Nodyn Cyngor 4: Adran 52: Cael Gwybodaeth Am Fuddiannau mewn tir

Statws y Nodyn Cyngor hwn

Mae’r fersiwn hon o nodyn cyngor 4 yn disodli pob fersiwn flaenorol.

Cefndir

Mae cais am awdurdodiad adran 52 (a52) (a52 Deddf Cynllunio 2008) ac unrhyw hysbysiad dilynol a gyflwynir o dan a52 yn ymwneud â gwybodaeth am fuddiannau mewn tir.

Mae nifer o geisiadau am awdurdodiad a dderbyniwyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio hyd yma wedi cael eu cyflwyno heb ddigon o wybodaeth, gan arwain at oedi cyn gwneud penderfyniad. Dylai ymgeiswyr sicrhau eu bod yn darparu’r holl wybodaeth a fanylir yn y nodyn cyngor hwn er mwyn osgoi oedi o’r fath.

Crynodeb o’r Nodyn Cyngor hwn

Mae’r nodyn hwn yn rhoi cyngor i Ymgeiswyr a derbynyddion arfaethedig hysbysiad o’r
fath ynglŷn â sut mae’r broses yn gweithio a’r hyn y mae angen iddynt ei wneud.

Caiff unigolyn (‘yr Ymgeisydd’) sy’n bwriadu neu sydd wedi gwneud cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu o dan Ddeddf Cynllunio 2008, fel y’i diwygiwyd, wneud cais am awdurdodiad i gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig (‘hysbysiad buddiannau tir’) sy’n mynnu bod y derbynnydd yn rhoi gwybodaeth i’r Ymgeisydd am fuddiannau mewn tir o dan a52 Deddf Cynllunio 2008.

Ceir cyhoeddi hysbysiad buddiannau tir yn ystod y cam cyn-ymgeisio neu ar ôl i gais
Gorchymyn Caniatâd Datblygu gael ei gyflwyno i’r Ysgrifennydd Gwlado (a52(1) Deddf Cynllunio 2008).

Mae awdurdodiad a52 yn galluogi Ymgeisydd i gyflwyno hysbysiad i unigolyn penodedig (Wedi’i gynnwys o fewn categori unigolion a amlinellir yn a52(3) Deddf Cynllunio 2008) (‘y derbynnydd arfaethedig’), sy’n mynnu ei fod, yn ysgrifenedig, yn rhoi enw a chyfeiriad unrhyw unigolyn sydd, ym marn y derbynnydd, yn perthyn i’r categorïau penodedig (Amlygir y categori hwn o unigolion yn a52(2), neu a52(2A). Mae’n rhaid i a52(2), a52(2A) ac a52(3) gael eu dehongli hefyd gan ystyried a52(10) i a52(14) Deddf Cynllunio 2008).

Neidio i’r adran

Cyn ceisio awdurdodiad o dan a52 Deddf Cynllunio 2008, dylai Ymgeiswyr fod yn ymwybodol o’r disgwyliad a amlinellir yng Nghyfarwyddyd yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (DCLG) (Yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol – Deddf Cynllunio 2008: Cyfarwyddyd ynglŷn â Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ffïoedd) 2010 (Mehefin 2013) (‘Cyfarwyddyd y DCLG’)) eu bod wedi gweithredu’n rhesymol, gan ddangos eu bod wedi ceisio cael y wybodaeth berthnasol gan y derbynnydd arfaethedig yn gyntaf a’u bod yn credu y gwrthodwyd y wybodaeth honno iddynt yn afresymol.

Dylai’r cais/ceisiadau am awdurdodiad a wneir gan yr Ymgeisydd ac unrhyw sylwadau gan y derbynnydd/derbynyddion arfaethedig gael eu cyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio, sy’n gweinyddu’r broses ac yn gwneud y penderfyniad ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol. Rhoddir manylion cyswllt ar ddiwedd y nodyn cyngor hwn o dan y pennawd ‘Gwybodaeth ychwanegol’.

Mae gweddill y nodyn cyngor hwn wedi’i rannu’n dair adran:

A. Gwybodaeth a chyngor i Ymgeiswyr

B. Gwybodaeth a chyngor i dderbynyddion arfaethedig

C. Gwybodaeth a chyngor cyffredinol i Ymgeiswyr a derbynyddion arfaethedig

Gofynnir i bawb sy’n gysylltiedig geisio eu cyngor cyfreithiol eu hunain y gallant ddibynnu arno cyn cyflwyno cais a52 neu wneud sylwadau arno.

A. Gwybodaeth a chyngor i Ymgeiswyr

Mae’r adran hon yn rhoi cyngor i Ymgeiswyr ar y wybodaeth y dylid ei chyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio.

1. Cysylltu â’r Arolygiaeth Gynllunio cyn gwneud cais am awdurdodiad i gyflwyno hysbysiad buddiannau tir

1.1 Anogir ymgeiswyr yn gryf i gysylltu â’r Arolygiaeth Gynllunio o leiaf bedair wythnos cyn cyflwyno unrhyw gais/ceisiadau am awdurdodiad a52. Gall yr Arolygiaeth Gynllunio roi cyngor ynglŷn â’r dystiolaeth y bydd angen i’r Ymgeisydd ei darparu a nifer debygol y ceisiadau am awdurdodiad, yn ogystal â manylion am y ffïoedd a sut y gellir talu.

2. Nifer y ceisiadau am awdurdodiad

2.1 Mae gan yr Arolygiaeth Gynllunio y disgresiwn i bennu nifer y ceisiadau am awdurdodiad a wneir gan yr Ymgeisydd (Cyfarwyddyd y DCLG, Atodiad A). Yn gyffredinol, ac o ystyried Cyfarwyddyd y DCLG, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn trin pob llain o dir sy’n cynrychioli teitl cofrestredig neu ardal o dir anghofrestredig fel un cais am awdurdodiad a52.

2.2 Fodd bynnag, fe allai fod amgylchiadau lle mae’r Ymgeisydd o’r farn y dylai cais am awdurdodiad a52 sy’n cynnwys mwy nag un llain o dir gael ei drin fel un cais am awdurdodiad. Gallai hyn gynnwys sefyllfaoedd lle mae’r Ymgeisydd o’r farn bod perchenogaeth ar dir wedi’i his-rannu’n benodol i greu’r angen am geisiadau lluosog, neu lle mae sawl llain o dir yn cael eu dal gan yr un tirfeddiannwr/tirfeddianwyr ac mae’r lleiniau hyn o dir yn ddigon agos i’w gilydd. Pan fydd hyn yn berthnasol, dylai’r Ymgeisydd roi cyfiawnhad i’r Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â pham y byddai un ffi yn briodol, gan ystyried sut mae’r holl leiniau tir yn berthnasol i’w gilydd a chymhlethdod y teitlau.

