Nodyn Cyngor 11, Atodiad F – Rheoleiddwyr Niwclear

Y Swyddfa dros Reoli Niwclear, Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyflwyniad

Diben yr Atodiad hwn yw helpu ymgeiswyr am ganiatâd datblygu ar gyfer gorsafoedd pŵer niwclear i ddeall rolau priodol y Swyddfa dros Reoli Niwclear, Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru ym mhroses Deddf Cynllunio 2008.

Mae angen darllen y nodyn hwn ar y cyd â’r Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Cynhyrchu Pŵer Niwclear (NPS EN6) a ddynodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni ar 19 Gorffennaf 2011 ac sy’n rhoi arweiniad ar y berthynas rhwng y fframwaith rheoleiddio a’r gyfundrefn gynllunio ar gyfer gorsafoedd cynhyrchu niwclear. Mae’r Rheoleiddwyr Niwclear yn argymell bod ymgeiswyr yn adolygu’r NPS EN6 ac yn dilyn unrhyw bolisi ynghylch ymgysylltu cyn gwneud cais.

Mae Deddf Cynllunio 2008 (fel y’i diwygiwyd) yn amodi mai’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni yw’r sawl sy’n penderfynu ar geisiadau am ganiatâd datblygu ar gyfer gorsafoedd cynhyrchu niwclear.

Mae’r Atodiad hwn yn rhoi trosolwg cyffredinol o rôl y Swyddfa dros Reoli Niwclear, Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru fel rheoleiddwyr niwclear, ac mae’n esbonio sut fydd pob un ohonynt yn cymryd rhan yn y broses o ystyried cais am ganiatâd datblygu ar gyfer gorsaf cynhyrchu niwclear. (Mae Atodiad A i Nodyn Cyngor 11 yn rhoi trosolwg o rôl Cyfoeth Naturiol Cymru mewn cynllunio seilwaith yng Nghymru, sy’n cynnwys swyddogaethau a gyflawnwyd yn flaenorol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, a hefyd, trwyddedu morol. Dylid darllen Atodiad A ar y cyd â’r Atodiad hwn lle cynigir cynlluniau yng Nghymru, neu lle maent yn debygol o gael effaith ar dir yng Nghymru, neu ddyfroedd tiriogaethol Cymru). (Yn yr un modd, mae Atodiad D i Nodyn Cyngor 11 yn rhoi trosolwg cyffredinol o rôl Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr mewn cynllunio seilwaith).

Bydd yr Atodiad hwn yn cael ei adolygu’n gyson er mwyn sicrhau ei fod yn parhau’n berthnasol ac yn gyfoes. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn croesawu adborth ar gynnwys yr Atodiad hwn.

Rôl y Swyddfa dros Reoli Niwclear, Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru fel rheoleiddwyr niwclear

Y Swyddfa dros Reoli Niwclear

Y Swyddfa dros Reoli Niwclear yw prif reoleiddiwr diogelwch a diogeledd y diwydiant niwclear yn y DU. Fe’i sefydlwyd fel Corfforaeth Gyhoeddus statudol ar 1 Ebrill 2014 o dan Ddeddf Ynni 2013. Mae’n gorff statudol annibynnol y telir ei gostau drwy godi ffioedd ar y diwydiant niwclear. Mae’r Swyddfa dros Reoli Niwclear yn adrodd i’r Adran Gwaith a Phensiynau ac mae’n gweithio’n agos hefyd â’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd.

Mae’r Swyddfa dros Reoli Niwclear yn cynnwys yr hen Arolygiaeth Gosodiadau Niwclear, Swyddfa Trefniadau Diogelu’r DU a’r hen Swyddfa dros Ddiogelwch Niwclear Sifil yn bennaf. Yn ogystal â diogelwch, diogeled a threfniadau diogelu, mae’r Swyddfa dros Reoli Niwclear hefyd wedi ymgorffori swyddogaethau rheoli niwclear Tîm Cludo Deunyddiau Ymbelydrol yr Adran Drafnidiaeth. Y Prif Arolygydd Niwclear yw Pennaeth rheoleiddio’r Swyddfa dros Reoli Niwclear.

