Cwestiynau cyffredin

Edrychwch ar yr adran hon i gael atebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin am broses Deddf Cynllunio 2008. Defnyddiwch y dolenni isod i neidio at yr adran berthnasol neu i chwilio am yr ateb rydych yn edrych amdano.

Ar waelod y dudalen hon gallwch gyrchu dogfennau Cwestiynau Cyffredin pwnc-benodol sy’n delio â: Adran 47 Ymgynghoriad Cymunedol; eich statws yn yr Archwiliad; sut mae’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yn berthnasol mewn digwyddiadau Archwiliad; y broses Gwmpasu a Hawliau mynediad Adran 53.

Neidio i adran:

Cwestiynau cyffredinol
Cyn gwneud cais – Gwybodaeth i awdurdodau lleol, ymgyngoreion statudol a’r cyhoedd
Cyn gwneud cais – Gwybodaeth i ddatblygwyr
Derbyn
Cyn yr archwiliad
Archwiliad
Argymhelliad
Penderfyniad
Ar ôl y penderfyniad

FAQCwestiwnAteb
Cwestiynau cyffredinol
FAQ1Ble dylwn i wneud cais am ganiatâd ar gyfer
Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP)?
Rhaid i geisiadau ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol gael eu cyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio.
FAQ2Beth yw’r prif wahaniaethau rhwng proses
Deddf Cynllunio 2008 yng Nghymru a Lloegr?
Mae’r gwahaniaethau’n gymhleth ac yn adlewyrchu’r pwerau datganoli cytûn.

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn gorff trawsffiniol sy’n gweithio yng Nghymru a Lloegr, ac mae nifer o Arolygwyr a’n staff yn medru’r Gymraeg.

Yng Nghymru, mae gan yr Arolygiaeth Gynllunio awdurdodau dros lai o brosiectau o gymharu â Lloegr.

Mae rhagor o ybodaeth i’w gweld yn adran 14 Deddf Cynllunio 2008.
FAQ3 Sut ydych chi’n ymdrin â gwybodaeth dan eich
polisi didwylledd?
Gwerthoedd sylfaenol yr Arolygiaeth Gynllunio yw ei hymrwymiad i ddidwylledd, tryloywder a didueddrwydd wrth gyflawni ei busnes. Rydym yn ymrwymo i gyhoeddi gwybodaeth sydd gennym yn
rhagweithiol, oni fyddai hynny’n debygol o niweidio’r gwaith o gyflawni swyddogaethau statudol yr Arolygiaeth Gynllunio yn effeithiol neu gyflawni ei busnes.

Mae gan yr Arolygiaeth Gynllunio rôl weithredol o ran rhoi cyngor ar ofynion a phrosesau dan Ddeddf Cynllunio 2008 (DC2008) (gweler ein cyfres o nodiadau cyngor a’r Gofrestr cyngor). Mae cofnod o’r holl gyngor a roddwyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio
wedi’i gyhoeddi ar ein Cofrestr cyngor, fel sy’n ofynnol dan DC2008.

Wrth archwilio ceisiadau, mae’r holl dystiolaeth sydd ar gael i’r Awdurdod

Archwilio ar gael i bartïon â buddiant a’r cyhoedd ehangach hefyd trwy dudalen y prosiect perthnasol ar y wefan hon.
FAQ4Sut gallaf gael y wybodaeth ddiweddaraf am
ddatblygiadau arfaethedig yn fy ardal i ac am gyhoeddiadau’r Arolygiaeth Gynllunio
yn ymwneud â Phrosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol?
Wedi i ddarpar ymgeisydd roi gwybod i’r Arolygiaeth Gynllunio am brosiect arfaethedig, caiff ei ychwanegu at y Gofrestr ceisiadau gyhoeddedig.

Rydym yn cynnig gwasanaeth hysbysiadau e-bost sy’n
rhoi gwybod i danysgrifwyr am y newyddion diweddaraf yn ystod cylch oes cais. Rydym hefyd yn cynnig ffrwd RSS sy’n cynnwys cerrig milltir allweddol yr holl brosiectau ar y wefan hon.

Gallwch hefyd ddilyn yr Arolygiaeth Gynllunio ar Twitter.
FAQ5 Sut ydw i’n cael dogfennaeth yn ymwneud â
chais?
Os bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn derbyn
cais, bydd yr ymgeisydd, ymhlith pethau eraill, yn cyhoeddi hysbysiad ar ei wefan ei hun ac yn y wasg leol a chenedlaethol, yn rhoi gwybod i bobl ymhle y gallant weld dogfennau’r cais ac yn esbonio’r trefniadau copïo.

Yn ogystal, bydd dogfennau’r cais ar gael ar dudalen y prosiect perthnasol ar y wefan hon. Mae copïau papur ar gael ar gais. I gael manylion am gostau, ewch i’r dudalen taliadau am wybodaeth ar wefan GOV.UK.
FAQ6 A yw dyddiadau cau statudol yr Arolygiaeth
Gynllunio ar gyfer ceisiadau am Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd
Cenedlaethol yn ddiwrnodau gwaith?
Mae’r holl ddyddiadau cau statudol dan Ddeddf Cynllunio 2008 (DC2008) sydd wedi’u pennu ar gyfer yr Arolygiaeth Gynllunio yn ddiwrnodau calendr; heblaw’r dyddiad cau a bennir gan Reoliad 10 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau:
Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009
. Caiff
y dyddiad cau hwn ei bennu mewn diwrnodau gwaith ac mae’n ymwneud â
chydymffurfio ag adran 56 DC2008.
FAQ7 Sut caiff Arolygwyr eu penodi i weithio yn yr
Arolygiaeth Gynllunio?
Caiff Arolygwyr eu penodi i’r Arolygiaeth
Gynllunio gan y sefydliad trwy broses recriwtio agored a theg.
FAQ8 Sut mae proses Deddf Cynllunio 2008 yn
gweithio?
Mae’r broses yn cynnwys chwe cham:
Cyn gwneud cais, Derbyn, Cyn yr Archwiliad, Archwiliad, Argymhelliad a
Phenderfyniad, a’r cam ar ôl gwneud penderfyniad. Ar ôl i’r Arolygiaeth Gynllunio dderbyn cais am ganiatâd datblygu, mae ganddi 28 diwrnod I benderfynu p’un a yw am dderbyn y cais ai peidio. Os caiff cais ei dderbyn, ceir cyfnod hyblyg, sef y cyfnod cyn yr Archwiliad, sydd fel arfer yn para tua thri mis. Dylai pob parti ddefnyddio’r cyfnod hwn i baratoi ar gyfer yr Archwiliad. Yna, mae gan yr Awdurdod Archwilio hyd at chwe mis i archwilio cais, a thri mis i wneud argymhelliad i’r Ysgrifennydd perthnasol. Mae Awdurdodau Archwilio yn cynnwys rhwng un a phum Arolygydd annibynnol sy’n gwneud argymhellion i’r Ysgrifennydd Gwladol o fewn y fframwaith a ddarperir gan Ddatganiadau Polisi Cenedlaethol y lywodraeth.