3.Ffïoedd

3.1 Mae’r ffi sy’n daladwy fesul cais ac yn cael ei phennu gan y Rheoliadau (Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ffïoedd) 2010 (OS 2010/106) (fel y’u diwygiwyd) (‘y Rheoliadau Ffïoedd’) neu unrhyw ddeddfwriaeth ddiwygio neu ddisodli ddilynol sydd mewn grym am y tro). Mae ffïoedd yn daladwy trwy daliad BACS. Cysylltwch â’r Arolygiaeth Gynllunio i gael y manylion talu hyn (gweler y manylion cyswllt ar ddiwedd y nodyn cyngor hwn).

3.2 Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn anfon cadarnhad at yr Ymgeisydd ei bod wedi derbyn y ffïoedd a’r cais/ceisiadau am awdurdodiad. Bydd peidio â thalu’r ffi/ffïoedd yn oedi’r broses oherwydd ni fydd y cais yn cael ei ystyried hyd nes y derbynnir y taliad cywir.

3.3 Ni fydd ad-daliad yn cael ei roi os bydd cais am awdurdodiad yn cael ei dynnu’n ôl.

4. Y wybodaeth sydd i’w darparu gyda chais/ceisiadau am awdurdodiad a52

4.1 Nid yw Deddf Cynllunio 2008 yn rhagnodi ffurflen na phroses i’w dilyn wrth geisio awdurdodiad o dan a52. Dylid cyflwyno’r cais/ceisiadau am awdurdodiad a52 yn ysgrifenedig i’r Arolygiaeth Gynllunio. Dylai’r Ymgeisydd roi un copi caled ac un copi electronig o bob cais am awdurdodiad a52 i’r Arolygiaeth Gynllunio, a ddylai gynnwys yr un wybodaeth.
Ni ddylai’r wybodaeth a ddarperir yn electronig fod wedi’i diogelu na’i hamgryptio. Dylai’r copi caled o bob cais gael ei ddarparu mewn ffolder A4. Lle y cyflwynir sawl cais, dylid darparu ffolder A4 ar wahân ar gyfer pob cais. Lle y gwneir mwy nag un cais am awdurdodiad ar yr un dyddiad, gallai’r Ymgeisydd ddymuno osgoi dyblygu dogfennau cyffredin trwy gynhyrchu ffolder dogfennau craidd ar wahân y croesgyfeirir ato ym mhob cais am awdurdodiad.

4.2 Dylai llythyr eglurhaol y cais/ceisiadau am awdurdodiad gynnwys yr holl wybodaeth a restrir isod ac amlygu ble mae’r wybodaeth i ategu cais/ceisiadau’r Ymgeisydd am awdurdodiad wedi’i lleoli ym mhob ffolder. Dylid gwneud hyn trwy gyfeirio at ‘Tab’ penodol ym mhob ffolder, a labelir yn eglur fel a ganlyn:

  • A1 – Manylion cyswllt
  • A2 – Disgrifiad o’r prosiect y mae angen caniatâd datblygu ar ei gyfer
  • A3 – Esboniad o’r rhesymau pam mae angen awdurdodiad, gan ystyried y meini prawf ar gyfer awdurdodiad a52
  • A4 – Amlygu’r derbynnydd/derbynyddion arfaethedig
  • A5 – Cynlluniau sy’n amlygu’r tir y ceisir gwybodaeth am fuddiannau ynddo
  • A6 – Gwybodaeth sy’n dangos bod yr Ymgeisydd wedi gweithredu’n rhesymol ac y gwrthodwyd y wybodaeth a
    geisiwyd yn afresymol
  • A7 – Tystiolaeth sy’n dangos yr hysbyswyd y derbynnydd/derbynyddion arfaethedig bod cais am awdurdodiad wedi’i
    wneud i’r Arolygiaeth Gynllunio
  • A8 – Am ba hyd y ceisir awdurdodiad a52
  • A9 – Rhestr wirio

Esbonnir y gofynion mewn perthynas â phob un o’r penawdau hyn ymhellach yn yr adrannau canlynol.

A1 – Manylion cyswllt

A1.1 Dylid darparu enw llawn, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost yr unigolyn neu’r sefydliad sy’n gwneud y cais/ceisiadau. Os yw’r cais yn cael ei wneud gan sefydliad, dylid enwi unigolyn cyswllt yn y sefydliad ac, mewn achosion o’r fath, os rhoddir yr awdurdodiad, y sefydliad ei hun fydd yr ‘unigolyn a awdurdodwyd’ i gyflwyno hysbysiad buddiannau tir.

A1.2 Os yw’r cais/ceisiadau am awdurdodiad yn cael ei wneud/eu gwneud gan asiant sy’n gweithredu ar ran yr Ymgeisydd, dylai’r un wybodaeth y gofynnir amdani uchod gael ei darparu ar gyfer yr Ymgeisydd a’r asiant.

A1.3 Lle mae Ymgeisydd yn cyflogi asiant i weithredu ar ei ran, dylai’r Ymgeisydd neu’r asiant ddarparu cadarnhad ysgrifenedig gan yr Ymgeisydd fod yr asiant wedi’i awdurdodi i weithredu ar ei ran.

A2 – Disgrifiad o’r prosiect y mae angen caniatâd datblygu ar ei gyfer

  1. lle nad yw cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu wedi cael ei gyflwyno eto, dylid darparu’r canlynol: Disgrifiad o’r prosiect seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol (NSIP) arfaethedig ac unrhyw ddatblygiad cysylltiedig
  2. lle mae cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu wedi cael ei gyflwyno, dylid darparu’r canlynol: Cyfeirnod y cais.

A3 – Esboniad o’r rhesymau pam mae angen awdurdodiad, gan ystyried y meini prawf ar gyfer awdurdodiad a52

A3.1 Dylai’r Ymgeisydd roi esboniad llawn o’r rhesymau pam y ceisir awdurdodiad i gyflwyno hysbysiad buddiannau tir gan ystyried y meini prawf ar gyfer awdurdodiad a52.

