Cofrestr cyngor

Mae’r rhestr isod yn gofnod o’r cyngor y mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi ei roi mewn perthynas â phroses Deddf Cynllunio 2008.

Mae dyletswydd statudol o dan adran 51 Deddf Cynllunio 2008 i gofnodi’r cyngor a roddir mewn perthynas â chais neu ddarpar gais, ac i sicrhau ei fod ar gael yn gyhoeddus. Mae cyngor a roddwyd gennym wedi’i gofnodi isod, ynghyd ag enw’r unigolyn neu’r sefydliad a ofynnodd am y cyngor a’r prosiect y mae’n ymwneud ag ef. Bydd preifatrwydd unrhyw wybodaeth bersonol arall yn cael ei ddiogelu yn unol â’n Siarter Wybodaeth y dylech ei darllen cyn anfon gwybodaeth i’r Arolygiaeth Gynllunio.

Sylwer, ar ôl i dudalen brosiect gael ei chreu ar gyfer cais penodol, bydd unrhyw gyngor a ddarperir sy’n berthnasol iddo’n cael ei gyhoeddi o dan y tab ‘cyngor a51’ ar dudalen y prosiect perthnasol.

Mae cyngor a roddwyd rhwng 1 Hydref 2009 a 13 Ebrill 2011 wedi cael ei archifo ac mae’n parhau i fod ar gael i’w weld ar y daenlen hon.