Nodyn Cyngor 11, Atodiad H – Cynlluniau Tystiolaeth ar gyfer Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd o Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol

Cyflwyniad

Ers mis Medi 2012, mae darpar ymgeiswyr ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIPs) sydd wedi’u lleoli yn Lloegr, neu yng Nghymru yn Lloegr, wedi gallu gwneud cais am a chytuno ar ‘Gynlluniau Tystiolaeth’ gyda’r cyrff cadwraeth natur statudol (SNCBs) perthnasol.

Mae Cynllun Tystiolaeth yn fodd o gytuno ar y wybodaeth y mae angen i’r Ymgeisydd ei chyflenwi i’r Arolygiaeth Gynllunio (yr Arolygiaeth) wrth wneud cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO), a’i chofnodi o flaen llaw, fel y gellir cynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) o’r cais yn effeithlon.

Mae hyn yn rhoi mwy o ffydd bod gwybodaeth sy’n angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â gofynion Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y’u diwygiwyd) neu Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017 (fel y’u diwygiwyd) (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel y ‘Rheoliadau Cynefinoedd’) yn cael ei darparu.

Ar y cam Derbyn, mae’n helpu ymgeiswyr i fodloni’r gofyniad i ddarparu digon o wybodaeth (fel yr esbonnir yn Nodyn Cyngor 10: Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd sy’n berthnasol i Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yr Arolygiaeth) yn eu cais, fel y gall yr Awdurdod Archwilio argymell i’r Ysgrifennydd Gwladol:

  • P’un ai derbyn y cais i’w archwilio ai peidio; a
  • ph’un a oes angen asesiad priodol.

Bydd Cynllun Tystiolaeth cytunedig yn lleihau’r perygl o oedi NSIPs o ganlyniad i faterion sy’n ymwneud â’r Rheoliadau Cynefinoedd yn ystod esblygiad cais DCO arfaethedig, trwy:

  • Roi mwy o sicrwydd i’r holl bartïon ynglŷn â faint o dystiolaeth ac amrediad y dystiolaeth y dylai ymgeisydd ei chasglu.
  • Helpu i fynd i’r afael â materion a chytuno arnynt yn gynharach yn ystod y cam cyn-ymgeisio fel y gellir gwneud penderfyniadau cadarn ac amserol.
  • Ffocysu’r gofynion tystiolaeth fel eu bod yn gymesur ag effeithiau posibl yr NSIPs a bod y costau i ymgeiswyr yn cael eu lleihau gymaint â phosibl.
  • Cynorthwyo i gytuno ar faterion yn ystod y cam cyn-ymgeisio; bydd hyn yn helpu i leihau cymhlethdod y materion a ystyrir yn ystod archwiliad, sy’n cael ei reoli gan derfynau amser statudol caeth.

Nid yw cynlluniau tystiolaeth yn disodli nac yn dyblygu gofynion presennol. Dylai cynllun cael ei lunio i gyd-fynd â’r broses ymgeisio am DCO, gan gynnwys y prosesau ymgynghori cyn-ymgeisio a chwmpasu Asesiad o Effeithiau Amgylcheddol (EIA) ffurfiol. Argymhellir hefyd bod yr Ymgeisydd yn ystyried sut gallai gwybodaeth a gasglwyd i gwblhau’r Cynllun Tystiolaeth fod yn ddefnyddiol wrth baratoi Datganiad Amgylcheddol.

Trosolwg o’r broses Cynllun Tystiolaeth

Mae’r opsiwn i ofyn am Gynllun Tystiolaeth a chytuno arno ar gael i bob ymgeisydd am NSIP arfaethedig sydd wedi’i leoli yn Lloegr, neu yng Nghymru a Lloegr, ac sy’n dechrau’r cam Cyn-ymgeisio (h.y. pan fydd yr Arolygiaeth wedi cael gwybod yn anffurfiol am brosiect ac fe’i cyhoeddwyd ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol). Proses wirfoddol ydyw ac mae Cynllun Tystiolaeth yn gytundeb nad yw’n gyfreithiol rwymol rhwng yr Ymgeisydd a’r SNCB neu’r SNCBs perthnasol.

Sylwer: Natural England yw’r SNCB perthnasol ar y tir a hyd at 12 môr-filltir o’r arfordir yn Lloegr, a Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r SNCB cyfatebol ar gyfer Cymru. Y tu hwnt i 12 môr-filltir, y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) yw’r SNCB perthnasol (heblaw ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy, lle mae’r JNCC wedi dirprwyo ei awdurdod statudol i Natural England).

Yr Arolygiaeth yw asiantaeth y Llywodraeth sy’n gyfrifol am ymdrin ag agweddau gweithdrefnol ar geisiadau NSIP ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol. Dylai’r Arolygiaeth, felly, gael cyfle i wneud sylwadau ar y cynllun drafft heb ddod yn rhan o’r cytundeb. Yn ogystal, lle y ceir anghytundeb rhwng ymgeisydd a’r SNCB neu’r SNCBs perthnasol, gallai’r Arolygiaeth gynnal cyfarfodydd teirochrog i geisio datrys y materion.