A3.2 Gellir rhoi awdurdodiad dim ond pan fydd yr Ymgeisydd yn gwneud cais, neu’n bwriadu gwneud cais, am orchymyn sy’n rhoi caniatâd datblygu, a lle y gwneir y cais am awdurdodiad i alluogi’r Ymgeisydd i gydymffurfio â darpariaethau a wneir o fewn neu o dan Bennod 2 Rhan 5 Deddf Cynllunio 2008 (y weithdrefn cyn-ymgeisio) neu Bennod 1 Rhan 6 Deddf Cynllunio 2008 (y weithdrefn ar ôl derbyn y cais) (Mae gan yr Ymgeisydd ddyletswydd o dan a42 Deddf Cynllunio 2008 (cyn cyflwyno cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu) i hysbysu, ymhlith eraill, unigolion penodol fel perchenogion, deiliaid prydles, tenantiaid neu feddianwyr y tir y mae’r cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu arfaethedig yn berthnasol iddo, ac ymgynghori â nhw. Os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn derbyn cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu, rhoddir dyletswydd ychwanegol ar yr Ymgeisydd (a56(2)) i hysbysu unigolion penodol am y cais a dderbyniwyd. Os yw’r cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu a
dderbyniwyd yn cynnwys cais i awdurdodi caffael tir yn orfodol (ar gyfer buddiant yn y tir neu hawl drosto), mae’n rhaid i’r Ymgeisydd hefyd roi hysbysiad i’r Arolygiaeth Gynllunio sy’n nodi enwau unigolion a chanddynt fuddiant yn y tir y mae’r cais am gaffael yn orfodol yn berthnasol iddo (a59(2))).

A3.3 Dylai’r Ymgeisydd esbonio sut y bydd cyflwyno hysbysiad buddiannau tir yn ei alluogi i gydymffurfio â’r dyletswyddau ymgynghori cyn-ymgeisio (O dan bennod 2 rhan 5 Deddf Cynllunio 2008), neu’r gofyniad i hysbysu unigolion am gais a dderbyniwyd, ac i hysbysu unigolion a chanddynt fuddiant mewn tir y mae cais am gaffael yn orfodol yn berthnasol iddo (O dan bennod 1 rhan 6 Deddf Cynllunio 2008). Bydd angen i’r Ymgeisydd geisio ei gyngor cyfreithiol ei hun ynglŷn â’r ffordd orau o fynd i’r afael â’r materion hyn.

A4 – Amlygu’r derbynnydd/derbynyddion arfaethedig

A4.1 The Applicant should identify in their authorisation request(s) :

  • enw a chyfeiriad pob derbynnydd arfaethedig y mae’n ceisio awdurdodiad i gyflwyno hysbysiad buddiannau tir iddo, a
  • pha gategori a amlygir yn a52(3) y mae pob derbynnydd arfaethedig yn perthyn iddo

A4.2 Dylid darparu’r wybodaeth hon mewn tabl, y cyfeirir ato fel ‘y Tabl’). Awgrymir fformat ar gyfer y Tabl yn Atodiad A

Tystiolaeth o ymchwiliad dyfal i amlygu derbynyddion arfaethedig

A4.3 Dylai’r Ymgeisydd esbonio sut yr amlygwyd pob derbynnydd arfaethedig. Dylai hyn gynnwys:

  • o ran lleiniau cofrestredig o dir: darparu copïau swyddogol cyfredo (Yn gyffredinol, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn disgwyl i’r dyddiad ar y copïau swyddogol beidio â bod yn hwy na 3 mis o’r dyddiad y cyflwynwyd y cais/ceisiadau am awdurdodiad a52 i’r Arolygiaeth Gynllunio) o’r teitl cofrestredig a chynlluniau’r teitl; ac
  • o ran lleiniau anghofrestredig o dir: darparu tystiolaeth sy’n dangos bod y tir yn anghofrestredig, fel copi cyfredol (Yn gyffredinol, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn disgwyl i’r dyddiad ar dystysgrif canlyniad y chwiliad o’r map mynegai beidio â bod yn hwy na 3 mis o’r dyddiad y cyflwynwyd y cais/ceisiadau am awdurdodiad a52 i’r Arolygiaeth Gynllunio) o dystysgrif canlyniad chwiliad o’r map mynegai mewn perthynas â’r tir (gan gynnwys y map a gyflwynwyd i’r Gofrestrfa Tir i gynnal y chwiliad). Dylai’r Ymgeisydd hefyd ddarparu tystiolaeth sy’n dangos sut yr amlygwyd bod gan y derbynnydd/derbynyddion arfaethedig fuddiant yn y tir anghofrestredig hwn, er enghraifft, cadarnhad ysgrifenedig gan y derbynnydd/derbynyddion arfaethedig neu gofnod o gyfarfod lle y cadarnhaodd yr unigolyn ei fuddiant yn y tir.

A5 – Cynlluniau sy’n amlygu’r tir y ceisir gwybodaeth am fuddiannau ynddo

A5.1 Mae’n rhaid i’r tir y ceisir gwybodaeth am fuddiannau ynddo fod yn dir y mae’r cais, neu’r cais arfaethedig, yn berthnasol iddo, neu unrhyw ran o’r tir hwnnw (a52(10) Deddf Cynllunio 2008).

A5.2 Dylid darparu cynllun, a farciwyd yn ‘Gynllun A’, i gyd-fynd â’r Tabl.

Dylai Cynllun A ddangos y canlynol:

  • wedi’i amlinellu mewn coch: maint y datblygiad a’r gwaith (Mae’n rhaid i’r cynllun gwaith (sy’n ofynnol o dan reoliad 5(2)(j) Rheoliadau Cynllunio Seilwaith
    (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009 (OS 2264)(fel y’u diwygiwyd)), ddangos y wybodaeth hon hefyd);
  • wedi’i amlygu mewn glas:: unrhyw dir a berchenogir neu a reolir gan yr Ymgeisydd, neu dylid rhoi cadarnhad nad oes unrhyw dir a berchenogir neu a reolir gan yr Ymgeisydd wedi’i ddangos ar Gynllun A;
  • wedi’i amlygu mewn gwyrdd: tir y ceisir gwybodaeth am fuddiannau ynddo, os awdurdodir hynny’n ddiweddarach gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol; a
  • lle y defnyddiwyd hysbysiadau safle/hysbysiadau meddiant gorfodol anstatudol i amlygu unigolion a chanddynt fuddiant anhysbys yn y tir: dylai lleoliad unrhyw hysbysiadau safle, a’r tir y rhoddwyd llythyrau/ hysbysiadau meddiant
    gorfodol mewn perthynas ag ef gael ei ddangos ar ‘Gynllun A’, os yw’n berthnasol (cyfeiriwch at Adran A6 i gael rhagor o wybodaeth am hysbysiadau safle/hysbysiadau meddiant gorfodol).

A5.3 Ni ddylai Cynllun A fod yn fwy na maint AO, dylai fod wedi’i lunio wrth raddfa a nodwyd (nad yw’n llai na 1:2500) a dylai ddangos cyfeiriad y gogledd.