Am ragor o wybodaeth, gweler: Y brosesDeddfwriaeth a Nodiadau cyngor.
FAQ9 Faint o bobl sy’n gweithio i’r Arolygiaeth
Gynllunio?
Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn cyflogi dros 600 o staff. O’r rhain, mae tua 50 ohonynt yn gweithio mewn gweinyddu Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol. Daw Arolygwyr o gronfa o Arolygwyr cyflogedig a rhai sydd heb fod ar gyflog misol, ac rydym yn galw arnynt yn ôl yr angen. Mae ein gweithlu hyblyg yn golygu y gallwn baru pobl ac adnoddau i’r galw o ran llwyth gwaith achosion ar draws y busnes.
FAQ10 Faint o amser y bydd yn ei gymryd i wneud penderfyniadau? O dderbyn cais hyd at wneud penderfyniad,
dylai’r broses gyfan bara tua 16 mis. Yn y gorffennol, roedd ceisiadau mawr yn cymryd tua 2 flynedd (100 wythnos), ar gyfartaledd, ac mae rhai ceisiadau ar gyfer prosiectau seilwaith mawr cymhleth yn cymryd amser hwy fyth.
FAQ11 Pa geisiadau seilwaith mawr sy’n
cael eu harchwilio gan yr Arolygiaeth Gynllunio?
Mae’r prosiectau seilwaith mawr y mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn ymdrin â nhw dan Ddeddf Cynllunio 2008 (DC2008) yn cael eu galw’n Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (neu ‘NSIPau’). Mae prosiectau o fewn chwe maes, sef ynni; trafnidiaeth;
dŵr; dŵr gwastraff; gwastraff; a busnes a masnachol. Mae
enghreifftiau’n cynnwys gorsafoedd pŵer; rheilffyrdd a phrif ffyrdd;
cronfeydd dŵr; porthladdoedd; meysydd awyr; ffermydd gwynt alltraeth a gweithfeydd trin carthffosiaeth – mewn geiriau eraill, y mathau o gyfleusterau mawr sy’n ategu bywyd bob dydd y wlad hon.

Mae’r trothwyon ar gyfer NSIPau wedi’u hamlinellu yn adrannau 15 i 30 DC2008.
FAQ12 Pa ddatblygiadau sy’n cael eu hystyried gan
awdurdodau lleol o hyd?
Bydd datblygiadau nad ydynt yn bodloni’r trothwyon sy’n cael eu hamlinellu yn Rhan 3 Deddf Cynllunio 2008 yn cael eu hystyried gan y prosesau presennol o hyd, er enghraifft Deddf Cynllunio Gwlad a Thref neu’r Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd. Nid oes gan yr Arolygiaeth Gynllunio unrhyw rôl o ran ystyried y ceisiadau hyn.
Cyn gwneud cais

Gwybodaeth i awdurdodau lleol, ymgyngoreion statudol a’r cyhoedd.

Gweler Nodyn Cyngor 8.1: Ymateb i ymgynghoriad y datblygwr cyn gwneud cais a’n Cwestiynau Cyffredin ynghylch Ymgynghori â'r Gymuned i gael rhagor o wybodaeth am ymgynghori.
FAQ13 Sut galla’ i leisio fy marn ar brosiect?
Mae’r cyfle i ddylanwadu ar Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, er enghraifft ar ei ddyluniad, gosodiad neu leoliad, yn codi yn ystod y cam cyn gwneud cais, cyn i’r ymgeisydd gadarnhau’r cais a’i gyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio. Er mwyn dweud eich dweud wrth lunio prosiect, cysylltwch â’r ymgeisydd i weld sut gallwch gymryd rhan, neu gadwch olwg am hysbysebion sy’n manylu ar ba bryd y caiff digwyddiadau ymgynghori gwahanol eu cynnal. Os bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn derbyn cais, cadwch olwg am hysbysiad yr ymgeisydd ynghylch y cyfnod pan allwch gofrestru â’r Arolygiaeth Gynllunio i ddod yn barti â buddiant trwy wneud sylwadau perthnasol.

Gweler Nodyn Cyngor 8.1: Ymateb i ymgynghoriad y datblygwr cyn gwneud cais i gael rhagor o wybodaeth.
FAQ14 A gaiff fy sylwadau eu hystyried?
Mae gan ymgeiswyr ddyletswydd i ystyried pob ymateb i ymgynghoriadau statudol yn ystod y cam Cyn gwneud cais. Rhaid iddynt grynhoi’r holl ymatebion mewn Adroddiad Ymgynghori,  y mae’n rhaid ei gyflwyno gyda chais. Rhaid i’r Adroddiad Ymgynghori esbonio sut mae’r ymgeisydd wedi ystyried ymatebion i’r ymgynghoriad.Gweler Nodyn Cyngor 8.1: Ymateb i ymgynghoriad datblygwr cyn gwneud cais ac adran 37(7) Deddf Cynllunio 2008 am ragor o wybodaeth.
FAQ15 Yn ystod y cam cyn gwneud cais, pwy sy’n
gyfrifol am sicrhau bod yr holl drigolion lleol yn cael gwybodaeth gywir am
y cynnig a sut caiff trigolion lleol eu cynnwys?
Yr ymgeisydd sy’n gyfrifol am hysbysebu’r cynnig arfaethedig yn gywir dan adran 48 Deddf Cynllunio 2008. Mae
hyn yn cynnwys hysbysebu yn y wasg leol.

Mae hefyd yn ofynnol i ymgeiswyr baratoi Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned (SoCC), ar ôl ceisio barn yr awdurdod lleol ar ei gynnwys. Yna, rhaid i’r ymgeisydd gynnal ei ymgynghoriad statudol â’r gymuned yn unol â’r SoCC. 
Gweler Nodyn Cyngor 8.1: Ymateb i ymgynghoriad datblygwr cyn gwneud cais a’n Cwestiynau Cyffredin ynghylch Ymgynghori â'r Gymuned am ragor o wybodaeth.
FAQ16 Sut a phryd y gellir cyfrannu at y broses
ymgynghori sy’n cael ei gynnal gan yr ymgeisydd?
Darllenwch Nodyn Cyngor 8.1: Ymateb i ymgynghoriad y datblygwr cyn gwneud cais.

Os byddwch yn teimlo nad yw ymgynghoriad wedi’i gynnal yn ddigonol, dylech wneud sylwadau i’r ymgeisydd, yn y lle cyntaf. Dylai unrhyw bryderon gael eu codi’n brydlon yn ystod yr ymgynghoriad neu’n syth ar ei ôl, er mwyn i’r ymgeisydd allu mynd i’r afael â’r materion, os yw’n briodol.

Gweler dogfen Deddf Cynllunio 2008: cyfarwyddyd ynglŷn â’r broses cyn-ymgeisio y llywodraeth a’n Cwestiynau Cyffredin ynghylch Ymgynghori â'r Gymuned am ragor o wybodaeth.
FAQ17 Os nad ydym yn cael ein hystyried yn awdurdod
lleol perthnasol, ond y gallai cynnig gael effaith weledol (neu effaith
arall) ar ein hardal, a ddylai’r ymgeisydd ymgynghori â ni?
Disgwylir i ymgeisydd ymgynghori’n eang ar eu cynigion ac ystyried arweiniad y llywodraeth, yn ogystal â safbwyntiau awdurdodau lleol perthnasol ar eu hymgynghoriad arfaethedig â’r gymuned leol dan adran 47 Deddf Cynllunio 2008. Mae cyngor ar y dull sy’n cael ei ddefnyddio gan yr Ysgrifennydd Gwladol wrth ganfod ymgyngoreion mewn perthynas ag ymgynghoriad cwmpasu’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol, gan gynnwys lle y gallai cynnig gael effaith weledol ar ardal nad yw wedi’i lleoli mewn ardal awdurdod lleol perthnasol, i’w weld yn Nodyn Cyngor 3: Ymgynghori a hysbysu ynghylch yr Asesiad o Effaith Amgylcheddol. Fel arfer, byddai disgwyl i ymgeiswyr ddefnyddio’r un dull i ganfod ymgyngoreion wrth gynnal eu hymgynghoriad adran 42 neu, fel arall, esbonio yn yr Adroddiad Ymgynghori a gyflwynir gyda’u cais pam y maent wedi penderfynu peidio â gwneud hynny.
FAQ18 Rydw i’n Ymgynghorai Statudol. Beth mae hyn
yn ei olygu?
Sefydliadau y mae’n rhaid ymgynghori â nhw
ynghylch prosiectau perthnasol yw ymgyngoreion statudol.

