Nodyn Cyngor 11, Atodiad C – Natural England a’r Arolygiaeth Gynllunio

Cyflwyniad

Mae Rhan 1 Nodyn Cyngor Technegol 11 yr Arolygiaeth Gynllunio: “Gweithio gyda Chyrff Cyhoeddus” yn ymdrin â llawer o’r pwyntiau rhyngweithio cyffredinol sy’n berthnasol i’r Arolygiaeth Gynllunio (yr Arolygiaeth) a Chyrff Cyhoeddus. Mae’r Atodiad C hwn i Nodyn Cyngor 11 yn helpu ymgeiswyr i ddeall rôl benodol Natural England mewn cynllunio seilwaith o dan Ddeddf Cynllunio 2008 (PA2008). Mae’n esbonio:

  • Beth yw Natural England?
  • Beth mae Natural England yn ei wneud?
  • Rôl Natural England mewn Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP)
    • Cyfleoedd amgylcheddo
    • Ymgysylltiad Natural England yn chwe cham NSIP
    • Asesiadau o’r Effaith Amgylcheddol (AEA)
    • Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC)
    • Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
    • Trwyddedu Bywyd Gwyllt
    • Tirweddau dynodedig
    • Priddoedd a thir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas
  • Sut i gysylltu â Natural England

Bydd yr Atodiad hwn yn cael ei adolygu’n gyson ac fe’i diweddarwyd ym mis Mai 2018. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio a Natural England yn croesawu adborth ar gynnwys yr Atodiad hwn.

Beth yw Natural England?

Corff cadwraeth natur statudol yw Natural England a sefydlwyd gan Ddeddf Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006. Diben cyffredinol Natural England yw sicrhau bod yr amgylchedd naturiol yn cael ei warchod, ei wella a’i reoli er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol, gan felly gyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Mae Natural England yn cael ei ariannu gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), ond mae’n Gorff Cyhoeddus Anadrannol, sy’n ffurfio ei farn ei hun yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael.

Beth mae Natural England yn ei wneud?

Mae Natural England yn gweithio ar ran pobl, lleoedd a natur i wella bioamrywiaeth, tirweddau a bywyd gwyllt mewn ardaloedd gwledig, trefol, arfordirol a morol; gan hyrwyddo mynediad, hamdden a lles cyhoeddus, a chyfrannu at y ffordd y rheolir adnoddau naturiol fel y gellir eu mwynhau yn awr a chan genedlaethau’r dyfodol.

Mae Adran 2 Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig yn datgan mai diben statudol cyffredinol Natural England yw:

‘… sicrhau bod yr amgylchedd naturiol yn cael ei warchod, ei wella a’i reoli er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol, gan felly gyfrannu at ddatblygu cynaliadwy.’ Mae hyn yn cynnwys:

  • hyrwyddo cadwraeth natur a diogelu bioamrywiaeth;
  • gwarchod a gwella’r dirwedd;
  • sicrhau bod cyfleusterau ar gyfer astudio, deall a mwynhau’r amgylchedd naturiol yn cael eu darparu a’u gwella;
  • hyrwyddo mynediad at gefn gwlad a mannau agored ac annog hamdden awyr agored; a
  • chyfrannu, mewn ffyrdd eraill, at les cymdeithasol ac economaidd trwy reoli’r amgylchedd naturiol.

Mae’n ofynnol i Natural England adolygu’n gyson yr holl faterion sy’n ymwneud â’i ddiben cyffredinol, a rhoi cyngor i awdurdodau cyhoeddus pan fyddant yn gofyn amdano.

Rôl Natural England mewn Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIPs)

Mae cylch gwaith, cyfrifoldebau a rhychwant daearyddol Natural England mewn perthynas ag NSIPs yn cynnwys

  • Cyngor ar effeithiau ar safleoedd cadwraeth natur (Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Safleoedd Ramsar, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Parthau Cadwraeth Morol) a thirweddau dynodedig (Parciau Cenedlaethol, Y Broads ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol) o fewn Lloegr ac allan i hyd at 12 môr-filltir o arfordir Lloegr
  • Ei rôl fel y corff caniatáu a thrwyddedu ar gyfer rhywogaethau a warchodir yn yr amgylchedd daearol yn Lloegr (mae hyn yn berthnasol i bob gweithgarwch tua’r tir o’r marc distyll cymedrig). Y Sefydliad Rheoli Morol (MMO) sy’n gyfrifol am drwyddedu tua’r môr o’r marc distyll cymedrig.
  • Mae’n bosibl y bydd sefyllfaoedd trawsffiniol hefyd lle, yn dibynnu ar natur a lleoliad y cynnig, y bydd gan Natural England ddyletswydd ar y cyd â Cyfoeth Naturiol Cymru neu Scottish Natural Heritage mewn perthynas â safleoedd gwarchodedig.
  • Mae’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur wedi dirprwyo ei rôl fel y corff cadwraeth natur statudol ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy ar y môr (tonnau, gwynt a llanw) yn nyfroedd môr mawr Lloegr, y tu hwnt i 12 môr-filltir, i Natural England. Golyga hyn fod yr holl gyngor ar brosiectau ynni adnewyddadwy mewn dyfroedd glannau a dyfroedd môr mawr, gerllaw Lloegr (0-200 môr-filltir), yn cael ei roi gan Natural England yn hytrach na chael ei rannu rhwng y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur a Natural England ar y ffin 12 môr-filltir.
  • O ran Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol nad ydynt yn brosiectau ynni adnewyddadwy y tu hwnt i 12 môr-filltir o arfordir Lloegr, bydd Natural England yn cynorthwyo’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur i arfer ei ddyletswyddau o dan y Rheoliadau Cynefinoedd, yn enwedig pan fydd effeithiau ar safleoedd gwarchodedig o fewn 12 môr-filltir.
  • Cyngor fel ymgynghorai statudol ar gyfer datblygu tir amaethyddol ‘gorau a mwyaf amlbwrpas’ ac ar gyfer adfer safleoedd mwynau a gwastraff i amaethyddiaeth.
  • Cyngor ar unrhyw faterion eraill o fewn cylch gorchwyl statudol Natural England e.e. ar seilwaith gwyrdd neu gyfleoedd i wneud gwelliannau amgylcheddol.

Mae prif gyfrifoldebau Natural England yn ymwneud â darparu cyngor ar Asesu Effeithiau Amgylcheddol, y Rheoliadau Cynefinoedd, rheoleiddio Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd), fel y corff trwyddedu mewn perthynas â rhywogaethau a warchodir, ac fel ymgynghorai mewn perthynas â datblygu tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas neu adfer safleoedd mwynau a gwastraff i amaethyddiaeth, ac fel cynghorydd ar faterion yn ymwneud â thirwedd.