Y Swyddfa dros Reoli Niwclear sy’n gyfrifol am drwyddedu a rheoli ystod eang o gyfleusterau a gweithgareddau niwclear. Prif swyddogaethau diogelwch y Swyddfa dros Reoli Niwclear yw caniatáu a gweinyddu trwyddedau safleoedd niwclear, ac arolygu, adolygu ac asesu diogelwch cyfarpar, pobl a phrosesau ar safleoedd niwclear trwyddedig. Y Swyddfa dros Reoli Niwclear sydd â’r prif gyfrifoldeb am reoleiddio gwastraff ymbelydrol sydd wedi cronni a’i storio ar safleoedd trwyddedig.

Mae’r Swyddfa dros Reoli Niwclear yn pennu safonau diogelwch ar gyfer gosodiadau niwclear yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 yn gwneud cyflogwyr yn gyfrifol, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, am sicrhau diogelwch eu gweithwyr a’r cyhoedd. Ymhelaethir ar y cyfrifoldeb hwn mewn perthynas â safleoedd niwclear gan Ddeddf Gosodiadau Niwclear 1965 sy’n darparu cyfundrefn trwyddedu safleoedd niwclear.

O ganlyniad i’w rôl reoleiddio, mae’r Swyddfa dros Reoli Niwclear yn cyfranogi mewn, ac yn darparu cyngor ar, ystod eang o brosesau cynllunio, caniatáu a rheoli datblygu.

Asiantaeth yr Amgylchedd (Lloegr) a Cyfoeth Naturiol Cymru (Cymru)

Mae gwaith rheoleiddio amgylcheddol Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru o orsafoedd cynhyrchu niwclear yn Lloegr a Chymru yn y drefn honno yn cynnwys:

  • caniatáu gollyngiadau a gwarediadau o wastraff ymbelydrol
  • trwyddedu echdynnu dŵr yn cynnwys ar gyfer gwagio safleoedd neu ei ddefnyddio yn ystod adeiladu, defnydd prosesu neu ar gyfer oeri cyddwysyddion tyrbin
  • caniatáu gollyngiadau elifion dyfrllyd, gan gynnwys gweithredu dyfais oeri cyddwysyddion tyrbin, a chyfleusterau trin dŵr a gwaith trin carthffosiaeth yn ystod adeiladu
  • caniatáu cyfarpar confensiynol penodol (mae enghreifftiau yn cynnwys boeleri ategol a chyflenwadau pŵer wrth gefn, a llosgyddion a ddefnyddir i waredu gwastraff llosgadwy)
  • caniatáu gwaredu gwastraff drwy ei ddodi ar dir neu i mewn i dir, yn cynnwys deunyddiau cloddio yn deilio o adeiladu
  • caniatáu gwaith ar amddiffynfeydd llifogydd neu gerllaw
  • rheoleiddio datgomisiynu ac adfer safleoedd niwclear
  • rheoli deunyddiau ymbelydrol cyn trwyddedu safle niwclear a chroniadau o wastraffau ymbelydrol nad ydynt wedi’u dodi ar safle trwyddedig niwclear
  • cronni dŵr wyneb
  • gosod adeileddau sy’n effeithio ar lif cwrs dŵr
  • datblygu o fewn pellter is-ddeddf i brif afon neu amddiffynfa rhag llifogydd llanw, neu ddatblygiad sy’n cynnwys codi lefelau daear yn y gorlifdir gerllaw prif afon.

Mae’r Swyddfa dros Reoli Niwclear ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr, a Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghymru, yn gweithio’n agos â’i gilydd ar safleoedd niwclear er mwyn sicrhau bod eu gwaith o reoli gweithredwyr safleoedd niwclear yn gydlynus a chyson.

Mae rheoli damweiniau mawr sy’n ymwneud â sylweddau peryglus yn gyfrifoldeb Cyfarwyddeb Seveso 82/501/EEC, a drosir drwy’r Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 2015 (COMAH 15). Gall storio sylweddau penodol ar safle gorsaf pŵer niwclear ddod o dan y rheoliadau hyn. Ar gyfer safleoedd niwclear, mae Asiantaeth yr Amgylchedd neu’r Swyddfa dros Reoli Niwclear a Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda’i gilydd, yn ffurfio’r cyd-awdurdod gorfodi ar gyfer y rheoliadau hyn.