Mae ymgyngoreion statudol wedi’u rhestru yn Atodlen 1 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau:
Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009
. Mae’r
Atodlen hefyd yn amlygu’r amgylchiadau pan ddylid ymgynghori ag ymgynghorai statudol. Er enghraifft, rhaid ymgynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd ynghylch pob Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) arfaethedig; rhaid ymgynghori ag Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau ynghylch NSIPau sy’n debygol o effeithio ar amgylchedd y môr neu’r arfordir, neu’r diwydiant llongau.
FAQ19 Nid ydym yn siŵr a ydym yn
ymgynghorai statudol ar gyfer Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol
penodol, ond teimlwn y dylid ymgynghori â ni ynghylch y cais arfaethedig ac
nid yw hynny wedi digwydd. Beth ddylem ni ei wneud?
Mae rhestr o ymgynghoreion statudol wedi’i rhagnodi yn Atodlen 1 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau:
Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009
. Os ydych chi’n ymgynghorai statudol ar gyfer y cais arfaethedig, mae gan yr
ymgeisydd ddyletswydd i ymgynghori â chi, fel y rhagnodir dan adran 42 Deddf Cynllunio 2008.

Os nad ydych chi’n siwr a ydych yn ymgynghorai statudol ar gyfer prosiect penodol ai peidio, cysylltwch â’r Arolygiaeth Gynllunio. Beth bynnag, rhaid i’r ymgeisydd gynnal ymgynghoriad cyhoeddus a gallwch gymryd rhan yn hwnnw.
FAQ20 A oes modd ymestyn y cyfnodau ymateb ar gyfer
awdurdodau lleol er mwyn ystyried materion yn ymwneud ag adnoddau? Yn
benodol, bydd Adroddiadau ar yr Effaith Leol yn ei gwneud yn ofynnol i
awdurdodau lleol gael ymatebion gan ymgyngoreion statudol ac ymgyngoreion
eraill.
Mae’r cyfnod archwilio statudol o chwe mis wedi’i bennu, felly rhaid i awdurdodau lleol fod yn barod i gyflwyno’r Adroddiad ar yr Effaith Leol mewn terfyn amser byr iawn. Felly, mae’n bwysig i awdurdodau lleol ddechrau gweithio ar yr Adroddiad ar yr Effaith Leol ymhell cyn i’r archwiliad ddechrau. Nid oes unrhyw ofyniad dan adran 60 Deddf Cynllunio 2008 i awdurdodau lleol gynnal ymarfer ymgynghori cyn paratoi a chyflwyno Adroddiad ar yr Effaith Leol i’r Arolygiaeth Gynllunio.

Gall ymgyngoreion statudol a phartïon eraill â buddiant gyflwyno eu sylwadau’n uniongyrchol i’r Arolygiaeth Gynllunio.

Mae arweiniad ar baratoi Adroddiadau ar yr Effaith leol ar gael yn Nodyn Cyngor 1: Adroddiadau ar yr Effaith Leol a dogfen Deddf Cynllunio 2008: cyfarwyddyd ynglŷn â’r broses cyn-ymgeisio y llywodraeth. Bydd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Adroddiadau ar yr Effaith Leol yn cael ei bennu gan yr Awdurdod Archwilio yn y cyfarfod rhagarweiniol neu’n fuan wedi hynny. Mae Adroddiadau ar yr Effaith Leol yn adroddiadau pwysig sy’n rhoi manylion am yr effaith debygol y bydd datblygiad arfaethedig yn ei chael ar ardal yr awdurdod lleol. Gall yr awdurdod lleol benderfynu ar gynnwys yr adroddiad. Rhaid i Adroddiadau ar yr Effaith Leol gael eu hystyried gan yr Awdurdod Archwilio a’r sawl sy’n gwneud y penderfyniad.
FAQ21 Sut ydym yn paratoi Adroddiad ar yr Effaith
Leol?
Mae’r Adroddiad ar yr Effaith Leol yn ddogfen hollbwysig a fydd yn helpu i lywio argymhellion Awdurdodau Archwilio. Dylai roi manylion am effeithiau tebygol y datblygiad arfaethedig ar ardal yr awdurdod lleol, neu unrhyw ran ohoni.

Mae arweiniad ar baratoi Adroddiadau ar yr Effaith leol ar gael yn Nodyn Cyngor 1: Adroddiadau ar yr Effaith Leol a dogfen Deddf Cynllunio 2008: cyfarwyddyd ynglŷn â’r broses cyn-ymgeisio y llywodraeth.
FAQ22 Beth yw’r gwahaniaeth rhwng bod yn
ymgynghorai statudol ac yn barti â buddiant?
Yn ystod y cam cyn gwneud cais, yr ymgeisydd sy’n gyfrifol am ymgynghori ag ymgyngoreion statudol (fel y’i diffinnir gan Atodlen 1 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau:
Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig 2009
) a’r gymuned leol. Os bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn derbyn y cais i’w archwilio, rhaid i’r ymgeisydd gyhoeddi hynny a phennu dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau perthnasol.

Bydd unrhyw aelod i’r cyhoedd sy’n gwneud sylwadau perthnasol yn dod yn barti â buddiant yn ystod y cam hwn. Rhaid i bartïon statudol wneud sylwadau perthnasol hefyd i ddod yn barti â buddiant, neu gadarnhau i’r Arolygiaeth Gynllunio fel arall yr hoffent gael eu trin yn bartïon â buddiant cyn i’r Archwiliad gau. Bydd pob parti â buddiant yn cael ei (g)wahodd i wneud sylwadau ysgrifenedig pellach ac i gymryd rhan yn yr Archwiliad mewn gwrandawiadau ac ati.
FAQ23 Sut gall rhanddeiliaid roi sylwadau ar broses
yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol yn ystod y cam cyn gwneud cais os nad
yw’r Datganiad Amgylcheddol yn cael ei gyhoeddi nes iddo gael ei gyflwyno
i’r Arolygiaeth Gynllunio?
Pan fydd cais yn ddatblygiad sydd ag Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol, bydd rhanddeiliaid yn cael cyfle i roi sylwadau ar y Wybodaeth mgylcheddol Ragarweiniol yn ystod y cam cyn gwneud cais, a rhoi sylwadau perthnasol a sylwadau ysgrifenedig ar y Datganiad Amgylcheddol i’r Awdurdod Archwilio yn ystod y camau cyn yr archwiliad a’r archwiliad.