Cyfleoedd amgylcheddol

Bydd Natural England yn chwilio am gyfleoedd ar gyfer deilliannau amgylcheddol cadarnhaol o ddatblygiadau seilwaith mawr. Gall NSIPs wneud cyfraniad sylweddol at gyflawni’r uchelgais amgylcheddol yng Nghynllun Amgylchedd 25 Mlynedd (25YEP) y Llywodraeth. Nod hwn yw cyflawni cynnydd net amgylcheddol trwy ddatblygiad a seilwaith.

Gallwn helpu ymgeiswyr a’r Awdurdod Archwilio i ddeall yn well a gwerthfawrogi’r buddion a ddeillir o’r amgylchedd naturiol (‘cyfalaf naturiol’). Gallwn gynghori ar gyfleoedd i sicrhau buddion amgylcheddol cadarnhaol o brosiectau NSIP. Mae blaenoriaethau’n cynnwys cyflawni seilwaith gwyrdd amlswyddogaethol o ansawdd uchel, gan sefydlu rhwydweithiau ecolegol mwy cydlynus a gwydn a darparu a gwella cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau a warchodir. Gallwn gynghori hefyd ar ddulliau a metricsau sy’n galluogi prosiectau i gyflawni cynnydd net bioamrywiaeth, fel yr amlinellir yn y Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol a’r Datganiadau Polisi Cenedlaethol diweddar a datblygol, ac ar ymagweddau at gyflawni cynnydd cyfalaf naturiol ehangach.

Bydd Natural England yn cyfrannu at bob cam o broses Deddf Cynllunio 2008 fel y bo’n ofynnol, gan ganolbwyntio’n bennaf ar y camau cyn-ymgeisio ac archwilio. Mae prif rolau a chyfrifoldebau Natural England o dan Ddeddf 2008 yn dod o fewn y categorïau canlynol:

  • fel un o’r ymgyngoreion rhagnodedig o dan adran 42 Deddf 2008 y mae’n ofynnol i ymgeiswyr ymgynghori â nhw cyn cyflwyno cais ar gyfer Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) (o dan adran 42(a) Deddf Cynllunio 2008 ac Atodlen 1 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009 (fel y’u diwygiwyd).
  • fel un o’r cyrff ymgynghori y mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio ymgynghori â nhw cyn mabwysiadu barn gwmpasu mewn perthynas ag unrhyw Asesiad o Effeithiau Amgylcheddol (AEA) (o dan Reoliad 10 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017) ac fel ymgynghorai rhagnodedig ar gyfer y wybodaeth amgylcheddol a gyflwynir yn unol â Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017.
  • fel parti statudol wrth archwilio ceisiadau Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) (o dan adran. 88(3) (c) ac adran 102(ca) Deddf Cynllunio 2008 a Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Partïon â Buddiant a Darpariaethau Rhagnodedig Amrywiol) 2015).
  • fel corff cadwraeth natur statudol o dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (Rheoliadau Cynefinoedd) neu Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017 (Rheoliadau Alltraeth) mewn perthynas â’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC).
  • fel corff/awdurdod caniatáu a thrwyddedu mewn perthynas â rhywogaethau a warchodir a gweithrediadau sy’n debygol o niweidio nodweddion gwarchodedig SoDdGAau yn unol â Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) (WCA 1981) (Dylai datblygwyr geisio cyngor Natural England cyn gwneud gwaith ar SoDdGA neu waith sy’n effeithio ar SoDdGA, ac mae’n ofynnol i berchenogion a meddianwyr hysbysu a chael caniatâd cyn gwneud gwaith ar SoDdGA neu waith sy’n effeithio ar SoDdGA, neu ganiatáu i waith o’r fath gael ei wneud.) ac mewn perthynas â rhywogaethau a warchodir gan Ewrop o dan y Rheoliadau Cynefinoedd.
  • fel ymgynghorai rhagnodedig o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir (2009) ar gyfer cynigion o fewn ardal môr tiriogaethol Lloegr a allai effeithio, heblaw mewn ffordd ddibwys, ar unrhyw un o nodweddion gwarchodedig Parth Cadwraeth Morol neu unrhyw broses ecolegol neu geomorffolegol y mae cadwraeth unrhyw nodwedd warchodedig Parth Cadwraeth Forol yn dibynnu arni (yn gyfan gwbl neu’n rhannol).

Ymgysylltiad Natural England yn chwe cham NSIP

Cyn-ymgeisio

Mae Natural England yn ymgynghorai rhagnodedig o dan Ddeddf 2008 ac is-ddeddfwriaeth a wnaed o dani. Mae ei gyfraniad yn hollbwysig yn ystod y broses cyn-ymgeisio mewn achosion lle mae’n debygol y bydd effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd naturiol, ac yn ddymunol lle ceir cyfleoedd i gyflawni cynnydd net amgylcheddol. Mae Natural England yn annog ymgeiswyr i ddechrau ymgynghoriadau cyn-ymgeisio cyn gynted â phosibl gan roi cymaint o fanylion ag y bo modd.

Mae’n bwysig iawn ymgynghori â Natural England yn gynnar oherwydd bydd cyngor Natural England (gan gynnwys cyngor ar arolygon ac ymchwiliadau priodol) yn galluogi ymgeiswyr i roi ystyriaeth briodol i effeithiau amgylcheddol NSIP wrth i’r cais ddatblygu. Mae gan yr ymgeisydd ddyletswydd i ystyried unrhyw ymatebion ymgynghori y mae’n eu derbyn (7 Adran 49 Deddf Cynllunio 2008) o dan adrannau 42, 47 a 48 Deddf 2008. Dylid mynd i’r afael â materion yn ymwneud ag AEA, ARhC, SoDdGA a thrwyddedu bywyd gwyllt yn ystod y cam cyn-ymgeisio, ac fe’u hamlinellir yn fanylach isod.

Mae Natural England yn annog Ymgeiswyr i fanteisio ar y Gwasanaeth Cyngor Dewisol s sy’n cael ei gynnig i ddarparu cyngor anstatudol yn ymwneud â chynigion datblygu. Ni fyddwn fel arfer yn codi tâl am ymgynghoriadau a42 ac yn ystod Archwiliad. Gellir lawrlwytho ein telerau ac amodau o’r ddolen uchod.

