Rhestr termau

Mae’r broses o wneud cais ar gyfer Gorchymyn Caniatâd Datblygu yn broses gyfreithiol a lywodraethir gan Ddeddf Cynllunio 2008 a deddfwriaeth gysylltiedig. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau ein bod yn gwneud y broses hon mor gynhwysol â phosibl. Rydym wedi ceisio defnyddio iaith bob dydd lle bynnag y bo’n bosibl ar y wefan, ond efallai y byddwn yn cyfeirio hefyd at nifer o dermau sy’n cael eu defnyddio yn Neddf Cynllunio 2008. Gall ein Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid (0303 444 5000) roi cyngor i chi ar dermau nad ydynt wedi’u cynnwys yn y rhestr termau hon.

Unigolyn yr effeithir arno

Gall Gorchymyn Caniatâd Datblygu gynnwys pwerau i ymgeisydd gaffael tir a hawliau’n orfodol. Mae unigolyn yn unigolyn yr effeithir arno os bydd ymgeisydd, ar ôl gwneud ymchwiliad diwyd, yn gwybod bod gan yr unigolyn fuddiant yn y tir y mae’r cais caffaeliad gorfodol yn ymwneud ag ef. Os ydych yn unigolyn yr effeithir arno, rydych yn barti â buddiant at ddibenion Archwiliad fel mater o drefn.

Cais

Mae hyn yn cyfeirio at gais gan ymgeisydd am Orchymyn Caniatâd Datblygu. Mae cais yn cynnwys cyfres o ddogfennau a chynlluniau sydd wedi’u cyhoeddi ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Gwrandawiad caffaeliad gorfodol

Rhaid cynnal y rhain ar gais unigolyn yr effeithir arno. Dim ond unigolion yr effeithir arnynt a’r ymgeisydd sydd â’r hawl i ofyn am gael eu clywed mewn gwrandawiad caffaeliad gorfodol. Mewn unrhyw wrandawiad, bydd yr Awdurdod Archwilio yn rheoli’r trafodion a gall osod terfyn amser ar gyfer cyfraniadau er mwyn sicrhau tegwch i bawb sy’n cymryd rhan. Am ragor o wybodaeth, gweler Nodyn Cyngor 8.5: Yr Archwiliad: gwrandawiadau ac arolygiadau safle.

Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO)

Gorchymyn statudol yw hwn sy’n rhoi caniatâd ar gyfer y prosiect ac mae’n golygu na fydd angen ystod o wahanol fathau o ganiatâd arall, fel caniatâd cynllunio a chaniatâd adeilad rhestredig. Gall gorchymyn caniatâd datblygu gynnwys darpariaethau hefyd sy’n awdurdodi prynu’r tir yn orfodol neu fuddiannau o ran tir neu hawliau dros y tir sy’n destun cais. Caiff gorchymyn caniatâd datblygu drafft ei gyflwyno gan ymgeiswyr gyda phob cais.

Archwiliad

Y broses gyfreithiol, ffurfiol yw hon, sy’n cael ei llywodraethu gan Ddeddf Cynllunio 2008 a deddfwriaeth gysylltiedig. Mae’r Archwiliad yn dechrau y diwrnod ar ôl i’r cyfarfod rhagarweiniol ddod i ben, a gall bara hyd at chwe mis. Am ragor o wybodaeth, gweler Nodyn Cyngor 8.4: Yr Archwiliad.

Awdurdod Archwilio

Yr arolygydd neu’r panel o arolygwyr a benodir i gynnal Archwiliad o’r cais yw’r Awdurdod Archwilio.

Llyfrgell yr Archwiliad

Mae’r Llyfrgell Archwiliad yn rhestr o ddogfennau sy’n cynnwys cofnod o’r dystiolaeth, gan gynnwys y dogfennau cais, a gyflwynwyd i archwilio cais. Mae hefyd yn cynnwys y Penderfyniadau Gweithdrefnol a wnaed gan yr Awdurdod Archwilio. Mae’r Llyfrgell Archwiliad yn ddogfen fyw ac mae’n cael ei diweddaru’n rheolaidd yn ystod archwiliad. Mae’r Llyfrgell Archwiliad ar gael i’w gweld o dan y tab ‘Documents’ ar bob tudalen prosiect ar wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol (ee Llyfrgell Archwiliad Trydydd Croesfan Lake Lothing).

Asesiad Cyntaf of Brif Faterion

Rhestr gyfunol o’r prif faterion a gododd wrth i’r Awdurdod Archwilioddarllen dogfennau’r cais a’r Cynrychiolaethau Perthnasol a dderbyniwyd. Nid yw’n rhestr gynhwysfawr na chyflawn o’r holl faterion perthnasol; ystyrir yr holl faterion pwysig a pherthnasol wrth wneud argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol perthnasol ar ôl i’r Archwiliad ddod i ben.