Er nad yw’n ofynnol yn ôl y ddeddfwriaeth, gall ymgeisydd benderfynu rhannu penodau perthnasol o’r Datganiad Amgylcheddol drafft â rhanddeiliaid cyn cyflwyno cais er mwyn cael sylwadau a mynd i’r afael ag unrhyw faterion cyn ei gyflwyno.
FAQ24 Beth yw Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned
(SoCC)? Sut ydw i’n cyfrannu ato?
Mae’r Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned (SoCC) yn cael ei lunio gan yr ymgeisydd i benderfynu ar y ffordd y bydd yn ymgynghori â’r gymuned leol yn ystod y cam cyn gwneud cais. Mae’r Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned yn cael ei anfon at yr awdurdod lleol lletyol er mwyn cael sylwadau arno. Rhaid i’r ymgeisydd ymgynghori â’r awdurdodau lleol y byddai’r datblygiad arfaethedig wedi’i leoli o fewn eu ffiniau ar gynnwys y Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned, a chaniatáu o leiaf 28 niwrnod i ymateb.

Mae ymgynghori ar y Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned yn rhoi cyfle I awdurdodau lleol lletyol helpu ymgeisydd i baratoi rhaglen ymgynghori sydd wedi’i theilwra i fodloni anghenion y cymunedau y mae’r datblygiad arfaethedig yn debygol o effeithio arnynt. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nogfen Deddf Cynllunio 2008: cyfarwyddyd ynglŷn â’r broses cyn-ymgeisio y llywodraeth a’n Cwestiynau Cyffredin ynghylch Ymgynghori â'r Gymuned.

Rhaid  i’r ymgeisydd ystyried y sylwadau sy’n cael eu derbyn gan yr awdurdodau lleol lletyol ac yna cynnal yr ymgynghoriad â’r gymuned leol fel yr amlinellir yn y Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned.

Os bydd gan bobl leol syniadau ynghylch y ffordd orau i ymgynghori â’r gymuned, gallant eu cyflwyno i’r awdurdod lleol i’w rhoi i’r ymgeisydd yn ei ymateb i’r Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned. Fel arall, gallant roi cyngor i’r ymgeisydd yn uniongyrchol gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a roddir yn ei ddeunydd cyhoeddusrwydd neu ar dudalen prosiect yr Arolygiaeth Gynllunio.
FAQ25 Beth os yw datblygiad arfaethedig wedi’i
leoli mewn mwy nag un awdurdod lleol? Sut mae angen i ni weithio gyda’n
gilydd?
Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn annog trafodaeth rhwng awdurdodau lleol y mae prosiect seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol (NSIP) yn effeithio arnynt.

Yn y pen draw, awdurdodau lleol penodol fydd yn barnu’r ffordd orau i ymateb i’r Arolygiaeth Gynllunio pan gaiff wybod am NSIP arfaethedig. Fodd bynnag, os bydd yn effeithio ar sawl awdurdod lleol, efallai y byddant y am drafod a chydlynu sylwadau a chynnwys Adroddiadau ar yr Effaith Leol, os mai dyma’r ffordd fwyaf eglur ac effeithiol i gyfleu eu safbwyntiau.
FAQ26 Sut gallwn ni sicrhau yr ymgynghorir yn
briodol â’n cymunedau lleol a bod eu safbwyntiau’n cael eu hystyried?
Gall awdurdodau lleol gyflawni hyn trwy gynghori pobl ar sut i gael mwy o wybodaeth am gais arfaethedig, a’r cyfleoedd i gymryd rhan. Gellir gwneud hyn trwy gysylltu â’r ymgeisydd neu’r Arolygiaeth Gynllunio.

Caiff ymgynghori â chymunedau lleol ei wella trwy ymatebion trylwyr ac addysgiadol sy’n cael eu rhoi i Ddatganiad Ymgynghori â’r Gymuned yr ymgeisydd.
Cyn gwneud cais

Gwybodaeth i ymgeiswyr. Am ragor o wybodaeth, gweler y dudalen Y broses.
FAQ27 Sut ydw i’n gwneud cais i’r Arolygiaeth
Gynllunio?
Rhaid i chi wneud cais i’r Arolygiaeth Gynllunio am Orchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) gan ddefnyddio’r ffurflenni cywir ac yn darparu’r ystod angenrheidiol o ddogfennau, gan gynnwys drafft o’r Gorchymyn ei hun. Mae’r union fanylion am yr hyn y mae angen ei gyflwyno gyda’r cais i’w gweld yn adran 37 Deddf Cynllunio 2008 a rheoliadau 5 i 7 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009. Mae’r ffurflen gais ac arweiniad cysylltiedig ar gael i’w lawrlwytho ar y dudalen Cyflwyno cais ar gyfer caniatâd datblygu.

Am ragor o wybodaeth, gweler Nodyn Cyngor 6: Paratoi a chyflwyno dogfennau cais a Nodyn Cyngor 15: Drafftio Gorchmynion Caniatâd Datblygu.
FAQ28 Pryd mae’r cam ffurfiol cyn gwneud cais yn
dechrau?
Fel arfer, mae ymgeiswyr yn dechrau datblygu prosiectau ymhell cyn i’r Arolygiaeth Gynllunio gael gwybod a chyn I ymgynghoriad statudol ddechrau.

Pan fydd ymgeisydd yn rhoi gwybod i’r Arolygiaeth Gynllunio ei fod yn bwriadu cyflwyno cais yn y dyfodol, caiff y prosiect ei ychwanegu at y Gofrestr ceisiadau, ynghyd â’r dyddiad cyflwyno disgwyliedig. Fan bellaf, mae angen i ymgeisydd roi gwybod i’r Arolygiaeth Gynllunio ei fod yn bwriadu cyflwyno cais am ganiatâd datblygu yn y dyfodol ychydig bach cyn ei ymgynghoriad statudol dan adran 42 ac adran 47 Deddf Cynllunio 2008, neu ar yr un adeg ag y bydd yr ymgynghoriad yn dechrau.

Am ragor o wybodaeth, gweler Nodyn Cyngor 8.1: Ymateb i
ymgynghoriad y datblygwr cyn gwneud cais
.
FAQ29 Rwy’n hyrwyddo prosiect seilwaith mawr nad
yw’n bodloni’r trothwyon sydd wedi’u pennu yn Neddf Cynllunio 2008 (DC2008).
A yw’n bosibl defnyddio proses DC2008 o hyd?
Efallai y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn rhoi cyfarwyddyd i ddatblygiad gael ei drin yn Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, yn amodol ar y darpariaethau manwl sydd wedi’u pennu yn adran 35 DC2008.

Dylai darpar ymgeiswyr sy’n ystyried gwneud cais am gyfarwyddyd dan a35 DC2008 gysylltu’n uniongyrchol â’r Ysgrifennydd Gwladol perthnasol.
FAQ30 A fydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn adolygu
ein Datganiad Amgylcheddol drafft?
Byddwn yn cynghori lle bo’n bosibl ac yn gyfreithlon i ni wneud hynny ar faterion penodol yn ymwneud â Datganiad Amgylcheddol drafft (e.e. disgrifiad o’r prosiect, methodoleg ac ati). Fodd bynnag, nid oes gan yr Arolygiaeth yr adnoddau i adolygu drafft llawn o Ddatganiad Amgylcheddol. Dylai ymgeiswyr geisio eu cyngor proffesiynol eu hunain a sicrhau bod y Datganiad Amgylcheddol yn bodloni gofynion Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effaith Amgylcheddol) 2017 a, lle mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi gofyn am farn gwmpasu, sicrhau bod y Datganiad Amgylcheddol wedi mynd i’r afael â’r materion a amlygwyd yn y farn honno. Mae’n arbennig o bwysig ymgysylltu ag ymgyngoreion statudol perthnasol yn ystod y cam cyn gwneud cais.