Er mwyn cynorthwyo’r ymgeisydd yn ystod y cam cyn-ymgeisio, bydd Natural England yn parhau i weithio’n agos gyda chyd-gyrff amgylcheddol statudol Defra (e.e. Asiantaeth yr Amgylchedd neu’r Sefydliad Rheoli Morol) wrth ystyried materion sy’n torri ar draws ein cyfrifoldebau statudol amrywiol.

Derbyn

Os nad yw materion yn ymwneud â chyfranogiad Natural England wedi’u datrys yn llawn yn y camau cyn-ymgeisio, bydd Natural England yn dal i ymgysylltu â datblygwyr yn ystod y cam derbyn ac mae’n debyg y codir tâl am gyngor (gweler y cyngor uchod ynghylch y Gwasanaeth Cyngor Dewisol).

Cyn-archwilio

Os derbynnir cais i’w archwilio a bod materion o bwysigrwydd i’r amgylchedd naturiol sydd heb eu datrys, mae Natural England yn debygol o roi gwybod i’r Awdurdod Archwilio ei fod eisiau bod yn barti â buddiant (O dan adran 89(2A)((b) Deddf Cynllunio 2008) a darparu sylwadau perthnasol manwl. Wedyn byddwn yn gallu ymgysylltu ag ymgeiswyr, er enghraifft, ynghylch gwybodaeth dechnegol newydd.

Archwilio

Lle bydd Natural England yn cyfranogi yn yr archwiliad, bwriadwn ganolbwyntio ar ddarparu sylwadau ysgrifenedig i ddiweddaru ein sylwadau perthnasol cynharach. Byddwn ond yn ceisio cyfranogi mewn gwrandawiadau perthnasol yn yr achosion cymhleth hynny lle mae gennym faterion pwysig heb eu datrys o hyd sydd o risg uchel i’r amgylchedd.

Argymhelliad a Phenderfyniad

Lle nad yw’r holl faterion yn cael eu datrys yn yr Archwiliad, gall yr Adran o’r Llywodraeth sy’n noddi ddod atom gydag ymholiadau drwy ymgynghoriad ysgrifenedig. Yn ystod y cyfnod penderfynu, rhaid i unrhyw ymgynghoriad â Natural England gael ei wneud yn gyhoeddus.

Ôl-Penderfyniad

Bydd Natural England yn cyfranogi mewn gweithgareddau ôl-caniatâd megis lle caiff gofynion eu gollwng neu pan ymgynghorir â ni ynghylch amrywiadau, caniatadau a thrwyddedau. Byddwn yn trafod trefniadau adennill costau sydd eu hangen ar gyfer y cam hwn, cyn ymgeisio os oes modd.

Asesu’r Effaith Amgylcheddol

Mae gan Natural England rôl statudol fel corff ymgynghori o dan Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017. Pan fydd ymgeisydd wedi gofyn am farn gwmpasu gan yr Arolygiaeth Gynllunio mewn perthynas â datblygiad AEA arfaethedig, bydd yr Arolygiaeth yn ymgynghori â Natural England mewn perthynas â’r wybodaeth y credant y dylai gael ei chynnwys yn y datganiad amgylcheddol. (Rheoliad 8 o Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2009 (fel y’u diwygiwyd))

Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd yn rhoi cyfrifoldeb ar awdurdodau cymwys (gan gynnwys yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol pan fydd yn ‘benderfynwr’) i ymgynghori â’r cyrff cadwraeth natur priodol wrth gynnal ‘asesiad priodol’ o oblygiadau cais ar gyfer safleoedd Ewropeaidd. O ran safleoedd Ewropeaidd yn Lloegr, mae hyn yn golygu bod rhaid ymgynghori â Natural England a rhoi cyngor i’r awdurdod cymwys perthnasol os yw NSIP yn debygol o gael effaith arwyddocaol arnynt. Bydd yr Awdurdod Archwilio yn gofyn i Natural England roi ei sylwadau ar y dystiolaeth sy’n codi yn ystod yr archwiliad; bydd y sylwadau’n cael eu cynnwys, neu cyfeirir atynt, mewn Adroddiad ar y Goblygiadau i Safleoedd Ewropeaidd, a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Ysgrifennydd Gwladol gydag Adroddiad ac Argymhelliad yr Awdurdod Archwilio.

Diffinnir y term ‘safle Ewropeaidd’ yn ffurfiol yn rheoliad 8 o’r Rheoliadau Cynefinoedd. Mae’n cynnwys Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA), sydd wedi’u dosbarthu o dan y Gyfarwyddeb Adar, a Safleoedd o Bwysigrwydd Cymunedol (SBC) ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), sydd wedi’u dynodi o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd. Mae ACAau ac AGAau mewn ardaloedd morol neu rynglanwol yn Safleoedd Morol Ewropeaidd. Y tu allan i ddyfroedd tiriogaethol Lloegr, mae ACAau wedi’u dynodi yn Safleoedd Morol Alltraeth Ewropeaidd (EOMS). Gyda’i gilydd maent yn ffurfio’r rhwydwaith Natura 2000 ledled yr Undeb Ewropeaidd. Dadlwythwch restr lawn o wefannau’r DU. Cyfeirir at safleodd AGA, ACA, EOMS, safleoedd Ramsar rhestredig, ymgeisydd ACA ac ACA arfaethedig fel ‘safleoedd Ewropeaidd’ i gyd. Noder, fodd bynnag, y gwahaniaethir rhwng Safleoedd Ewropeaidd a Safleoedd Morol Alltraeth Ewropeaidd yng ngeiriad y Rheoliadau Cynefinoedd.

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn annog ymgeiswyr yn gryf i gysylltu â Natural England cyn gynted â phosibl, yn enwedig os y gallai datblygiad arfaethedig effeithio ar safle Ewropeaidd a/neu Ramsar neu Rywogaethau a Warchodir gan Ewrop, neu rywogaethau eraill a warchodir. Bydd hyn yn caniatáu i unrhyw faterion perthnasol gael eu nodi a’u datrys, os yw’n bosibl, yn ystod y cam cyn-ymgeisio. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi cyhoeddi eu cyngor eu hunain ar Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd yn Nodyn Cyngor 10.