A5.4 Lle mae unrhyw ran o’r tir a amlygir mewn gwyrdd ar Gynllun A yn gofrestredig, dylid dangos ffin y rhif(au) teitl cofrestredig yn eglur ar Gynllun A a neilltuo rhif llain iddi. Dylai ffin y rhifau teitl cofrestredig a ddangosir ar Gynllun A gyfateb yn union i ffin y rhif teitl a ddangosir ar gopi swyddogol y cynllun teitl. Lle nad yw hyn yn wir, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ceisio eglurhad gan yr Ymgeisydd a/neu’r derbynyddion arfaethedig. Dylai’r rhif(au) llain a neilltuwyd a’r rhif(au) teitl cofrestredig gael eu croesgyfeirio’n eglur i’r Tabl, a dylid rhoi copïau swyddogol cyfredol o ddogfennau’r
Gofrestrfa Tir
r i’r Arolygiaeth Gynllunio.

A5.5 Lle mae unrhyw ran o’r tir a amlygir mewn gwyrdd ar Gynllun A yn anghofrestredig, dylid dangos ffin y tir anghofrestredig yn eglur ar Gynllun A a neilltuo rhif llain iddi. Dylai’r rhif(au) llain a neilltuwyd fod yn amlwg yn y Tabl a dylid rhoi disgrifiad eglur o ardal y llain trwy gyfeirio at y ffin ac unrhyw nodweddion ffisegol. Dylai cyfeirnodau grid yr Arolwg Ordnans ar gyfer pob llain o dir anghofrestredig gael eu cynnwys yn y Tabl.

A5.6 Lle na ellir dangos ehangder llawn y tir sy’n ofynnol ar gyfer y datblygiad arfaethedig, neu’r tir y mae’r datblygiad arfaethedig yn effeithio arno (Er enghraifft, mae’n rhaid i’r cynllun tir (sy’n ofynnol o dan reoliad 5(2)(i) Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009 (OS 2264) (fel y’u diwygiwyd)), ddangos y wybodaeth hon a gellid ei ddefnyddio fel sail ar gyfer Cynllun A), ar un ‘Cynllun A’, er enghraifft o ganlyniad i faint y datblygiad arfaethedig, dylid darparu ‘Cynllun Allwedd’ ’ gyda mewnosodiadau. Dylai’r Cynllun Allwedd ddangos ehangder llawn y tir sy’n ofynnol ar gyfer y datblygiad arfaethedig, neu’r tir y mae’r datblygiad arfaethedig yn effeithio arno, a lleoliad y llain/lleiniau tir y ceisir awdurdodiad ar eu cyfer a’r cynlluniau mewnosod, y dylid eu hanodi fel Cynllun A1; Cynllun A2 ac ati.

A6 – Gwybodaeth sy’n dangos bod yr Ymgeisydd wedi gweithredu’n rhesymol ac y gwrthodwyd y wybodaeth a
geisiwyd yn afresymol

A6.1 Er nad oes prawf statudol mewn perthynas â’r hyn y dylai’r Ymgeisydd ei wneud i geisio cael gwybodaeth am fuddiannau yn y tir gan y derbynnydd/derbynyddion arfaethedig cyn gwneud cais am awdurdodiad a52 i’r Arolygiaeth Gynllunio, mae Cyfarwyddyd y DCLG yn datgan ‘Disgwylir i Ymgeiswyr weithredu’n rhesymol, gan geisio cael gwybodaeth berthnasol yn gyntaf…yn uniongyrchol cyn ceisio awdurdodiad o dan y darpariaethau hyn. Yn benodol, dylai Ymgeiswyr gyflwyno ceisiadau dim ond am yr agweddau hynny ar wybodaeth…yr ystyriant y gwrthodwyd y wybodaeth honno
iddynt yn afresymol’’ (Cyfarwyddyd y DCLG, Atodiad A).

A6.2 Felly, disgwylir i Ymgeiswyr ddangos eu bod wedi gwneud ymdrech resymol i gael gwybodaeth am fuddiannau yn y tir a amlygir mewn gwyrdd ar Gynllun A cyn cyflwyno’r cais/ceisiadau am awdurdodiad a52 i’r Arolygiaeth Gynllunio, ac esbonio pam, yn eu barn nhw, y gwrthodwyd y wybodaeth honno iddynt yn afresymol.

A6.3 Yn dibynnu ar amgylchiadau’r achos, gallai mesurau i geisio amlygu’r derbynnydd/derbynyddion arfaethedig a negodi â nhw gynnwys ysgrifennu llythyrau at unigolion y mae’r Ymgeisydd yn credu y gallai fod ganddynt fuddiant perthnasol yn y tir, neu gyflwyno hysbysiadau meddiant gorfodol anstatudol (‘hysbysiadau meddiant gorfodol’) iddynt, sy’n gofyn i’r derbynnydd/derbynyddion arfaethedig roi gwybodaeth i’r Ymgeisydd am fuddiannau yn y tir. Lle mae unigolion a chanddynt fuddiannau perthnasol yn y tir yn anhysbys, gallai mesurau gynnwys arddangos hysbysiadau safle
a/neu gyhoeddi hysbysiadau mewn papur(au) newyddion sy’n cael eu dosbarthu yn yr ardal y mae’r cais am awdurdodiad a52 yn berthnasol iddi. Dylai’r ymchwiliad dyfal a gynhaliwyd gan yr Ymgeisydd i amlygu’r derbynnydd/derbynyddion arfaethedig gael ei esbonio yn y cais am awdurdodiad.

A6.4 Lle mae Ymgeisydd wedi ysgrifennu llythyrau at unigolion y mae’n credu bod ganddynt fuddiant yn y tir y mae’r cais/ceisiadau a52 arfaethedig yn berthnasol iddo, neu wedi cyflwyno hysbysiad(au) meddiant gorfodol iddynt, dylid darparu copïau o’r cyfryw lythyrau/hysbysiadau meddiant gorfodol i’r Arolygiaeth Gynllunio ynghyd ag unrhyw gynlluniau neu atodiadau y cyfeirir atynt yn y llythyrau/hysbysiad(au) meddiant gorfodol. Dylid darparu copïau o unrhyw ymatebion  a dderbyniwyd oddi wrth y derbynyddion hefyd.

A6.5 Lle mae Ymgeisydd wedi postio hysbysiadau safle anstatudol a/neu gyhoeddi hysbysiadau mewn papur(au) newyddion yn ceisio gwybodaeth am fuddiannau mewn tir, dylid darparu copïau i’r Arolygiaeth Gynllunio ynghyd â manylion pryd a ble yr arddangoswyd yr hysbysiadau a/neu y’u cyhoeddwyd yn y papur(au) newyddion. Dylid hefyd rhoi cadarnhad bod cylchrediad y papurau newyddion yn rhychwantu ardal ddaearyddol sy’n cynnwys y tir y ceisir gwybodaeth am fuddiannau ynddo. Er mwyn sicrhau cysondeb ac eglurder, dylai fod yn amlwg pa rif(au) lleiniau a neilltuwyd ar Gynllun A y mae’r hysbysiadau’n berthnasol iddo/iddynt.

