Deddfwriaeth

Gellir gweld y ddeddfwriaeth ddomestig sy’n rheoli proses Deddf Cynllunio 2008 yn legislation.co.uk. Mae’n cynnwys:

  • Deddfwriaeth sylfaenol – gan gynnwys Deddf Cynllunio 2008 a’r Deddfau Seneddol dilynol sydd wedi diwygio ei chynnwys, e.e. Deddf Lleoliaeth 2011, ac ati
  • Is-ddeddfwriaeth –  Rheolau, Rheoliadau a Gorchmynion Cychwyn, ac ati

Deddfwriaeth Ewropeaidd sy’n effeithio ar broses Deddf Cynllunio 2008 (e.e. TEN-E: Rheoliad (UE) Rhif 347/2013) y gellir ei gweld yn eur-lex.europa.eu.

Hysbysiad pwysig i ddefnyddwyr legislation.co.uk: Pan fydd deddfwriaeth newydd yn diwygio neu’n diddymu darpariaethau mewn deddfwriaeth sy’n bodoli, gallai fod cryn dipyn o oedi rhwng yr adeg y daw’r ddeddfwriaeth newydd i rym a’r adeg y diweddarir y darpariaethau yr effeithir arnynt yn y ddeddfwriaeth ddiwygiedig. I ddeall p’un a yw’r ddeddfwriaeth rydych chi’n edrych arni’n gyfredol neu a oes newidiadau (e.e. effeithiau neu ddiwygiadau) nad ydynt wedi cael eu cymhwyso iddi eto, dilynwch y cyngor diweddaraf ynglŷn â deddfwriaeth gyfredol ar legislation.co.uk. Fel arall, gallech ddymuno cyfeirio at wasanaeth masnachol sy’n diweddaru deddfwriaeth yr effeithir arni gyda’r holl ddiwygiadau yn brydlon.

Deddfwriaeth sylfaenol

planning act 2008 thumbnail

Deddf Cynllunio 2008 (a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 26 Tachwedd 2008)

Y ddeddfwriaeth sylfaenol a sefydlodd y fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwneud cais am Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, eu harchwilio a phenderfynu arnynt; gan ystyried y Datganiadau Polisi Cenedlaethol.

Fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009; Deddf Lleoliaeth 2011; Deddf Twf a Seilwaith 2013; Deddf Seilwaith 2015; Deddf Tai a Chynllunio 2016 a Deddf Cymru 2017

Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 12 Tachwedd 2009)

Y ddeddfwriaeth sylfaenol sydd, ymhlith materion eraill, yn diwygio darpariaethau penodol Deddf Cynllunio 2008, gan gynnwys adrannau 42 a 104. Mae hefyd yn diddymu adrannau 148 a 149 ac yn mewnosod adran 149A newydd.

Deddf Lleoliaeth 2011 (a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 15 Tachwedd 2011)

Diddymodd Deddf Lleoliaeth 2011 y Comisiwn Cynllunio Seilwaith a throsglwyddodd bwerau penderfynu’r Comisiwn i’r Ysgrifennydd Gwladol. Mae’r Ddeddf Lleoliaeth hefyd yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Ddeddf Cynllunio 2008 sy’n newid rhai agweddau ar y weithdrefn ar gyfer ceisio caniatâd datblygu am Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol.

Deddf Twf a Seilwaith 2013 (a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 25 Ebrill 2013)

Mae’r Ddeddf Twf a Seilwaith yn cynnwys darpariaeth, ymhlith pethau eraill, ynglŷn â hwyluso neu reoli’r ddarpariaeth neu’r defnydd o seilwaith, cynnal datblygiad a chaffael tir a hawliau’n orfodol.

Deddf Seilwaith 2015 (a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 12 Chwefror 2015)

Mae Deddf Seilwaith 2015 yn cynnwys darpariaeth, ymhlith pethau eraill, i newid amseriad penodi’r Awdurdod Archwilio, yn darparu ar gyfer Paneli dau unigolyn ac yn diwygio’r broses ar gyfer gwneud newidiadau i Orchmynion Caniatâd Datblygu a’u diddymu.

Deddf Tai a Chynllunio 2016 (a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 12 Mai 2016)

Mae Deddf Tai a Chynllunio 2016 yn cynnwys darpariaeth ynglŷn â thai, gwerthwyr tai, taliadau rhent, cynllunio a phrynu gorfodol. Mae Adran 160 y Ddeddf Tai a Chynllunio yn diwygio a115 Deddf Cynllunio 2008 i ganiatáu ar gyfer cynnwys elfen o dai yn rhan o ddatblygiad y gallai caniatâd datblygu gael ei roi iddo.

Deddf Cymru 2017 (a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 31 Ionawr 2017)

Mae Deddf Cymru 2017 yn diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 trwy symud i fodel cadw pwerau ar gyfer Cymru. Mae Deddf Cymru’n datganoli pwerau i Lywodraeth Cymru ar gyfer meysydd yn cynnwys caniatáu prosiectau ynni newydd, ffracio, trwyddedu morol a harbyrau. Mae’r darpariaethau hyn yn datgymhwyso pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Cynllunio 2008 i roi caniatâd datblygu ar gyfer pob gorsaf cynhyrchu trydan yng Nghymru ac yn nyfroedd tiriogaethol Cymru i’r graddau nad yw prosiectau o’r fath (heb gynnwys gorsafoedd cynhyrchu a bwerir gan ynni’r gwynt ar y tir) yn fwy na chapasiti o 350MW; a phob gorsaf cynhyrchu a bwerir gan ynni’r gwynt ar y tir. Mae hefyd yn caniatáu i ‘Ddatblygiad Cysylltiedig’ penodol yng Nghymru gael ei ganiatáu o dan Ddeddf Cynllunio 2008.

Is-ddeddfwriaeth

Gellir gweld is-ddeddfwriaeth sy’n rheoli proses Deddf Cynllunio 2008 yn legislation.co.uk.

Lle y cyfeirir at is-ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r llywodraeth ynglŷn â phroses Deddf Cynllunio 2008, neu yng nghyfres o nodiadau cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio, darperir dolen uniongyrchol i’r offeryn perthnasol ar legislation.co.uk fel arfer.

Dyma rai o’r offerynnau y cyfeirir atynt fynychaf yn y cyngor a’r canllawiau uchod:

Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys yr holl is-ddeddfwriaeth sy’n rheoli proses Deddf Cynllunio 2008. Gwelerlegislation.co.uk am y gyfres lawn o offerynnau.

Deddfwriaeth Ewropeaidd

Gellir gweld TEN-E: Rheoliad (UE) Rhif 347/2013 yn eur-lex.europa.eu. Mae’r Rheoliad hwn yn gosod y rheolau ar gyfer datblygiad amserol rhwydweithiau ynni traws-Ewropeaidd (TEN-E) a’u gallu i ryngweithredu.