Nodyn Cyngor 14: Llunio’r Adroddiad Ymgynghori

Mae’r Nodyn Cyngor hwn ar gyfer:

  • Ymgeiswyr, i’w cynorthwyo wrth ysgrifennu’u Hadroddiad Ymgynghori.
  • Awdurdodau lleol, a fydd yn darparu sylwadau ar ddigonolrwydd yr ymgynghoriad.
  • Ymgyngoreion, y gallai fod diddordeb ganddynt i wybod sut yr adroddir ar ymgynghoriad cyn-ymgeisio’r Ymgeisydd.

Jump to section:

  1. Cyflwyniad
  2. Diben Adroddiad Ymgynghori
  3. Fformat a chynnwys yr Adroddiad Ymgynghori
  4. Adrodd am ymatebion i’r ymgynghoriad statudol
  5. Dulliau ymgynghori rhithwir
  6. Cais i Ymgeisydd ddarparu ymatebion i’r ymgynghoriad
  7. Diogelu Data a chanllawiau golygu

1. Cyflwyniad

1.1 Mae’n rhaid i gais am Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) gynnwys Adroddiad Ymgynghori, sy’n disgrifio’r broses ymgynghori a gynhaliwyd gan yr Ymgeisydd cyn cyflwyno’r cais. Dylai ddangos sut y cydymffurfiwyd â dyletswyddau cyn-ymgeisio’r Ymgeisydd a bennwyd yn Neddf Cynllunio 2008 (PA2008). Dylai’r Adroddiad Ymgynghori gynnwys gwybodaeth a thystiolaeth ynglŷn â:

  • Phwy yr ymgynghorwyd â nhw a sut y cynhaliwyd yr ymgynghoriad;
  • sut, a phryd, y rhoddwyd cyhoeddusrwydd i’r prosiect; a
  • sut yr aethpwyd ati i ystyried yr ymatebion.

1.2 Defnyddir yr Adroddiad Ymgynghori gan yr Arolygiaeth Gynllunio i lywio’r penderfyniad ynghylch p’un a gydymffurfiwyd yn ddigonol â gweithdrefnau cyn-ymgeisio, fel bod cais o safon ddigonol i’w dderbyn i’w archwilio. Efallai y cyfeirir ato hefyd yn ystod yr Archwiliad gan yr Awdurdod Archwilio a chan yr Ysgrifennydd Gwladol wrth wneud penderfyniad. Dylai ymgeiswyr drin yr Adroddiad Ymgynghori fel rhan bwysig o’r sail dystiolaeth sy’n tanategu cais.

2. Diben Adroddiad Ymgynghori

2.1 Mae’n rhaid i’r Adroddiad Ymgynghori egluro sut mae’r Ymgeisydd wedi cydymffurfio â gofynion yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio a bennwyd yn Neddf Cynllunio 2008; yn benodol:

  • Y gofyniad i ymgynghori ag ymgyngoreion rhagnodedig (adran 42);
  • y gofyniad i ymgynghori â’r gymuned (adran 47);
  • y gofyniad i gyhoeddi’r cais arfaethedig (adran 48); a’r
  • gofyniad i roi ystyriaeth i’r ymatebion i’r ymgynghoriad (adran 49).

2.2 Hefyd, dylai’r adroddiad egluro’r ymgynghori anstatudol sy’n mynd rhagddo y tu allan i ofynion Deddf Cynllunio 2008 fel bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cael dealltwriaeth o’r holl weithgarwch ymgynghori sy’n berthnasol i brosiect arbennig.

2.3 Dylai ymgeiswyr, yn ogystal, ddefnyddio’r Adroddiad Ymgynghori i ddangos cydymffurfiaeth ag adran 50 Deddf Cynllunio 2008 (y ddyletswydd i roi ystyriaeth i unrhyw ganllawiau statudol a gyhoeddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol) trwy ddangos sut y dilynwyd canllawiau statudol perthnasol. Lle mae ymgeisydd wedi gwyro oddi wrth unrhyw ganllawiau, dylid cyfiawnhau hyn yn gadarn yn yr Adroddiad Ymgynghori.

