Nodyn Cyngor 10: Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd sy’n berthnasol i brosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol

Statws y Nodyn Cyngor hwn

Mae’r fersiwn hon o Nodyn Cyngor 10 yn disodli pob fersiwn flaenorol ac yn cynnwys diwygiadau a wnaed mewn ymateb i arfer gorau sy’n dod i’r amlwg.

Neidio i’r adran:

Crynodeb
Cefndir
1. Cyfarwyddebau’r UE
2. Ystyried effeithiau trawsffiniol datblygiad ynni ar Safleoedd Ewropeaidd
3. Y Broses HRA
HRA o fewn proses Deddf Cynllunio 2008
4. Cyn-ymgeisio
5. Derbyn Cyflwyno’r cais DCO
6. Cyn-archwiliad
7. Archwiliad
8. Argymhelliad
9. Penderfyniad yr Awdurdod Cymwys
10. Crynodeb
11. Ystyriaethau eraill
Termau a thalfyriadau

Crynodeb o’r Nodyn Cyngor hwn

Yr ysgrifennydd gwladol perthnasol yw’r awdurdod cymwys at ddibenion y Gyfarwyddeb Cynefinoedd (Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC dyddiedig 21 Mai 1992 ar warchod cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt (fel y’u codeiddiwyd) (y ‘Gyfarwyddeb Cynefinoedd’)) a’r Rheoliadau Cynefinoedd mewn perthynas â cheisiadau am Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIPs). (Bydd Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017) yn berthnasol y tu hwnt i ddyfroedd tiriogaethol y DU (sef 12 milltir forol). Mae’r Rheoliadau hyn yn berthnasol pan gyflwynir cais ar gyfer prosiect ynni mewn parth ynni adnewyddadwy (ac eithrio unrhyw ran y mae gan Weinidogion yr Alban swyddogaethau mewn perthynas â hwy). Er hwylustod mynegiant, mae’r term “Rheoliadau Cynefinoedd” yn cynnwys y ddwy set o reoliadau yn y Nodyn Cyngor hwn.) Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd, a’r Rheoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth lle y bônt yn berthnasol, yn mynnu bod awdurdodau cymwys, cyn rhoi caniatâd ar gyfer cynllun neu brosiect, yn cynnal asesiad priodol (AA) mewn amgylchiadau lle mae’r cynllun neu’r prosiect yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar safle Ewropeaidd neu safle Morol Ewropeaidd (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda chynlluniau neu brosiectau eraill). (Ar gyfer yr holl safleoedd a gynhwysir o dan y term hwn, cyfeiriwch at y tabl telerau a thalfyriadau ar ddiwedd y Nodyn Cyngor hwn.)

Mae Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) yn cyfeirio at y broses asesu gyfan, gan gynnwys y cam AA (os oes angen un).

Wrth baratoi ceisiadau am NSIPs o dan Ddeddf Cynllunio 2008 (PA2008), fel y’i diwygiwyd, dylai Ymgeiswyr ystyried effeithiau posibl y cais ar gynefinoedd a warchodir. Os yw NSIP, ar ei ben ei hun neu gyda phrosiectau presennol a phrosiectau y gwyddys amdanynt yn y dyfodol, yn debygol o effeithio ar safle Ewropeaidd a/neu safle morol Ewropeaidd, mae’n rhaid i’r Ymgeisydd ddarparu adroddiad gyda’r cais sy’n dangos y safle(oedd) y gellid effeithio arno/arnynt ynghyd â digon o wybodaeth i alluogi’r awdurdod cymwys i wneud AA, os bydd angen un. (Rheoliad 5(2)(g) Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009 (fel y’u diwygiwyd) (y Rheoliadau CFfGR).)

Mae’r nodyn hwn yn rhoi cyngor i Ymgeiswyr ynglŷn â pharatoi’r adroddiad hwnnw, a phrosesau Deddf 2008 sy’n ymwneud â HRA. At ddibenion y nodyn hwn, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn defnyddio’r term “HRA” i ddisgrifio pob cam o’r broses sy’n ofynnol gan Erthyglau 6(3) a 6(4) y Gyfarwyddeb Cynefinoedd. Mae HRA yn broses ailadroddol a dylid rhoi pwyslais ar osgoi effeithiau arwyddocaol tebygol (LSE).

Pan fydd LSE yn bodoli, dylai’r Ymgeisydd gynnal yr asesiad mewn ffordd benodol sy’n dilyn cwmpas tynn, gan arwain at gyflwyno Adroddiad HRA gyda chais am Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO). Bydd angen i’r Adroddiad HRA ddarparu digon o wybodaeth i lywio AA yr awdurdod cymwys.

Mae cyfres o fatricsau wedi’u hatodi i’r Nodyn Cyngor hwn y mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn disgwyl i Ymgeiswyr eu cwblhau a’u cyflwyno gyda chais DCO. Bydd y matricsau hyn yn cynorthwyo Ymgeiswyr i baratoi eu gwybodaeth at ddibenion HRA ac yn ffurfio rhan annatod o’r wybodaeth a gyflwynir gyda’r cais. Mae’r Nodyn Cyngor hwn a’i atodiadau’n esbonio sut y dylai’r Ymgeisydd baratoi’r matricsau a sut y defnyddir y matricsau hyn i lywio’r broses benderfynu.

Diben y Nodyn Cyngor hwn yw:

  • rhoi disgrifiad byr o’r cyd-destun cyfreithiol a’r rhwymedigaethau ar y penderfynwr a’r Ymgeisydd o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd a’r Rheoliadau Cynefinoedd;
  • esbonio sut mae proses PA2008 yn cyd-fynd â’r broses HRA;
  • amlygu’r cyrff perthnasol y dylai’r Ymgeisydd ymgynghori â nhw drwy gydol y broses ymgeisio am DCO, ac awgrymiadau ynglŷn ag amseru a lefel ymgysylltu;
  • egluro’r wybodaeth y dylid ei darparu gyda chais DCO mewn perthynas â’r HRA; ac
  • esbonio’r broses a gynhelir gan yr Arolygiaeth Gynllunio yn rhan o’u dyletswyddau a’r cysylltiad â’r HRA, a ddilynir i geisio sicrhau cydymffurfiaeth â’r gofynion cyfreithiol.

Cyd-destun

Dylid darllen y Nodyn Cyngor hwn ar y cyd â’r

  • Gyfarwyddeb Cynefinoedd,
  • y Rheoliadau Cynefinoedd,
  • Deddf 2008,
  • Polisi Cynllunio perthnasol y Llywodraeth (er enghraifft: Y Datganiadau Polisi Cenedlaethol perthnasol (Cymru a Lloegr); y Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol (NPPF) (Lloegr); Polisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 5 (TAN 5): Cadwraeth Natur a Chynllunio (2009) (Cymru)),
  • Cylchlythyrau’r Llywodraeth (er enghraifft: Cylchlythyr 06/2005 Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog (ODPM): Bioamrywiaeth a Chadwraeth Ddaearegol – rhwymedigaethau statudol a’u heffaith o fewn y system gynllunio), a
  • chanllawiau cydnabyddedig gan y Comisiwn Ewropeaidd a’r Llywodraeth, er enghraifft:
    • Y Comisiwn Ewropeaidd (2001), Asesu cynlluniau a phrosiectau sy’n cael effaith arwyddocaol ar safleoedd. Natura 2000 – Canllawiau Methodolegol ar ddarpariaethau Erthygl 6(3) a (4) Cyfarwyddeb Cynefinoedd 92/43/ EEC;
    • y Comisiwn Ewropeaidd (2000) Rheoli Safleoedd Natura 2000 – Darpariaethau Erthygl 6 Cyfarwyddeb Cynefinoedd 92/43/EEC;
    • Barn y Comisiwn (2007/2012) Dogfen Ganllaw ar Erthygl 6(4) Cyfarwyddeb Cynefinoedd 92/43/EEC – Egluro cysyniadau: Datrysiadau Amgen, Rhesymau Hanfodol er Budd Cyhoeddus Tra Phwysig, Mesurau Cydbwyso;
    • y Comisiwn Ewropeaidd (2011) Dogfen Ganllaw ar Ddatblygiadau Ynni’r Gwynt a Natura 2000;
    • a’r Comisiwn Ewropeaidd (2011) Dogfen Ganllaw – Gweithredu Cyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd mewn Aberoedd ac Ardaloedd Arfordirol: gan roi sylw penodol i ddatblygu porthladdoedd a charthu.)

Crybwyllir rhai dogfennau yn Nodyn Cyngor hwn i gynorthwyo Ymgeiswyr, ond yr Ymgeisydd sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr holl bolisïau, deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol a chyfredol wedi cael eu hystyried.

Cefndir

1. Cyfarwyddebau’r UE

1.1 Mae’r Deyrnas Unedig (DU) wedi’i chyfrwymo i delerau Cyfarwyddeb Cynefinoedd yr Undeb Ewropeaidd (UE), a’r Gyfarwyddeb Adar Gwyllt (Cyfarwyddeb 2009/147/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 30 Tachwedd 2009 ar warchod adar gwyllt (fel y’i codeiddiwyd) (y ‘Gyfarwyddeb Adar’)). Yn ogystal, mae’n rhaid i’r DU gyflawni ei rhwymedigaethau o dan gytundebau rhyngwladol perthnasol fel Confensiwn Ramsar (y Confensiwn ar Wlyptiroedd o Bwys Rhyngwladol, yn enwedig fel Cynefin Adar Dŵr, fel y’i diwygiwyd ym 1982 a 1987 (‘Confensiwn Ramsar’)). Nod y Gyfarwyddeb Cynefinoedd yw gwarchod cynefinoedd naturiol a rhywogaethau gwyllt penodol ledled yr Undeb Ewropeaidd trwy, ymhlith mesurau eraill, sefydlu rhwydwaith o safleoedd a adwaenir fel safleoedd Natura 2000. Mae’r Gyfarwyddeb Adar Gwyllt yn ceisio gwarchod pob math o adar gwyllt a safleoedd sy’n bwysig ar gyfer gwarchod adar gwyllt. Mae confensiwn Ramsar yn canolbwyntio ar wlyptiroedd o bwysigrwydd rhyngwladol.

1.2 O dan Erthygl 6(3) y Gyfarwyddeb Cynefinoedd, bydd angen cynnal AA pan fydd cynllun neu brosiect (sef cynnig NSIP yn yr achos hwn) yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar safle Ewropeaidd, naill ai’n unigol neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill.

