Nodyn Cyngor un ar bymtheg: Sut i ofyn am gael gwneud newid a allai fod yn berthnasol

Diben y Nodyn Cyngor hwn yw rhoi gwybodaeth i ymgeiswyr am sut i ofyn am gael gwneud newid perthnasol i gais ar ôl iddo gael ei dderbyn a chyn diwedd yr Archwiliad.

Mae cyfarwyddyd y llywodraeth ar archwilio ceisiadau ar gyfer caniatâd datblygu (Cyfarwyddyd Archwilio – Deddf Cynllunio 2008: Cyfarwyddyd ynglŷn ag archwilio ceisiadau am ganiatâd datblygu, Mawrth 2015) yn nodi’r dull y dylai Awdurdod Archwilio ei ddefnyddio i ymdrin â chais gan ymgeisydd am gael gwneud newid perthnasol i gais a dderbyniwyd ar gyfer ei archwilio. Yn benodol, mae paragraff 113 y Cyfarwyddyd Archwilio yn nodi’r ffactorau y bydd angen i Awdurdod Archwilio eu hystyried wrth benderfynu p’un ai derbyn newid perthnasol i gais a dderbyniwyd ai peidio. Mae paragraff 110 y Cyfarwyddyd Archwilio hefyd yn egluro y gallai newid arfaethedig fod mor berthnasol fel ei fod yn gyfystyr â phrosiect sylweddol wahanol. Mewn amgylchiadau o’r fath (fel yr esbonnir ym mharagraff 5.5 y Nodyn Cyngor hwn), gallai’r Awdurdod Archwilio benderfynu y byddai newid arfaethedig yn newid y cais i’r fath raddau fel na ellir archwilio’r cais heb dorri egwyddorion tegwch a rhesymoldeb.

Diben y Nodyn Cyngor hwn yw ychwanegu at y Cyfarwyddyd Archwilio a sefydlu dull strwythuredig er mwyn rhoi mwy o sicrwydd i ymgeiswyr wrth ofyn am gael gwneud newid perthnasol, yn ogystal ag esbonio goblygiadau gwneud hynny. Mae’r nodyn hwn yn berthnasol i’r camau Cyn Archwilio ac Archwilio oherwydd dyna’r unig adegau pryd y gallai cais am gael gwneud newid perthnasol gael ei ystyried gan yr Awdurdod Archwilio a benodwyd.


Mae cais am gael gwneud newid perthnasol a gyflwynir yn ystod wythnosau olaf archwiliad yn annhebygol o gael ei dderbyn gan yr Awdurdod Archwilio, a bydd yr Awdurdod Archwilio yn gwneud eu hadroddiad a’u hargymhelliad ar sail y cais fel y saif pan ddaw’r Archwiliad i ben.


Dylai ymgeiswyr sy’n dymuno gwneud newid perthnasol i Orchymyn Caniatâd Datblygu sydd eisoes wedi cael ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol gyfeirio at y rheoliadau canlynol:

  • Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Newid a Dirymu Gorchmynion Caniatâd Datblygu) 2011
  • Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Newid a Dirymu Gorchmynion Caniatâd Datblygu) (Diwygio) 2015

Neidio i’r adran:

  1. Cyflwyniad
  2. Beth yw newid perthnasol?
  3. Camau allweddol wrth ofyn am gael gwneud newid a allai fod yn berthnasol i gais
  4. Y wybodaeth sy’n ofynnol wrth ofyn am gael gwneud newid perthnasol
  5. Rôl yr Awdurdod Archwilio
  6. Goblygiadau o ran amseru

1. Cyflwyniad

1.1 Ni ddylai unrhyw beth yn y Nodyn Cyngor hwn leihau pwysigrwydd cyflwyno ceisiadau a baratowyd yn drylwyr. Diben y cam Cyn Ymgeisio statudol yw canolbwyntio ar ddatblygu’r prosiect a mynnu bod ymgeiswyr yn paratoi eu ceisiadau’n gynhwysfawr. Dylai materion technegol gael eu hamlygu a’u datrys i’r graddau mwyaf posibl yn ystod y cam Cyn Ymgeisio fel na fyddant yn rhwystro archwilio’r cais o fewn y graddfeydd amser statudol. Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi cyfarwyddyd ar y broses Cyn Ymgeisio ar gyfer ymgeiswyr a defnyddwyr eraill y gyfundrefn (Deddf Cynllunio 2008: Cyfarwyddyd ynglŷn â’r broses cyn ymgeisio, Mawrth 2015).

1.2 Fodd bynnag, mae’r llywodraeth yn cydnabod y gallai fod adegau pan fydd angen i ymgeiswyr wneud newid perthnasol i gais ar ôl iddo gael ei dderbyn i’w archwilio. Weithiau, gallai newid ddeillio o gyhoeddi polisi newydd/sy’n dod i’r amlwg gan y Llywodraeth neu drafodaethau parhaus rhwng yr ymgeisydd a Phartïon eraill â Buddiant.