Am ragor o wybodaeth, gweler Nodyn Cyngor 7: AEA: Y Broses, Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol a Datganiadau Amgylcheddol a Nodyn Cyngor 10: Asesiad o Reoliadau Cynefinoedd sy’n berthnasol i Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol.
FAQ31 Pam y mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn gofyn am
ddyddiadau cyflwyno disgwyliedig?
Mae dyddiadau cyflwyno disgwyliedig yn helpu’r Arolygiaeth Gynllunio i gynllunio dyrannu ei hadnoddau i brosiectau gwahanol. Nid oes rhaid i’r dyddiadau fod yn union gywir, ond rydym yn gwerthfawrogi amcangyfrif realistig ac mae’n gwneud y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill yn ymwybodol o’r cynigion sy’n debygol o gael eu cyflwyno.
FAQ32 Sut ydw i’n paratoi Datganiad Ymgynghori â’r
Gymuned (SoCC)?
Wrth baratoi Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn cynghori’n gryf y dylai ymgeiswyr gysylltu â’r awdurdodau lleol perthnasol cyn gynted â phosibl.

Bydd gan awdurdodau lleol wybodaeth leol werthfawr am gyfansoddiad cymunedau lleol a gwybodaeth am grwpiau lleol a gellir ymgynghori â nhw’n ddefnyddiol;
er enghraifft, grwpiau cymunedol.
FAQ33 A oes modd gwneud newidiadau i Ddatganiad
Ymgynghori â’r Gymuned os ydynt yn welliannau ac y cânt eu cytuno â’r
awdurdod lleol perthnasol, heb baratoi a chyhoeddi Datganiad Ymgynghori â’r
Gymuned newydd?
Wedi i Ddatganiad Ymgynghori â’r Gymuned gael ei hysbysebu, dim ond hyn a hyn o hyblygrwydd sydd ar gael i amrywio sut bydd yr ymgeisydd yn cynnal yr ymgynghoriad sy’n cael ei amlinellu yn y ddogfen, heb fod angen paratoi a chyhoeddi Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned newydd. Bydd graddau’r hyblygrwydd a allai fod yn bosibl ym mhob achos, ymhlith pethau eraill, yn dibynnu ar eiriad y datganiad, a ph’un a roddwyd gwybod i’r awdurdod lleol perthnasol am unrhyw wyro oddi wrth yr hyn sy’n cael ei amlinellu yn y Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned ymlaen llaw, a chytuno arno ag ef.

Efallai y bydd ymgeiswyr, er enghraifft, yn gallu ymgynghori’n ehangach a/neu’n fwy helaeth nag sy’n ofynnol gan y Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned heb orfod paratoi a chyhoeddi datganiad newydd. Fodd bynnag, os arweiniodd y newidiadau at ymgynghori â llai o bobl a/neu ag ardal lai nag sy’n ofynnol dan y Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned, mae’n annhebygol o fod yn ddigon i ddangos cydymffurfiad ag a47 Deddf Cynllunio 2008 (DC2008). Beth bynnag, dylai ymgeiswyr esbonio’r dull a ddefnyddiwyd i gynnal ei ymgynghoriad a47 yn eu Hadroddiad Ymgynghori.

Os na chydymffurfiwyd ag a47, mae perygl na chaiff cais ei dderbyn i’w archwilio. Mae hyn oherwydd y mae gan ymgeiswyr dyletswydd statudol dan a47(7) DC2008 i gynnal ymgynghoriad â’r gymuned yn unol â’r cynigion sy’n cael eu hamlinellu yn y Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned. Bydd yr Ysgrifennydd Gwlad ond yn derbyn y cais os yw’n fodlon, ymhlith materion eraill, fod yr ymgeisydd wedi cydymffurfio â’r weithdrefn cyn gwneud cais, gan gynnwys a47. Mae digonolrwydd unrhyw ymgynghoriad yn fater i’r Ysgrifennydd Gwladol ei ystyried ym mhob achos dan a55
DC2008
, ac ni all yr Arolygiaeth Gynllunio ragfarnu pa benderfyniad y gallai ei wneud.
FAQ34 Â phwy mae angen i mi ymgynghori a sut?
Cyn i gais gael ei gyflwyno, rhaid i ymgeiswyr ymgynghori’r eang er mwyn mireinio’u cynigion. Mae angen ymgynghori â nifer o sefydliadau yn ystod y broses. Mae rhestr o’r cyrff hyn i’w gweld yn adrannau 42 i 44 Deddf Cynllunio 2008 ac Atodlen 1 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau:
Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009
. Mae’r
rhain yn cynnwys awdurdodau lleol, ymgyngoreion statudol a’r rhai sy’n berchen ar dir y byddai’r datblygiad arfaethedig yn effeithio arno.
Os bydd cais yn cael ei dderbyn i’w archwilio, rhaid i’r ymgeisydd roi gwybod i gyrff penodol am y penderfyniad hwn hefyd a chyhoeddi hysbysiadau yn y wasg yn gwahodd y cyhoedd ac unigolion eraill i gofrestru buddiant yn y cais â’r Arolygiaeth Gynllunio trwy wneud sylwadau perthnasol.
Derbyn

Am ragor o wybodaeth, gweler y dudalen Y broses.
FAQ35 Sut gall yr Arolygiaeth Gynllunio benderfynu
p’un a fu ymgynghoriad yr ymgeisydd cyn gwneud cais yn ddigonol ai peidio os
nad yw’r awdurdodau lleol sy’n cyflwyno ymateb i’r Arolygiaeth Gynllunio am
ddigonolrwydd ymgynghoriad yn gwybod a yw’r ymgeisydd wedi gwneud yr hyn y
dywedodd y byddai’n ei wneud
Wrth benderfynu p’un a yw am dderbyn cais i’w archwilio ai peidio, mae’r Arolygiaeth yn ystyried p’un a yw ymgeisydd wedi cydymffurfio â’r weithdrefn cyn gwneud cais ai peidio.

Wrth wneud y penderfyniad hwn, mae’r Arolygiaeth yn ystyried unrhyw sylwadau ynghylch digonolrwydd ymgynghoriad gan awdurdodau lleol perthnasol o ran p’un a yw’r ymgeisydd wedi cydymffurfio ag a42, a47 ac a48 Deddf Cynllunio 2008 (DC2008). Gallai fod yn ddefnyddiol i awdurdodau lleol geisio sicrhau bod yr ymgeisydd yn cynnwys yn ei Ddatganiad Ymgynghori â’r Gymuned (a baratowyd dan a47 DC2008) dull i fonitro’r sefyllfa. Gallai hyn gynnwys ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeisydd roi tystiolaeth yn ystod y broses yn uniongyrchol i’r awdurdodau
lleol sydd ynghlwm o unrhyw weithgareddau a gyflawnwyd. Fel hyn, gall awdurdodau lleol fod yn fwy hyderus wrth gyflwyno sylwadau ynghylch digonolrwydd ymgynghoriad.

