Am y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol

Mae’r wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol yn darparu gwybodaeth am Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r wefan hon yn rhestru’r holl brosiectau sy’n bodloni’r trothwyon sydd wedi’u hamlinellu yn Rhan 3 Deddf Cynllunio 2008 (DC2008), neu sydd wedi’u cyfeirio at y broses dan adran 35 DC2008 lle:

  • mae ymgeisydd wedi rhoi gwybodaeth i’r Arolygiaeth Gynllunio ei fod yn bwriadu gwneud cais am ganiatâd datblygu;
  • mae cais wedi’i wneud ac mae’n mynd trwy’r broses caniatâd datblygu; neu
  • mae cais wedi’i benderfynu.

Os caiff prosiect ei dynnu’n ôl gan ddatblygwr, bydd tudalen y prosiect ar gael am:

  • dri mis ar ôl y dyddiad y’i tynnwyd yn ôl, os na dderbyniwyd cais; neu
  • un flwyddyn ar ôl y dyddiad y’i tynnwyd yn ôl, os derbyniwyd cais.

Ar ôl yr amserlenni hyn, caiff tudalen y prosiect ei thynnu oddi ar y wefan. Bydd y Gofrestr ceisiadau yn parhau i ddangos y dyddiad y cafodd y cais ei dderbyn, a bydd y Gofrestr cyngor yn parhau i ddangos unrhyw gyngor a roddwyd gennym ar gyfer prosiectau a dynnwyd yn ôl.

Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan yr Arolygiaeth Gynllunio, sef asiantaeth y llywodraeth sy’n gyfrifol am archwilio ceisiadau ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol a gwneud argymhellion yn eu cylch.

Rydym yn croesawu adborth ar ddefnyddioldeb wrth i ni barhau i wella’r profiad i ddefnyddwyr. Anfonwch eich sylwadau at [email protected].

Defnyddio tudalennau’r prosiectau

Mae gan bob prosiect ei dudalen we ei hun sy’n dangos gwybodaeth a dogfennau allweddol. Caiff y dudalen ei chreu pan gaiff yr Arolygiaeth Gynllunio ei hysbysu y caiff cais ei gyflwyno yn y dyfodol, a chaiff ei diweddaru’n rheolaidd wrth i’r prosiect symud ymlaen trwy amrywiol gamau proses Deddf Cynllunio 2008.

Dod o hyd i brosiect

Gallwch ddod o hyd i brosiectau fel a ganlyn:

  • Chwilio yn ôl yr enw – Os ydych chi’n gwybod beth yw enw’r prosiect, gallwch ddefnyddio’r maes chwilio ar yr Hafan neu’r dudalen Prosiectau.
  • Defnyddio’r map – Defnyddiwch y map ar y dudalen Prosiectau i ddod o hyd i’r prosiect.
  • Chwilio yn ôl rhanbarth – Mae pob tudalen rhanbarthol yn dangos pob prosiect yn yr ardal honno.
  • Cael y wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau

Gallwch gael gwybod sut mae cais yn dod yn ei flaen mewn sawl ffordd:

  • Os yw prosiect wedi’i dderbyn i’w archwilio a bod y cyfnod Sylwadau Perthnasol ar agor, gallwch gofrestru’n Barti â Buddiant – i wneud hynny, mae angen i chi gyflwyno sylw i’r Arolygiaeth Gynllunio ar yr adeg briodol. Caiff eich sylwadau eu hystyried yn ystod y cyfnod Archwilio. Mae Partïon â Buddiant yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr Archwiliad trwy’r e-bost neu’r post. Gweler Nodyn Cyngor 8.1: Sut i gofrestru i gymryd rhan mewn Archwiliad am ragor o wybodaeth.
  • Tanysgrifio i’n ffrwd prosiectau – mae’r ffrwd RSS prosiectau yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf pa bryd bynnag y bydd prosiectau’n cyrraedd carreg filltir. Bydd hyn yn eich helpu i gadw golwg ar geisiadau newydd, penderfyniadau ar geisiadau a’r camau rhwng y rhai hynny.
  • Tanysgrifio i gael hysbysiadau e-bost ar unrhyw adeg – ar dudalen trosolwg pob prosiect, gallwch danysgrifio i gael hysbysiadau e-bost ar gyfer digwyddiadau allweddol sy’n digwydd ar ôl i gais gael ei gyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio.Mae ffrydiau’n eich galluogi i weld pan fydd cynnwys newydd wedi’i ychwanegu at y wefan er mwyn i chi gael y wybodaeth ddiweddaraf mewn un lle.
  • Ynglŷn â ffrydiau RSS

Ystyr ‘RSS’ yw ‘Syndicetiad Syml Iawn’ (Really Simple Syndication), a ffrwd wybodaeth ydyw, yn y bôn, sy’n cael ei darllen gan gyfrifiadur a’i throsi i wefan fel crynodeb o wybodaeth.

Mae’r wefan hon yn cynnig ffrwd RSS ar gyfer y newyddion diweddaraf am brosiectau, a bydd yn rhoi gwybod i danysgrifwyr pan fydd digwyddiad allweddol mewn perthynas â’n ceisiadau byw.

I  ddefnyddio’r ffrwd, bydd angen i chi fod yn defnyddio porwr modern. Fel arfer, gallwch osod dalennod ar gyfer eich hoff ffrwd er mwyn i chi weld y cynnwys diweddaraf yn hawdd. Hefyd, gallwch weld ffrydiau trwy ddarllenwyr newyddion ar y we neu ddarllenwyr newyddion bwrdd gwaith, sydd ar gael yn rhad ac am ddim, yn nodweddiadol.