Nodyn Cyngor 18: Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr

Statws y Nodyn Cyngor hwn

Nid oes gan y Nodyn Cyngor hwn unrhyw statws statudol ac mae’n ffurfio rhan o gyfres o gyngor a ddarperir gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Nodyn Cyngor newydd yw hwn. Caiff ei gadw dan arolwg a’i ddiweddaru yn ôl yr angen.

Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn cyfeirio at Nodiadau Cyngor era ill. Gweld yr holl Nodiadau Cyngor.

Crynodeb o’r Nodyn Cyngor hwn

TCafodd y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD) (Cyfarwyddeb 2000/60/CE Senedd Ewrop, dyddiedig 23 Hydref 2000, sy’n sefydlu fframwaith ar gyfer gweithredu cymunedol ym maes polisi dŵr (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr)) ei mabwysiadu ac fe ddaeth i rym yn 2000, ac mae’n cynrychioli gwarchod adnoddau dŵr yr Undeb Ewropeaidd (UE) ar ei anterth. Mae’n sefydlu fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gwarchod dŵr wyneb (gan gynnwys afonydd, llynnoedd, dyfroedd aberol (Mae Erthygl 2 2000/60/CE yn diffinio ‘Transitional waters’, y cyfeirir atynt fel dyfroedd aberol at ddibenion y Nodyn Cyngor hwn) a dyfroedd arfordirol) a dŵr daear ledled yr UE. Caiff y WFD ei thrawsddodi i’r gyfraith yng Nghymru a Lloegr gan Reoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017 (Rheoliadau 2017) (OS 2017/407 sy’n diddymu ac yn disodli Rheoliadau Amgylchedd Dŵr (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2003 (yn amodol ar ddarpariaethau trosiannol yn Erthygl 38 Rheoliadau 2017)).

Mae Rheoliadau 2017 yn rhoi dyletswydd gyffredinol ar yr Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru i arfer eu ‘swyddogaethau perthnasol’ er mwyn sicrhau cydymffurfiad â’r WFD (Rheoliad 3). Nid yw swyddogaethau o dan Ddeddf Cynllunio 2008 (fel y’i diwygiwyd) (DC2008) yn ‘swyddogaethau perthnasol’ at y diben hwn.

Fodd bynnag, mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru a phob corff cyhoeddus ddyletswydd benodol i ystyried y Cynllun Rheoli Basn Afon perthnasol (Mae Erthygl 13.1 WFD yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod Wladwriaethau’r UE ddarparu cynlluniau rheoli basn afon ar gyfer pob ardal basn afon yn eu tiriogaeth), ac unrhyw gynlluniau atodol a wneir oddi tano, wrth arfer eu swyddogaethau (Rheoliad 33) (Mae ‘ystyried’ cynlluniau rheoli basn afon yn cynnwys ystyried yr amcanion amgylcheddol a chrynodeb o’r mesurau a gynhwysir yn y cynllun wrth arfer unrhyw swyddogaethau, ynghyd ag effeithiau’r swyddogaethau hynny ar yr amcanion a’r mesurau yn y cynllun); byddai hyn yn cynnwys swyddogaethau o dan DC2008.

Bydd angen i’r Ysgrifennydd Gwladol ystyried goblygiadau’r Datblygiad Arfaethedig, yn gyntaf mewn perthynas â’r ddyletswydd benodol i ystyried y Cynllun Rheoli Basn Afon a chynlluniau atodol ac, yn ail, mewn termau mwy cyffredinol mewn perthynas â gallu’r DU i gydymffurfio’r â’r WFD, gan gynnwys (os yw’n berthnasol) darpariaethau rhan-ddirymiad Erthygl 4.7 (gweler adran 4.5 y Nodyn Cyngor hwn).

Felly, bydd angen i’r Awdurdod Archwilio ar gyfer y Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP), erbyn diwedd yr Archwiliad, fod mewn sefyllfa i adrodd yn ôl i’r Ysgrifennydd Gwladol ar effeithiau’r Datblygiad Arfaethedig ar y Cynllun Rheoli Basn Afon perthnasol (a’r cyrff dŵr oddi mewn iddo), yn ogystal ag unrhyw gynlluniau atodol. Hefyd, bydd angen i’r Awdurdod Archwilio sicrhau bod gan yr Ysgrifennydd Gwladol ddigon o wybodaeth i benderfynu p’un a oes gan y Datblygiad Arfaethedig unrhyw oblygiadau ar gyfer rhwymedigaethau’r DU o dan y WFD (gan gynnwys gwybodaeth angenrheidiol i ategu unrhyw randdirymiad a all gael ei geisio o dan ddarpariaethau Erthygl 4.7 y WFD).

Yn y Nodyn Cyngor hwn, mae’r Arolygiaeth yn cefnogi paratoi a chyflwyno adroddiadau asesu WFD ar wahân gan ymgeiswyr, sy’n esbonio’n glir sut y bodlonwyd gofynion WFD. Dylai’r adroddiadau hyn gael eu paratoi trwy ymgynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd a/neu Cyfoeth Naturiol Cymru, a chydnabyddir eu bod yn debygol o lywio unrhyw Ddatganiad Amgylcheddol ac i’r gwrthwyneb.

Mae nifer o Ddatganiadau Polisi Cenedlaethol (Datganiad Polisi Cenedlaethol EN-1 Ynni; EN-6 Niwclear; Datganiad Polisi Cenedlaethol ar Rwydweithiau Cenedlaethol; Datganiad Polisi Cenedlaethol ar Borthladdoedd; Datganiad Polisi Cenedlaethol ar Ddŵr Gwastraff; a’r Datganiad Polisi Cenedlaethol ar Wastraff Peryglus), er enghraifft EN-1 (y Datganiad Polisi Cenedlaethol cyffredin ar gyfer ynni), yn amodi’n glir bod rhaid i’r Datganiad Amgylcheddol ar gyfer NSIP gynnwys gwybodaeth am effeithiau yn deillio o’r Datblygiad Arfaethedig ar gyrff dŵr neu ardaloedd gwarchodedig o dan WFD (ac epilgyfarwyddebau).

Diben y Nodyn Cyngor hwn yn rhoi gwybod i ymgeiswyr am ofynion WFD a Rheoliadau 2017, fel y maent yn berthnasol i NSIPau o dan DC2008. Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn esbonio’r wybodaeth y mae’r Arolygiaeth o’r farn y mae’n rhaid i ymgeisydd ei darparu gyda chais ar gyfer NSIP er mwyn dangos yn glir y rhoddwyd ystyriaeth briodol i’r WFD a Rheoliadau 2017.

Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn ceisio darparu:

  • cyflwyniad i’r cyd-destun cyfreithiol a’r rhwymedigaethau a roddir ar y sawl sy’n gwneud y penderfyniad a’r ymgeisydd gan y WFD a Rheoliadau 2017;
  • esboniad o’r berthynas rhwng asesiad y WFD, yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd;
  • cyngor ynghylch y cyrff perthnasol y dylai’r ymgeisydd ymgynghori â nhw wrth baratoi cais ar gyfer Gorchymyn Caniatâd Datblygu mewn perthynas â’r WFD, a’r amseriad awgrymedig a lefel yr ymgysylltiad hwnnw;
  • esboniad o’r broses a’r wybodaeth y dylid ei darparu gyda chais ar gyfer Gorchymyn Caniatâd Datblygu mewn perthynas â’r WFD; a
  • cyngor ar gyflwyno’r wybodaeth gan ddefnyddio matricsau sgrinio ac asesu dewisol.