3. Fformat a chynnwys yr Adroddiad Ymgynghori

3.1 O ystyried amrywiaeth y prosiectau a all ddefnyddio proses Deddf Cynllunio 2008, nid yw’n briodol i’r Arolygiaeth Gynllunio gyhoeddi cyngor rhagnodol ‘un ateb sy’n addas i bawb’. Fodd bynnag, ar sail profiad, mae’r cyngor canlynol yn nodi rhai canllawiau ynglŷn â fformat a strwythur, a allai fod o gymorth.

Testun cyflwyniadol

3.2 Dylai testun cyflwyniadol ddarparu trosolwg sy’n cynnwys:

  • Crynodeb o’r gweithgareddau ymgynghori a gynhaliwyd; a
  • thabl neu linell amser yn crynhoi’r ymgynghori statudol ac anstatudol mewn trefn gronolegol.

3.3 Dylai’r adran hon egluro’r berthynas rhwng unrhyw gam opsiynau strategol cychwynnol, unrhyw ymgynghoriad anstatudol dilynol y gellid fod wedi’i gynnal, a’r ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd o dan Ddeddf Cynllunio 2008.

3.4 Mae llawer o Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) yn datblygu dros gyfnod amser estynedig, gan roi’r gorau i gynigion blaenorol y gellid fod wedi ymgynghori arnynt bryd hynny; os felly, byddai disgrifiad byr o unrhyw weithgarwch ymgynghori hanesyddol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth sydd ar gael ynglŷn â graddfa a natur yr ymateb bryd hynny, o ddiddordeb. Nid yw hanes cynllunio manwl o’r safle yn angenrheidiol yn yr adroddiad hwn.

Ymgyngoriadau aml-gam

3.5 Lle’r oedd yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio yn cynnwys mwy nag un cam ymgynghori statudol, yna mae’n ddefnyddiol fel arfer i adlewyrchu hyn yn strwythur yr adroddiad. Fel hyn, gellir cyflwyno pob cam ymgynghori a’u hegluro’n gronolegol mewn pennod neu adran ar wahân o’r adroddiad, gan gynnwys unrhyw ymgynghori anstatudol a fu. Gall hyn gynnwys atodlenni cryno ar wahân o atebion i’r ymgynghoriad hefyd.

Dyletswydd i ymgynghori (a42)

3.6 Dylai’r adroddiad gynnwys rhestr o’r holl bobl a chyrff yr ymgynghorwyd â nhw, a pha bryd yr ymgynghorwyd â nhw.

3.7 Mae’n ddefnyddiol os yw’r rhestr wedi’i threfnu yn ôl haen ymgyngoreion adran 42 a amlinellir isod, ochr yn ochr â’r dyddiadau yr ymgynghorwyd â nhw. Mae cyngor penodol ynglŷn â natur y wybodaeth sydd i’w darparu mewn perthynas â phob haen wedi’i hamlinellu isod hefyd.

Ymgyngoreion rhagnodedig (a42(1)(a), a42(1)(aa) ac a42(1)(c)

3.8 Dylai’r rhestr o sefydliadau rhagnodedig ddilyn y drefn y’u cyflwynwyd yn Atodlen 1 i Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009 (Rheoliadau APFP). Dylid cyfiawnhau’n gadarn unrhyw amrywiadau rhwng rhestr yr Ymgeisydd o ymgyngoreion rhagnodedig a’r rhestr o sefydliadau a amlinellwyd yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau APFP.

3.9 Lle bo’n berthnasol, dylai’r rhestr o ymgyngoreion rhagnodedig gynnwys y Sefydliad Rheoli Morol hefyd – a42(1)(aa) ac Awdurdod Llundain Fwyaf – a42(1)(c).

Awdurdodau lleol perthnasol – a42(1)(b)

3.10 Ylid cynnwys disgrifiad byr o’r modd y mae a43 Deddf Cynllunio 2008 wedi’i chymhwyso er mwyn nodi’r awdurdodau lleol perthnasol. Gellid ategu hyn gyda map sy’n dangos y safle ac yn nodi ffiniau’r awdurdodau lleol perthnasol.