1.3 Mae’n rhaid i’r cyfiawnhad dros wneud newid perthnasol ar ôl i gais gael ei dderbyn i’w archwilio fod yn gadarn a dylai fod rhesymau da ynglŷn â pham nad oedd y materion sy’n ysgogi’r newid wedi cael eu hamlygu a’u trin yn rhagweithiol yn ystod y cam Cyn Ymgeisio. Cyn i ymgeisydd gyflwyno cais am gael gwneud newid perthnasol, dylent ystyried yn ofalus sut y bydd yn effeithio ar y Partïon eraill â Buddiant a’r Amserlen Archwilio.

2. Beth yw newid perthnasol?

2.1 Nid oes diffiniad cyfreithiol o “berthnasol” ond y profion i’w defnyddio yw p’un ai yw’r newid yn sylweddol neu p’un ai nad yw’r datblygiad sy’n cael ei gynnig nawr yn ei hanfod yr hyn y gwnaed cais amdano yn wreiddiol. Mae’r cyntaf yn gyfystyr â gwneud newid perthnasol ac – ar yr amod bod digon o amser ar ôl yn y cam Archwilio – gellir ei gynnwys fel rhan o broses Deddf Cynllunio 2008. Mae’r olaf yn gyfystyr â phrosiect gwahanol y byddai angen gwneud cais newydd ar ei gyfer. Mae p’un ai yw newid arfaethedig yn perthyn i’r naill neu’r llall o’r categorïau hyn yn fater o farn gynllunio a all fod yn seiliedig ar feini prawf, gan gynnwys, er enghraifft, a fyddai’r newid yn achosi effaith/effeithiau amgylcheddol sylweddol newydd neu wahanol. Yn yr un modd, p’un ai (ac os felly, i ba raddau) yw’r cais am gael gwneud newid yn cynnwys estyniad i dir y Gorchymyn, yn enwedig lle byddai angen pwerau Caffael Gorfodol ychwanegol e.e. ar gyfer lleiniau newydd o dir a/ neu fuddiannau. Mae rhagor o wybodaeth am wneud cais am gael gwneud newid perthnasol i’w chael ym mharagraffau 109 i 115 y Cyfarwyddyd Archwilio (Deddf Cynllunio 2008: Arweiniad am archwilio ceisiadau am ganiatâd datblygu, Mawrth 2015).

2.2 Mae’n bosibl na fydd cyflwyno gwybodaeth newydd neu ddiwygiedig cyn i’r Archwiliad ddechrau neu yn ystod yr Archwiliad (er enghraifft, fersiynau newydd o’r Gorchymyn Caniatâd Datblygu wrth i Erthyglau gael eu hadolygu, ac wrth i ddrafftiau gael eu gwella a Gofynion neu Ddarpariaethau Amddiffynnol gael eu datblygu er mwyn lliniaru effeithiau) yn gyfystyr â chais am gael gwneud newid perthnasol i gais. Er enghraifft, yn dilyn penderfyniad i dderbyn cais i’w archwilio, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn aml yn rhoi cyngor i ymgeiswyr sy’n amlygu camgymeriadau, hepgoriadau a materion ansoddol yn ymwneud â dogfennau’r cais a gyflwynwyd. Mewn ymateb, caiff ymgeiswyr gywiro gwallau a chyflwyno dogfennau cais, cynlluniau neu wybodaeth amgylcheddol diwygiedig. Yn ystod yr Archwiliad, gallai’r Awdurdod Archwilio ofyn hefyd am wybodaeth ychwanegol neu sylwadau ysgrifenedig gan yr ymgeisydd neu unrhyw Barti â Buddiant (yn unol â Rheol 17 Rheolau Cynllunio Seilwaith (Gweithdrefn Archwilio) 2010); gallai gwybodaeth newydd gael ei darparu hefyd mewn ymateb i gwestiynau ysgrifenedig gan yr Awdurdod Archwilio. Ni fydd newidiadau i ddogfennau’r cais o reidrwydd yn arwain at newidiadau i’r prosiect sylfaenol.

2.3 Yn y pen draw, yr Awdurdod Archwilio sy’n gyfrifol am benderfynu p’un ai yw gwybodaeth newydd a gyflwynwyd i’r Archwiliad gan ymgeisiwr yn gyfystyr â gwneud newid perthnasol i’r cais. Os bydd ymgeisydd yn cyflwyno gwybodaeth newydd a allai fod yn gyfystyr â gwneud newid perthnasol i gais ond nid yw’n gofyn am gael gwneud newid perthnasol i gais, gallai’r Awdurdod Archwilio ofyn o hyd am y wybodaeth a nodir yn Ffigwr 3 cyn penderfynu p’un ai archwilio’r wybodaeth newydd a sut i wneud hynny.

