Telerau ac Amodau

Telerau defnyddio’r wefan

Croeso i wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol yr Arolygiaeth Gynllunio. Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybod i chi am y telerau ar gyfer defnyddio ein gwefan yn https://infrastructure.planninginspectorate.gov.uk (‘y wefan’). Darllenwch y telerau hyn yn ofalus cyn i chi ddechrau defnyddio’r wefan. Trwy ddefnyddio’r wefan, rydych yn dangos eich bod yn derbyn y telerau defnyddio hyn a’ch bod yn cytuno i gadw atynt. Os na fyddwch yn cytuno i dderbyn y telerau defnyddio hyn, gofynnwn i chi beidio â defnyddio’r wefan.

Gwybodaeth amdanom ni

Caiff y wefan ei gweithredu gan yr Arolygiaeth Gynllunio. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn asiantaeth i’r llywodraeth. Dylech gyfeirio pob gohebiaeth ar ein pencadlys ym Mryste: The Planning Inspectorate, Temple Quay House, Temple Quay, Bristol, BS1 6PN. Mae gwybodaeth gorfforaethol amdanom ni ar gael yn https://www.gov.uk/planning-inspectorate.

Defnyddio’r wefan

Caniatewch i chi ddefnyddio’r wefan dros dro a chadwn yr hawl i dynnu’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu ar y wefan yn ôl neu ei ddiwygio heb roi rhybudd ymlaen llaw (gweler isod). Ni fyddwn yn atebol os na fydd y wefan ar gael ar unrhyw adeg am unrhyw reswm, neu am unrhyw gyfnod.

O bryd i’w gilydd, mae’n bosibl y byddwn yn cyfyngu mynediad at rai rhannau o’r wefan, neu’r wefan i gyd, i ddefnyddwyr sydd wedi cofrestru â ni.

Os byddwch yn dewis neu’n cael cod adnabod defnyddiwr, cyfrinair neu unrhyw ddarn arall o wybodaeth fel rhan o’n gweithdrefnau diogelwch, rhaid i chi drin y wybodaeth honno’n gyfrinachol ac ni ddylech ei datgelu i unrhyw drydydd parti. Mae gennym yr hawl i analluogi unrhyw god adnabod defnyddiwr neu gyfrinair, p’un a gafodd ei ddewis gennych chi neu ei ddyrannu gennym ni, ar unrhyw adeg os byddwch, yn ein tyb ni, wedi methu cydymffurfio ag unrhyw rai o ddarpariaethau’r telerau defnyddio hyn.

Chi sy’n gyfrifol am wneud yr holl drefniadau angenrheidiol i chi allu defnyddio’r wefan. Rydych hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod pawb sy’n defnyddio’r wefan trwy eich cysylltiad chi â’r rhyngrwyd yn ymwybodol o’r telerau hyn, a’u bod yn cydymffurfio â nhw.

Hawliau eiddo deallusol

Y Goron sy’n berchen ar bob hawl eiddo deallusol neu sy’n dal y drwydded drosti mewn perthynas â’r wefan a’r deunydd sy’n cael ei gyhoeddi arni. Caiff y gwaith hwn ei amddiffyn gan ddeddfau hawlfraint a chytundebau ym mhedwar ban byd. Cedwir pob hawl.

Cewch argraffu un copi, a lawrlwytho rhannau o unrhyw dudalen(au) o’r wefan at eich dibenion cyfeirio eich hun.

Ni chewch addasu copïau papur neu ddigidol o unrhyw ddeunyddiau rydych wedi’u  hargraffu neu eu lawrlwytho mewn unrhyw ffordd, ac ni chewch ddefnyddio unrhyw ddarluniau, ffotograffau neu gyfresi fideo neu sain, nac unrhyw graffeg heb gynnwys y testun ategol hefyd.

Mae’n rhaid cydnabod ein statws ni (a statws unrhyw gyfranwyr perthnasol) bob amser fel awduron deunydd ar y wefan.