Neidio i’r adran

  1. Cyflwyniad i’r cyd-destun cyfreithiol
  2. Y berthynas â’r Asesiad o Effaith Amgylcheddol (AEA) a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
  3. Cyrff perthnasol y dylid ymgynghori â nhw
  4. Proses y WFD a’r wybodaeth sydd ei hangen
    Sgrinio’r WFD a’r Asesiad WFD
    Cam 1 – Sgrinio’r WFD
    Cam 2 – Cwmpasu’r WFD
    Cam 3 – Asesiad Effaith WFD
    Rhanddirymiadau Erthygl 4.7
  5. Cyflwyno Gwybodaeth
  6. Adnoddau Eraill

1. Cyflwyniad i’r cyd-destun cyfreithiol

1.1 Sefydlodd y WFD fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gwarchod dŵr wyneb (gan gynnwys afonydd, llynnoedd, dyfroedd aberol2 a dyfroedd arfordirol) a dŵr daear ledled yr UE.

1.2 2 Nodau ac amcanion cyffredinol y WFD yw:

  • gwella statws cyrff dŵr wyneb, cyrff dŵr daear a’u hecosystemau, a’u hatal rhag dirywio ymhellach;
  • sicrhau gostyngiad cynyddol mewn llygredd dŵr daear;
  • lleihau llygredd dŵr, yn enwedig gan Sylweddau â Blaenoriaeth a Llygryddion Penodol Eraill (Atodiad II, y Gyfarwyddeb Safonau Ansawdd Amgylcheddol (EQS) (2008/105/CE) fel y’i diwygiwyd);
  • cyfrannu at liniaru effeithiau llifogydd a sychder;
  • cyflawni o leiaf statws dŵr wyneb da ar gyfer pob corff dŵr wyneb a statws cemegol da mewn cyrff dŵr daear erbyn 2015 (Erthygl 4, y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD) (2000/60/CE)) (neu botensial ecolegol da yn achos cyrff dŵr artiffisial neu wedi’u haddasu’n drwm); a
  • hyrwyddo defnydd cynaliadwy o ddŵr.

1.3 Mae’r WFD wedi ei thrawsddodi yng nghyfraith Cymru a Lloegr gan Reoliadau 2017.

1.4 Mae gan lawer o NSIPau y potensial i effeithio a hefyd gallant gyfrannu at gyflawni’r nodau a’r amcanion a sefydlwyd gan y WFD.

1.5 Mae’r WFD yn mynnu bod Aelod Wladwriaethau’r UE yn ystyried un system o reoli adnoddau dŵr trwy gymeriadu, gwarchod a gwella adnoddau dŵr a ystyrir yng nghyd-destun ardal basn afon. Yng Nghymru a Lloegr, amlygwyd 11 ardal basn afon, gan gynnwys tair ardal basn afon trawsffiniol, y mae un ohonynt yn croesi ffiniau Lloegr a’r Alban. Mae Rheoliadau 2017 yn ei gwneud yn ofynnol i’r ‘asiantaeth briodol’ (Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr a Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghymru) baratoi Cynlluniau Rheoli Basn Afon ar gyfer pob ardal basn afon, i’w cymeradwyo gan ‘yr awdurdod priodol’ (yr Ysgrifennydd Gwladol yn Lloegr a Gweinidogion Cymru yng Nghymru).

1.6 Mae’r Cynlluniau Rheoli Basn Afon yn disgrifio cyflwr presennol yr amgylchedd dŵr ar gyfer pob ardal basn afon, y pwysau sy’n effeithio ar yr amgylchedd dŵr, yr amcanion ar gyfer ei warchod a’i wella, a rhaglen y mesurau sydd eu hangen i gyflawni amcanion amgylcheddol statudol y WFD. Mae Cynlluniau Rheoli Basn Afon yn destun cylch cynllunio chwe blynedd a dylid eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio ag amcanion cyffredinol y WFD. Cyhoeddwyd Cynlluniau Rheoli Basn Afon yn gyntaf yn 2009, ac fe’u diweddarwyd yn 2015.

1.7 Mae Rheoliadau 2017 hefyd yn rhoi dyletswydd gyffredinol ar yr Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru i arfer eu ‘swyddogaethau perthnasol’ er mwyn sicrhau cydymffurfiad â’r WFD (Rheoliad 3). Nid yw swyddogaethau o dan DC2008 yn ‘swyddogaethau perthnasol’ at y diben hwn. Fodd bynnag, mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru a phob corff cyhoeddus ddyletswydd benodol i ystyried y Cynllun Rheoli Basn Afon perthnasol, ac unrhyw gynlluniau atodol a wneir oddi tano, wrth arfer eu swyddogaethau (Rheoliad 33; mae’r swyddogaethau hyn yn cynnwys penderfynu ar geisiadau o dan DC2008).

1.8 Bydd angen i’r Ysgrifennydd Gwladol ystyried goblygiadau’r Datblygiad Arfaethedig, yn gyntaf mewn perthynas â’r ddyletswydd benodol i ystyried y Cynllun Rheoli Basn Afon a chynlluniau atodol ac, yn ail, mewn termau mwy cyffredinol mewn perthynas â gallu’r DU i gydymffurfio’r â’r WFD, gan gynnwys (os yw’n berthnasol) darpariaethau rhan-ddirymiad Erthygl 4.7 (gweler adran 4.5 y nodyn hwn).

1.9 Mae rhai Datganiadau Polisi Cenedlaethol, fel EN-1 (y Datganiad Polisi Cenedlaethol cyffredinol ar gyfer ynni), yn amodi’n glir bod rhaid i’r Datganiad Amgylcheddol ar gyfer NSIP gynnwys gwybodaeth am effeithiau yn deillio o’r Datblygiad Arfaethedig ar gyrff dŵr neu ardaloedd gwarchodedig o dan WFD (ac epilgyfarwyddebau).

1.10 Mae Rheoliad 5(2) (l) (iii) Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009 (fel y’i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i bob ymgeisydd NSIP (lle y bo’n berthnasol) ddarparu gyda’i gais “cynllun ynghyd â gwybodaeth ategol yn amlygu… cyrff dŵr mewn cynllun rheoli basn afon, ynghyd ag asesiad o unrhyw effeithiau ar y cyfryw… gyrff sy’n debygol o gael eu hachosi gan y datblygiad arfaethedig”. Mae’n hanfodol y caiff unrhyw asesiad WFD (gweler adran 4 isod) ei gynnal yn drylwyr a’i fod yn hawdd ei adnabod ymhlith dogfennau’r cais, ynghyd ag unrhyw gynlluniau perthnasol.

2. Y berthynas â’r Asesiad o Effaith Amgylcheddol (AEA) a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

2.1 Mae’r rhan fwyaf o geisiadau am Orchymyn Caniatâd Datblygu yn debygol ofod angen asesiadau yn unol â’r WFD, y Gyfarwyddeb Cynefinoedd (Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC, dyddiedig 21 Mai 1992, ar warchod cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt (fel y’i cyfundrefnwyd) (y Gyfarwyddeb Cynefinoedd), a drawsddodwyd yng nghyfraith y DU gan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 (fel y’i diwygiwyd) (y Rheoliadau Cynefinoedd), OS 2010/490.) a’r Gyfarwyddeb AEA (Cyfarwyddeb 2011/92/EU y Senedd Ewropeaidd a’r Cyngor, dyddiedig 13 Rhagfyr 2011, ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd, sy’n berthnasol i Asiantaeth yr Amgylchedd Ewrop (y ‘Gyfarwyddeb AEA’). Gwnaed Cyfarwyddeb 2014/52/EU (yn diwygio Cyfarwyddeb 2011/92/EU) yn Ebrill 2014, ac mae ei thelerau yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod Wladwriaethau dod â’r deddfau, rheoliadau a’r darpariaethau gweinyddol angenrheidiol i rym i gydymffurfio â Chyfarwyddeb 2014/52/EU erbyn 16 Mai 2017 (bydd darpariaethau trosiannol yn berthnasol i’r rheoliadau newydd hyn)). O ran yr AEA a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, dylai ymgeiswyr gyfeirio at y cyngor a gynhwysir yn Nodyn Cyngor 7 (Asesu Effaith Amgylcheddol: Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol, Sgrinio a Chwmpasu) a Nodyn Cyngor 10 (Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd sy’n berthnasol i brosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol) yr Arolygiaeth, yn ôl eu trefn. Er bod yr asesiad WFD, yr AEA a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn asesiadau ar wahân, mae pob un ohonynt yn rhan annatod o’r cais ac mae perthynas uniongyrchol rhyngddynt.

