Nodyn Cyngor 8.1 – Ymateb i ymgynghoriad y datblygwr cyn gwneud cais

Mae’r cyngor hwn wedi’i fwriadu ar gyfer y gymuned leol i’w helpu i ddeall ymgynghoriad y datblygwr cyn gwneud cais a chymryd rhan ynddo.

Neidio i’r adran:

  1. Y broses ymgynghori cyn gwneud cais
  2. Ymgynghoriad anstatudol
  3. Ymgynghoriad statudol â’r gymuned leol
  4. Y Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned (SOCC)
  5. Ymgynghoriad statudol â chyrff arbenigol
  6. Cyhoeddusrwydd statudol
  7. Pwy sy’n gyfrifol am gynnal yr ymgynghoriad cyn gwneud cais?
  8. Yr Adroddiad Ymgynghori
  9. Beth fydd yn digwydd nesaf?
  10. Sut i gael gwybod am y prosiect
  11. Trosolwg o’r broses NSIP
  12. Cyfres Nodiadau Cyngor 8

1. Y broses ymgynghori cyn gwneud cais

1.1 Mae’r broses yn dechrau cyn i gais gael ei gyflwyno. Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol i ddatblygwr y Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) gynnal ymgynghoriad ar y datblygiad arfaethedig cyn gwneud cais.

1.2 Mae ymgysylltu’n effeithiol yn arwain at geisiadau y mae’r gymuned leol yn eu deall yn well. Mae ymgysylltu’n gynnar yn rhoi cyfle i ddatblygwyr ddatrys neu leihau’r effeithiau sy’n cael eu hachosi gan waith adeiladu a gweithredu’r NSIP cyn cyflwyno’r cais.

1.3 Daw’n anoddach gwneud newidiadau sylweddol i gais ar ôl ei gyflwyno. Felly, ymateb i ymgynghoriad y datblygwr yn y cam cyn gwneud cais yw’r adeg orau i ddylanwadu ar y prosiect a dweud eich dweud ynghylch p’un a ydych yn cytuno ag ef, yn anghytuno ag ef neu’n credu y gellid ei wella.

1.4 Mae’n bwysig cofio nad “y cais” yw’r deunydd ymgynghori sy’n cael ei gyflwyno gan y datblygwr yn ystod y cam cyn gwneud cais. Bwriad y broses cyn gwneud cais yw caniatáu i’r datblygwr gasglu gwybodaeth ddefnyddiol gan y cyhoedd a phobl eraill a fydd yn dylanwadu ar baratoi’r cais a fydd yn cael ei gyflwyno yn y pen draw. Rhaid i’r deunydd ymgynghori sy’n cael ei gyflwyno fod yn glir ac yn addysgiadol, ond nid yw’n fersiwn ddrafft o’r cais o reidrwydd. Efallai y bydd gan rai datblygwyr fwy nag un cam ymgynghori cyn gwneud cais er mwyn caniatáu i’r cyhoedd a phobl eraill wneud sylwadau ar y prosiect a dylanwadu arno wrth iddo esblygu.

1.5 Gall y gweithgareddau ymgynghori cyn gwneud cais gynnwys ymgynghoriad ‘anstatudol’ a ‘statudol’.

2. Ymgynghoriad anstatudol

2.1 Er yn ddewisol, caiff datblygwyr eu hannog i gynnal ymgynghoriad cychwynnol cyn gynted ag y bydd digon o fanylion i roi cyfle gwirioneddol i gymunedau lleol ddylanwadu ar y datblygiad arfaethedig.

2.2 Nod ymgynghoriad anstatudol cynnar yw caniatáu i gymunedau lleol a phobl eraill gael dealltwriaeth well o’r prosiect a’i effeithiau posibl. Mae hefyd yn caniatáu i gymunedau lleol leisio eu barn a dylanwadu ar y prosiect yn ei gamau cynnar. Mae gwybodaeth leol am yr ardal yn chwarae rhan bwysig yn yr ymgynghoriad cyn gwneud cais ac ar hyd y broses ymgeisio. Gallai adborth sy’n cael ei dderbyn helpu datblygwyr i eithrio dewisiadau anaddas a lleihau’r effeithiau ar y gymuned leol, lle bo hynny’n bosibl.

