Nodyn Cyngor 8.5: Yr Archwiliad: gwrandawiadau ac arolygiadau safle

Mae’r Atodiad hwn wedi’i fwriadu ar gyfer pob Parti â Buddiant ac mae’n canolbwyntio ar gyflwyno tystiolaeth lafar mewn gwrandawiadau a phresenoldeb mewn ymweliadau safle.

Neidio i’r adran

  1. Diben gwrandawiadau
  2. Gwrandawiad llawr agored
  3. Gwrandawiadau yn ymwneud â materion penodol
  4. Compulsory Acquisition hearings
  5. Hysbysiadau, agendâu a chofnodi gwrandawiadau
  6. Cymryd rhan mewn gwrandawiadau
  7. Lleoliad y gwrandawiad
  8. Beth ddylech ei wneud pan fyddwch yn cyrraedd lleoliad y gwrandawiad?
  9. A allaf roi sylwadau ysgrifenedig i’r Awdurdod Archwilio yn y gwrandawiad?
  10. A allaf recordio’r gwrandawiad?
  11. Arolygiadau safle
    1. Arolygiadau safle heb gwmni
    2. Arolygiadau safle â chwmni
    3. Hysbysu am arolygiadau safle
    4. Ymddygiad mewn arolygiadau safle
  12. Trosolwg o’r broses NSIP

1. Diben gwrandawiadau

1.1 Mae gwrandawiadau yn ychwanegol at sylwadau ysgrifenedig a wneir yn ystod Archwiliad.

1.2 Mae gwrandawiadau yn galluogi’r Awdurdod Archwilio i ofyn cwestiynau am y sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan Bartïon â Buddiant, a chasglu gwybodaeth a thystiolaeth i hybu eu dealltwriaeth o faterion pwysig a pherthnasol.

2. Gwrandawiadau llawr agored

2.1 Mae’r gwrandawiadau hyn yn debygol o fod â ffocws cymunedol ac maent yn gyfle i unigolion a grwpiau cymunedau siarad yn uniongyrchol â’r Awdurdod Archwilio. Ar gyfer prosiectau mwy a allai fod wedi’u lledaenu ar draws ardal ehangach, efallai y bydd mwy nag un gwrandawiad llawr agored, a gynhelir mewn lleoliadau gwahanol. Fodd bynnag, fel mae’r enw’n awgrymu, maent ar agor i unrhyw Barti â Buddiant ac nid ydynt yn ymwneud â lleoliad neu bwnc penodol.

2.2 Fel arfer, nid oes unrhyw agenda ar gyfer y gwrandawiadau hyn. Bydd yr Awdurdod Archwilio yn cynnal o leiaf un gwrandawiad llawr agored os bydd Parti â Buddiant yn gofyn am un cyn pen y dyddiad cau a bennir yn yr Amserlen Archwilio, neu os yw o’r farn ei fod yn angenrheidiol.

2.3 Yn y gwrandawiadau hyn, bydd bwrdd a chadair yn wynebu’r Awdurdod Archwilio, fel arfer, lle y gwahoddir pawb sy’n dymuno siarad i eistedd a gwneud eu sylwadau llafar. Er mwyn sicrhau bod pawb yn cael cyfle i siarad, efallai y bydd yr Awdurdod Archwilio yn pennu terfyn amser ar gyfer pob unigolyn, ac efallai y bydd yn gofyn cwestiynau ar sail yr hyn a ddywedwyd. Os yw’n fwy effeithlon, gallai’r Awdurdod Archwilio ganiatáu i sylwadau gael eu gwneud trwy ficroffonau symudol yn hytrach nag wrth y bwrdd.

3. Gwrandawiadau yn ymwneud â materion penodol

3.1 Caiff Gwrandawiadau yn ymwneud â Materion Penodol eu cynnal i archwilio mater penodol neu gyfres o faterion sy’n deillio o’r cais yn fanwl. Er enghraifft, math penodol o effaith, neu effeithiau ar leoliad penodol e.e. sŵn neu draffig.