2.2 Mae’r WFD, yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a’r AEA yn dylanwadu ar benderfyniadau mewn ffyrdd gwahanol:

  • Mae’r asesiad WFD yn llywio’r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â’r ddyletswydd i ystyried y Cynllun Rheoli Basn Afon ac unrhyw gynlluniau atodol (Rheoliad 33 Rheoliadau 2017).
  • Mae’r AEA yn llywio’r Ysgrifennydd Gwladol fel y sawl sy’n penderfynu ar yr effeithiau sylweddol tebygol (rhaid i’w ganfyddiadau gael eu ‘hystyried’) (Rheoliad 3(2) Rheoliadau AEA (Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol) 2009 (Rheoliadau AEA), OS 2009/2263.))
  • Yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd – rhaid i’r sawl sy’n gwneud y penderfyniad ddilyn y camau a ragnodir gan y Rheoliadau Cynefinoedd (Rheoliad 61 y Rheoliadau Cynefinoedd) a gall ond gwneud Gorchymyn Caniatâd Datblygu os gellir caniatáu awdurdodiad yn unol â’r Rheoliadau Cynefinoedd. (Rheoliad Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 (fel y’i diwygiwyd), OS 2010/490. Bydd Rheoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 2007 (fel y’i diwygiwyd), OS 2007/1842 (Rheoliadau Morol oddi ar yr Arfordir) yn berthnasol y tu hwnt i ddyfroedd tiriogaethol y DU (12 môr-filltir)).

2.3 Yn aml, caiff goblygiadau Datblygiad Arfaethedig ar gyfer WFD eu cynnwys yn y Datganiad Amgylcheddol sy’n ategu’r cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu. Nid yw’r dull hwn yn anghywir; fodd bynnag, mae’n bwysig bod ymgeiswyr yn cydnabod y caiff effeithiau WFD eu hasesu mewn ffordd wahanol i ddull yr AEA.

2.4 Bydd angen i ymgeiswyr amlygu goblygiadau’r Datblygiad Arfaethedig ar gyfer amcanion y WFD a’r Cynlluniau Rheoli Basn Afon perthnasol yn glir yn eu dogfennau (naill ai yn y Datganiad Amgylcheddol neu ar ffurf dogfen(nau) ar wahân). Er ei fod yn fwyaf tebygol y bydd asesiadau’r WFD yn defnyddio gwybodaeth a gasglwyd yn rhan o’r AEA ehangach, rhaid ei thrawsddodi mewn asesiad yng nghyd-destun y WFD ac, yn y pen draw, rhaid penderfynu a oes gan y Datblygiad Arfaethedig y potensial i effeithio ar gyrff dŵr y WFD.

2.5 Mae’n bosibl na fydd defnyddio casgliadau’r AEA i benderfynu a fyddai effaith bosibl ar y WFD yn ddigonol; rhaid cynnal asesiad WFD yn ei rinwedd ei hun, yn ôl y gofyn (trwy ymgynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd a/ neu Cyfoeth Naturiol Cymru). I’r perwyl hwnnw, byddai’n fwy priodol cyflwyno’r wybodaeth mewn adroddiad asesu WFD ar wahân, yn enwedig ar gyfer achosion mwy cymhleth (gweler adran 4).

2.6 Er bod yr AEA yn broses ar wahân, caiff ymgeiswyr eu gwahodd i ddefnyddio’r gweithdrefnau cwmpasu AEA ffurfiol i gyflwyno gwybodaeth yn amlygu’r cyrff dŵr mewn Cynlluniau Rheoli Basn Afon perthnasol y mae’r Datblygiad Arfaethedig yn debygol o effeithio arnynt. Yn aml, mae ymarferion cwmpasu’r AEA yn digwydd yn ystod yn y broses cyn gwneud cais, a bydd hyn yn helpu i dynnu sylw’r Arolygiaeth, yr Ysgrifennydd Gwladol a’r ymgynghoreion perthnasol (yn enwedig Asiantaeth yr Amgylchedd a/neu Cyfoeth Naturiol Cymru) at unrhyw oblygiadau posibl sydd gan yr NSIP mewn perthynas â’r WFD.

2.7 Argymhellir bod ymgeiswyr yn darparu gwybodaeth am y fethodoleg arfaethedig a ddefnyddir yn eu hasesiad WFD yn eu Hadroddiad Cwmpasu AEA.

2.8 Ceir rhagor o gyngor ar y broses WFD a’r wybodaeth sydd ei hangen yn adran 4.1 y Nodyn Cyngor hwn.

3. Cyrff perthnasol y dylid ymgynghori â nhw

Ymgynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru

3.1 Mae gan Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru ddyletswydd i sicrhau cydymffurfiad â’r WFD ac maent yn gyrff ymgynghori statudol at ddibenion DC2008. Felly, caiff ymgeiswyr eu cynghori i geisio barn Asiantaeth yr Amgylchedd a/neu Cyfoeth Naturiol Cymru (fel y bo’n briodol) yn gynnar yn y broses cyn gwneud cais, a chynnal yr ymgysylltiad hwnnw hyd at (ac yn ystod) y cyfnod Archwilio. Gallai materion i’w trafod ag Asiantaeth yr Amgylchedd a/neu Cyfoeth Naturiol Cymru gynnwys y canlynol, ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt:

  • Yr angen am asesiad WFD penodol neu beidio;
  • Cwmpas a methodoleg unrhyw asesiad WFD;
  • Effaith bosibl y Datblygiad Arfaethedig ar gyrff dŵr yn y Cynllun Rheoli Basn Afon perthnasol, a chydymffurfiad ag amcanion y WFD;
  • Unrhyw fesurau lliniaru sy’n ofynnol i sicrhau cydymffurfiad; a
  • Y wybodaeth i’w chyflwyno fel rhan o’r cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu i lywio profion Erthygl 4.7, os daw’r asesiad o’r effaith ar y WFD i’r casgliad bod angen rhan-ddirymiad (gweler adran 4.5 y Nodyn Cyngor hwn). Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol, os yw’n debygol y bydd angen rhanddirymiad, dylai’r wybodaeth ategol gael ei chasglu’n gynnar yn y broses, gan gynnwys y cam arfarnu dewisiadau dylunio.