3. Ymgynghoriad statudol â’r gymuned leol

3.1 Mae hyn yn ofynnol ac fel arfer yn cael ei wneud yn nes at adeg cyflwyno’r cais. Yn ystod y cam hwn, mae’r prosiect yn debygol o fod yn fwy diffiniedig, er y dylai’r datblygwr gadw’r hyblygrwydd i newid y datblygiad ar sail adborth o’r ymgynghoriad. Mae gan ddatblygwyr ddyletswydd gyfreithiol i ddangos eu bod wedi ystyried ymatebion i’r ymgynghoriad yn ystod y cam hwn, er nad yw hynny’n golygu bod rhaid iddynt gytuno â’r holl safbwyntiau sy’n cael eu cyflwyno iddynt yn yr ymatebion a geir, o reidrwydd.

3.2 Mae gan y datblygwr ddeialog ddwy ffordd gyda’r canlynol:

  • Y Cyhoedd
  • Cynghorau Plwyf
  • Cyrff Cadwraeth Natur Statudol
  • Ymgynghorwyr Statudol
  • Grwpiau Ymgyrch
  • Awdurdodau Lleol
  • Tirfeddianwyr a thenantiaid
  • Sefydliadau eraill

3.3 Mae Cyngor Arolygiaeth Cynllunio ar gael i bawb.

4. Y Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned

4.1 Cyn dechrau ymgynghori, rhaid i’r datblygwr baratoi strategaeth ymgynghori o’r enw’r Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned. Nid oes unrhyw ffurf ragnodedig ar gyfer y Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned oherwydd rhaid iddo adlewyrchu amgylchiadau unigryw pob cais a phob cymuned/ardal.

4.2 Mae awdurdod lleol yn debygol o fod â’r wybodaeth gyffredinol orau am ei ardal, ac felly mae ei farn ar Ddatganiad Ymgynghori â’r Gymuned datblygwr yn bwysig. Mae’n ofynnol i’r datblygwr anfon copi o’r Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned drafft at yr awdurdodau lleol perthnasol, ac ystyried unrhyw sylwadau ynghylch y strategaeth ymgynghori arfaethedig a wneir gan yr awdurdod lleol perthnasol, cyn llunio’r ddogfen derfynol.

4.3 Wedi i’r Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned gael ei gadarnhau, caiff hysbysebion eu cyhoeddi gan y datblygwr mewn papur newydd lleol yn esbonio lle gall y cyhoedd ei weld.

4.4 Rhaid i ddatblygwyr gynnal eu hymgynghoriad cyn gwneud cais â’r gymuned leol yn unol â’r Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned. Efallai y bydd angen i’r datblygwr gynnal ymgynghoriad ychwanegol er mwyn ymateb i adborth gan ymgyngoreion neu pan wneir newid sylweddol i’r prosiect. Yn yr amgylchiadau hyn, gall y datblygwr ddiwygio’r Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned a cheisio cytundeb yr awdurdod lleol perthnasol

5. Ymgynghoriad statudol â chyrff arbenigol

5.1 Rhaid i ddatblygwyr ysgrifennu at restr o gyrff arbenigol (a elwir yn ymgyngoreion “rhagnodedig” neu “statudol”) ac anfon gwybodaeth atynt am eu cynnig. Rhaid iddynt roi o leiaf 28 niwrnod i’r ymgyngoreion ymateb. Mae’r awdurdod lleol lletyol ac awdurdodau lleol cyfagos ar y rhestr honno, ynghyd â chyrff eraill fel Asiantaeth yr Amgylchedd, Natural England a Cyfoeth Naturiol Cymru, lle bo hynny’n briodol. Unwaith eto, mae’n ofynnol i’r ymgeisydd ystyried unrhyw ymatebion gan y cyrff hyn.

6. Cyhoeddusrwydd statudol

6.1 Mae hefyd yn ofynnol i ddatblygwyr gyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd lleol a chenedlaethol am 2 wythnos yn olynol. Rhaid i’r hysbysiad ddisgrifio’r prosiect ac esbonio lle y gellir gweld gwybodaeth am y datblygiad arfaethedig, fel cynlluniau a deunydd ymgynghori arall. Hefyd, rhaid i ddatblygwyr bennu’r dyddiad cau i ymateb i’r cyhoeddusrwydd. Mae angen i’r dyddiad cau fod o leiaf 28 niwrnod o’r diwrnod ar ôl iddo gael ei gyhoeddi am y tro olaf.