Mae’r Swyddfa dros Reoli Niwclear, Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru yn asesu diogelwch, diogeled a derbynioldeb amgylcheddol dyluniadau newydd ar gyfer gorsafoedd pŵer niwclear yn eu rhaglen Asesiad Dylunio Generig. Diben yr Asesiad Dylunio Generig yw darparu adolygiad cadarn, tryloyw ac annibynnol o b’un a ellid caniatáu’r trwyddedau a’r caniatadau angenrheidiol i ddyluniad gorsaf pŵer niwclear i’w galluogi i gael ei hadeiladu ar safle addas ym Mhrydain. Cynhelir Asesiad Dylunio Generig cyn yr asesiad o faterion eraill yn ymwneud â thrwyddedu safle a chaniatadau amgylcheddol, a chyn bod angen gwneud ymrwymiadau cyfalaf mawr, gan felly leihau risgiau prosiect ac ansicrwydd sy’n gysylltiedig â’r prosesau rheoleiddio.

Mae’r Swyddfa dros Reoli Niwclear, Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, Deddf Diogelu Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Rolau’r Swyddfa dros Reoli Niwclear, Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru o dan Ddeddf Cynllunio 2008 (fel y’i diwygiwyd)

Mae rolau a chyfrifoldebau y Swyddfa dros Reoli Niwclear/Asiantaeth yr Amgylchedd/Cyfoeth Naturiol Cymru am gynhyrchu pŵer niwclear yn perthyn i’r categorïau canlynol:

  • fel cyrff ymgynghori rhagnodedig o dan Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol) 2009
  • fel ymgyngoreion rhagnodedig o dan adran 42 Deddf 2008 (gweler Rheoliad 3 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefnau Rhagnodedig) 2009);
  • fel partïon statudol o dan a.88 Deddf 2008
  • fel partïon â buddiant yn ystod yr archwiliad

Fel cyrff ymgynghori rhagnodedig o dan Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol) 2009

Lle mae ymgeisydd yn gwneud cais am farn gwmpasu gan yr Arolygiaeth Gynllunio mewn perthynas â gorsaf bŵer niwclear arfaethedig, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ymgynghori â’r Swyddfa dros Reoli Niwclear ac Asiantaeth yr Amgylchedd neu Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â’r wybodaeth yr ystyriant y dylid ei chynnwys yn y datganiad amgylcheddol. Mae’r Nodyn Cyngor hwn, a Nodiadau Cyngor 3, 7 a 9 yr Arolygiaeth Gynllunio, yn amlinellu cyngor manwl ar oblygiadau’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol o dan Ddeddf Cynllunio 2008 (fel y’i diwygiwyd).

Fel ymgyngoreion rhagnodedig o dan adran 42 Deddf 2008

(Gweler Rheoliad 3 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefnau Rhagnodedig) 2009.)

Mae’r Swyddfa dros Reoli Niwclear yn ymgynghorai rhagnodedig at y dibenion hynny yn ymwneud â’r holl geisiadau sydd yn debygol o effeithio ar faterion sy’n berthnasol i’w ddibenion o fewn ystyr Rhan 3 Deddf Ynni 2013. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymgynghorai rhagnodedig at ddiben adran 42 ar gyfer yr holl geisiadau am ganiatâd datblygu sydd yn debygol o effeithio ar dir yn Lloegr, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgynghorai rhagnodedig ar gyfer yr holl geisiadau am ganiatâd datblygu sydd yn debygol o effeithio ar dir yng Nghymru, a dyfroedd tiriogaethol Cymru.

Fel partïon statudol o dan a.88 Deddf 2008

Bydd y Swyddfa dros Reoli Niwclear ac Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru yn bartïon statudol at ddiben y cyfarfod rhagarweiniol o dan a88, ac fel y cyfryw cânt eu gwahodd i fynychu a rhoi barnau gerbron ynglŷn â’r modd y dylai’r cais gael ei archwilio, gan gynnwys yr amserlen. Gweler Rheoliad 3 y Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Partïon â Buddiant a Darpariaethau Rhagnodedig Amrywiol) 2015.