Am ragor o gyngor, gweler ein Cwestiynau Cyffredin ynghylch Ymgynghori â'r Gymuned.
Cyn yr archwiliad

Am ragor o wybodaeth, gweler y dudalen Y broses.
FAQ36 Pwy sy’n gyfrifol am hysbysu am gais a
dderbyniwyd yn ystod y cam cyn yr archwiliad?
Yr ymgeisydd sy’n gyfrifol am hysbysu’r awdurdodau lleol perthnasol, yr holl bartïon statudol ac unigolion sydd â buddiant yn y tir (fel y diffinnir yn a44 Deddf Cynllunio 2008).

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio hefyd yn diweddaru tudalen y prosiect perthnasol ar ei gwefan. Gallwch gofrestru i gael y newyddion diweddaraf drwy’r e-bost hefyd a dilyn cynnydd ceisiadau sy’n cael eu derbyn ar Twitter.
Dan a56 Deddf Cynllunio 2008, mae gan yr ymgeisydd ddyletswydd i roi cyhoeddusrwydd i gais sy’n cael ei dderbyn yn y modd a ragnodir yn Rheoliad 4 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau:
Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009
. Rhaid
i’r cyhoeddiad hwn bennu’r dyddiad cau i’r Arolygiaeth Gynllunio dderbyn sylwadau perthnasol, y mae’n rhaid iddo fod yn gyfnod o leiaf 30 diwrnod* ar ôl i’r hysbysiad gael ei gyhoeddi ddiwethaf yn y papur newydd lleol.

*Ar gyfer prosiectau sy’n destun y darpariaethau trosiannol yn Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effaith Amgylcheddol) 2017, y cyfnod hwn yw 28 niwrnod.
FAQ37 Beth yw tystysgrif dan adran 58?
Mae tystysgrif dan a58 Deddf Cynllunio 2008 (DC2008) yn ddogfen sy’n ardystio i’r Arolygiaeth Gynllunio bod yr ymgeisydd
wedi cydymffurfio ag a56 DC2008 (Hysbysu pobl am gais a dderbyniwyd). Mae’r ffurflen ragnodedig i’w gweld yn Atodlen 3 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau:
Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009
.
Rhaid i’r ymgeisydd ardystio i’r Arolygiaeth Gynllunio cyn pen deng diwrnod gwaith yn syth ar ôl y dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau perthnasol ei fod wedi cydymffurfio ag a56 DC2008. Mewn achos pan na chaiff y dystysgrif hon ei derbyn, ni fydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn gallu dechrau archwilio’r cais.
FAQ38 Am faint mae’r cam cyn yr archwiliad yn para?
Bydd y cam cyn yr archwiliad yn dechrau os bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn derbyn cais a gyflwynir iddi. Nid oes gan y cam hwn o’r broses unrhyw amserlen benodol gan mai’r ymgeisydd sy’n penderfynu faint o amser mae am ei ganiatáu i bobl gofrestru’n barti â buddiant trwy gyflwyno sylwadau perthnasol (yn amodol ar isafswm o 30 diwrnod*). Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn disgwyl i’r cam cyn yr archwiliad gymryd tua thri mis i’w gwblhau, fel arfer.

Daw’r cam cyn yr archwiliad i ben ddiwrnod cyn diwrnod cyntaf y Cyfarfod Rhagarweiniol. Mae’r Archwiliad yn dechrau ar ddiwrnod cyntaf y Cyfarfod Rhagarweiniol (adran 98 Deddf Cynllunio 2008).

*Ar gyfer prosiectau sy’n destun y darpariaethau trosiannol yn Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effaith Amgylcheddol) 2017, y cyfnod hwn yw 28 niwrnod.
FAQ39 Rwy’n ddarpar ymgeisydd. Pa gyhoeddusrwydd y
mae angen i mi ymgymryd ag ef yn rhan o’r broses ymgeisio?
Os bydd cais yn cael ei dderbyn i’w archwilio
gan yr Arolygiaeth Gynllunio, rhaid i’r ymgeisydd roi gwybod i’r awdurdodau
lleol perthnasol a rhoi cyhoeddusrwydd i’r cais trwy hysbysiad, yn unol ag adran 56 Deddf Cynllunio 2008.
Rhaid i’r hysbysiad gael ei gyhoeddi yn y wasg a newyddiaduron eraill. Yn ogystal, rhaid i’r hysbysiad gael ei arddangos mewn man hygyrch ar y safle neu, os yw’r datblygiad arfaethedig yn llinol, mewn mannau nad ydynt ymhellach na 5 cilometr oddi wrth ei gilydd ar ei hyd. Rhaid i’r hysbysiad amlinellu sut y gellir gweld dogfennau’r cais a chynnwys amserlen ar gyfer gwneud sylwadau perthnasol i’r Arolygiaeth Gynllunio.

Caiff manylion llawn am y cyhoeddusrwydd hwn eu hamlinellu yn Rheoliad 9 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau:
Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009
ac
yn Rheolau Cynllunio Seilwaith (Gweithdrefn Archwilio) 2010.
FAQ40 Hoffwn ddatgan fy achos ar brosiect seilwaith
o arwyddocâd cenedlaethol arfaethedig i’r Arolygiaeth Gynllunio. Beth mae
angen i mi ei wneud?
Os yw’r cais ar y cam cyn gwneud cais o hyd, bydd angen i chi gysylltu â’r ymgeisydd i gyfrannu at lunio’r prosiect. Gweler ein Cwestiynau Cyffredin ynghylch Ymgynghori â'r Gymuned am ragor o wybodaeth.

Os caiff cais ei dderbyn i’w archwilio gan yr Arolygiaeth Gynllunio, y cyfnod sylwadau perthnasol yw’r tro cyntaf y gellir cyflwyno sylwadau i’r Arolygiaeth ar gais i’w hystyried gan yr Awdurdod Archwilio. I wneud y sylwadau cychwynnol hyn, fel aelod o’r cyhoedd bydd angen i chi gofrestru’n barti â buddiant ar gyfer cais penodol. O ganlyniad, byddwch yn cael gwybod am gynnydd y cais a chyfleoedd i gyfrannau at yr archwiliad o’r cais.
Am ragor o wybodaeth am sut i wneud hyn, gweler Nodyn Cyngor 8.2: Sut I gofrestru i gymryd rhan mewn Archwiliad.
FAQ41 A yw’n bosibl i aelod o’r cyhoedd gael ei
ystyried yn barti â buddiant?
Ydy. Gall unrhyw aelod o’r cyhoedd gofrestru’n barti â buddiant ar unrhyw gais. Mae’n bwysig cofrestru ar yr adeg sy’n cael ei hysbysebu gan yr ymgeisydd, a’r ffordd hawsaf o wneud hynny yw drwy ddefnyddio’r ffurflen electronig sydd ar gael ar dudalen y prosiect ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio. Mae modd cadw golwg ar hynt y cais yma hefyd.
FAQ42 Sut gallaf gofrestru’n barti â buddiant?
Os oes gennych gyfeiriad e-bost, cofrestru ar-lein trwy ein gwefan yw’r ffordd hawsaf i gofrestru. Mae’r ffurflen ar-lein ar gael ar dudalen y rosiect perthnasol yn ystod y cyfnod cofrestru. Mae’n hawdd llenwi’r ffurflen gan y bydd yn mynd â chi drwy’r cwestiynau ac yn gofyn y rhai sy’n berthnasol i chi yn unig. Bydd hefyd yn gwirio’r ffurflen er mwyn sicrhau bod gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom ac i’ch atal rhag anfon y ffurflen yn anghyflawn.

