Nodiadau cyngor

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi cyhoeddi cyfres o nodiadau cyngor y bwriedir iddynt roi gwybodaeth i ymgeiswyr, ymgyngoreion, y cyhoedd ac eraill ynglŷn ag ystod o faterion proses yn ymwneud â Deddf Cynllunio 2008. Rydym hefyd yn cyhoeddi nodiadau cyngor arfer da a chanllawiau eraill yn ymwneud ag apeliadau cynllunio a gwaith achos arall o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a deddfwriaeth gysylltiedig. Mae’r holl gyngor a chanllawiau yn amlinellu’r math cyffredinol o waith achos a/neu’r ddeddfwriaeth sy’n berthnasol iddynt, a dylid eu darllen a’u cymhwyso yn y modd hwnnw.

Mae nodiadau cyngor sy’n ymdrin â phroses Deddf Cynllunio 2008 yn anstatudol. Fe’u cyhoeddir i roi cyngor a gwybodaeth ynglŷn ag ystod o faterion sy’n codi yn ystod pob cam o’r  broses ymgeisio. Er bod nifer ohonynt yn cynnwys argymhellion gan yr Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â’r ymagwedd at faterion proses penodol, yr anogir ymgeiswyr ac eraill i’w hystyried yn ofalus, nid oes rhaid i ymgeiswyr neu eraill roi sylw i gynnwys nodiadau cyngor.

Mae cofrestr newidiadau wedi cael ei chyhoeddi bellach ar waelod y dudalen hon i helpu’r rhai hynny sy’n cyfeirio at ein nodiadau cyngor yn rheolaidd i gael gwybod am unrhyw newidiadau, gan gynnwys pan fydd nodiadau cyngor newydd yn cael eu cyhoeddi.

Nodyn Cyngor Un: Adroddiadau ar yr Effaith Leol Ailgyhoeddwyd ym mis Ebrill 2012 (fersiwn 2)

Mae Nodyn Cyngor Un yn ymwneud â chynhyrchu Adroddiadau ar yr Effaith Leol. Fe’i bwriedir i gynorthwyo awdurdodau lleol gyda ffurf a chynnwys yr adroddiadau hyn.

Nodyn Cyngor Dau: Rôl awdurdodau lleol yn y broses caniatâd datblygu Cyhoeddwyd ym mis Chwefror 2015 (fersiwn 1)

Mae Nodyn Cyngor Dau yn ceisio rhoi cyngor ynglŷn â rôl bwysig awdurdodau lleol ar wahanol gamau o broses Deddf Cynllunio 2008. Mae’n amlinellu ffyrdd ymarferol y gall aelodau a swyddogion awdurdodau lleol gymryd rhan yn y broses a rheoli adnoddau’n effeithiol.

Nodyn Cyngor Tri: Hysbysiad o AEA ac ymgynghori Ailgyhoeddwyd ym mis Awst 2017 (fersiwn 7)

Diben y nodyn cyngor hwn yw esbonio’r ymagwedd a ddefnyddir gan yr Arolygiaeth Gynllunio, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, wrth amlygu cyrff ymgynghori i’w hysbysu o dan Reoliad 11 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017 (y ‘Rheoliadau AEA’) a, lle y bo’n berthnasol, ymgynghori â nhw ynglŷn â chwmpas y Datganiad Amgylcheddol o dan Reoliad 10 y Rheoliadau AEA. Mae’r nodyn cyngor hwn hefyd yn amlygu cyrff ymgynghori nad ydynt yn rhagnodedig y caiff yr Arolygiaeth Gynllunio ymgynghori â nhw yn ôl disgresiwn. Sylwer bod y nodyn cyngor hwn yn cyfeirio at atodiadau mewn dogfen ar wahân (PDF 226 KB).

Nodyn Cyngor Pedwar: Adran 52 Ailgyhoeddwyd ym mis Mawrth 2017 (fersiwn 6)

Mae nodyn cyngor pedwar yn rhoi cyngor ar sut i wneud cais i’r Arolygiaeth Gynllunio i awdurdodi ymgeisydd i gyhoeddi hysbysiad ysgrifenedig sy’n mynnu bod y derbynnydd yn rhoi gwybodaeth i’r ymgeisydd am fuddiannau mewn tir. Sylwer bod y nodyn cyngor hwn yn cyfeirio at atodiadau mewn dogfen ar wahân (DOC 119 KB).