Unigolion a chanddynt fuddiant yn y tir – a42(1)(d)

3.11 Mae’n rhaid i’r Ymgeisydd ddangos yr ymgymerwyd ag ymholiad dyfal i nodi unigolion o dan a44 Deddf Cynllunio 2008 ac i sicrhau bod Llyfr Cyfeirio diweddar yn cael ei gyflwyno. Yn y cyd-destun hwnnw, mae’n ddefnyddiol amlinellu’r fethodoleg ar gyfer nodi unigolion yng Nghategori 3 (y rheiny a all wneud hawliad perthnasol).

3.12 Dylai’r Adroddiad Ymgynghori egluro faint o unigolion â buddiant yn y tir yr ymgynghorwyd â nhw, o dan pa gategori a pha bryd. Nid yw’n angenrheidiol rhestru enwau’r holl unigolion a nodwyd yn y Llyfr Cyfeirio.

3.13 Os ychwanegwyd unigolion ychwanegol a chanddynt fuddiant yn y tir yn dilyn newidiadau i ffin y prosiect yn ystod y cam cyn-ymgeisio, mae’n ddefnyddiol i ddisgrifio:

  • Faint o unigolion ychwanegol a chanddynt fuddiant yn y tir yr ymgynghorwyd â nhw;
  • pa bryd yr ymgynghorwyd â nhw;
  • sut yr ymgynghorwyd â nhw; a
  • â pha wybodaeth yr ymgynghorwyd â nhw.

Dyletswydd i ymgynghori â’r gymuned leol (a47)

3.14 Mae angen i’r Ysgrifennydd Gwladol fod yn fodlon fod yr Ymgeisydd wedi cydymffurfio â’r broses paratoi Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned (SoCC). Dylid cyflwyno tystiolaeth fel rhan o’r Adroddiad Ymgynghori sy’n dangos:

  • Pa awdurdodau lleol yr ymgynghorwyd â nhw ynglŷn â chynnwys y SoCC drafft;
  • beth oedd sylwadau’r awdurdodau lleol;
  • cadarnhad y rhoddwyd 28 diwrnod i’r awdurdodau lleol i ddarparu’u sylwadau; a
  • disgrifiad ynghylch sut yr oedd yr Ymgeisydd wedi ystyried sylwadau’r awdurdodau lleol.

3.15 Ar ôl i Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Cyhoeddi a Hysbysu ynghylch Ceisiadau etc.) (Diwygio) 2020 (Rheoliadau 2020) ddod i rym, nid oes angen i Ymgeiswyr roi copïau papur o’r SoCC ar adnau mewn lleoliadau yng nghyffiniau’r Datblygiad Arfaethedig mwyach. Yn lle hynny, dylai Ymgeiswyr drefnu bod y SoCC ar gael i’w archwilio ar-lein. Dylid darparu tystiolaeth fod hyn wedi’i wneud yn yr Adroddiad Ymgynghori, er enghraifft, sgrin-lun o’r dudalen we berthnasol yn dangos y SoCC cyhoeddedig (gan gynnwys cyfeiriad llawn y wefan a rhif ffôn perthnasol ar gyfer ymholiadau, fel y mynnir gan Reoliadau 2020) a chadarnhad bod y cyhoedd yn gallu cael mynediad i’r dudalen we yn ddi-dâl.

3.16 Dylid darparu copïau o’r hysbysiad SoCC cyhoeddedig fel yr ymddangosodd yn y wasg leol ynghyd â chadarnhad ym mha bapurau newydd lleol y’i cyhoeddwyd ynddynt a pha bryd. Os nad yw sgan o hysbysiad yn glir, yna gellir ei ategu â dogfen yn cynnwys testun yr hysbysiad. Lle nad oedd modd rhoi hysbysiad SoCC mewn papur newydd printiedig, yna dylid darparu sgrin-lun o’r hysbysiad fel y’i cyhoeddwyd mewn cyhoeddiad papur newydd lleol ar-lein (gan gynnwys cyfeiriad llawn y wefan a rhif ffôn perthnasol ar gyfer ymholiadau, fel y mynnir gan Reoliadau 2020), gan sicrhau bod y dyddiad cyhoeddi yn weladwy.