2.4 Hefyd, bydd angen i’r Awdurdod Archwilio ystyried a fyddai effaith gyfunol cyfres o newidiadau cynyddol nad ydynt yn berthnasol, gyda’i gilydd, yn arwain at wneud newid perthnasol i’r cais gwreiddiol.

2.5 Noder, hyd yn oed os na ystyrir cais i gael gwneud newid yn un perthnasol, mae’n bosibl y bydd angen, er budd tegwch, cynnal ymgynghoriad o hyd. Bydd angen i ymgeisydd ystyried (ac yn y pen draw, i’r Awdurdod Archwilio benderfynu) p’un ai, heb ail-ymgynghori ar y newid(iadau) y gofynnir amdanynt, y byddai unrhyw un sydd â hawl i gael eu hymgynghori neu a ymgynghorwyd â hwy ynghylch y cais gwreiddiol (gan gynnwys unigolion nad ydynt yn Barti â Buddiant yn yr Archwiliad) yn cael eu hamddifadu o’r cyfle i wneud unrhyw sylwadau ar y cais wedi’i newid. Byddai p’un ai y byddai angen ymgynghori pellach ai peidio yn dibynnu, ymhlith pethau eraill, ar natur a maint y newidiadau arfaethedig a’u harwyddocâd posibl i’r rhai y gellid ymgynghori â hwy – R. (ar gais gan Holborn Studios Ltd) v Hackney LBC [2017 ] QBD a R. (ar gais gan Moseley) v Haringey LBC [2014] Goruchaf Lys y DU.

3. Camau allweddol wrth ofyn am gael gwneud newid a allai fod yn berthnasol i gais

3.1 Bydd angen i ymgeiswyr benderfynu drostynt eu hunain (gan geisio eu cyngor cyfreithiol eu hunain) p’un ai yw newid arfaethedig i gais yn berthnasol, ac felly p’un ai y dylent ofyn i’r Awdurdod Archwilio ystyried derbyn cais i gael gwneud newid perthnasol i’r cais. Diben hyn yw rhoi sail gadarn i’r Awdurdod Archwilio ystyried y cais.

3.2 Dylid rhoi gwybod i’r Awdurdod Archwilio am y bwriad i gyflwyno cais (Cam 1 Ffigwr 1). Yn nodweddiadol, hysbysir y bwriad i gyflwyno cais am gael gwneud newid perthnasol trwy anfon llythyr neu neges e-bost at yr Awdurdod Archwilio sy’n disgrifio’r newid perthnasol ac sy’n nodi pryd y disgwylir i’r cais gael ei gyflwyno. Byddai hefyd yn ddefnyddiol pe byddai unrhyw wybodaeth am y newid perthnasol sydd ar gael ar yr adeg honno yn cael ei rhoi i’r Awdurdod Archwilio. Bydd y llythyr hysbysu ac unrhyw ddogfennau cysylltiedig a ddarperir yn cael eu cyhoeddi ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol ac ar gael i Bartïon eraill â Buddiant cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl.

3.3 Cyn cyflwyno cais ysgrifenedig (Cam 4 Ffigwr 1), argymhellir bod ymgeiswyr yn ymgynghori â’r holl unigolion a ragnodir yn Neddf Cynllunio 2008 o dan adran 42 (a) i (d) y byddai’r newid arfaethedig yn effeithio arnynt (gan roi 28 niwrnod o leiaf ). Os defnyddir dull wedi’i dargedu o amlygu’r rhai hynny a effeithir gan y cais i gael gwneud newid perthnasol i’r cais, cynghorir y dylid rhoi cyfiawnhad manwl dros beidio ag ymgynghori ag unigolion rhagnodedig penodol, er enghraifft, yn achos Ymgymeryddion Statudol, trwy gadarnhau na fyddai’r newid perthnasol arfaethedig yn effeithio ar eu swyddogaethau. Os yw’n berthnasol, dylai ymgeiswyr amlygu unrhyw unigolion rhagnodedig newydd, h.y. y rhai yr ymgynghorwyd â hwy mewn perthynas â’r newid perthnasol arfaethedig ond NID mewn perthynas â’r cais gwreiddiol.

3.4 Caiff yr ymgeisydd ymgynghori ar y newid perthnasol arfaethedig yn wirfoddol cyn ceisio cyngor gweithdrefnol gan yr Awdurdod Archwilio pe byddai hyn yn arbed amser. Os yw ymgeisydd yn ansicr ynglŷn â sut i fynd ati, caiff geisio barn yr Awdurdod Archwilio (Cam 2 Ffigur 1), trwy’r rheolwr achos, ynglŷn â graddfa a natur unrhyw ymarfer ymgynghori anstatudol.

