Nodyn Cyngor 8.2: Sut i gofrestru i gymryd rhan mewn Archwiliad

Mae’r atodiad hwn yn cynnwys cyngor ymarferol ynghylch cofrestru Sylwadau Perthnasol er mwyn dod yn Barti â Buddiant.

Mae cofrestru yn sicrhau y byddwch yn cael hysbysiadau ffurfiol yn ystod y broses archwilio ac yn rhoi hawliau cyfranogi pwysig i chi. Gall unrhyw aelod o’r cyhoedd, busnes neu grŵp gofrestru i gymryd rhan yn yr Archwiliad.

Neidio i’r adran

  1. Beth yw manteision bod yn Barti â Buddiant?
  2. Pryd gallaf ddod yn Barti â Buddiant mewn cais?
  3. Sut gallaf ddod yn Barti â Buddiant?
  4. Pam y mae angen i mi lenwi ffurflen?
  5. A all mwy nag un unigolyn o’r un aelwyd wneud cais i fod yn Barti â Buddiant?
  6. Sut gallaf wneud sylwadau perthnasol a beth ddylent ei gynnwys?
  7. Yr hyn na ddylid ei gynnwys mewn Sylwadau Perthnasol
  8. A gaiff fy Sylwadau Perthnasol eu cyhoeddi?
  9. Trosolwg o’r broses cynllunio seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol i aelodau’r cyhoedd a phobl eraill

1. Beth yw manteision bod yn Barti â Buddiant?

1.1 Mae bod yn Barti â Buddiant yn rhoi’r hawl i chi wneud sylwadau ynghylch y cais sy’n cael ei archwilio. Caiff partïon â buddiant eu hysbysu am gynnydd yr Archwiliad a’u hysbysu am y Penderfyniad terfynol gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

1.2 Caiff Partïon â Buddiant gyfle i fynychu’r Cyfarfod Rhagarweiniol neu wrandawiadau sy’n cael eu cynnal yn ystod yr Archwiliad, a siarad ynddynt hefyd. Gweler Nodyn Cyngor 8.3 yn y gyfres hon i gael rhagor o wybodaeth am y Cyfarfod Rhagarweiniol.

1.3 Wedi i’r Archwiliad ddechrau, caiff partïon â buddiant gyfle i roi rhagor o dystiolaeth ysgrifenedig i’r Arolygydd/wyr Archwilio, a adwaenir fel yr Awdurdod Archwilio. Mae mwy o wybodaeth am gam Archwilio’r broses wedi ei chynnwys yn Nodyn Cyngor 8.4 y gyfres hon.

2. Pryd gallaf ddod yn Barti â Buddiant mewn cais?

2.1 Wedi i’r Arolygiaeth Gynllunio dderbyn cais i’w archwilio, mae gan yr ymgeisydd ddyletswydd i hysbysebu’r cyfnod Sylwadau Perthnasol a rhoi manylion am sut i gofrestru i fod yn Barti â Buddiant. Y cyfnod Sylwadau Perthnasol yw’r amser sydd gennych i gofrestru i fod yn Barti â Buddiant. Rhaid i’r cyfnod cofrestru bara o leiaf 28 niwrnod a bydd yr hysbysiad cyhoeddusrwydd yn rhoi gwybod i chi pryd mae’r dyddiad cau.

Fideo 6 munud

Gwyliwch gyflwyniad cryno, cryno ar leisio’ch barn ar NSIPs, ewch i (Ar gael yn Saesneg un unig)

2.2 YGallwch gael gwybod am y cyfnod cofrestru o unrhyw un o’r canlynol:

  • Hysbyseb ymgeisydd mewn papur newydd;
  • Hysbysiad safle ymgeisydd;
  • Gwybodaeth ar dudalen y prosiect perthnasol ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol;
  • Trwy Twitter neu hysbysiad e-bost os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn ar dudalen y prosiect perthnasol ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol.

3. Sut gallaf ddod yn Barti â Buddiant?

3.1 Yn ystod y cyfnod cofrestru, rhaid i chi lenwi ffurflen Sylwadau Perthnasol yn llawn. Nid yw’n bosibl i chi gymryd rhan yn y broses hon yn ddienw os byddwch yn cofrestru fel unigolyn. Y ffordd hawsaf i ddod yn Barti â Buddiant yw llenwi’r ffurflen trwy dudalen y prosiect perthnasol ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Pe byddai’n well gennych lenwi ffurflen bapur, gallwch gysylltu â’r Arolygiaeth Gynllunio yn ystod y cyfnod cofrestru i ofyn am un. Dylech sicrhau bod digon o amser i anfon y ffurflen atoch ac i chi ei bostio’n ôl i’r Arolygiaeth Gynllunio cyn y dyddiad cau ar gyfer ymatebion.