Ni chewch ddefnyddio unrhyw ran o’r deunyddiau ar y wefan at ddibenion masnachol heb gael trwydded i wneud hynny gennym ni neu ein trwyddedwyr. Gwaherddir unrhyw ailddefnydd o’r cynnwys, gan gynnwys atgynhyrchu, ailddefnyddio, echdynnu, addasu, dosbarthu, trosglwyddo, ailgyhoeddi, arddangos neu berfformiad o gynnwys y wefan hon. Os hoffech ailddefnyddio’r wybodaeth, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ystyried eich cais yn unol â Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth yn y Sector Cyhoeddus 2005. Dylech gysylltu â ni neu anfon cais ysgrifenedig at:

Information Access Officer
Planning Inspectorate
Temple Quay House
Temple Quay
Bristol, BS1 6PN

Sylwer y gellir codi tâl arnoch am hyn.

Os byddwch yn argraffu, yn copïo neu’n lawrlwytho unrhyw ran o’r wefan mewn unrhyw ffordd sy’n mynd yn groes i’r telerau defnyddio hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio’r wefan yn dod i ben ar unwaith ac, os byddwn yn dewis ei bod yn briodol, bydd rhaid i chi ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau o’r deunyddiau a wnaed gennych.

Dibynnu ar wybodaeth a roddir ar y wefan

Ni fwriedir i sylwebaeth a deunyddiau eraill a roddir ar y wefan fod yn gyfystyr â chyngor y dylid dibynnu arno. Felly, rydym yn ymwrthod â phob atebolrwydd a chyfrifoldeb yn deillio o unrhyw ymwelydd â’r wefan yn dibynnu ar y deunyddiau hyn, neu gan unrhyw un arall yn dibynnu ar gynnwys y wefan.

Mae’r wefan yn newid yn rheolaidd

Ein nod yw diweddaru’r wefan yn rheolaidd a gallwn newid y cynnwys ar unrhyw adeg. Gallwn atal mynediad at y wefan neu ei chau am gyfnod amhenodol, yn ôl yr angen. Mae’n bosibl y gall unrhyw ran o’r deunydd ar y wefan fod yn anghyfredol ar unrhyw adeg benodol, ac nid oes unrhyw rwymedigaeth arnom i ddiweddaru’r deunydd hwn.

 Ein hatebolrwydd

Caiff y deunydd ar y wefan ei ddarparu heb unrhyw sicrwydd, amodau neu warantau o ran ei gywirdeb. I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, rydym ni, aelodau eraill o’n grŵp o gwmnïau a thrydydd partïon sy’n gysylltiedig â ni yn eithrio:

  • Yr holl amodau, gwarantau a thelerau eraill y gallai statud, cyfraith gyffredin neu gyfraith cyfiawnder eu hawgrymu fel arall.
  • Unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol neu ôl-ddilynol gan unrhyw ddefnyddiwr mewn perthynas â’r wefan neu mewn perthynas â defnyddio, anallu i ddefnyddio, neu o ganlyniad i ddefnyddio’r wefan, unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig â hi, neu ganlyniadau defnyddio’r wefan, unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig â hi ac unrhyw ddeunyddiau a roddir arni, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i unrhyw atebolrwydd am y canlynol: colli incwm neu refeniw, colli busnes, colli elw neu gontractau, colli arbedion disgwyliedig, colli data, colli ewyllys da, gwastraffu amser rheoli neu amser gweinyddol, ac am unrhyw golled neu ddifrod arall o unrhyw fath, ni waeth beth yw’r rheswm dros hynny a ph’un a’i hachoswyd gan gamwedd (gan gynnwys esgeulustod), torri amodau contract neu fel arall, hyd yn oed os oedd yn rhagweladwy.

Nid yw hyn yn effeithio ar ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol sy’n deillio o’n hesgeulustod, nac ar ein hatebolrwydd am anwiredd twyllodrus neu anwiredd mewn perthynas â mater sylfaenol, nac am unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei eithrio neu gyfyngu arno yn unol â chyfraith berthnasol.

Hyperddolenni

Efallai y bydd y wefan yn darparu hyperddolenni i wefannau eraill. Nid yw’r Arolygiaeth Gynllunio yn gyfrifol am sicrhau bod y gwefannau eraill hynny ar gael ac nid yw’n cefnogi unrhyw gynnwys, gynhyrchion neu ddeunyddiau eraill sydd ar gael ar y gwefannau hynny, nac yn gyfrifol nac yn atebol amdanynt chwaith.

Cwcis

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn cadw’r hawl i gasglu gwybodaeth yn ymwneud â defnyddio’r wefan. Mae’r wefan yn defnyddio gwasanaeth dadansoddi’r we, sy’n defnyddio ‘cwcis’ (ffeiliau testun sy’n cael eu rhoi ar eich cyfrifiadur) at ddibenion dadansoddi eich defnydd o’r wefan. Nid yw’r cwcis hyn yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol am y defnyddiwr.