3.5 Gallai’r Awdurdod Archwilio ofyn i ymgynghoriad ychwanegol gael ei gynnal os nad yw’n credu bod y camau a gymerwyd gan yr ymgeisydd wedi bod yn ddigonol i ddiogelu buddiannau a/ neu hysbysu’r rhai hynny y gallai’r newid perthnasol effeithio arnynt.

Ffigur 1: Crynodeb o sut i gyflwyno cais am gael gwneud newid perthnasol i gais a dderbyniwyd

Cam 1 Mae’r Ymgeisydd yn penderfynu gofyn am gael gwneud newid perthnasol i gais a dderbyniwyd i’w archwilio ac yn rhoi gwybod i’r Awdurdod Archwilio yn ysgrifenedig.

Cam 2 Mae’r Awdurdod Archwilio yn rhoi cyngor i’r Ymgeisydd ar oblygiadau gweithdrefnol y newid perthnasol arfaethedig ac angen, graddfa a natur yr ymgynghoriad y gallai fod angen i’r Ymgeisydd ei gynnal.

Cam 3 Ymgeisydd yn cario allan yn anstatudol ymgynghori ynghylch y arfaethedig newid materol. Efallai y bydd y cam hwn a wnaed yn gynharach pe bai’n arbed amser a hysbysu yr Ymgeisydd dynesu.

Cam 4 Mae’r Ymgeisydd yn cyflwyno cais ysgrifenedig i gael gwneud newid perthnasol i’r Awdurdod Archwilio yn gofyn iddynt archwilio’r cais wedi’i newid trwy ddarparu’r wybodaeth a nodir yn Ffigwr 3.

Cam 5 Mae’r Awdurdod Archwilio yn gwneud penderfyniad gweithdrefnol ynglŷn â ph’un ai archwilio’r cais wedi’i newid ai peidio a sut y dylai gael ei archwilio.

Cam 6 Os bydd yr Awdurdod Archwilio yn penderfynu y gellir archwilio’r cais wedi’i newid, bydd yr Archwiliad yn mynd rhagddo i ystyried y cais wedi’i newid. Os bydd yr Awdurdod Archwilio yn penderfynu na ellir archwilio’r cais wedi’i newid, bydd angen i’r Ymgeisydd benderfynu p’un ai i fynd ymlaen â’r Archwiliad ar sail y cais a gyflwynwyd. Gweler paragraff 5.5 am ragor o fanylion.


Mae cais am gael gwneud newid perthnasol a gyflwynir yn ystod wythnosau olaf archwiliad yn annhebygol o gael ei dderbyn gan yr Awdurdod Archwilio, a bydd yr Awdurdod Archwilio yn gwneud eu hadroddiad a’u hargymhelliad ar sail y cais fel y saif pan ddaw’r Archwiliad i ben.


Ffigwr 2: Y broses o ofyn am gael gwneud newid

Figure 2

4. Y wybodaeth sy’n ofynnol wrth ofyn am gael gwneud newid perthnasol

4.1 Er mwyn cynorthwyo’r Awdurdod Archwilio i wneud y Penderfyniad Gweithdrefnol y cyfeirir ato yng Ngham 5 Ffigwr 1, ac er budd eglurder i’r rhai sy’n cymryd rhan yn y broses, dylai ymgeiswyr ddarparu’r wybodaeth a nodir yn Ffigwr 3 a dilyn y cyngor yn y nodyn hwn.

Ffigwr 3: Gwybodaeth i’w chynnwys mewn cais am gael gwneud newid perthnasol i gais ar ôl iddo gael ei dderbyn i’w archwilio