A6.6 Lle bynnag y bo’n bosibl, disgwylir i’r Ymgeisydd a’r derbynnydd/derbynyddion arfaethedig ohebu a thrafod â’i gilydd mewn ymgais i gael y wybodaeth am y buddiannau mewn tir, cyn gwneud y cais/ceisiadau am awdurdodiad a52.
Pan fydd y trafodaethau wedi digwydd dros gyfnod byr, dylai’r Ymgeisydd esbonio yn ei lythyr eglurhaol pam mae’n credu y gwrthodwyd y wybodaeth hon iddo’n afresymol, o ystyried y cyfnod byr i ddod i gytundeb â’r derbynnydd/derbynyddion arfaethedig.

A6.7 Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn disgwyl i’r Ymgeisydd roi gwybod i’r derbynnydd/derbynyddion arfaethedig ei fod yn ystyried ceisio awdurdodiad o dan a52, a hynny cyn gwneud y cais/ceisiadau am awdurdodiad, gan gyfeirio’r unigolion hyn at y nodyn cyngor hwn.

Atodlen Gohebiaeth

A6.8 Er mwyn cynorthwyo’r Arolygiaeth Gynllunio i adolygu’r cais/ceisiadau am awdurdodiad, dylai’r Ymgeisydd ddarparu atodlen (Awgrymir darparu llythyrau neu hysbysiadau meddiant gorfodol anstatudol fel modd o ddangos ymdrechion rhesymol yr Ymgeisydd i gael gwybodaeth am fuddiannau yn y tir. Ni fwriedir i hyn ragnodi dull penodol o ddangos ymdrechion rhesymol. Gallai’r Ymgeisydd hefyd ddewis cyfathrebu trwy gyfryngau eraill fel y ffôn, ffacs neu e-bost) (‘yr Atodlen Gohebiaeth’) sy’n amlinellu unrhyw ohebiaeth rhwng yr Ymgeisydd a’r derbynnydd/derbynyddion arfaethedig a/neu ei asiant/eu hasiant, sy’n cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • unrhyw lythyrau, nodiadau cyfarfod a nodiadau ffôn perthnasol
  • y dyddiadau yr anfonwyd ac y derbyniwyd yr ohebiaeth.

A6.9 Dylid darparu copïau o’r dogfennau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen Gohebiaeth gyda’r cais/ceisiadau am awdurdodiad. Lle mae’r dogfennau hyn yn cyfeirio at unrhyw ddogfennau eraill e.e. llythyrau blaenorol, dylid darparu’r rhain hefyd. Os na ddarperir y dogfennau hyn, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn gofyn am gopïau, a allai achosi oedi cyn gwneud penderfyniad ynglŷn â’r cais/ceisiadau am awdurdodiad.

Gohebu â mwy nag un derbynnydd arfaethedig

A6.10 Os oes mwy nag un derbynnydd arfaethedig mewn perthynas â phob cais am awdurdodiad a52, ond mae’r Ymgeisydd wedi bod yn gohebu ag unigolyn penodol, dylai’r Ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig fod gan yr unigolyn hwn yr awdurdod i weithredu ar ran yr holl dderbynyddion arfaethedig a amlygwyd.

A6.11 Yn yr un modd, os yw’r Ymgeisydd wedi bod yn gohebu ag asiant ar ran y derbynnydd, dylid darparu tystiolaeth ysgrifenedig i gadarnhau bod gan yr asiant yr awdurdod i weithredu ar ran y derbynnydd/derbynyddion arfaethedig.

A6.12 Dylai’r dystiolaeth hon fod ar ffurf gohebiaeth gan yr holl dderbynyddion arfaethedig sy’n cadarnhau bod gan yr unigolyn penodol/asiant yr awdurdod i weithredu ar eu rhan.

A7 – Tystiolaeth sy’n dangos yr hysbyswyd y derbynnydd/derbynyddion arfaethedig bod cais am awdurdodiad
wedi’i wneud i’r Arolygiaeth Gynllunio

A7.1 Nid yw’n ofynnol i’r Arolygiaeth Gynllunio ymgynghori â’r derbynnydd/derbynyddion arfaethedig ar ôl i gais am awdurdodiad a52 gael ei gyflwyno. Fodd bynnag, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn disgwyl i’r Ymgeisydd anfon llythyr hysbysu at bob un o’r derbynyddion arfaethedig a amlygwyd gan yr Ymgeisydd yn y Tabl (ac anfon copi ohono at asiantau sy’n gweithredu ar ran pob derbynnydd, os yw’n berthnasol), sy’n cynnwys copi union o’r cais/ceisiadau am awdurdodiad a ddarparwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio. Dylai’r llythyr hysbysu roi gwybod i’r derbynnydd/derbynyddion arfaethedig y cânt gyflwyno sylwadau i’r Arolygiaeth Gynllunio ar y cais/ceisiadau am awdurdodiad erbyn y dyddiad a nodir yn y llythyr hysbysu; ni ddylai’r dyddiad hwn fod llai na 14 diwrnod yn dechrau y diwrnod ar ôl y diwrnod y disgwylir i’r derbynnydd/derbynyddion arfaethedig dderbyn yr hysbysiad (Er enghraifft, os anfonir y llythyr trwy ddanfoniad arbennig sy’n gwarantu y bydd yn cyrraedd y diwrnod wedyn, bydd y cyfnod lleiaf o 14 diwrnod yn dechrau y diwrnod ar ôl y diwrnod y disgwylir i’r llythyr gyrraedd h.y. 2 ddiwrnod ar ôl i’r llythyr gael ei anfon).

A7.2 Os yw’r tir yn gofrestredig, dylid anfon copi o’r cais am awdurdodiad i gyfeiriad y derbynnydd/derbynyddion arfaethedig, fel yr amlygir yn y Rhif Teitl cofrestredig perthnasol. Os anfonir gohebiaeth i gyfeiriad sy’n wahanol i’r cyfeiriad hwnnw, dylai’r Ymgeisydd esbonio pam yn y llythyr cais am awdurdodiad.

A7.3 Dylai pob unigolyn a restrir yn y Tabl dderbyn copi ar wahân o’r dogfennau, hyd yn oed os yw’r Rhif Teitl cofrestredig perthnasol yn dangos bod dau neu fwy ohonynt wedi’u cofrestru yn yr un cyfeiriad. Diben hyn yw sicrhau yr anfonir copi o’r llythyr hysbysu a’r cais am awdurdodiad at bob un ohonynt.