1.3 Yn ychwanegol at hyn, yn ôl Erthygl 6(4), pan fydd AA wedi cael ei gynnal ac yn arwain at asesiad negyddol (mewn geiriau eraill, lle na ellir diystyru effeithiau niweidiol ar safle(oedd) Ewropeaidd, er gwaethaf unrhyw fesurau osgoi neu liniaru arfaethedig (Penderfyniad Llys Cyfiawnder Ewrop (ECJ) yn Waddenzee (C-127/02) – Yng ngoleuni’r egwyddor ragofalus, bydd perygl effeithiau arwyddocaol yn bodoli os nad yw gwybodaeth wrthrychol yn dangos na fydd y cynllun neu’r prosiect yn cael effeithiau arwyddocaol ar amcanion cadwraeth y safle dan sylw; os bydd amheuaeth ynglŷn ag absenoldeb effeithiau arwyddocaol, rhaid cynnal asesiad priodol. Mae’n rhaid i bob agwedd ar y cynllun neu’r prosiect a allai, naill ai’n unigol neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill, effeithio ar yr amcanion hynny gael ei hamlygu yng ngoleuni’r wybodaeth wyddonol orau yn y maes (paragraff 54 Waddenzee).)), gellir rhoi caniatâd dim ond os nad oes unrhyw ddewisiadau amgen, os oes Rhesymau Hanfodol er Budd Cyhoeddus Tra Phwysig (IROPI) ar gyfer y datblygiad (os yw’r safle’n cynnal cynefin naturiol blaenoriaethol neu rywogaeth flaenoriaethol, bydd amodau ychwanegol yn berthnasol i’r rhesymau, fel yr esbonnir yn y Nodyn Cyngor hwn) ac os yw mesurau cydbwyso wedi cael eu sicrhau.

1.4 Mae’r amddiffyniad a roddir gan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd a’r Gyfarwyddeb Adar Gwyllt wedi’i drosi i ddeddfwriaeth y DU trwy’r Rheoliadau Cynefinoedd. Mae Safleoedd o Bwys i’r Gymuned (SCIs), Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (SACs), Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ymgeisiol (cSACs) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (SPAs) yn cael eu hamddiffyn o dan y Rheoliadau Cynefinoedd (Rheoliad 8 y Rheoliadau Cynefinoedd). Fel mater polisi (yn Lloegr, yr NPPF paragraff 118. Yng Nghymru, TAN5 paragraffau 5.2.2 a 5.2.3), mae’r Llywodraeth hefyd yn defnyddio’r gweithdrefnau a ddisgrifir isod mewn perthynas â SACs posibl (pSACs), SPAs potensial (pSPAs), safleoedd Ramsar ac (yn Lloegr) safleoedd Ramsar arfaethedig a safleoedd a amlygwyd, neu sy’n ofynnol, fel mesurau cydbwyso ar gyfer effeithiau niweidiol ar unrhyw un o’r safleoedd uchod. At ddibenion y Nodyn Cyngor hwn, cyfeirir at yr holl safleoedd hyn fel “safleoedd Ewropeaidd”.

2. Ystyried effeithiau trawsffiniol datblygiadau ynni ar Safleoedd Ewropeaidd

2.1 Mae’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd, sef yr Adran Busnes,Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) bellach, wedi rhyddhau canllawiau (Guidelines on the assessment of transboundary impacts of energy developments on Natura 2000 sites outside the UK) sy’n datgan y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol, wrth ystyried p’un ai caniatáu prosiectau ynni, yn cymhwyso egwyddorion y Gyfarwyddeb Cynefinoedd i unrhyw ddatblygiad ynni sy’n debygol o gael effaith arwyddocaol ar safleoedd Natura 2000 neu safleoedd ymgeisiol mewn Aelod-wladwriaethau eraill. Mae BEIS yn disgwyl y bydd hyn yn fwyaf perthnasol i ddatblygu ffermydd gwynt ar y môr.

2.2 Dylai Ymgeiswyr sy’n ceisio caniatâd ar gyfer datblygiadau ynni sy’n debygol o gael effaith arwyddocaol (naill ai’n unigol neu ar y cyd) ar safle Natura 2000 mewn Aelod-wladwriaeth arall geisio’r holl wybodaeth berthnasol, fel y bo’n rhesymol ymarferol, a’i darparu gyda’u cais DCO. Yna, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (SoSBEIS) yn gallu ystyried effeithiau tebygol eu cynigion ar y cyfryw safleoedd cyn penderfynu p’un ai rhoi caniatâd datblygu ai peidio.

3. Y broses HRA

3.1 Mae’r HRA yn broses aml-gam sy’n helpu i bennu Effeithiau Arwyddocaol Tebygol (LSE) yn ogystal, lle y bo’n briodol, ag asesu effeithiau niweidiol ar gyfanrwydd safle Ewropeaidd, archwilio datrysiadau amgen, a chyfiawnhau IROPI. Mae canllawiau Ewropeaidd yn disgrifio proses pedwar cam ar gyfer HRA, a grynhoir yn Ffigur 1 isod.

Ffigur 1

Mae coeden benderfynu yn dangos Camau 1 i 4 sy'n nodi o dan ba amgylchiadau y gellir caniatáu awdurdodiad.

Addaswyd o Defra (2012) Adroddiad yr Adolygiad o Weithredu’r Cyfarwyddebau Adar Gwyllt a Chynefinoedd (Atodiad E) – Tybir at ddibenion y Nodyn Cyngor hwn nad yw’r prosiect yn uniongyrchol gysylltiedig â rheoli’r safle nac yn angenrheidiol i’w reoli.

HRA o fewn proses Deddf 2008

4. Cyn-ymgeisio (dim amserlen ragnodedig)

4.1 Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd yn mynnu bod rhaid i’r awdurdod cymwys (sef yr ysgrifennydd gwladol perthnasol yn yr achos hwn), cyn awdurdodi prosiect sy’n debygol o gael effaith arwyddocaol ar safle Ewropeaidd, ‘gynnal asesiad priodol o’r goblygiadau i’r safle hwnnw o safbwynt amcanion cadwraeth y safle hwnnw’(Rheoliad 63(1) Rheoliadau Cynefinoedd 2017 a Rheoliad 28(1) y Rheoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth). Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n gwneud cais am ganiatâd datblygu ar gyfer NSIP roi’r gyfryw wybodaeth i’r awdurdod cymwys a allai fod yn angenrheidiol yn rhesymol ‘at ddibenion yr asesiad’ neu ‘i’w alluogi i bennu p’un a oes angen asesiad priodol’ (Rheoliad 63(2) y Rheoliadau Cynefinoedd, Rheoliad 28(3) y Rheoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth, a’r Rheoliadau Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig 5(2)(g)). Mae’r wybodaeth hon fel arfer ar ffurf Adroddiad Dim Effeithiau Arwyddocaol (NSER) neu Adroddiad Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (Adroddiad HRA). Mae’r Arolygiaeth Gynllunio hefyd yn disgwyl i Ymgeiswyr gwblhau’r matricsau sydd wedi’u cynnwys yn Atodiadau 1 a 2 y Nodyn Cyngor hwn, fel y bo’n berthnasol, ac i’r rhain gael eu hatodi i’r NSER neu’r Adroddiad HRA, fel y bo’n briodol. Esbonnir diben y matricsau a sut i’w cwblhau yn yr adran ‘Matricsau’ isod.

4.2 Dylai Ymgeiswyr fod yn ymwybodol, os cyflwynir gwybodaeth annigonol gyda chais, efallai na fydd y cais yn cael ei dderbyn i’w archwilio. Felly, cynghorir Ymgeiswyr yn gryf i ddefnyddio’r broses ymgynghori cyn-ymgeisio i gael sicrwydd gan y cyrff cadwraeth natur statudol (SNCBs) a chyrff eraill fod yr holl effeithiau posibl wedi derbyn sylw’n briodol ac yn ddigon manwl cyn cyflwyno cais. Dylai tystiolaeth o ganlyniad yr ymgynghoriad hwn gael ei hatodi i’r NSER neu’r Adroddiad HRA, fel y bo’n briodol. Bydd hyn yn allweddol i’r broses benderfynu, oherwydd o dan y Rheoliadau Cynefinoedd, mae’n rhaid i’r awdurdod cymwys ymgynghori â’r SNCB(s) ac ystyried unrhyw gynrychiolaethau a wnaed ganddynt (Rheoliad 63(3) y Rheoliadau Cynefinoedd a Rheoliad 28(4) y Rheoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth).

4.3 Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn annog Ymgeiswyr yn gryf i gyflwyno Datganiadau Tir Cyffredin (SoCGs) llofnodedig gyda’u cais lle bynnag y bo’n bosibl er mwyn darparu tystiolaeth o feysydd y mae’r Ymgeisydd a’r SNCBs perthnasol yn cytuno ac yn anghytuno arnynt. Gallai SOCGs gynnwys datganiadau yn ymwneud â safleoedd Ewropeaidd a nodweddion cymwys sydd wedi’u cynnwys yn NSER neu Adroddiad HRA yr Ymgeisydd, data sylfaenol, y fethodoleg a ddefnyddiwyd, y cam a gyrhaeddwyd yn y broses HRA, a’r casgliadau y daethpwyd iddynt o ran effeithiau arwyddocaol tebygol a/neu effeithiau ar gyfanrwydd y safle, fel y bo’n briodol.

4.4 Mae’r dull a amlinellir yn y Nodyn Cyngor hwn yn elfen allweddol o baratoi cais, ac fe’i cynlluniwyd i helpu Ymgeiswyr i gyflwyno cais cryf, fel bod cyn lleied â phosibl o faterion heb eu datrys yn cyrraedd y broses archwilio. Cynghorir Ymgeiswyr yn gryf i ddefnyddio’r broses cynllun tystiolaeth. Sefydlwyd y broses hon i gynorthwyo Ymgeiswyr wrth gydymffurfio â’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd. Mae rhagor o wybodaeth am gynlluniau tystiolaeth ar gael ar y wefan GOV.UK neu drwy gysylltu â’r corff cadwraeth natur statudol.

4.5 Dylai cais DCO yr Ymgeisydd gynnwys y wybodaeth ganlynol (fel y bo’n berthnasol):

Cam 1 HRA Dylai cwmpas yr HRA gael ei ddiffinio a’i gyfiawnhau. Dylai’r HRA gynnwys sgrinio ar gyfer LSE (yn unigol neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill). Os na amlygir LSE ar gyfer yr holl safleoedd Ewropeaidd a ystyriwyd, mae’r adroddiad yn debygol o fod ar ffurf NSER (gweler isod) ac ni fydd angen cynnal camau 2-4 HRA.
Cam 2 HRA Os yw Cam 1 yn amlygu LSE ar gyfer unrhyw un o’r safleoedd Ewropeaidd a ystyriwyd, bydd angen asesu goblygiadau’r prosiect i amcanion cadwraeth y safle(oedd). Bydd hyn ar ffurf Adroddiad HRA, a dylai gynnwys digon o wybodaeth ar gyfer yr AA
Camau 3 a 4 HRA Os daw Cam 2 i’r casgliad y bydd y prosiect yn cael effaith niweidiol ar gyfanrwydd y safle(oedd), neu os yw’n amhendant, bydd angen ystyried dewisiadau amgen, mesurau cydbwyso a ph’un a ellir cyfiawnhau’’r prosiect trwy IROPI. Bydd hyn yn rhan o’r Adroddiad HRA hefyd.