  1. Disgrifiad eglur o’r newid arfaethedig, gan gynnwys unrhyw waith newydd/a newidiwyd ac unrhyw faterion ategol newydd/a newidiwyd.
  2. Datganiad sy’n gosod allan y sail resymegol a’r angen dybryd dros wneud y newid, gan gyfeirio at y Cyfarwyddyd Archwilio, unrhyw Ddatganiad(au) Polisi Cenedlaethol fel y bo’n briodol ac unrhyw faterion pwysig a pherthnasol eraill.
  3. Atodlen lawn o holl ddogfennau a chynlluniau’r cais sy’n rhestru diwygiadau canlyniadol i bob dogfen a chynllun neu nodiant “dim newid”. (Fe allai fod yn ddefnyddiol i ymgeiswyr adlewyrchu’r wybodaeth sy’n ofynnol ar y ffurflen gais ragnodedig – paragraff 1 Atodlen 2 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009.) Dylai’r atodlen gynnwys diweddariad o unrhyw ganiatadau/trwyddedau sy’n ofynnol a ph’un ai (o ystyried y newid arfaethedig i’r cais) y bydd unrhyw rwystr rhag sicrhau’r caniatadau/trwyddedau cyn i’r Archwiliad ddod i ben.
  4. Fersiwn olrhain newidiadau o’r Gorchymyn Caniatâd Datblygu drafft, sy’n dangos pob newid arfaethedig, a Memorandwm Esboniadol diwygiedig drafft sy’n olrhain newidiadau. Os gwnaed newidiadau drafftio i’r Gorchymyn Caniatâd Datblygu drafft yn ystod yr Archwiliad, dylai ymgeiswyr ofyn i’r Awdurdod Archwilio pa fersiwn o’r Gorchymyn Caniatâd Datblygu drafft a’r Memorandwm Esboniadol drafft y dylid eu defnyddio at y diben hwn.
  5. Os yw’r newid arfaethedig yn golygu gwneud newidiadau i dir y Gorchymyn (tir y bwriedir arfer pwerau Caffael Gorfodol drosto), cadarnhad nad yw Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Caffael Gorfodol) 2010 (y Rheoliadau Caffael Gorfodol) yn berthnasol, gan gynnwys, os yw’n briodol, copi o’r caniatâd a gafwyd gan unigolion a chanddynt fuddiant yn y tir ychwanegol. Os yw’r Rheoliadau Caffael Gorfodol yn berthnasol, mae’n rhaid i ymgeiswyr ddarparu’r wybodaeth a ragnodir gan Reoliad 5 y Rheoliadau Caffael Gorfodol (Atodiad i’r Llyfr Cyfeirio a gyflwynwyd, Cynllun Tir sy’n nodi’r tir ychwanegol, Datganiad ynglŷn â’r Rhesymau pam mae angen y tir ychwanegol a datganiad sy’n nodi sut y bwriedir talu am gaffael y tir ychwanegol (Datganiad Ariannu)) a dylent egluro sut yr ystyrir y gellir bodloni gofynion gweithdrefnol y Rheoliadau Caffael Gorfodol o fewn y cyfnod Archwilio statudol o chwe mis.
  6. Os yw’r newid arfaethedig yn debygol o arwain at unrhyw effeithiau amgylcheddol arwyddocaol newydd neu wahanol, dylid darparu gwybodaeth amgylcheddol arall a chadarnhau:
    1. bod yr effeithiau wedi cael eu hasesu’n ddigonol ac y rhoddwyd cyhoeddusrwydd i’r wybodaeth amgylcheddol. Er nad yw’n ofynnol yn statudol, dylai’r cyhoeddusrwydd adlewyrchu gofynion Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2009 (y Rheoliadau AEA) a dylai ymgeiswyr hefyd gyflwyno copïau o unrhyw sylwadau a dderbyniwyd mewn ymateb i’r cyhoeddusrwydd hwn gyda’r cais am gael gwneud newid.
    2. yr ymgynghorwyd ag unrhyw gyrff ymgynghori a allai fod â buddiant yn y newidiadau arfaethedig (gan adlewyrchu gofynion y Rheoliadau AEA). Argymhellir y dylai ymgeiswyr gyflwyno copïau o unrhyw ymatebion a dderbyniwyd gan gyrff ymgynghori gyda’r cais am gael gwneud newid. Dylai ymgeiswyr nodi’r cyrff ymgynghori hynny yr ymgynghorwyd â hwy ar y newidiadau arfaethedig ond NID ar y cais gwreiddiol.
  7. Pan gynhaliwyd ymgynghoriad anstatudol ychwanegol (cymesur) (naill ai’n wirfoddol neu yn unol â chyfarwyddyd gan yr Awdurdod Archwilio), dylid cyflwyno Datganiad Ymgynghori sy’n cadarnhau pwy yr ymgynghorwyd â hwy mewn perthynas â’r newid arfaethedig. Dylid hefyd cynnwys copïau o unrhyw ymatebion ymgynghori a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd gydag unrhyw gais, fel atodiad.

5. Rôl yr Awdurdod Archwilio

5.1 Penodir yr Awdurdod Archwilio yn dilyn penderfyniad i dderbyn cais. Fel y cyfryw, bydd ar waith yn gynnar yn ystod y cam Cyn Archwilio. Bydd hyn yn hwyluso ystyriaeth gynnar o sut i ymdrin â chais am gael gwneud newid perthnasol.

5.2 Mae’n rhaid i’r Awdurdod Archwilio sicrhau bod hawliau Partïon â Buddiant ac unrhyw un arall y gallai newid arfaethedig effeithio arnynt yn cael eu diogelu. Bydd egwyddorion tegwch a rhesymoldeb, fel y’u sefydlwyd gan gyfraith achosion perthnasol, yn rhoi arweiniad i’r Awdurdod Archwilio wrth ystyried cais am gael gwneud newid perthnasol.