3.17 Lle paratowyd mwy nag un SoCC ar gyfer prosiect, e.e. lle’r oedd SoCC yn destun un neu fwy o ddiweddariadau, dylai’r SoCC neu’r SoCCau diweddaredig gael eu cynnwys gyda’i gilydd gyda naratif ynglŷn â pham y cafodd y SoCC blaenorol ei adolygu a’i ddiweddaru.

3.18 Lle ceir unrhyw anghysonderau rhwng y SoCC a’r ymgynghoriad a gynhaliwyd, dylid esbonio hyn yn eglur a’i gyfiawnhau e.e. lle cynhaliwyd ymgynghori pellach nad oedd wedi’i gynnwys yn y SoCC neu SoCCau.

Dyletswydd i roi cyhoeddusrwydd (a48)

3.19 Dylid cynnwys copi wedi’i sganio o’r hysbysiad a48 fel yr ymddangosodd yn y papurau newydd a chyfnodolion lleol a chenedlaethol, yn dangos yn glir enw’r cyhoeddiad a’r dyddiad cyhoeddi, yn yr adroddiad. Os yw’r sgan o ansawdd gwael, dylid ategu hyn gyda chopi o’r testun. Dylid cynnwys disgrifiad o ble y cyhoeddwyd yr hysbysiad, a chadarnhad o’r cyfnod amser a roddwyd ar gyfer ymatebion, yn yr adroddiad.

3.20 Lle nad oedd modd rhoi’r hysbysiad mewn papurau newydd printiedig, yna dylid darparu sgrin-lun o’r hysbysiad fel y’i cyhoeddwyd mewn cyhoeddiadau papur newydd ar-lein (gan gynnwys cyfeiriad llawn y wefan a rhif ffôn perthnasol ar gyfer ymholiadau, fel y mynnir gan Reoliadau 2020), gan sicrhau bod y dyddiad cyhoeddi yn weladwy.

3.21 Dylai ymgeiswyr ddarparu cadarnhad bod yr hysbysiad a48 wedi’i anfon at gyrff ymgynghori’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (AEA) ar yr un pryd ag y cyhoeddwyd yr hysbysiad. Gweler Rheoliad 13 o’r Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017 (y Rheoliadau AEA).

Ymgynghori ac ymgysylltu anstatudol

3.22 Gallai ymgeiswyr fod wedi bod yn rhan o ymgynghori anstatudol e.e. gellid fod wedi ymgynghori’n gynnar gyda chyrff statudol wrth nodi opsiynau a chyn ymgynghoriad statudol o dan ddarpariaethau Deddf Cynllunio 2008. Hefyd, gallai ymgeiswyr fod wedi bod yn rhan o ymgynghori anstatudol a gynhelir ar ôl yr ymgynghoriad statudol yn dilyn newidiadau a wnaed i’r prosiect.

3.23 Mewn amgylchiadau lle’r hysbyswyd ymgyngoreion statudol am newidiadau ansylweddol i’r prosiect, dylid adrodd am hyn hefyd. Byddai’n fuddiol hefyd darparu sail resymegol fer ynglŷn â pham yr ystyriwyd bod y newidiadau yn ansylweddol, ac eglurhad o’r modd yr hysbyswyd ymgyngoreion. Lle dewiswyd ond rhai ymgyngoreion i’w hysbysu ynglŷn â newid, cyfiawnhewch hyn.

3.24 Dylid dweud yn eglur am unrhyw ymgynghoriad na chynhaliwyd o dan ddarpariaethau Deddf Cynllunio 2008, a nodi hynny ar wahân. Dylai ymgeiswyr ddisgrifio’r ymgynghoriad anstatudol a gynhaliwyd gyda’r un lefel manylder â’r ymgynghoriad statudol. Er nad yw’n angenrheidiol i’r Ymgeisydd ddangos sut mae wedi ystyried sylwadau’r ymgyngoreion a wnaed mewn ymateb i ymgynghoriad anstatudol, mae’n ddefnyddiol deall sut wnaeth sylwadau a dderbyniwyd ddylanwadu ar y prosiect.

