeth natur
        • Patrymau a materion trafnidiaeth leol
        • Cyfyngiadau’r safle a’r ardal
        • Safleoedd dynodedig
        • Materion economaidd-gymdeithasol a chymunedol
        • Ystyriaeth o effaith yr erthyglau a’r gofynion arfaethedig yn y Gorchymyn drafft (fel y cynllun) mewn perthynas â phob un o’r uchod
        • Rhwymedigaethau’r Gorchymyn Caniatâd Datblygu a’u heffaith ar ardal yr awdurdod lleol.

    4.3 Nid yw’r rhestr hon yn gyflawn na’n rhagnodol. Dylai awdurdodau lleol gwmpasu unrhyw destunau yr ystyrir eu bod yn berthnasol i effaith y datblygiad arfaethedig ar eu hardal.

    4.4 Dylai awdurdodau lleol bennu’n glir beth yw eu cylch gorchwyl ar gyfer yr LIR. Dylent ddefnyddio’r LIR fel dull o adrodd yn llawn ac yn gadarn ar eu gwybodaeth a’u tystiolaeth leol yn ymwneud â materion lleol i’r Awdurdod Archwilio.

    4.5 Nid oes angen i’r LIR ailadrodd yr AEA. Ac nid oes angen ailadrodd unrhyw asesiad sydd eisoes wedi’i gyflwyno mewn perthynas â’r safle, fel y rhai mewn Datganiadau Polisi Cenedlaethol. Yn hytrach, dylai ddefnyddio gwybodaeth a phrofiad lleol presennol. Gall enghreifftiau gynnwys tystiolaeth leol o lifogydd, materion cymdeithasol neu economaidd lleol, neu wybodaeth leol am batrymau teithio i gyfleusterau cymunedol.

    4.6 Wrth lunio LIR, nid yw’n ofynnol i’r awdurdod lleol gynnal ei ymgynghoriad ei hun â’r gymuned. Dylai’r adroddiad gynnwys datganiad o effeithiau lleol cadarnhaol, niwtral a negyddol, ond nid oes angen iddo gynnwys ymarferiad cydbwyso rhwng y nodweddion cadarnhaol a negyddol; nid oes angen iddo ychwaith fod ar ffurf adroddiad pwyllgor ffurfiol. Bydd yr Awdurdod Archwilio yn cynnal ymarferiad cydbwyso o effeithiau perthnasol, a bydd y rhain yn cynnwys yr effeithiau lleol hynny yr adroddwyd yn benodol arnynt yn yr LIR.

    4.7 Drwy amlinellu effeithiau sydd wedi’u gwerthuso’n glir mewn dogfen strwythuredig, bydd awdurdodau lleol yn cynorthwyo’r Awdurdod Archwilio drwy nodi materion lleol na fyddent fel arall o bosibl yn dod i’w sylw yn y broses archwilio. Bydd yn ddefnyddiol iawn hefyd cael arfarniad yr awdurdod lleol o raddau cydymffurfio’r datblygiad arfaethedig â pholisi ac arweiniad lleol.

    4.8 Byddai o gymorth i’r Awdurdod Archwilio pe bai’r awdurdod lleol yn gallu rhoi ei farn ar bwysigrwydd cymharol materion cymdeithasol, amgylcheddol neu economaidd gwahanol ac effaith y cynllun arnynt. Mae awdurdodau lleol mewn sefyllfa dda i werthfawrogi effeithiau cynigion, er enghraifft, o ran cyflogaeth, gwasanaethau lleol, datblygiad cysylltiedig, neu rwymedigaethau Gorchymyn Caniatâd Datblygu o dan a174 Deddf 2008.

    4.9 Bydd yn bwysig i’r Awdurdod Archwilio gael barnau’r awdurdod lleol ar erthyglau, gofynion a rhwymedigaethau Gorchymyn Caniatâd Datblygu. Lle mae mesurau lliniaru neu fesurau gwneud iawn yn cael eu cynnig gan yr ymgeisydd, drwy erthyglau a gofynion a awgrymwyd mewn Gorchymyn Caniatâd Datblygu; neu rwymedigaethau Gorchymyn, dylid nodi’r rhain a gwneud sylwadau arnynt. Dylai awdurdodau lleol sôn amdanynt yn benodol. Mae’r un peth yn gymwys i erthyglau; gofynion; a rhwymedigaethau Gorchymyn y mae’r awdurdod lleol o’r farn y dylid eu cynnwys.

    4.10 Gall cynghorau plwyf, sefydliadau ac aelodau’r cyhoedd fod wedi gwneud sylwadau i’r awdurdod lleol neu i’r ymgeisydd yn uniongyrchol ynglŷn â’r cynllun (wedi’u hysgogi, er enghraifft, gan ymgynghoriad yr ymgeisydd). Gallai’r LIR gynnwys cyfeiriad at y sylwadau hyn, ond dim ond lle maent yn berthnasol i effaith leol benodol y mae’r awdurdod lleol ei hun eisiau ei hamlygu. Dylai awdurdodau lleol annog y cyfryw ymatebwyr felly i gofrestru gyda’r Arolygiaeth Gynllunio fel ‘partïon â buddiant’ ar yr adeg briodol er mwyn i’w sylwadau ynglŷn â’r cynllun gael ystyriaeth gan yr Awdurdod Archwilio

    4.11 Gall Datganiadau Polisi Cenedlaethol fod o gymorth i awdurdodau lleol wrth baratoi eu LIRau fel canllaw i faterion yn ymwneud ag effaith leol sy’n debygol o fod yn berthnasol i benderfynu ar gais. Fodd bynnag, nid oes angen i’r awdurdod lleol gynnal asesiad cydymffurfio â Datganiad Polisi Cenedlaethol; byddai hyn yn dyblygu rôl yr Awdurdod Archwilio.

    4.12 Lle mae Datganiad Polisi Cenedlaethol yn benodol yn lleoliadol, ni fydd modd i holl effeithiau lleol cynnig datblygiad i gael ystyriaeth yn y cam datblygu polisi cenedlaethol. Yn y cyfryw achosion, gallai’r LIR asesu effeithiau lleol na chynhwyswyd ym mhroses y Datganiad Polisi Cenedlaethol, er enghraifft, ar faterion cynllunio, tirwedd a phriffyrdd. Gall fod effeithiau lleol ar dderbynyddion sensitif nad ydynt yn amlwg yn y cam Datganiad Polisi Cenedlaethol, yn deillio, er enghraifft, o gynllun penodol, dyluniad, graddfa, golwg, neu drefniadau mynediad y cynllun.

    4.13 Gall y LIR groesgyfeirio at unrhyw Ddatganiad o Dir Cyffredin y cytunwyd arno rhwng yr ymgeisydd a’r awdurdod lleol. Bydd yr Awdurdod Arholi yn annog partïon i beidio â dyblygu tystiolaeth a gyflwynir iddo.

    4.14 Mae’n agored i’r awdurdod lleol gyflwyno sylwadau i’r Awdurdod Arholi ynghylch cais NSIP ar wahân i’r LIR os yw’n dewis hynny.