Datganiadau Polisi Cenedlaethol

Beth yw Datganiadau Polisi Cenedlaethol?

Llunnir Datganiadau Polisi Cenedlaethol gan y llywodraeth. Maent yn rhoi rhesymau dros y polisi a osodir allan yn y datganiad, a rhaid iddynt gynnwys esboniad o’r modd y mae’r polisi’n ystyried polisi’r llywodraeth yn ymwneud â lliniaru’r newid yn yr hinsawdd ac addasu ar ei gyfer. Maent yn cynnwys amcanion y llywodraeth ar gyfer datblygu seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol mewn sector a gwladwriaeth benodol, gan gynnwys:

  • Sut y bydd hyn yn cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy.
  • Sut mae’r amcanion hyn wedi cael eu hintegreiddio â pholisïau eraill y llywodraeth.
  • Sut mae capasiti a galw gwirioneddol ac amcanol wedi cael eu hystyried.
  • Ystyriaeth o faterion perthnasol yn ymwneud â diogelwch neu dechnoleg.
  • Amgylchiadau lle y byddai’n arbennig o bwysig i fynd i’r afael ag effeithiau niweidiol datblygiad.
  • Lleoliadau penodol, lle y bo’n briodol, er mwyn darparu fframwaith eglur ar gyfer penderfyniadau buddsoddi a chynllunio.

Maen nhw hefyd yn cynnwys unrhyw bolisïau neu amgylchiadau eraill y mae Gweinidogion o’r farn y dylid eu hystyried wrth wneud penderfyniadau am ddatblygu seilwaith.

Mae Datganiadau Polisi Cenedlaethol yn mynd trwy broses ddemocrataidd o ymgynghori cyhoeddus a chraffu seneddol cyn cael eu dynodi (h.y. eu cyhoeddi). Maen nhw’n darparu’r fframwaith a ddefnyddir gan Awdurdodau Archwilio i wneud eu hargymhellion i’r Ysgrifennydd Gwladol.

Pa sectorau y mae Datganiadau Polisi Cenedlaethol yn ymdrin â nhw?

Mae 12 Datganiad Polisi Cenedlaethol dynodedig, sy’n amlinellu polisi’r Llywodraeth ar wahanol fathau o ddatblygiadau seilwaith cenedlaethol, sef:

Datganiadau Polisi Cenedlaethol ar gyfer Ynni

  • Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Ynni Trosfwaol (EN-1)
  • Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Tanwyddau Ffosil (EN-2)
  • Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Ynni Adnewyddadwy (EN-3)
  • Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Cyflenwi a Storio Olew a Nwy (EN-4)
  • Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Rhwydweithiau Trydan (EN-5)
  • Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Pŵer Niwclear (EN-6)

Lluniwyd y rhain gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd flaenorol, sef yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol bellach. Cafodd y chwe Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer ynni eu dynodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd ar y pryd ar 19 Gorffennaf 2011. I gael rhagor o wybodaeth ac i weld y Datganiadau Polisi Cenedlaethol, ewch i wefan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol.

Datganiadau Polisi Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth

  • Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Porthladdoedd
  • Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Rhwydweithiau Cenedlaethol
  • Datganiad Polisi Cenedlaethol Meysydd Awyr

Lluniwyd y rhain gan yr Adran Drafnidiaeth.

Dynodwyd y Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Porthladdoedd ar 26 Ionawr 2012.

Dynodwyd y Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Rhwydweithiau Cenedlaethol ar 14 Ionawr 2015.

ynodwyd yr NPS Maes Awyr ar 26 Mehefin 2018.

Datganiadau Polisi Cenedlaethol ar gyfer Dŵr, Dŵr Gwastraff a Gwastraff

  • Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Gwastraff Peryglus
  • Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Dŵr Gwastraff
  • Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Adnoddau Dŵr

Lluniwyd y rhain gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra).

Cyhoeddwyd y Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Gwastraff Peryglus ar 6 Mehefin 2013.

Cyhoeddwyd y Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Dŵr Gwastraff ar 9 Chwefror 2012.

Dynodwyd yr NPS Seilwaith Gwaredu Daearegol ar 17 Hydref 2019.

Ymgynghorodd y llywodraeth ar fersiwn ddraft yr NPS ar gyfer adnoddau dŵr rhwng 29 Tachwedd 2018 a 31 Ionawr 2019. Nod y Llywodraeth yw gosod yr NPS terfynol yn hydref 2019 ochr yn ochr â’r crynodeb o ymatebion i’r ymgynghoriad hwn ac ymateb y llywodraeth i’r pwyntiau a godwyd.

A oes gan yr Arolygiaeth Gynllunio farn am y Datganiadau Polisi Cenedlaethol?

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn ddiduedd ac nid yw’n gwneud sylwadau ar bolisi’r Llywodraeth. Fodd bynnag, mae Awdurdodau Archwilio yn gwneud eu hargymhellion o fewn y fframwaith a ddarperir gan Ddatganiadau Polisi Cenedlaethol, fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Cynllunio 2008.

Beth fydd yn digwydd os nad yw Datganiad Polisi Cenedlaethol perthnasol wedi cael ei ddynodi?

Mae Adran 105 Deddf Cynllunio 2008 yn nodi’r hyn y mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol ei ystyried wrth wneud eu penderfyniad os nad yw Datganiad Polisi Cenedlaethol perthnasol wedi cael ei ddynodi. Mae hyn yn cynnwys unrhyw fater y mae’r Ysgrifennydd Gwladol o’r farn ei fod yn bwysig ac yn berthnasol i benderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol. Gallai hyn gynnwys Datganiad Polisi Cenedlaethol drafft, os oes un yn bodoli.