Nodyn Cyngor 11, Atodiad E: Gweithio gyda chyrff cyhoeddus yn y broses cynllunio seilwaith – Historic England

Cyflwyniad

Dyma Atodiad E i Nodyn Cyngor 11 yr Arolygiaeth Gynllunio. Mae Nodyn Cyngor 11 yn cwmpasu llawer o’r pwyntiau rhyngweithio sy’n berthnasol i’r Arolygiaeth Gynllunio a’r Historic Buildings and Monuments Commission for England (Historic England). Fodd bynnag, mae rhai pwyntiau penodol nad aed i’r afael â nhw yn y Nodyn Cyngor ac y mae angen eu hegluro, ac ymdrinnir â’r rhain yn yr Atodiad hwn.

Bydd yr Atodiad hwn yn cael ei adolygu’n gyson i sicrhau ei fod yn parhau’n berthnasol ac yn ddiweddar, er enghraifft oherwydd newidiadau sefydliadol neu ddeddfwriaethol yn y dyfodol sy’n effeithio ar Historic England a/neu yr Arolygiaeth Gynllunio.

Un o ddibenion yr Atodiad hwn yw rhoi cyngor i ymgeiswyr er mwyn gwella ymgysylltiad rhwng ymgeiswyr a Historic England. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio a Historic England yn annog ymgysylltiad uniongyrchol rhwng ymgeiswyr a Historic England ac ar adeg ddigon cynnar yn y cam cyn gwneud cais.

Rôl Statudol Historic England

Cafodd yr Historic Buildings and Monuments Commission for England (Historic England) ei sefydlu gan Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 1983. Ei nod yw ehangu mynediad y cyhoedd i dreftadaeth hanesyddol Lloegr, cynyddu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad pobl o’r gorffennol, a gwarchod a gwella’r amgylchedd hanesyddol. Mae hyn yn cynnwys pob agwedd ar yr amgylchedd sy’n deillio o’r rhyngweithio rhwng pobl a lleoedd drwy amser, gan gynnwys yr holl olion ffisegol sydd wedi goroesi o weithgarwch pobl yn y gorffennol, boed yn weledol, yn gladdedig neu’n suddedig, a fflora wedi’u tirlunio a’u plannu neu’u rheoli.
Mae ganddo ddyletswyddau cyffredinol o dan Adran 33 o Ddeddf 1983 i:

(a) sicrhau cadwraeth henebion hynafol ac adeiladau hanesyddol yn Lloegr;
(b) hyrwyddo cadwraeth a gwella cymeriad a golwg ardaloedd cadwraeth yn Lloegr; a
(c) hyrwyddo mwynhad y cyhoedd o, a hyrwyddo’u gwybodaeth am, henebion hynafol (unrhyw strwythur, gwaith, safle (gan gynnwys gweddillion unrhyw gerbyd, llong, awyren neu strwythur symudol arall) gardd neu ardal y mae Historic England yn nodi ei bod o ddiddordeb hanesyddol, pensaernïol, traddodiadol, artistig neu archeolegol), ac adeiladau hanesyddol yn Lloegr, a’u cadwraeth.

Mae Historic England yn ymgynghorai statudol yn y system gynllunio mewn perthynas â’r amgylchedd hanesyddol ac mae’n ymdrin â cheisiadau am gydsyniad Heneb Gofrestredig ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Mae hefyd yn gweinyddu swyddogaethau trwyddedu’r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â mynediad i longddrylliadau dynodedig (Adran 1 Deddf Diogelu Llongddrylliadau 1973).

Mae Historic England yn Gorff Cyhoeddus Anadrannol a noddir gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DDCCh). Mae’n gweithio mewn partneriaeth ag adrannau llywodraeth ganolog, awdurdodau lleol, cyrff gwirfoddol a’r sector preifat.

Historic England yw’r corff arweiniol ar gyfer y sector treftadaeth a phrif gynghorydd y llywodraeth ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol yn Lloegr (cyfeiriwch at Ddatganiad Treftadaeth DDCCh 2017).

Cwmpas Daearyddol Cyfrifoldebau Historic England

Ar y tir

Mae cyfrifoldebau Historic England am ddiogelu’r amgylchedd hanesyddol yn cwmpasu Lloegr gyfan.

