Y broses

Cyflwynwyd proses Deddf Cynllunio 2008 i symleiddio’r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer prosiectau seilwaith mawr, gan ei gwneud yn decach ac yn gyflymach ar gyfer cymunedau ac ymgeiswyr fel ei gilydd.

Ffilm fer sy’n egluro’r broses

Gweld fersiwn testun yn unig o’r 6 cham y broses Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol fideo

Mae chwe cham y broses fel a ganlyn:

Cyn Ymgeisio

Cyn cyflwyno cais, mae gan ddarpar ymgeiswyr ddyletswydd statudol i gynnal ymgynghoriad ar eu cynigion. Bydd yr amser a gymerir i baratoi ac ymgynghori ar brosiect yn amrywio, yn dibynnu ar ei raddfa a’i gymhlethdod. Ymateb i ymgynghoriad Cyn Ymgeisio ymgeisydd yw’r amser gorau i ddylanwadu ar brosiect, p’un ai’r ydych yn cytuno â’r prosiect, yn anghytuno, neu’n credu y gellid ei wella.

Nid yw’r Arolygiaeth Gynllunio’n gallu ystyried sylwadau ar rinweddau cais a gynigir yn ystod cyfnod Cyn Ymgeisio’rbroses. Am gyngor ynghylch sut i ymgysylltu â’r broses yn y cam Cyn Ymgeisio, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin ynghylch Ymgynghori Cymunedol.

Derbyn

Mae’r cam Derbyn yn dechrau pan fydd ymgeisydd yn cyflwyno cais am ganiatâd datblygu i’r Arolygiaeth Gynllunio. Dilynir hyn gan gyfnod o hyd at 28 diwrnod (ac eithrio dyddiad derbyn y cais) i’r Arolygiaeth Gynllunio, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, benderfynu a yw’r cais yn bodloni’r safonau gofynnol ar gyfer ei dderbyn i’w archwilio ai peidio.

Cyn Archwilio

Ar y cam hwn, bydd aelodau’r cyhoedd yn gallu cofrestru gyda’r Arolygiaeth Gynllunio i ddod yn Barti â Buddiant drwy wneud Cynrychiolaeth Berthnasol. Mae Cynrychiolaeth Berthnasol yn grynodeb o farn person ynghylch cais, wedi’i wneud yn ysgrifenedig. Hefyd, penodir Awdurdod Archwilio yn y cyfnod Cyn Archwilio, a gwahoddir pob Parti â Buddiant i fynychu Cyfarfod Rhagarweiniol, a gaiff ei redeg a’i gadeirio gan yr Awdurdod Archwilio. Er nad oes unrhyw amserlen statudol ar gyfer y cam hwn o’r broses, fel arfer, mae’n cymryd tua thri mis o ddyddiad hysbysiad ffurfiol a chyhoeddusrwydd yr Ymgeisydd ar gyfer cais a dderbynnir.

Gweld fersiwn testun yn unig o’r sut i gymryd rhan mewn Cyfarfod Rhagarweiniol fideo

Archwiliad

Mae gan yr Arolygiaeth Gynllunio hyd at chwe mis i gynnal yr archwiliad. Yn ystod y cyfnod hwn, gwahoddir Partïon â Buddiant sydd wedi cofrestru drwy wneud Cynrychiolaeth Berthnasol i roi rhagor o fanylion am eu barn, yn ysgrifenedig. Rhoddir ystyriaeth ofalus gan yr Awdurdod Archwilio i’r holl faterion pwysig a pherthnasol gan gynnwys cynrychiolaethau’r holl Bartïon â Buddiant, ac unrhyw dystiolaeth ategol a gyflwynir, ac atebion a ddarperir i gwestiynau’r Awdurdod Archwilio a osodir allan yn ysgrifenedig neu a wneir mewn gwrandawiadau.

Sut i gymryd rhan mewn Gwrandawiad yn ymwneud â Materion Penodol

Argymhelliad a Phenderfyniad

Rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio baratoi adroddiad ar y cais ar gyfer yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol, sy’n cynnwys argymhelliad, o fewn tri mis o ddiwedd y cyfnod Archwilio o chwe mis. Wedyn, mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol dri mis pellach i wneud y penderfyniad ynghylch a ddylid caniatáu neu wrthod caniatâd datblygu.

Ar ôl gwneud penderfyniad

Ar ôl i benderfyniad gael ei gyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol, ceir cyfnod o chwe wythnos pryd y gellir herio’r penderfyniad yn yr Uchel Lys. Gelwir y broses hon o herio cyfreithiol yn Adolygiad Barnwrol.

Ffilm fer ar rôl awdurdodau lleol yn y broses

Gweld fersiwn testun yn unig o’r awdurdodau Lleol a Phrosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol fideo