Fideo 6 Munud

Gwyliwch gyflwyniad byr, darluniadol i ddweud eich dweud ar ymweliad NSIPs (Ar gael yn Saesneg yn unig)

3.2 Bydd yr Awdurdod Archwilio yn dewis p’un a fydd yn cynnal gwrandawiadau tebyg, beth fyddant yn ymwneud ag ef a sawl un ohonynt a gynhelir. Caiff gwrandawiad yn ymwneud â mater penodol ei gynnal, nid oherwydd yr ystyrir bod y mater yn bwysicach na materion eraill o reidrwydd, ond oherwydd bod yr Awdurdod Archwilio yn credu bod angen cael mwy o wybodaeth neu egluro materion sydd eisoes ger eu bron, er enghraifft mewn dogfen cais neu sylwadau. Fel arfer, cynhelir Gwrandawiad yn ymwneud â Mater Penodol ar y Gorchymyn Caniatâd Datblygu. Os ydych yn teimlo y dylai pwnc sydd o ddiddordeb fod yn destun Gwrandawiad yn ymwneud â Mater Penodol, ac nad ydyw’n destun gwrandawiad, gallwch godi hyn yn y Cyfarfod Angenrheidiol mewn perthynas â’r Amserlen Archwilio ddrafft.

3.3 Fel arfer, bydd set o fyrddau yng nghanol yr ystafell, â microffonau arnynt, i’r partïon sy’n fwyaf tebygol o fod angen siarad fwy nag unwaith yn ystod y gwrandawiad. Bydd seddau i bartïon eraill hefyd, y bydd gofyn iddynt ddod at y bwrdd yn y tu blaen os ydynt yn dymuno siarad.

4. Gwrandawiadau Caffaeliad Gorfodol

4.1 Mae gwrandawiad caffaeliad gorfodol yn archwilio’r materion yn ymwneud â chaffaeliad gorfodol. Dyma pan mae’r cais yn cynnwys pwerau sy’n caniatáu i’r ymgeisydd gaffael tir a buddiannau mewn tir yn orfodol (e.e. tenantiaethau a hawliau mynediad), sydd eu hangen i’r datblygiad fynd rhagddo. Gall “Unigolyn yr Effeithir Arno” ofyn am y gwrandawiad hwn – sef unigolyn sydd â hawliau neu fuddiant yn y tir y cynigir ei gaffael yn orfodol.

4.2 Fel arfer, bydd yr ystafell wedi’i gosod yn yr un modd ag ar gyfer gwrandawiadau yn ymwneud â materion penodol; sef set o fyrddau yng nghanol yr ystafell â microffonau arnynt i’r partïon sy’n debygol o fod angen siarad fwyaf. Bydd seddau i bartïon eraill hefyd, a fydd yn gallu dod at y bwrdd yn y tu blaen os bydd yr Awdurdod Archwilio yn eu gwahodd i siarad.

Mae Gwrandawiad Penodol i Bwnc yn cael ei sefydlu gyda set ganolog o dablau a meicroffonau ar gyfer siaradwyr.

Mewn gwrandawiadau Llawr Agored, sefydlir cadair sy’n wynebu’r Awdurdod Arholi lle gall unrhyw un annerch Asiantaeth yr Amgylchedd.

5. Hysbysiadau, agendâu a chofnodi gwrandawiadau

5.1 Fel arfer, caiff dyddiad ac amser y gwrandawiadau eu cynnwys yn yr Amserlen Archwilio, ond weithiau byddant mewn llythyr diweddarach. Fel arfer, cânt eu cynnal ar ddiwrnod gwaith ac yn ystod oriau gwaith. Gellir cynnal gwrandawiadau ar benwythnosau neu gyda’r nos mewn amgylchiadau eithriadol.

5.2 Caiff pob gwrandawiad ei gofnodi ar gyfer y cyfnod cyhoeddus. Os cânt eu llunio, caiff camau gweithredu o’r gwrandawiadau eu cyhoeddi ar dudalen y prosiect perthnasol ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol hefyd.