A7.4 Dylid rhoi copïau o’r llythyrau hysbysu i’r Arolygiaeth Gynllunio. Dylai Ymgeiswyr fod yn ymwybodol y gallai’r Arolygiaeth Gynllunio ofyn am dystiolaeth i ddangos bod y llythyrau hysbysu hyn wedi cael eu danfon, e.e. os yw’r derbynnydd/derbynyddion arfaethedig yn honni nad ydynt wedi derbyn y llythyr hysbysu. Felly, dylai Ymgeiswyr ystyried o flaen llaw sut y gallai’r dystiolaeth hon gael ei darparu.

A7.5 5 Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio hefyd yn ysgrifennu at y derbynyddion arfaethedig i gadarnhau bod cais am awdurdodiad wedi cael ei wneud gan yr Ymgeisydd ac i gadarnhau’r dyddiad erbyn pryd y dylent gyflwyno unrhyw sylwadau i’r Arolygiaeth Gynllunio (Bydd y dyddiad hwn yr un fath â hwnnw a nododd yr Ymgeisydd yn ei lythyr hysbysu at yr unigolion â buddiant, cyn belled ag nad yw’r dyddiad olaf a bennwyd gan yr Ymgeisydd llai na 14 diwrnod yn dechrau y diwrnod ar ôl y diwrnod y disgwylir i’r unigolion â buddiant dderbyn yr hysbysiad). Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn tybio nad oes gan y derbynyddion arfaethedig unrhyw sylwadau i’w gwneud ar y cais am awdurdodiad a52 os nad yw’r Arolygiaeth Gynllunio wedi derbyn unrhyw
sylwadau erbyn y dyddiad hwn.

A8 – Am ba hyd y ceisir awdurdodiad a52

A8.1 Yn y rhan fwyaf o achosion, disgwylir y byddai awdurdodiad, pe byddai’n cael ei roi, yn dod i ben 12 mis ar ôl y dyddiad awdurdodi, neu, pe byddai’n cael ei roi yn ystod y cam cyn-ymgeisio, ar ddyddiad cyflwyno cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu ar gyfer y datblygiad arfaethedig yn unol ag a37 Deddf Cynllunio 2008 (lle y cyflwynir y cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu cyn diwedd y cyfnod 12 mis hwnnw).

A8.2 Os yw’r Ymgeisydd eisiau i’r cyfnod awdurdodi ymestyn yn hwy na 12 mis, neu ddyddiad cyflwyno’r cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu i’r Ysgrifennydd Gwladol, dylai’r Ymgeisydd ofyn am hyn yn ei lythyr eglurhaol gan roi esboniad clir o’i resymau pam. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ystyried hyn wrth bennu hyd yr hysbysiad awdurdodi, os yw’n credu y dylid rhoi awdurdodiad ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol.

A9 – Rhestr wirio

A9.1 Amgaeir rhestr wirio yn Atodiad B y dylai’r Ymgeisydd ei chwblhau er mwyn helpu i sicrhau bod y wybodaeth ofynnol yn cael ei darparu i’r Arolygiaeth Gynllunio. Dylai’r ddalen flaen a’r rhestr wirio wedi’u cwblhau gael eu darparu i’r Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer pob cais am awdurdodiad a52.

[Cyfeirir Ymgeiswyr at Adran C isod hefyd]

B) Gwybodaeth a chyngor I dderbynyddion arfaethedig

Mae’r adran hon yn rhoi cyngor i dderbynyddion arfaethedig hysbysiad buddiannau tir, er mwyn eu helpu i ddeall y broses a52 a sut y gallant gyflwyno sylwadau i’r Arolygiaeth Gynllunio, cyn i benderfyniad gael ei wneud.

1.1 Mae awdurdodiad a52 yn ymwneud yn unig â darparu gwybodaeth i gynorthwyo Ymgeiswyr i gynnal eu hymgynghoriad cyn-ymgeisio, hysbysu ynglŷn â chais arfaethedig am Orchymyn Caniatâd Datblygu a’i gyhoeddi, neu gyflawni rhwymedigaethau hysbysu a chyhoeddi a osodir arnynt ar ôl i gais o’r fath gael ei dderbyn i’w Archwilio. Pan nad yw cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu wedi’i gyflwyno eto, nid yw awdurdodiad o dan a52 yn rhagbennu p’un a fyddai’r cais arfaethedig yn cael ei dderbyn i’w archwilio gan yr Ysgrifennydd Gwladol, na ph’un a fyddai’r datblygiad arfaethedig yn cael caniatâd datblygu pe byddai’n cael ei dderbyn. Yn yr un modd, pan fydd cais wedi cael ei dderbyn i’w Archwilio, nid yw awdurdodiad o dan a52 yn rhagbennu p’un a fyddai caniatâd datblygu’n cael ei roi i’r datblygiad arfaethedig.

2. Cyn i’r cais am awdurdodiad a52 gael ei wneud

2.1 Disgwylir i Ymgeisydd weithredu’n rhesymol cyn cyflwyno cais am awdurdodiad a52 a cheisio cael y wybodaeth berthnasol yn wirfoddol yn gyntaf (Yn unol â Chyfarwyddyd y DCLG, Atodiad A). Lle bynnag y bo’n bosibl, disgwylir i’r Ymgeisydd a’r derbynnydd/derbynyddion arfaethedig ohebu a thrafod â’i gilydd mewn ymgais i gael y wybodaeth, cyn gwneud y cais am awdurdodiad a52. Os nad yw hyn wedi digwydd, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn gofyn i’r Ymgeisydd esbonio pam.

2.2 Lle mae’r Ymgeisydd yn amlygu bod gan fwy nag un unigolyn fuddiant yn y tir, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn disgwyl i’r Ymgeisydd fod wedi ceisio cael gwybodaeth berthnasol gan bob un o’r unigolion hynny, ac os nad yw hyn wedi digwydd, bydd yn gofyn i’r Ymgeisydd esbonio pam.

2.3 Dylai’r Ymgeisydd ystyried gwneud cais i’r Arolygiaeth Gynllunio am awdurdodiad dim ond pan fydd o’r farn y gwrthodwyd rhoi’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn afresymol (Cyfarwyddyd y DCLG, Atodiad A). Mewn amgylchiadau o’r fath, dylai’r Ymgeisydd roi gwybod i’r derbynnydd/derbynyddion arfaethedig am ei fwriad i gyflwyno cais am awdurdodiad a52, a hynny cyn gwneud cais o’r fath, gan gyfeirio’r unigolion hyn at y nodyn cyngor hwn.