3.2 Dylai ymgeiswyr sicrhau y caiff gwybodaeth ddigonol yn ymwneud â chydymffurfio â gofynion y WFD ei chyflwyno gyda’r cais. Felly, caiff ymgeiswyr eu cynghori’n gryf i ddefnyddio’r broses ymgynghori cyn gwneud cais i gael cyngor gan Asiantaeth yr Amgylchedd a/neu Cyfoeth Naturiol Cymru (fel y bo’n briodol) i gadarnhau bod yr holl gyrff dŵr perthnasol wedi’u hystyried, a ph’un a bodlonwyd gofynion y WFD ai peidio, cyn cyflwyno cais. Dylai tystiolaeth o ganlyniad yr ymgynghoriad hwn gael ei chofnodi fel rhan o’r asesiad WFD er cyflawnrwydd, neu eu hatodi i bennod berthnasol y Datganiad Amgylchedd os nad oes dogfen sgrinio neu asesu WFD ar wahân. Caiff rhagor o wybodaeth am gydweithio ac ymgynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod proses NSIP ei darparu yn Nodyn Cyngor 11 yr Arolygiaeth (a’i atodiadau) (Nodyn Cyngor 11: Gweithio gyda chyrff cyhoeddus yn y broses cynllunio seilwaith (gan gynnwys Atodiad A – Cyfoeth Naturiol Cymru, ac Atodiad D – Asiantaeth yr Amgylchedd).)

3.3 Mewn achosion lle y cytunwyd â Cyfoeth Naturio Cymru/Asiantaeth yr Amgylchedd nad oes angen asesiad WFD penodol, dylid crybwyll hynny a darparu tystiolaeth glir, gan roi ymateb perthnasol yr ymgynghoriad.

4. Proses y WFD a’r wybodaeth sydd ei hangen

Sgrinio’r WFD a’r Asesiad WFD

4.1 Nid oes unrhyw fformat neu broses benodol neu ragnodedig i’w dilyn ar gyfer asesiadau WFD (mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi llunio arweiniad yn ymwneud â dyfroedd aberol ac arfordirol yn Lloegr, sy’n cael ei drafod yn y paragraffau dilynol). Mae’r diffyg dull rhagnodedig yn rhoi hyblygrwydd i ymgeiswyr ac yn eu galluogi i ddefnyddio dull cymesur a hyblyg; fodd bynnag, mae hefyd yn ychwanegu lefel o ansicrwydd ac amrywiad o ran lefelau ymddangosiadol y cadernid rhwng asesiadau. Felly, mae’r Arolygiaeth wedi llunio’r Nodyn Cyngor hwn i egluro’r wybodaeth y dylid ei darparu gyda chais am Orchymyn Caniatâd Datblygu mewn perthynas ag asesiadau WFD.

4.2 O ystyried arweiniad Asiantaeth yr Amgylchedd “Water Framework Directive assessment: estuarine and coastal waters“, efallai y bydd yn ddefnyddiol i ymgeiswyr ystyried effeithiau WFD gan ddefnyddio’r dull tri-cham a ddisgrifir isod:

  • Cam 1 – Sgrinio’r WFD – i benderfynu a oes unrhyw weithgareddau’n gysylltiedig â’r Datblygiad Arfaethedig nad oes angen eu hystyried ymhellach, er enghraifft gweithgareddau a fu’n mynd rhagddynt ers cyn cylch y Cynllun Rheoli Basn Afon cyfredol ac sydd felly wedi ffurfio rhan o’r llinell sylfaen.
  • Cam 2 – Cwmpasu’r WFD – i amlygu risgiau gweithgareddau’r Datblygiad Arfaethedig i dderbynyddion ar sail y cyrff dŵr perthnasol a’u helfennau ansawdd dŵr (gan gynnwys gwybodaeth am statws, amcanion a pharamedrau pob corff dŵr).
  • Cam 3 – Asesiad effaith WFD – asesiad manwl o gyrff dŵr a’u helfennau ansawdd y mae’r Datblygiad Arfaethedig yn debygol o effeithio arnynt; amlygu unrhyw feysydd lle ceir diffyg cydymffurfio; ystyried mesurau lliniaru, gwelliannau a chyfraniadau at amcanion y Cynllun Rheoli Basn Afon. Lle yr amlygir y potensial i gyrff dŵr ddirywio, ac nad yw’n bosibl lliniaru’r effeithiau i lefel lle y gellir osgoi dirywiad (Dylai ymgeiswyr nodi nad oes rhaid i ystyried mesurau i osgoi, lliniaru a digolledu effeithiau a amlygwyd fod yn gyfyngedig i gam 3, ac y gellir eu hystyried yn ystod camau 1 a 2, fel y bo’n briodol.), byddai angen i’r Datblygiad Arfaethedig gael ei asesu yng nghyd-destyn Erthygl 4.7 y Gyfarwyddeb (gweler adran 4.5 y Nodyn Cyngor hwn am ragor o gyngor ar ran-ddirymiad). Lle mae angen rhanddirymiad, bydd angen i ymgeiswyr ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol i gyfiawnhau eu hachos, o gofio y dylai ymgeiswyr geisio osgoi dirywio’r amgylchedd dŵr bob tro. Mae’n fater i’r Ysgrifennydd Gwladol ystyried p’un a ellir cyfiawnhau rhan-ddirymiad o dan Erthygl 4.7 ai peidio mewn perthynas â Datblygiad Arfaethedig.

4.3 Dylid nodi y gallai asesiad o gydymffurfiad Datblygiad Arfaethedig â’r WFD gael ei wneud unrhyw adeg yn ystod y camau a amlinellir uchod, ac efallai na fydd angen i ymgeiswyr ddilyn pob un o’r camau gan ddibynnu ar amgylchiadau penodol y Datblygiad Arfaethedig.

4.4 Rhaid i fesurau lliniaru y dibynnir arnynt i ddangos cydymffurfiad yn ystod unrhyw un o’r camau uchod gael eu diffinio’n briodol a’u sicrhau’n ddigonol. Gellid sicrhau mesurau lliniaru trwy ofynion Gorchymyn Caniatâd Datblygu/amodau trwydded forol dybiedig, neu trwy ddulliau eraill sy’n gyfreithiol rwymol.

4.5 Mae’r Arolygiaeth yn cydnabod bod cyfarwyddyd “Water Framework Directive assessment: estuarine and coastal waters” Asiantaeth yr Amgylchedd yn cyfeirio’n benodol at Ddatblygiadau Arfaethedig sy’n effeithio ar ddyfroedd aberol a morol yn Lloegr. Fodd bynnag, mae’r Arolygiaeth o’r farn bod yr egwyddorion a bennir yn yr arweiniad, yn enwedig y dull asesu fesul cam, yr un mor berthnasol i gyrff dŵr eraill fel afonydd, llynnoedd a dŵr daear a Datblygiadau Arfaethedig yng Nghymru a Lloegr. Dylid trafod cymhwyso’r egwyddorion hyn yn benodol â Cyfoeth Naturiol Cymru/Asiantaeth yr Amgylchedd (fel y bo’n briodol) ar sail NSIP penodol (gweler adran 3 y Nodyn Cyngor hwn mewn perthynas ag ymgynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru). Darperir rhagor o wybodaeth am ynghynghori â chyrff perthnasol yn y paragraffau dilynol.

4.6 Dylai cam sgrinio’r WFD, ac unrhyw asesiadau WFD dilynol, ddechrau’n gynnar yn y broses cyn gwneud cais a chael ei gynnal mewn ymgynghoriad ag Asiantaeth yr Amgylchedd a/neu Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn benodol, dylai ymgeiswyr ystyried trafodaethau cynnar i lywio eu proses casglu tystiolaeth (gan gynnwys unrhyw waith arolwg/monitro ac asesu a all fod yn ofynnol) er mwyn cymeriadu’r amodau sylfaenol. Mewn rhai achosion, efallai y bydd amser rhagbaratoadol hir ar gyfer lefel y gwaith arolwg a all fod yn angenrheidiol cyn cyflwyno unrhyw gais am Orchymyn Caniatâd Datblygu.