Bydd unrhyw un sy’n cofrestru’n llwyddiannus yn barti â buddiant ac yn cael gohebiaeth unigol gennym. Er enghraifft, os bydd mwy nag un unigolyn mewn un cartref am siarad mewn unrhyw wrandawiad dilynol, mae angen i bob unigolyn gofrestru ar wahân.

Caiff pob parti â buddiant ei (l)lythyr ei hun yn rhoi gwybodaeth am yr Archwiliad, ynghyd â rhif adnabod unigryw.
FAQ43 Sawl copi o’r ffurflen sylwadau perthnasol y
gallaf ofyn amdanynt?
Dim ond i chi ac i aelodau eraill o’ch cartref y gallwn gynnig ffurflenni. Os bydd angen eu ffurflenni eu hunain ar bobl eraill, mae angen iddynt gysylltu â’r llinell gymorth ar 0303 444 5000 ar wahân, gan y bydd angen rhif adnabod unigryw arnynt hefyd.
FAQ44 Pryd gallaf gofrestru’n barti â buddiant?
Gallwch gofrestru’n barti â buddiant ar ôl i’r cais gael ei dderbyn i’w archwilio ac ar ôl i’r ymgeisydd gyhoeddi hysbysiad o’r cais a dderbyniwyd. Ni fydd y dyddiad cau i gyflwyno sylwadau perthnasol i fod yn barti â buddiant yn llai na 30 diwrnod* ar ôl y dyddiad y bydd yr ymgeisydd yn cyhoeddi ei hysbysiad o gais a dderbyniwyd.

Am ragor o wybodaeth am gynnwys yr hysbysiad hwn ac at bwy y dylid ei anfon, gweler adran 56(2) Deddf Cynllunio 2008.

*Ar gyfer prosiectau sy’n destun y darpariaethau trosiannol yn Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effaith Amgylcheddol) 2017, y cyfnod hwn yw 28 niwrnod.
FAQ45 A fydd unrhyw wahaniaeth o ran pwysigrwydd
pwyntiau a godir gan bobl sy’n byw yng nghyffiniau’r datblygiad arfaethedig
a phobl sy’n byw ymhellach i ffwrdd o’r datblygiad arfaethedig?
Bydd yr Awdurdod Archwilio yn penderfynu faint o bwys y dylid ei roi ar sylwadau a thystiolaeth ategol.
FAQ46 A fyddwch yn derbyn ceisiadau sy’n methu’r
dyddiad cau?
I gofrestru’n barti â buddiant, mae’n rhaid I chi wneud hynny cyn y dyddiad cau a bennir. Mae’r penderfyniad ynghylch derbyn sylwadau gan bartïon nad oes ganddynt fuddiant yn dibynnu ar ddisgresiwn yr Awdurdod Archwilio, ac ni ddylid dibynnu arno.
FAQ47 A oes rhaid i ni gofrestru’n barti â buddiant
os ydym yn awdurdod lleol?
At ddiben adran 102(1)(c) Deddf Cynllunio 2008, mae awdurdod lleol yn barti â buddiant fel mater o drefn os yw’r datblygiad
arfaethedig wedi’i leoli o fewn ei ffin weinyddol.

Bydd awdurdodau lleol sy’n rhannu ffin â’r awdurdod lleol y mae datblygiad arfaethedig wedi’i leoli ynddo yn cael eu gwahodd i’r Cyfarfod hagarweiniol ac yn cael gwybod am y penderfyniadau gweithdrefnol a wneir yn y Cyfarfod Rhagarweiniol. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau statws parti â buddiant mewn archwiliad o gais, rhaid i awdurdodau ffiniol naill ai wneud sylwadau perthnasol neu roi gwybod i’r Arolygiaeth Gynllunio eu bod yn dymuno bod yn barti â buddiant cyn diwedd yr archwiliad. 

Er gwaethaf statws awdurdod lleol, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn annog pob awdurdod lleol â buddiant i wneud sylwadau perthnasol i roi safbwyntiau cynnar ar y cais i’r Awdurdod Archwilio. Bydd hyn yn galluogi safbwyntiau’r awdurdodau lleol i lywio asesiad cychwynnol yr Awdurdod Archwilio o’r prif faterion i’w harchwilio.
Archwiliad

Am ragor o wybodaeth, gweler y dudalen Y broses.
FAQ48 Beth yw’r Cyfarfod Rhagarweiniol?
Y Cyfarfod Rhagarweiniol yw lle mae’r ymgeisydd, partïon â buddiant a hobl eraill yn gwneud sylwadau llafar i’r Awdurdod Archwilio ar sut y dylid archwilio’r cais (a88 Deddf Cynllunio 2008). Gall hyn gynnwys, ond nid wedi’i gyfyngu i, drafod y dyddiadau ar gyfer cyflwyno sylwadau ysgrifenedig a’r angen am wrandawiadau yn ymwneud â materion penodol. Cyfarfod gweithdrefnol yw’r Cyfarfod Rhagarweiniol. Nid yw ar gyfer trafod rhinweddau’r cais ei hun.

Yr Awdurdod Archwilio fydd yn llywyddu’r Cyfarfod Rhagarweiniol ac yn penderfynu pa faterion fydd yn cael eu trafod a sut, yn unol â Rheolau Cynllunio Seilwaith (Gweithdrefn
Archwilio) 2010
. Gweler Nodyn Cyngor 8.3: Dylanwadu ar sut y caiff cais ei archwilio am ragor o wybodaeth.
FAQ49 A fydd Cyfarfodydd Rhagarweiniol a
gwrandawiadau archwilio yn cael eu cynnal ym Mryste neu’n agos at y datblygiad
arfaethedig?
Lle y bo’n ymarferol, dylai cyfarfodydd a gwrandawiadau gael eu cynnal mewn lleoliad sydd mor agos â phosibl at safle’r datblygiad arfaethedig. Caiff lleoliadau eu dewis yn ôl meini prawf sy’n ystyried gosrwydd at safle’r datblygiad, hygyrchedd a maint. Yr ymgeisydd sy’n gyfrifol am ddod o hyd i leoliad addas ar gyfer y Cyfarfod Rhagarweiniol ac unrhyw wrandawiadau archwilio (i’w cytuno â’r Arolygiaeth Gynllunio) a thalu amdanynt.
FAQ50 Beth yw amserlen yr archwiliad?
Bydd yr Awdurdod Archwilio yn pennu’r amserlen ac ar ba ffurf y dylid cynnal yr archwiliad yn y Cyfarfod Rhagarweiniol, neu cyn gynted ag y bo’n ymarferol wedi hynny. Bydd pob parti â buddiant a pharti statudol yn cael gwybod am amserlen yr archwiliad wedi’i iddi gael ei chadarnhau.
FAQ51 A allaf fod yn bresennol mewn gwrandawiad
archwilio? A fyddaf yn gallu siarad?
Caiff pob gwrandawiad ei gynnal yn gyhoeddus a gall unrhyw un fod yn bresennol.