5.3 Bydd gofynion gweithdrefnol, fel y bônt yn berthnasol i’r Rheoliadau Caffael Gorfodol (lle mae’r newid yn ymwneud â thir ychwanegol, fel y’i diffinnir yn Rheoliad 2 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Caffael Gorfodol) 2010) a’r Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (lle mae newid yn golygu cyflwyno gwybodaeth amgylcheddol, fel y’i diffinnir yn Rheoliad 3 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017), yn ffactorau arwyddocaol hefyd wrth benderfynu sut i ymdrin â newid.

5.4 Pan fydd ymgeisydd yn gofyn am gael gwneud newid sy’n berthnasol yn eu barn hwy, a’u bod wedi ymgynghori ar y newid hwnnw, bydd angen i’r Awdurdod Archwilio ystyried p’un ai archwilio’r cais a newidiwyd (ac os felly, sut). Wrth benderfynu p’un ai ellir archwilio’r cais a newidiwyd ai peidio, mae’n rhaid i’r Awdurdod Archwilio ystyried p’un ai yw’r newid mor berthnasol fel bod yr ymgeisydd yn ceisio caniatâd am brosiect gwahanol, na fu’n destun y gweithdrefnau statudol Cyn Ymgeisio. Yn yr achos hwn, ni fyddai’n gallu cael ei archwilio o fewn yr amserlen statudol heb dorri egwyddorion tegwch a rhesymoldeb. Penderfyniad i’r Awdurdod Archwilio yn seiliedig ar farn gynllunio yw p’un ai yw’r cais arfaethedig a newidiwyd yn parhau i gynrychioli’r un prosiect ai peidio. Fel arfer, ni fydd angen i’r Awdurdod Archwilio ymgynghori â Phartïon â Buddiant ynglŷn â materion perthnasedd, yn enwedig os darparwyd ymatebion i unrhyw ymgynghoriad anstatudol gan yr ymgeisydd yn rhan o’r cais.

5.5 Os bydd yr Awdurdod Archwilio yn penderfynu peidio â derbyn y newidiadau a gyflwynwyd gan ymgeisydd, bydd angen i’r Ymgeisydd benderfynu p’un ai symud ymlaen ar sail y cais a gyflwynwyd, tynnu’r cais yn ôl neu gyflwyno cais am gael gwneud newid llai. Os bydd ymgeisydd yn penderfynu hyrwyddo newid llai, dylid ystyried yr amser sydd ar gael i ofyn am gael gwneud y newid llai. Po hwyraf yn y broses Gorchymyn Caniatâd Datblygu y tynnir cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu yn ôl, y mwyaf yw’r perygl y gallai Parti â Buddiant lwyddo i adennill eu costau. Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi cyfarwyddyd ynglŷn â dyfarnu costau: Dyfarnu costau: archwilio ceisiadau am orchmynion caniatâd datblygu, Gorffennaf 2013.

6. Goblygiadau amseru

6.1 Mae’r adran ganlynol yn amlygu goblygiadau gofyn am gael gwneud newid perthnasol ar wahanol gamau o’r broses, ar ôl i gais gael ei dderbyn i’w archwilio. Mae hefyd yn gosod allan y cyfleoedd a’r pwerau gweithdrefnol amrywiol y gall Awdurdod Archwilio eu defnyddio i helpu i hwyluso’r broses o ystyried cais am gael gwneud newid perthnasol.

6.2 Bydd cais am gael gwneud newid perthnasol i gais a dderbyniwyd yn cael ei ystyried o fewn y strwythur ffioedd presennol fel y’i gosodir allan yn y Rheoliadau Ffioedd (Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ffioedd) 2010 (fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Diwygio) 2017)). Fodd bynnag, dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol mai un o oblygiadau cyflwyno cais am gael gwneud newid perthnasol i gais yw y gallai fod angen amser ychwanegol (o fewn y cyfnod Archwilio statudol mwyaf o 6 mis) i archwilio’r cais, a allai olygu cynyddu’r ffi archwilio yn seiliedig ar y gyfradd ddyddiol sy’n berthnasol o dan Reoliadau 8 a 9 y Rheoliadau Ffioedd.

Y cam Cyn Archwilio

6.3 Dylai ymgeiswyr roi gwybod i’r Arolygiaeth Gynllunio am newid perthnasol arfaethedig yn ysgrifenedig cyn gynted â phosibl ar ôl i’r cais gael ei dderbyn, gan ddilyn y camau yn Ffigwr 1. Nid oes terfyn amser statudol yn berthnasol i’r cam Cyn Archwilio, felly gall roi amser i ymgeiswyr gynnal unrhyw ymgynghoriad anstatudol â Phartïon â Buddiant ac eraill yn unol â Cham 3 yn Ffigwr 1. Gall hefyd roi cyfle i ymgeiswyr ystyried y Sylwadau Perthnasol a thrafodaethau parhaus. Felly, gall cynnig newid perthnasol ar y cam hwn leihau’r effaith ar y raddfa amser statudol yn ystod y cam Archwilio. Fodd bynnag, dylai ymgeiswyr sicrhau bod unrhyw oedi cyn dechrau’r Archwiliad yn cael ei leihau gymaint â phosibl yn unol â pharagraff 45 y Cyfarwyddyd Archwilio.