6.2 Nid oes unrhyw adeg ragnodedig yn ystod y cyfnod cyn gwneud cais pan mae’n rhaid i’r datblygwyr gyhoeddi’r hysbysiad. Eto, rhaid i ddatblygwr ddangos ei fod wedi ystyried sylwadau a wnaed wrth ymateb i’r cyhoeddusrwydd.

7. Pwy sy’n gyfrifol am gynnal yr ymgynghoriad cyn gwneud cais?

7.1 Caiff yr ymgynghoriad cyn gwneud cais ei gynnal gan y datblygwr. Dylech gysylltu â’r datblygwr â’ch safbwyntiau nes i’r cais gael ei wneud a’i gyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio.

7.2 Mae manylion cyswllt y datblygwr i’w gweld ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Hefyd, gallwch ddod o hyd i’r manylion cyswllt sy’n berthnasol i’r ymgynghoriad cyn gwneud cais a fydd yn cael eu cyhoeddi gan y datblygwr mewn papur newydd lleol.

7.3 Mae’r ymgynghoriad cyn gwneud cais yn bwysig iawn oherwydd dyma’ch cyfle i ddylanwadu ar yr hyn y gwneir cais amdano. Hyd yn oed os ydych yn credu na ddylai’r prosiect fynd rhagddo, dylech achub ar y cyfle i esbonio eich pryderon i’r datblygwr er mwyn i’r prosiect, os bydd yn mynd rhagddo, fod cystal ag y gallai fod ac er mwyn i’w effaith ar y gymuned leol a’r amgylchedd gael ei rheoli yn y ffordd orau bosibl. Mae hefyd yn gyfle i chi ddarganfod cymaint ag y gallwch am y prosiect.

7.4 Os oes gennych bryderon am y ffordd y mae’r datblygwr yn cynnal yr ymgynghoriad cyn gwneud cais, dylech roi gwybod iddo cyn gynted â phosibl a rhoi’r cyfle iddo ymateb i unrhyw faterion y byddwch yn eu codi. Gallwch hefyd roi gwybod i’r awdurdod lleol am eich pryderon. Bydd yr Arolygiaeth yn gofyn am farn yr awdurdodau lleol perthnasol ar ddigonolrwydd yr ymgynghoriad pan gaiff y cais ei gyflwyno.

8. Yr Adroddiad Ymgynghori

8.1 Rhaid i bob cais gael ei gyflwyno ag Adroddiad Ymgynghori. Yn y ddogfen hon, rhaid i’r datblygwr (yr ymgeisydd, erbyn hyn) ddangos ei fod wedi cydymffurfio â’r gofynion statudol ynghylch ymgynghori cyn gwneud cais, a’i fod wedi ystyried yr ymatebion.

8.2 Mae’r Adroddiad Ymgynghori yn rhan o’r cais a chaiff ei gyhoeddi ar dudalen y prosiect perthnasol ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol yn fuan ar ôl derbyn y cais.

9. Beth fydd yn digwydd nesaf?

9.1 Ar ôl i gais gael ei gyflwyno, mae gan yr Arolygiaeth Gynllunio 28 niwrnod i benderfynu p’un a yw’r cais o safon foddhaol i’w archwilio ai peidio.

9.2 Ar ôl i gais gael ei gyflwyno, byddwn yn ysgrifennu at yr awdurdodau lleol perthnasol ac yn gofyn am eu barn ynghylch p’un a fu’r ymgynghoriad yn ddigonol ai peidio. Byddwn yn ystyried yr Adroddiad Ymgynghori, ynghyd â digonolrwydd unrhyw sylwadau ymgynghori a wnaed gan awdurdod lleol a dogfennau eraill y cais, cyn penderfynu p’un a fyddwn yn derbyn y cais i’w archwilio ai peidio.

9.3 Os caiff cais ei dderbyn i’w archwilio, cewch gyfle i gofrestru eich diddordeb a chymryd rhan yn yr archwiliad trwy wneud Sylwadau Perthnasol yn ystod y cyfnod trafod. Caiff y cyfnod Sylwadau Perthnasol ei hysbysebu ar dudalen y prosiect perthnasol ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol, ac mewn hysbysiadau a roddir mewn papurau newydd lleol a chenedlaethol gan y datblygwr. Mae Nodyn Cyngor 8.2 yn rhoi mwy o gyngor ar wneud sylwadau perthnasol.