4.7 Mae siart llif wedi ei chynnwys yn Ffigur 1 i roi trosolwg o’r broses argymelledig i fynd i’r afael â’r WFD yn ystod y broses cyn gwneud cais.

""

Cam 1 – Sgrinio’r WFD

4.8 Dylai cyrff dŵr WFD gael eu dangos a’u labelu’n glir ar fap/cynllun. Dylai cam sgrinio’r WFD amlygu i ba raddau y mae’r Datblygiad Arfaethedig yn debygol o effeithio ar y cyrff dŵr (h.y. diffinio parth dylanwad y Datblygiad Arfaethedig). Dylai’r penderfyniad i eithrio agweddau (Cyfeirir at ‘agweddau’ yn ymgyfnewidiol yn y testun hwn, ac maent yn ymwneud â nodweddion penodol Datblygiad Arfaethedig (gan gynnwys gweithgareddau cysylltiedig yn ystod y camau adeiladu a gweithredu) a’r meysydd pwnc amgylcheddol sy’n berthnasol i asesu’r effeithiau.) rhag eu hystyried ymhellach (sgrinio allan) yn ystod y cam hwn gael ei ddatgan yn glir, ynghyd â’r rhesymau dros eu heithrio. Dylai sgrinio’r WFD amlygu a mynd i’r afael â’r canlynol:

  • y Cynllun Rheoli Basn Afon a chyrff dŵr perthnasol;
  • y parth(au) dylanwad ar sail agweddau ar y Datblygiad Arfaethedig a all effeithio ar y cyrff dŵr a amlygwyd; ac
  • unrhyw agweddau ar y Datblygiad Arfaethedig sydd wedi eu sgrinio allan, a pham.

4.9 Dylai ymgeiswyr rannu canfyddiadau’r adroddiad sgrinio WFD ag Asiantaeth yr Amgylchedd a/neu Cyfoeth Naturiol Cymru a darparu cadarnhad ysgrifenedig o’u barn (ac amlygu i ba raddau y maent yn cytuno â’r casgliadau) gyda’r cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu. Os na ddarperir cadarnhad ysgrifenedig, mae’n debygol y gofynnir amdano yn ystod yr Archwiliad.

4.10 Gallai’r adroddiad sgrinio WFD benderfynu nad oes angen rhoi unrhyw ystyriaeth bellach i faterion WFD, er enghraifft oherwydd diffyg llwybr effaith i’r cyrff dŵr WFD (h.y. lle nad ydynt yn disgyn o fewn parth dylanwad y NSIP). Yr Ymgeisydd sy’n gyfrifol am ddarparu tystiolaeth ddigonol i ddangos hyn. Yn yr achosion hyn, dylid darparu tystiolaeth o’r cytundeb â Cyfoeth Naturiol Cymru/Asiantaeth yr Amgylchedd gyda’r cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu.

4.11 Dylai penderfyniadau a wneir yn ystod y cam sgrinio WFD gael eu hystyried a’u hadolygu o bryd i’w gilydd. Bydd hyn yn arbennig o bwysig pan ddaw gwybodaeth fanylach ynghylch y Datblygiad Arfaethedig i law.

Cam 2 – Cwmpasu’r WFD

4.12 Wedi i’r cam sgrinio gael ei gwblhau, dylai’r Ymgeisydd geisio diffinio a chytuno, ag Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru, ar gwmpas gwaith asesu pellach a allai fod yn ofynnol fel rhan o gam 3. Bydd hyn yn cynnwys amlygu risgiau gweithgareddau’r Datblygiad Arfaethedig i dderbynyddion ar sail y cyrff dŵr perthnasol a’u helfennau ansawdd dŵr. Dylai tystiolaeth o gytundeb ynghylch cwmpas y gwaith yr ymgymerir ag ef gael ei chofnodi trwy’r broses adrodd a’i chynnwys yn rhan o ddogfennau’r cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu.

4.13 Dylai cwmpasu’r WFD gynnwys:

  • cynnal asesiad cychwynnol i amlygu risgiau’r Datblygiad Arfaethedig i dderbynyddion (o fewn y parth dylanwad) ar sail cyrff dŵr perthnasol a’u helfennau ansawdd dŵr; ac
  • amlygu’r cyrff dŵr hynny lle mae angen asesiad manylach o’r effaith.

4.14 Yn unol â chanlyniadau’r cam sgrinio, dylai ymgeiswyr rannu canfyddiadau cwmpasu’r WFD ag Asiantaeth yr Amgylchedd a/neu Cyfoeth Naturiol Cymru a darparu cadarnhad ysgrifenedig o’u barn (ac amlygu i ba raddau y maent yn cytuno â’r casgliadau) gyda’r cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu. Os na ddarperir cadarnhad ysgrifenedig, mae’n debygol y gofynnir amdano yn ystod yr Archwiliad.

Cam 3 – Asesiad Effaith WFD

4.15 Mae’r asesiad effaith WFD yn asesiad manwl o’r cyrff dŵr a gweithgareddau sy’n cael eu dwyn ymlaen o gamau sgrinio a chwmpasu’r WFD. Dylid ei osod yng nghyd-destun y Cynlluniau Rheoli Basn Afon perthnasol a dylai gynnwys:

  • Amlygu’r cyrff dŵr y gellir effeithio arnynt (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) neu a all fod mewn perygl o ganlyniad i’r Datblygiad Arfaethedig;
  • Nodweddion sylfaenol y cyrff dŵr dan sylw;
  • Disgrifiad o’r Datblygiad Arfaethedig ac agweddau ar y datblygiad a ystyriwyd o fewn cwmpas asesiad y WFD;
  • dulliau a ddefnyddiwyd i benderfynu ar raddfa’r effeithiau WFD a’u meintioli;
  • Asesiad o’r risg o ddirywio, oherwydd y gallai Erthygl 4.7 fod yn berthnasol lle mae risg y bydd y Datblygiad Arfaethedig yn rhwystro rhag cyflawni statws da neu’n arwain at ddirywiad mewn statws;
  • Esboniad o unrhyw fesurau lliniaru sydd eu hangen a sut gellir sicrhau y cânt eu cyflawni.
  • Esboniad o unrhyw welliannau a/neu gyfraniadau cadarnhaol i amcanion y Cynllun Rheoli Basn Afon sy’n cael eu cynnig, a sut gellir sicrhau y cânt eu cyflawni.

Amlygu Cyrff Dŵr

4.16 Dylai asesiad effaith WFD yr Ymgeisydd a gyflwynir gyda’r cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu amlygu’n glir pob corff dŵr y mae’r NSIP arfaethedig yn debygol o effeithio arno, fel y dycpwyd ymlaen o’r ymarfer sgrinio WFD. Dylai’r wybodaeth hon gael ei chyflwyno ar gynllun hefyd, yn unol â Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009. Dylai ymgeiswyr amlygu’r cyrff dŵr a ystyriwyd mewn tabl, gan gynnwys y wybodaeth sylfaenol berthnasol yn ymwneud â’r cyrff dŵr, gan ddatgan p’un a yw’r corff dŵr dan sylw yn afon, llyn, cronfa ddŵr, nant, camlas, dŵr aberol, dŵr arfordirol neu’n gorff dŵr daear. Dylai unrhyw gyrff dŵr artiffisial dynodedig neu gyrff dŵr wedi’u haddasu’n drwm (Caiff cyrff dŵr artiffisial a chyrff dŵr wedi’u haddasu’n drwm eu diffinio yn Erthygl 2.8 a 2.9 y WFD, yn ôl eu trefn. Darperir yr amodau y gall Aelod Wladwriaethau’r UE eu defnyddio i ddynodi corff dŵr artiffisial neu gorff dŵr wedi’i addasu’n drwm yn Erthygl 4.9 y WFD) gael eu cynnwys yn y tabl hefyd.