Fel partïon â buddiant yn ystod yr archwiliad

Fel partïon statudol, gall y Swyddfa dros Reoli Niwclear, Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru ddewis bod yn bartïon â buddiant yn yr archwiliad (gweler adran 102(1)(c) Deddf Cynllunio 2008). Lle bo’n briodol, gall y Swyddfa dros Reoli Niwclear, Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru gael gwahoddiad i wneud sylwadau ar faterion perthnasol, fel ar gynnydd ceisiadau am ganiatadau, trwyddedau, hawlenni ac awdurdodiadau y maent yn delio â nhw mewn perthynas â’r prosiect. Bydd angen i’r Awdurdod Archwilio wybod yr amserlen ar gyfer caniatadau ac am unrhyw ofynion caniatadau arfaethedig. Hefyd, gall yr Awdurdod Archwilio ofyn am farnau’r Swyddfa dros Reoli Niwclear, Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru am unrhyw ofynion perthnasol y cynigir i’w cynnwys yn y Gorchymyn Caniatâd Datblygu drafft, a gwahodd sylwadau ar sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan bartïon eraill â buddiant.

Yn ystod yr archwiliad, bydd yr Awdurdod Archwilio yn ystyried darpariaethau’r Gorchymyn Caniatâd Datblygu drafft a gall gynnal gwrandawiad yn ymwneud â materion penodol ar fesurau a gofynion lliniaru. Gellir gofyn i’r Swyddfa dros Reoli Niwclear, Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru i fynychu’r gwrandawiad i roi eu barnau gerbron ac ateb unrhyw gwestiynau perthnasol. Wrth ymateb i faterion a godir gan yr Awdurdod Archwilion, bydd y Swyddfa dros Reoli Niwclear, Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru yn ceisio bod yn glir ynghylch lle maent yn darparu gwybodaeth sy’n ymwneud â’u penderfyniadau rheoleiddio, a lle maent yn darparu cyngor i’r Awdurdod Archwilio ar faterion o fewn cylch gwaith yr Awdurdod Archwilio neu’r Ysgrifennydd Gwladol.

Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw cydymffurfio â gofynion rheoleiddio a gofynion y Gorchymyn Caniatâd Datblygu, ac anogir ymgeiswyr yn gryf i gysylltu â’r Swyddfa dros Reoli Niwclear, Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru cyn ac yn ystod yr archwiliad er mwyn sicrhau cysondeb gyda’r gofynion/amodau y gall y Swyddfa dros Reoli Niwclear, Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru eu pennu ar unrhyw drwydded neu ganiatâd.

Manylion Cyswllt y Swyddfa dros Reoli Niwclear

Office for Nuclear Regulation
4N.2 Redgrave Court, Desk 26
Merton Road
Bootle L20 7HS

E-bost: [email protected]

Gwefan: www.onr.org.uk

Manylion Cyswllt Asiantaeth yr Amgylchedd

Canolfan Genedlaethol Cyswllt Cwsmeriaid Asiantaeth yr Amgylchedd:

  • drwy ffonio 03708 506 506 os ydych yn y DU
  • drwy ffonio 00 44 114 282 5312 os ydych y tu allan i’r DU
  • drwy’r e-bost yn [email protected]
  • drwy’r post yn:
    National Customer Contact Centre
    PO Box 544
    Rotherham S60 1BY

Manylion Cyswllt Cyfoeth Naturiol Cymru

Canolfan Genedlaethol Gofal Cwsmeriaid Cyfoeth Cymru:

  • drwy ffonio 0300 065 3000
  • drwy’r e-bost yn [email protected]
  • drwy’r post yn:
    Cyfoeth Naturiol Cymru d/o Y Ganolfan Gofal Cwsmeriaid
    Tŷ Cambria
    29 Heol Casnewydd
    Caerdydd CF24 0TP

Manylion Cyswllt yr Arolygiaeth Gynllunio
Cyfarwyddwr Ceisiadau a Chynlluniau o Bwys
Mark Southgate [email protected]
0303 444 5080
Pennaeth Rheoli Achos Seilwaith Cenedlaethol a Gwasanaethau Amgylcheddol
Simone Wilding [email protected]
0303 444 5088