4.6 Dylai NSER neu Adroddiad HRA yr Ymgeisydd ddarparu’r rhesymeg a’r dystiolaeth wrth wraidd ei gasgliadau. Mae hyn yn debygol o gael ei ategu gan y wybodaeth a gyflwynwyd yn y Datganiad Amgylcheddol (ES) ar gyfer y cais DCO. Mae’n rhaid i NSER neu Adroddiad HRA yr Ymgeisydd ddangos sut mae’r wybodaeth a gasglwyd wedi cael ei chymhwyso i’r HRA a’r profion sy’n berthnasol i’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd. Mae rhagor o gyngor ar gael yn yr adran ‘Y berthynas ag asesu effeithiau amgylcheddol (EIA)’ ar dudalen 17 y Nodyn Cyngor hwn.

4.7 Cyfeirir Ymgeiswyr at ‘Brosbectws ar gyfer Ymgeiswyr’ yr Arolygiaeth Gynllunio, sy’n esbonio’r gwasanaeth a gynigir gan yr Arolygiaeth Gynllunio i Ymgeiswyr yn ystod y cam cyn-ymgeisio, gan gynnwys adolygu dogfennau cais drafft. Felly, anogir Ymgeiswyr i gyflwyno NSER neu Adroddiadau HRA drafft ac unrhyw ddogfennau ategol, gan gynnwys matricsau drafft, i’r Arolygiaeth Gynllunio, cyn cyflwyno’r cais DCO, ar gyfer sylwadau. Os bydd digon o amser, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n gwneud sylwadau ar y NSER neu’r Adroddiad HRA drafft. Cynghorir Ymgeiswyr hefyd i gyflwyno dogfennau drafft i’r SNCBs perthnasol, er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw sylwadau y gallai’r cyrff hyn eu gwneud.

Cam 1 HRA: Sgrinio

4.8 Wrth ystyried p’un a allai prosiect gael effaith arwyddocaol ar safleoedd Ewropeaidd, dylai’r Ymgeisydd ddechrau ymgynghori â’r SNCBs perthnasol ac anstatudol cyn gynted â phosibl yn ystod y broses cynymgeisio. Er bod yr Ymgeisydd yn gyfrifol am wneud hyn yn ystod cam cyn-ymgeisio’r broses, bydd angen i’r awdurdod cymwys fod yn fodlon ei fod yn cytuno â chasgliadau’r Ymgeisydd maes o law, ar ôl ystyried safbwyntiau’r SNCBs.

4.9 Fel arfer, cyflwynir gwybodaeth sgrinio Cam 1 HRA yr Ymgeisydd yn yr NSER, a dylai gynnwys:

  • disgrifiad manwl o’r datblygiad, y prosesau, yr amseriadau, a’r dull gweithio a gynigir yn rhan o’r NSIP;
  • manylion y fethodoleg a ddefnyddiwyd i bennu pa safleoedd Ewropeaidd y dylid eu cynnwys yn yr asesiad. Dylid darparu diffiniad o gwmpas yr asesiad a chyfiawnhad ar ei gyfer;
  • cynllun a disgrifiad o’r safle(oedd) Ewropeaidd yr effeithir arnynt o bosibl, gan gynnwys disgrifiad o’r holl nodweddion cymwys (byddai’n ddefnyddiol cynnwys copi o daflen ddata’r safle);
  • arfarniad o’r effeithiau posibl a allai ddeillio o adeiladu a gweithredu’r prosiect (e.e. sŵn) a’r effaith arwyddocaol debygol ar y safle(oedd) Ewropeaidd a nodweddion cymwys (e.e. aflonyddu rhywogaethau adar);
  • amlinelliad a dehongliad o’r data sylfaenol a gasglwyd i lywio’r canfyddiadau;
  • arfarniad o effeithiau unrhyw gynlluniau neu brosiectau eraill a allai, ar y cyd â’r Datblygiad Arfaethedig, fod yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar y safle(oedd) Ewropeaidd. Dylai cwmpas yr arfarniad gael ei ddiffinio’n dda a’i gytuno gyda’r awdurdodau lleol a’r SNCBs;
  • gwerthusiad o’r posibilrwydd y bydd angen i’r cynllun gael caniatadau eraill a fydd yn golygu bod angen i LSE gael eu hystyried gan awdurdodau cymwys gwahanol (e.e. pan fydd angen Trwydded Forol ar wahân i ganiatâd datblygu). Gweler y ddogfen ganllaw a gynhyrchwyd gan Defra (2012) – Canllawiau Cyfarwyddeb Cynefinoedd ar gydlynu awdurdodau cymwys o dan y Rheoliadau Cynefinoedd;
  • datganiad sy’n nodi ble mae ffin DCO y prosiect yn gorgyffwrdd â gweinyddiaethau datganoledig neu Wladwriaethau’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) a map(iau), fel y bo’n briodol;
  • datganiad sy’n amlygu (gyda rhesymau) p’un a ystyrir bod effeithiau arwyddocaol yn debygol o ran safleoedd Ewropeaidd mewn gweinyddiaethau datganoledig neu o fewn Gwladwriaethau eraill yr EEA; a
  • thystiolaeth (megis copïau o ohebiaeth neu SoCG) o gytundeb rhwng yr Ymgeisydd a phob SNCB perthnasol (gan gynnwys y rhai hynny mewn gweinyddiaethau datganoledig) a/neu gyrff perthnasol mewn Gwladwriaethau eraill yr EEA ar gwmpas, methodoleg, dehongliad, a chasgliadau’r asesiad sgrinio.

4.10 Gallai’r Ymgeisydd ddymuno ystyried dynodiadau safle Ewropeaidd neu ddiwygiadau i nodweddion cymwys yn y dyfodol y gallai’r Datblygiad Arfaethedig effeithio arnynt. Byddai’r rhain, ar ôl i ymgynghoriad ddechrau, yn cael eu hystyried yn safle Ewropeaidd o dan bolisi. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn annog ymgysylltu a thrafod ag SNCBs yn gynnar i gytuno ar y dull a chytuno ar y safleoedd a’r nodweddion. Wrth wneud hynny, dylai Ymgeiswyr egluro statws safleoedd Ewropeaidd a nodweddion cymwys o’r fath yn eu hadroddiadau er mwyn dangos lle nad yw’r rhain yn ystyriaethau cyfreithiol neu bolisi ar hyn o bryd.

4.11 Dylai’r ymagwedd gyffredinol tuag at HRA drwy gydol y broses o baratoi’r cais DCO fod yn ailadroddol er mwyn sicrhau bod asesiad cadarn o LSE yn cael ei gynnal. Dylai’r ymgynghoriad ar LSE ddatblygu drwy gydol y cam cynymgeisio ac wrth i ganlyniadau tebygol y broses HRA ddod i’r amlwg. Fodd bynnag, er mwyn osgoi dryswch, dim ond un fersiwn derfynol o’r wybodaeth sgrinio Cam 1 y dylid ei chyflwyno. Os yw’r Ymgeisydd eisiau dangos sut y rhoddwyd ystyriaeth i sylwadau SNCBs yn ystod ymgynghoriadau, gellir cyflwyno fersiwn ‘olrhain newidiadau’ sy’n dangos sut mae’r fersiwn a gyflwynwyd wedi ystyried eu sylwadau.

4.12 Dylai’r ymagwedd gyffredinol tuag at HRA drwy gydol y broses o baratoi’r cais DCO fod yn ailadroddol er mwyn sicrhau bod asesiad cadarn o LSE yn cael ei gynnal. Dylai’r ymgynghoriad ar LSE ddatblygu drwy gydol y cam cynymgeisio ac wrth i ganlyniadau tebygol y broses HRA ddod i’r amlwg.

4.13 Yng Ngham 1, o ran pob safle Ewropeaidd a nodwedd gymwys, bydd angen i’r Ymgeisydd ddod i un o’r ddau gasgliad canlynol o’r wybodaeth sylfaenol a’r ymatebion ymgynghori a dderbyniwyd, sef naill ai:

  1. Nad oes LSE yn berthnasol i’r holl safle(oedd) Ewropeaidd a nodweddion cymwys a ystyriwyd, naill ai’n unigol neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill, ac felly nid oes angen asesiad ychwanegol (gweler yr adran ddiweddarach, sef ‘NSER’), NEU
  2. Bod LSE yn bodoli mewn perthynas ag unrhyw un o’r safle(oedd) Ewropeaidd a nodweddion cymwys a ystyriwyd, naill ai’n unigol neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill, sydd felly’n golygu bod angen i’r awdurdod cymwys gynnal AA (gweler yr adran ddiweddarach, sef ‘Cam 2 HRA: AA’).

4.14 Bydd angen i Ymgeiswyr roi ystyriaeth ofalus i osgoi a lleihau effeithiau trwy ddefnyddio mesurau lliniaru e.e. amseru gweithgareddau adeiladu penodol yn ofalus, diwygio ffin y cais am ganiatâd datblygu, neu addasu agweddau ar ddyluniad y prosiect. Dylai NSER neu Adroddiad HRA yr Ymgeisydd (fel y bo’n briodol) ddarparu manylion am y mesurau lliniaru a dangos sut mae’r rhain yn berthnasol i’r asesiad i ddod i gasgliad ar b’un a yw unrhyw LSE gweddilliol yn bodoli, naill ai’n unigol neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill. Dylai’r NSER neu’r Adroddiad HRA hefyd amlygu sut y bwriedir sicrhau’r mesurau lliniaru (Rheoliad 63(6) y Rheoliadau Cynefinoedd a Rheoliad 28(6) y Rheoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth) trwy gyfeirio at ofynion yn y DCO neu ddulliau eraill e.e. amodau i’r Drwydded Forol Dybiedig (DML). Yn ogystal, gall y Memorandwm Esboniadol i’r DCO esbonio’r berthynas rhwng yr NSER neu’r HRA a mesurau lliniaru a sicrhawyd yn y DCO.

4.15 Yn gyffredinol, os oes angen casglu llawer o wybodaeth a data i amlygu LSE y prosiect, gellid tybio bod y rhain yn bodoli ac y bydd angen AA (sy’n golygu na ellir cynhyrchu NSER).