Nodweddion sylfaenol y cyrff dŵr dan sylw

4.17 Dylai’r asesiad WFD gadarnhau’r nodweddion sylfaenol ar gyfer pob corff dŵr y mae’r Datblygiad Arfaethedig yn debygol o effeithio arno. Dylai’r asesiad ddisgrifio’n glir y statws dosbarth presennol ar gyfer pob elfen (gan gynnwys y statws hydromorffolegol) ar gyfer pob corff dŵr dan sylw.

4.18 Dylai’r asesiad esbonio’n glir y pwysau sydd eisoes yn effeithio ar y corff dŵr a’i sensitifrwydd i unrhyw newid, fel y disgrifir yn y Cynllun Rheoli Basn Afon.

Cyrff dŵr wyneb

4.19 Caiff statws cyrff dŵr wyneb ei benderfynu trwy ystyried eu statws ecolegol a chemegol. Caiff y rhain eu cadarnhau trwy ystyried yr elfennau canlynol:

  • Statws ecolegol
    • Ansawdd biolegol
    • Ansawdd cemegol a ffisigocemegol cyffredinol;
    • Ansawdd hydromorffolegol; a
    • Llygryddion penodol â Safonau Ansawdd Amgylcheddol (EQS) y DU
  • Statws cemegol
    • Sylweddau â blaenoriaeth a sylweddau lefel yr UE eraill â Safonau Ansawdd Amgylcheddol yr UE.

4.20 Fel y mae arweiniad Asiantaeth yr Amgylchedd yn esbonio, caiff y dosbarthiad isaf o’r rhain ei ddefnyddio i benderfynu ar statws cyffredinol y corff dŵr. Ceir iselfennau i bob un o’r meini prawf ar gyfer y statws ecolegol, er enghraifft caiff ansawdd biolegol ei benderfynu trwy ystyried ffytoplancton, microalgâu, pysgod ac infertebratau. Mae’r egwyddor dosbarthiad isaf yr un mor berthnasol yn y cyd-destun hwn.

4.21 Yn ogystal, mae ansawdd hydromorffolegol yn ‘elfen ategol’ yn unig wrth benderfynu ar statws ecolegol, ac ni chaiff ei ystyried wrth ddosbarthu’r statws cyffredinol (oni bai ei fod yn ofynnol o ran gwahaniaethu rhwng statws cyffredinol ‘uchel’ a ‘da’).

4.23 Ar gyfer cyrff dŵr artiffisial a chyrff dŵr wedi’u haddasu’n drwm, mae proses dosbarthu ar wahân yn berthnasol oherwydd ni all y cyrff dŵr hyn gyflawni statws ecolegol da o ystyried eu defnydd economaiddgymdeithasol at ddiben penodol (Erthygl 4.3 y WFD). Caiff dosbarthiad ‘potensial ecolegol’ cyrff dŵr artiffisial a chyrff dŵr wedi’u haddasu’n drwm ei benderfynu trwy:

  • amlygu’r hyn sy’n effeithio ar y corff dŵr artiffisial/corff dŵr wedi’i addasu’n drwm;
  • amlygu’r mesurau lliniaru angenrheidiol i sicrhau bod nodweddion hydromorffolegol y corff dŵr yn gyson â photensial economaidd ‘da’ neu ‘mwyaf’; ac
  • asesu p’un a roddwyd y mesurau hynny ar waith ai peidio wrth benderfynu ar y ‘potensial ecolegol’ yn gyffredinol.

Cyrff dŵr daear

4.24 Caiff statws dŵr daear ei bennu trwy ystyried statws meintiol a statws cemegol.

Disgrifiad o’r Datblygiad Arfaethedig a’r agweddau ar y datblygiad a ystyriwyd o fewn cwmpas yr asesiad WFD

4.25 Dylid cynnwys disgrifiad o’r Datblygiad Arfaethedig, sy’n gyson â’r Gorchymyn Caniatâd Datblygu drafft, yn yr asesiad neu ei groesgyfeirio i’r disgrifiad perthnasol yn y Datganiad Amgylcheddol neu ddogfennau eraill y cais. Efallai na fydd agweddau penodol ar y Datblygiad Arfaethedig yn effeithio ar gyrff dŵr – dylai’r rhain gael eu hamlygu yn y disgrifiad a dylid nodi’n glir eu bod wedi sgrinio allan o’r asesiad.

Y dulliau a ddefnyddiwyd i benderfynu ar raddfa effeithiau’r WFD a’u meintioli

4.26 Dylai’r asesiad WFD amlinellu’n glir y fethodoleg a ddefnyddiwyd i amlygu effeithiau’r WFD sy’n deillio o’r Datblygiad Arfaethedig.

4.27 Dylai’r asesiad WFD feintioli graddfa unrhyw effeithiau tebygol o ran y graddau daearyddol (h.y. pa gyrff dŵr sy’n disgyn o fewn y parth dylanwad) yn ogystal â maint y newid (h.y. unrhyw ddirywiad i elfen o fewn dosbarthiadau statws a/neu rhwng dosbarthiadau statws). Dylai’r dulliau a ddefnyddiwyd i benderfynu hyn gael eu hesbonio’n glir a’u cyfiawnhau. Os yw’r asesiad wedi cynnwys rhagdybiaethau neu farn broffesiynol benodol, dylid esbonio ac ymresymu hynny’n glir, yn ogystal â chynnwys sail dystiolaeth ategol briodol. Yn ddelfrydol, bydd y wybodaeth a ddarperir fel rhan o unrhyw gais cwmpasu AEA yn rhoi syniad cynnar o’r dulliau tebygol a ddefnyddir ac yn ddefnyddiol o ran llywio methodoleg y WFD.

Asesiad o’r risg o ddirywio

4.28 Dylai’r asesiad WFD asesu risg yr effaith ar y cyrff dŵr, gan ystyried elfennau ac amcanion penodol. Dylai’r asesiad amlygu a oes risg o ddirywio i unrhyw elfen WFD o ganlyniad i’r Datblygiad Arfaethedig, a dylai unrhyw gasgliad y deuir iddo gael ei ategu gan sail dystiolaeth gadarn. Daeth dyfarniad yn Llys Cyfiawnder yr UE yn 2015 (Bund fur Umwelt und Naturshutz Deutschland eV v Bundesrepublik Deutschland [2015] EUECJ C-461/13) i’r casgliad bod y WFD yn atal awdurdodi prosiectau unigol a all achosi dirywio i statws corff dŵr, oni bai y gellir cyfiawnhau rhan-ddirymiad o dan Erthygl 4.7 y WFD. Ar ben hynny, penderfynodd y dyfarniad bod gweithgareddau sy’n peryglu cyflawni statws ‘da’ yn gyffredinol wedi’u gwahardd rhag eu hawdurdodi. Cynghorodd y Llys y caiff ‘dirywio statws’ ei gadarnhau cyn gynted ag y bydd statws o leiaf un o’r elfennau ansawdd yn disgyn un dosbarth, hyd yn oed os nad yw’r newid yn arwain at ostyngiad i ddosbarthiad y corff dŵr yn ei gyfanrwydd (Mae hyn yn berthnasol oni bai bod y corff dŵr eisoes yn y dosbarth statws isaf; yn yr achos hwnnw, caiff unrhyw ddirywio ei ystyried yn ddirywiad o ran statws o dan WFD). Felly, dylai ymgeisiwyd amlygu’n glir unrhyw ddirywio rhagweledig i statws unrhyw un o’r elfennau ansawdd mewn corff/cyrff dŵr.