Pan fydd angen caniatadau a/neu drwyddedau eraill ar gyfer y cais DCO, dylai’r Ymgeisydd roi cyfle i gyrff caniatáu eraill a allai fod yn awdurdodau cymwys hefyd (y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel ‘cyrff caniatáu eraill’) wneud sylwadau ar Gynllun Tystiolaeth drafft. Dylid cytuno ar berthnasoedd gweithio penodol â’r cyrff hyn ar sail achosion unigol. Gall cyrff caniatáu eraill ddod yn rhan o’r cynllun, ond nid oes rhwymedigaeth arnynt i wneud hynny.

Yn ogystal, bydd yr SNCB neu’r SNCBs perthnasol yn ymgysylltu ag asiantaethau eraill, fel Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr, ynglŷn â gofynion tystiolaeth penodol pan fydd ganddynt arbenigedd arweiniol. Dylai’r Ymgeisydd, fel mater o arfer da, hefyd amlygu unrhyw sefydliadau anllywodraethol (NGOs) amgylcheddol y byddai’n werth ymgysylltu â nhw.

Mae pedwar cam i’r broses Cynllun Tystiolaeth a ddisgrifir yn fanylach isod, sef:

  1. Mae’r Ymgeisydd yn gofyn am Gynllun Tystiolaeth.
  2. Mae’r Ymgeisydd a’r SNCB neu’r SNCBs perthnasol yn cytuno ar strwythur a chynnwys cychwynnol y Cynllun Tystiolaeth.
  3. Mae’r Ymgeisydd yn casglu ac yn dadansoddi’r dystiolaeth ac mae’r SNCB neu’r SNCBs perthnasol yn asesu’r dystiolaeth trwy broses ailadroddol. Mae’r Ymgeisydd a’r SNCBs yn cytuno ar faterion penodol a ddatryswyd.
  4. Mae’r broses Cynllun Tystiolaeth yn cael ei chwblhau’n derfynol a’i chytuno gan yr Ymgeisydd a’r SNCB neu’r SNCBs yn ystod y cam Cyn-ymgeisio.

Dylid cydnabod na fydd Cynllun Tystiolaeth yn atal ceisiadau am dystiolaeth ychwanegol gan yr Awdurdod Archwilio ar y cam Archwiliad, na chan yr Ysgrifennydd Gwladol ar y cam asesiad priodol. Nod y Cynllun Tystiolaeth yw cynyddu ffydd yn y wybodaeth a ddarperir yn y cais a lleihau’r angen am geisio gwybodaeth ychwanegol.

Wrth gymryd rhan yn y broses Cynllun Tystiolaeth, disgwylir i ymgeiswyr:

  • Ymgysylltu’n weithredol ac yn adeiladol ag SNCBs, yr Arolygiaeth a chyrff caniatáu eraill drwy gydol y broses.
  • Casglu’r dystiolaeth a’i dadansoddi gan ddefnyddio methodoleg y cytunwyd arni, gan gadw at raddfeydd amser cytunedig.
  • Derbyn y gallai gofynion tystiolaeth newid drwy gydol y broses, o ganlyniad i newidiadau i’r cais NSIP arfaethedig a/neu o ganlyniad i dystiolaeth sy’n amlygu meysydd pryder newydd.

Wrth gymryd rhan yn y broses Cynllun Tystiolaeth, disgwylir i SNCB:

  • Geisio datrysiadau pragmatig (e.e. i ansicrwydd a/neu dystiolaeth sy’n newid).
  • Defnyddio ymagwedd gymesur, gan osod lefelau tystiolaeth, methodoleg asesu a meini prawf dehongli priodol, a cheisio tystiolaeth sy’n gyfiawnadwy ac yn gyson â’r materion sy’n cael eu hystyried.
  • Peidio â newid gofynion tystiolaeth, heblaw:
    • Ar ôl asesu tystiolaeth a ddarparwyd gan yr Ymgeisydd sy’n amlygu meysydd pryder newydd.
    • Ar ôl i dystiolaeth, gwybodaeth neu ymchwil berthnasol ddod i’r amlwg a fyddai’n effeithio ar ba wybodaeth sy’n ofynnol.
    • Ar ôl newid i’r cynnig NSIP sy’n debygol o newid yr effeithiau posibl ac felly’r gofynion tystiolaeth i fynd i’r afael â nhw.
  • Ymgysylltu’n rhagweithiol, gan roi arweiniad a chyngor clir, gyda’r bwriad o geisio datrys materion ar y cam cyn-ymgeisio a chadw at y terfynau amser cytunedig a nodwyd yn y Cynllun Tystiolaeth.
  • Bod yn glir ynglŷn â’r gwaith y byddant yn codi tâl amdano a’r gyfradd, neu’r cyfraddau, y byddant yn ei chodi/eu codi, a rhoi gwybod am y rhain cyn i ddatblygwr fynd i gostau.