Ar y môr

Historic England yw’r corff cynghori cenedlaethol ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol o fewn ardal cynllunio morol glannau Lloegr (h.y. y rhannau hynny o Fôr Tiriogaethol y Deyrnas Unedig (DU) sydd o dan awdurdodaeth Lloegr). Mae cyfrifoldebau penodol Historic England dros archaeoleg forwrol yn deillio o Ddeddf Treftadaeth Genedlaethol 2002, a addasodd swyddogaethau strategol i gynnwys:

  • sicrhau cadwraeth henebion yng ngwely’r môr, neu arno, neu oddi tano; a
  • hyrwyddo mwynhad y cyhoedd o, a hyrwyddo’u gwybodaeth am, henebion yng ngwely’r môr, neu arno, neu oddi tano.

Hefyd, roedd Deddf 2002 yn galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i drosglwyddo swyddogaethau gweinyddol (yn arbennig o ran trwyddedu mynediad) yn ymwneud ag Adran 1 (Llongddrylliadau Hanesyddol) Deddf Diogelu Llongddrylliadau 1973 i Historic England.

Yn ogystal, rydym yn rhoi cyngor i’r Sefydliad Rheoli Morol fel rhan o’r broses Trwyddedu Morol (y darperir ar ei chyfer o dan Ddeddf 2009). Ar gyfer prosiectau o fewn ardaloedd cynllunio morol Lloegr (ar y glannau ac ar y môr).

Deddf Cynllunio 2008

Roedd Deddf Cynllunio 2008 (Deddf 2008) yn sefydlu’r weithdrefn ar gyfer gwneud ceisiadau am ganiatâd datblygu ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, ac ar gyfer archwilio a phenderfynu ar y ceisiadau.

Mae rhoi caniatâd datblygu yn dileu’r angen am rai caniatadau ar wahân, gan gynnwys y rheiny o dan Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 a Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Fodd bynnag, rhaid i unrhyw ganiatadau o dan Adran 1 sy’n angenrheidiol o dan Ddeddf Diogelu Llongddrylliadau 1973 gael eu cyfeirio at yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, a rhaid i’r rheiny o dan Ddeddf Diogelu Olion Milwrol 1986 gael eu cyfeirio at y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Rôl Historic England o dan Ddeddf 2008

O ystyried eu graddfa, bydd y rhan fwyaf o brosiectau ar y tir sydd o fewn cwmpas y gyfundrefn Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yn cael rhyw effaith ar yr amgylchedd hanesyddol.

Mae Historic England yn ymgynghorai statudol ar gyfer yr holl geisiadau arfaethedig ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol. Mae rolau Historic England yn ystod y camau amrywiol o dan Ddeddf 2008 wedi’u nodi’n fanylach isod.

Rôl Historic England fel ymgynghorai

Mae’r cam cyn gwneud cais o dan Ddeddf 2008 yn galluogi ymgeisydd i nodi materion perthnasol, ymgynghori ar eu Datblygiad Arfaethedig, rhoi cyhoeddusrwydd iddo a’i fireinio, a gobeithio, datrys unrhyw faterion sy’n weddill cyn bod cais yn cael ei gyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio.

Rhaid ymgynghori â Historic England ar unrhyw geisiadau arfaethedig am ganiatâd datblygu sy’n debygol o effeithio ar dir yn Lloegr (Adran 42 o Ddeddf 2008).

Ar gyfer datblygiadau arfaethedig sy’n debygol o fod â goblygiadau trawsffiniol â Gweinyddiaethau Datganoledig eraill, bydd yn bwysig ymgynghori’n gynnar â Historic England.

Mae’r pwyntiau canlynol wedi’u hamlygu fel rhai dymunol o ran cysylltu â Historic England yn ystod y cyfnod cyn gwneud cais:

  • cyfarfod cynnar i ddeall lleoliad a dyluniad arfaethedig y datblygiad a gynigir;
  • gwahoddiad i gymryd rhan mewn unrhyw Broses Cynllun Tystiolaeth a drefnir gan yr ymgeisydd;
  • amserlen ar gyfer y cais arfaethedig, gan gynnwys ymgynghoriad ar Adroddiad Cwmpasu’r Asesiad o’r Effeithiau Amgylcheddol (AEA);
  • mae’r ymgeisydd yn penodi ymgynghorydd archaeolegol proffesiynol, profiadol ac achrededig a/neu gontractwr i gynnal dadansoddiad o ddata o arolygon (geoffisegol a geotechnegol) a llunio asesiad desg o’r amgylchedd hanesyddol;
  • ymglymiad trwy unrhyw Grŵp Technegol Arbenigol a sefydlir gan yr ymgeisydd i adolygu llunio’r Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol; ac
  • eglurder ynghylch newidiadau y bwriedir eu cyflwyno yn dilyn yr ymgynghoriad ar yr Adroddiad Effeithiau Amgylcheddol Rhagarweiniol a chyn cyflwyno cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu i’r Arolygiaeth Gynllunio.