Esboniad o’r mesurau lliniaru sydd eu hangen a sut gellir sicrhau y cânt eu cyflawni

4.29 Os oes angen mesurau lliniaru penodol er mwyn sicrhau nad oes unrhyw berygl o ddirywiad i gyrff dŵr o ganlyniad i’r Datblygiad Arfaethedig, dylid nodi hynny’n glir yn yr asesiad WFD. Dylai unrhyw fesurau lliniaru angenrheidiol gael eu hesbonio’n fanwl ynghyd â rhagfynegiad o’u heffeithiolrwydd tebygol ac asesiad o unrhyw effaith weddilliol. Bydd hefyd yn angenrheidiol i’r asesiad esbonio’n glir y mathau o ddulliau a roddir ar waith er mwyn sicrhau y caiff y mesurau lliniaru hyn eu cyflawni, gan gynnwys cyfeiriad at unrhyw ofynion y Gorchymyn Caniatâd Datblygu/amodau trwydded forol dybiedig, neu ddulliau cyfreithiol rwymol eraill ac amserlenni ar gyfer eu cyflawni.

Esboniad o unrhyw welliannau a/neu gyfraniadau cadarnhaol i amcanion y Cynllun Rheoli Basn Afon a gynigir, a sut gellir sicrhau y cânt eu cyflawni

4.30 Dylai ymgeiswyr ddisgrifio unrhyw fesurau gwella neu gyfraniadau cadarnhaol y gall y Datblygiad Arfaethedig eu darparu o ran yr amcanion yn y Cynllun Rheoli Basn Afon perthnasol hefyd. Dylai’r rhain gael eu gwahaniaethu’n glir oddi wrth unrhyw fesurau lliniaru angenrheidiol. Dylid esbonio’n glir y dull a’r amserlenni cyflawni hefyd, ynghyd â sut y cânt eu sicrhau.

Rhanddirymiadau Erthygl 4.7

4.31 Mae Erthygl 4.7 y WFD yn caniatáu rhanddirymiad oddi wrth y Gyfarwyddeb; lle caiff ei gofynion eu bodloni, gall Aelod Wladwriaethau fethu cyflawni’r amcanion neu achosi dirywio o ran statws (Mae Erthygl 4.7 ond yn berthnasol i addasiadau newydd i nodweddion ffisegol corff dŵr wyneb neu newidiadau i lefel cyrff dŵr daear, neu ar gyfer dirywio o statws uchel i statws da ar gyfer cyrff dŵr wyneb yn gysylltiedig â gweithgareddau datblygu dynol cynaliadwy Newydd). Mae ar gael yn ddarostyngedig i amodau caeth yn unig (Amlinellir yn Erthygl 4.7 y WFD) a dylai unrhyw ddibyniaeth ar Erthygl 4.7 gael ei defnyddio pan fetho popeth arall yn unig.

4.32 Yn ogystal, rhaid i’r datblygiad beidio ag eithrio neu niweidio cyflawni amcanion y WFD mewn cyrff dŵr eraill o fewn yr un ardal basn afon yn barhaol, a rhaid iddo fod yn gyson â gweithredu deddfwriaeth amgylcheddol arall yr Undeb Ewropeaidd (UE) (Erthygl 4.8). Wrth gymhwyso Erthygl 4.7, rhaid cymryd camau hefyd i sicrhau bod y darpariaethau newydd yn sicrhau o leiaf yr un lefel o warchodaeth â deddfwriaeth bresennol yr UE (Erthygl 4.9).

4.33 Mae profion Erthygl 4.7 yn mynnu bod tystiolaeth sylweddol, a chymhleth yn aml, ar gael ac yn cael ei hasesu. Felly, mae’n hanfodol y caiff y gofyniad posibl am randdirymiad Erthygl 4.7 ei ystyried cyn gynted â phosibl yn ystod cam cyn gwneud cais y broses DC2008. Dylai ymgeiswyr ymwneud yn gynnar â Cyfoeth Naturiol Cymru/Asiantaeth yr Amgylchedd (Rheoliad 2 o Reoliadau WFD), fel yr asiantaethau priodol ar gyfer WFD yng Nghymru a Lloegr, yn ôl eu trefn. Bydd yr asiantaethau priodol yn gallu rhoi cyngor i Ymgeiswyr ar y wybodaeth sydd ei hangen i lywio profion Erthygl 4.7. Mae’r Arolygiaeth hefyd yn annog Ymgeiswyr yn gryf i ofyn am sylwadau gan yr asiantaethau priodol ar ddogfennau drafft lle y caiff profion Erthygl 4.7 eu defnyddio yn ystod y broses cyn gwneud cais.

4.34 Caiff rhagor o gyngor ar y profion yn Erthygl 4.7 ei ddarparu isod (mae’r penawdau yn symleiddio gofynion manwl yr Erthygl). Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol bod rhaid bodloni pob un o’r pedwar prawf. Lle caiff rhanddirymiad ei geisio mewn perthynas ag NSIP, bydd angen i ymgeiswyr roi’r wybodaeth angenrheidiol i’r Ysgrifennydd Gwladol (wrth arfer swyddogaethau yn Rheoliad 33 Rheoliadau 2017) i benderfynu a yw cais yn bodloni’r profion ai peidio, ac felly p’un a ellir cyfiawnhau rhanddirymiad o dan Erthygl 4.7.

Prawf (a): Caiff pob cam ymarferol ei gymryd i liniaru’r effeithiau niweidiol ar y corff dŵr dan sylw

4.35 Dylai achos a wneir i ategu rhanddirymiad o dan Erthygl 4.7 esbonio’r holl gamau ymarferol a gymerir i liniaru effeithiau niweidiol y Datblygiad Arfaethedig ar statws y cyrff dŵr WFD dan sylw. Bydd angen i hyn ystyried cylch oed cyflawn y Datblygiad Arfaethedig, gan gynnwys adeiladu, gweithredu a datgomisiynu. Dylai’r dull o sicrhau’r mesurau lliniaru arfaethedig yn y Gorchymyn Caniatâd Datblygu neu mewn man arall gael ei amlygu’n glir. Caiff ymgeiswyr eu cynghori i ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru/Asiantaeth yr Amgylchedd ynghylch p’un a ellir rhoi’r mesurau lliniaru arfaethedig ar waith yn effeithiol ai peidio.

Prawf (b): Caiff y rhesymau am yr addasiadau neu’r newidiadau eu hamlinellu’n benodol a’u hesbonio yn y Cynllun Rheoli Basn Afon

4.36 Rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol (fel yr awdurdod cymwys mewn perthynas â chais am Orchymyn Caniatâd Datblygu) fod yn fodlon, o dan Erthygl 4.7(b) WFD, y gellid adrodd ar unrhyw addasiadau neu newidiadau i gyrff dŵr sy’n gwneud rhanddirymiad yn angenrheidiol yn y Cynllun Rheoli Basn Afon perthnasol (y mae’n ofynnol adolygu ei amcanion bob 6 blynedd o dan Erthygl 13.7 WFD).

Prawf (c)(1): Mae budd cyhoeddus tra phwysig yn y Datblygiad Arfaethedig a/neu

Brawf (c)(2): Mae ei fanteision yn gorbwyso manteision amcanion WFD

4.37 Bydd angen i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth ynghylch pam y maent o’r farn y gellir cyfiawnhau’r Datblygiad Arfaethedig trwy:

  • fudd cyhoeddus tra phwysig; a/neu
  • fod manteision y Datblygiad Arfaethedig i iechyd dynol, diogelwch dynol neu ddatblygu cynaliadwy yn gorbwyso manteision cyflawni amcanion WFD.