10. Sut i gael gwybod am y prosiect

10.1 Ar ôl cael gwybod am gais NSIP arfaethedig, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn creu tudalen we benodol ar gyfer y prosiect, a fydd i’w gweld yn y Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol gwefan.

10.2 I gael gwybod a oes prosiect arfaethedig yn eich ardal chi, gwiriwch:

  • hysbysiadau mewn papurau newydd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol
  • gwefan y datblygwr
  • â’ch awdurdod lleol neu’r Arolygiaeth Gynllunio
  • y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol

10.3 Ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol, rydym yn cyhoeddi manylion am y cyngor rydym wedi’i roi i’r ymgeisydd a phobl eraill hefyd, ynghyd â’n dealltwriaeth orau o ba bryd y caiff cais ei gyflwyno. Gallwch ddod o hyd i hyn ar dudalen y prosiect perthnasol.

11. Trosolwg o’r broses NSIP

11.1 Pwyntiau allweddol am y broses:

  • Caiff dyluniad a ffurf y prosiect eu penderfynu gan y datblygwr
  • Mae’r cam hwn yn digwydd cyn cyflwyno cais
  • Gallwch ddylanwadu ar y prosiect trwy gyfrannu at yr ymgynghoriad cyn gwneud cais
  • Rhaid i’r datblygwr ystyried yr ymatebion i’w ymgynghoriad statudol
  • Caiff y cais ei dderbyn i’r archwilio os yw wedi’i baratoi i safon foddhaol
  • Bydd yr Archwiliad yn ystyried p’un a ddylid rhoi caniatâd i’r prosiect ai peidio, ar y ffurf y gwnaed cais amdano

11.2 Mae’r ymgynghoriad cyn gwneud cais yn rhywbeth y mae’n ofynnol i ddatblygwr ei wneud yn ôl y gyfraith, ac mae’n cynnwys:

  • Ymgynghori â’r gymuned leol Rhaid cyhoeddi Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned, sy’n amlinellu sut yr ymgynghorir â chymunedau. Bydd hysbysebion mewn papurau newydd lleol yn rhoi gwybod i chi ble y gallwch ei archwilio. Rhaid i’r ymgeisydd wneud yr hyn y mae’n ymrwymo i’w wneud yn ei Ddatganiad Ymgynghori â’r Gymuned.
  • Ymgynghori ag ymgyngoreion technegol (cyrff rhagnodedig) Mae rhestr o sefydliadau a phobl eraill wedi’i phennu mewn rheoliadau y mae’n rhaid ymgynghori â nhw mewn amgylchiadau penodol, fel Asiantaeth yr Amgylchedd, y cyngor lleol a’r rhai sydd â thir neu fuddiannau mewn tir y gellir effeithio arno. Rhaid i’r datblygwr anfon gwybodaeth at y partïon hyn a rhoi 28 niwrnod iddynt ymateb.
  • Rhoi cyhoeddusrwydd i’r cais arfaethedig Rhaid i’r datblygwr gyhoeddi hysbyseb mewn papurau newydd lleol a chenedlaethol, ac esbonio ble y gellir archwilio dogfennau a sut gall y cyhoedd gyflwyno sylwadau i’r datblygwr ar y prosiect arfaethedig.

12. Cyfres Nodiadau Cyngor 8

12.1 Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi llunio cyfres o Nodiadau Cyngor anstatudol am ystod o faterion proses. Mae’r rhain ar gael i’w lawrlwytho ar wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol.

12.2 Mae cyfres Nodiadau Cyngor 8 yr Arolygiaeth Gynllunio yn esbonio sut i gymryd rhan ym mhroses gynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Mae’n cynnwys 5 atodiad, fel a ganlyn:

  • Nodyn Cyngor 8 Trosolwg o’r broses Cynllunio Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol i aelodau’r cyhoedd a phobl eraill
  • Atodiad 8.1 Ymateb i ymgynghoriad y datblygwr cyn gwneud cais
  • Atodiad 8.2 Sut i gofrestru i gymryd rhan mewn archwiliad
  • Atodiad 8.3 Dylanwadu ar sut caiff cais ei archwilio: y Cyfarfod Rhagarweiniol
  • Atodiad 8.4 Yr archwiliad
  • Atodiad 8.5 Yr archwiliad – Gwrandawiadau ac Ymweliadau Safle