Datganiad hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i gynnwys sy’n cael ei gyhoeddi ar y parth infrastructure.planninginspectorate.gov.uk.

Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan yr Arolygiaeth Gynllunio. Rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais

gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrîn (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Nid yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • Mae’r safle’n defnyddio iframes i fewnblannu mapiau Google a fideos a fewnblannwyd gan YouTube ar rai tudalennau. Nid yw trefn y tabiau bob amser yn rhesymegol ar y rhain ac mae rhai materion cyferbynnedd hefyd.

Mae’r adran isod ar statws cydymffurfio yn rhoi mwy o fanylion am y rhannau o’r safle nad ydynt yn gwbl hygyrch.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes arnoch angen y wybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 10 niwrnod gwaith.

Os na allwch weld y map ar ein tudalen Cysylltu â ni, ffoniwch ni ar 0303 444 5000 neu anfonwch neges e-bost atom ar [email protected] i gael cyfarwyddiadau.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â’r wefan hon

Rydym bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon. Os deuwch ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn cyflawni ein gofynion hygyrchedd, anfonwch neges e-bost atom ar [email protected]

Y weithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (‘y rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) fersiwn 2.1 safon AA, oherwydd y materion anghydffurfio a’r esemptiadau a restrir isod.

Cynnwys anhygyrch

Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.

Anghydffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Mae’r safle’n defnyddio iframes i fewnblannu mapiau Google a fideos YouTube ar rai tudalennau. Nid yw trefn y tabiau bob amser yn rhesymegol ar y rhain ac mae rhai materion cyferbynnedd hefyd.

Mae mwyafrif y dogfennau a gyhoeddwn ar y safle hwn yn cael eu cynhyrchu gan drydydd partïon. Nid ydym yn gallu gwneud i’r rhain gydymffurfio’n llawn, er enghraifft trwy ychwanegu testun amgen i ddelweddau neu ddiagramau. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.1.1 WCAG 2.1 (cynnwys nad yw’n destun)

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Nid yw rhai o’n dogfennau hŷn yn bodloni’r safonau hygyrchedd. Er enghraifft:

  • nid ydynt yn cynnwys testun amgen ar gyfer diagramau a/neu ddelweddau – nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.1.1 WCAG 2.1
  • maen nhw’n defnyddio delweddau o destun, yn hytrach na thestun plaen – nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.5 WCAG 2.1
  • nid ydynt wedi’u strwythuro’n iawn – nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 4.1.2 WCAG 2.1

Yn ôl y rheoliadau hygyrchedd, nid oes rhaid i ni gywiro PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Dylai unrhyw ddogfennau newydd rydym ni’n eu creu a’u cyhoeddi fodloni’r safonau hygyrchedd.

Beth rydym ni’n ei wneud i wella hygyrchedd

Amlygodd yr Archwiliad o’r safle fwy na 30 o faterion yn ymwneud â strwythur y safle a’r cynnwys HTML. Rydym wedi llwyddo i ddatrys y mwyafrif o’r rhain ac yn bwriadu ymdrin â’r rhai sy’n weddill erbyn mis Tachwedd 2020.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 14 Medi 2020. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar
8 Chwefror 2021.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 20 Awst 2020. Cynhaliwyd y prawf gan Zoonou.

Gwnaethom ddefnyddio sampl strwythuredig helaeth o’r safle yn cynnwys yr holl brif dempledi.