4.38 Efallai bod y Datblygiad Arfaethedig yn bodloni’r ddau brawf. Os felly, dylai ymgeiswyr ystyried darparu gwybodaeth i ategu’r ddau achos; fodd bynnag, dim ond un rhan o’r prawf y byddai angen ei bodloni.

Prawf (d) Na all manteision y prosiect gael eu cyflawni gan opsiwn sylweddol well i’r amgylchedd

4.39 I fodloni’r amod hwn, rhaid i ymgeiswyr ddangos na ellir cyflawni amcanion buddiol yr addasiadau neu’r newidiadau i’r corff dŵr a wneir gan y Datblygiad Arfaethedig trwy ddull arall sy’n opsiwn sylweddol well i’r amgylchedd, sy’n dechnegol ymarferol, ac nad yw’n arwain at gost anghymesur. Gallai hyn gynnwys ystyried lleoliadau amgen, graddfeydd gwahanol, dyluniadau datblygu neu brosesau amgen, er enghraifft.

4.40 Mae Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban (SEPA) wedi darparu arweiniad (SEPA, 2013 (SEPA (2013) Supporting Guidance (WAT-SG-68) Assessing Significantly Better Environmental Options)) yn datgan y gallai opsiwn fod yn sylweddol well i’r amgylchedd:

  • os yw’r fantais a ddarperir ganddo o leiaf yn gyfwerth â’r fantais a ddarperir gan y cynnig;
  • os yw’r gost amgylcheddol yn sylweddol is na chost amgylcheddol y cynnig (byddai SEPA yn asesu cost amgylcheddol cynnig trwy amlygu arwyddocâd ei effeithiau niweidiol gan ddefnyddio’r dull a bennir yn WATSG-67: Assessing the Significance of Impacts – Social, Economic, Environmental (Canllawiau Cefnogi Defnydd Dŵr SEPA (WAT-SG-67), https://www.sepa.org.uk/media/149801/wat_sg_67.Pdf; ac
  • os yw’n hyfyw yn economaidd ac felly’n opsiwn realistig.

4.41 Dylai ymgeiswyr ar gyfer NSIPau gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru ac/neu Asiantaeth yr Amgylchedd i gael unrhyw arweiniad arall sydd ar gael neu unrhyw gyngor arall y gallai ei roi yn y cyd-destun hwn ar gyfer NSIPau yng Nghymru a Lloegr, yn ôl eu trefn.

5. Cyflwyno Gwybodaeth

5.1 Mae Rheoliad 5 (Rheoliad 5(2)(l)(iii) Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009) Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009 yn gofyn i ymgeiswyr (lle y bo’n briodol) ddarparu asesiad o’r effeithiau ar gyrff dŵr y mae’r Datblygiad Arfaethedig yn debygol o effeithio arnynt, Fel y disgrifir uchod, fel arfer, bydd hyn yn arwain at ddarparu sgrinio ac asesiad effaith WFD (yn ôl yr angen) fel asesiadau ar wahân, neu wedi’u hatodi i’r Datganiad Amgylcheddol. Mae hefyd yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu cynllun yn dangos y cyrff dŵr perthnasol mewn Cynllun Rheoli Basn Afon y mae eu cynnig datblygu yn ymwneud ag ef.

5.2 I ategu’r broses, mae’r Arolygiaeth wedi paratoi matricsau trosolwg WFD [gweler Atodiad 1], sydd â’r bwriad o helpu ymgeiswyr i ddarparu gwybodaeth sy’n debygol o fod yn ofynnol wrth archwilio eu ceisiadau. Mae’r Matricsau WFD ar gael i’w lawrlwytho ar ffurf Microsoft Word.

5.3 Gellir darparu matricsau drafft gorffenedig, ynghyd â gwybodaeth berthnasol arall, fel rhan o gais am farn gwmpasu AEA er mwyn mynd i’r afael â’r gofynion uchod.

5.4 Bwriad y matricsau yw darparu cipolwg yn unig, a gallant fod yn ddefnyddiol i ymgeiswyr a’r Arolygiaeth, yn enwedig yn ystod y broses Derbyn o dan DC2008. Nid ydynt wedi’u bwriadu i ddisodli neu negyddu’r angen am y wybodaeth lawn a gynhwysir yn adroddiad sgrinio/asesu WFD yr ymgeisydd, ond dylent groesgyfeirio’n briodol i rannau perthnasol yr adroddiad hwnnw.

5.5 Mae’r matricsau’n galluogi ymgeiswyr i ddogfennu eu dull WFD ar sail y cam sgrinio a cham cwblhau’r asesiad cydymffurfio WFD fel a ganlyn:

  • Amlygu pob Cynllun Rheoli Basn Afon y gallai’r cynnig effeithio arno a phob corff dŵr yn y Cynllun Rheoli Basn Afon perthnasol y mae’n debygol o effeithio arno. Dylai’r matricsau sgrinio amlygu hefyd ar gyfer pob corff dŵr p’un a ydyw wedi’i ddwyn ymlaen i asesiad WFD manwl ai peidio.
  • Mewn perthynas â phob corff dŵr a aseswyd gan yr ymgeisydd, bydd y matricsau yn rhoi crynodeb o’r asesiad a chyfeirbwynt defnyddiol yn ystod y cam Derbyn ac yn ystod yr Archwiliad. Hefyd, dylai ddarparu ‘cipolwg’ ar y cyrff dŵr. Yn benodol, lle caiff dirywiad o ran statws/dosbarth elfen ei ragfynegi neu pan allai’r Datblygiad Arfaethedig rhwystro rhag cyflawni amcanion WFD ar gyfer y cyrff dŵr dan sylw. Dylai cyrff dŵr ac elfennau WFD sy’n cael eu dwyn ymlaen i ystyried rhanddirymiad Erthygl 4.7 gael eu hamlygu’n glir yn y matricsau.

6. Adnoddau Eraill

6.1 Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi llunio cyfres o ddogfennau arweiniad ac adroddiadau technegol WFD o dan y Strategaeth Gweithredu Cyffredin i helpu rhanddeiliaid i roi’r WFD ar waith yn gywir

6.2 Bwriad y dogfennau arweiniad hyn yn darparu dull methodolegol cyffredinol ac, er bod angen eu teilwra ar gyfer amgylchiadau penodol pob un o Aelod Wladwriaethau’r UE, caiff ymgeiswyr eu cynghori i ystyried yr arweiniad hwn wrth gynnal eu hasesiad WFD.

6.3 Mae Grŵp Ymgynghorol Technegol WFD y DU (UKTAG) yn bartneriaeth o asiantaethau llywodraeth y DU, a sefydlwyd gan grŵp polisi WFD y DU i roi cyngor cydgysylltiedig ar agweddau gwyddonol a thechnegol ar y WFD.

6.4 Mae UKTAG yn ystyried y wybodaeth wyddonol a thechnegol sydd ar gael (yn ogystal â chomisiynu ymchwil i feysydd penodol) wrth ddatblygu argymhellion ar gyfer arfer WFD yn y DU, ac mae’r rhain ar gael fel rhan o’i adnoddau ar-lein, y caiff ymgeiswyr eu hannog i gyfeirio atynt i gael arweiniad technegol penodol. Yna, mae gweinyddiaethau llywodraeth gwahanol y DU yn ystyried p’un a ydynt am fabwysiadu argymhellion UKTAG ai peidio (a all amrywio fesul gweinyddiaeth).