Ar gyfer prosiectau a allai effeithio ar Safle Ewropeaidd, mae ymgeiswyr ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol sydd wedi’u lleoli yn Lloegr, neu yng Nghymru a Lloegr, yn gallu gwneud cais am gytuno ar Gynlluniau Tystiolaeth gyda Natural England. Y nod yw amlinellu’r dystiolaeth sy’n angenrheidiol er mwyn bodloni’r gofynion deddfwriaethol a chytuno sut y caiff ei chasglu a’i hasesu. Y nod yw sicrhau bod digon o wybodaeth ar gael i alluogi’r Ysgrifennydd Gwladol perthnasol i gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (gan gynnwys unrhyw asesiad priodol) os yw’n ofynnol. Gall y dull gweithredu hwn (os y’i dilynir) leihau ansicrwydd adeg derbyn ac arbed amser yn yr archwiliad. Yn ôl Natural England, mae profiad yn dangos bod y broses hon yn werthfawr iawn, yn enwedig o’i dechrau’n gynnar wrth ddylunio prosiect. Bydd yn ymgysylltu â datblygwyr yn y modd hwn trwy’r Gwasanaeth Cyngor Dewisol. Mwy o wybodaeth am Gynlluniau Tystiolaeth. Dylai ymgeiswyr gysylltu â Natural England os oes ganddynt ddiddordeb i gytuno Cynllun Tystiolaeth.

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGAau)

O ran ceisiadau a allai effeithio ar SoDdGAau, mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol a Natural England ddyletswyddau o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad.

O dan adran 28(I), mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol neu’r gweinidog roi gwybod i Natural England cyn awdurdodi cynnal gweithrediadau sy’n debygol o niweidio nodweddion diddordeb arbennig SoDdGA. Yn yr amgylchiadau hyn, mae’n rhaid i 28 niwrnod fynd heibio cyn penderfynu p’un ai rhoi caniatâd, a rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol ystyried unrhyw gyngor a roddwyd gan Natural England, gan gynnwys cyngor ar atodi amodau i’r caniatâd.

Bydd Natural England yn rhoi cyngor penodol i ymgeiswyr ar effeithiau’r cynnig ar ddiddordeb arbennig unrhyw SoDdGAau yr effeithir arnynt pan fydd yr holl wybodaeth wedi cael ei darparu gan ymgeiswyr. Gall hefyd roi arweiniad a chymorth cyffredinol ynglŷn â gofynion arolygu. Dylai ymgeiswyr geisio cytuno ar ofynion Gorchymyn Caniatâd Datblygu gyda Natural England, a allai gynnwys mesurau ar gyfer diogelu’r SoDdGA, cyn i’r cais gael ei gyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio. Gall Natural England roi cyngor i’r penderfynwr ar unrhyw effeithiau ar ddiddordeb arbennig SoDdGAau.

Trwyddedu Bywyd Gwyllt

Trwyddedu Rhywogaethau a Warchodir

O ran pob mater yn ymwneud â thrwyddedu, dylai ymgeiswyr gyfeirio at ganllawiau trwyddedu Natural England ar gyfer y rhywogaethau berthnasol a phenderfynu a oes angen trwydded liniaru. Gall ymgeiswyr ddefnyddio Gwasanaeth Sgrinio Cyn Cyflwyno Cais Natural England, y codir tâl amdano, ar gyfer adolygu cais drafft am drwydded bywyd gwyllt. Gellir defnyddio’r gwasanaeth hwn i gael cyngor cynnar ar bob un o’r 3 phrawf trwyddedu (Y profion hyn yw “nad oes dewis amgen boddhaol” (Rheoliad 53 (9) (a) y Rheoliadau Cynefinoedd), na fydd y gweithgarwch a awdurdodwyd yn “niweidiol i gynnal statws cadwraeth ffafriol poblogaeth y rhywogaeth dan sylw yn ei hardal grwydro naturiol” (Rheoliad 53 (9) (b) a bod y drwydded ar gyfer diben a nodwyd yn Rheoliad 53(1) sy’n cynnwys “am resymau hollbwysig er pennaf les y cyhoedd, gan gynnwys y rhai hynny o natur gymdeithasol neu economaidd, a chanlyniadau buddiol o’r pwys mwyaf i’r amgylchedd.”) (mewn perthynas â rhywogaethau a warchodir gan Ewrop) cyn y rhoddir Gorchymyn Caniatâd Datblygu. Mae’r gwasanaeth hwn yn ymestyn hefyd i rywogaethau eraill a warchodir (fel moch daear, llygod dŵr), a warchodir gan ddeddfwriaeth ddomestig ar fywyd gwyllt.

Cynhelir yr asesiad cynnar hwn fel bod y sawl sy’n gwneud penderfyniad o dan Ddeddf Cynllunio 2008 yn gallu bod yn hyderus bod Natural England, fel yr awdurdod trwyddedu statudol, wedi ystyried y materion priodol sy’n ymwneud â rhywogaethau a warchodir. Er mwyn gwneud hyn, bydd Natural England yn cynnal adolygiad, wedi’i seilio ar gais drafft llawn am drwydded, cyn cyflwyno’r cais NSIP yn ffurfiol i’r Arolygiaeth Gynllunio. Mae’r camau i’w dilyn wrth gyflwyno cais drafft am drwydded i Natural England, neu ymwneud â materion trwyddedu rhywogaethau a warchodir ar gam cynnar, wedi’u hamlinellu yn Atodiad I y nodyn hwn.

Ar ôl adolygu’r cais drafft am drwydded, bydd Natural England naill ai: yn darparu Llythyr Dim Rhwystr, a fydd yn esbonio, yn seiliedig ar y wybodaeth a adolygwyd hyd yma, nad yw’n gweld unrhyw rwystr rhag rhoi trwydded yn y dyfodol pe byddai’r Gorchymyn Caniatâd Datblygu’n cael ei roi; neu, os oes materion trwyddedu i’w datrys, bydd y rhain yn cael eu hamlinellu’n ysgrifenedig er mwyn i’r ymgeisydd fynd i’r afael â nhw. Dim ond pan fydd yr holl faterion wedi cael eu datrys, yn dilyn adolygiad o gais drafft dilynol am drwydded, y gellir cyhoeddi Llythyr Dim Rhwystr. Bydd unrhyw Lythyr Dim Rhwystr yn cael ei anfon at yr ymgeisydd i’w gyflwyno gyda’r cais i’w archwilio. Bydd Natural England yn anfon copi o unrhyw ohebiaeth at yr Arolygiaeth Gynllunio.