Effeithiau cyfunol ar safle(oedd) Ewropeaidd

4.16 Mae’n rhaid i Ymgeiswyr benderfynu p’un a yw’r Datblygiad Arfaethedig, naill ai’n unigol neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill, yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar safle Ewropeaidd. Mae’n bosibl y bydd rhai prosiectau’n annhebygol o gael effeithiau arwyddocaol yn unigol, ond gallai eu heffeithiau ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill fod yn arwyddocaol. Gallai mesurau amddiffynnol y Gyfarwyddeb Cynefinoedd gael eu tanseilio’n ddifrifol pe na byddai’r cyfuniad o gynlluniau a phrosiectau’n cael ei asesu. Felly, mae’n rhaid i’r Ymgeisydd ystyried effeithiau’r prosiect yn unigol ac ar y cyd â chynlluniau a phrosiectau eraill, ac mae angen dangos tystiolaeth o hyn yn NSER neu Adroddiad HRA yr Ymgeisydd. Dylai Ymgeiswyr fod yn ymwybodol, os cyflwynir gwybodaeth annigonol gyda chais, efallai na fydd y cais yn cael ei dderbyn i’w archwilio (Rheoliad 5(2)(g) y Rheoliadau CFfGR).

4.17 Er nad oes diffiniad cyfreithiol o gynllun neu brosiect at ddibenion y Rheoliadau Cynefinoedd, mae’r Arolygiaeth Gynllunio’n cynghori y dylai’r canlynol gael eu hystyried (sylwer nad yw’r rhestr hon yn cynnwys popeth):

  • prosiectau sy’n cael eu hadeiladu;
  • cais/ceisiadau a ganiatawyd nad ydynt wedi’u gweithredu hyd yma;
  • cais/ceisiadau a gyflwynwyd na wnaed penderfyniad arnynt hyd yma;
  • pob gwrthodiad sy’n destun gweithdrefnau apêl na wnaed penderfyniad arnynt hyd yma;
  • prosiectau sy’n rhan o raglen brosiectau’r Seilwaith Cenedlaethol; a
  • phrosiectau a amlygwyd yn y cynllun datblygu perthnasol (a chynlluniau datblygu sy’n dod i’r amlwg – gan roi pwys priodol iddynt wrth iddynt symud yn agosach at gael eu mabwysiadu), gan gydnabod y bydd llawer o’r wybodaeth am unrhyw gynigion perthnasol yn gyfyngedig ac ystyried graddau’r ansicrwydd a allai fod yn bresennol.

Gallai Ymgeiswyr hefyd ddymuno adolygu’r categorïau prosiectau a awgrymir ym mharagraff 16 Cylchlythyr 06/2005 yr ODPM: Bioamrywiaeth a chadwraeth ddaearegol – rhwymedigaethau statudol a’u heffaith o fewn y system gynllunio.

Adroddiad dim effeithiau arwyddocaol (NSER)

4.18 Penderfynodd Llys Cyfiawnder Ewrop (ECJ) yn achos Waddenzee (Penderfyniad yr ECJ yn Waddenzee (gweler paragraff 1.3 am fanylion)) y dylai effeithiau’r prosiect ‘gael eu hamlygu yng ngoleuni’r wybodaeth wyddonol orau yn y maes’ (paragraff 54 Waddenzee (gweler paragraff 1.3)). Dylai canfyddiadau’r asesiad gael eu gwerthuso’n barhaus yn erbyn trothwyon LSE. Os penderfynir ‘nad oes effaith arwyddocaol (yn unigol neu ar y cyd)’ ar unrhyw adeg yn ystod y broses ac nid oes amheuaeth wyddonol resymol yn parhau (denderfyniad yr ECJ yn Waddenzee (gweler paragraff 1.3 am fanylion)), gellir terfynu’r asesiad. Yna, dylai’r Ymgeisydd ddarparu canlyniadau ei asesiad gyda’r cais DCO ar ffurf NSER, i fodloni gofynion Rheoliad 5(2)(g) y Rheoliadau CFfGR (mae’n rhaid amlygu unrhyw safleoedd Ewropeaidd y gallai’r Datblygiad Arfaethedig effeithio arnynt). Byddai’n ddefnyddiol pe byddai’r NSER yn cael ei groesgyfeirio hefyd ym Mlwch 15 y ffurflen gais a ddarperir gyda’r cais DCO.

4.19 Wyrth ystyried casgliad yr NSER, sef nad oes LSE sy’n golygu bod angen AA, bydd yr Awdurdod Archwilio (ExA) yn rhoi sylw i benderfyniad yr ECJ yn achos Waddenzee, lle y barnodd yr ECJ ‘y dylai awdurdodau cenedlaethol cymwys, gan ystyried casgliadau’r asesiad priodol…awdurdodi’r cyfryw weithgarwch dim ond os ydynt wedi sicrhau na fydd yn cael effaith niweidiol ar gyfanrwydd y safle hwnnw. Dyna’r achos lle nad oes amheuaeth wyddonol resymol yn parhau ynglŷn ag absenoldeb y cyfryw effeithiau’. Paragraff 59 dyfarniad yr ECJ yn Waddenzee (gweler paragraff 1.3)

4.20 Nid oes fformat rhagnodedig ar gyfer yr NSER nac adrodd ar ganlyniadau’r cam sgrinio. Fodd bynnag, disgwylir i Ymgeiswyr sicrhau bod yr NSER yn cynnwys y wybodaeth y gofynnir amdani yn y Nodyn Cyngor hwn a chwblhau’r matricsau sgrinio a roddir yn Atodiad 1 (gweler yr adran isod). Mae’n rhaid i’r NSER fod yn eglur, wedi’i ategu gan wybodaeth ddigonol, a darparu rhesymau argyhoeddiadol ynglŷn â pham mae’r Ymgeisydd wedi dod i’r casgliad nad oes LSE ac na fydd angen AA.

Canlyniadau sgrinio

4.21 Os yw’r Ymgeisydd wedi dod i’r casgliad bod y prosiect yn debygol o gael effaith sylweddol ar unrhyw safle Ewropeaidd, ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad â phrosiectau eraill, mae angen i’r Ymgeisydd ddarparu gwybodaeth yn unol â’r
HRA Cam 2: AA y broses (gweler isod).

Cynghorir Ymgeiswyr i ymgynghori â’r SNCBs perthnasol, a dylent gadarnhau yn eu cais, lle y bo’n briodol, bod yr SNCB yn cefnogi casgliadau’r cam sgrinio. Dylai tystiolaeth o’r ymgynghoriad hwn a safbwyntiau’r SNCB gael ei hatodi i’r NSER neu’r Adroddiad HRA, fel y bo’n briodol.

Cam 2 HRA: Asesiad Priodol

4.22 Pan na ellir diystyru LSE ar safle Ewropeaidd, naill ai o’r prosiect ei hun neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill, bydd angen i’r Ymgeisydd ystyried p’un a fydd yr effeithiau hynny’n cael effaith niweidiol ar gyfanrwydd y safle o ran ei amcanion cadwraeth (Rheoliad 63(5) y Rheoliadau Cynefinoedd a Rheoliad 28(5) y Rheoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth). Dylai’r amcanion cadwraeth gael eu cynnwys yng ngwybodaeth Cam 2 HRA: AA yr Ymgeisydd.

4.23 Dylai gwybodaeth Cam 2 HRA: AA yr Ymgeisydd hefyd gynnwys y wybodaeth sy’n ofynnol yn yr NSER (gweler Cam 1 HRA: Sgrinio). Dylai hyn ddatgan yn eglur pa safle(oedd) Ewropeaidd a nodweddion cymwys a fydd yn cael eu hystyried yng Ngham 2 HRA: AA a pha safle(oedd) Ewropeaidd a nodweddion cymwys sydd wedi cael eu sgrinio allan o asesiad ychwanegol.

4.24 Fel arfer, cyflwynir y wybodaeth Cam 2 HRA: AA yn Adroddiad HRA yr Ymgeisydd, a dylai gynnwys:

  • gwybodaeth sy’n amlygu nodweddion cymwys, amcanion cadwraeth a statws cadwraeth pob un o’r nodweddion cymwys y gellid effeithio arnynt;
  • tystiolaeth ynglŷn ag effeithiau’r prosiect ar gyfanrwydd safleoedd a warchodir;
  • disgrifiad o unrhyw fesurau lliniaru a gynigir a fydd yn osgoi neu’n lleihau’r gyfryw effaith, ac unrhyw effeithiau weddilliol sy’n parhau;
  • amserlen sy’n dangos amseriad mesurau lliniaru mewn perthynas â chynnydd y datblygiad;
  • croesgyfeiriadau i ofynion perthnasol y DCO, rhwymedigaethau caniatâd datblygu ac unrhyw ddulliau eraill a gynigir i sicrhau’r mesurau lliniaru hyn, a gwybodaeth sy’n amlygu unrhyw ffactorau a allai effeithio ar sicrwydd o ran eu gweithredu;
  • datganiad ynglŷn â pha effeithiau gweddilliol (os oes rhai) sy’n gyfystyr ag effaith niweidiol ar gyfanrwydd safleoedd Ewropeaidd yn unigol neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill, ac y mae angen eu cynnwys yn yr AA o’r herwydd; a
  • thystiolaeth i ddangos bod yr Ymgeisydd wedi ymgynghori’n llawn â’r SNCBs perthnasol ac wedi ystyried sylwadau a dderbyniwyd ganddynt yn ystod yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio.

4.25 Disgwylir i Adroddiad HRA yr Ymgeisydd hefyd gynnwys y matricsau cyfanrwydd ar gyfer yr holl safleoedd Ewropeaidd a ystyrir yng Ngham 2 HRA: AA, er mwyn crynhoi’r rhan hon o’r asesiad (gweler Atodiad 2 ac isod).

Asesiad Priodol Negyddol

4.26 Oni bai bod Adroddiad HRA yr Ymgeisydd yn dod i’r casgliad, nad oes amheuaeth wyddonol resymol yn parhau (Penderfyniad yr ECJ yn Waddenzee (gweler paragraff 1.3 am fanylion)) ‘a amlygwyd yng ngoleuni’r wybodaeth wyddonol orau yn y maes’ (paragraff 54 Waddenzee (gweler paragraff 1.3)), na fydd y prosiect yn cael effaith niweidiol ar gyfanrwydd unrhyw safle Ewropeaidd, yn unigol neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill, bydd angen i asesiad yr Ymgeisydd symud ymlaen i Gamau 3 a 4 y broses HRA.

