Ffioedd gwneud cais

Codir tâl ar ymgeiswyr ar gyfer:

  • Awdurdodi yn unol ag adrannau 52 a 53, yn cael gwybodaeth am fuddiannau yn y tir a hawliau mynediad
  • Costau lleoliadau lle nad yw’r datblygwr yn darparu lleoliad ar gyfer gwrandawiad
  • Ffi ynghyd â’r cais
  • Ffi Cyn-archwiliad yn dilyn penodiad yr Arolygydd(wyr) a ddewiswyd yn wreiddiol i archwilio’r cais
  • Ffi mewn perthynas â’r cais cychwynnol
  • Tâl cychwynnol mewn perthynas ag ymdrin â chais
  • Tâl terfynol mewn perthynas ag ymdrin â chais

Ffioedd o 1 Ebrill 2023

Mae’r tabl isod yn dangos y ffioedd sy’n daladwy o 1 Ebrill 2023 ar gyfer ceisiadau presennol a newydd. Gellir weld Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ffioedd) 2010 a diwygiadau dilynol yn legislation.gov.uk.

DisgrifiadFfi
Ffioedd mewn perthynas â cheisiadau am awdurdodiad o dan adrannau 52 a 53
Cais am awdurdodiad o dan adran 52(2) (gwybodaeth am fuddiannau mewn tir).£1,835
Cais am awdurdodiad o dan adran 53(1) (hawliau mynediad).£1,835
Ffi i gyd-fynd â’r cais
Rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio godi ffi ar yr Ymgeisydd mewn perthynas â’r penderfyniad gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 55 (Derbyn ceisiadau) p’un ai y dylid derbyn y cais ai peidio. Rhaid cyflwyno’r ffi gyda’r cais.£8,244
Ffi Cyn ArchwilioYn dilyn penderfyniad o dan adran 61 (Dewis Cychwynnol o Banel neu Arolygydd unigol) rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio roi gwybod i’r Ymgeisydd yn ysgrifenedig am y ffi Cyn Archwilio. Mae’r ffioedd Cyn Archwilio fel a ganlyn: -
  • Arolygydd Unigol
  • Panel o ddau Arolygydd
  • Panel o dri Arolygydd
  • Panel o fwy na thri Arolygydd
  • £23,863
  • £39,464
  • £55,065
  • £78,926
*Taliad cychwynnol mewn perthynas â thrin caisMae’r ffi’n dibynnu ar y nifer o ddyddiau yr amcangyfrifir y bydd yn ofynnol ar gyfer archwilio’r cais a’r nifer o Arolygwyr a fydd yn trin y cais.

  • Lle caiff archwiliad ei drin gan Arolygydd unigol


  • Lle caiff archwiliad ei drin gan Banel o ddau Arolygydd




  • Lle caiff archwiliad ei drin gan Banel o dri Arolygydd





  • Lle caiff archwiliad ei drin gan Banel o fwy na thri Arolygydd
  • £1,129 y diwrnod perthnasol a amcangyfrifir

  • £1,795 y diwrnod perthnasol a amcangyfrifir


  • £2,460 y diwrnod perthnasol a amcangyfrifir


  • £3,745 y diwrnod perthnasol a amcangyfrifir
Taliad terfynol mewn perthynas â thrin cais
Yn dilyn hysbysiad o gwblhau’r cam Archwilio o dan adran 99.
Mae’r taliad terfynol yn dibynnu ar y nifer o ddyddiau fu eu hangen mewn gwirionedd ar gyfer yr archwiliad:-

  • Lle archwiliwyd y cais gan Arolygydd unigol


  • Lle archwiliwyd y cais gan Banel o ddau Arolygydd


  • Lle archwiliwyd y cais gan Banel o dri Arolygydd


  • Lle archwiliwyd y cais gan Banel o fwy na thri Arolygydd
  • £2,258 y diwrnod perthnasol*


  • £3,590 y diwrnod perthnasol*

  • £4,919 y diwrnod perthnasol*

  • £7,490 y diwrnod perthnasol*

*Wedi tynnu’r tâl cychwynnol

Mae manylion am y ffioedd ar gyfer ceisiadau a gyflwynwyd cyn 1 Ebrill 2020 ar gael ar ein tudalen ffioedd archifol.