Bydd yr Awdurdod Archwilio eisiau bod mewn sefyllfa erbyn diwedd yr archwiliad i allu adrodd i’r Ysgrifennydd Gwladol ba mor debygol yw llwyddo i gael unrhyw drwydded rhywogaeth a warchodir sy’n angenrheidiol. Mae Natural England yn annog pob ymgeisydd i ddechrau trafod yn gynnar y cam cyn-ymgeisio er mwyn sicrhau, lle bo’n bosibl, y gall Llythyrau Dim Rhwystr gael eu cyflwyno yn y cam ymgeisio. Gall cyngor gan Natural England o dan y Gwasanaeth Cyngor Dewisol, yn gynnar yn y broses, helpu i bennu cwmpas neu fireinio materion yn ymwneud â rhywogaethau a warchodir ymhell cyn bod cais drafft am drwydded bywyd gwyllt yn cael ei baratoi.

Trwydded statudol ar gyfer rhywogaethau a warchodirl

Pan ddefnyddir dulliau strategol fel trwyddedu lefel rhanbarth (DLL) ar gyfer madfallod dŵr cribog (GCN), ni fydd angen llythyr dim rhwystr (LONI). Yn lle hynny, bydd angen i’r datblygwr ddarparu tystiolaeth i’r Awdurdod Archwilio (ExA) o sut a ble y defnyddiwyd y dull hwn mewn perthynas â’r cynnig, y mae’n rhaid iddi gynnwys Tystysgrif Asesiad o Effaith a Thaliad Cadwraeth (IACPC) wedi’i chydlofnodi gan Natural England, neu gymeradwyaeth debyg gan ddarparwr DLL arall.

Mae’r dull DLL wedi’i seilio ar asesiad ardal strategol sy’n cynnwys amlygu parthau risg, mapiau ardal cyfle strategol a dull o sicrhau bod mesurau digolledu digonol yn cael eu darparu, ni waeth lefel yr effaith. Yn ogystal, bydd Natural England (neu ddarparwr DLL arall) yn cynnal asesiad o effaith, y bydd ei ganlyniad yn cael ei gofnodi yn yr IACPC (neu ddogfen gyfatebol). Os na chynhaliwyd unrhyw arolygon GCN, gellir dibynnu ar ddull modelu parthau risg Natural England. Yn ystod yr asesiad o effaith, bydd Natural England yn rhoi gwybod i’r Ymgeisydd a yw ei gynllun o fewn un o’r parthau risg oren ac felly a yw’r Datblygiad Arfaethedig yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar GCN. Bydd yr IACPC hefyd yn darparu manylion ychwanegol, gan gynnwys gwybodaeth am effaith y Datblygiad Arfaethedig ar GCN a’r mesurau digolledu priodol sy’n ofynnol.

Trwy ddangos y bydd y cynllun DLL ar gyfer GCN yn cael ei ddefnyddio, gellir cyfyngu ar ystyried GCN yn y Datganiad Amgylcheddol i groesgyfeirio at IACPC Natural England (neu ddarparwr arall) er mwyn cyfiawnhau pam y byddai effeithiau arwyddocaol ar boblogaethau GCN o ganlyniad i’r Datblygiad Arfaethedig yn cael eu hosgoi.

Tirweddau Dynodedig

Fel y cynghorydd statudol ar dirweddau a’r ymgynghorai statudol ar ddatblygu AEA, mae Natural England yn darparu cyngor i ymgeiswyr a’r Awdurdod Archwilio ar effeithiau tirwedd cynigion NSIP ar dirweddau dynodedig (Parciau Cenedlaethol, y Broads ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE)). Ni all Natural England wneud sylwadau ar faterion ehangach yn ymwneud â thirwedd a morwedd a dylai ymgeiswyr gael cyngor gan awdurdodau cynllunio lleol a chyrff lleol eraill. Bydd ei gyngor yn canolbwyntio ar effeithiau cynigion NSIP ar ddibenion statudol yr ardaloedd hyn i warchod a gwella harddwch naturiol. Bydd hyn yn cynnwys ystyriaeth o’r effeithiau ar y dirwedd a’r effeithiau gweledol ar leoliad yr ardaloedd hyn.

Mae Parciau Cenedlaethol, y Broads ac AHNEau yn dirweddau dynodedig am mai’r rhain yw ein tirweddau gorau, ac fel y cyfryw maent yn sensitif iawn i effeithiau datblygiad newydd. Mae’r Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol a’r Datganiadau Polisi Cenedlaethol yn amlinellu’r safbwynt polisi fel y mae’n ymwneud â datblygu o fewn Parc Cenedlaethol neu AHNE. Ceir rhagdybiaeth y bydd datblygiad yn yr ardaloedd hyn yn cael ei wrthod ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol a lle gellir dangos ei fod er budd y cyhoedd. Dylid asesu datblygiad mawr yn erbyn meini prawf penodol, gan gynnwys yr angen am y datblygiad o fewn yr ardal ddynodedig a’r posibilrwydd ar gyfer cymedroli ei effaith ar yr amgylchedd. Bydd Natural England yn darparu cyngor i helpu’r awdurdod penderfynu gymhwyso’r ‘prawf’ hwn. Dylai ymgeiswyr gyflwyno digon o wybodaeth i lywio’r asesiad hwn.

Priddoedd a thir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas

Lle dangosir bod datblygiad sylweddol ar dir amaethyddol yn angenrheidiol, dylai ymgeiswyr geisio defnyddio ardaloedd tir o ansawdd salach yn hytrach na thir o ansawdd uwch, a diogelu priddoedd yn ystod y datblygu. Natural England yw’r ymgynghorai statudol ar rai cynigion datblygu sy’n effeithio ar dir amaethyddol sy’n arwain at (neu’n debygol o arwain at) golli 20 hectar neu fwy o dir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas (graddau 1, 2 a 3a yn y system Dosbarthu Tir Amaethyddol). Wrth roi cyngor, bydd Natural England yn ystyried y math o ddatblygiad, ei effeithiau hirdymor tebygol a’i effaith ar briddoedd. O dan Atodlen 5 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd) Natural England yw’r ymgynghorai statudol hefyd ar gyfer datblygiadau mwynau a gwastraff lle bwriedir adfer tir i ddefnydd amaethyddol. Mae Natural England yn cynghori ar b’un ai yw amaethyddiaeth yn ôlddefnydd priodol; p’un a yw cynigion rheoli ac adfer pridd yn bodloni’r safonau gofynnol a ph’un a yw amodau ôl-ofal yn briodol.