3. Gwneud sylwadau ar gais/ceisiadau’r Ymgeisydd am awdurdodiad a52

3.1 Pan fydd Ymgeisydd yn gwneud cais am awdurdodiad, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn disgwyl i’r Ymgeisydd anfon llythyr hysbysu at bob derbynnydd arfaethedig (ac, os yw’n berthnasol, anfon copi ohono at asiantau sy’n gweithredu ar eu rhan) gan amgáu copi union o’r cais am awdurdodiad a roddwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio. Dylai’r llythyr hysbysu roi gwybod i’r derbynnydd/derbynyddion arfaethedig y cânt gyflwyno sylwadau i’r Arolygiaeth Gynllunio ar y cais/ceisiadau am awdurdodiad erbyn y dyddiad cau a nodir yn y llythyr hysbysu; ni ddylai’r dyddiad hwn fod llai na 14 diwrnod yn
dechrau y diwrnod ar ôl y diwrnod y disgwylir i’r derbynnydd/derbynyddion arfaethedig dderbyn yr hysbysiad (Er enghraifft, os anfonir y llythyr trwy ddanfoniad arbennig sy’n gwarantu y bydd yn cyrraedd y diwrnod wedyn, bydd y cyfnod lleiaf o 14 diwrnod yn dechrau y diwrnod ar ôl y diwrnod y disgwylir i’r llythyr gyrraedd h.y. 2 ddiwrnod ar ôl i’r llythyr gael ei anfon).

3.2 Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio hefyd yn ysgrifennu at y derbynyddion arfaethedig i gadarnhau bod cais am awdurdodiad wedi cael ei wneud gan yr Ymgeisydd ac i gadarnhau’r dyddiad erbyn pryd y dylent gyflwyno unrhyw sylwadau i’r Arolygiaeth Gynllunio (Bydd y dyddiad hwn yr un fath â hwnnw a nododd yr Ymgeisydd yn ei lythyr hysbysu at yr unigolion â buddiant, cyn belled ag nad yw’r dyddiad olaf a bennwyd gan yr Ymgeisydd llai na 14 diwrnod yn dechrau y diwrnod ar ôl y diwrnod y disgwylir i’r unigolion â buddiant dderbyn yr hysbysiad). Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn tybio nad oes gan y derbynyddion arfaethedig unrhyw sylwadau i’w gwneud ar y cais am awdurdodiad a52 os nad yw’r Arolygiaeth Gynllunio wedi derbyn unrhyw sylwadau ganddynt erbyn y dyddiad hwn

3.3 Gallai derbynnydd arfaethedig ddymuno cyflogi asiant i weithredu ar ei ran. Mewn achosion o’r fath, dylai’r asiant neu’r derbynnydd/derbynyddion arfaethedig ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig i’r Arolygiaeth Gynllunio gan y derbynnydd/derbynyddion sy’n cadarnhau bod yr asiant wedi’i awdurdodi i weithredu ar ran pob un ohonynt.

3.4 TCynghorir y derbynyddion arfaethedig i adolygu’r cais/ceisiadau am awdurdodiad a anfonwyd atynt gan yr Ymgeisydd yn ofalus ac fe’u hanogir i wneud sylwadau i’r Arolygiaeth Gynllunio, fel y manylir isod. Bydd hyn o gymorth wrth wneud penderfyniad.

3.5 Os hoffai derbynnydd arfaethedig wneud sylwadau, byddai’n ddefnyddiol i’r Arolygiaeth Gynllunio pe byddai’r sylw/ sylwadau yn cynnwys y wybodaeth ganlynol, wedi’i labelu fel a ganlyn:

    • B1. Cadarnhad bod y wybodaeth a gyflwynwyd yng nghais/ceisiadau’r Ymgeisydd yn gywir
    • B2. Rhesymau dros wrthod rhoi gwybodaeth
    • B3. Sylwadau ar hyd unrhyw awdurdodiad a52

B1. Cadarnhad bod y wybodaeth a gyflwynwyd yng nghais/ceisiadau’r Ymgeisydd am awdurdodiad yn gywir

B1.1 Anogir y derbynyddion arfaethedig i gadarnhau i’r Arolygiaeth Gynllunio p’un a yw’r wybodaeth a gyflwynwyd yng nghais yr Ymgeisydd am awdurdodiad yn gywir. Mae hyn yn cynnwys cadarnhau p’un a yw’r Atodlen Gohebiaeth a amgaewyd gyda’r cais/ceisiadau am awdurdodiad yn cynnwys yr holl ohebiaeth berthnasol; p’un a oedd y derbynnydd/ derbynyddion a enwyd wedi derbyn yr holl ohebiaeth a restrir ynddi; a bod unrhyw nodiadau cyfarfod a/neu nodiadau ffôn neu ddogfennau eraill a ddarparwyd yn adlewyrchiad cywir o’r trafodaethau rhwng yr Ymgeisydd a’r derbynyddion arfaethedig mewn perthynas â’r wybodaeth y mae’r cais/ceisiadau awdurdodiad a52 yn ymwneud â hi.

B1.2 Gofynnir i dderbynyddion hefyd roi copïau i’r Arolygiaeth Gynllunio o unrhyw ohebiaeth arall a fu rhyngddynt â’r Ymgeisydd na ddarparwyd gan yr Ymgeisydd ac y maen nhw’n credu ei bod yn berthnasol i’r cais/ceisiadau am awdurdodiad a52.

B2. Rhesymau dros wrthod rhoi gwybodaeth berthnasol

B2.1 Anogir y derbynyddion arfaethedig i esbonio’n glir i’r Arolygiaeth Gynllunio eu rhesymau dros wrthod rhoi’r wybodaeth berthnasol i’r Ymgeisydd (os gwnaethant wrthod).

B3. Sylwadau ar hyd unrhyw awdurdodiad a52

B3.1 Yn y rhan fwyaf o achosion, disgwylir y byddai awdurdodiad, pe byddai’n cael ei roi, yn dod i ben 12 mis ar ôl y dyddiad awdurdodi, neu, pe byddai’n cael ei roi yn ystod y cam cyn-ymgeisio, ar ddyddiad cyflwyno cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu ar gyfer y datblygiad arfaethedig yn unol ag a37 Deddf Cynllunio 2008 (lle y cyflwynir y cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu cyn diwedd y cyfnod 12 mis hwnnw).

B3.2 Os yw’r derbynnydd/derbynyddion arfaethedig eisiau i’r cyfnod awdurdodi fod yn wahanol i’r hyd disgwyliedig a esbonnir uchod, dylent roi manylion unrhyw gyfnod amgen a awgrymant i’r Arolygiaeth Gynllunio, gan esbonio’r rhesymau pam yn eglur. Bydd hyn yn cael ei ystyried wrth bennu hyd yr hysbysiad awdurdodi, os yw’r Arolygiaeth Gynllunio yn credu y dylid rhoi awdurdodiad ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol.