Gweithredu’r broses Cynllun Tystiolaeth

Cam 1: Gofyn am Gynllun Tystiolaeth

Gall unrhyw ymgeisydd ar gyfer NSIP arfaethedig yn Lloegr, neu yng Nghymru a Lloegr, ofyn am Gynllun Tystiolaeth. Bydd yn arbennig o berthnasol i NSIPs lle y gallai’r effeithiau fod yn gymhleth, lle y gallai fod angen symiau mawr o dystiolaeth neu lle mae nifer o bethau’n ansicr. Dylid gofyn am Gynllun Tystiolaeth ar ddechrau’r cam Cyn-ymgeisio (ar ôl rhoi gwybod i’r Arolygiaeth yn anffurfiol) trwy gysylltu â’r SNCB neu’r SNCBs perthnasol.

Sylwer: Gellir cysylltu â Natural England ar [email protected], gellir cysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru ar https://naturalresources.wales/about-us/contact-us a gellir cysylltu â’r JNCC ar https://jncc.gov.uk/contact.

Pan fydd cais wedi’i dderbyn ac mae’r SNCB neu’r SNCBs wedi cytuno i weithio ar gynllun, bydd yr SNCB neu’r SNCBs yn rhoi gwybod i’r Arolygiaeth ac unrhyw gyrff caniatáu eraill sy’n berthnasol. Bydd yr SNCB neu’r SNCBs, ar y cyd â’r Ymgeisydd, yn cytuno ar gyfnod i gytuno ar y Cynllun Tystiolaeth. Awgrymir tri mis fel canllaw, ond mae cyfnod hwy yn dderbyniol. Yn Natural England, bydd yr holl waith a wneir yn rhan o Gynllun Tystiolaeth yn dod o dan wasanaethau Natural England y codir tâl amdanynt.

Cam 2: Cytuno ar Gynllun Tystiolaeth

Mae’r Cynllun Tystiolaeth yn gytundeb nad yw’n gyfreithiol rwymol rhwng yr Ymgeisydd NSIP a’r SNCB neu’r SNCBs perthnasol. Mae’r Ymgeisydd yn paratoi ac yn cynnal y cynllun yn barhaus hyd nes yr ystyrir ei fod wedi’i gwblhau. Cytunir ar y cynllun cychwynnol o fewn tri mis, oni bai bod yr Ymgeisydd a’r SNCBs perthnasol wedi cytuno ar gyfnod hwy.

Pan fydd y Cynllun Tystiolaeth wedi cael ei gytuno, fe’i cyhoeddir ar dudalen berthnasol y prosiect ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol.

Dylai’r Ymgeisydd roi cyfle i’r Arolygiaeth ac unrhyw gyrff caniatáu eraill wneud sylwadau ar gynnwys y Cynllun Tystiolaeth drafft. Yn ogystal, mae’n arfer da i’r Ymgeisydd drafod y Cynllun Tystiolaeth drafft gydag NGOs amgylcheddol perthnasol er mwyn iddo fynd i’r afael â materion y gallent eu codi ar gam cynnar. Gallai hyn osgoi ceisiadau annisgwyl, ac weithiau diangen, am wybodaeth bellach yn ddiweddarach yn y broses.

Prif nod y Cynllun Tystiolaeth yw galluogi asesiad gwybodus i gael ei gynnal o effeithiau posibl NSIP ar safle Ewropeaidd neu safleoedd Ewropeaidd (h.y. Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a/neu safleoedd Ramsar).

Dylai’r Cynllun Tystiolaeth, a fydd yn esblygu wrth i’r prosiect ddatblygu, amlinellu sut y bydd hynny’n cael ei gyflawni trwy ymdrin â’r canlynol:

  • Y materion penodol y bwriedir mynd i’r afael â nhw trwy gasglu tystiolaeth (e.e. pa safle Ewropeaidd neu safleoedd Ewropeaidd a sut y gellid effeithio ar amcanion cadwraeth y safle) a sut y bydd y dystiolaeth a gesglir yn cael ei defnyddio i lywio’r amryw gamau a amlinellir yn Nodyn Cyngor 10 yr Arolygiaeth. Dylai hyn roi sylw penodol i’r cyngor ynglŷn â’r amcanion cadwraeth ar gyfer y safle Ewropeaidd neu’r safleoedd Ewropeaidd a gyhoeddwyd gan yr SNCBs.
  • Sut y bydd yr Ymgeisydd yn casglu ac yn dadansoddi’r dystiolaeth. Gallai hyn gynnwys nodi methodoleg arolygu, amserlen arolygon, dulliau o fodelu data, ymdrin ag ansicrwydd a rhagofalon, a’r fformat ar gyfer rhannu a chyflwyno’r dystiolaeth.
  • Unrhyw faterion yn ymwneud â rhannu ac argaeledd data, megis cyfrinachedd, trwyddedu data a rhannu data amrwd.
  • Sut y bydd y dystiolaeth yn cael ei hasesu gan yr SNCB neu’r SNCBs perthnasol a’r broses ar gyfer adolygu cynnydd, gan gynnwys yr amserlen ar gyfer adborth gan yr SNCB.
  • Yr amgylchiadau pryd y bydd newidiadau i ofynion tystiolaeth yn cael eu trafod a’u cytuno, gan gynnwys cofnodi materion nad oes angen mynd i’r afael â nhw oni bai bod tystiolaeth newydd, neu newidiadau i’r prosiect, yn golygu bod angen gwneud hynny.
  • Unrhyw brosiectau hysbys eraill sydd i’w hystyried a sut y bydd hyn yn cael ei wneud e.e. ar gyfer asesu effeithiau ar y cyd.
  • Cyfrifoldebau’r holl bartïon sy’n rhan o’r cytundeb.
  • Yr amserlen ar gyfer gweithredu ac adolygu’r cynllun.