Sut i gysylltu â Natural England

Dylid cyfeirio pob ymgynghoriad NSIP ar gyfer Natural England i ganolfannau gwaith achos Natural England yn [email protected]. Dylai ymgeiswyr anfon neges ebost i [email protected] os nad oes ganddynt swyddog achos enwebedig ar gyfer materion yn ymwneud â thrwyddedu rhywogaethau a warchodir. Os nad yw’n bosibl ymgynghori’n electronig am unrhyw reswm, dylid anfon ymgyngoriadau i’r cyfeiriad post isod:

Natural England Consultation Service
Hornbeam House
Electra Way
Crewe Business Park
Crewe
Cheshire CW1 6GJ

Atodiad I: Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol a Materion yn ymwneud â Thrwyddedu Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop

Paratowyd y cyngor hwn i helpu datblygwyr ac ecolegwyr ymgynghorol datblygwyr i ddeall y broses ar gyfer ymgysylltu â Natural England ynglŷn â Phrosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIPau) a materion yn ymwneud â Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop. Sylwer y bydd y cyngor hwn yn cael ei adolygu’n rheolaidd ac y gallai gael ei ddiwygio o bryd i’w gilydd.

Er bod y nodyn hwn wedi’i fwriadu’n bennaf ar gyfer datblygiadau sy’n effeithio ar Rywogaethau a Warchodir gan Ewrop (h.y. y rhywogaethau hynny a restrir o dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau (2017), mae’r weithdrefn a amlinellir isod hefyd yn berthnasol i Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol sy’n ymwneud â rhywogaethau a warchodir nad yw deddfwriaeth Ewropeaidd yn berthnasol iddynt (e.e. moch daear, llygod dŵr, cimychiaid afon crafanc wen brodorol, malwod Rhufeinig ac ati).

Sylwer hefyd nad yw unrhyw gyfeiriad at y ‘3 phrawf trwyddedu’ isod yn berthnasol i’r rhywogaethau hynny.

Dylid cymryd bod cyfeiriadau at ‘chi’ isod yn golygu ‘y datblygwr a/neu ecolegydd ymgynghorol y datblygwr’ fel y bo’n briodol.

Cyflwyniad

O ran Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol sy’n ymwneud â Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop, mae Natural England yn cynnig gwasanaethau, y codir tâl am rai ohonynt (gweler Atodiad A), i roi cyngor cynnar a barn i chi ar eich cynigion ynglŷn â rhywogaethau a warchodir mewn perthynas â phob un o’r tri phrawf trwyddedu heb fod angen caniatâd cynllunio.

Y tri phrawf trwyddedu

  • rhaid i’r gweithgarwch fod at ddiben penodol (er enghraifft, ar gyfer ymchwil wyddonol neu er budd y cyhoedd)
  • rhaid bod ddim dewis amgen boddhaol a fydd yn achosi llai o niwed i’r rhywogaeth
  • rhaid i’r gweithgarwch beidio â niweidio statws cadwraeth hirdymor y rhywogaeth (gall fod angen i chi creu cynefinoedd newydd i wrthbwyso unrhyw ddifrod).

Gofynion ar gyfer Trwydded Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop

Gwneir hyn fel bod yr Awdurdod Archwilio ar gyfer ceisiadau NSIP o dan Ddeddf Cynllunio 2008 yn gallu bod yn hyderus bod Natural England, fel yr awdurdod trwyddedu perthnasol, wedi ystyried yr effeithiau sy’n ymwneud â rhywogaethau a warchodir er mwyn gwneud argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol perthnasol.

Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i Natural England gynnal asesiad, wedi’i seilio ar gais drafft llawn am drwydded liniaru, cyn i’r cais ffurfiol gael ei gyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio. Mae’r camau i’w dilyn wrth gyflwyno’r wybodaeth briodol, mewn perthynas â Phrosiect NSIP a allai effeithio ar Rywogaethau a Warchodir gan Ewrop, wedi’u hamlinellu isod ac yn y Siart Llif ar y diwedd.

Neges allweddol i ddatblygwyr NSIP a’u hymgynghorwyr ecolegol

Mae Natural England yn cynghori’n gryf y dylai datblygwyr ymgysylltu â Natural England ar y cyfle cynharaf posibl pe byddai angen trwyddedau rhywogaethau a warchodir.

Yn gyffredinol (gweler y paragraff nesaf), argymhellwn fod cais drafft am drwydded yn cael ei gyflwyno cyn gwneud cais er mwyn cynorthwyo’r broses archwilio. Dylech fod yn ymwybodol, os dewiswch gyflwyno’ch cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu i’r Arolygiaeth Gynllunio heb ddatrys materion yn ymwneud â thrwyddedu yn gyntaf, fod risg sylweddol y gallai’r materion hyn atal eich cais rhag symud heibio i’r cam ymgeisio neu archwilio. Sylwer, mewn achosion lle mae angen trwydded a lle nad ymgynghorwyd yn briodol â’r tîm trwyddedu, yn unol â’r broses a amlinellir isod, na ellir dal Natural England yn gyfrifol am unrhyw oedi o ran cynnydd eich cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu nac os yw’r cais yn aflwyddiannus o ganlyniad i faterion trwyddedu sydd heb eu datrys.

Sylwer, o ran cynlluniau llinol mawr (piblinellau, ceblau, ac ati), o’n profiad ni, mae’n well cytuno ar y llwybr cyn cyflwyno cais drafft am drwydded madfall ddŵr gribog fel bod y wybodaeth ddrafft, yn enwedig o ran yr arolwg ac effeithiau, yn eglur ac yn ddealladwy. Dylid cyflwyno’r cais cyn gynted â phosibl o hyd er mwyn sicrhau bod unrhyw faterion y mae angen eu datrys yn derbyn sylw mewn da bryd ymhell cyn y cam archwilio.

Cam 1 A oes angen trwydded? Ymgysylltu’n ffurfiol â Natural England

Dylech gyfeirio ganllawiau cyhoeddedig Natural England ar gyfer y rhywogaethau perthnasol a phenderfynu p’un a oes angen trwydded liniaru. Os penderfynwch fod angen trwydded liniaru, dylech ddechrau datblygu’r cynllun lliniaru a ddylai ddilyn canllawiau cyhoeddedig Natural England ar gyfer y rhywogaethau perthnasol. Er bod hyn yn ddewisol, fe’ch anogir i ymgysylltu â Natural England cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi unrhyw broblemau annisgwyl eraill yn ddiweddarach yn y broses. Os nad oes gennych swyddog achos enwebedig yn Natural England ar gyfer eich prosiect, defnyddiwch y cyfeiriad e-bost canlynol at ddibenion trwyddedu: [email protected]. Marciwch eich neges e-bost ‘NSIP – ymgysylltu anffurfiol’ – gan roi enw’r prosiect NSIP, a’r rhywogaeth dan sylw, ym mhennawd pwnc y neges e-bost. Bydd hyn yn galluogi Natural England i gydlynu, cynghori a goruchwylio materion trwyddedu NSIP trwy’r sianeli priodol. Pan dderbynnir cais, caiff ei oruchwylio gan Dîm Ardal perthnasol Natural England.