3.2 Caiff yr Awdurdod Archwilio ei benodi’n fuan ar ôl i’r cais gael ei dderbyn, a bydd yn defnyddio’r safbwyntiau sy’n cael eu mynegi yn y Sylwadau Perthnasol i gynnal asesiad cychwynnol o’r prif faterion. Felly, hyd yn oed os byddwch yn Barti â Buddiant fel mater o drefn oherwydd bod gennych fuddiant mewn tir y mae’r cais yn effeithio arno, neu fod eich sefydliad ar restr o gyrff rhagnodedig, dylech lenwi ffurflen Sylwadau Perthnasol o hyd er mwyn i’ch safbwyntiau fod ar gael i’r Awdurdod Archwilio yn gynnar.

3.3 Os oes gennych ddiddordeb mewn mwy nag un prosiect, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer pob prosiect ar wahân.

4. Pam y mae angen i mi lenwi ffurflen?

4.1 Mae deddfwriaeth yn amlinellu’r materion (er enghraifft eich enw a’ch cyfeiriad) y mae’n rhaid i sylw eu cynnwys er mwyn bod yn “Sylwadau Perthnasol”. Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir gennych gael ei chyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio ar y ‘ffurflen Sylwadau Perthnasol ragnodedig’ erbyn y dyddiad cau sydd wedi’i bennu yn hysbysiad yr ymgeisydd. Mae gwneud Sylwadau Perthnasol yn golygu y byddwch yn dod yn Barti â Buddiant. Gallwch ddewis peidio â bod yn Barti â Buddiant ar unrhyw adeg yn ystod yr Archwiliad trwy anfon neges e-bost neu ysgrifennu at yr Arolygiaeth Gynllunio.

4.2 Mae darparu ffurflen i unigolion a sefydliadau ei llenwi yn sicrhau bod gennym yr holl wybodaeth gyswllt sydd ei hangen arnom i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr Archwiliad i bartïon â buddiant. Mae hefyd yn sicrhau ein bod yn ymwybodol o sut yr hoffai Parti â Buddiant gymryd rhan yn yr Archwiliad (trwy ddull electronig neu drwy’r post) ac unrhyw fuddiannau tir sydd ganddynt y mae’r cais yn effeithio arnynt. Mae llenwi’r ffurflen hefyd yn sicrhau y caiff yr holl ofynion cyfreithiol sy’n gwneud sylw yn “berthnasol” eu bodloni.

5. A all mwy nag un unigolyn o’r un aelwyd wneud cais i fod yn Barti â Buddiant?

5.1 Gallant. Fodd bynnag, sylwch ei bod yn gyfreithiol ofynnol i’r Arolygiaeth Gynllunio anfon gohebiaeth at bob unigolyn/sefydliad sydd wedi cofrestru.

5.2 Os oes gan fwy nag un unigolyn yn eich cartref farn debyg i chi ac yr hoffai fod yn Barti â Buddiant, efallai yr hoffech ystyried cyflwyno un sylw fel sefydliad sy’n eich cynnwys chi a’r perchnogion/deiliaid tŷ eraill, er mwyn osgoi cael mwy nag un llythyr yn cynnwys yr un wybodaeth. Yn yr amgylchiadau hyn, llenwch adran sefydliad y ffurflen, er enghraifft, fel “Teulu Smith” neu “Trigolion 22 Stryd Fawr”. Nid yw’n bosibl derbyn ffurflen Sylwadau Perthnasol gan, er enghraifft, Mr a Mrs Smith – rhaid i bob ffurflen gael ei llenwi gan unigolyn neu sefydliad.

6. Sut gallaf wneud Sylwadau Perthnasol a beth ddylent ei gynnwys?

6.1 Daw’r ffurflen ar-lein ar gael ar dudalen y prosiect perthnasol ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol ar ddechrau’r cyfnod cofrestru.

6.2 Bydd y ffurflen electronig yn mynd â chi i bob un o’r adrannau gofynnol fel mater o drefn. Fe’ch cynghorir i lenwi’r ffurflen ar-lein, lle bo hynny’n bosibl, oherwydd y dulliau diogelu sy’n helpu i sicrhau eich bod yn llenwi’r ffurflen yn gywir. Os byddwch yn llenwi copi papur (y gallwch wneud cais amdano gan yr Arolygiaeth Gynllunio), dylech sicrhau eich bod yn llenwi eich ffurflen yn gywir a bod yr Arolygiaeth Gynllunio yn ei derbyn erbyn y dyddiad cau penodedig.

6.3 Tua diwedd y ffurflen, ceir blwch lle gallwch roi eich barn am y cais. Dyma’r tro cyntaf y byddwch yn mynegi eich barn am y cais i’r Awdurdod Archwilio.