Dylai’r Cynllun Tystiolaeth adlewyrchu’r cam datblygu y mae’r prosiect wedi’i gyrraedd. O ran prosiectau sy’n gynnar yn y broses ddatblygu, fe allai fod ar ffurf ‘cynllun ar gyfer cynllun’ sy’n amlinellu, er enghraifft, sut y bydd gofynion tystiolaeth yn cael eu hamlygu a’u cytuno.

Dylai’r Cynllun Tystiolaeth hefyd adlewyrchu’r anghenion asesu pan gytunir arno e.e. o ran rhai NSIPs, fe allai fod yn aneglur p’un a allai’r prosiect effeithio ar safle Ewropeaidd ai peidio. Yn yr achos hwn, dylai’r Cynllun Tystiolaeth ganolbwyntio’n gyntaf ar gasglu’r wybodaeth sy’n ofynnol i ganiatáu sgrinio ar gyfer effeithiau arwyddocaol tebygol (LSE), ac yna dylid ei ailystyried wrth i’r wybodaeth hon gael ei hadolygu gyda’r SNCB neu’r SNCBs perthnasol.

Drwy gydol y cam hwn, caiff yr Ymgeisydd neu’r SNCB roi gwybod i’r Arolygiaeth os oes anawsterau wrth gytuno ar y cynllun o fewn y cyfnod cytunedig. Os na ddaethpwyd i gytundeb, caiff yr Arolygiaeth gynorthwyo i hwyluso cytundeb. Ni fydd yr Arolygiaeth yn ymgymryd â rôl gyflafareddu oherwydd gallai hyn danseilio annibyniaeth y cyngor a roddir gan yr SNCB neu’r SNCBs.

Rhoddir mwy o fanylion am gynnwys Cynllun Tystiolaeth yn Atodiad 1.

Cam 3: Casglu a dadansoddi tystiolaeth, rhoi adborth arni

Ar y cam hwn, bydd y Cynllun Tystiolaeth yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru wrth i dystiolaeth gael ei chasglu a’i dadansoddi. Dylai canlyniadau dros dro hefyd gael eu rhannu gydag eraill fel yr Arolygiaeth, cyrff caniatáu eraill ac, os yw’n briodol, NGOs amgylcheddol.

Mae’r ymagwedd hon yn sicrhau bod y dystiolaeth a gesglir yn cael ei dadansoddi a’i hasesu a bod adborth yn cael ei rhoi arni’n barhaus, ac fe’i bwriadwyd i osgoi sefyllfa lle mae materion annisgwyl yn cael eu codi’n hwyr yn ystod y cam Cyn-ymgeisio neu yn ystod y cam Archwilio.

I gyflawni hyn, dylai adolygiadau gael eu cynnwys yn y Cynllun Tystiolaeth yn rheolaidd. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gofynion tystiolaeth yn parhau i fod yn gymesur ag effeithiau posibl yr NSIP. Gall hefyd helpu i amlygu’r angen am fesurau lliniaru yn gynnar yn ystod datblygiad y prosiect. Mae’n rhaid i’r holl bartïon sy’n rhan o’r cynllun gytuno ar unrhyw newidiadau i Gynllun Tystiolaeth. Yn ogystal, dylai’r Arolygiaeth a chyrff caniatáu eraill gael cyfle i wneud sylwadau ar Gynlluniau Tystiolaeth wedi’u diweddaru.

Dylai’r cyfathrebu rhwng yr Ymgeisydd a’r SNCB neu’r SNCBs perthnasol gael ei gynllunio a’i drefnu’n rheolaidd drwy gydol y cam cyn-ymgeisio, yn enwedig i gyd-fynd â gwybodaeth newydd sydd ar gael e.e. pan fydd canlyniadau ar gael o arolwg. Bydd yr ymagwedd hon yn helpu’r Ymgeisydd a’r SNCB neu’r SNCBs perthnasol i:

  • Benderfynu p’un ai parhau â gwaith arolygu a/neu ddadansoddi penodol neu ei atal.
  • Cadarnhau bod digon o wybodaeth ac nad oes angen rhagor o wybodaeth i lywio’r cais DCO.
  • Cytuno i newid y gofynion tystiolaeth a chasglu tystiolaeth ychwanegol, gan gynnwys sut y dylai’r dystiolaeth hon gael ei chasglu a’i dadansoddi, gan ddiweddaru’r cynllun a’r amserlen fel y bo’r angen. Disgwylir y bydd newidiadau’n gyfyngedig i ymdrin â’r canlynol:
    1. Tystiolaeth ychwanegol (e.e. o ganlyniadau dros dro’r dystiolaeth a gasglwyd) fel rhywogaethau a/neu gynefinoedd ychwanegol y canfuwyd eu bod yn bresennol ar y safle.
    2. Tystiolaeth, gwybodaeth neu ymchwil sydd wedi dod i’r amlwg y tu allan i’r Cynllun Tystiolaeth (e.e. gan NGOs amgylcheddol) a fyddai’n effeithio ar y wybodaeth sy’n ofynnol ac y byddai angen ei hystyried yn y broses benderfynu (h.y. mae’n rhaid i benderfyniadau gael eu seilio ar y wyddoniaeth orau sydd ar gael).
    3. Newid neu addasiad arwyddocaol i’r cynnig NSIP cychwynnol sy’n debygol o newid effeithiau posibl yr NSIP ac felly’r gofynion tystiolaeth i fynd i’r afael â’r rhain.
    4. Newidiadau i’r dull asesu a dadansoddi data a gynhelir gan yr Ymgeisydd.
  • Amlygu unrhyw effeithiau niweidiol posibl a chytuno ar gamau i asesu addasrwydd mesurau lliniaru posibl. Gallai hyn helpu i gytuno ar gynigion lliniaru yn ystod y cam Cyn-ymgeisio. Yn ogystal, fe allai ganiatáu ar gyfer rhoi ystyriaeth gynnar i randdirymiad a ganiateir o dan y Rheoliadau Cynefinoedd, er enghraifft, yn rheoliadau 64 a 68. Gweler canllawiau Defra ar ddatrysiadau amgen, rhesymau hanfodol er budd cyhoeddus tra phwysig (IROPI) a mesurau digolledu i gael rhagor o wybodaeth.
  • Cytuno’n ffurfiol bod materion penodol wedi cael eu datrys i’w cynnwys yn y Datganiad neu’r Datganiadau o Dir Cyffredin (e.e. gall effeithiau ar ‘x’ gael eu hepgor o gwmpasu; mae mesurau lliniaru’n golygu nad yw effeithiau ar ‘y’ yn cael eu hystyried yn arwyddocaol).

Os anghytunir ar newidiadau i’r gofynion yn y Cynllun Tystiolaeth, gellir gofyn i’r Arolygiaeth geisio hwyluso cytundeb rhwng y partïon. Fel yng Ngham 2, ni fydd yr Arolygiaeth yn cyflawni rôl gyflafareddu. Wrth i Gynllun Tystiolaeth gael ei ddiweddaru a’i gytuno, bydd yr Ymgeisydd yn sicrhau bod y fersiwn fwyaf cyfredol yn cael ei hanfon at yr Arolygiaeth i’w chyhoeddi ar dudalen berthnasol y prosiect ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol.

Cam 4: Cwblhau’r broses Cynllun Tystiolaeth yn derfynol

Dylid ystyried bod y broses Cynllun Tystiolaeth wedi’i chwblhau’n derfynol pan fydd yr holl dystiolaeth y cytunwyd arni yn y cynllun wedi cael ei chasglu, ei dadansoddi gan ddefnyddio’r fethodoleg gytunedig, ei hadolygu a’i chytuno gan yr Ymgeisydd a’r SNCB neu’r SNCBs yn ystod y cam Cyn-ymgeisio. Pan fydd y Cynllun Tystiolaeth wedi’i gwblhau, y nod yw:

  • Y dylai trafodaethau fod wedi dechrau ynglŷn â chynigion lliniaru, os oes eu hangen, ac wedi dod i ben o bosibl.
  • Bod cytundeb ysgrifenedig ar waith trwy Ddatganiad neu Ddatganiadau o Dir Cyffredin sy’n amlinellu:
    • Yr Effeithiau Arwyddocaol Tebygol a amlygwyd ac a ddiffiniwyd yn ddigon manwl i lywio’n ddigonol p’un a oes angen asesiad priodol. Os na, dylai’r ansicrwydd a/neu’r bylchau sy’n parhau gael eu hamlinellu’n glir, ynghyd â’r rhesymau pam y maent yn bodoli ac unrhyw ddulliau cytunedig o fynd i’r afael â’r ansicrwydd a/neu’r bylchau.
    • Pa faterion sy’n ddibwys, pa rai a ddatryswyd (h.y. y cytunwyd ar fesurau lliniaru ar eu cyfer) a pha rai sy’n weddill a pham (e.e. lle na fu’n bosibl casglu’r dystiolaeth sy’n ofynnol neu yr anghytunir ar yr effeithiau o hyd).