6. Cymryd rhan mewn gwrandawiadau

6.1 Caiff pob gwrandawiad ei gynnal yn gyhoeddus. Mae croeso i unrhyw un fod yn bresennol a gwylio’r trafodion, ni waeth a ydyw wedi cymryd rhan yn yr Archwiliad o’r blaen ai peidio. Os hoffech fod yn bresennol a siarad mewn gwrandawiadau, caiff ei werthfawrogi os byddwch yn rhoi gwybod i’r Arolygiaeth Gynllunio ymlaen llaw, erbyn y dyddiad cau a bennwyd yn llythyr yn Awdurdod Archwilio.

6.2 Os nad yw unigolyn wedi cofrestru’n Barti â Buddiant a’i fod yn dymuno siarad yn y gwrandawiad, yr Awdurdod Archwilio fydd yn penderfynu p’un a fydd yn caniatáu hynny ai peidio. Os yw’r gwrandawiad yn brysur, caiff Partïon â Buddiant flaenoriaeth dros bobl eraill wrth ddyrannu seddau. Yn yr amgylchiadau hyn, efallai y bydd angen i rai nad ydynt wedi cofrestru’n Bartïon â Buddiant aros tan yn fuan cyn i’r digwyddiad ddechrau i weld a oes unrhyw seddau dros ben.

7. Lleoliad y gwrandawiad

7.1 Gall yr Awdurdod Archwilio ofyn i Bartïon â Buddiant yn y Cyfarfod Rhagarweiniol am awgrymiadau a hoffterau o ran lleoliadau ar gyfer gwrandawiadau posibl.

7.2 Os oes gennych unrhyw anghenion penodol, rhaid i dîm achos yr Arolygiaeth Gynllunio fod yn ymwybodol ohonynt cyn y gwrandawiad. Gwneir pob ymdrech i helpu. Caiff dolen glyw ei darparu mewn gwrandawiadau a chaiff lleoliadau eu dewis sy’n hygyrch i bobl anabl.

8. Beth ddylech ei wneud pan fyddwch yn cyrraedd lleoliad y gwrandawiad?

8.1 Os byddwch yn mynychu’r gwrandawiad i’w weld, ond nad ydych am siarad, bydd seddau wedi’u dyrannu tua chefn yr ystafell yn y gynulleidfa, fel arfer. Os byddwch wedi cyrraedd o fewn yr amser a nodwyd ar agenda’r gwrandawiad, gallwch eistedd ac aros i’r trafodion ddechrau.

8.2 Os ydych yn bwriadu siarad yn y gwrandawiad, mae’n ddefnyddiol i chi gyflwyno eich hun i dîm achos yr Arolygiaeth Gynllunio, a fydd yn gallu eich helpu â’r trefniadau eistedd a chynnig cyngor ar y broses. Mewn gwrandawiadau yn ymwneud â materion penodol, gallai siaradwyr gael eu dyrannu i eistedd wrth y prif fwrdd, ond dim ond os byddant wedi rhoi gwybod i ni y byddant yn bresennol ac yr hoffent siarad, a dim ond pan fydd yr Awdurdod Archwilio yn disgwyl iddynt chwarae rhan fynych a sylweddol mewn unrhyw drafodaeth yn y gwrandawiad.

9. A allaf roi sylwadau ysgrifenedig i’r Awdurdod Archwilio yn y gwrandawiad?

9.1 Cewch eich annog i beidio â chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn gwrandawiad am nifer o resymau:

  • Gallai hyn fod yn annheg i gyfranogwyr eraill nad ydynt yn bresennol ar y pryd, oherwydd efallai na fyddant yn gallu gweld y wybodaeth honno ar unwaith.
  • Gallai beri trafferth i eraill, gan gynnwys yr Awdurdod Archwilio, o ran ymateb i’r wybodaeth yn y gwrandawiad.