Yn ogystal, os byddwch yn cofrestru i lawrlwytho ein gwybodaeth frand a’n logos, rydym yn defnyddio cwcis i’ch galluogi i weld y dogfennau hyn yn uniongyrchol pan fyddwch yn dychwelyd i’r wefan.

Dim ond cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd (IP) y cyfrifiadur a ddefnyddir i fynd at y wefan fydd yn cael ei gofnodi. Ni fydd unrhyw wybodaeth yn ymwneud â chwcis yn cael ei rhoi i drydydd parti.

Gallwch wrthod defnyddio cwcis trwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr. Am fwy o wybodaeth, ewch i http://www.aboutcookies.org

Nid yw’r telerau a’r amodau hyn yn cwmpasu dolenni at wefannau eraill sydd ar y wefan hon.

Feirysau, hacio a throseddau eraill

Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio’r wefan trwy gyflwyno feirysau, ceffylau troea, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n dechnolegol niweidiol yn fwriadol. Rhaid i chi beidio â cheisio mynediad anawdurdodedig at y wefan, y gweinydd y mae’r wefan wedi’i chadw arno nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy’n gysylltiedig â’r wefan. Rhaid i chi beidio ag ymosod ar y wefan trwy ymosodiad atal gwasanaeth neu ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig.

Trwy fynd yn groes i’r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd gyfreithiol o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn rhoi gwybod i’r awdurdodau perthnasol ar gyfer gorfodi’r gyfraith ac yn cydweithredu â’r awdurdodau hynny trwy roi gwybod iddynt pwy ydych. Os byddwch yn mynd yn groes i’r ddarpariaeth yn y fath ffordd, bydd eich hawl i ddefnyddio’r wefan yn dod i ben ar unwaith.

Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod sy’n cael ei achosi gan ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig, feirysau neu unrhyw ddeunydd arall sy’n dechnolegol niweidiol a allai effeithio ar eich offer cyfrifiadur, rhaglenni cyfrifiadurol, data neu ddeunydd priodol arall o ganlyniad i’ch defnydd o’r wefan neu oherwydd i chi lawrlwytho unrhyw ddeunydd a roddir arni, neu ar unrhyw wefan sy’n gysylltiedig â hi.

Gosod dolenni i’r wefan

Gallwch osod dolenni i’r wefan, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny mewn ffordd deg a chyfreithiol ac nad yw’n niweidio ar ein henw da nac yn cymryd mantais ohono, ond ni ddylech osod dolen mewn ffordd sy’n awgrymu unrhyw gysylltiad, cymeradwyaeth neu gefnogaeth gennym ni, lle nad ydynt yn bodoli.

Ni ddylech osod dolen i’r wefan o unrhyw wefan nad ydych chi’n berchen arni.

Ni ddylai’r wefan gael ei fframio ar unrhyw wefan arall. Cadwn yr hawl i dynnu caniatâd i roi dolenni yn ei ôl heb roi rhybudd ymlaen llaw.

Os hoffech ddefnyddio unrhyw ddeunydd ar y wefan mewn unrhyw ffordd heblaw’r hyn a amlinellir uchod, dylech gyflwyno ymholiad.

Awdurdod a chyfraith berthnasol

Bydd gan lysoedd Lloegr awdurdod arbennig mewn perthynas ag unrhyw honiad sy’n deillio neu’n gysylltiedig ag ymweld â’r wefan. Caiff y telerau defnyddio hyn eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr.

Amrywiadau

Efallai y byddwn yn diwygio’r telerau defnyddio hyn ar unrhyw bryd trwy ddiwygio’r dudalen hon. Disgwylir i chi wirio’r dudalen hon o bryd i’w gilydd er mwyn bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau rydym wedi’u gwneud, gan ein bod yn gosod dyletswydd rwymol arnoch chi. Efallai y caiff rhai o’r darpariaethau a geir yn y telerau defnyddio hyn eu disodli gan ddarpariaethau neu hysbysiadau a gyhoeddir mewn man arall ar y wefan.

Eich pryderon

Os bydd gennych unrhyw bryderon ynghylch deunydd sy’n ymddangos ar y wefan, gallwch eu cyflwyno trwy ein tudalen gyswllt.