Matricsau

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi datblygu cyfres o fatricsau i gynorthwyo’r ysgrifennydd gwladol perthnasol, sef yr awdurdod cymwys, i gyflawni gofynion y Gyfarwyddeb Cynefinoedd a’r Rheoliadau Cynefinoedd yng nghyd-destun proses Deddf 2008. Mae’r matricsau hyn yn arfer gorau sy’n datblygu a byddant yn parhau i gael eu diwygio yn sgil profiad. Mae’r matricsau’n cynnwys:

  • Matricsau Sgrinio (Cam 1 HRA: Sgrinio) – sy’n crynhoi’r ymarfer sgrinio ar gyfer LSE y prosiect ar y safleoedd Ewropeaidd a’r nodweddion cymwys a ystyrir (gweler Atodiad 1), a
  • Matricsau Cyfanrwydd (Cam 2 HRA: AA) – sy’n crynhoi’r effeithiau niweidiol posibl ar gyfanrwydd y safleoedd Ewropeaidd, lle yr amlygwyd LSE (gweler Atodiad 2).

Dylai Matricsau Sgrinio (a Matricsau Cyfanrwydd, os bydd angen) ar wahân gael eu darparu ar gyfer pob safle Ewropeaidd a ystyrir.

Diben y matricsau yw cyflwyno’r canlyniadau’n eglur ar bob cam o’r broses ar ffurf tabl safonol er budd pawb sy’n rhan o’r cais a’r Archwiliad. Gellir eu defnyddio gan Ymgeiswyr i sicrhau asesiad sgrinio cadarn, ac asesiad o effeithiau niweidiol ar gyfanrwydd y safle (fel y bo’n briodol), a gellir eu defnyddio i hwyluso ymgynghoriad ystyrlon yn ystod y cam cyn-ymgeisio a thu hwnt. Y nod yw lleihau’r gofynion a’r cymhlethdod yn ystod yr Archwiliad mewn perthynas â HRA, a chynorthwyo’r awdurdod cymwys â’i asesiad, ei ddyletswydd i ymgynghori, ac i wneud ei benderfyniad.

Ni ddylai’r matricsau ddyblygu’r wybodaeth a gynhwysir yn yr NSER neu’r Adroddiad HRA, ond dylent gynnwys croesgyfeiriadau penodol i dystiolaeth yng ngwybodaeth yr Ymgeisydd ar gyfer pob un o nodweddion cymwys y safleoedd Ewropeaidd a ystyrir. Wrth groesgyfeirio i dystiolaeth i ategu’r casgliadau, dylid nodi’n benodol y ddogfen, rhif y paragraff a rhif y dudalen. Lle na ddarparwyd croesgyfeiriadau penodol, os derbynnir y cais, bydd yr ExA yn gofyn i’r Ymgeisydd ddarparu matricsau manylach.

4.27 Dylai’r Ymgeisydd ddefnyddio ei NSER neu Adroddiad HRA i gwblhau’r matricsau. Pan fydd casgliad yr Ymgeisydd mewn perthynas â sgrinio neu gyfanrwydd nodwedd gymwys safle Ewropeaidd yn cael ei herio gan Barti â Buddiant (Diffinnir Partïon â Buddiant o dan a.102 Deddf 2008), neu os daw gwybodaeth berthnasol ychwanegol i law, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n paratoi matricsau diwygiedig ar gyfer y safleoedd hynny sy’n destun dadl gan ddefnyddio’r dystiolaeth a gasglwyd drwy gydol yr Archwiliad, hyd at ddyddiad penodol yn ystod yr Archwiliad. Bydd y matricsau diwygiedig yn ffurfio craidd yr Adroddiad ar Oblygiadau i Safleoedd Ewropeaidd (RIES). Diben y RIES yw crynhoi, cofnodi, a chyfeirio at y wybodaeth a’r dystiolaeth sydd ar gael i’r awdurdod cymwys at ddibenion cynnal ei HRA. Caiff y RIES ei ryddhau unwaith yn ystod y cyfnod archwilio er mwyn bodloni’r gofyniad i ymgynghori â’r corff cadwraeth natur perthnasol; Fel sy’n ofynnol gan reoliad 63(3). Rhoddir rhagor o fanylion am y RIES yn adran ‘Archwiliad’ y Nodyn Cyngor hwn.

4.28 Mae’n rhaid i fatricsau sgrinio Cam 1 HRA adlewyrchu’r ymarfer sgrinio a gynhaliwyd yn ei gyfanrwydd, gan ddangos y canlyniad sgrinio ar gyfer pob safle Ewropeaidd gan gynnwys pob nodwedd y mae’r safle(oedd) Ewropeaidd wedi’i ddynodi/wedi’u dynodi ar ei chyfer, hyd yn oed os yw’r ymarfer sgrinio wedi dod i’r casgliad nad oes LSE ar safleoedd Ewropeaidd neu nodweddion penodol. Gallai hyn gynnwys safleoedd Ewropeaidd a nodweddion a sgriniwyd allan ar ddechrau’r broses, er enghraifft, y rhai hynny nad oedd yr SNCBs yr ymgynghorwyd â nhw wedi sôn amdanynt fel rhai y gellid effeithio arnynt.

4.29 Cynghorir Ymgeiswyr yn gryf i fanteisio ar ymgynghori cyn-ymgeisio a defnyddio matricsau a gwblhawyd i amlygu a thrafod materion gydag ymgyngoreion, gan gynnwys yr SNCBs perthnasol, er mwyn ceisio lleihau nifer y materion a allai fod heb eu datrys fel arall ac y bydd angen eu harchwilio yn ystod yr Archwiliad.

4.30 Darperir templedi ar gyfer y matricsau yn Atodiad 1 (Cam 1 HRA: Matricsau Sgrinio) ac Atodiad 2 (Cam 2 HRA: Matricsau Cyfanrwydd). Fel y bo’n berthnasol, dylai matricsau gael eu hatodi i neu eu cynnwys yn NSER yr Ymgeisydd (matricsau sgrinio) neu ei Adroddiad HRA (y ddau fatrics), ond ni fyddant yn disodli NSER nac Adroddiad HRA yr Ymgeisydd. Mae’n rhaid i fatricsau gael eu cyflwyno ar ffurf Microsoft Word a PDF i ganiatáu ar gyfer eu golygu yn ystod yr Archwiliad fel yr esboniwyd uchod, ac i gyhoeddi’r matricsau fel y’u cyflwynwyd.

4.31 Os na chyflwynir y matricsau perthnasol gyda’r cais DCO, ac mewn digon o fanylder, bydd yr ExA yn gofyn amdanynt yn ystod rownd gyntaf cwestiynau’r Archwiliad (gweler yr adran ddiweddarach, sef ‘Archwiliad’).

Cam 3 HRA: Asesu dewisiadau amgen

4.32 Dylai asesiad yr Ymgeisydd amlygu ac asesu dewisiadau amgen a ystyriwyd. Dylid rhoi manylion yn Adroddiad HRA yr Ymgeisydd.

4.33 Gallai datrysiadau amgen gynnwys prosiect ar raddfa wahanol, mewn lleoliad gwahanol, a dewis peidio â chynnal y cynllun o gwbl – sef yr ymagwedd ‘gwneud dim’.

Cam 4 HRA: Ystyried IROPI

4.34 Lle y gellir dangos nad oes datrysiadau amgen i’r prosiect a fyddai’n cael llai o effaith neu’n osgoi effaith niweidiol ar gyfanrwydd y safle(oedd) Ewropeaidd, mae’n bosibl y gellid cynnal y prosiect o hyd os yw’r awdurdod cymwys yn fodlon bod rhaid i’r cynllun gael ei gynnal o safbwynt IROPI. Mewn achosion lle byddai’r datblygiad yn effeithio ar gynefinoedd naturiol neu rywogaethau blaenoriaethol, dylai’r cyfiawnhad IROPI gael ei ddarparu yn yr Adroddiad HRA ac mae’n rhaid iddo ymwneud naill ai ag:

  • iechyd dynol, diogelwch cyhoeddus neu ganlyniadau buddiol o’r pwys mwyaf i’r amgylchedd; neu
  • gan roi ystyriaeth briodol i unrhyw farn gan y Comisiwn Ewropeaidd, unrhyw resymau hanfodol eraill er budd cyhoeddus tra phwysig.

Mesurau cydbwyso

4.35 Os daw’r Ymgeisydd i’r casgliad bod effaith negyddol yng Ngham 2 HRA: AA, bydd rhaid cynnwys asesiad o fesurau cydbwyso yn yr Adroddiad HRA hefyd, a fydd yn ffurfio rhan o’r dogfennau cais DCO. Mae’n rhaid bod ymgynghoriad wedi cael ei gynnal gyda’r SNCBs a’r tirfeddianwyr perthnasol, ac anogir Ymgeiswyr yn gryf i gynnal yr ymgynghoriad hwn cyn gynted â phosibl yn ystod y cam cyn-ymgeisio.

Datganiad(au) Tir Cyffredin (SoCG)

4.36 Anogir yr Ymgeisydd yn gryf i geisio cytuno ar SoCGs gyda sefydliadau perthnasol, yn enwedig yr SNCBs, a chyflwyno’r rhain gyda’r cais DCO. Yn ogystal â chadarnhau i ba raddau y cytunir ar faterion perthnasol, dylai’r SoCG hefyd amlygu meysydd yr anghytunir arnynt o hyd. Bydd hyn yn cynorthwyo’r ExA i ganolbwyntio ar y prif faterion i’w hystyried yn yr Archwiliad, a lleihau’r meysydd dadleuol posibl.

4.37 Gallai’r SoCG ymdrin â materion perthnasol megis cwmpas yr asesiad (gan gynnwys yr asesiad ar y cyd), y wybodaeth sylfaenol a ddefnyddiwyd, y fethodoleg a ddefnyddiwyd i gasglu a dadansoddi data, sut y dehonglwyd gwybodaeth, a’r casgliadau a gyflwynwyd. Gallai’r SoCG hefyd fynd i’r afael â ph’un a yw’r mesurau lliniaru a/neu gydbwyso a gynigiwyd a gofynion DCO cysylltiedig wedi cael eu cytuno.

4.38 Os na ddarperir SoCG rhwng yr Ymgeisydd a’r SNCB perthnasol gyda’r cais DCO, ac mae’r prosiect yn cael ei dderbyn, dylai’r Ymgeisydd a’r SNCB fod yn ymwybodol bod yr ExA yn debygol o ofyn am un yn ystod y cam cyn-archwilio.