6.4 Os bydd ymgeisydd yn dymuno symud ymlaen â chais cyn y Cyfarfod Rhagarweiniol, dylid darparu cymaint o wybodaeth â phosibl (gweler (a) i (e) yn Ffigwr 3) gyda’r cais.

Cais a gyflwynir cyn i’r gwahoddiad i’r Cyfarfod Rhagarweiniol gael ei anfon (llythyr Rheol 6 – Rheolau Cynllunio Seilwaith (Gweithdrefn Archwilio) 2010, Rheol 6)

6.5 Yn ddelfrydol, dylai Ymgeisydd ofyn am gael gwneud newid perthnasol i gais cyn i’r llythyr Rheol 6 gael ei anfon at y Partïon â Buddiant. Byddai hyn yn caniatáu i’r Awdurdod Archwilio gynnwys gwybodaeth am y newid perthnasol arfaethedig yn y llythyr Rheol 6 a chyfeirio Partïon â Buddiant at wybodaeth am y newid perthnasol a geisir a ddarparwyd gan yr ymgeisydd. Byddai hefyd yn caniatáu i’r Awdurdod Archwilio ystyried y cais yn yr Amserlen Archwilio ddrafft a chynnwys amser i drafod archwilio’r newid arfaethedig yn agenda ddrafft y Cyfarfod Rhagarweiniol. Byddai hyn yn sicrhau bod gan yr holl Bartïon â Buddiant wybodaeth lawn cyn y Cyfarfod Rhagarweiniol ac yn hwyluso trafodaeth benodol ynglŷn â sut y gellid archwilio cais a newidiwyd.

6.6 Dylai ymgeiswyr ofyn i’r Rheolwr Achos pryd mae’r llythyr Rheol 6 yn debygol o gael ei anfon at Bartïon â Buddiant. Gallai mynegi y bydd newid perthnasol yn cael ei gynnig ddylanwadu ar amseriad cyhoeddi ac anfon y llythyr Rheol 6 at Bartïon â Buddiant.

6.7 Os bydd ymgeisydd yn rhoi gwybod i’r Awdurdod Archwilio am gyflwyno cais am gael gwneud newid perthnasol arfaethedig neu’n cyflwyno cais cyn i’r llythyr Rheol 6 gael ei anfon, gallai hyn hefyd effeithio ar amseru’r Cyfarfod Rhagarweiniol. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd angen cyfnod o amser cyn y Cyfarfod Rhagarweiniol i ganiatáu i’r ymgeisydd geisio cyngor gan yr Awdurdod Archwilio yn unol â Cham 2 yn Ffigwr 1 ac yna ymgynghori ar y newid arfaethedig yn unol â Cham 3 yn Ffigwr 1. Gallai hyn oedi dechrau’r cam Archwilio ond byddai’n golygu y byddai Partïon â Buddiant ac eraill yn cael cyfle i ystyried goblygiadau’r newid cyn i’r Archwiliad ddechrau ac yn lleihau’r effaith ar y cyfnod Archwilio statudol o chwe mis gymaint â phosibl.

Cais a gyflwynir ar ôl i’r gwahoddiad i’r Cyfarfod Rhagarweiniol gael ei anfon (llythyr Rheol 6)

6.8 Os bydd ymgeisydd yn penderfynu bod angen gwneud newid perthnasol i’r cais ar ôl i’r llythyr Rheol 6 gael ei anfon, serch hynny, dylid rhoi gwybod i’r Awdurdod Archwilio yn unol â Cham 1 yn Ffigwr 1 cyn gynted â phosibl cyn y Cyfarfod Rhagarweiniol. Dylai ymgeiswyr osgoi cynnig newid perthnasol yn y Cyfarfod Rhagarweiniol heb roi gwybod i’r Awdurdod Archwilio yn gyntaf.

6.9 Er na fydd Partïon â Buddiant wedi cael rhybudd o’r newid perthnasol arfaethedig o flaen llaw yn y llythyr Rheol 6 o bosibl, gall yr Awdurdod Archwilio addasu agenda’r Cyfarfod Rhagarweiniol i roi cyfle i ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd ac eraill sy’n bresennol am y newid perthnasol arfaethedig a sut y dylid ei archwilio, gan gyfeirio at yr Amserlen Archwilio ddrafft a anfonwyd gyda’r llythyr Rheol 6.