6.4 Os gwnaethoch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyn gwneud cais, dylai’ch barn am y prosiect bryd hynny fod wedi’i hadlewyrchu yn yr Adroddiad Ymgynghori a gyflwynwyd fel rhan o’r cais. Fodd bynnag, yn ystod y cam hwn, rydym yn ceisio eich barn ar y cais fel y’i cyflwynwyd. Cofiwch, efallai y bydd y prosiect y gwnaethoch sylwadau arno’n flaenorol wedi newid er mwyn ymateb i’r ymgynghoriad cyn gwneud cais a gynhaliwyd gan yr ymgeisydd.

6.5 Dylai Sylwadau Perthnasol fod yn ymwneud â’r cais. Rhaid iddynt gynnwys crynodeb o’r pwyntiau rydych yn cytuno ac/neu’n anghytuno â nhw o ran y cais, gan amlygu’r prif faterion a’r effeithiau, yn eich barn chi.

6.6 Nid oes terfyn o ran nifer y geiriau y gallwch eu cynnwys yn eich Sylwadau Perthnasol; fodd bynnag, efallai y bydd gan yr Awdurdod Archwilio gyfnod byr yn unig i ddarllen yr holl Sylwadau Perthnasol cyn y Cyfarfod Rhagarweiniol. Fel y cyfryw, dylech wneud yn siŵr eich bod yn amlinellu eich prif bwyntiau’n glir. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio pwyntiau bwled a phenawdau i amlygu eich prif bwyntiau.

6.7 Wedi i’r Archwiliad ddechrau, gallwch barhau i ddibynnu ar y Sylwadau Perthnasol y gwnaethoch eu cyflwyno er mwyn cofrestru’n Barti â Buddiant neu gallwch gyflwyno sylwadau ysgrifenedig pellach erbyn y dyddiad cau a fydd yn cael ei bennu yn yr Amserlen Archwilio. Gall y sylwadau hyn ymhelaethu ar y materion a gynhwyswyd yn eich Sylwadau Perthnasol.

6.8 Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr technegol i wneud sylwadau. Gallai gwybodaeth am sut rydych yn credu y gallai prosiect effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd fod o ddiddordeb i’r Awdurdod Archwilio hefyd.

6.9 Wedi i chi gyflwyno eich ffurflen ar-lein, byddwch yn cael neges e-bost o gadarnhad.

7. Yr hyn na ddylid ei gynnwys mewn Sylwadau Perthnasol

7.1 Gallai’r Awdurdod Archwilio ddiystyru sylwadau os yw o’r farn eu bod yn ofidus neu’n ddisylwedd, neu os yw’n ymwneud â rhinweddau polisi cenedlaethol a gynhwysir mewn Datganiadau Polisi Cenedlaethol. Nid rôl yr Archwiliad yw trafod rhinweddau Datganiadau Polisi Cenedlaethol yr ymgynghorwyd arnynt eisoes, a osodwyd yn y Senedd ac a ddynodwyd yn bolisi’r Llywodraeth.

7.2 Dylech fod yn ofalus i beidio â chynnwys gwybodaeth bersonol amdanoch chi neu unigolyn arall na fyddech chi neu ef/hi am iddi fod ar gael i’r cyhoedd.

7.3 Os byddwch yn cyflwyno ffurflen heb lawer o wybodaeth neu unrhyw wybodaeth yn y blwch sylwadau (lle’r ydych yn rhoi eich barn am y cais), nid yw’n debygol o gael ei derbyn fel ffurflen ddilys.

7.4 Ni ellir derbyn hyperddolenni i ddogfennau/tystiolaeth ar wefan trydydd parti (fel gwefannau masnachol, cyfryngau cymdeithasol ac ati) a byddant yn cael eu golygu o sylwadau gan yr Arolygiaeth cyn eu cyhoeddi. Mae hyn oherwydd na all yr Awdurdod Archwilio, Partïon â Diddordeb na’r Ysgrifennydd Gwladol ddibynnu ar ddogfennau/tystiolaeth na all yr Arolygiaeth eu rheoli’n uniongyrchol o ran argaeledd a chynnwys (gan gynnwys o safbwynt GDPR y DU).

7.5 Fodd bynnag, gellir derbyn hyperddolenni i wefannau gwiriadwy mewn cyflwyniadau ac ni fyddant yn cael eu golygu. Enghreifftiau o ddogfennau y gellid eu hypergysylltu yw dogfennau polisi lleol a chenedlaethol. Sylwch fod angen cyfeiriad llawn gyda’r dyddiad mynediad ar gyfer yr hyperddolenni hyn. Mae gwefannau gwiriadwy yn cynnwys:

  • Gwefannau’r llywodraeth (gyda chyfeiriad .gov);Websites for chartered professional institutes such as IEMA, RTPI etc.
  • Gwefannau ar gyfer sefydliadau proffesiynol siartredig fel IEMA, RTPI ac ati.