5. Derbyn y cais (28 niwrnod)

Cyflwyno’r cais DCO

5.1 Pan gyflwynir cais sy’n cynnwys NSER neu Adroddiad HRA yr Ymgeisydd, caiff ei adolygu yn erbyn y rhestr wirio Derbyn (gweler Nodyn Cyngor 6 – Paratoi a Chyflwyno Dogfennau Cais Atodiad 3 – Adran 55 Rhestr Wirio Derbyn Ceisiadau), er mwyn penderfynu a yw’r Ymgeisydd wedi cydymffurfio â’r gofynion gweithdrefnol i gyflwyno gwybodaeth ‘ddigonol’ i alluogi AA i gael ei gynnal os bydd angen, neu i alluogi’r awdurdod cymwys i benderfynu nad oes angen un (Adran 55 Deddf 2008 a Rheoliad 5(2)(g) y Rheoliadau CFfGR).

5.2 Wrth benderfynu p’un a ddarparwyd gwybodaeth ‘ddigonol’, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio, ar ran yr ysgrifennydd gwladol, yn ystyried y wybodaeth a ddarparwyd yn:

  • NSER neu Adroddiad HRA yr Ymgeisydd;
  • dogfennau eraill perthnasol sy’n rhan o’r cais, er enghraifft yr Adroddiad Ymgynghori; ac
  • unrhyw dystiolaeth a ddarparwyd yn NSER neu Adroddiad HRA yr Ymgeisydd sy’n dangos bod yr SNCBs perthnasol yn cytuno â chasgliad yr Ymgeisydd (neu’n anghytuno ag ef), megis SoCGs llofnodedig sy’n cofnodi meysydd y cytunir ac yr anghytunir arnynt.

5.3 Nid yw’r Arolygiaeth Gynllunio yn gallu gofyn am wybodaeth ychwanegol i ategu’r cais DCO yn ystod y cam Derbyn.

5.4 Dylai Ymgeiswyr fod yn ymwybodol bod perygl mawr na fydd y cais am ganiatâd datblygu’n cael ei dderbyn i’w Archwilio os deuir i’r casgliad na ddarparwyd gwybodaeth ddigonol i gynnal AA, os bydd angen un.

5.5 Nid yw derbyn prosiect yn atal yr ExA rhag gofyn am wybodaeth ychwanegol ynglŷn â materion cynefinoedd yn ystod yr Archwiliad, yn enwedig lle nad yw SNCBs yn fodlon â’r wybodaeth a ddarparwyd.

6. Cyn-archwiliad (oddeutu tri mis)

6.1 Mae’r cyfnod cyn-archwilio yn rhoi cyfle i’r ExA gynnal asesiad manylach o ganfyddiadau’r Ymgeisydd a ddarparwyd yn ei NSER neu Adroddiad HRA, ac i benderfynu a oes angen gwybodaeth ychwanegol.

6.2 Cynhelir cyfarfod rhagarweiniol i glywed safbwyntiau ynglŷn â sut y dylid archwilio’r cais. Bydd unrhyw un sydd wedi cyflwyno cynrychiolaeth berthnasol (fel y’i diffinnir yn adran 102 (4) Deddf 2008) yn cael ei wahodd i gyflwyno cynrychiolaethau i’r ExA ynglŷn â’r weithdrefn archwilio cyn y cyfarfod rhagarweiniol. Fe’u gwahoddir i’r cyfarfod rhagarweiniol hefyd, ynghyd ag SNCBs ac ymgyngoreion statudol eraill.

6.3 Argymhellir y dylai unrhyw unigolion sy’n bwriadu mynychu’r Cyfarfod Rhagarweiniol roi gwybod i’r ExA am unrhyw gynrychiolaethau ynglŷn â sut y dylai materion HRA gael eu harchwilio, trwy Gynrychiolaethau Perthnasol neu yn y Cyfarfod Rhagarweiniol, fel bod yr ExA yn gallu penderfynu sut i strwythuro’r Archwiliad ac ystyried a fydd angen unrhyw wybodaeth ysgrifenedig ychwanegol yn ystod yr Archwiliad o bosibl.

6.4 Bydd yr ExA yn defnyddio’r wybodaeth a ddarparwyd yng Ngham 1 HRA: Sgrinio a Cham 2 HRA: AA a gyflwynwyd gyda’r cais i gynnal asesiad cychwynnol o’r prif faterion, sef p’un a fyddai effeithiau niweidiol ar gyfanrwydd unrhyw safleoedd Ewropeaidd ac, os felly, pa fath o effeithiau. Gall SoCGs a gyflwynwyd chwarae rhan bwysig hefyd wrth gynnal asesiad cychwynnol o’r prif faterion. Bydd yr asesiad cychwynnol yn cael ei gynnal cyn y Cyfarfod Rhagarweiniol a bydd yn helpu i lywio strwythur yr Archwiliad.

6.5 Bydd y penderfyniad gweithdrefnol (a wneir gan yr ExA yn ystod neu ar ôl y Cyfarfod Rhagarweiniol) yn amlinellu cwestiynau cychwynnol yr ExA ac amserlen ar gyfer derbyn unrhyw wybodaeth ysgrifenedig ychwanegol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol i ategu NSER neu HRA yr Ymgeisydd. Os nad yw’r matricsau perthnasol eisoes wedi cael eu cyflwyno, bydd yr ExA yn gofyn i’r Ymgeisydd eu darparu yn ystod y cam hwn.

7. Archwiliad (hyd at 6 mis)

7.1 Mae’r Archwiliad yn rhoi cyfle i ymgynghori’n ffurfiol â’r SNCBs er mwyn llywio HRA yr ysgrifennydd gwladol. Bydd yr ExA yn gosod amserlen ar gyfer ceisio cynrychiolaethau ychwanegol ganddynt os bydd angen yn y penderfyniad gweithdrefnol, ac yn ystyried eu cynrychiolaethau wrth wneud argymhellion i’r ysgrifennydd gwladol ar y cais DCO (Rheolau Cynllunio Seilwaith (Gweithdrefn Archwilio) 2010 (fel y’u diwygiwyd)). Yr ExA sy’n rheoli amserlen yr Archwiliad a’r dull o’i gynnal (o dan Adran 100(2) Deddf 2008). Amlinellir y weithdrefn y bydd ExAs yn disgwyl ei dilyn fel arfer yn yr adran hon o’r Nodyn Cyngor.

7.2 Bydd yr ExA yn ceisio safbwyntiau’n benodol ar faterion yn ymwneud â dyletswydd yr awdurdod cymwys o dan y Rheoliadau Cynefinoedd yn rhan o’r Archwiliad, os ystyrir bod hynny’n briodol. Bydd y ffordd y cesglir safbwyntiau yn rhan o’r Archwiliad yn cael ei hamlinellu ym mhenderfyniad gweithdrefnol yr ExA, ac fe allai fod ar ffurf gofyn am Gynrychiolaethau Ysgrifenedig a/neu gynnal Gwrandawiad, os ystyrir bod hynny’n angenrheidiol. Gallai’r ExA, lle y bo’r angen, ofyn i’r ysgrifennydd gwladol (o dan Adran 100(2) Deddf 2008) benodi aseswr i ddarparu arbenigedd technegol wrth asesu’r dystiolaeth.

Angen gwybodaeth ychwanegol

7.3 Ar unrhyw adeg yn ystod yr Archwiliad, gallai’r ExA ofyn i’r Ymgeisydd ddarparu gwybodaeth ychwanegol. Gallai hyn fod yn wybodaeth amgylcheddol ychwanegol, neu eglurhad pellach ynglŷn â’r prosiect, gan gynnwys:

  • gwybodaeth newydd o arolygon a gynhaliwyd neu y mae angen eu cynnal; neu
  • ddehongli neu ddadansoddi data sydd eisoes yn bodoli.

7.4 Os na ellir darparu gwybodaeth, sy’n ofynnol yn rhesymol ym marn yr ExA er mwyn i’r awdurdod cymwys gyflawni ei ddyletswyddau, ac ymgynghori arni o fewn y cyfnod Archwilio, bydd rhaid i’r ExA ystyried naill ai argymell y gallai fod angen i’r ysgrifennydd gwladol ystyried gwrthod rhoi caniatâd, neu geisio estyniad i’r amserlen.

7.5 Os yw’r ExA o’r farn bod y wybodaeth yn angenrheidiol er mwyn i’r ES a gyflwynwyd gydymffurfio â’r gofynion ar gyfer ES a gynhwysir yn y rheoliadau perthnasol , rhaid i’r ExA ohirio ystyried y cais hyd nes y darperir y wybodaeth (bydd y rheoliadau perthnasol yn dibynnu ar yr amgylchiadau a ph’un a yw darpariaethau trosiannol yn berthnasol. Yn unol â hynny, y rheoliadau perthnasol fydd naill ai Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (EIA) 2009 (fel y’u diwygiwyd) neu Reoliadau Cynllunio Seilwaith (EIA) 2017. Gweler rheoliad 37 Rheoliadau EIA 2017 am ddarpariaethau trosianno) (i gael rhagor o wybodaeth, gweler ‘Y berthynas ag asesu effeithiau amgylcheddol (EIA)’, isod) (Rheoliad 17(1)(c) Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (EIA) 2009 a rheoliad 20(1)(c) Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (EIA) 2017). Fodd bynnag, dylai Ymgeiswyr gofio na fydd gohirio’r Archwiliad yn effeithio ar yr amserlen hwyaf gyffredinol, sef chwe mis, a ganiateir i’r ExA gwblhau’r Archwiliad o’r cais (Adran 98(1) Deddf 2008). Mae hyn yn pwysleisio pa mor bwysig ydyw i’r holl bartïon geisio a chyrraedd cytundeb yn ystod y cam Cyn-ymgeisio bod gwybodaeth ddigonol wedi’i darparu yn nogfennau’r cais, er mwyn lleihau’r perygl y bydd yr ExA yn gofyn am wybodaeth ychwanegol, na all yr Ymgeisydd ei darparu o fewn y cyfnod archwilio chwe mis statudol.

Gwrandawiadau

7.6 Oni bai bod yr ExA o’r farn bod angen cynnal gwrandawiad, bydd materion HRA fel arfer yn cael eu harchwilio trwy ystyried tystiolaeth ysgrifenedig. I gael rhagor o wybodaeth am y broses archwilio, gweler Nodyn Cyngor 8.5 (Cymryd Rhan yn yr Archwiliad).

Diweddaru Matricsau a pharatoi’r RIES

7.7 Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio, ar ran yr ExA, yn diwygio a diweddaru’r matricsau cychwynnol a ddarparwyd gyda’r dogfennau cais DCO gan yr Ymgeisydd, lle yr heriwyd casgliadau’r Ymgeisydd yn ystod yr Archwiliad. Bydd hyn yn cael ei wneud trwy gynnwys y dystiolaeth a gasglwyd drwy gydol yr Archwiliad hyd at ddyddiad penodol yn yr amserlen. Bydd trywydd archwilio eglur ar gael i esbonio’r sail ar gyfer unrhyw ddiwygiadau, ac i ddangos pa faterion y daeth Partïon â Buddiant i gytundeb arnynt yn rhan o’r Archwiliad. Bydd yr holl dystiolaeth y cyfeirir ati yn y matricsau diwygiedig ar gael i’r cyhoedd.