Buddiant

Mae buddiant yn golygu buddiant cyfreithiol sydd gan unigolyn yn y tir y mae Gorchymyn Caniatâd Datblygu yn effeithio arno; er enghraifft, lle mae unigolyn yn berchen ar y tir, yn ei brydlesu, yn rhentu neu’n meddiannu’r tir, neu fod ganddo ryw hawl gyfreithiol drosto neu mewn perthynas ag ef.

Parti â buddiant

Gall partïon â buddiant gyfrannu at yr archwiliad o’r cais a byddant yn cael hysbysiadau ffurfiol wrth i’r archwiliad fynd rhagddo. Mae rhai pobl a sefydliadau’n bartïon â buddiant fel mater o drefn ac nid oes angen iddynt gofrestru i ddod yn barti â buddiant. Rhaid i bobl a sefydliadau eraill gofrestru i ddod yn barti â buddiant trwy wneud sylwadau perthnasol i’r Arolygiaeth Gynllunio ar yr adeg briodol a chyn y dyddiad cau penodedig. Am ragor o wybodaeth, gweler Nodyn Cyngor 8.2: Sut i gofrestru i gymryd rhan mewn Archwiliad.

Gwrandawiad yn ymwneud â materion penodol

Efallai y caiff gwrandawiadau ar fater(ion) penodol eu cynnal gan yr Awdurdod Archwilio yw o’r farn bod angen sicrhau bod y mater yn cael ei archwilio’n ddigonol neu er mwyn sicrhau bod parti â buddiant yn cael cyfle teg i bledio achos. Am ragor o wybodaeth, gweler Nodyn Cyngor 8.5: Yr Archwiliad: gwrandawiadau ac arolygiadau safle.

Gwrandawiad llawr agored

Rhaid cynnal gwrandawiad llawr agored  os bydd parti â buddiant yn gofyn am hynny, neu os bydd yr Awdurdod Archwilio o’r farn ei fod yn angenrheidiol. Gall unrhyw un sy’n barti â buddiant ofyn am wrandawiad llawr agored. Am ragor o wybodaeth, gweler Nodyn Cyngor 8.5: Yr Archwiliad: gwrandawiadau ac arolygiadau safle.

Sylwadau llafar

Dyma’r term sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r cyfle i siarad yn bersonol mewn gwrandawiad. Dylid seilio unrhyw sylwadau llafar ar naill ai’r sylwadau perthnasol neu’r sylwadau ysgrifenedig a wnaed gan yr unigolyn y rhoddir y sylwadau llafar ganddo neu ar ei ran. Nid oes rhaid i chi roi sylwadau llafar os ydych o’r farn bod pob un o’r pwyntiau rydych am eu gwneud wedi’u crybwyll yn eich sylwadau perthnasol neu mewn unrhyw sylwadau ysgrifenedig rydych wedi’u gwneud, neu os yw parti â buddiant arall wedi’u gwneud yn ddigonol.

Er bod gan yr Awdurdod Archwilio rywfaint o ddisgresiwn i dderbyn sylwadau llafar hyd yn oed gan bobl nad ydynt wedi cyflwyno sylwadau perthnasol dilys, ni ddylid dibynnu ar hyn.

Cyfarfod rhagarweiniol

Cyfarfod gweithdrefnol yw hwn, sy’n cael ei gynnal  ar ôl i’r dyddiad cau ar gyfer gwneud sylwadau perthnasol fynd heibio ac wedi i’r Awdurdod Archwilio gynnal ei asesiad cychwynnol o’r prif faterion ar ôl ystyried dogfennau’r cais a’r sylwadau perthnasol a dderbyniwyd. Bydd pob parti â buddiant yn cael gwybod ymlaen llaw am y cyfarfod rhagarweiniol, gan amlinellu amserlen ddrafft ar gyfer yr archwiliad gan gynnwys unrhyw wrandawiad(au) arfaethedig. Mae’r cyfarfod, sy’n cael ei gadeirio gan yr Awdurdod Archwilio, yn ystyried sut caiff y cais ei archwilio, er enghraifft, drwy amlygu’r prif faterion a’r amserlen ar gyfer yr archwiliad. Ni chaiff rhinweddau’r prosiect eu hystyried yn y cyfarfod. Am ragor o wybodaeth, gweler Nodyn Cyngor 8.3: Dylanwadu ar sut y caiff cais ei archwilio: y Cyfarfod Rhagarweiniol.

