Nodyn cyngor 8: Trosolwg o’r broses cynllunio seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol i aelodau’r cyhoedd a phobl eraill

Neidio i’r adran

  1. Beth yw NSIP?
  2. Cyn gwneud cais
  3. Derbyn
  4. Cyn yr archwiliad
  5. Archwiliad
  6. Penderfyniad
  7. Ar ôl y penderfyniad
  8. Trosolwg o’r broses NSIP
  9. Nodyn Cyngor 8 Taflen Gryno
  10. Geirfa

1. Beth yw NSIP?

1.1 Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yw NSIP. Maent yn fathau
arbennig o brosiectau, dros faint penodol, y mae’r Llywodraeth yn ystyried eu bod mor
fawr ac mor bwysig yn genedlaethol fel bod angen rhoi caniatâd i’w hadeiladu ar lefel
genedlaethol, gan weinidog cyfrifol y Llywodraeth (yr ‘Ysgrifennydd Gwladol’).

1.2 Yn hytrach na gwneud cais i’r awdurdod lleol am ganiatâd cynllunio, rhaid
i’r datblygwr wneud cais i’r Arolygiaeth Gynllunio am ganiatâd gwahanol o’r enw
Gorchymyn Caniatâd Datblygu.

Ffigur 1: Enghreifftiau o NSIPau

Ffigur 1: Enghreifftiau o NSIPau – o’r chwith i’r dde: Morlyn Llanw Bae Abertawe, Twnnel Ffordd Lanw Tafwys, Cord Rheilffordd Gogledd Doncaster a Gorsaf Bŵer Hinkley Point C

Y broses NSIP

1.3 Caiff y broses ar gyfer gwneud cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu ei hamlinellu yn Neddf Cynllunio 2008.

1.4 Daeth i rym ym mis Mawrth 2010
ac fe’i cyflwynwyd i symleiddio’r broses
benderfynu ar gyfer NSIPau, gan ei gwneud
yn decach ac yn gyflymach i gymunedau a
datblygwyr, fel ei gilydd.

Gwyliwch gyflwyniad esboniadol ar leisio’ch barn ar NSIPs (Fideo 6 munud) (Ar gael yn Saesneg un unig)

Ffigur 2: Mae gan y broses NSIP gamau clir, ac amserlenni clir

Y broses gwneud cais

Cyn gwneud cais Derbyn Cyn yr archwiliad Archwiliad Penderfyniad Ar ôl y penderfyniad
Edrychwch am wybodaeth yn y cyfryngau lleol ac mewn mannau cyhoeddus yn agos at leoliad y prosiect arfaethedig neu ar y rhyngrwyd. Bydd y datblygwr yn datblygu ei gynigion a bydd yn ymgynghori â’r cyhoedd a chyrff technegol. Dyma’r adeg orau i ddylanwadu ar y cynnig a siarad yn uniongyrchol â’r datblygwr. Mae gan yr Arolygiaeth, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, 28 niwrnod i benderfynu p’un a yw’r cais yn bodloni’r safonau gofynnol i symud ymlaen i’r archwiliad, gan gynnwys p’un a yw ymgynghoriad y datblygwr wedi bod yn ddigonol ai peidio. Nawr, gallwch gofrestru’n Barti â Buddiant; byddwch yn cael gwybod sut mae’r cais yn dod yn ei flaen a chewch gyfle i bledio eich achos, os byddwch wedi cofrestru. Bydd yr Awdurdod Archwilio yn cynnal Cyfarfod Rhagarweiniol ac yn pennu’r amserlen ar gyfer yr archwiliad. Gallwch anfon eich sylwadau yn ysgrifenedig. Gallwch ofyn am gael siarad mewn gwrandawiad cyhoeddus. Gallwch roi sylwadau ar sylwadau Partïon â Buddiant eraill. Mae gan yr Arolygiaeth 6 mis i gynnal yr archwiliad. Bydd yr Awdurdod Archwilio yn cyhoeddi argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol perthnasol cyn pen 3 mis ar ôl i’r archwiliad ddod i ben. Ar ôl hynny, bydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol 3 mis arall i roi penderfyniad ar y cynnig. Bydd cyfle i gyflwyno her gyfreithiol

2. Cyn gwneud cais

2.1 Bydd y broses yn dechrau pan fydd datblygwr yn rhoi gwybod i’r Arolygiaeth Gynllunio ei fod yn bwriadu cyflwyno cais i ni. Cyn cyflwyno cais, mae’n ofynnol i’r datblygwr gynnal ymgynghoriad ar ei gynigion. Bydd yr amser a gymerir i baratoi ac ymgynghori ar y prosiect yn amrywio gan ddibynnu ar ei faint a’i gymhlethdod. Ymateb i ymgynghoriad y datblygwr cyn gwneud cais yw’r adeg orau i ddylanwadu ar brosiect, p’un a ydych yn cytuno ag ef, yn anghytuno ag ef neu’n credu y gellid ei wella.


Yr hyn y gallwch ei wneud:

Cymryd rhan yn ymgynghoriad yr ymgeisydd cyn gwneud cais. Gweler Atodiad 8.1



Y datblygwr sy’n gyfrifol am baratoi cais NSIP.

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn rhoi cyngor i bawb sydd â buddiant yn y broses, fel yr amlinellir yn y Prosbectws Cyn Gwneud Cais, gan gynnwys:

  • Datblygwr
  • Cynghorau Plwyf
  • Y Cyhoedd
  • Cyrff Gwarchod Natur Statudol
  • Ymgyngoreion Statudol
  • Grwpiau Ymgyrchu
  • Awdurdodau Lleol
  • Tirfeddianwyr a thenantiaid
  • Sefydliadau eraill

3. Derbyn

3.1 Bydd y cam derbyn yn dechrau pan fydd datblygwr yn cyflwyno cais
ffurfiol am ganiatâd datblygu i’r Arolygiaeth Gynllunio. Bydd cyfnod o hyd at 28
niwrnod yn dilyn hynny (yn dechrau ar y diwrnod ar ôl i’r cais gael ei gyflwyno)
i’r Arolygiaeth Gynllunio, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, benderfynu p’un a yw’r
cais yn bodloni’r safon ofynnol i gael ei archwilio ai peidio. Bydd yr Arolygiaeth
Gynllunio yn gwirio dogfennau a chynlluniau’r cais er mwyn gwneud yn siŵr
fod yr holl wybodaeth ofynnol wedi’i chynnwys. Yn ystod y cam derbyn, bydd yr
Arolygiaeth hefyd yn gofyn a oedd yr awdurdodau lleol perthnasol yn credu bod
ymgynghoriad yr ymgeisydd cyn gwneud cais yn ddigonol, cyn i ni benderfynu
p’un a fyddwn yn archwilio’r cais ai peidio. Yr awdurdod lleol perthnasol yw’r
awdurdod lleol sirol a dosbarth, neu’r awdurdod(au) lleol unedol y mae’r
datblygiad wedi’i leoli ynddo/ynddynt, a’r awdurdodau lleol cyfagos.

3.2 Os caiff y cais ei dderbyn i’w archwilio, caiff y llythyr i’r ymgeisydd yn
cadarnhau hyn ei gyhoeddi ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol, a bydd y
broses yn symud ymlaen i’r cam nesaf, sef cyn yr archwiliad.

3.3 Os na chaiff y cais ei dderbyn i’w archwilio, caiff llythyr i’r ymgeisydd
yn esbonio’r rhesymau am hynny ei gyhoeddi ar y wefan Cynllunio Seilwaith
Cenedlaethol. Gallai hwn gynnwys cyngor i’r ymgeisydd ar sut y gall unioni’r
diffygion a nodwyd. Yr ymgeisydd fydd yn penderfynu p’un a fyddai’n
ailgyflwyno’r cais neu’n herio’r penderfyniad i beidio â’i dderbyn i’w archwilio.


Yr hyn y gallwch ei wneud:

Gallwch roi gwybod i’ch awdurdod lleol os ydych yn credu bod unrhyw beth y dylai ei gynnwys yn ei sylwadau ynghylch digonolrwydd yr ymgynghoriad.


Gweld cyflwyniad cryno ar leisio’ch barn ar NSIPs (Fideo 6 munud)(Ar gael yn Saesneg un unig)

4. Cyn yr archwiliad

4.1 Os caiff y cais ei dderbyn, gellir penodi’r Awdurdod Archwilio. Gall yr
Awdurdod Archwilio fod yn un Arolygydd Archwilio neu’n banel o hyd at 5 o
Arolygwyr Archwilio.

4.2 Yn ystod y cam hwn, bydd y cyhoedd yn gallu cofrestru â’r Arolygiaeth
Gynllunio a rhoi crynodeb o’u safbwyntiau ar y cais yn ysgrifenedig trwy
gyflwyno ‘Sylwadau Perthnasol’ er mwyn bod yn Barti â Buddiant. Yn ystod y
cam cyn yr archwiliad, caiff partïon â buddiant eu gwahodd i fynychu Cyfarfod
Rhagarweiniol. Caiff y cyfarfod hwn ei gynnal a’i gadeirio gan yr Awdurdod
Archwilio, a’i ddiben yw trafod sut caiff y cais ei archwilio. Mae’r cam hwn o’r
broses yn para tua 3 mis o hysbysiad ffurfiol y datblygwr a’r cyhoeddusrwydd ar
gyfer cais a dderbyniwyd.


Yr hyn y gallwch ei wneud:

Penderfynu p’un a ydych am gofrestru i gymryd rhan yn yr archwiliad ai peidio. Gweler Atodiad 8.2

Mynychu’r Cyfarfod Rhagarweiniol. Gweler Atodiad 8.3


5. Archwiliad

5.1 Mae gan yr Awdurdod Archwilio uchafswm o 6 mis i gynnal yr archwiliad.
Yn ystod y cam hwn, caiff Partïon â Buddiant eu gwahodd i ddarparu mwy o
fanylion am eu safbwyntiau yn ysgrifenedig. Bydd yr Awdurdod Archwilio yn
gofyn cwestiynau ysgrifenedig hefyd. Gellir cynnal gwrandawiadau.

5.2 Er mwyn sicrhau bod y broses Archwilio 6 mis mor rhwydd â phosibl
i bob parti, mae’n bwysig y caiff yr holl sylwadau gan Bartïon â Buddiant eu
cyflwyno erbyn y dyddiadau cau a bennir yn yr Amserlen Archwilio. Caiff yr holl
ddogfennau a dderbynnir gan yr Arolygiaeth Gynllunio eu cyhoeddi ar dudalen y
prosiect ar ein gwefan.


Yr hyn y gallwch ei wneud:

Gwneud sylwadau ysgrifenedig ac ymateb i gwestiynau. Gweler Atodiad 8.4

Mynychu Gwrandawiadau ac Ymweliadau Safle. Gweler Atodiad 8.5


6. Penderfyniad

6.1 Rhaid i’r Awdurdod Archwilio baratoi adroddiad ar yr Archwiliad o’r cais ar
gyfer yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol, gan gynnwys argymhelliad ynghylch
p’un a ddylid rhoi neu wrthod caniatâd datblygu. Rhaid i’r Awdurdod Archwilio
wneud yr argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol cyn pen 3 mis ar ôl i’r archwiliad
ddod i ben.

6.2 Bydd yr Awdurdod Archwilio yn rhoi ystyriaeth ofalus i’r holl faterion pwysig
a pherthnasol, gan gynnwys y sylwadau gan Bartïon â Buddiant.

6.3 Caiff Adroddiad Argymhelliad yr Awdurdod Archwilio ei anfon yn
uniongyrchol at yr Ysgrifennydd Gwladol ac ni chaiff ei gyhoeddi nes i’r
penderfyniad gael ei wneud.

6.4 Ar ôl derbyn Adroddiad Argymhelliad yr Awdurdod Archwilio, mae gan yr
Ysgrifennydd Gwladol 3 mis i wneud y penderfyniad i roi neu wrthod caniatâd
datblygu. Caiff Penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol ac Adroddiad Argymhelliad
yr Awdurdod Archwilio eu cyhoeddi ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol.


Yr hyn y gallwch ei wneud:

Parhau i wirio gwefan prosiect PINS; efallai y bydd rhagor o ymgynghoriadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol yr hoffech ymateb iddynt.


7. Ar ôl y penderfyniad

7.1 Wedi i Benderfyniad gael ei gyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ceir
cyfnod y 6 wythnos pan ellir herio’r Penderfyniad yn yr Uchel Lys. Yr enw ar y
broses herio gyfreithiol hon yw Adolygiad Barnwrol.

7.2 Caiff rhagor o wybodaeth am heriau cyfreithiol ei chynnwys yn llythyr
penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol a gaiff ei anfon at bob parti â buddiant a’i
gyhoeddi ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol.


Yr hyn y gallwch ei wneud:

Darllen ac ystyried y penderfyniad.


8. Trosolwg o’r broses NSIP

Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yw NSIP.

Nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer NSIPau – mae angen Caniatâd Datblygu arnynt.

Cânt eu gweinyddu gan yr Arolygiaeth Gynllunio, a chaiff y broses ei hamlinellu yn Neddf Cynllunio 2008. Mae gan y broses gamau ac amserlenni, y maent yn statudol.

Caiff ceisiadau am Ganiatâd Datblygu eu penderfynu gan yr Ysgrifennydd Gwladol; y gweinidog etholedig sy’n gyfrifol am y maes polisi.

Fel rhan o’r broses, rhaid i’r ymgeisydd gynnal ymgynghoriad cyn gwneud cais.

Os caiff y cais ei gyflwyno a’i dderbyn, cynhelir archwiliad, a fydd yn cael ei arwain gan Awdurdod Archwilio

Gallwch:

  • Ymateb i ymgynghoriad yr ymgeisydd cyn gwneud cais
  • Cofrestru i gymryd rhan yn yr Archwiliad

Ac wedi i chi gofrestru:

  • Gwneud sylwadau yn yr Archwiliad, yn ysgrifenedig ac mewn gwrandawiadau
  • Ymateb i gwestiynau gan yr Awdurdod Archwilio
  • Gwneud sylwadau ar sylwadau gan bartïon eraill
  • Mynychu ymweliad safle

Y broses gwneud cais

Cyn gwneud
cais
Derbyn Cyn yr
archwiliad
Archwiliad Penderfyniad Ar ôl y
penderfyniad
Edrychwch am wybodaeth
yn y cyfryngau lleol ac
mewn mannau cyhoeddus
yn agos at leoliad y
prosiect arfaethedig neu
ar y rhyngrwyd. Bydd
y datblygwr yn datblygu
ei gynigion a bydd yn
ymgynghori â’r cyhoedd a
chyrff technegol.
Dyma’r adeg orau i
ddylanwadu ar y cynnig a
siarad yn uniongyrchol â’r
datblygwr.
Mae gan yr Arolygiaeth,
ar ran yr Ysgrifennydd
Gwladol, 28 niwrnod
i benderfynu p’un a
yw’r cais yn bodloni’r
safonau gofynnol i symud
ymlaen i’r archwiliad,
gan gynnwys p’un a yw
ymgynghoriad y datblygwr
wedi bod yn ddigonol ai
peidio.
Nawr, gallwch gofrestru’n
Barti â Buddiant;
byddwch yn cael gwybod
sut mae’r cais yn dod yn
ei flaen a chewch gyfle
i bledio eich achos, os
byddwch wedi cofrestru.
Bydd yr Awdurdod
Archwilio yn cynnal
Cyfarfod Rhagarweiniol ac
yn pennu’r amserlen ar
gyfer yr archwiliad.
Gallwch anfon eich
sylwadau yn ysgrifenedig.
Gallwch ofyn am
gael siarad mewn
gwrandawiad cyhoeddus.
Gallwch roi sylwadau
ar sylwadau Partïon â
Buddiant eraill.
Mae gan yr Arolygiaeth 6
mis i gynnal yr archwiliad.
Bydd yr Awdurdod
Archwilio yn cyhoeddi
argymhelliad i’r
Ysgrifennydd Gwladol
perthnasol cyn pen 3 mis
ar ôl i’r archwiliad ddod
i ben.
Ar ôl hynny, bydd
gan yr Ysgrifennydd
Gwladol 3 mis arall i roi
penderfyniad ar y cynnig.
Bydd cyfle i
gyflwyno her
gyfreithiol.

9. Nodyn Cyngor 8 Taflen Gryno

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi llunio cyfres o Nodiadau Cyngor anstatudol am ystod o faterion proses. Mae’r rhain ar gael i’w lawrlwytho ar dudalen deddfwriaeth a
chyngor / nodiadau cyngor y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol.

Mae cyfres Nodiadau Cyngor 8 yr Arolygiaeth Gynllunio yn esbonio sut i gymryd rhan ym mhroses gynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Mae’n cynnwys 5 atodiad, fel a ganlyn:

Nodyn Cyngor 8 Trosolwg o’r broses Cynllunio Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol i aelodau’r cyhoedd a phobl eraill
Atodiad 8.1 Ymateb i ymgynghoriad y datblygwr cyn gwneud cais
Atodiad 8.2 Sut i gofrestru i gymryd rhan mewn Archwiliad
Atodiad 8.3 Dylanwadu ar sut caiff cais ei archwilio: y Cyfarfod Rhagarweiniol
Atodiad 8.4 Yr Archwiliad
Atodiad 8.5 Yr Archwiliad – Gwrandawiadau ac Ymweliadau Safle

Geirfa

Amserlen Y dyddiadau cau a’r digwyddiadau yn yr archwiliad, fel y pennir yn y llythyr Rheol 8 ac sydd
weithiau’n newid yn ystod yr archwiliad.
Archwiliad Cyfnod heb fod yn fwy na 6 mis pan gaiff cais am Ganiatâd Datblygu ei ystyried. Gall
archwiliad gynnwys gwrandawiadau a dyddiadau cau ar gyfer sylwadau ysgrifenedig; a gall
yr Awdurdod Archwilio ofyn cwestiynau. Mae pob archwiliad yn wahanol er mwyn bodloni
anghenion y prosiect.
Awdurdod Archwilio (AA) Panel o un neu fwy o Arolygwyr a fydd yn archwilio cais.
Caffaeliad Gorfodol Y pŵer i orfodi gwerthiant tir neu hawliau, y gellir ei geisio fel rhan o gais Caniatâd Datblygu.
Rhaid talu pris teg a aseswyd yn annibynnol o hyd os rhoddir caniatâd. Rhaid i’r cais esbonio
yn union pa hawliau neu dir y byddai’r pŵer yn berthnasol iddynt a pham.
Caniatâd Datblygu Caniatâd unigol sydd ei angen ar gyfer prosiectau mawr, sy’n disodli caniatâd cynllunio a
rhai mathau eraill o ganiatâd technegol hefyd. Caiff ceisiadau eu harchwilio gan yr
Arolygiaeth Gynllunio a’u penderfynu gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
Cyfarfod Rhagarweiniol Cyfarfod a gynhelir gan yr Awdurdod Archwilio ar ddechrau’r archwiliad i drafod yr amserlen
ar gyfer archwilio cais.
Llythyr Rheol 6 Llythyr sy’n cael ei anfon at Bartïon â Buddiant yn eu gwahodd i’r Cyfarfod Rhagarweiniol
Llythyr Rheol 8 Y llythyr sy’n dilyn y Cyfarfod Rhagarweiniol ac sy’n amlinellu’r amserlen ar gyfer yr
archwiliad.
Parti â Buddiant Term a gymerwyd o’r ddeddfwriaeth sy’n cyfeirio at unigolyn (neu grŵp neu gwmni) sydd
wedi cofrestru i gymryd rhan yn yr archwiliad.
Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol – Prosiect y mae angen Caniatâd Datblygu arno cyn y gellir ei adeiladu neu ei weithredu oherwydd ei faint ac/neu ei bwysigrwydd.
Sylwadau Sylwadau neu gyflwyniad gan Barti â Buddiant ynghylch rhinweddau cais sy’n cael eu
derbyn erbyn dyddiad cau’r Awdurdod Archwilio.
Sylwadau Perthnasol Term a gymerwyd o’r ddeddfwriaeth sy’n cyfeirio at ffurflen sy’n cael ei llenwi cyn i’r
archwiliad ddechrau, i gofrestru’n Barti â Buddiant.
Unigolyn yr Effeithir Arno Term a gymerwyd o’r ddeddfwriaeth sy’n cyfeirio at unigolyn sy’n berchen ar dir neu hawliau
dros dir y cynigir iddo gael ei gaffael ei orfodol.
Yr Arolygiaeth Gynllunio (‘PINS’ ar lafar) Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn un o asiantaethau gweithredol Llywodraeth y DU ac mae’n gyfrifol am weinyddu ceisiadau ar gyfer Caniatâd Datblygu. Rydym hefyd yn gyfrifol am bethau eraill, gan gynnwys apeliadau yn erbyn gwrthod rhoi caniatâd cynllunio.
Ysgrifennydd Gwladol Y gweinidog sy’n gyfrifol am yr agwedd ar fusnes y llywodraeth y mae cais yn ymwneud â hi.
Er enghraifft, o fis Gorffennaf 2016, yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Busnes, Ynni a
Strategaeth Ddiwydiannol yw Greg Clark AS.