3.25 Os cynhelir ymgynghoriad wedi’i dargedu, eglurwch natur a diben yr ymgynghoriad. Er enghraifft, os oedd iddo ffocws daearyddol, pa ymgyngoreion gafodd eu cynnwys a’r sail resymegol am raddfa ddaearyddol yr ymgynghoriad. Os ymgynghorwyd â nifer lai o ymgyngoreion rhagnodedig, eglurwch y sail resymegol am y dewis.

Ymgynghoriad Rheoliadau Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (AEA)

3.26 Mae ymgynghoriad a gynhaliwyd yn rhan o’r broses AEA ar wahân i hwnnw sy’n ofynnol o dan Ddeddf Cynllunio 2008 e.e. ymgynghoriad statudol ar Adroddiad Cwmpasu yn dilyn Cais Cwmpasu i’r Ysgrifennydd Gwladol. Gallai ymgeiswyr ddymuno tynnu sylw at ymatebion i ymgynghoriad a dderbyniwyd o dan y broses AEA, ond dylai unrhyw gyfeiriad at yr ymgynghoriad hwn gael ei gadw ar wahân i’r ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd o dan ddarpariaethau Deddf Cynllunio 2008.

Atodiadau i’r adroddiad

3.27 Dylid defnyddio atodiadau i ddarparu tystiolaeth sy’n dangos bod yr ymgeisydd wedi cydymffurfio â gofynion Deddf Cynllunio 2008. Dylid rhoi ystyriaeth ofalus i strwythur a rhesymeg yr atodiadau fel y gellir cyfeirio’n glir atynt ym mhrif gorff yr adroddiad. Un dull defnyddiol yw cael atodiadau ar wahân ar gyfer pob elfen o’r ymgynghoriad statudol a chyhoeddusrwydd. Lle cynhaliwyd sawl cam ymgynghori, gallai fod yn ddefnyddiol cael atodiad ar gyfer pob cam, wedi’u his-rannu yn drywyddau ymgynghori gwahanol.

3.28 Dylid crynhoi tystiolaeth o ymgynghori anstatudol yn gronolegol mewn atodiad ar wahân.

3.29 Mae defnyddio system gyfeirio sy’n cyfateb i benawdau penodau neu adrannau yn yr adroddiad yn fuddiol hefyd.

3.30 Os derbyniwyd ac adroddwyd ar nifer fawr o ymatebion i’r ymgynghoriad, yna mae’n gwneud synnwyr fel arfer i gynnwys tablau ymatebion cryno mewn atodiad neu atodiadau. Fel arfer mae dull cronolegol sy’n dangos y daith drwy’r ymgynghoriad yn haws i’r darllenydd i’w ddeall a’i lywio.

4. Adrodd am ymatebion i’r ymgynghoriad statudol

4.1 Mae angen dangos y cydymffurfiwyd ag adran 49 Deddf Cynllunio 2008 trwy ddarparu tystiolaeth fod ymatebion i’r ymgynghoriad wedi cael ystyriaeth wrth baratoi’r cais.

Dull a arweinir gan faterion

4.2 Os cafwyd llawer iawn o ymatebion, fe allai fod yn briodol eu grwpio o dan brif faterion. Wrth wneud hyn, mae’n rhaid gofalu nad yw’r ymatebion yn cael eu cyflwyno mewn ffordd gamarweiniol neu allan o gyd-destun safbwyntiau gwreiddiol yr ymgynghorai. Mae esboniad o’r broses a ddefnyddiwyd i grwpio a threfnu (codio) ymatebion i’r ymgynghoriad yn ddefnyddiol, gan gynnwys unrhyw fesurau diogelu a chroesgyfeirio a gynhaliwyd i sicrhau bod yr ymatebion wedi eu grwpio’n briodol.

Crynodeb o’r ymatebion

4.3 Dylid darparu crynodeb o’r ymatebion unigol a dderbyniwyd a’u categoreiddio mewn ffordd briodol.

4.4 Gall crynodeb o ymatebion, os caiff ei lunio’n dda, arbed llawer o destun esboniadol.

4.5 Dylai’r crynodeb o’r ymatebion nodi sylwadau sy’n berthnasol (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) i newidiadau a wnaed i’r prosiect yn ystod y cam cyn-ymgeisio. Er enghraifft, newidiadau i leoliad, llwybr, dyluniad, ffurf neu raddfa’r cynllun ei hun, neu i fesurau lliniaru neu wneud iawn a gynigiwyd.