Mae gofyniad statudol ar ymgeiswyr i ymgynghori’n ffurfiol â chyrff fel Historic England yn y cam cyn gwneud cais ar eu Hadroddiad Effeithiau Amgylcheddol Rhagarweiniol. Rhaid i ymgeiswyr roi o leiaf 28 diwrnod i ymateb i’r cyfryw ymgynghoriad (Adran 45 o Ddeddf 2008); wedyn, mae’n ofynnol i ymgeiswyr ystyried unrhyw ‘ymateb perthnasol’ y gall ymgyngoreion ei roi cyn y terfyn amser (Adran 49 o Ddeddf 2008). Nid oes rhaid i ymgeiswyr ystyried unrhyw ymatebion a dderbynnir ar ôl i’r terfyn amser fynd heibio.

Pan fydd cais wedi’i dderbyn gan yr Ysgrifennydd Gwladol, mae Historic England yn ‘barti statudol’ yn awtomatig (a.88(3A) Deddf 2008 a Rheoliad 3 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Partïon â Buddiant) 2010 fel y’u diwygiwyd). Fel y cyfryw, caiff ei wahodd gan yr Awdurdod Archwilio i’r cyfarfod rhagarweiniol, ac os yw Historic England yn dymuno, gall ddod yn barti â buddiant, ac felly cyfranogi yn y broses archwilio.

Dylai’r ymgeisydd roi gwybod i Historic England pan fydd yn bosibl cofrestru fel ‘parti â buddiant’ (a.88(3A) Deddf 2008 a Rheoliad 3 o Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Partïon â Buddiant a Darpariaethau Rhagnodedig Amrywiol) 2015) wrth gyflwyno ‘Sylwadau Perthnasol’ i’r Arolygiaeth Gynllunio erbyn y dyddiad cau. Mae hefyd yn bosibl cofrestru fel ‘parti â buddiant’ wrth ysgrifennu at yr Awdurdod Archwilio yn dilyn y cyfarfod rhagarweiniol.

Dylai ymgeiswyr ymgynghori’n ddigon cynnar â Historic England yn ystod y cam cyn gwneud cais er mwyn lleihau’r risg y bydd angen gwybodaeth ychwanegol pan fydd cais wedi’i wneud i’r Arolygiaeth Gynllunio, a allai fel arall arwain at oedi o ran archwilio’r cais. Dylai’r holl faterion perthnasol fod wedi’u datrys cyn gwneud cais, os oes modd.

Mae’n bosibl y bydd angen ymateb amlddisgyblaethol gan Historic England o ran cyngor ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, yn ogystal â chydgysylltu rhwng swyddfeydd lleol. Felly, er mwyn sicrhau bod pob cais am ein cyngor yn cael ei drin yn deg, dylai ymgeiswyr ofyn am derfynau amser rhesymol ar gyfer cyngor, lle na osodir terfynau amser statudol. Mae’n ddefnyddiol hefyd, i bawb sy’n cymryd rhan, i gofnodion gael eu llunio a’u cytuno gan bob parti ar gyfer trafodaethau cyn gwneud cais.

Argymhellir y canlynol i gynorthwyo cyswllt â Historic England:

  • Dylai ymgeiswyr wahodd Historic England i gymryd rhan mewn cyswllt cyn gwneud cais drwy’r Broses Cynllun Tystiolaeth. Dylai hyn amlinellu sut a phryd y byddant yn cysylltu â Historic England, gan gynnwys cyfranogiad drwy unrhyw Grwpiau Technegol Arbenigol; a
  • Gall a dylai ymgeiswyr ystyried sefydlu cytundeb Gwasanaeth Cynghori Estynedig gyda Historic England i gael mynediad at ein gwasanaethau y telir amdanynt sydd wedi’u cynllunio i gefnogi ein hymglymiad trwy gyngor estynedig fesul cais. Felly, argymhellir bod y prif gyswllt ar gyfer yr ymgeisydd yn trefnu cyfarfod â Historic England cyn gynted â phosibl i drafod manylion y prosiect ac i drefnu i roi dyfynbris.

Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA)

Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017 yn nodi bod yn rhaid i broses Asesu Effeithiau Amgylcheddol adnabod, disgrifio ac asesu effeithiau sylweddol uniongyrchol ac anuniongyrchol y prosiect arfaethedig ar ffactorau sy’n cynnwys “asedau perthnasol, treftadaeth ddiwylliannol a’r dirwedd”.

Ymgynghorir â Historic England cyn i’r Ysgrifennydd Gwladol fabwysiadu Barn Gwmpasu AEA ar gyfer pob cais am Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol arfaethedig yn Lloegr (gan gynnwys unrhyw ardal forol sy’n ddarostyngedig i awdurdodaeth Lloegr). Gweler Nodyn Cyngor 3 yr Arolygiaeth Gynllunio am ragor o fanylion.

Ar ôl cyhoeddi’r Farn Gwmpasu AEA, dylid parhau i ymgynghori â Historic England drwy gydol y broses cyn gwneud cais sy’n arwain at yr ymgynghoriad ar yr Adroddiad Effeithiau Amgylcheddol Rhagarweiniol (Adran 42 o Ddeddf 2009), gan gynnwys unrhyw ddogfennau ategol megis cynllun ymchwilio archaeolegol ysgrifenedig amlinellol drafft (tirol neu forol) ac unrhyw Orchymyn Cydsyniad Datblygu drafft (gan gynnwys unrhyw Drwyddedau Morol Tybiedig drafft).

Cyngor a chanllawiau pellach

Rydym yn gwerthfawrogi y bydd ymgeiswyr am Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yn awyddus i sefydlu cyswllt cynnar i esbonio prosiectau datblygu arfaethedig ac i gynnwys Historic England o fewn unrhyw Broses Cynllun Tystiolaeth cyn gwneud cais. Mae’r wybodaeth ganlynol yn ymwneud â’n gwasanaethau y telir amdanynt, fel y maent yn berthnasol i gyngor estynedig cyn gwneud cais ar gyfer prosiectau seilwaith cenedlaethol:
https://historicengland.org.uk/services-skills/our-planning-services/enhanced-advisory-services/

Hefyd, bydd y ddolen we uchod yn rhoi manylion cyswllt ar gyfer swyddfeydd lleol Historic England.

I weld ein Siarter ar gyfer Gwasanaethau Cynghori.

Mae Historic England wedi llunio cyfres o Nodiadau Cynghori y gellir eu gweld yma.

Mae Canllawiau Historic England ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â diogelu a rheoli’r amgylchedd hanesyddol i’w gweld yma:
https://historicengland.org.uk/advice/find/latest-guidance/
https://historicengland.org.uk/advice/planning/marine-planning/ports/

Mae ffynonellau arweiniad eraill yn cynnwys:
Ystad y Goron (2021) Archaeological Written Schemes of Investigation for offshore wind farm projects

Standard and guidance for archaeological field evaluation (2014) gan Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr, sy’n cynnwys Briffiau, Cynlluniau Ymchwilio Ysgrifenedig, a Dyluniadau Prosiectau.

Datganiad Treftadaeth 2017 yr Adran dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Manylion Cyswllt Historic England
Bydd ymwneud â Phrosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol unigol yn cael ei drefnu drwy swyddfa leol briodol Historic England neu Uned Cynllunio Morol Historic England ar gyfer prosiectau alltraeth. Dylai ymholiadau ar gyfer yr Uned Cynllunio Morol gael eu hanfon at: [email protected]

Mae manylion y swyddfeydd lleol i’w cael yma.

Bydd y swyddog arweiniol ar gyfer prosiect yn cael ei nodi ar sail achos wrth achos, gan ddibynnu ar natur a lleoliad y cynnig, gan gynnwys nodi swyddfa leol arweiniol pan fydd cynigion yn croesi ffiniau swyddfeydd daearyddol.

Caiff y gwaith o gydgysylltu ymgysylltiad Historic England â’r Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol ei gefnogi’n ganolog trwy ein Tîm Strategaeth Genedlaethol canolog. Gellir gwneud ymholiadau yma:
https://historicengland.org.uk/advice/planning/infrastructure/
Gwefan: www.historicengland.org.uk