Gall Natural England roi cyngor anffurfiol ar faterion trwyddedu unrhyw bryd neu, trwy gyngor cyffredinol di-dâl yn y cam cychwynnol gall amlinellu pa wybodaeth y bydd ei hangen i hwyluso’r drafodaeth cyn-ymgeisio anffurfiol hon ymhellach.

Bydd Natural England yn ceisio rhoi’r cyngor cyffredinol neu gychwynnol hwn ar ofynion trwyddedu dros y ffôn o fewn pum niwrnod gwaith. Fodd bynnag, os gofynnir am gyngor manwl cyn cyflwyno cais am drwydded (e.e. cais am delegynhadledd neu gyfarfod) caiff hwn ei ddarparu drwy’r Gwasanaeth Cyngor Dewisol yn unol â graddfeydd amser cyhoeddedig. Ar gyfer achosion sy’n arbennig o gymhleth, pan fydd llwyth gwaith tîm Natural England yn uchel, neu pan ystyrir bod angen cynnal ymweliad safle er mwyn rhoi cyngor, bydd Natural England yn cysylltu â chi i drafod pryd y bydd yn bosibl iddynt roi barn ynglŷn â’r achos.

Yn ystod y cam hwn o’r broses, ni fydd y Datganiad o Ddull yn cael ei asesu’n llawn. (Mae Datganiad o Ddull yn dangos pa effaith a gaiff gweithgarwch ar rywogaethau a warchodir a ph’un a fydd eu statws cadwraeth ffafriol yn cael ei gynnal.) Gan ddibynnu ar lefel y risg neu’r cyfleoedd a ddaw yn sgil y camau lliniaru, gallai telegynhadledd neu gyfarfod wyneb yn wyneb fod yn briodol i drafod materion yn fanwl.

Cam 2 – Cyflwyno cais drafft am drwydded i Natural England

Er mwyn i swyddog Natural England roi cyngor sgrinio cyn-cyflwyno ynglŷn â derbynioldeb y cais arfaethedig am drwydded a’r camau lliniaru, dylai ymgeiswyr, cyn gynted ag y bydd y cynigion yn ddigon datblygedig a bod y camau lliniaru’n ystyried y dyluniad terfynol:

  • Baratoi cais drafft llawn am drwydded sy’n cynnwys:
  • Ffurflen gais,
  • Datganiad o Ddull a mapiau/ffigurau ynghyd ag Amserlen Waith arfaethedig (a ddylai fod yn Gyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol a Synhwyrol (“CAMPUS”), a
  • Datganiad Rhesymedig (Defnyddir y ddogfen hon gan ein Cynghorwyr Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop i asesu p’un a fodlonwyd y prawf Diben a’r prawf Dim Dewis Amgen Boddhaol. Mae’n gofyn i chi amlinellu eich safbwyntiau a darparu tystiolaeth i ddangos bod y gweithgarwch arfaethedig yn bodloni un o’r dibenion rhagnodedig. Yn ogystal, mae angen darparu tystiolaeth i ddangos nad oes dewis amgen boddhaol yn lle cynnal y gweithgarwch, a fyddai’n cael llai o effaith ar y rhywogaethau, ag a gynigir yn y cais am drwydded.)
  • Anfonwch y cais drwy’r e-bost i [email protected], wedi’i farcio ‘NSIP – Cais drafft am drwydded’, gan nodi enw’r NSIP a’r rhywogaeth dan sylw ym mhennawd pwnc y neges e-bost.

Wrth baratoi dogfennau’r ffurflen gais i’w cyflwyno, dylid dilyn y canllawiau ar enwi ffeiliau a defnyddio strwythurau ffolder fel y’u nodir yn y ‘Neges allweddol’ yn adran 16 y ddogfen ‘Sut i gael trwydded’.

Wrth gyflwyno dogfennau cais drafft ar bapur neu’n electronig, dylid dilyn y canllawiau yn y ffurflen gais a’r ddogfen ‘Sut i gael trwydded’ (adran 16) (e.e. dylai dogfennau dros 5MB gael eu cyflwyno i Natural England ar gryno ddisg yn hytrach na thrwy e-bost). Rhoddir dolen i ganllawiau Natural England ar gywasgu ffeiliau isod. Cynghorir ymgeiswyr i leihau maint eu pecyn cais gymaint â phosibl wrth ei gyflwyno trwy neges e-bost.

Sylwer, o ran y tri phrawf trwyddedu a amlinellir yn Rhan 5 Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau (2010) fel y’u diwygiwyd (“y Rheoliadau Cynefinoedd”), na fydd yn bosibl i Natural England ystyried bod y profion hyn wedi cael eu bodloni’n llawn, o ran unrhyw NSIP, hyd nes y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol wedi rhoi’r Gorchymyn Caniatâd Datblygu. Fodd bynnag, bydd asesiad llawn o’ch cais drafft, gan gynnwys y Datganiad Rhesymedig a’r dystiolaeth ategol, yn cael ei gynnal cyn i’r Gorchymyn Caniatâd Datblygu gael ei roi, yn unol â thelerau cyngor sgrinio cyn-cyflwyno Natural England, er mwyn pennu p’un a ddarparwyd digon o fanylion fel arall (gweler y Siart Llif isod).

Gwnewch yn siŵr fod y dystiolaeth ddogfennol angenrheidiol, sy’n ategu’r datganiadau a wnaed yn y Datganiad Rhesymedig mewn perthynas â’r Prawf Diben a’r Prawf Dim Dewis Arall Boddhaol, wedi cael ei chynnwys. O ran prosiectau ar y raddfa hon, er na fyddai’r caniatadau gofynnol wedi cael eu sicrhau eto, bydd Natural England yn parhau i ddisgwyl bod lefel ddigonol o dystiolaeth ategol ar gael (e.e. adroddiadau, astudiaethau ac ati) sy’n dangos yr angen am y datblygiad a’r dewisiadau eraill a ystyriwyd ac a ddiystyriwyd wedi hynny am fod yn llai boddhaol. Sylwer na allwn gyhoeddi’r ‘llythyr dim rhwystr’ hyd nes y bydd y lefel wybodaeth briodol wedi cael ei darparu mewn perthynas â phob un o’r tri phrawf.