Nodyn Cyngor Pump: Adran 53 – Hawliau mynediad Ailgyhoeddwyd ym mis Mawrth 2017 (fersiwn 6)

Mae’r nodyn cyngor hwn yn rhoi cyngor ar sut i wneud cais i’r Arolygiaeth Gynllunio am awdurdodiad ar gyfer hawl mynediad i gael mynd i dir er mwyn cynnal arolygon a mesur lefelau o dan a53 Deddf Cynllunio 2008. Sylwer bod y nodyn cyngor hwn yn cyfeirio at atodiadau mewn dogfen ar wahân (DOC 132 KB).

Nodyn Cyngor Chwech: Paratoi a chyflwyno dogfennau cais Ailgyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2020 (fersiwn 10)

Bydd y nodyn cyngor hwn yn cynorthwyo ymgeiswyr i baratoi, trefnu a chyflwyno ceisiadau i’r Arolygiaeth Gynllunio. Sylwer bod y nodyn cyngor hwn yn cyfeirio at

Nodyn Cyngor Saith: Asesu Effeithiau Amgylcheddol: Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol, Sgrinio a Chwmpasu Ailgyhoeddwyd ym mis Mai 2020 (fersiwn 7)

Diben y nodyn cyngor hwn yw rhoi cyngor ar elfennau o’r broses AEA yn ystod y cam Cyn-ymgeisio, sef sgrinio a chwmpasu a chynorthwyo ymgeiswyr i ddeall rôl gwybodaeth amgylcheddol ragarweiniol. Diben yr Atodiad hwn (PDF 213 KB) yw rhoi cyngor defnyddiol i gynorthwyo ymgeiswyr i baratoi eu Datganiad Amgylcheddol.

Nodyn Cyngor Wyth: Trosolwg o’r broses cynllunio seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol i aelodau’r cyhoedd a phobl eraill Cyhoeddwyd ym mis Chwefror 2017

Cynhyrchwyd Nodyn Cyngor Wyth mewn pum adran a’i nod yw eich tywys gam wrth gam trwy’r broses gynllunio ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol:

Nodyn Cyngor Naw: Amlen Rochdale Ailgyhoeddwyd ym mis Mehefin 2018 (fersiwn 3)

Mae’r nodyn cyngor hwn yn mynd i’r afael â defnyddio ymagwedd ‘Amlen Rochdale’ o dan Ddeddf Cynllunio 2008. Mae nifer o ymgeiswyr wedi gofyn am gyngor ynglŷn â graddau’r hyblygrwydd a fyddai’n briodol o ran cais am Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol o dan gyfundrefn Deddf Cynllunio 2008.

Nodyn Cyngor Deg: Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd sy’n berthnasol i Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol Ailgyhoeddwyd ym mis Awst 2022  (fersiwn 9)

Mae’r nodyn cyngor hwn yn rhoi cyngor i ymgeiswyr ynglŷn â pharatoi Adroddiad Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA). Ynghyd â rhai mân ddiweddariadau sy’n ymateb i ddatblygiadau’r diwydiant yn y maes pwnc, mae fersiwn 9 yn egluro sut y dylai’r matricsau asesu gael eu paratoi gan ymgeiswyr a sut y bydd y matricsau hyn yn cael eu defnyddio i lywio’r broses benderfynu.

Nodyn Cyngor Un ar Ddeg: Gweithio gyda chyrff cyhoeddus yn y broses cynllunio seilwaith  Ailgyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2017 (fersiwn 4)

Mae’r nodyn cyngor hwn yn esbonio’r fframwaith sy’n rheoli’r broses o gynnwys ymgyngoreion perthnasol a chyrff caniatáu ym mhob cam o broses Deddf Cynllunio 2008 ac yn amlinellu’r egwyddorion allweddol y mae’r Arolygiaeth Gynllunio’n gobeithio y byddant yn sail i drefniadau gweithio. Nid yw’r nodyn cyngor hwn yn ymdrin â rôl awdurdodau lleol ym mhroses Deddf Cynllunio 2008. Dylid darllen y nodyn cyngor hwn ar y cyd â’r atodiadau ategol isod:

Nodyn cyngor 12: Effeithiau a’r Broses Drawsffiniol Ailgyhoeddi Rhagfyr 2020 (Fersiwn 6).

