SP Mid Wales (Electricity) Connections Project (SP Manweb)

Beth fydd yn digwydd nesaf

Nid yw’r Ymgeisydd wedi gosod amserlen hyd yn hyn ar gyfer y prosiect hwn.

Ar ôl derbyn y cais, bydd gan yr Arolygiaeth Gynllunio 28 diwrnod i adolygu’r cais a phenderfynu p’un ai i’w dderbyn ai peidio ar gyfer archwiliad.

Os derbynnir y cais, byddwn yn cadarnhau’r amserlen i bobl allu cofrestru i ddod yn Barti â Buddiant drwy wneud Sylw Perthnasol.

Os derbynnir y cais, byddwn yn:

  • Cyhoeddi holl ddogfennau’r cais ar dudalen y prosiect hwn.
  • Cyhoeddi o ba ddyddiad y byddwch yn gallu cofrestru i roi eich achos ar y cais.
  • Cyhoeddi’r dyddiad cau’r cyfnod cofrestru.