7.6 Os ydych yn ansicr a yw hyperddolen yn debygol o gael ei olygu o gyflwyniad, cysylltwch â thîm achos yr Arolygiaeth cyn ei anfon.

8. A gaiff fy Sylwadau Perthnasol eu cyhoeddi?

8.1 Ar ôl i’r cyfnod cofrestru ddod i ben, caiff yr holl sylwadau eu cyhoeddi ar dudalen we’r prosiect ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol.

8.2 Mae’n ofynnol i’r Arolygiaeth Gynllunio sicrhau bod Sylwadau Perthnasol ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio. Yr unig wybodaeth o’r ffurflen Sylwadau Perthnasol a gaiff ei chyhoeddi yw eich enw a’ch sylwadau am y cais.

8.3 Byddwn yn golygu gwybodaeth bersonol am bob trydydd parti oherwydd efallai na fyddant wedi rhoi eu caniatâd i gynnwys y wybodaeth honno yn y sylwadau.

Trosolwg o’r broses cynllunio seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol i aelodau’r cyhoedd a phobl eraill

Dod yn Barti â Buddiant i gymryd rhan yn yr Archwiliad.

Unigolion, busnesau neu grwpiau cymunedol; gall unrhyw un gofrestru i gymryd rhan mewn Archwiliad.

Dod yn Barti â Buddiant trwy wneud Sylwadau Perthnasol.

Gallwch ddweud eich dweud trwy amlinellu eich cefnogaeth neu’ch pryderon ar gyfer cais. Cewch gyfle i fynd i fwy o fanylder yn yr Archwiliad.

Rhaid i Sylwadau Perthnasol gael eu gwneud ar y ffurflen gywir.

Mae’r ffurflen ar-lein yno i’ch helpu.

Asiantaeth y llywodraeth ydym, nid gwefan fasnachol. Ni fyddwn yn anfon ‘sbam’ atoch nac yn rhoi eich manylion i sefydliad arall heb eich caniatâd.

Rhaid i Sylwadau Perthnasol gael eu derbyn tra mae’r cyfnod cofrestru ar agor er mwyn i chi gofrestru’n Barti â Buddiant.

Os byddwch yn methu’r cyfnod cofrestru neu’n methu gwneud Sylwadau Perthnasol, gallwch gadw golwg ar yr Archwiliad o hyd ar ein gwefan. Efallai y gallwch gymryd rhan yn yr Archwiliad fel y gwêl yr Awdurdod Archwilio yn ddoeth hefyd.

Nid deiseb yw Sylwadau Perthnasol.

Nid yw eich enw a’ch cyfeiriad yn ddigon i chi gofrestru; rhaid i chi esbonio pam rydych o blaid neu yn erbyn y cais ar y ffurflen.

Mae pob ffurflen yn creu un Parti â Diddordeb – gall hyn fod yn unigolyn neu’n sefydliad / grŵp.

Peidiwch â cheisio rhoi enwau mwy nag un unigolyn ar un ffurflen, os gwelwch yn dda (e.e. Mr a Mrs Smith). Dylech naill ai cofrestru fel grŵp (e.e. ‘Teulu Smith’) neu gofrestru ar ffurflenni ar wahân (e.e. un ar gyfer ‘Mr Smith’ and un ar gyfer ‘Mrs Smith’).

Dylech fod yn glir ynghylch p’un a hoffech gofrestru’n grŵp neu’n unigolion ar wahân. Os bydd pobl yn cofrestru ar wahân, bydd pob un ohonynt yn cael copi o hysbysiadau a gohebiaeth am yr Archwiliad gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Cyfres Nodiadau Cyngor 8

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi llunio cyfres o Nodiadau Cyngor anstatudol am ystod o faterion proses. Mae’r rhain ar gael i’w lawrlwytho ar dudalen deddfwriaeth a chyngor / nodiadau cyngor y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol.

Mae cyfres Nodiadau Cyngor 8 yr Arolygiaeth Gynllunio yn esbonio sut i gymryd rhan ym mhroses gynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Mae’n cynnwys 5 atodiad, fel a ganlyn:

Nodyn Cyngor 8 Trosolwg o’r broses Cynllunio Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol i aelodau’r cyhoedd a phobl eraill
Atodiad 8.1 Ymateb i ymgynghoriad y datblygwr cyn gwneud cais
Atodiad 8.2 HSut i gofrestru i gymryd rhan mewn archwiliad
Atodiad 8.3 Dylanwadu ar sut caiff cais ei archwilio: y Cyfarfod Rhagarweiniol
Atodiad 8.4 Yr archwiliad
Atodiad 8.5 Yr archwiliad – Gwrandawiadau ac Ymweliadau Safle