10. A allaf recordio’r gwrandawiad?

10.1 Os ydych yn bwriadu recordio’r gwrandawiad, siaradwch ag aelod o’r tîm achos cyn i’r gwrandawiad ddechrau. Yna, bydd yr Awdurdod Archwilio yn ystyried y cais, a gallai ofyn i’r cyfranogwyr eraill a oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad. Efallai yr hoffai’r rhai sy’n bresennol ddefnyddio ffonau symudol, llechi cyfrifiadurol neu liniaduron yn y gwrandawiad. Mae hyn yn debygol o gael ei ganiatáu, cyn belled â bod pob dyfais yn fud ac nad yw’n amharu ar y gwrandawiad, a chyn belled ag y caiff y recordiad ei wneud yn ystyriol heb godi ofn ar unrhyw un arall sy’n bresennol. Gweler y cyngor yn Nodyn Cyngor 8.3 ynghylch recordio a’r cyfryngau yn y Cyfarfod Rhagarweiniol, sy’n berthnasol hefyd.

11. Arolygiadau safle

11.1 Er mwyn deall y datblygiad arfaethedig ac archwilio’r cais yn llawn, bydd yr Awdurdod Archwilio yn ymweld â safle’r datblygiad arfaethedig.

Arolygiadau safle heb gwmni

11.2 Os gall yr Awdurdod Archwilio weld y safle o dir cyhoeddus, maent yn debygol o gynnal arolygiad(au) safle heb unrhyw Barti â Buddiant yn gwmni iddynt. Ar ôl yr arolygiad(au) safle heb gwmni, caiff nodyn o’r dyddiad, amser a’r lleoliad yr ymwelwyd ag ef ei gyhoeddi ar dudalen y prosiect perthnasol ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol.

Arolygiadau safle â chwmni

11.3 Os oes angen i’r Awdurdod Archwilio fynd ar dir preifat neu os yw’n ofynnol i Bartïon â Buddiant fod yn bresennol yn yr ymweliad i’w tywys neu dynnu sylw at nodweddion penodol, caiff ymweliad â chwmni ei drefnu. Mae’r ymgeisydd yn debygol o fod yn bresennol, a gall Partïon â Buddiant eraill fod yn bresennol hefyd.

11.4 Am resymau ymarferol, gellir cyfyngu ar nifer y bobl sy’n bresennol. Yn y pen draw, yr Awdurdod Archwilio fydd yn penderfynu a gaiff unrhyw un fod yn bresennol, ac mae’n dibynnu ar y tirfeddiannwr yn caniatáu mynediad. Bydd yr Awdurdod Archwilio yn gwahodd Partïon â Buddiant i nodi a hoffent fynd i’r arolygiad safle â chwmni ymlaen llaw. Dylai pob cais i gymryd rhan gael ei dderbyn erbyn y dyddiad(au) cau a bennir yn yr Amserlen Archwilio.

Hysbysu am arolygiadau safle

11.5 Yn nodweddiadol, bydd yr hysbysiad yn cynnwys gwybodaeth am ble a phryd y bydd yr ymweliad safle yn dechrau, unrhyw ystyriaethau iechyd a diogelwch, amserlen ar gyfer y diwrnod a threfniadau teithio.

11.6 Pan fydd arolygiad safle yn cynnwys mwy nag un safle (er enghraifft ar gyfer prosiect llinol, fel piblinell, rheilffordd neu ffordd), gallai bws mini neu gerbyd tebyg gael ei ddarparu i gludo Partïon â Buddiant. Ym mhob achos, dylech ddarllen yr hysbysiad a siarad â’r tîm achos os oes gennych unrhyw gwestiynau am y trefniadau.

Ymddygiad mewn arolygiadau safle

11.7 Yn yr un modd â gwrandawiadau, yr Awdurdod Archwilio fydd yn penderfynu sut caiff arolygiadau safle eu cynnal a’u hamseriadau. Yn wahanol i wrandawiadau, nid yw arolygiadau safle yn gyfle i unrhyw un fynd at yr Awdurdod Archwilio a thrafod y datblygiad arfaethedig neu ei rinweddau. Fodd bynnag, efallai y bydd yr Awdurdod Archwilio am ofyn i bartïon dynnu sylw at nodweddion y safle er mwyn cael eglurhad ffeithiol.