Gallai’r broses Cynllun Tystiolaeth wedi’i chwblhau fod yn bwysig wrth baratoi dogfennau’r cais sydd i’w cyflwyno i’r Arolygiaeth. Gallai’r allbynnau o’r Cynllun Tystiolaeth gyfrannu at:

  • Ddatganiad Amgylcheddol ac adroddiad HRA yr Ymgeisydd (os yw’n ofynnol).
  • Datganiad neu Ddatganiadau o Dir Cyffredin sy’n cadarnhau bod effeithiau posibl wedi derbyn sylw’n briodol, pa faterion a ddatryswyd, a pha faterion sy’n weddill.
  • Amlygu a chytuno ar unrhyw fesurau lliniaru a rhoi gwybod, lle y bo’n briodol, am unrhyw drafodaeth ynglŷn â rhanddirymiadau o dan y Rheoliadau Cynefinoedd.

Lle y bo’n berthnasol, gallai’r Cynllun Tystiolaeth hefyd helpu i lywio:

  • Yr Adroddiad ar y Goblygiadau i Safleoedd Ewropeaidd (RIES) a baratoir gan yr Awdurdod Archwilio wrth archwilio cais a dderbyniwyd.
  • Unrhyw asesiad priodol a gynhelir gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel awdurdod cymwys cyn penderfynu p’un ai rhoi caniatâd datblygu a gwneud DCO.

Dylai’r Cynllun Tystiolaeth wedi’i gwblhau’n derfynol gael ei anfon at yr Arolygiaeth i’w gyhoeddi ar dudalen berthnasol y prosiect ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Dylai’r Ymgeisydd roi gwybod i’r holl Bartïon â Buddiant ei fod wedi cael ei gyhoeddi.

Rolau a chyfrifoldebau

Yr Ymgeisydd

  • Mae’n penderfynu p’un a oes arno angen Cynllun Tystiolaeth.
  • Mae’n trafod yr angen am y cynllun gyda’r SNCB neu’r SNCBs a’r effeithiau posibl ar safleoedd Ewropeaidd yng ngoleuni eu hamcanion cadwraeth.
  • Mae’n llunio ac yn cynnal y cynllun yn barhaus hyd nes yr ystyrir ei fod wedi’i gwblhau.
  • Mae’n casglu, dadansoddi, adolygu a rhannu tystiolaeth yn rheolaidd. Mae’n rhoi gwybod i’r SNCB neu’r SNCBs perthnasol, yr Arolygiaeth a chyrff caniatáu eraill am addasiadau i’r NSIP.
  • Mae’n cyfarfod â’r SNCB neu’r SNCBs perthnasol ac eraill fel cyrff caniatáu ac NGOs amgylcheddol i drafod cynnydd ac, os oes angen, cytuno ar unrhyw newidiadau i ofynion tystiolaeth.
  • Mae’n gweithio gyda’r SNCB neu’r SNCBs perthnasol i ddatrys cynifer o faterion â phosibl ar y cam Cyn-ymgeisio ac yn amlinellu’r materion y cytunwyd arnynt, neu na chytunwyd arnynt, yn y Datganiad neu’r Datganiadau o Dir Cyffredin, gan ddefnyddio’r Cynllun Tystiolaeth fel dull o wneud hynny.
  • Mae’n cwblhau’r Cynllun Tystiolaeth yn derfynol ac yn ei ddefnyddio i lywio ei gais DCO ac unrhyw adroddiad HRA.
  • Mae’n anfon y Cynllun Tystiolaeth wedi’i gwblhau’n derfynol at yr Arolygiaeth trwy e-bost, gyda chopi at yr holl bartïon sy’n gysylltiedig.

Y Corff Cadwraeth Natur Statudol

  • Mae’n ymgysylltu ag Ymgeisydd ar ddechrau’r cam Cyn-ymgeisio i drafod y prosiect, unrhyw wasanaethau y codir tâl amdanynt ac effeithiau tebygol posibl ar safle Ewropeaidd neu safleoedd Ewropeaidd a’u hamcanion cadwraeth.
  • Mae’n trafod a chytuno ar Gynllun Tystiolaeth o fewn cyfnod cytunedig (tri mis neu hwy) gan sicrhau bod gofynion tystiolaeth yn gymesur ag effeithiau posibl yr NSIP arfaethedig.
  • Mae’n asesu ac yn adolygu tystiolaeth a ddarparwyd gan yr Ymgeisydd, gan roi adborth ar gynnydd.
  • Mae’n cynnig newidiadau i’r gofynion tystiolaeth sy’n parhau i fod yn gymesur ac wedi’u seilio ar ganfyddiadau’r dystiolaeth a aseswyd.
  • Mae’n gweithio gyda’r Ymgeisydd i ddatrys cynifer o faterion â phosibl yn ystod y cam cyn-ymgeisio, gan gynnwys trwy’r Datganiad neu’r Datganiadau o Dir Cyffredin.

Yr Arolygiaeth Gynllunio

  • Lle y bo’n bosibl, mae’n adolygu ac yn gwneud sylwadau ar Gynllun Tystiolaeth ar sail achosion unigol.
  • Os oes angen, ac ar gais, bydd yn ceisio hwyluso cytundeb ar Gynllun Tystiolaeth.

Cyrff caniatáu eraill (a allai fod yn awdurdodau cymwys hefyd)

  • Maen nhw’n adolygu ac yn gwneud sylwadau ar Gynlluniau Tystiolaeth drwy gydol y cam Cyn-ymgeisio. Gallant ddod yn bartïon ffurfiol i’r Cynllun Tystiolaeth, er bod hyn yn ôl disgresiwn yr awdurdodau cymwys.