Prosiect

Y datblygiad arfaethedig yw hwn, fel gorsaf bŵer, fferm wynt alltraeth, rhan o reilffordd, ffordd, llinell drydanol y ceisir caniatâd datblygu ar ei gyfer yn y cais.

Hawlio iawndal perthnasol

Yn fras, gall pobl neu sefydliadau y gallai’r datblygiad arfaethedig effeithio ar eu tir neu eu hawliau o ran y tir hawlio iawndal. Efallai na fydd eu tir neu eu hawliau yn destun pwerau caffael gorfodol y gofynnir amdanynt yn y cais, nac yn wir ar y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, ond efallai y bydd ganddynt hawl i gael iawndal dan naill ai Rhan 1 Deddf Iawndal Tir 1973, neu adran 152 Deddf Cynllunio 2008 os yw’r datblygiad arfaethedig yn effeithio ar eu tir neu ar eu buddiant.

Sylwadau perthnasol

Ymhlith pethau eraill, mae sylwadau perthnasol yn grynodeb o’r agweddau ar y cais y mae unigolyn yn cytuno/anghytuno â nhw, a’r rhesymau dros hynny. I fod yn ddilys, rhaid iddynt:

  • gael eu gwneud ar amser;
  • bod ar y ffurflen gywir – y ffurflen ‘Cofrestru a Sylwadau Perthnasol’; a
  • bod yn gyflawn (h.y. rhaid i’r holl feysydd gorfodol fod wedi’u llenwi’n gywir).

Bydd yr Awdurdod Archwilio yn ystyried yr holl sylwadau perthnasol dilys, a bydd pob un ohonynt yn ffurfio rhan o’r dystiolaeth a gaiff ei hystyried yn ystod yr archwiliad. Am ragor o wybodaeth, gweler Nodyn Cyngor 8.2: Sut i gofrestru i gymryd rhan mewn Archwiliad.

Sylwadau

Mae sylwadau’n amlinellu beth mae unigolyn yn cytuno a/neu’n anghytuno ag ef yn y cais. Mae Deddf Cynllunio 2008 yn cyfeirio at dri math o sylwadausylwadau perthnasol, sylwadau ysgrifenedig a sylwadau llafar.

Sylwadau ysgrifenedig

Adroddiad ysgrifenedig manylach o’r hyn y mae parti â buddiant yn cytuno a/neu’n anghytuno ag ef yn y cais yw hwn, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth neu ddogfennau i ategu hyn. Mae’n gyfle i ymhelaethu ar y materion y mae parti â buddiant wedi’u hamlinellu yn ei sylwadau perthnasol. Nid oes rhaid i bartïon â buddiant gyflwyno sylwadau ysgrifenedig os ydynt o’r farn bod pob un o’r pwyntiau yr hoffent eu gwneud wedi’u gwneud yn eu sylwadau perthnasol, neu os yw parti â buddiant arall wedi’u gwneud yn ddigonol.

Er bod gan yr Awdurdod Archwilio rywfaint o ddisgresiwn mewn perthynas â derbyn sylwadau ysgrifenedig, hyd yn oed gan bobl nad ydynt wedi cyflwyno sylwadau perthnasol dilys, ni ddylid dibynnu ar hyn.

Llythyr Rheol 6

Llythyr Rheol 6 yw llythyr yr Awdurdod Archwilio yn gwahodd yr holl Bartïon â Buddiant i’r Cyfarfod Rhagarweiniol. Fe’i cyhoeddir o dan Reol 6 o Reolau Cynllunio Seilwaith (Gweithdrefn Archwilio) 2010 a rhaid ei hanfon at Bartïon â Buddiant o leiaf 21 diwrnod cyn i’r Cyfarfod Rhagarweiniol gael ei gynnal. Yn ogystal â rhoi rhybudd o ddyddiad, amser a lleoliad y Cyfarfod Rhagarweiniol, bydd y llythyr Rheol 6 yn cynnwys Amserlen Archwiliad ddrafft a gwybodaeth weithdrefnol bwysig arall.

Llythyr Rheol 8

Llythyr Rheol 8 yw llythyr yr Awdurdod Archwilio sy’n rhoi rhybudd o’r penderfyniadau y mae wedi’u cymryd ynglŷn â’r weithdrefn yn y Cyfarfod Rhagarweiniol neu’n dilyn hynny. Fe’i cyhoeddir o dan Reol 8 o Reolau Cynllunio Seilwaith (Gweithdrefn Archwilio) 2010 ac fel rheol fe’i hanfonir at Bartïon â Buddiant 1-2 wythnos ar ôl y Cyfarfod Rhagarweiniol. Bydd y llythyr Rheol 8 yn cynnwys yr Amserlen Archwiliad wedi’i chadarnhau.