Os ydych yn dymuno cymryd rhan mewn archwilio cais am ganiatâd datblygu, yn gyntaf, mae’n rhaid i chi gofrestru gyda’r Arolygiaeth Gynllunio drwy wneud Cynrychiolaeth Berthnasol am y cais.
Ffilm fer: Sut i fynegi eich barn am Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol
Mae Nodyn cyngor 8.2 yn rhoi gwybodaeth am sut i gofrestru a dod yn Barti â Buddiant. Ceir cyngor pellach, a mwy manwl, ynghylch cymryd rhan yn y broses yn nodiadau cyngor 8.1 i 8.5.