7.8 Bydd y matricsau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi mewn RIES gan yr Arolygiaeth Gynllunio. Diben y RIES yw crynhoi, cofnodi, a chyfeirio’r awdurdod cymwys at yr holl wybodaeth a thystiolaeth sydd ar gael iddo at ddibenion cynnal ei HRA. Bydd y RIES yn esbonio’r sefyllfa o ran HRA yr Ymgeisydd, SNCBs, a rhanddeiliaid eraill perthnasol, yn amlygu’r materion y canolbwyntiwyd arnynt yn yr Archwiliad, ac yn tynnu sylw at unrhyw faterion sy’n destun dadl neu ansicrwydd o hyd. Gallai hefyd gyflawni dyletswyddau statudol ar gyfer ymgynghori o dan reoliad 63(3). Bydd y RIES yn dangos p’un a yw achos dros Ddewisiadau Amgen ac IROPI wedi cael eu trafod yn yr Archwiliad, ond ni fydd yn ystyried hyn yn fanwl. Bydd yr agweddau hyn yn cael eu hystyried yn Adroddiad Argymhelliad yr ExA.

7.9 Fel arfer, bydd darpariaeth ar gyfer cyhoeddi RIES yn cael ei chynnwys yn amserlen yr Archwiliad, tua diwedd y cyfnod archwilio. Gwahoddir Partïon â Buddiant, gan gynnwys yr Ymgeisydd ac SNCBs perthnasol, i wneud sylwadau ar y RIES. Bydd yr ExA yn penderfynu ar yr amserlen ar gyfer ymgynghori ar y RIES, a gellir ei thrafod yn ystod y Cyfarfod Rhagarweiniol. Fel arfer, bydd yr ExA yn caniatáu 21 diwrnod o leiaf o fewn yr amserlen i alluogi Partïon â Buddiant i adolygu’r RIES ac ymateb i’r ymgynghoriad hwn.

7.10 Bydd unrhyw sylwadau a dderbyniwyd yn cael eu hystyried yn Adroddiad Argymhelliad yr ExA (gweler isod), ond bydd y RIES yn cael ei gyhoeddi unwaith yn unig ac ni fydd yn cael ei ddiwygio yn dilyn yr ymgynghoriad.

8. Argymhelliad (tri mis)

8.1 Bydd y RIES (fel y’i cyhoeddwyd yn ystod yr Archwiliad), yr ymatebion ymgynghori iddo, ymatebion i gwestiynau’r ExA, a’r holl faterion sy’n ymwneud â materion HRA yn ffurfio rhan o’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer adroddiad ac argymhelliad yr ExA i’r ysgrifennydd gwladol perthnasol (yr awdurdod cymwys).

8.2 Bydd adroddiad yr ExA yn mynd i’r afael ag LSE y prosiect ar unrhyw safle(oedd) Ewropeaidd a nodweddion cymwys ac, os yw’n briodol, bydd hefyd yn ystyried p’un a fydd y prosiect yn cael effaith niweidiol ar gyfanrwydd safle(oedd) Ewropeaidd. Bydd adroddiad yr ExA yn ystyried y RIES, a’r sylwadau a dderbyniwyd gan Bartïon â Buddiant, gan gynnwys SNCBs. Lle y bo’r angen, bydd adroddiad yr ExA yn asesu tystiolaeth o’r Archwiliad yn ymwneud â’r achos dros ddim dewisiadau amgen, IROPI a mesurau cydbwyso.

9. Penderfyniad yr Awdurdod Cymwys (tri mis)

9.1 Bydd yr awdurdod cymwys yn ystyried holl dystiolaeth yr Archwiliad cyn penderfynu ar y cais DCO. Mae’r tabl ar y dudalen nesaf yn crynhoi’r cysylltiad rhwng y broses NSIP a’r broses HRA (fel y’i dangosir yn Ffigur 1).

10. Crynodeb

Camau proses y Ddeddf Gynllunio Camau HRA Gweithgarwch Partïon sy’n gyfrifol
Cyn-ymgeisio

(dim amserlen benodol)

Cam 1:

Sgrinio

Darparu gwybodaeth i ategu Camau 2-4

Ymgynghori ar gynlluniau tystiolaeth a gweithio gydag SNCB(s).

Bydd yr Ymgeisydd yn cynnal HRA ac yn dod i gasgliad ynglŷn ag LSE y prosiect ar unrhyw safle(oedd) Ewropeaidd, ac yn ymgynghori ag ymgyngoreion statudol.

Os disgwylir AA negyddol, dylai’r Ymgeisydd baratoi asesiad ‘dim dewisiadau amgen’, datganiad ynghylch IROPI, a manylion mesurau cydbwyso mewn ymgynghoriad ag SNCBs a thirfeddianwyr.

Bydd yr Ymgeisydd yn paratoi ac ymgynghori ar Fatricsau Sgrinio ac, os yw’n berthnasol, Matricsau Cyfanrwydd.

Bydd yr Ymgeisydd yn paratoi NSER neu Adroddiad HRA drafft a’i gyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio ac SNCBs ar gyfer sylwadau.

Yr Ymgeisydd

Ymgyngoreion gan gynnwys SNCBs

Yr Arolygiaeth Gynllunio

Cais/Derbyn

(28 niwrnod)

Bydd yr ysgrifennydd gwladol yn penderfynu p’un a yw’r Ymgeisydd wedi darparu digon o wybodaeth a ph’un a yw’r cais yn bodloni’r safonau sy’n ofynnol i gael ei dderbyn yn ffurfiol i’w Archwilio ai peidio. Bydd Ymgeiswyr yn cofnodi’r wybodaeth mewn NSER neu Adroddiad HRA. Yr Arolygiaeth Gynllunio ar ran yr ysgrifennydd gwladol
Cyn-archwiliad

(oddeutu tri mis)

Cam 1 a
2:
Ystyried gwybodaeth sgrinio a’r angen am AA
Bydd yr ExA yn cynnal asesiad cychwynnol o’r prif faterion ar sail y wybodaeth yn y cais DCO, gan gynnwys matricsau sy’n ofynnol gan y cyngor hwn.

Bydd yr Ymgeisydd yn hysbysebu’r cais a dderbyniwyd ac yn gwahodd partïon â buddiant, gan gynnwys SNCBs ac eraill, i gyflwyno cynrychiolaethau erbyn terfyn amser penodol.

ExA

Yr Ymgeisydd

Partïon â Buddiant gan gynnwys SNCBs

Archwiliad

(hyd at 6 mis)

Cam 1 a
2:
Ystyried tystiolaeth ar gyfer sgrinio a’r angen am AA (os yw’n berthnasol)
Bydd penderfyniad gweithdrefnol yn amlinellu sut y bydd y materion HRA yn cael eu harchwilio.

Bydd yr ExA yn gofyn am fatricsau perthnasol os na chawsant eu darparu.

Bydd yr ExA yn archwilio’r LSE, a ph’un a ellir/na ellir diystyru effeithiau niweidiol ar gyfanrwydd y safle Ewropeaidd. Gallai’r ExA ofyn i unrhyw bartïon â buddiant am wybodaeth ychwanegol.

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio, ar ran yr ExA, yn diweddaru’r matricsau HRA fel y bo’r angen ar sail y wybodaeth a gasglwyd yn ystod yr archwiliad, ac yn rhyddhau’r rhain o fewn RIES ar gyfer ymgynghori.

ExA

Yr Ymgeisydd

Partïon â Buddiant gan gynnwys SNCBs

Yr Arolygiaeth Gynllunio

Bydd Camau 3 a 4 yn berthnasol dim ond yn achos AA negyddol
Archwiliad Cam 3:

Asesu dewisiadau amgen

Bydd yr ExA yn archwilio’r dystiolaeth (gan gynnwys asesiad ‘dim dewisiadau amgen’ a gyflwynwyd) i weld a oes datrysiad(au) amgen yn bodoli a fyddai’n osgoi effeithiau niweidiol ar gyfanrwydd y safle(oedd) Ewropeaidd. ExA Yr Ymgeisydd

Partïon â Buddiant gan gynnwys SNCBs

Archwiliad Cam 4:

IROPI

Mesurau cydbwyso

Bydd yr ExA yn archwilio unrhyw achos dros IROPI a gyflwynwyd.
Bydd yr ExA yn archwilio unrhyw fesurau cydbwyso a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd â’r SNCBs er mwyn penderfynu a yw’r rhain yn briodol ac yn ddigonol.
ExA Yr Ymgeisydd

Partïon â Buddiant gan gynnwys SNCBs

Argymhelliad

(tri mis)

Pob un Bydd yr ExA yn cyflwyno adroddiad ac argymhelliad i’r ysgrifennydd gwladol, sef yr awdurdod cymwys. ExA
Penderfyniad

(tri mis)

Pob un Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cynnal unrhyw AA sy’n angenrheidiol, yn ystyried dewisiadau amgen, mesurau cydbwyso ac IROPI, ac yn dod i benderfyniad. Yr ysgrifennydd gwladol

11. Ystyriaethau Eraill

Y berthynas ag asesu effeithiau amgylcheddol (EIA)

11.1 Mae’n debygol y bydd y mwyafrif o gynigion Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol angen Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) yn ogystal ag Asesu Effeithiau Amgylcheddol (EIA). Er bod ARhC ac AEA yn elfennau gwahanol ac annhebyg o’r broses Gorchymyn Caniatâd Datblygu, mae’r ddwy yn rhan hanfodol o’r broses. Bydd yr EIA yn asesu effeithiau ar safleoedd yn Ewrop a bydd yn cynnwys asesiad o effeithiau ar blanhigion ac nifeiliaid (fel y’u diffinnir yn y Rheoliadau EIA perthnasol (Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effaith Amgylcheddol) 2009 (fel y’i diwygiwyd), Atodlen 4, Rhan 1, paragraff 19 neu Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017, Atodlen 4, paragraff 4)). Mae’r wybodaeth hon yn debygol o lywio HRA yr Ymgeisydd. Mae Rheoliadau EIA 2017 (fel y’u diwygiwyd) yn mynnu bod yr ysgrifennydd gwladol neu awdurdod perthnasol, lle y bo’n briodol, yn cydlynu HRA ac EIA (Rheoliad 26 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (EIA) 2017). Mae’r UE wedi paratoi canllawiau ar sut y dylai hyn gael ei wneud (Dogfen ganllaw’r Comisiwn ar symleiddio asesiadau amgylcheddol a gynhelir o dan Erthygl 2(3) y Gyfarwyddeb EIA (26/07/2016)). Gan fod y DU wedi dewis gweithdrefn gydlynol yn hytrach na gweithdrefn ar y cyd, nid oes rhaid cyflwyno’r EIA a’r HRA mewn un ddogfen. Pe byddai’r Ymgeisydd yn dewis cyfuno’r wybodaeth mewn un ddogfen, dylai wneud yn siwr bod y wybodaeth sy’n berthnasol i’r HRA a’i gasgliadau yn amlwg.