4.6 Hefyd, mae’n angenrheidiol egluro pam y mae ymatebion heb arwain at newid, gan gynnwys lle derbyniwyd ymatebion ar ôl dyddiadau cau a bennwyd gan yr Ymgeisydd.

5. Dulliau ymgynghori rhithwir

5.1 Os oedd dulliau ymgynghori rhithwir wedi’u cynllunio, yna dylid adlewyrchu hyn yn y SoCC. Yn y ffordd arferol, byddid wedi ymgynghori â’r awdurdodau lleol perthnasol ynglŷn â hyn, a bydd eu hadborth wedi’i adrodd yn yr Adroddiad Ymgynghori.

5.2 Lle defnyddiwyd dulliau ymgynghori rhithwir fel adwaith i amgylchiadau allanol, yna mae’n bwysig bod barnau’r awdurdodau lleol perthnasol yn cael eu nodi yn yr Adroddiad Ymgynghori. Os na chafodd y SoCC ei adolygu a’i ddiweddaru o dan ddarpariaethau Deddf Cynllunio 2008, yna dylid cyfiawnhau hyn yn yr Adroddiad Ymgynghori gan gyfeirio ar farnau’r awdurdodau lleol perthnasol ynglŷn â’r dull a fabwysiadwyd.

5.3 Yn gyffredinol, lle mae dulliau ymgynghori rhithwir wedi’u cynllunio, yna dylai’r SoCC egluro unrhyw fesurau lliniaru sydd wedi’u rhoi ar waith ar gyfer unrhyw aelodau o’r gymuned sydd dan anfantais ddigidol e.e. defnyddio cymorthfeydd ffôn.

6. Cais i Ymgeisydd ddarparu ymatebion i’r ymgynghoriad

6.1 Os oes ansicrwydd ynglŷn â phu’n a yw’r ddyletswydd i ystyried ymatebion i’r ymgynghoriad wedi’i bodloni, mae’n bosibl y gofynnir i’r Ymgeisydd ddarparu copi o unrhyw ymatebion ymgynghori statudol a dderbyniwyd, neu’r holl ymatebion. Byddai ymgeiswyr yn ddoeth i baratoi ar gyfer y posibilrwydd hwn oherwydd y raddfa amser dynn yn ystod y cam derbyn. Cyfrifoldeb yr Ymgeisydd yw sicrhau y gellir darparu copïau o ymatebion i’r ymgynghoriad mewn modd amserol, gan ystyried unrhyw rwymedigaethau sydd gan yr Ymgeisydd o dan y ddeddfwriaeth diogelu data. Ni ellir gohirio nac ymestyn y cam derbyn tra disgwylir i’r ymatebion i’r ymgynghoriad gael eu cyflwyno.

7. Diogelu Data a chanllawiau golygu

7.1 Mae’n rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod yr Adroddiad Ymgynghori’n cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data e.e. bod data unigolion yn cael ei drin yn briodol. Gallai hyn gynnwys golygu data personol, data sensitif/categori arbennig a/neu gael cydsyniad gwybodus gan yr unigolion dan sylw fel y bo’n briodol.

7.2 Fel canllaw cyffredinol, dylai ymgeiswyr osgoi cynnwys yr eitemau canlynol mewn Adroddiad Ymgynghori neu dylent eu golygu cyn ei gyflwyno:

  • Cyfeiriadau cartref preifat unigolion neu wybodaeth a allai arwain at adnabod lleoliad unigolyn preifat.
  • Cyfeiriadau e-bost preifat a rhifau ffôn unigolion.
  • Data sensitif neu gategori arbennig o fewn ystyr Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU.
  • Llofnodion ysgrifenedig.
  • Ffotograffau o wynebau unigolion nad ydynt wedi rhoi cydsyniad i gyhoeddi delwedd ohonynt, gan gynnwys lluniau a dynnwyd mewn digwyddiadau ymgynghori.
  • Gwybodaeth a allai arwain at adnabod lleoliad penodol rhywogaeth a warchodir.