NGOs Amgylcheddol

  • Gallai NGOs amgylcheddol ddal data a thystiolaeth a allai fod yn berthnasol i asesu NSIP o dan y Rheoliadau Cynefinoedd. Felly, mae’n arfer da i’r Ymgeisydd gynnwys NGOs amgylcheddol yn gynnar yn ystod y cam cyn-ymgeisio, gan gynnwys trwy geisio eu barn am Gynllun Tystiolaeth. Nid oes rhaid i Ymgeiswyr ymgynghori ag NGOs amgylcheddol ynglŷn â’r Cynllun Tystiolaeth ac maen nhw’n gwneud hynny yn ôl eu disgresiwn.

Dylai unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r ddogfen hon gael eu hanfon at Natural England trwy: [email protected]

Atodiad 1: Cynnwys Cynlluniau Tys-tiolaeth

Trefniadau gweithio

Dylai’r Cynllun Tystiolaeth amlygu’r SNCB neu’r SNCBs perthnasol ac unrhyw gyrff caniatáu eraill, a allai fod yn awdurdodau cymwys hefyd, a fydd yn ymwneud â’r cam cyn-ymgeisio a chytuno ar drefniadau gweithio. Dylai hyn gynnwys:

  • Sut y bydd yr Ymgeisydd yn darparu tystiolaeth i’r SNCB neu’r SNCBs, gan gynnwys ym mha fformat. Dylai hyn gynnwys unrhyw faterion yn ymwneud â rhannu ac argaeledd data, megis cyfrinachedd, trwyddedu data a rhannu data amrwd.
  • Sut y bydd yr SNCB neu’r SNCBs yn asesu’r dystiolaeth ac yn rhoi safbwyntiau i’r Ymgeisydd arni. Dylai hyn gynnwys cytuno ar raddfeydd amser penodol i’r SNCB neu’r SNCBs ymateb i’r Ymgeisydd.
  • Yr amgylchiadau pryd y gallai Cynllun Tystiolaeth newid.
  • Graddfeydd amser a chyfathrebu cynlluniedig.
  • Cytuno ar ba elfennau o’r cynllun sy’n rhan o’r ymgysylltiad statudol gan SNCB neu gorff arall (e.e. Asiantaeth yr Amgylchedd) a pha elfennau y gellid codi tâl amdanynt, os yw’n berthnasol.
  • Pa SNCB fydd yn gweithredu fel arweinydd wrth drafod a negodi’r Cynllun Tys-tiolaeth pan fo’r cynnig o fewn cyfrifoldebau dau SNCB neu fwy.

O ran yr NSIPs hynny sydd wedi’u lleoli’n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr, neu’n gyfan gwbl yn Lloegr ond a allai gael effaith negyddol ar safleoedd Ewropeaidd yng Nghymru neu’r Alban, dylai’r trefniadau gweithio hefyd gynnwys SNCB y weinyddiaeth ddatganoledig berthnasol.

Dylai’r Ymgeisydd amlygu unrhyw NGOs amgylcheddol fel y gall ymgysylltu â nhw yn ystod y broses Cynllun Tystiolaeth a chael eu mewnbwn yn gynnar.

Wrth gytuno ar y Cynllun Tystiolaeth, dylai’r Ymgeisydd ystyried a chytuno â’r SNCB neu’r SNCBs perthnasol sut y bydd yn cyd-fynd â phrosesau ymgynghori cyn-ymgeisio ffurfiol yr NSIP.

Cwmpas y dystiolaeth sy’n ofynnol

Y bwriad yw cadarnhau a chytuno ar y materion y mae angen mynd i’r afael â nhw a’r meysydd y bydd angen i’r Ymgeisydd ddarparu tystiolaeth arnynt i ganiatáu asesiad gan yr SNCB neu’r SNCBs perthnasol ar y cam cyn-ymgeisio.

Gallai materion i’w hystyried gynnwys:

  • Pa safleoedd a warchodir gan Ewrop y gallai’r NSIP arfaethedig gael effaith arwyddocaol debygol arnynt;
  • beth yw’r nodweddion y dynodwyd y safle ar eu cyfer (gan gynnwys cynefinoedd, rhywogaethau planhigion, anifeiliaid neu adar);
  • cyngor yr SNCB ynglŷn â’r Amcanion Cadwraeth ar gyfer y Safleoedd Ewropeaidd hynny;
  • pa nodweddion y gellid effeithio arnynt; a
  • lle mae risg bosibl o fethu ag osgoi effaith niweidiol ar gyfanrwydd.