Trosolwg o’r broses NSIP

Mae Archwiliad yn ysgrifenedig, yn bennaf, ond gall gynnwys tri math o wrandawiad:

Gwrandawiad Llawr Agored

Nid oes agenda; gall unrhyw Barti â Buddiant siarad am unrhyw beth perthnasol. Caiff o leiaf un o’r rhain ei gynnal os bydd Parti â Buddiant yn gofyn amdano. Bydd un bwrdd yn y tu blaen, a chaiff pobl eu galw pan fydd eu tro nhw i siarad. Caiff seddau eu darparu i’r rhai sy’n bresennol y tu ôl i fwrdd y siaradwr.

Gwrandawiad yn ymwneud â Mater Penodol

Mae gan y math hwn o wrandawiad agenda, sy’n cael ei phennu gan yr Awdurdod Archwilio a’i chyhoeddi ar dudalen y prosiect perthnasol o leiaf wythnos cyn y gwrandawiad. Caiff gwrandawiad ei gynnal os bydd yr Awdurdod Archwilio yn penderfynu ei fod yn angenrheidiol. Nid yw cynnal gwrandawiad yn golygu bod un mater yn bwysicach, ond yn hytrach bod yr Awdurdod Archwilio yn teimlo bod angen gwrandawiad i’w archwilio’n llawn. Bydd byrddau yn y tu blaen i’r partïon y mae’r Awdurdod Archwilio yn disgwyl iddynt wneud y mwyaf o sylwadau ar y mater; caiff partïon eraill eu galw at y bwrdd.

Gwrandawiad Caffaeliad Gorfodol

Caiff Gwrandawiadau Caffaeliad Gorfodol eu cynnal ar gyfer ceisiadau sy’n cynnwys pwerau i gaffael tir neu hawliau’n orfodol. Caiff gwrandawiad ei gynnal os bydd parti, y gallai’r caffaeliad gorfodol effeithio arno, yn gofyn am un. Bydd y gwrandawiad wedi’i gyfyngu i faterion yn ymwneud â chaffael yn orfodol. Mae gosodiad y math hwn o wrandawiad yn debyg iawn i’r Gwrandawiad yn ymwneud â Mater Penodol

Caiff p’un a ddylid cynnal gwrandawiadau ai peidio, ac ar ba faterion, ei drafod yn y Cyfarfod Rhagarweiniol (gweler Nodyn Cyngor 8.3).

Caiff amser, dyddiad a lleoliad y gwrandawiadau eu hysbysu mewn llythyr i Bartïon â Buddiant, eu cyhoeddi ar ein gwefan, a’u cyhoeddi gan yr ymgeisydd mewn papur(au) newydd.

Rhowch wybod i ni os hoffech ddod, er mwyn i ni allu gwneud yn siŵr fod y lleoliad yn ddigon mawr. Dylech gyrraedd mewn da bryd.

Arolygiadau Safle

Os bydd angen i’r Awdurdod Archwilio fynd i dir preifat i weld y safle, byddant yn gwahodd Partïon â Buddiant i fynd gyda nhw. Ni fydd yr Awdurdod Archwilio yn clywed sylwadau yn ystod arolygiadau safle.

Cyfres Nodiadau Cyngor 8

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi llunio cyfres o Nodiadau Cyngor anstatudol am ystod o faterion proses. Mae’r rhain ar gael i’w lawrlwytho ar dudalen deddfwriaeth a chyngor / nodiadau cyngor y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol.

Mae cyfres Nodiadau Cyngor 8 yr Arolygiaeth Gynllunio yn esbonio sut i gymryd rhan ym mhroses gynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Mae’n cynnwys 5 atodiad, fel a ganlyn:

Nodyn Cyngor 8 Trosolwg o’r broses Cynllunio Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol i aelodau’r cyhoedd a phobl eraill
Atodiad 8.1 Ymateb i ymgynghoriad y datblygwr cyn gwneud cais
Atodiad 8.2 Sut i gofrestru i gymryd rhan mewn archwiliad
Atodiad 8.3 Dylanwadu ar sut caiff cais ei archwilio: y Cyfarfod Rhagarweiniol
Atodiad 8.4 Yr archwiliad
Atodiad 8.5 Yr archwiliad – Gwrandawiadau ac Ymweliadau Safle