Mae’r nodyn cyngor hwn yn egluro’r rolau a chyfrifoldebau’r Ysgrifennydd Gwladol, yr Arolygiaeth, Aelod-wladwriaethau Ardal Economaidd Ewrop a’r Ymgeisydd sy’n gymwys o dan Reol 32 o Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesiad Effaith Amgylcheddol) 2017. Mae’r nodyn yn cynnwys Atodiad 1: Profforma sgrinio trawsffiniol ffurf hir yr Arolygiaeth ac Atodiad 2: Profforma sgrinio trawsffinio ffurf byr yr Arolygiaeth.

Nodyn Cyngor Degdeg: Paratoi Gorchymyn Caniatâd Datblygu a Memorandwm Esboniadol drafft Ail-gyhoeddwyd Chwefror 2019 (fersiwn 3)

Mae’r nodyn cyngor hwn wedi’i baratoi i roi rhywfaint o gymorth i ymgeiswyr wrth baratoi eu Gorchymyn Caniatâd Datblygu drafft a’r Memorandwm Esboniadol.

Nodyn Cyngor Pedwar ar Ddeg: Llunio’r Adroddiad Ymgynghori  Ailgyhoeddwyd ym mis Chwefror 2021 (fersiwn 3)

Mae’r nodyn cyngor hwn wedi’i fwriadu ar gyfer ymgeiswyr ac awdurdodau lleol yn bennaf, ond mae hefyd yn berthnasol i unrhyw ymgynghorai a allai ddymuno gwybod sut yr adroddir ar ymgynghoriad Cyn-ymgeisio ymgeisydd. Ei nod yw rhoi cyngor ar fformat a chynnwys yr Adroddiad Ymgynghori.

Nodyn Cyngor Pymtheg: Llunio Gorchmynion Caniatâd Datblygu Cyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2018 (fersiwn 2)

Mae’r nodyn cyngor hwn yn rhoi cyngor gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar baratoi draft Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) drafft. Mae hefyd yn adlewyrchu safbwyntiau, o ran llunio DCO, o’r adrannau’r llywodraeth sy’n ymwneud mwyaf â chaniatáu DCO.

Nodyn Cyngor Un ar Bymtheg: Gofyn am gael newid ceisiadau ar ôl iddynt gael eu derbyn i’w harchwilio Cyhoeddwyd ym mis Mawrth 2023 (fersiwn 3)

Pwrpas y Nodyn Cyngor hwn yw darparu gwybodaeth i ymgeiswyr am sut i ofyn am newid i gais ar ôl iddo gael ei dderbyn, a chyn cau’r Archwiliad. Mae hefyd yn rhoi cyngor i Bartïon Sydd â Diddordeb ac eraill am sut i gymryd rhan yn y broses pan fydd newid i gais yn cael ei gynnig.

Nodyn Cyngor Dau ar Bymtheg: Asesu effeithiau cronnol Cyhoeddwyd ym mis Awst 2019 (fersiwn 2)

Mae’r nodyn cyngor hwn yn amlinellu ymagwedd fesul cam at asesu effeithiau cronnol Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol ac yn darparu templedi ar gyfer cofnodi’r asesiad o effeithiau cronnol yn Natganiad Amgylcheddol ymgeisydd. Sylwer bod y nodyn cyngor hwn yn cyfeirio at Atodiad 1 ac Atodiad 2 fel dogfennau ar wahân.

Sylwer: Bydd Nodyn Cyngor Dau ar Bymtheg yn cael ei ddiweddaru’n fuan i adlewyrchu Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017 sy’n dod i rym.

Nodyn Cyngor Deunaw: Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr Cyhoeddwyd ym mis Mehefin 2017 (fersiwn 1)

Mae’r nodyn cyngor hwn yn esbonio rolau ymgeiswyr, yr asiantaethau priodol a’r Ysgrifennydd Gwladol wrth fodloni gofynion Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017, fel y bônt yn berthnasol i Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol o dan Ddeddf Cynllunio 2008. Mae’r nodyn cyngor hefyd yn cyflwyno ac yn esbonio’r defnydd o fatricsau trosolwg y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (gweler Atodiad 1) a baratowyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Cwestiynau cyffredin

Ewch i’n tudalen Cwestiynau Cyffredin i gael rhagor o wybodaeth.

Cofrestr newidiadau i nodiadau cyngor

Cyflwynwyd y gofrestr newidiadau hon ar 1 Mai 2012. Mae’n rhestru unrhyw newidiadau a wnaed i nodiadau cyngor presennol ac yn cofnodi unrhyw nodiadau cyngor newydd a gyhoeddwyd.