Dylai’r Cynllun Tystiolaeth hefyd restru unrhyw gynlluniau neu brosiectau eraill i’w hystyried e.e. wrth asesu effeithiau ar y cyd. Sylwer:

  • Mae’r Cynllun Tystiolaeth yn ‘ddogfen fyw’ a gall cwmpas y dystiolaeth gael ei newid.
  • Gallai newidiadau godi yn sgil dadansoddi tystiolaeth a/neu newidiadau i ddyluni-ad prosiect.
  • Dylai unrhyw ofynion newydd gael eu cadarnhau’n ffurfiol trwy’r broses ac mae’n rhaid i’r holl bartïon gytuno arnynt.
  • Gall newidiadau leihau cwmpas y dystiolaeth sy’n ofynnol yn ogystal â’i ehangu (e.e. rhywogaethau ychwanegol o adar y canfyddir yr effeithir arnynt neu famal môr nad yw’n bresennol yn yr ardal ac nad effeithir arno).

Ymagweddau at ansicrwydd ac effeithiau arwyddocaol tebygol

Dylai’r Cynllun Tystiolaeth gytuno ar yr ymagwedd at dermau allweddol fel:

  • Beth yw dim effaith arwyddocaol debygol sy’n golygu nad oes angen casglu tys-tiolaeth benodol ar ei chyfer (neu nad oes angen casglu tystiolaeth o’r fath mwyach).
  • Amlygu’r meini prawf lle nad yw’n bosibl canfod dim effaith niweidiol ar gy-fanrwydd (yn unigol neu ar y cyd).
  • Beth allai gynrychioli effaith niweidiol sy’n golygu bod angen cytuno ar fesurau lliniaru.
  • Prosiectau hysbys eraill i’w hystyried e.e. wrth asesu effeithiau cronnol/ar y cyd.
  • Unrhyw ansicrwydd tebygol, gan gynnwys sut y dylai’r Ymgeisydd fynd i’r afael ag ef, gan ystyried yr egwyddor ragofalus.

Y dystiolaeth sydd i’w chasglu

Dylai’r Cynllun Tystiolaeth amlinellu’r dystiolaeth y mae angen ei chasglu (e.e. y math o arolygon, amserlen arolygon, dulliau o fodelu a fformat darparu’r dystiolaeth i’r SNCB perthnasol) i fodloni cwmpas cytunedig y dystiolaeth.

Dylai’r rhestr o dystiolaeth i’w chasglu gael ei diweddaru drwy gydol y broses a gellid ei gosod yn y cynllun fel tabl gan roi’r penawdau canlynol i’r colofnau:

  • Cwmpas a Nodau
  • Dulliau asesu
  • Math o Arolwg
  • Lefel y manylion (e.e. niferoedd sampl)
  • Dechrau
  • Diwedd
  • Pwyntiau adolygu
  • Contractwr

Dylai ‘Pwyntiau adolygu’ gael eu cynnwys yn y Cynllun Tystiolaeth i ganiatáu i’r SNCB neu’r SNCBs roi adborth i’r Ymgeisydd. Gallai hyn gynnwys trafod:

  • P’un ai parhau â’r arolwg (e.e. os na chanfyddir unrhyw effeithiau ar ôl i gyfnod penodol o’r gwaith arolygu gael ei gwblhau).
  • P’un ai ehangu’r dystiolaeth a gesglir/cwmpas y dystiolaeth a gesglir wrth i ef-feithiau ychwanegol gael eu hamlygu neu os yw casgliadau’n ansicr a gallai tys-tiolaeth ychwanegol roi mwy o sicrwydd.
  • Mesurau lliniaru i leihau unrhyw effeithiau niweidiol.

Methodoleg a safonau ar gyfer dadansoddi data, allbynnau ac ymgynghoriadau

Dylai hyn gynnwys y dulliau cytunedig ar gyfer asesu a dadansoddi ynghyd â’r modelau i’w defnyddio i gynorthwyo hyn a pharamedrau mewnbynnu.

Dylai manylion, ac amseriad, ymgynghoriadau a fydd yn cyfrannu at y cyfar-fodydd adolygu ac yn cefnogi adroddiad Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yr Ymgeisydd gael eu trafod a’u cytuno hefyd.

Amserlen ar gyfer gweithredu ac adolygu’r cynllun

Bydd angen i’r amserlen gyffredinol ar gyfer y Cynllun Tystiolaeth ystyried yr am-ser sy’n angenrheidiol i gasglu’r dystiolaeth sy’n ofynnol, y dyddiad pryd y mae’r Ymgeisydd yn disgwyl cyflwyno ei gais i’r Arolygiaeth a phrosesau ymgynghori cyn-ymgeisio ffurfiol yr NSIP.

Dylai’r amserlen ganiatáu digon o amser drwy gydol y cam cyn-ymgeisio i:

  • Ddadansoddi’r dystiolaeth yn fanwl ac amlygu effeithiau arwyddocaol posibl.
  • Casglu tystiolaeth ychwanegol os oes angen.
  • Datrys cynifer o faterion sy’n weddill â phosibl e.e. mesurau lliniaru.

Dylid cytuno ar amserlen ar gyfer y cyfarfodydd adolygu. Dylai’r rhain gael eu cynyddu, neu eu lleihau, yn dibynnu ar ganlyniadau’r dystiolaeth a gasglwyd a chynnydd tuag at gwblhau’r cynllun.