11.2 Mae’r angen i wahaniaethu rhwng casgliadau’r prosesau EIA a HRA yn deillio o ofynion gwahanol y Rheoliadau EIA a’r Rheoliadau Cynefinoedd. Er bod canlyniad yr EIA fel y’i hadroddir yn yr ES yn amlygu effeithiau amgylcheddol arwyddocaol tebygol o’r Datblygiad Arfaethedig, nid yw’r rhain yn atal y penderfynwr rhag caniatáu awdurdodiad, ond gallai effeithiau arwyddocaol a amlygir trwy HRA wneud hynny.

Cydlynu caniatadau cyfochrog ac AA arall

11.3 Mae’n debygol y bydd angen i NSIPs, o ganlyniad i’w graddfa a’u cymhlethdod, gael trwyddedau ar wahân o dan gyfundrefnau rheoleiddiol eraill (Cyfeiriwch at Ganllawiau: Defra (2012) Y Gyfarwyddeb Cynefinoedd – Canllawiau ar gydlynu awdurdodau cymwys o dan y Rheoliadau Cynefinoedd (ar gael yn: https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/ attachment_data/file/69580/pb13809-habitats-guidance.pdf ) THE LINKED GUIDANCE HAS BEEN WITHDRAWN). Gallai gweithgareddau y mae angen caniatâd ar eu cyfer nad ydynt wedi’u cynnwys, ac na ellir eu cynnwys, mewn cais am ganiatâd datblygu o dan Ddeddf 2008, gael effaith arwyddocaol ar safle Ewropeaidd hefyd a golygu bod angen cynnal AA gan benderfynwr gwahanol (awdurdod cymwys) o dan gyfundrefnau rheoleiddiol eraill cyn y gellir ei awdurdodi.

11.4 Anogir Ymgeiswyr i ymgynghori ag awdurdodau cymwys eraill ynglŷn â faint o wybodaeth y bydd ei hangen ar yr awdurdodau cymwys hynny er mwyn cynnal eu AA, os yw’n ofynnol. Dylai Ymgeiswyr gadarnhau gyda’r awdurdodau cymwys hynny p’un a ydynt yn debygol o ddymuno defnyddio rhesymeg neu gasgliadau’r AA a gynhaliwyd gan yr awdurdod cymwys (yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol) o dan broses Deddf 2008.

11.5 Dylai Adroddiad HRA yr Ymgeisydd gadarnhau bod unrhyw LSE o’r Datblygiad Arfaethedig, a allai gael ei rheoleiddio gan awdurdodau cymwys eraill, wedi cael ei hystyried yn briodol yn HRA yr Ymgeisydd ar gyfer y cais DCO (Rheoliad 67 y Rheoliadau Cynefinoedd).

11.6 Os bydd yr Ymgeisydd yn penderfynu gwneud cais am ganiatadau o dan gyfundrefnau rheoleiddiol eraill sy’n golygu bod angen AA, neu os bydd angen iddo wneud hynny, dylai’r cais gynnwys gwybodaeth am ba mor debygol yw’r drwydded arall o gael ei hawdurdodi. Dylai’r Ymgeisydd hefyd ystyried amseriad penderfyniad yr awdurdod cymwys perthnasol, a’r effaith y gallai hyn ei chael ar archwilio’r cais DCO a pharatoi ei AA. Argymhellir bod Ymgeiswyr yn cyflwyno sylwadau/safbwyntiau perthnasol awdurdodau cymwys eraill a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio gyda’r cais.

Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop (EPS) ac Adar Gwyllt

11.7 Nid yw cael DCO ar ôl bodloni’r gofynion ar gyfer HRA yn dileu’r angen am unrhyw drwydded a allai fod yn ofynnol hefyd e.e. ar gyfer effeithiau ar EPS neu adar gwyllt.

Telerau a thalfyriadau a ddefnyddiwyd yn y Nodyn Cyngor hwn

AA Asesiad Priodol
APFP Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009 (fel y’u diwygiwyd)
Awdurdod Cymwys Yn achos NSIPs, yr awdurdod cymwys, sef y sawl sy’n penderfynu, yw’r ysgrifennydd gwladol perthnasol
Confensiwn Ramsar Y Confensiwn ar Wlyptiroedd o Bwys Rhyngwladol, yn enwedig fel Cynefin Adar Dŵr, fel y’i diwygiwyd ym 1982 a 1987
cSAC Ardal Cadwraeth Arbennig ymgeisiol
Cyfarwyddeb Adar Gwyllt Cyfarwyddeb 2009/147/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar warchod adar gwyllt (fel y’i diwygiwyd)
Cyfarwyddeb Cynefinoedd Cyfarwyddeb 92/43/EEC y Cyngor dyddiedig 21 Mai 1992 ar warchod cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt (fel y’i diwygiwyd).
DCO Gorchymyn Caniatâd Datblygu
EIA Asesu Effeithiau Amgylcheddol
ES Datganiad Amgylcheddol
ExA Awdurdod Archwilio
HRA Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
IROPI Rhesymau Hanfodol er Budd Cyhoeddus Tra Phwysig
LSE Effaith Arwyddocaol Debygol
Matricsau Cyfanrwydd Dull ar gyfer crynhoi’r cam AA (Cam 2 HRA) yng ngwybodaeth y cais. Dylid cwblhau matrics ar wahân ar gyfer pob safle Ewropeaidd a ystyrir o fewn yr AA.
Matricsau Sgrinio Dull ar gyfer crynhoi’r cam sgrinio (Cam 1 HRA) yng ngwybodaeth y cais. Dylid cwblhau matrics ar wahân ar gyfer pob safle Ewropeaidd a ystyrir yn ystod y cam sgrinio
Nodweddion cymwys Y nodweddion y mae’r safle Ewropeaidd wedi’i ddynodi ar eu cyfer ac y mae’n rhaid eu gwarchod a’u rheoli ar gyfer cadwraeth.
NPPF Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol
NSER Adroddiad Dim Effeithiau Arwyddocaol
NSIP Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol
pSPA Ardal Gwarchodaeth Arbennig potensial
RIES Adroddiad ar y Goblygiadau i Safleoedd Ewropeaidd
Rheoliadau Cynefinoedd Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017
SAC Ardal Cadwraeth Arbennig
Safle Ewropeaidd/ safle morol Ewropeaidd (yn unol â’r diffiniad statudol yn y Rheoliadau Cynefinoedd) Safleoedd Natura 2000 (SCIs, SACs, SACs, SPAs) ac;
Yn Lloegr:

  • pSPAs ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig posibl; a
  • safleoedd Ramsar rhestredig neu arfaethedig; a
  • safleoedd a amlygwyd, neu sy’n ofynnol, fel mesurau cydbwyso ar gyfer effeithiau niweidiol ar safleoedd Natura 2000, pSPAs, SACs posibl, a safleoedd Ramsar rhestredig neu arfaethedig

Yng Nghymru:

  • pSPAs, a
  • safleoedd RAMSAR rhestredig
SCI Safle o Bwys i’r Gymuned
SNCB Corff Cadwraeth Natur Statudol

Mae SNCBs yn cynnwys Natural England (ar gyfer safleoedd Ewropeaidd sydd wedi’u lleoli yn Lloegr), Cyfoeth Naturiol Cymru (ar gyfer safleoedd Ewropeaidd sydd wedi’u lleoli yng Nghymru), y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) (ar gyfer safleoedd Ewropeaidd sydd wedi’u lleoli y tu hwnt i 12 môr-filltir), Treftadaeth Naturiol yr Alban (ar gyfer safleoedd Ewropeaidd sydd wedi’u lleoli yn yr Alban) ac Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon (ar gyfer safleoedd Ewropeaidd sydd wedi’u lleoli yng Ngogledd Iwerddon)

Yn unol ag awdurdodiad a wnaed ar 9 Rhagfyr 2013 gan y JNCC o dan baragraff 17(c) Atodlen 4 Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006, mae Gogledd Iwerddon wedi’i awdurdodi i arfer swyddogaethau’r JNCC fel ymgynghorai statudol mewn perthynas â cheisiadau am osodiadau ynni adnewyddadwy alltraeth mewn dyfroedd môr mawr (0-200nm) gerllaw Lloegr.

SoCC Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned

Cynghorir yr Ymgeisydd i ystyried cyngor SNCBs ac awdurdodau cynllunio lleol ynglŷn â sut i gynnwys ymgynghoriad HRA yn y SoCC cyhoeddedig (y mae’n rhaid i’r Ymgeisydd ei baratoi yn ôl Adran 47 Deddf 2008)

SoCG Datganiad Tir Cyffredin

Cynghorir Ymgeiswyr i ddefnyddio SoCG i amlygu materion y cytunwyd arnynt gyda’r cyrff cadwraeth natur ac i dynnu sylw at faterion yr anghytunir arnynt o hyd. Gellir defnyddio’r Matricsau Sgrinio a Chyfanrwydd i wneud hyn hefyd. Os derbynnir y cais, bydd SoCGs yn helpu’r ExA i asesu’r materion a phenderfynu sut i gynnal yr Archwiliad

SPA Ardal Gwarchodaeth Arbennig
TAN Nodyn Cyngor Technegol
Ymgeisydd Y sawl sy’n gwneud cais am ganiatâd datblygu. Mae’n gyfrifol am wneud y gwaith
Ysgrifennydd gwladol Ysgrifennydd gwladol

Rôl yr Ysgrifennydd Gwladol fel awdurdod cymwys yw penderfynu a oes unrhyw Effaith Arwyddocaol Debygol a chynnal yr Asesiad Priodol, os bydd angen, cyn y gwneir penderfyniad. Hefyd, mae’n ofynnol iddynt ymgynghori â’r Cyrff Cadwraeth Natur Statudol perthnasol (a’r cyhoedd, os ystyrir hynny’n briodol) cyn penderfynu p’un ai i awdurdodi’r Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, a lle bydd effeithiau niweidiol yn parhau, rhaid iddynt gynnal asesiadau pellach ar ddewisiadau amgen a pharatoi datganiad cyfiawnhau am resymau hanfodol sef er budd cyhoeddus tra phwysig os bydd caniatâd yn cael ei roi.