6.10 Os yw’r Awdurdod Archwilio o’r farn nad yw’r ymgeisydd wedi darparu digon o wybodaeth am y newid arfaethedig neu nad yw wedi cynnal cyhoeddusrwydd ac ymgynghoriad anstatudol digonol, mae’n bosibl y bydd yr Awdurdod Archwilio yn gallu cynnwys amser yn yr Amserlen Archwilio i’r ymgeisydd ailadrodd Camau 3 a 4 cyn gwneud Penderfyniad Gweithdrefnol (Cam 5 yn Ffigwr 1). Fel arall, os yw’r Awdurdod Archwilio yn penderfynu y dylai’r holl Bartïon â Buddiant gael mwy o amser i ystyried y newid arfaethedig cyn dechrau’r Archwiliad, gallai’r Awdurdod Archwilio anfon Penderfyniad Gweithdrefnol at Bartïon â Buddiant yn rhoi gwybod iddynt am ddyddiad newydd ar gyfer y Cyfarfod Rhagarweiniol.

6.11 Os yw’r Awdurdod Archwilio o’r farn y gellir archwilio’r cais a newidiwyd, byddant yn cyhoeddi eu Penderfyniad Gweithdrefnol yn y llythyr Rheol 8 (Rheolau Cynllunio Seilwaith (Gweithdrefn Archwilio) 2010, Rheol 8) cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl y Cyfarfod Rhagarweiniol, gan gynnwys Amserlen Archwilio a fydd yn sicrhau bod digon o amser i archwilio’r cais a newidiwyd yn berthnasol o fewn y graddfeydd amser statudol. Os bydd yr Awdurdod Archwilio yn penderfynu peidio â derbyn y newid perthnasol y gofynnir amdano gan yr ymgeisydd, bydd hyn yn cael ei gyfleu hefyd yn y Penderfyniad Gweithdrefnol a gynhwysir yn y llythyr Rheol 8.

Y cam Archwilio

6.12 Ni chaiff yr Archwiliad barhau am fwy na chwe mis, ac felly rhaid i unrhyw gais am gael gwneud newid perthnasol gael ei gyflwyno cyn gynted â phosibl ac ar adeg a fydd yn caniatáu i’r Awdurdod Archwilio ystyried yr holl faterion pwysig a pherthnasol a godir gan y cais a newidiwyd yn berthnasol. Mae’n rhaid i’r Awdurdod Archwilio roi gwybod i Bartïon â Buddiant am unrhyw Benderfyniad Gweithdrefnol i dderbyn neu wrthod cais am gael gwneud newid perthnasol i’r cais a gyflwynwyd cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r penderfyniad gael ei wneud.

6.13 Os yw’r Rheoliadau Caffael Gorfodol yn berthnasol, bydd angen i’r Awdurdod Archwilio ystyried p’un ai yw’n bosibl bodloni’r gofynion a osodir allan yn y Rheoliadau hyn o fewn gweddill y cam Archwilio.

6.14 Yn ystod yr Archwiliad, dylid hysbysu’r Awdurdod Archwilio yn ysgrifenedig ynglŷn â chais am gael gwneud newid perthnasol yn unol â’r camau a nodwyd yn Ffigwr 1. Wrth gyflwyno unrhyw gais, dylai ymgeiswyr ystyried graddau’r diwygiadau canlyniadol sy’n ofynnol i’r cais a gyflwynwyd a’r amser sydd ar gael i gynhyrchu’r dogfennau gofynnol; yn ogystal, yr amser sydd ar gael i Bartïon â Buddiant ystyried, deall a gwneud sylwadau ar y newid arfaethedig cyn diwedd yr Archwiliad, ynghyd ag unrhyw faterion eraill sy’n weddill.

6.15 Cyn cyflwyno cais ysgrifenedig, gallai ymgeiswyr hefyd ddymuno rhoi gwybod i’r Awdurdod Archwilio mewn gwrandawiad am y cais am gael gwneud newid perthnasol. Fodd bynnag, ni ddylai ymgeiswyr gymryd yn ganiataol y bydd yr Awdurdod Archwilio mewn sefyllfa i allu gwneud Penderfyniad Gweithdrefnol mewn gwrandawiad. Os yw’r newid arfaethedig yn berthnasol i agenda’r gwrandawiad, gallai’r Awdurdod Archwilio arfer eu doethineb i ohirio’r gwrandawiad a/ neu ddiwygio’r Amserlen Archwilio trwy wneud Penderfyniad Gweithdrefnol.

6.16 Pan fydd yr Archwiliad wedi dod i ben, ni all yr Awdurdod Archwilio dderbyn unrhyw sylwadau na chyflwyniadau pellach gan Bartïon â Buddiant, gan gynnwys unrhyw gais gan ymgeisydd am gael gwneud newid perthnasol i gais.