[Cyfeirir derbynyddion arfaethedig at Adran C isod hefyd]

C) Gwybodaeth a chyngor cyffredinol I ymgeiswyr a derbynyddion arfaethedig

Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg cyffredinol sy’n berthnasol i Ymgeiswyr a derbynyddion arfaethedig, ac yn esbonio sut y gweinyddir y cais/ceisiadau am awdurdodiad a52.

1. Cais am wybodaeth ychwanegol

1.1 Ar ôl i’r derbynnydd/derbynyddion arfaethedig gael cyfle i wneud sylwadau ar y cais/ceisiadau am awdurdodiad, ac os yw’r Arolygiaeth Gynllunio yn credu bod hynny’n briodol, gallai’r Arolygiaeth Gynllunio ofyn i’r Ymgeisydd a/neu’r derbynnydd/derbynyddion arfaethedig am sylwadau neu wybodaeth ychwanegol. Os felly, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn nodi dyddiad terfyn ar gyfer cyflwyno’r wybodaeth hon, na fydd yn llai na 7 diwrnod yn dechrau’r diwrnod ar ôl y
diwrnod y disgwylir i’r cais hwnnw gael ei dderbyn gan y sawl y’i cyfeiriwyd atod (Er enghraifft, os anfonir y cais am wybodaeth ychwanegol yn electronig, bydd y terfyn amser lleiaf o 7 diwrnod yn dechrau y diwrnod ar ôl y diwrnod y disgwylir iddo gyrraedd h.y. y diwrnod ar ôl iddo gael ei anfon os caiff ei anfon yn electronig, oherwydd tybir bod unrhyw wybodaeth a anfonir yn electronig yn cael ei derbyn y diwrnod y’i hanfonir). Yn union ar ôl diwedd y terfyn amser hwn, ac yn amodol ar unrhyw geisiadau dilynol am wybodaeth ychwanegol, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn symud ymlaen i benderfynu ar y cais/ceisiadau am awdurdodiad ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol.

1.2 Felly, cynghorir yr Ymgeisydd a/neu’r derbynnydd/derbynyddion arfaethedig i gyflwyno unrhyw sylwadau neu wybodaeth erbyn y terfyn(au) amser a nodwyd er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu hystyried gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol.

2. Penderfynu ar y cais/ceisiadau am awdurdodiad a52

2.1 Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, yn ystyried unrhyw wybodaeth a ddarparwyd gan yr Ymgeisydd a’r derbynnydd/derbynyddion arfaethedig erbyn y terfynau amser a nodwyd, ac yn gwneud penderfyniad ar y cais/ceisiadau am awdurdodiad.

2.2 Ar ôl penderfynu ar y cais, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn anfon copi o’r penderfyniad at yr Ymgeisydd a’r derbynnydd/derbynyddion arfaethedig, naill ai’n awdurdodi cyflwyno hysbysiad buddiannau tir neu’n gwrthod y cais/ceisiadau. Rhoddir rhesymau i ategu’r penderfyniad.

2.3 Bydd y penderfyniad yn cael ei gyhoeddi ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol ac yn cynnwys y rhesymau sy’n ategu’r penderfyniad.

3. Amserlen ar gyfer penderfynu ar geisiadau am awdurdodiad

3.1 Nid oes amserlen statudol ragnodedig y mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio ei dilyn wrth benderfynu ar gais am awdurdodiad ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol. Fodd bynnag, disgwyliwn y gallai gymryd tua 3 mis i benderfynu ar geisiadau am awdurdodiad a52, o ddyddiad derbyn y cais/ceisiadau am awdurdodiad.

3.2 Canllaw yn unig yw’r amserlen hon ac mae’n dibynnu ar gymhlethdod a nifer y ceisiadau am awdurdodiad, digonolrwydd y wybodaeth gychwynnol a ddarparwyd gan yr Ymgeisydd ac unrhyw faterion a godwyd mewn ymatebion gan y derbynnydd/derbynyddion arfaethedig. Bydd angen i Ymgeiswyr fod yn ymwybodol o’r amserlen ddisgwyliedig hon a’i heffaith bosibl ar raglen gyffredinol eu prosiect.

4. Gweithredu’r awdurdodiad

Os awdurdodir hysbysiad buddiannau tir gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, rhaid iddo fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo (a52(4) Deddf Cynllunio 2008):

      • ddatgan bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi awdurdodi’r Ymgeisydd i gyflwyno’r hysbysiad;
      • nodi neu ddisgrifio’r tir y mae’r cais, neu’r cais arfaethedig, yn berthnasol iddo;
      • nodi’r terfyn amser erbyn pryd y mae’n rhaid i’r derbynnydd roi’r wybodaeth sy’n ofynnol i’r Ymgeisydd; a
      • thynnu sylw at y darpariaethau yn is-adrannau (6) i (9) a52 sy’n ymwneud â throseddau.

4.1 Ni fydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn darparu nac yn cymeradwyo hysbysiad buddiannau tir ar ffurf ddrafft. Cyfrifoldeb yr unigolyn a awdurdodwyd yw sicrhau bod unrhyw hysbysiad buddiannau tir yn bodloni’r holl ofynion cyfreithiol.

4.2 Mae’n drosedd i unigolyn ddarparu gwybodaeth anwir, mewn ymateb i hysbysiad buddiannau tir, pan fo’r unigolyn yn gwybod bod y wybodaeth honno’n anwir neu y dylai wybod hynny’n rhesymol (a52(7) Deddf Cynllunio 2008 ). Bydd methiant i gydymffurfio â hysbysiad buddiannau tir yn arwain at ganlyniadau difrifol (a52(6) Deddf Cynllunio 2008) ac fe allai arwain at atebolrwydd troseddol (a52(9) Deddf Cynllunio 2008).

4.3 The Planning Inspectorate will not be responsible for ensuring compliance with any s52 authorisations issued on behalf of the Secretary of State.

5. Diogelu data

5.1 Bydd gwybodaeth a roddir i’r Arolygiaeth Gynllunio gan yr Ymgeisydd, y derbynnydd/derbynyddion arfaethedig, neu eu hasiantau, yn cael ei thrin gan yr Arolygiaeth Gynllunio yn unol â’i rhwymedigaethau o dan Ddeddf Diogelu Data
1998. Oherwydd bod y wybodaeth hon yn ymwneud â mater tir preifat, ni fydd ar gael fel mater o drefn ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Fodd bynnag, bydd llythyr penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol, ynghyd ag unrhyw amodau a’r rhesymau dros y penderfyniad, ar gael ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol ar ôl i’r broses ddod i ben.

6. Adolygu’r nodyn cyngor hwn

6.1 Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn adolygu’r nodyn cyngor hwn yn rheolaidd a’i ddiweddaru fel y bo’n briodol.