Cam 3 – Cyhoeddi ‘Llythyr dim rhwystr’ neu ‘gais am wybodaeth ychwanegol’ gan Natural England

O fewn 30 niwrnod gwaith, bydd Natural England naill ai’n cyhoeddi:

  • ‘llythyr dim rhwystr’ sy’n datgan ei fod yn fodlon, mewn egwyddor, i’r graddau y gall wneud penderfyniad ar sail y wybodaeth a adolygwyd, bod y cynigion a gyflwynwyd yn cydymffurfio â’r 3 phrawf trwyddedu, neu
  • llythyr yn amlinellu pam y credwn nad yw’r cynigion yn bodloni’r gofynion trwyddedu ar hyn o bryd a pha wybodaeth ychwanegol sy’n ofynnol. Os bydd angen gwybodaeth ychwanegol, mae’n debygol y bydd hyn yn golygu y bydd angen gwasanaethau cynghori ychwanegol o dan y cytundeb sgrinio cyn-cyflwyno ar gyfer y cais drafft diwygiedig am drwydded. Dylid nodi na fydd amser a dreuliwch yn darparu unrhyw wybodaeth ddiwygiedig/well/newydd yn cyfrif tuag at y targed safon cwsmeriaid 30 niwrnod gwaith.

Rhoddir copi o ohebiaeth ynglŷn â’r ceisiadau drafft a’r cyngor a ddarparwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio.

Bydd y ‘llythyr dim rhwyst’ ’ yn nodi cyngor Natural England yn erbyn y tri phrawf trwyddedu statudol o dan Ran 5 y Rheoliadau Cynefinoedd. Gallwch ddefnyddio’r llythyr hwn i ategu eich cais i’r Arolygiaeth Gynllunio; bydd Natural England yn anfon copi ohono i’r Arolygiaeth Gynllunio hefyd. Bydd y llythyr yn esbonio, ar sail y wybodaeth am rywogaethau a’r cynigion a gyflwynwyd hyd yma, fod Natural England yn fodlon mewn egwyddor bod y profion trwyddedu’n debygol o gael eu bodloni pan gyflwynir cais ffurfiol (ar y sail fod y wybodaeth/dystiolaeth a ddarperir yn y cais yn aros yr un fath), yn amodol ar roi’r Caniatâd Gorchymyn Datblygu gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac yn amodol ar y cafeatau a restrir o dan gymal 4 telerau ac amodau’r gwasanaeth sgrinio cyn-cyflwyno (gweler y ddolen isod). Bydd y llythyr hefyd yn tynnu sylw at y ffaith y gallai amodau ecolegol ar y safle newid dros amser. Eich cyfrifoldeb chi (y datblygwr) yw cynnal gwybodaeth arolwg ddigon cyfredol a sicrhau ei bod ar gael i Natural England wedyn (ynghyd ag unrhyw ddiwygiadau canlyniadol i’r cais drafft am drwydded) a’r Arolygiaeth Gynllunio er mwyn osgoi oedi wrth gyhoeddi’r drwydded pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol wedi rhoi’r Caniatâd Gorchymyn Datblygu.

Cam 4 – Cyflwyno’r cais NSIP i’r Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer Gorchymyn Caniatâd Datblygu

Ar ôl i chi gyflwyno’r cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu i’r Arolygiaeth Gynllunio, ynghyd â’r ‘llythyr dim rhwystr’ a chynigion lliniaru cysylltiedig, dylech roi gwybod i Natural England am gynnydd er mwyn sicrhau ein bod ni’n ymwybodol o’r graddfeydd amser tebygol a phryd i ddisgwyl y cais swyddogol fel y gallwn wneud penderfyniad terfynol amserol ar drwydded liniaru. Mae’n bosibl y bydd angen diweddaru’r amserlen weithgareddau (sy’n rhan o’r drwydded Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop y gellir ei gorfodi’n gyfreithiol – gweler rheoliad 53(8)(c)(ii) y Rheoliadau Cynefinoedd) yn derfynol os bu unrhyw lithriad o ran yr amseriadau y cytunwyd arnynt (gweler Cam 5).

Cam 5 – Natural England yn rhoi trwydded liniaru ar ôl i’r Gorchymyn Caniatâd Datblygu gael ei roi (sylwer na chodir tâl am y cam hwn).

Pan fydd y Gorchymyn Caniatâd Datblygu wedi cael ei roi, dylech gyflwyno’r cais am drwydded liniaru yn ffurfiol i Natural England (trwy ddilyn y broses gyflwyno a amlinellir yng Ngham 2). Bydd Natural England yn rhoi trwydded, cyn belled ag y bo’r cynigion a’r sefyllfa ar y safle nail ai:

  • Yr un fath a bod yr amserlen waith yn parhau i fod yn GAMPUS (Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol a Synhwyrol), neu
  • Wedi cael eu haddasu’n briodol i alluogi Natural England i gadarnhau bod y cynigion lliniaru’n parhau i fod yn ddigonol (e.e. gallai’r amseriadau yn yr amserlen waith newid), neu
  • Yn ystyried unrhyw ofynion arolygu ychwanegol, ac ailasesu effeithiau ac ati, sy’n deillio o oedi sylweddol rhwng cyhoeddi’r ‘llythyr dim rhwystr’ a’r penderfyniad Gorchymyn Caniatâd Datblygu.

Sylwer, os gwneir newidiadau i gynigion neu amseriadau nad ydynt yn ein galluogi i fodloni’r tri phrawf, byddwn yn cyhoeddi llythyr yn amlinellu pam nad yw’r cynigion yn dderbyniol a pha wybodaeth ychwanegol y mae ei hangen. Byddai angen mynd i’r afael â’r materion hyn cyn y gellid rhoi trwydded. Bydd y llythyr hwn yn cael ei anfon at yr Arolygiaeth Gynllunio hefyd er mwyn rhoi gwybod iddynt am unrhyw gyngor a roddwyd i chi (y datblygwr) gan y Tîm Trwyddedu. Nid yw Natural England yn disgwyl i unrhyw newidiadau arwyddocaol gael eu gwneud i gynigion y cytunwyd arnynt mewn egwyddor ar y cam hwn.

Ffigur 1: Proses Arweiniad Trwyddedu Prosiect Seilwaith Sylweddol Genedlaethol (NSIP) ar gyfer datblygwyr NSIP

Dolenni defnyddiol ar gyfer paratoi cais drafft

Nodwch fod ein cyngor yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd. Felly, fe’ch cynghorir i ddefnyddio’r fersiynau diweddaraf sydd ar gael ar dudalennau gwe Rheoli Bywyd Gwyllt a Thrwyddedu.GOV.UK. Rhestrir y canllawiau craidd isod: