Nodyn Cyngor 15: Drafftio Gorchmynion Caniatâd Datblygu

Mae Deddf Cynllunio 2008, ac is-ddeddfwriaeth gysylltiedig, yn darparu’r sail ar gyfer gorchmynion sy’n rhoi caniatâd datblygu ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol. (Ystyrir bod pob cyfeiriad at Ddeddf Cynllunio 2008 ac unrhyw ddeddfwriaeth arall yn y Nodyn Cyngor hwn yn golygu ‘fel y’i diwygiwyd’.)

Mae Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) yn offeryn statudol ac fe ddylai ddilyn confensiynau drafftio statudol. Mae’n rhaid i’r DCO hefyd gydymffurfio â’r holl ofynion a amlinellir yn Neddf Cynllunio 2008 a deddfwriaeth gysylltiedig. Am y rhesymau hyn, mae DCO yn wahanol iawn i ganiatâd cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, a roddir gan awdurdodau cynllunio lleol (neu’r Ysgrifennydd Gwladol o ran cais a alwyd i mewn). Mae’n rhaid i’r DCO gael ei ddrafftio’n llawn gan yr Ymgeisydd a’i gyflwyno, ynghyd â dogfennau eraill rhagnodedig, gyda’r cais am Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP). Gweler adran 37(3)(d) Deddf Cynllunio 2008 a Rheoliad 5(2)(b) Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009.

Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn rhoi cyngor gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar baratoi’r DCO drafft. Mae hefyd yn adlewyrchu safbwyntiau, ar faterion drafftio DCO, Adrannau’r Llywodraeth sy’n ymwneud fwyaf â chyfundrefn Deddf Cynllunio 2008.

Nid yw wedi’i fwriadu i fod yn Nodyn Cyngor cynhwysfawr ar bob agwedd ar ddrafftio DCO. Yn hytrach, mae’n canolbwyntio ar nifer o faterion allweddol yr ystyrir y byddai’n fwyaf defnyddiol rhoi cyngor arnynt. Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn rhan o gyfres o Nodiadau Cyngor o’r fath a ddarperir gan yr Arolygiaeth Gynllunio. Er nad oes gan y Nodyn Cyngor hwn statws cyfreithiol, cynghorir ymgeiswyr ac eraill yn gryf i ddilyn y cyngor hwn a chyfiawnhau gwyro oddi wrtho wrth lunio eu ceisiadau.

Er bod y Nodyn Cyngor hwn wedi’i fwriadu ar gyfer ymgeiswyr yn bennaf, dylai hefyd fod yn ddefnyddiol i unigolion eraill sy’n ymwneud â phroses Deddf Cynllunio 2008.

Bydd y Nodyn Cyngor hwn yn cael ei adolygu’n rheolaidd a’i ddiweddaru pan fydd angen.

Rhoddir cyngor ychwanegol yn Nodyn Cyngor 13 yr Arolygiaeth Gynllunio: Paratoi gorchymyn drafft yn rhoi caniatâd datblygu a memorandwm esboniadol, sy’n ymdrin yn bennaf â’r agweddau ar Orchmynion Caniatâd Datblygu nad ydynt yn ymwneud â drafftio a’r Memorandwm Esboniadol, gan gynnwys materion gweithdrefnol.

Neidio i’r adran:

Cyfiawnhau’r dull
1. Memorandwm Esboniadol
Ffurf ac iaith y DCO – dull cyffredinol
2. Templed Offeryn Statudol
3. Confensiynau drafftio
Ystyriaethau drafftio eraill
4. Darpariaethau Amddiffynnol
5. Cyfeiriadau
6. Diffiniadau
7. Troednodiadau
8. Atodlenni
9. Paragraffau
10. Rhifo
11. Erthyglau Ardystio
12. Rhaglithiau a nodiadau esboniadol
Olrhain newidiadau yn y DCO drafft drwy gydol yr Archwiliad
13. Diwygio DCO
14. Darparu llwybr archwilio DCO
Materion allweddol ar gyfer drafftio DCO
15. Gofynion – ystyriaethau cyffredinol
16. Sicrhau mesurau lliniaru
17. Darparu hyblygrwydd – cymeradwyo ac amrywio manylion terfynol
18. Cydymffurfio â gofynion Asesu Effeithiau Amgylcheddol
19. Cyflawni Gofynion
20. Gwybodaeth amgylcheddol ar gyfer ceisiadau dilynol
21. Diffinio ‘cychwyn’ – gwaith paratoi a diogelu’r amgylchedd
22. Gwrychoedd a choed
23. Dileu hawliau preifat dros dir
24. Cyfamodau Cyfyngol
25. Cymhwyso, addasu neu eithrio darpariaethau statudol
Gorchmynion Caniatâd Datblygu a Thrwyddedau Morol Tybiedig
26. Cwmpas daearyddol
27. Trwyddedau Morol Tybiedig Lluosog
28. Darpariaethau trosglwyddo
29. Amodau
Atodiad 1: Drafft safonol ar gyfer Erthygl sy’n ymdrin â’r weithdrefn ar gyfer cyflawni cymeradwyaethau penodol

Cyfiawnhau’r dull

1. Memorandwm Esboniadol

1.1 Mae’r memorandwm esboniadol yn helpu’r Awdurdod Archwilio, Partïon â Buddiant a’r Ysgrifennydd Gwladol, fel penderfynwr, i ddeall yr hyn sy’n cael ei gynnig yn y DCO drafft, pam y cynhwyswyd darpariaethau penodol ac o ble y deilliodd y geiriad. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn esbonio pam mae darpariaethau’r DCO drafft wedi cael eu teilwra i fodloni gofynion arbennig NSIP penodol (ac a allai fod yn ofynnol i fynd i’r afael â materion newydd). Dylai hefyd esbonio pam mae angen y darpariaethau, o ystyried cwmpas ac ehangder y pwerau a gynhwysir yn Neddf Cynllunio 2008.

1.2 Dylai’r Memorandwm Esboniadol gynnwys cyfiawnhad trylwyr ar gyfer pob Erthygl a Gofyniad, gan esbonio pam mae’n briodol cynnwys y pŵer yn yr achos penodol. Dylai graddau’r cyfiawnhad fod yn gymesur â pha mor newydd a/ neu ddadleuol yw cynnwys y pŵer penodol hwnnw.

1.3 Nid yw’n ofynnol mwyach i gyflwyno fersiwn o’r DCO drafft sy’n dangos newidiadau i’r geiriad o gymharu â Gorchymyn Cynllunio Seilwaith (Darpariaethau Model) (Cymru a Lloegr) 2009.

1.4 Mae’n bosibl y gallai Memorandwm Esboniadol a ddatblygwyd yn dda leihau nifer y cwestiynau y gallai fod angen i Awdurdod Archwilio eu gofyn yn yr archwiliad am y darpariaethau drafft sy’n ffurfio’r DCO drafft. O ran pob darpariaeth, mae’n debygol y bydd yr Awdurdod Archwilio eisiau bod yn fodlon ynglŷn â materion penodol, megis:

  • Ffynhonnell y ddarpariaeth (p’un a yw’n DCO a wnaed yn flaenorol neu’n Orchymyn Deddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd, neu’n ddarpariaeth newydd).
  • Yr adran/ atodlen o Ddeddf Cynllunio 2008 y’i gwneir oddi tani.
  • Pam mae’n berthnasol i’r Datblygiad Arfaethedig.
  • Pam mae’r Ymgeisydd yn credu ei bod yn bwysig/ hanfodol i gyflawni’r Datblygiad Arfaethedig.

1.5 Os yw DCO drafft yn cynnwys geiriad sy’n deillio o DCO arall a wnaed, dylid esbonio hyn yn y Memorandwm Esboniadol. Dylai’r Memorandwm Esboniadol esbonio pam mae’r geiriad penodol hwnnw’n berthnasol i’r DCO drafft arfaethedig, er enghraifft trwy fanylu ar yr hyn sy’n ffeithiol debyg rhwng yr NSIP perthnasol a ganiatawyd a’r Datblygiad Arfaethedig. Nid yw’n ddigonol i Femorandwm Esboniadol ddatgan yn syml bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cymeradwyo darpariaeth benodol yn flaenorol; bydd angen i’r Awdurdod Archwilio a’r Ysgrifennydd Gwladol ddeall pam mae’n briodol i’r cynllun y gwneir cais ar ei gyfer. Dylai unrhyw wyriad oddi wrth y geiriad a ganiatawyd ar gyfer drafftio DCO gael ei esbonio. Sylwer, fodd bynnag, fod polisi’n gallu newid a datblygu.

1.6 Pan fydd ymgeiswyr yn ceisio cynnwys geiriad penodol neu ddefnyddio dull penodol sy’n deillio o gyfundrefn statudol wahanol mewn DCO drafft, dylid egluro’r rhesymau dros wneud hynny a’i berthnasedd i’r cais yn y Memorandwm Esboniadol hefyd. Er enghraifft, pan fydd ymgeisydd wedi defnyddio geiriad o Orchymyn a wnaed o dan Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992, dylid nodi’r Gorchymyn penodol dan sylw yn eglur ac esbonio’r rheswm dros gynnwys y geiriad hwn yn y DCO. Unwaith eto, bydd angen i ymgeiswyr ystyried p’un a yw darpariaeth o’r fath o fewn pwerau Deddf Cynllunio 2008 a chynnwys sylwadau ar y pwynt hwn yn y Memorandwm Esboniadol.

Ffurf ac iaith y DCO – dull cyffredinol

2. Ffurf ac iaith y DCO – dull cyffredinol

2.1 Mae’n rhaid i DCO gael ei wneud ar ffurf Offeryn Statudol (OS) wedi’i ddilysu os yw’n cynnwys, fel sy’n wir fel arfer, ‘darpariaethau deddfwriaethol’ sydd, er enghraifft, yn cymhwyso, diwygio neu eithrio darpariaethau statudol eraill (gweler adran 117(4) ac adran 120(5) Deddf Cynllunio 2008). Mae angen i Offerynnau Statudol gydymffurfio â thempled sydd ar gael yn gyhoeddus ar wefan Cyhoeddi Deddfwriaeth y DU (yr Archifau Cenedlaethol). Mae’r templed yn cynnwys y fformat sy’n hanfodol ar gyfer Offerynnau Statudol.

2.2 Bydd angen i ymgeiswyr ddefnyddio’r templed Offeryn Statudol a’r system ddilysu gysylltiedig ar-lein sy’n asesu p’un a yw’r drafft yn cydymffurfio â’r rheolau drafftio yn y templed. Bydd rheolwr achos yr Arolygiaeth Gynllunio yn llenwi’r ffurflen gais berthnasol ar ran yr Ymgeisydd a’i chyflwyno i’r Archifau Cenedlaethol. Cysylltwch â’r Arolygiaeth Gynllunio os cewch unrhyw drafferth wrth gael gafael ar y templed.

2.3 Gallai’r templed Offeryn Statudol gael ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd. Dylai ymgeiswyr gysylltu â Rheolwr Achos yr Arolygiaeth Gynllunio i sicrhau eu bod yn defnyddio’r templed diweddaraf.

2.4 Mae’n rhaid i bob copi o’r DCO drafft a gyflwynir i’r Arolygiaeth Gynllunio (gan gynnwys DCO drafft terfynol yr Ymgeisydd a gyflwynir tua diwedd yr Archwiliad) fod wedi cael ei glirio trwy’r broses ddilysu a chynnwys copi o’r neges e-bost Dilysu Llwyddiannus sy’n cadarnhau nad oes camgymeriadau yn y DCO a’i fod wedi defnyddio’r templed Offeryn Statudol cywir. Os bydd DCO drafft yn cael ei gyflwyno gyda chamgymeriadau neu heb neges e-bost Dilysu Llwyddiannus, gofynnir i ymgeiswyr gywiro’r camgymeriadau a’i ailgyflwyno gyda neges e-bost Dilysu Llwyddiannus.

3. Confensiynau drafftio

3.1 Fel y crybwyllwyd uchod, mae’n gyffredin i ymgeiswyr chwilio am gonfensiynau drafftio o Orchmynion Caniatâd Datblygu a wnaed yn flaenorol, a’u mabwysiadu. Fe allai hefyd fod yn ddefnyddiol i ymgeiswyr ystyried confensiynau drafftio Gorchmynion Caniatâd Datblygu wedi’u gwneud a gyhoeddwyd gan yr un adran ag a fyddai’n awdurdodi eu DCO, i weld dewisiadau drafftio’r adran honno. Fodd bynnag, dylai ymgeiswyr gofio bod polisi’n newid ac yn datblygu.

3.2 Pan fydd Trwyddedau Morol Tybiedig neu ganiatadau neu drwyddedau tybiedig eraill yn cael eu cynnwys mewn DCO drafft, mae’n rhaid iddynt ddilyn y confensiynau drafftio statudol ar gyfer Offerynnau Statudol. Fodd bynnag, sylwer bod y rhain hefyd yn drwyddedau annibynnol ac nad ydynt yn ddibynnol ar ddiffiniadau yng nghorff y DCO drafft.

3.3 Mae cyfarwyddyd ar gael yn gyhoeddus ar wefan yr Archifau Cenedlaethol a dylai ymgeiswyr ei ddilyn. Yn arbennig, dylai ymgeiswyr:

  • ddarparu troednodiadau mewn perthynas â darpariaethau statudol y cyfeirir atynt yn yr Offeryn Statudol er mwyn rhoi gwybodaeth i ddefnyddiwr yr Offeryn Statudol am ddiwygiadau neu estyniadau perthnasol i ddeddfiadau a grybwyllir yn yr offeryn, neu sut y’u cymhwysir;
  • defnyddio iaith niwtral, gan beidio â chyfeirio at yr Ysgrifennydd Gwladol neu unigolion eraill fel “ef” neu “hi”, oni bai y cyfeirir at unigolyn byw penodol);
  • darparu rhaglith ddigonol sy’n datgan pwerau;
  • osgoi defnyddio’r gair ‘bydd’ (oherwydd amwysedd ynglŷn â pha un a yw’n orchmynnol neu’n ddatganiad o fwriad yn y dyfodol);
  • osgoi defnyddio’r gair ‘gallai’ (er mwyn osgoi amwysedd ynglŷn â pha un a yw’n oddefol neu’n datgan ei bod yn ansicr a fydd rhywbeth yn digwydd);
  • osgoi hynafiaethau (er enghraifft ‘gyda hynny’, ‘dywededig);
  • peidio â defnyddio cyflyrau traws mewn testun gweithiol (oherwydd amwysedd ynglŷn â ph’un a ydynt yn dynodi ‘a’ neu ‘neu’);
  • ysgrifennu ‘metrau’, ‘milimetrau’ ac ati yn llawn bob tro (a pheidio â defnyddio ‘m’, ‘mm’ ac ati); ac
  • os yw paragraff yn cael ei gynnwys yn yr Erthygl Ddehongli sy’n dweud bod pellteroedd, cyfeiriadau, hydoedd, arwynebeddau ac ati yn fras, gwnewch yn siwr nad yw’r gair ‘bras’ yn ymddangos mewn cysylltiad ag unrhyw un o’r dimensiynau hyn yng ngweddill y gorchymyn;

3.4 Cyn cyflwyno cais i’r Arolygiaeth Gynllunio, dylai’r DCO drafft gael ei wirio’n drylwyr i ddileu camgymeriadau argraffyddol ac i sicrhau bod y ddogfen gyfan yn gyson. Dylai’r gwiriadau hyn gael eu cynnal yn ystod yr Archwiliad hefyd, pryd bynnag y gwneir newidiadau sy’n effeithio ar y DCO.

Ystyriaethau drafftio eraill

4. Darpariaethau Amddiffynnol

4.1 Anogir ymgeiswyr i gytuno ar Ddarpariaethau Amddiffynnol gyda’r parti/ partïon a amddiffynnir cyn cyflwyno’r cais am ganiatâd datblygu. Lle na chytunwyd ar Ddarpariaethau Amddiffynnol yn ystod y cam Cyn-ymgeisio, dylai ymgeiswyr o leiaf gyflwyno cais sy’n cynnwys y Ddarpariaeth Amddiffynnol safonol ar gyfer yr holl bartïon perthnasol gydag unrhyw ddiwygiadau a geisir gan yr Ymgeisydd wedi’u hanodi a chyfiawnhad llawn wedi’i gynnwys yn y Memorandwm Esboniadol.

4.2 Lle na yw’r Ymgeisydd yn bwriadu cynnwys Darpariaethau Amddiffynnol drafft ar gyfer Ymgymerwr Statudol a amlygwyd felly gan yr Arolygiaeth (o dan Reoliad 11 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017), bydd angen i’r Ymgeisydd sicrhau bod yr Adroddiad Ymgynghori’n esbonio pam na cheisir neu nad oes angen Darpariaethau Amddiffynnol ar gyfer yr Ymgymerwr Statudol hwnnw. Yn ddelfrydol, bydd y wybodaeth hon yn cael ei darparu ar ffurf tabl sy’n rhestru’r holl Ymgymerwyr Statudol a amlygwyd gan yr Arolygiaeth, gyda naill ai:

  • dolen i’r Darpariaethau Amddiffynnol drafft arfaethedig; neu
  • esboniad byr ynglŷn â pham nad yw’r cais yn effeithio ar yr Ymgymerwr Statudol a/ neu pam nad oes angen Darpariaethau Amddiffynnol.

4.3 Nid yw cyflwyno Atodlenni Darpariaethau Amddiffynnol gwag yn dderbyniol ac mae hynny’n debygol o gynyddu’r perygl o beidio â derbyn cais o dan a55 Deddf Cynllunio 2008.

4.4 Mae’n gyffredin i Ddarpariaethau Amddiffynnol gael eu llunio ar y cyd â’r parti/ partïon a amddiffynnir neu ganddyn nhw’n uniongyrchol. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod unrhyw Ddarpariaethau Amddiffynnol a ddrafftiwyd gan eraill yn cyd-fynd yn briodol â therminoleg ac arddull y DCO drafft ac yn cael eu drafftio mewn ffordd addas i’w defnyddio mewn Offeryn Statudol. Os oes Darpariaethau Amddiffynnol are gyfer mwy nag un partu gwarchodedig bydd rhaid cael ei chynnwys mewn un Atodlen, mae confensiynau drafftio Offerynnau Statudol yn mynnu bod rhifau’r paragraffau’n dilyn yn ddilyniannol ar hyd yr Atodlen yn hytrach na bod pob rhan yn ailddechrau ag ‘1’ (yn yr un modd â phob Atodlen destunol sydd â sawl rhan). Dylid defnyddio’r dull hwn yn y DCO drafft a gyflwynir gyda’r cais ac ym mhob drafft diwygiedig a gyflwynir yn ystod yr Archwiliad lle y newidir Darpariaethau Amddiffynnol.

4.5 Os yw’n well gan ymgeisydd ddarparu Atodlen ar wahân ar gyfer pob parti a amddiffynnir, a hynny am reswm da, gellir ailddechrau rhifo’r paragraffau ag 1 ym mhob Atodlen.

5. Cyfeiriadau

5.1 Dylai cyfeiriadau at Erthyglau yn y DCO drafft neu adrannau o Ddeddfau gynnwys pennawd y ddarpariaeth (neu eiriad cryno, esboniadol arall) y tro cyntaf y bydd y cyfeiriad yn ymddangos ym mhob Erthygl neu bob paragraff o Atodlen.

5.2 Dylai ymgeiswyr ofalu bod unrhyw groes-gyfeiriadau a ddefnyddir yn y DCO drafft yn cael eu cynnal a’u gwirio i sicrhau eu bod yn effeithiol. Mae’r gwiriadau hyn yn arbennig o bwysig os a phryd y diwygir y DCO drafft yn ystod yr Archwiliad.

6. Diffiniadau

6.1 Dylai diffiniadau gael eu cymhwyso’n gyson drwy gydol y DCO drafft a dylent fod mewn llythrennau bach. Dylai ymgeiswyr nodi:

  • nad oes angen i dermau a ddiffinnir yn y brif ddeddfwriaeth (h.y. Deddf Cynllunio 2008) neu yn Neddf Dehongli 1978 gael eu hailddiffinio yn y DCO;
  • y dylent ddiffinio, naill ai yn yr Erthygl berthnasol neu’r paragraff perthnasol (os cânt eu defnyddio unwaith yn unig) neu mewn Erthygl diffiniadau cyffredinol (os cânt eu defnyddio’n amlach), yr holl dermau nad ydynt wedi’u diffinio yn Neddf Cynllunio 2008 neu Ddeddf Dehongli 1978, neu lle mae’r term yn defnyddio ei ystyr arferol;
  • y dylid osgoi defnyddio diffiniadau gwahanol ar gyfer yr un term o fewn rhannau gwahanol o’r DCO drafft lle bynnag y bo’n bosibl (er enghraifft, amlinellu dwy ystyr wahanol o ‘gyfarpar’). Os nad oes modd osgoi hyn, dylai’r diffiniad yn erthygl ddehongli 2 egluro bod y term yn destun diffiniad gwahanol mewn man arall yn y DCO drafft;
  • yn gyffredinol, ni ddylid diffinio ‘Ysgrifennydd Gwladol’ (mae adrannau’r llywodraeth yn gofyn i Ysgrifennydd Gwladol cyffredinol gael ei dybio er mwyn caniatáu ar gyfer newidiadau i beirianwaith llywodraeth yn y dyfodol);
  • y dylid gofalu nad yw’r diffiniadau a roddir mewn Gorchmynion Caniatâd Datblygu drafft yn gwrthdaro ag unrhyw un o’r diffiniadau a roddir yn a235 Deddf Cynllunio 2008 (os oes gwrthdaro, dylai ymgeiswyr esbonio a rhoi cyfiawnhad yn y Memorandwm Esboniadol); ac
  • ni ddylid defnyddio diffiniadau i geisio gwneud prif ddarpariaeth ynglŷn â’r hyn y gellir ac na ellir ei wneud o dan DCO, na cheisio gweithredu neu gyflwyno atodlenni.

6.2 Os oes mwy nag un awdurdod cynllunio (neu awdurdod arall) perthnasol, dylid egluro hyn yn y diffiniadau.

7. Troednodiadau

7.1 Dylid darparu troednodiadau eglur ar gyfer pob Deddf, Offeryn Statudol, deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd neu ryngwladol, neu ddogfennau allanol y cyfeirir atynt mewn DCO drafft, y mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â’r cyfarwyddyd ar droednodiadau yn y ddogfen Arferion Offerynnau Statudol (o ran deddfwriaeth, dylai’r troednodyn amlygu diwygiadau perthnasol i ddarpariaethau penodol). Dylid defnyddio’r arfer hwn drwy gydol y DCO drafft a’i Atodlenni. Mae hyn yn cynnwys unrhyw Drwyddedau Morol Tybiedig drafft oherwydd bod y rhain yn ffurfio rhan o Offeryn Statudol hefyd ac felly rhaid iddynt fodloni safonau Offerynnau Statudol, fel y crybwyllwyd uchod.

7.2 Mae’n rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod yr holl droednodiadau yn eu DCO drafft terfynol a gyflwynir i’w archwilio yn parhau i fod yn gyfredol (h.y. nad yw deddfwriaeth y cyfeiriwyd ati wedi cael ei diwygio neu ei diddymu), ac yn adlewyrchu’r arfer a ffefrir yn yr adran benderfynu berthnasol.

8. Atodlenni

8.1 Mae’n rhaid i atodlenni mewn Gorchmynion Caniatâd Datblygu gael eu gweithredu trwy Erthygl weithredol ym mhrif gorff y DCO. Gallai hyn fod trwy ddarpariaeth benodol sy’n mynnu bod yr Atodlen yn cael ei gweithredu neu drwy oblygiad eglur (er enghraifft, lle mae’r Erthygl sy’n rhoi caniatâd datblygu yn gwneud hynny trwy gyfeirio at yr Atodlen sy’n disgrifio’r Datblygiad Awdurdodedig). Dylai’r Atodlen hefyd gynnwys nodyn cwr tudalen i’r Erthygl weithredol honno, a dylai cyfeiriadau o’r fath naill ai fod yr Erthygl gyntaf sy’n crybwyll yr Atodlen, neu’r holl Erthyglau sy’n crybwyll yr Atodlen. Dylid defnyddio dull cyson ym mhob rhan o’r DCO.

8.2 Er mwyn helpu’r darllenydd i lywio trwy’r DCO drafft, dylid rhifo Atodlenni yn unol â’r drefn y’u crybwyllir yn yr Erthyglau perthnasol yn y DCO drafft.

9. Paragraffau

9.1 Fel arfer, dylai paragraffau yn y DCO drafft gynnwys un frawddeg, ac anogir ymgeiswyr i osgoi defnyddio brawddegau hir.

10. Rhifo

10.1 Dylai’r drefn rifo o fewn Erthyglau ac Atodlenni ddilyn y cyfarwyddyd yn www.nationalarchives.gov.uk/documents/f0051073-si-practice-5th-edition.pdf. Gweler y cyngor uchod (paragraff 4.4) mewn perthynas â rhifo Darpariaethau Amddiffynnol a gynhwysir mewn Atodlenni aml-ran DCO drafft. Mae’r arfer hwn yn berthnasol i bob Atodlen destunol mewn sawl rhan.

10.2 Dylai ymgeiswyr osgoi defnyddio rhestrau hir iawn sy’n golygu bod angen rhifo’r cynnwys â rhifolion Rhufeinig neu lythrennau (er enghraifft, is-rannau Gwaith â rhif unigol yn Atodlen 1, lle’r oedd enghraifft ddiweddar yn ymestyn i ‘(ttt)’). Nid yw’r templed Offeryn Statudol yn gallu ymdopi’n dda â fformatio trefn rifo/ lythrennu mor hir.

10.3 Yn y ffont a fynnir gan y templed ar gyfer Offerynnau Statudol, nid oes modd gwahaniaethu’n weledol rhwng y nod ar gyfer y rhifolyn ‘un’ a’r llythyren ‘L’ fach. Wrth benderfynu ar drefn rifo/ lythrennu (er enghraifft, ar gyfer lleiniau tir unigol), y mae angen cyfeirio ati hefyd yn y DCO drafft, dylai ymgeiswyr ddefnyddio trefn a fydd yn osgoi amwysedd rhwng y ddau nod hyn.

11. Erthyglau Ardystio

11.1 Mewn Erthyglau ardystio DCO drafft, dylai ymgeiswyr osgoi cyfeirio at ‘unrhyw gynlluniau neu ddogfennau eraill y cyfeirir atynt yn y Gorchymyn hwn’ gan nad yw’n ddigon eglur a manwl gywir.

11.2 Dylai cynlluniau a dogfennau eraill y mae angen eu hardystio, fel y Cynlluniau Tir a Gwaith, gael eu rhestru’n benodol yn yr Erthygl berthnasol. Dylai ymgeiswyr roi teitlau a rhifau dogfennau o’r fath, naill ai yn yr Erthygl ardystio neu, os oes nifer fawr o ddogfennau, mewn Atodlen neu Atodlenni ar wahân i’r DCO.

11.3 Mae’n arferol i’r Datganiad Amgylcheddol gael ei ardystio, nid lleiaf oherwydd y gallai cydymffurfio â chanfyddiadau’r asesiad fod yn berthnasol pan fydd awdurdod cyflawni’n penderfynu p’un ai cyflawni Gofynion ai peidio. Fodd bynnag, yn ystod Archwiliad, gallai ymgeiswyr hefyd ddarparu ‘gwybodaeth amgylcheddol’ sy’n effeithio ar ganfyddiadau’r Datganiad Amgylcheddol ac y gellid dibynnu arni at ddibenion yr Archwiliad sy’n ofynnol gan Reoliad 21 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017. Os darperir ‘gwybodaeth amgylcheddol’ sy’n effeithio ar ganfyddiadau’r Datganiad Amgylcheddol yn ystod Archwiliad, dylai ymgeiswyr ystyried a ddylai’r wybodaeth hon fod yn rhan o ardystio’r Datganiad Amgylcheddol hefyd, oherwydd gallai’r penderfynwr fod wedi dibynnu arni a’i chynnwys yn y Gofynion fel mesurau lliniaru.

12. Rhaglithiau a nodiadau esboniadol

12.1 Mae’n rhaid i Orchmynion Caniatâd Datblygu drafft gynnwys rhaglith, sy’n amlinellu’n fras manylion ynglŷn â chyflwyno, archwilio a phenderfynu ar y cais, gan ddyfynnu darpariaethau statudol perthnasol.

12.2 Yn ogystal, dylai DCO drafft gynnwys nodyn esboniadol byr, ar ôl yr Atodlenni, sy’n esbonio diben y DCO, a’r hyn y byddai’n caniatáu i’r Ymgeisydd ei wneud pe byddai’n cael ei roi. Mae’n rhaid i hwn hefyd nodi ble a phryd y gellir archwilio copïau o’r cynlluniau a dogfennau eraill sydd i’w hardystio o dan y DCO. Dylai’r cytundeb a wnaed gyda chynhaliwr y dogfennau/ y lleoliad gael ei gadarnhau yn yr Archwiliad.

Olrhain newidiadau yn y DCO drafft drwy gydol yr Archwiliad

13. Diwygio DCO

13.1 Mae’n ddigon posibl y bydd yr Ymgeisydd ac eraill yn cyflwyno newidiadau i’r DCO drafft yn ystod yr Archwiliad. Gallai hyn fod am sawl rheswm, fel a ganlyn:

  • ymateb i gwestiynau a godwyd gan yr Awdurdod Archwilio;
  • ymateb i gynrychiolaethau a wnaed gan Unigolion â Buddiant; neu
  • ymateb i gytundebau a wnaed ag Unigolion eraill â Buddiant, er enghraifft mewn perthynas â Darpariaethau Amddiffynnol neu ddiwygiadau i Ofynion.

13.2 Bydd yr Amserlen Archwilio yn rhoi cyfle i’r Ymgeisydd gyflwyno fersiwn ddiwygiedig/fersiynau diwygiedig o’r DCO drafft. Lle nad yw hyn wedi nodi’n benodol yn yr amserlen, gallai ymgeiswyr ddewis cyflwyno drafftiau diwygiedig ar adegau eraill yn ystod yr Archwiliad; er enghraifft i fodloni terfynau amser ar gyfer cyflwyno Cynrychiolaethau Ysgrifenedig. Mae’n bwysig bod llwybr archwilio eglur ar gael i amlygu newidiadau a wnaed i’r DCO drafft yn ystod yr Archwiliad a’r rhesymau pam y gwnaed y newidiadau hynny. Bydd hyn o gymorth mawr i’r Ysgrifennydd Gwladol ddeall sut y daeth ffurf unrhyw DCO drafft a argymhellir gan yr Awdurdod Archwilio i fodolaeth.

14. Darparu llwybr archwilio DCO

14.1 Mae’n bwysig cynnal llwybr archwilio eglur o newidiadau a wnaed i’r DCO drafft. I gyflawni hyn, dylai ymgeiswyr sicrhau bod pob DCO drafft diwygiedig yn cynnwys:

  • fersiwn o’r DCO drafft sy’n amlygu’r newidiadau a wnaed i’r fersiwn flaenorol (y gellir ei hadnabod trwy gyfrwng enw ffeil addas) neu fersiwn sy’n defnyddio meddalwedd gymharu addas sydd hefyd yn amlygu’r newidiadau;
  • mae’n rhaid i fersiwn o’r DCO drafft sy’n amlygu’r holl newidiadau a wnaed i’r fersiwn o’r DCO drafft a gyflwynwyd yn wreiddiol gyda’r cais (y gellir ei hadnabod trwy gyfrwng enw ffeil addas) neu fersiwn sy’n defnyddio meddalwedd gymharu addas sydd hefyd yn amlygu’r newidiadau, gael ei chyflwyno ar ddiwedd yr archwiliad ac, yn dibynnu ar nifer y fersiynau, ar adegau yn ystod yr archwiliad; a
  • dogfen esboniadol ategol, fel nodiadau drafftio neu dabl newidiadau arfaethedig. Dylai’r ddogfen hon esbonio’r diwygiadau a wnaed mewn modd cymesur a chryno a chael ei diweddaru’n briodol yn ystod yr Archwiliad. Diben hyn yw sicrhau bod Unigolion â Buddiant a’r Awdurdod Archwilio yn gwbl ymwybodol o ddiben ac effaith unrhyw ddiwygiadau arfaethedig i ddarpariaethau’r DCO drafft.

14.2 Mae’n rhaid i Femorandwm Esboniadol a ddiweddarwyd yn llawn gael ei gyflwyno gyda fersiwn derfynol DCO drafft yr Ymgeisydd a gyflwynir tua diwedd yr Archwiliad. Felly, bydd angen i ymgeiswyr gadw cofnod manwl a chynhwysfawr o newidiadau a wnaed i’r DCO drafft yn ystod yr Archwiliad i lywio fersiwn derfynol y Memorandwm Esboniadol. O ystyried hyn, byddai’n fuddiol i ymgeiswyr ddiweddaru’r Memorandwm Esboniadol yr un pryd â phob diweddariad i’r DCO drafft yn ystod yr Archwiliad. Pe gellid cyflwyno Memorandwm Esboniadol wedi’i ddiweddaru gyda phob diweddariad i’r DCO drafft, byddai hyn o gymorth i bawb sy’n ymwneud ag archwilio’r cais. Gallai’r eglurder manylach a ddaw yn sgil diweddaru’r Memorandwm Esboniadol yn rheolaidd hefyd leihau nifer y cwestiynau a ofynnir i’r Ymgeisydd a/ neu heriau a gyflwynir mewn ymateb i newidiadau a awgrymir.

14.3 Pan fydd Unigolion â Buddiant heblaw am yr Ymgeisydd wedi awgrymu darpariaethau diwygiedig neu newydd i’r DCO yn ystod yr Archwiliad, dylent hefyd roi esboniad rhesymegol i gefnogi’r diwygiad neu’r ddarpariaeth newydd arfaethedig.

Materion allweddol ar gyfer drafftio DCO

15. Gofynion – ystyriaethau cyffredinol

15.1 Mae adran 120 Deddf Cynllunio 2008 yn amodi y caiff DCO osod Gofynion mewn cysylltiad â’r datblygiad y rhoddir caniatâd ar ei gyfer. Gallai Gofynion o’r fath gyd-fynd ag amodau a allai fod wedi cael eu gosod ar roi unrhyw ganiatâd, cydsyniad neu awdurdodiad (er enghraifft caniatâd cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990) a fyddai wedi bod yn angenrheidiol ar gyfer y datblygiad pe byddai wedi cael ei ganiatáu o dan gyfundrefn wahanol.

15.2 Bydd y gyfraith a’r polisi sy’n ymwneud ag amodau cynllunio (yn arbennig, yn Lloegr, paragraffau perthnasol y Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol a Chanllawiau Ymarfer Cynllunio cysylltiedig), a osodir ar ganiatadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, yn gymwys at ei gilydd wrth ystyried Gofynion sydd i’w gosod mewn DCO mewn perthynas ag elfennau daearol NSIP arfaethedig. Felly, dylai Gofynion fod yn fanwl gywir ac yn orfodadwy, yn angenrheidiol, yn berthnasol i’r datblygiad, yn berthnasol i gynllunio ac yn rhesymol ym mhob ffordd arall.

16. Sicrhau mesurau lliniaru

16.1 Mae’n bosibl y bydd cais yn arwain at effeithiau amgylcheddol niweidiol arwyddocaol y bydd angen eu lliniaru; bydd effeithiau o’r fath yn cael eu hamlygu yn y Datganiad Amgylcheddol cysylltiedig a/ neu wybodaeth amgylcheddol berthnasol. Mae’n rhaid i unrhyw fesurau lliniaru y dibynnir arnynt yn y Datganiad Amgylcheddol gael eu sicrhau’n gadarn, a bydd hyn yn cael ei gyflawni, yn gyffredinol, trwy Ofynion yn y DCO drafft. Mae’n rhaid sicrhau hefyd bod mesurau lliniaru y nodir eu bod yn ofynnol yn y Datganiad Amgylcheddol yn gallu cael eu cyflawni’n amlwg.

16.2 Gallai mesurau lliniaru gynnwys cydymffurfio â mesurau rheoli a sefydlir trwy gynlluniau rheoli perthnasol. Gellir defnyddio Gofynion i baratoi a sicrhau manylion cynlluniau o’r fath. Gall y cynlluniau fod yn berthnasol i gamau amrywiol yng nghylch oes y Datblygiad Arfaethedig, ond, yn nodweddiadol, gallent gynnwys: Cod Ymarfer Adeiladu, Cynllun Rheoli Amgylchedd Adeiladu a Chynllun Rheoli Gwastraff Safle.

16.3 Dylid darparu ‘Tabl Mesurau Lliniaru’, yn rhan o’r Datganiad Amgylcheddol fel arfer, sy’n amlinellu sut a ble yn union y mae mesurau lliniaru y dibynnir arnynt yn y Datganiad Amgylcheddol yn cael eu sicrhau yn y DCO drafft.

17. Darparu hyblygrwydd – cymeradwyo ac amrywio manylion terfynol

17.1 Wrth baratoi’r DCO drafft, dylai ymgeiswyr ystyried yn ofalus pa agweddau ar y Datblygiad Arfaethedig y mae angen hyblygrwydd arnynt, yn enwedig pan fydd angen cymeradwyo yn ddiweddarach gan awdurdod cyflawni perthnasol. Mae’n rhaid i unrhyw ddarpariaethau yn y DCO drafft sy’n caniatáu ar gyfer hyblygrwydd gael eu cyfiawnhau’n drylwyr yn y Memorandwm Esboniadol, a’u hasesu yn y Datganiad Amgylcheddol. (Gellir amlinellu’r ymagwedd gyffredinol tuag at hyblygrwydd yn nogfennau eraill y cais a’i chroesgyfeirio i’r Memorandwm Esboniadol, lle y bo’n briodol.)


Pwynt arfer da 1

Os yw Gofyniad yn gosod rhwymedigaeth ar yr Ymgeisydd i geisio cymeradwyaeth ar gyfer manylion terfynol cynllun, ni ddylai’r Gofyniad gael ei ddrafftio mewn ffordd sy’n caniatáu i’r awdurdod cyflawni hepgor yr angen am gynllun yn gyfan gwbl. Ni ddylai ychwaith alluogi’r awdurdod cyflawni i amrywio’r cynllun yn ysgrifenedig yn y fath fodd sy’n golygu bod y cynllun yn gwyro oddi wrth yr egwyddorion a gadarnhawyd gan y cais.

Dylai ymgeiswyr, yn y Memorandwm Esboniadol a gyflwynir gyda’r cais, gyfiawnhau unrhyw hyblygrwydd sy’n caniatáu ar gyfer cymeradwyo manylion ar ôl i’r caniatâd datblygu gael ei roi. Dylid dyfynnu unrhyw gyfraith achosion berthnasol lle y dibynnir arni.

Mae’n rhaid i’r Memorandwm Esboniadol wedi’i ddiweddaru sy’n cyd-fynd â DCO drafft terfynol yr Ymgeisydd a gyflwynir tua diwedd yr Archwiliad, gynnwys unrhyw gyfiawnhad ychwanegol sy’n angenrheidiol dros gynnal y cyfryw hyblygrwydd yng ngoleuni archwilio’r DCO drafft a’i Ofynion, safbwyntiau’r awdurdodau lleol perthnasol ac Unigolion â Buddiant a’r sail resymegol ar gyfer gosod y Gofyniad.


17.2 Mae paragraff 82 dogfen ganllaw’r llywodraeth, Deddf Cynllunio 2008: Canllawiau ar y broses cynymgeisio, yn datgan y gellir cynnig Gofyniad sy’n caniatáu i fanylion ‘agweddau terfynol penodol’ datblygiad gael eu cyflwyno’n ddiweddarach i’r awdurdod cyflawni perthnasol.

17.3 Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol bod manylion a bennir gan delerau’r DCO yn gallu cael eu newid gydag awdurdodiad yn unig, a thrwy ddilyn y dull rhagnodedig a esbonnir yn adran 153 Atodlen 6 Deddf Cynllunio 2008. At hynny, nid yw’n dderbyniol osgoi’r broses ragnodedig yn Atodlen 6 trwy geisio darparu llwybr arall i gymeradwyo newidiadau neu amrywiadau o’r fath, gan unigolyn heblaw’r Ysgrifennydd Gwladol a wnaeth y DCO, er enghraifft trwy gymhwyso darpariaethau adran 73 a/ neu adran 96A Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

17.4 Felly, ni fyddai ychwanegu cyfrwng amrywio (mae cyfrwng amrywio yn ddull sy’n cael ei fewnosod mewn amod (neu drwy gydweddiad, Gofyniad) er mwyn ei alluogi i gael ei amrywio) fel yr un isod, yn dderbyniol oherwydd fe allai ganiatáu i’r awdurdod cyflawni gymeradwyo newid i gwmpas y Datblygiad Awdurdodedig y cyflwynwyd cais ar ei gyfer ac a archwiliwyd, a thrwy hynny osgoi’r broses statudol:

“Mae’n rhaid i’r datblygiad awdurdodedig gael ei gyflawni yn unol â’r egwyddorion a amlinellir yn nogfen gais [x] [o fewn terfynau’r Gorchymyn] oni chymeradwyir fel arall yn ysgrifenedig”

17.5 Ar y llaw arall, gallai’r caniatâd datblygu gael ei roi yn amodol ar Ofyniad sy’n mynnu bod yr awdurdod cyflawni’n cymeradwyo agweddau manwl ar y datblygiad o flaen llaw (er enghraifft, bod yr awdurdod cynllunio perthnasol yn cymeradwyo manylion cynllun tirweddu). Pan roddir pŵer i’r awdurdod cyflawni gymeradwyo manylion o’r fath, bydd yn dderbyniol caniatáu i’r corff hwnnw gymeradwyo newid i fanylion yr oedd eisoes wedi’u cymeradwyo. Fodd bynnag, ni ddylai’r broses hon ganiatáu i’r awdurdod cyflawni gymeradwyo manylion sy’n mynd y tu hwnt i’r paramedrau a awdurdodwyd mewn unrhyw DCO a roddwyd.

17.6 Nid oes llawer o gwmpas i ganiatáu cywiriadau i DCO a roddwyd. Nid yw cywiriadau’n gyfle i gynnwys rhywbeth a hepgorwyd trwy ddamwain gan y partïon perthnasol.

18. Cydymffurfio â gofynion Asesu Effeithiau Amgylcheddol

18.1 Dylai DCO awdurdodi datblygiad Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA) sydd wedi cael ei asesu yn unol â’r Rheoliadau AEA yn unig.

18.2 Dylid hefyd bod yn arbennig o ofalus wrth ddrafftio pŵer ‘cynnal’, er mwyn sicrhau nad yw’n awdurdodi datblygiad a allai arwain at effeithiau amgylcheddol arwyddocaol nad ydynt eisoes wedi cael eu hasesu. Ni ddylai’r pŵer cynnal ychwaith ganiatáu ar gyfer adeiladu’r hyn sydd, i bob pwrpas, yn brosiect gwahanol i hwnnw a ganiatawyd na’i ddileu (er y gallai dileu ac amnewid rhan(nau) yn unig o Ddatblygiad Awdurdodedig fod yn briodol mewn rhai amgylchiadau). Anogir ymgeiswyr i ymgynghori â’r asiantaethau priodol yn ddigon cynnar er mwyn ceisio cytuno ar ddiffiniad o ‘gynnal’ a geiriad yr Erthygl gyfatebol ar gynnal a chadw.


Pwynt arfer da 2

Dylai ymgeiswyr sicrhau nad yw’r diffiniad o gynnal (os yw wedi’i gynnwys yn y DCO drafft) yn ceisio awdurdodi gweithgareddau a allai arwain at effeithiau arwyddocaol y tu hwnt i’r rhai hynny a aseswyd mewn gwybodaeth amgylcheddol berthnasol, yn arbennig y Datganiad Amgylcheddol.


19. Cyflawni Gofynion

19.1 Mae adran 120(2)(b) Deddf Cynllunio 2008 yn caniatáu i Ofynion gynnwys ceisio cymeradwyaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol ‘neu unrhyw unigolyn arall’. Mewn llawer o achosion, mae’n debygol mai’r awdurdod cynllunio perthnasol ar gyfer yr ardal(oedd) y mae’r datblygiad wedi’i leoli ynddi/ ynddynt, fydd yr ‘unigolyn’ perthnasol y bydd angen ceisio cymeradwyaeth o’r fath ganddo. Er mwyn sicrhau eglurder, yn gyffredinol, dylai Gofynion o’r fath gael eu drafftio mewn ffordd sy’n enwi’r awdurdod neu’r awdurdodau cynllunio perthnasol. Gellid amlygu hyn yn y diffiniadau, er enghraifft wrth ddiffinio’r ‘awdurdod cynllunio perthnasol’.


Pwynt arfer da 3

Argymhellir bod dull ar gyfer ymdrin ag unrhyw anghydfod rhwng yr Ymgeisydd a’r awdurdod cyflawni yn cael ei ddiffinio a’i gynnwys mewn Atodlen DCO drafft. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys trefniadau ar gyfer sefyllfa lle mae’r awdurdod cyflawni’n gwrthod cais a wnaed yn unol â Gofyniad DCO, neu’n ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i amodau, neu’n methu â gwneud penderfyniad o fewn cyfnod rhagnodedig. Gallai’r dull cytunedig hefyd fynd i’r afael â’r ffïoedd sy’n daladwy am gyflawni’r Gofynion.

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi llunio drafft safonol ar gyfer dull DCO i ymdrin â datrys anghydfodau o’r fath. Rhoddir y geiriad safonol yn Atodiad 1 y Nodyn Cyngor hwn. Pan fydd Ymgeisydd yn ceisio gwneud unrhyw ddiwygiad(au) i’r geiriad safonol hwn, dylai hynny gael ei gyfiawnhau’n llawn yn y Memorandwm Esboniadol.

Anogir ymgeiswyr hefyd i gadarnhau yn y Memorandwm Esboniadol yr ymgynghorwyd â’r awdurdod cyflawni ynglŷn â’r rôl gyflawni a’i fod yn fodlon ymgymryd â’r rôl honno. Mae’r un peth yn wir am unrhyw gymrodeddwr a enwir mewn darpariaethau cymrodeddu.


19.2 Dylai ymgeiswyr gysylltu â’r awdurdodau cyflawni a rhanddeiliaid allweddol eraill cyn gynted â phosibl (yn ystod y cam Cyn-ymgeisio) i drafod y Gofynion y bwriedir eu cynnwys yn y DCO drafft, a chytuno ar y ffordd orau o gyflawni’r Gofynion, er enghraifft cytuno ar amserlen gymesur ar gyfer cyflawni yn dibynnu ar raddau neu gymhlethdod manylion a gadwyd yn ôl i’w cymeradwyo’n ddiweddarach.

19.3 Os bydd Ymgeisydd yn cynnig bod angen i awdurdod cyflawni heblaw am yr awdurdod cynllunio perthnasol gymeradwyo materion, dylai’r Ymgeisydd ymgynghori â’r awdurdod cyflawni hwnnw cyn cyflwyno’r cais ac ystyried p’un a oes ganddo’r adnoddau a’r arbenigedd sy’n ofynnol i gyflawni’r swyddogaeth honno.

20. Gwybodaeth amgylcheddol ar gyfer ceisiadau dilynol

20.1 Dylai ymgeiswyr nodi bod rhaid i’r gweithdrefnau o dan Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017 (Rheoliadau AEA 2017) gael eu dilyn ar gyfer unrhyw gais dilynol (i awdurdod cyflawni) ar gyfer cymeradwyo materion yn unol â Gofyniad cyn y caiff y datblygiad cyfan neu ran ohono ddechrau. (Sylwer bod Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2009 yn parhau i fod yn gymwys i brosiectau sy’n dod o dan Reoliad 37 Rheoliadau AEA 2017.) Mae Rheoliadau AEA 2017 yn cynnwys darpariaethau trosiannol sydd (lle y bo’n berthnasol) yn cynnal perthnasedd Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2009. Felly, wrth gyflwyno cais i’r awdurdod cyflawni, dylai’r Ymgeisydd ystyried p’un a yw’r darpariaethau trosiannol yn berthnasol. Os nad yw darpariaethau trosiannol yn berthnasol, dylai ymgeiswyr ystyried a yw Rheoliadau AEA 2017 yn mynnu eu bod yn darparu Datganiad Amgylcheddol wedi’i ddiweddaru neu’n gofyn am Farn Sgrinio gan yr awdurdod cyflawni sy’n gyfrifol am benderfynu ar y cais dilynol (yr awdurdod cynllunio perthnasol fel arfer) ynghyd â Barn Gwmpasu.

20.2 Os yw Ymgeisydd yn bwriadu darparu Datganiad Amgylcheddol wedi’i ddiweddaru gyda’r cais dilynol, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod cyflawni a bydd hyn yn sbarduno gofynion cyhoeddusrwydd yr Ymgeisydd. Yn ogystal, bydd angen i’r awdurdod cyflawni ystyried unrhyw rwymedigaethau sydd arno (er enghraifft, o dan Reoliad 11(1)(a)) i hysbysu cyrff ymgynghori rhagnodedig.


Pwynt arfer da 4

Mae’n bosibl y bydd Gofynion yn sbarduno’r angen am gais dilynol (o dan Reoliadau AEA 2017). Mae’r weithdrefn ar gyfer ystyried effeithiau amgylcheddol ceisiadau o’r fath wedi’i hamlinellu yn Rheoliadau AEA 2017, felly nid oes angen i ymgeiswyr ragnodi’r ffordd y dylai’r awdurdod cyflawni ystyried effeithiau amgylcheddol. (Er enghraifft, trwy gyfyngu ar gwmpas yr hyn y gellid ei gymeradwyo mewn cais dilynol i faterion yr oedd y Datganiad Amgylcheddol gwreiddiol yn ymwneud â nhw.)

Fodd bynnag, dylai ymgeiswyr sicrhau, wrth gymhwyso (o dan adran 120 o’r DC2008) unrhyw Orchmynion, Rheolau neu Reoliadau a wnaed o dan ddeddfwriaeth arall mewn perthynas â chaniatâd, cytundeb neu gymeradwyaeth awdurdod cyflawni o dan Ofyniad (neu pan grëir gweithdrefn benodol i gyflawni Gofynion – gweler adran 21), na ellid dehongli’r Erthygl mewn ffordd sy’n osgoi darpariaethau Rheoliadau AEA 2017. Gellid cyflawni hyn, er enghraifft, trwy fewnosod geiriad yn ymwneud â’r darpariaethau a gymhwyswyd, fel “i’r graddau nad yw’r darpariaethau hynny’n anghyson â Rheoliadau AEA 2017 ac unrhyw orchmynion, rheolau neu reoliadau a wnaed o dan Ddeddf Cynllunio 2008”.


20.3 Os yw’r awdurdod perthnasol o’r farn bod y wybodaeth amgylcheddol a ddarparwyd yn flaenorol yn y Datganiad Amgylcheddol yn ddigonol i asesu ‘effeithiau amgylcheddol y datblygiad’ (Rheoliad 22(2)), mae’n rhaid i hyn gael ei ystyried wrth benderfynu ar y cais am gymeradwyaeth. Fel arall, os yw’r awdurdod perthnasol o’r farn bod y wybodaeth amgylcheddol yn annigonol, rhaid iddo gydymffurfio â gofynion y Rheoliadau AEA gan roi rhesymau. Cynghorir awdurdodau perthnasol i geisio eu cyngor cyfreithiol eu hunain ynglŷn â’r pwynt hwn.

20.4 Ni waeth p’un a oes angen Datganiad Amgylcheddol wedi’i ddiweddaru i fodloni’r gofynion o dan Reoliadau AEA 2017 ai peidio, mae’n rhaid i’r Ymgeisydd ddarparu’r holl wybodaeth a geisir gan y Gofyniad am gymeradwyaeth cyn y gall unrhyw ran o’r Datblygiad Awdurdodedig ddechrau.

21. Diffinio ‘cychwyn’ – gwaith paratoi a diogelu’r amgylchedd

21.1 Mewn rhai penderfyniadau, mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi dileu diffiniadau o ‘gychwyn’ a/ neu ‘waith paratoi’ a allai fod wedi caniatáu i amrywiaeth o waith paratoi safle (fel dymchwel neu glirio llystyfiant) ddigwydd cyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol gymeradwyo manylion mesurau i ddiogelu’r amgylchedd o dan y Gofynion.


Pwynt arfer da 5

Os yw ymgeiswyr o’r farn bod ymagwedd o’r fath yn briodol i amgylchiadau penodol eu NSIP arfaethedig, dylent roi rhesymau yn y Memorandwm Esboniadol.


21.2 Dilëwyd y diffiniadau oherwydd bod yr Ysgrifennydd Gwladol o’r farn eu bod yn amhriodol, yn enwedig lle’r oedd gwaith paratoi o’r fath yn debygol o arwain at effeithiau amgylcheddol arwyddocaol, er enghraifft, o ran sŵn neu effeithiau ar rywogaethau a warchodir neu weddillion archaeolegol.

22. Gwrychoedd a choed

22.1 Gallai ymgeiswyr ddymuno cynnwys Erthygl yn y DCO drafft i ganiatáu cael gwared ar wrychoedd (os oes angen) er mwyn cyflawni’r Datblygiad Awdurdodedig. Gall y DCO drafft gynnwys Erthygl gyda phwerau i ddileu’r rhwymedigaeth ar yr Ymgymerwr i gael caniatâd yn gyntaf o dan Reoliadau Gwrychoedd 1997. (Yng Nghymru, gall pŵer o’r fath gael ei gynnwys gyda chaniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru yn unig.) Argymhellir bod Erthyglau DCO o’r math hwn yn cael eu drafftio mewn modd sy’n sicrhau eu bod yn berthnasol i’r gwrychoedd penodol y bwriedir cael gwared arnynt. I gynorthwyo’r Awdurdod Archwilio, dylai’r Erthygl gynnwys Atodlen a chynllun sy’n amlygu’n benodol y gwrychoedd y bwriedir cael gwared arnynt (boed hynny’n llwyr neu’n rhannol). Trwy wneud hyn, gellir archwilio’r mater o gael gwared ar wrychoedd yn fanwl. Fel arall, gellid drafftio’r Erthygl yn y DCO i gynnwys pwerau ar gyfer cael gwared ar wrychoedd yn gyffredinol (os na ellir eu hamlygu’n benodol), ond rhaid i hyn fod yn ddarostyngedig i ganiatâd yr awdurdod lleol yn ddiweddarach.


Pwynt arfer da 6

Dylai gwrychoedd y mae’r Datblygiad Arfaethedig yn effeithio arnynt gael eu hamlygu mewn Atodlen i’r DCO drafft ac mewn cynllun sy’n cyd-fynd ag ef.

Byddai’n ddefnyddiol pe byddai’r Atodlen a’r cynllun yn amlygu’r gwrychoedd hynny sy’n rhai ‘pwysig’ (gweler Rheoliad 4 ac Atodlen 1 Rheoliadau Gwrychoedd 1997 ac adran 97 Deddf yr Amgylchedd 1995). Byddai hyn yn galluogi partïon fel yr awdurdod cynllunio perthnasol i wneud cyflwyniadau ar briodoldeb cynnwys darpariaethau o’r fath ac i’r Awdurdod Archwilio ystyried y rhain.

Dylai’r DCO drafft hefyd gynnwys Atodlen berthnasol a chynllun perthnasol sy’n amlygu coed y mae’r Datblygiad Arfaethedig yn debygol o effeithio arnynt a warchodir gan TPO a/ neu a warchodir fel arall.


22.2 Gallai ymgeiswyr hefyd ddymuno cynnwys pwerau sy’n caniatáu iddynt dorri, tocio neu dorri’n ôl gwreiddiau coed sy’n destun Gorchymyn Diogelu Coed (TPO). Gall y pŵer hwn ymestyn i goed a warchodir fel arall oherwydd eu bod wedi’u lleoli mewn ardal gadwraeth. I gynorthwyo’r Awdurdod Archwilio, os cynhwysir y pŵer hwn, dylai gael ei ategu gan Atodlen a chynllun sy’n amlygu’r coed yr effeithir arnynt yn benodol.

22.3 Dylai coed sy’n destun TPO a/ neu a warchodir fel arall (ac y mae’r Datblygiad Arfaethedig yn debygol o effeithio arnynt) gael eu hamlygu’n benodol. Nid yw’n briodol i’r pŵer hwn gael ei gynnwys yn rhagofalus. Bydd amlygu coed yr effeithir arnynt yn briodol yn galluogi’r Awdurdod Archwilio i roi ystyriaeth lawn i’r nodweddion penodol a arweiniodd at eu dynodiad a dymunoldeb parhau ag amddiffyniad o’r fath.

23. Dileu hawliau preifat dros dir

23.1 Mae is-adrannau 120(3) a (4) a pharagraff 2 Atodlen 5 Deddf Cynllunio 2008 yn caniatáu i DCO ddarparu ar gyfer dileu hawliau dros dir.

23.2 Gallai Ymgeisydd ddymuno dileu hawliau preifat dros dir pan fydd yn caffael tir trwy ddefnyddio pŵer Caffael Gorfodol yn y DCO drafft neu drwy gytundeb â’r tirfeddiannwr. Gallai Ymgeisydd hefyd ddymuno dileu hawliau preifat dros dir y mae eisoes yn berchen arno neu sy’n angenrheidiol fel arall ar gyfer y NSIP.

23.3 Mae’n rhaid i’r Cynllun Tir sy’n cyd-fynd â’r cais amlygu unrhyw dir y bwriedir arfer pwerau Caffael Gorfodol drosto, gan gynnwys unrhyw dir y bwriedir dileu hawliau preifat drosto (Rheoliad 5 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009).

23.4 Pan fydd Ymgeisydd yn ceisio pwerau yn y DCO i gaffael tir yn orfodol, dylai’r Erthygl sy’n cynnwys y pwerau gael ei drafftio mewn modd sy’n datgan yn eglur p’un a yw’r Ymgeisydd hefyd yn ceisio pŵer i glirio teitl y tir o’r holl hawliau preifat ai peidio. Dylai’r Ymgeisydd ystyried p’un a ddylai’r Erthygl fod yn destun pŵer o dan Erthygl ar wahân a fyddai’n caniatáu i’r Ymgeisydd eithrio hawl breifat benodol o’r pŵer dileu cyffredinol.

23.5 Mae adran 14A(6) Deddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 ac adran 134(6A) Deddf Cynllunio 2008 (a fewnosodwyd yn y Deddfau unigol gan Offeryn Statudol 2017/16) ill dwy’n datgan y dylai hysbysiad cadarnhau gael ei anfon at y Prif Gofrestrydd Tir ac y bydd yn bridiant tir lleol. Pan fydd tir mewn gorchymyn wedi’i leoli mewn ardal lle mae’r awdurdod lleol yn parhau i fod yn awdurdod cofrestru ar gyfer pridiannau tir lleol (h.y. lle nad yw’r newidiadau a wnaed gan Rannau 1 a 3 Atodlen 5 Deddf Seilwaith 2015 wedi dod i rym eto yn yr ardal awdurdod lleol honno), dylai’r awdurdod caffael gydymffurfio â’r camau sy’n ofynnol gan adran 5 Deddf Pridiannau Tir Lleol 1975 (cyn iddi gael ei diwygio gan Ddeddf Seilwaith 2015) i sicrhau bod y pridiant yn cael ei gofrestru gan yr awdurdod lleol fel yr awdurdod cofrestru.


Pwynt arfer da 7

Awgrymir bod gweithdrefn yn cael ei hamlinellu yn yr erthygl berthnasol, fel rhoi hysbysiad neu ddod i gytundeb â’r unigolyn sy’n elwa o’r hawl. Byddai hyn yn sicrhau mai dim ond yr hawliau hynny y mae’n hanfodol eu dileu a fydd yn cael eu trin yn y modd hwn. Gallai unrhyw hawliau preifat, nid dim ond hawliau tramwy preifat, gael eu trin yn y modd hwn.

Gallai’r erthygl hon hefyd roi’r pŵer i’r Ymgeisydd ddileu’r holl hawliau preifat dros dir y mae eisoes yn berchen arno ac sy’n angenrheidiol at ddibenion y datblygiad. Unwaith eto, gallai’r pŵer hwn fod yn amodol ar roi hysbysiad neu gytundeb.



Pwynt arfer da 8

Mae’r newidiadau a wnaed i ddeddfwriaeth Caffael Gorfodol gan Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 wedi golygu bod angen diwygio’r darpariaethau Caffael Gorfodol mewn Gorchmynion Caniatâd Datblygu. Mae Gorchymyn Twnnel Silvertown 2018 yn enghraifft o ddrafftio wedi’i ddiweddaru sy’n ystyried y newidiadau hyn, ond dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol y gallai’r rhain gael eu diwygio ymhellach ac y gallent amrywio yn dibynnu ar ddewisiadau drafftio adran.


24. Cyfamodau Cyfyngol

24.1 Fe allai fod yn briodol cynnwys pŵer i osod Cyfamodau Cyfyngol dros ran o’r tir sy’n destun caffael neu ddefnydd gorfodol o dan y DCO. Cyn penderfynu p’un a ellir cyfiawnhau’r pŵer ai peidio, bydd angen i’r Ysgrifennydd Gwladol ystyried materion fel cymesuredd; y perygl y gallai’r defnydd o dir uwchben neu islaw adeiledd gael ei atal os oes rhaid iddo gael ei gaffael yn llwyr yn absenoldeb pŵer i osod cyfamodau cyfyngol; neu p’un a oes, er enghraifft, polisi o sefydlu parth gwarchod parhaus ar gyfer y rhwydwaith seilwaith y gellid ei sicrhau’n fwy effeithlon gyda budd y pŵer hwn (dyma oedd yr achos yng Ngorchmynion Rheilffordd Gul Ardal y Dociau).


Gwybodaeth gefndir: mae cynnwys pwerau o’r fath wedi cael ei dderbyn mewn rhai Gorchmynion a wnaed o dan Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992 lle yr ystyriwyd bod amgylchiadau penodol pob achos yn cyfiawnhau hynny; er enghraifft, mewn amgylchiadau lle y bwriadwyd lleoli’r rheilffyrdd arfaethedig ar draphont neu mewn twnnel ac nid oedd angen cymhellol i gaffael arwyneb y tir uwchben neu islaw’r adeiledd yn llwyr ond lle’r oedd angen tebygol parhaus am fesurau i ddiogelu’r adeiledd a chael mynediad iddo.



Pwynt arfer da 9

Dylai ymgeiswyr roi cyfiawnhad sy’n benodol i bob ardal o dir y ceisir y pŵer drosti, yn hytrach na rhoi rhesymau cyffredinol, a dylent roi syniad eglur o’r mathau o gyfyngiadau a fyddai’n cael eu gosod a, lle bynnag y bo’n bosibl, dylai’r pŵer ymestyn i’r math penodol o Gyfamod Cyfyngol sy’n angenrheidiol yn unig.


24.2 Mae’r pŵer i osod Cyfamodau Cyfyngol dros dir uwchben cebl wedi’i gladdu neu bibell wedi’i chladdu, neu lle mae llethr yn cynnwys mesurau atgyfnerthu artiffisial, wedi cael ei roi mewn Gorchmynion Caniatâd Datblygu (Erthygl 22 Gorchymyn Twnnel Silvertown (2018)).

24.3 Er mwyn galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol i ystyried p’un a yw gosod Cyfamodau Cyfyngol yn angenrheidiol at ddibenion gweithredu DCO, ac yn briodol o ran hawliau dynol, dylai ymgeiswyr fod yn barod i esbonio a chyfiawnhau’r angen i gynnwys pwerau o’r fath yn llawn yn y Datganiad o Resymau. Ni ddylai darpariaethau DCO sy’n ceisio gosod Cyfamodau Cyfyngol gael eu drafftio’n fras, a dylent nodi’r tir y maent yn ymwneud ag ef a natur y Cyfamod Cyfyngol.

25. Cymhwyso, addasu neu eithrio darpariaethau statudol

25.1 O dan adran 120(5)(a) Deddf Cynllunio 2008, caiff Gorchmynion Caniatâd Datblygu gymhwyso, addasu neu eithrio darpariaeth statudol bresennol sy’n ymwneud ag unrhyw fater y gellid darparu ar ei gyfer yn y DCO.

25.2 Dylai’r pŵer i gymhwyso, addasu neu eithrio darpariaeth statudol bresennol gael ei amlinellu mewn Erthygl ym mhrif gorff y DCO drafft. Dylai’r darpariaethau hynny y bwriedir eu cymhwyso, eu haddasu neu eu heithrio gan DCO gael eu hamlygu’n eglur ac, os ydynt yn helaeth, gael eu hamlygu mewn Atodlen neu Atodlenni.


Pwynt arfer da 10

Dylai ymgeiswyr roi cyfiawnhad sy’n benodol i bob ardal o dir y ceisir y pŵer drosti, yn hytrach na rhoi rhesymau cyffredinol, a dylent roi syniad eglur o’r mathau o gyfyngiadau a fyddai’n cael eu gosod a, lle bynnag y bo’n bosibl, dylai’r pŵer ymestyn i’r math penodol o Gyfamod Cyfyngol sy’n angenrheidiol yn unig.


25.3 Yn y cyd-destun hwn, dylai ymgeiswyr hefyd fod yn ymwybodol o’r cyfleoedd a’r cyfyngiadau (gweler Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Partïon â Buddiant a Darpariaethau Rhagnodedig Amrywiol) 2015) o dan adran 150 Deddf Cynllunio 2008 mewn perthynas â dileu gofynion caniatâd.

Gorchmynion Caniatâd Datblygu a Thrwyddedau Morol Tybiedig

26. Cwmpas daearyddol

26.1 Caiff DCO ‘dybio’ caniatâd am Drwydded Forol o dan Ran 4 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, yn ddarostyngedig i amodau penodol (is-adran 120(4), paragraff 30A Atodlen 5 ac adran 149A Deddf Cynllunio 2008).

26.2 Mae’r pŵer hwn yn berthnasol dim ond pan fwriedir cynnal y gweithgarwch yn gyfan gwbl o fewn un neu fwy o’r canlynol: yn Lloegr; mewn dyfroedd gerllaw Lloegr hyd at derfynau’r môr tiriogaethol tua’r môr (deuddeg milltir allan i’r môr mawr); mewn Parth Ynni Adnewyddadwy; a/ neu mewn ardal a ddynodwyd o dan adran 1(7) Deddf Ysgafell Gyfandirol 1964, heblaw lle mae gan Weinidogion yr Alban swyddogaethau.

26.3 Pe byddai angen Trwydded Forol Dybiedig ar gyfer gweithgareddau mewn dyfroedd glannau neu fewnol Cymru (hyd at 12 môr-filltir o’r llinell sylfaen), er enghraifft, ni allai gael ei thybio gan DCO a byddai’n rhaid ceisio caniatâd ar wahân gan Cyfoeth Naturiol Cymru, y dirprwywyd y swyddogaeth hon iddo gan Weinidogion Cymru.

27. Trwyddedau Morol Tybiedig Lluosog

27.1 Nid ystyrir bod unrhyw beth yn y ddeddfwriaeth berthnasol a fyddai’n atal DCO rhag tybio mwy nag un Drwydded Forol Dybiedig. Gallai hyn fod yn fanteisiol i rai datblygiadau, lle y gallai fod elfennau gwahanadwy o’r prosiect datblygu cyffredinol.

27.2 Os bydd Ymgeisydd yn cynnig y dylai DCO drafft gynnwys mwy nag un Drwydded Forol Dybiedig, bydd angen iddo roi ystyriaeth ofalus i sut y bydd elfennau unigol yr NSIP arfaethedig yn cael eu dyrannu rhwng y trwyddedau drafft, er enghraifft amodau cymwys. Diben hyn yw sicrhau bod holl elfennau’r NSIP yn yr amgylchedd morol y ceisir caniatâd datblygu ar eu cyfer yn cael eu cynnwys mewn un neu’r llall o’r trwyddedau drafft, a bod y rhaniad rhwng yr elfennau hynny wedi’i ddisgrifio’n eglur yn y trwyddedau a bod y rheiny’n gyson â’r NSIP a awdurdodwyd, fel y’i hamlinellir yn y DCO. Os yw’n bosibl, dylai’r ymagwedd a ddefnyddir gael ei chytuno’n ddigon cynnar gyda’r Sefydliad Rheoli Morol.


Pwynt arfer da 11

Dylai ymgeiswyr roi ystyriaeth ofalus i delerau’r Erthygl drosglwyddo a gynhwysant yn eu DCO drafft er mwyn sicrhau ei bod yn adlewyrchu sut y disgwyliant y bydd yr NSIP yn cael ei weithredu ar ôl cael caniatâd ac, os oes modd, osgoi anghysondebau posibl rhwng y ffordd y byddai trefniadau trosglwyddo DCO a Thrwydded Forol Dybiedig yn gweithredu.


28. Darpariaethau trosglwyddo

28.1 Mae adran 156 Deddf Cynllunio 2008 yn darparu bod DCO mewn grym er budd y tir a’r holl unigolion sydd â buddiant yn y tir am y tro, er bod hyn yn amodol ar unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb a wneir mewn DCO.

28.2 Fel arfer, mae Gorchmynion Caniatâd Datblygu yn cynnwys Erthygl sy’n amlinellu pwy sy’n cael budd o’r DCO a’r telerau ar gyfer trosglwyddo budd unrhyw un o ddarpariaethau’r DCO, neu ei holl ddarpariaethau, gan gynnwys unrhyw ganiatâd a allai fod yn angenrheidiol.

28.3 Mae is-adran 72(7) Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 yn darparu, ar gais gan y trwyddedai, y caiff yr awdurdod trwyddedu a roddodd Drwydded Forol Dybiedig (neu y tybiwyd ei fod wedi rhoi Trwydded Forol Dybiedig) ei throsglwyddo o’r trwyddedai i unigolyn arall. Er nad yw’r ddarpariaeth hon yn caniatáu’n benodol i ran o Drwydded Forol Dybiedig yn unig gael ei throsglwyddo, mae is-adran 120(5)(a) Deddf Cynllunio 2008 yn darparu y caiff DCO gymhwyso, addasu neu eithrio darpariaeth statudol sy’n ymwneud ag unrhyw fater y ceir darparu ar ei gyfer mewn DCO, a fyddai’n cynnwys y ddarpariaeth hon. Ystyrir felly, nad oes rheswm cyfreithiol i atal DCO rhag caniatáu trosglwyddo rhan o Drwydded Forol Dybiedig, er y gallai fod anawsterau gweithredol yn gysylltiedig ag ymagwedd o’r fath, gan gynnwys monitro cydymffurfiaeth a chymryd camau gorfodi.

29. Amodau

29.1 Mae is-adran 71(1)(b) Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 yn caniatáu i Drwydded Forol Dybiedig gael ei rhoi yn ddarostyngedig i’r cyfryw Amodau ag y gwêl yr awdurdod trwyddedu orau. Gallai’r rhain, o dan is-adran 71(2), ymwneud â’r gweithgareddau a awdurdodir gan y drwydded a rhagofalon i’w cymryd neu waith i’w wneud (boed hynny cyn, yn ystod neu ar ôl i’r gweithgareddau awdurdodedig gael eu cyflawni) mewn cysylltiad â’r gweithgareddau hynny neu o ganlyniad iddynt. Mae is-adran 71(3) yn amlinellu chwe mater penodol y gellid ymdrin â nhw gan amodau.

29.2 Er nad yw’r gyfraith a pholisi sy’n ymwneud ag amodau cynllunio yn berthnasol o reidrwydd i Ofynion DCO sy’n ymwneud ag elfennau alltraeth NSIP neu amodau Trwydded Forol Dybiedig, ystyrir y dylai egwyddorion tebyg fod yn berthnasol wrth ddrafftio’r rhain (Gweler paragraff 15.2).


Pwynt arfer da 12

Dylai ymgeiswyr roi ystyriaeth ofalus i ba faterion y dylid ymdrin â nhw mewn Gofynion DCO ac Amodau Trwydded Forol Dybiedig, yn ôl eu trefn, ac osgoi dyblygu’r un materion mewn Gofynion ac Amodau. Pe byddai angen gwneud newidiadau i’r cyfryw Ofynion/ Amodau ar ôl i’r penderfyniad gael ei wneud, byddai angen newid y ddau offeryn.

Mae Trwyddedau Morol Tybiedig yn dod yn ddogfennau hunangynhwysol, felly ni ddylent ddibynnu ar ddiffiniadau mewn elfennau eraill o’r prif DCO na chroesgyfeiriadau atynt.

Yn ogystal, nid yw’r Ysgrifennydd Gwladol yn gallu diwygio Trwydded Forol Dybiedig ar ôl iddi gael ei chaniatáu.

Dylai ymgeiswyr ymgysylltu ag ymgyngoreion perthnasol allweddol yn ddigon cynnar yn ystod y cam Cyn-ymgeisio er mwyn ceisio cytuno ar eiriad Gofynion ac Amodau drafft gymaint â phosibl cyn cyflwyno’r cais am ganiatâd datblygu.



Pwynt arfer da 13

Os, erbyn diwedd yr Archwiliad, nad yw’r ymgeiswyr wedi dod i gytundeb â phartïon penodol ar unrhyw fater yn ymwneud â drafftio’r DCO drafft, dylent barhau i geisio cytundeb o’r fath ar ôl yr Archwiliad, a rhoi gwybod i’r Arolygiaeth Gynllunio am unrhyw gynnydd (cyn i’r penderfyniad ar y cais DCO gael ei gyhoeddi).


Atodiad 1

Drafft safonol ar gyfer Erthygl sy’n ymdrin â’r weithdrefn ar gyfer
cyflawni cymeradwyaethau penodol.

Darperir yr atodiad hwn i gyd-fynd â ‘Phwynt arfer da 3’ ym mhrif gorff Nodyn
Cyngor Pymtheg. Lle mae Ymgeisydd yn ceisio gwneud unrhyw ddiwygiad(au) i
ddrafftio’r geiriad safonol a ddarperir yn yr atodiad hwn, dylid ei gyfiawnhau’n
llawn yn y Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â’r Gorchymyn Caniatâd
Datblygu drafft.

Atodlen [X]

GWEITHDREFN AR GYFER CYFLAWNI CYMERADWYAETHAU PENODOL

Ceisiadau a wnaed am gymeradwyaethau penodol
1.—(1) Lle y gwnaed cais i awdurdod cyflawni am ganiatâd, cytundeb neu gymeradwyaeth sy’n ofynnol neu a ystyrir gan unrhyw un o ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn, mae’n rhaid i’r awdurdod cyflawni hysbysu’r ymgymerwr am ei benderfyniad ynglŷn â’r cais cyn diwedd y cyfnod penderfynu.
(2) At ddibenion is-baragraff (1), y cyfnod penderfynu yw—

(a) lle na ofynnir am wybodaeth ychwanegol o dan baragraff 2, 42 niwrnod o’r diwrnod yn union ar ôl hwnnw pryd y cafwyd y cais gan yr awdurdod cyflawni;
(b) lle y gofynnir am wybodaeth ychwanegol o dan baragraff 2, 42 niwrnod o’r diwrnod yn union ar ôl hwnnw pryd y cyflenwyd y wybodaeth ychwanegol gan yr ymgymerwr o dan baragraff 2; neu’r
(c) cyfryw gyfnod hwy ag y cytunir gan yr ymgymerwr a’r awdurdod cyflawni yn ysgrifenedig  cyn diwedd y cyfnod ym mharagraff (a) neu (b).

Gwybodaeth ychwanegol
2.—(1) O ran unrhyw gais y mae’r Atodlen hon yn berthnasol iddo, mae gan yr awdurdod cyflawni yr hawl i ofyn am y gyfryw wybodaeth ychwanegol gan yr ymgymerwr ag sy’n angenrheidiol i’w alluogi i ystyried y cais.
(2) Os yw’r awdurdod cyflawni o’r farn bod y gyfryw wybodaeth ychwanegol yn angenrheidiol, mae’n rhaid iddo, o fewn 10 niwrnod busnes o gael y cais, hysbysu’r ymgymerwr yn ysgrifenedig gan nodi’r wybodaeth ychwanegol sy’n ofynnol.
(3) Os nad yw’r awdurdod cyflawni yn rhoi’r cyfryw hysbysiad fel y’i nodir yn is-baragraff (2), tybir bod ganddo ddigon o wybodaeth i ystyried y cais ac nid oes ganddo’r hawl wedi hynny i ofyn am wybodaeth ychwanegol heb gytundeb yr ymgymerwr o flaen llaw.

Ffioedd
3.—(1) Pan wneir cais i’r awdurdod cyflawni am ganiatâd, cytundeb neu gymeradwyaeth mewn perthynas â gofyniad, mae’n rhaid talu ffi o £[X] i’r awdurdod hwnnw.
(2) Mae’n rhaid i unrhyw ffi a dalwyd o dan yr Atodlen hon gael ei had-dalu i’r ymgymerwr o fewn 42 niwrnod o’r amgylchiadau canlynol—

(a) os gwrthodir y cais am ei fod wedi’i wneud yn annilys; neu
(b) os yw’r awdurdod cyflawni yn methu â phenderfynu ar y cais o fewn y cyfnod penderfynu fel y’i pennir ym mharagraff 1, oni bai bod yr ymgymerwr yn cytuno’n ysgrifenedig, o fewn y cyfnod hwnnw, y caiff yr awdurdod cyflawni gadw’r ffi a’i chredydu mewn perthynas â chais yn y dyfodol.

Apeliadau
4.—(1) Caiff yr ymgymerwr apelio yn yr amgylchiadau canlynol-

(a) os yw’r awdurdod cyflawni yn gwrthod cais am unrhyw ganiatâd, cytundeb neu
gymeradwyaeth sy’n ofynnol neu a ystyrir gan unrhyw un o ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn,
neu’n ei ganiatáu yn ddarostyngedig i amodau;
(b) os nad yw’r awdurdod cyflawni yn hysbysu’r ymgymerwr o’i benderfyniad o fewn y cyfnod penderfynu a bennir ym mharagraff 1;
(c) ar ôl cael cais am wybodaeth ychwanegol o dan baragraff 2, os yw’r ymgymerwr o’r farn nad yw’r holl wybodaeth benodol y gofynnwyd amdani gan yr awdurdod cyflawni, neu ran ohoni, yn angenrheidiol i ystyried y cais; neu
(ch) ar ôl cael unrhyw wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani, os yw’r awdurdod cyflawni yn hysbysu’r ymgymerwr bod y wybodaeth a ddarparwyd yn annigonol ac yn gofyn am wybodaeth ychwanegol y mae’r ymgymerwr o’r farn nad yw’n angenrheidiol i ystyried y cais.

(2) Mae’r broses apelio fel a ganlyn:

(a) mae’n rhaid i unrhyw apêl gan yr ymgymerwr gael ei gwneud o fewn 42 niwrnod o ddyddiad yr hysbysiad o benderfyniad, neu (lle na wnaed penderfyniad) ddiwedd y cyfnod penderfynu fel y’i pennir ym mharagraff 1;
(b) mae’n rhaid i’r ymgymerwr gyflwyno dogfennau’r apêl i’r Ysgrifennydd Gwladol a rhaid iddo, ar yr un diwrnod, ddarparu copïau o ddogfennau’r apêl i’r awdurdod cyflawni ac ymgyngoreion y gofyniad;
(c) cyn gynted ag sy’n ymarferol ar ôl cael dogfennau’r apêl, mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol benodi unigolyn i benderfynu ar yr apêl (“yr unigolyn a benodwyd”) (A benodir gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol) a rhaid iddo hysbysu partïon yr apêl am enw’r unigolyn a benodwyd a’r cyfeiriad ble y dylid anfon yr holl ohebiaeth at sylw’r unigolyn hwnnw;
(ch) mae’n rhaid i’r awdurdod cyflawni ac ymgyngoreion y gofyniad gyflwyno cynrychiolaethau ysgrifenedig i’r unigolyn a benodwyd mewn perthynas â’r apêl o fewn 20 niwrnod busnes o’r dyddiad yr hysbysir partïon yr apêl am benodi unigolyn o dan baragraff (c), ac mae’n rhaid iddynt sicrhau bod copïau o’u cynrychiolaethau ysgrifenedig yn cael eu hanfon at ei gilydd ac at yr ymgymerwr ar y diwrnod y’u cyflwynir i’r unigolyn a benodwyd;
(d) bydd partïon yr apêl yn gwneud unrhyw wrth-gyflwyniadau i’r unigolyn a benodwyd o fewn 20 niwrnod busnes o gael cynrychiolaethau ysgrifenedig o dan baragraff (ch).

(3) Mae’n rhaid i’r unigolyn a benodwyd wneud penderfyniad a hysbysu partïon yr apêl amdano, ynghyd â rhesymau, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(4) Gall yr unigolyn a nodir yn is-baragraff (c) gael ei benodi gan unigolyn a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwn yn lle’r Ysgrifennydd Gwladol.
(5) Os yw’r unigolyn a benodwyd o’r farn bod angen gwybodaeth ychwanegol i allu ystyried yr apêl, mae’n rhaid i’r unigolyn a benodwyd, cyn gynted ag sy’n ymarferol, hysbysu partïon yr apêl yn ysgrifenedig gan nodi’r wybodaeth ychwanegol sy’n ofynnol, pwy y ceisir y wybodaeth ganddo, a’r dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid cyflwyno’r wybodaeth.
(6) Mae’n rhaid i unrhyw wybodaeth ychwanegol sy’n ofynnol o dan is-baragraff (5) gael ei darparu gan y parti y ceisir y wybodaeth ganddo i’r unigolyn a benodwyd ac i bartïon eraill yr apêl erbyn y dyddiad a bennwyd gan yr unigolyn a benodwyd. Mae’n rhaid i unrhyw gynrychiolaethau ysgrifenedig ynglŷn â materion a gynhwysir yn y wybodaeth ychwanegol gael eu cyflwyno i’r unigolyn a benodwyd, a bod ar gael i holl bartïon yr apêl o fewn 10 niwrnod busnes o’r dyddiad
hwnnw.
(7) O ran apêl o dan y paragraff hwn, caiff yr unigolyn a benodwyd-

(a) ganiatáu neu wrthod yr apêl; neu
(b) wrthdroi neu amrywio unrhyw ran o benderfyniad yr awdurdod cyflawni (p’un a yw’r apêl yn ymwneud â’r rhan honno o’r penderfyniad ai peidio), a chaiff ymdrin â’r cais fel petai wedi cael ei wneud i’r unigolyn a benodwyd yn y lle cyntaf.

(8) Caiff yr unigolyn a benodwyd wneud penderfyniad ar apêl gan ystyried yn unig y cyfryw gynrychiolaethau ysgrifenedig a anfonwyd o fewn y terfynau amser rhagnodedig, neu a bennwyd gan yr unigolyn a benodwyd o dan y paragraff hwn.
(9) Caiff yr unigolyn a benodwyd wneud penderfyniad er na wnaed unrhyw gynrychiolaethau ysgrifenedig o fewn y terfynau amser rhagnodedig, os yw’n ymddangos i’r unigolyn a benodwyd bod digon o ddeunydd i allu gwneud penderfyniad ar rinweddau’r achos.
(10) Bydd penderfyniad yr unigolyn a benodwyd ynglŷn ag apêl yn derfynol ac yn gyfrwymol ar bartïon yr apêl, a chaiff llys glywed achos i herio’r penderfyniad dim ond os cychwynnir yr achos trwy hawliad am adolygiad barnwrol.
(11) Os bydd yr unigolyn a benodwyd yn rhoi cymeradwyaeth o dan yr Atodlen hon, fe’i hystyrir yn gymeradwyaeth at ddiben unrhyw ganiatâd, cytundeb neu gymeradwyaeth sy’n ofynnol o dan y Gorchymyn neu at ddiben Atodlen [X] (gofynion) fel petai wedi cael ei rhoi gan yr awdurdod cyflawni. Caiff yr awdurdod cyflawni gadarnhau unrhyw benderfyniad a wnaed gan yr unigolyn a benodwyd ar yr un ffurf yn union yn ysgrifenedig, ond ni ystyrir bod methiant i roi cadarnhad o’r fath
(neu fethiant i’w roi ar yr un ffurf yn union) yn effeithio ar effaith penderfyniad yr unigolyn a benodwyd nac yn ei annilysu.
(12) Heblaw pan roddir cyfarwyddyd o dan is-baragraff (13) sy’n mynnu bod costau’r unigolyn a benodwyd yn cael eu talu gan yr awdurdod cyflawni, mae’n rhaid i’r ymgymerwr dalu am gostau rhesymol yr unigolyn a benodwyd. Cyfrifir costau’r unigolyn a benodwyd yn seiliedig ar y gyfradd ddyddiol berthnasol ar gyfer Arolygydd Unigol petai ef neu hi wedi’i benodi/phenodi o dan a78/ a79 Deddf Cynllunio 2008. Gweler y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol i gael mwy o wybodaeth: https://infrastructure.planninginspectorate.gov.uk/applicationprocess/application-fees/
(13) Yn dilyn cais gan yr awdurdod cyflawni neu’r ymgymerwr, caiff yr unigolyn a benodwyd roi cyfarwyddyd ynglŷn â chostau partïon yr apêl a’r partïon y mae’n rhaid iddynt dalu costau’r apêl.
Wrth ystyried p’un ai gwneud cyfarwyddyd o’r fath a’r telerau ar ei gyfer, mae’n rhaid i’r unigolyn a benodwyd ystyried y Canllawiau Ymarfer Cynllunio a gyhoeddwyd gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol ar 6 Mawrth 2014 neu unrhyw gylchlythyr neu gyfarwyddyd a allai eu disodli o bryd i’w gilydd.
Dehongli Atodlen [X]
5. Yn yr Atodlen hon—

Mae “partïon yr apêl” yn golygu’r awdurdod cyflawni, yr ymgymerwr ac unrhyw
ymgyngoreion y gofyniad.
Mae “diwrnod busnes” yn golygu diwrnod heblaw am ddydd Sadwrn neu ddydd Sul nad yw’n Ddiwrnod Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu’n ŵyl banc o dan adran 1 Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;
Mae “ymgynghorai’r gofyniad” yn golygu unrhyw gorff a enwir mewn gofyniad sy’n destun apêl fel corff y mae’n rhaid i’r awdurdod cyflawni ymgynghori ag ef wrth gyflawni’r gofyniad hwnnw.