Yn amodol ar ddisgresiwn yr Awdurdod Archwilio, caiff unrhyw un sydd wedi cofrestru’n barti â buddiant gyfle i siarad mewn gwrandawiadau. Y prif ddull ar gyfer archwilio cais yw trwy sylwadau ysgrifenedig. Mae’n bosibl y caiff gwrandawiadau yn ymwneud â materion penodol eu cynnal os tybia’r Awdurdod Archwilio fod angen gwneud hynny. Os bydd unrhyw barti â buddiant yn gofyn am wrandawiad llawr agored, ac/neu os bydd rhywun sydd â buddiant mewn tir y cynigir ei gaffael yn orfodol yn gofyn am wrandawiad caffaeliad gorfodol, rhaid i’r Awdurdod Archwilio gynnal un.
FAQ52 A allaf siarad yn y gwrandawiad os nad wyf
wedi cofrestru’n barti â buddiant?
Mae caniatáu i unigolyn sydd heb gofrestru wneud sylwadau llafar yn y gwrandawiad yn dibynnu ar ddisgresiwn yr Awdurdod Archwilio.

Gweler Rheol 14(10) of Rheolau Cynllunio Seilwaith (Gweithdrefn Archwilio) 2010 am ragor o wybodaeth.
FAQ53 Beth fydd yn digwydd os nad allaf fynd i
wrandawiad?
Os na allwch fynd i wrandawiad, gallwch gyflwyno eich sylwadau’n ysgrifenedig i’r Awdurdod Archwilio. Fel arall, cewch anfon cynrychiolydd i’r gwrandawiad yn eich lle, naill ai I glywed yr hyn sy’n cael ei ddweud neu roi sylwadau llafar ar eich rhan.

Caiff y gwrandawiad ei gynnal yn gyhoeddus ac mae’r gweithdrefnau’n sicrhau y caiff y gwrandawiad ei gynnal mewn ffordd deg ac agored. Hefyd, gallech gysylltu â grwpiau cymunedol, grwpiau amgylcheddol neu grwpiau partïon â buddiant eraill a allai fod yn bresennol yn y gwrandawiad. Efallai y byddant yn fodlon rhoi’r sylwadau ar eich rhan, neu’n gwneud yr un pwyntiau â chi.

Caiff pob gwrandawiad ei recordio. Caiff y recordiadau sain eu cyhoeddi ar dudalen y prosiect perthnasol cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl pob gwrandawiad.
FAQ54 Pa dimau o arbenigwyr sydd gan yr Arolygiaeth
Gynllunio?
Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn cyflogi nifer o arbenigwyr ym meysydd cynllunio, y gyfraith ac asesu effeithiau amgylcheddol. Fodd bynnag, nid yw’n bosibl nac yn angenrheidiol cyflogi arbenigwyr ar gyfer pob mater sy’n debygol o godi ar draws yr amrywiaeth o brosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol. Bydd Awdurdodau Archwilio yn ystyried yr ystod lawn o dystiolaeth ger eu bron yn ystod archwiliad a gallant benodi aseswr arbenigol i’w helpu, yn ôl yr angen.
FAQ55 A oes modd gosod gofynion ar Orchymyn
Caniatâd Datblygu (DCO) er mwyn sicrhau cydymffurfiad â materion penodol?
Oes. Caiff gofynion eu gosod ar Orchymyn Caniatâd Datblygu yn rheolaidd. Mae gofynion yn debyg i amodau cynllunio ym mhenderfyniadau’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref, ac yn manylu ar yr amodau a’r cyfyngiadau ar gyfer datblygu a materion lle mae angen cael cymeradwyaeth fanwl cyn gall y datblygiad ddechrau’n gyfreithlon.
FAQ56 Beth yw Adroddiad ar yr Effaith Leol (LIR)?
Sut gallaf gyfrannu ato?
Wedi i archwiliad o gais ddechrau, bydd yr Awdurdod Archwilio yn gwahodd yr awdurdodau lleol perthnasol i gyflwyno Adroddiad ar yr Effaith Leol ar effeithiau tebygol y datblygiad arfaethedig ar yr ardal leol. Caiff partïon â buddiant wybod am y terfyn amser ar gyfer rhoi sylwadau ar yr Adroddiad ar yr Effaith Leol yn amserlen yr archwiliad a amlinellir yn y ‘llythyr Rheol 8’ (gweler Rheol 8 yn Rheolau Cynllunio Seilwaith (Gweithdrefn Archwilio)
2010
).
Argymhelliad a Phenderfyniad

Am ragor o wybodaeth, gweler y dudalen Y broses.
FAQ57 Pa bolisi sy’n cael ei ddefnyddio
gan Awdurdodau Archwilio i archwilio a gwneud argymhellion ar geisiadau?
Rhaid i Awdurdodau Archwilio wneud argymhellion yn unol â Datganiadau Polisi Cenedlaethol y llywodraeth; heblaw mewn amgylchiadau penodol, gan gynnwys pan fyddai effeithiau niweidiol datblygiad arfaethedig yn gorbwyso’r manteision (gweler a104 Deddf Cynllunio 2008 am ragor o wybodaeth). Mae’r Datganiadau Polisi Cenedlaethol yn destun proses democrataidd o ymgynghori â’r cyhoedd a chraffu seneddol cyn cael eu dynode (h.y. mabwysiadu). Gallai polisïau eraill fod yn faterion perthnasol a phwysig y bydd yr Awdurdod Archwilio yn eu hystyried hefyd.

Am fwy o wybodaeth, gweler y dudalen Datganiadau Polisi Cenedlaethol.
FAQ58 Pwy fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol?
Yn y pen draw, yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol fydd yn gwneud penderfyniadau ar ôl cael argymhelliad gan yr Awdurdod Archwilio. Yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol yw’r gweinidog sy’n gyfrifol am yr agwedd honno ar fusnes y llywodraeth y mae cais yn ymwneud â hi e.e. yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar geisiadau priffyrdd.

Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol dri mis I wneud penderfyniad.
FAQ59 Beth fydd y canlyniad os na fydd yr
Ysgrifennydd Gwladol yn derbyn argymhelliad gan Awdurdod Archwilio?
Yr Ysgrifennydd Gwladol fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol, felly nid oes rhaid iddo/iddi gytuno ag argymhelliad yr Awdurdod Archwilio. Caiff Adroddiad yr Argymhelliad ei gyhoeddi ynghyd â phenderfyniad a datganiad o resymau’r Ysgrifennydd Gwladol, felly bydd yn bosibl gweld pam na chafodd yr argymhelliad ei ddilyn.
Ar ôl y penderfyniad

Am ragor o wybodaeth, gweler y dudalen Y broses.
FAQ60 Pwy sy’n gyfrifol am orfodi ar ôl i Orchymyn
Caniatâd Datblygu gael ei roi?
Yr awdurdod cynllunio lleol perthnasol sydd fel arfer yn gyfrifol am orfodi’r darpariaethau a’r gofynion a amlinellir yn y Gorchymyn Caniatâd Datblygu (gweler Rhan 8 Deddf Cynllunio 2008). Caiff unrhyw amodau mewn perthynas â chaniatâd tybiedig Deddf Amddiffyn y Glannau 1949 neu drwydded Deddf Diogelu Bwyd a’r Amgylchedd 1989 (neu Drwydded Forol Dybiedig) eu gorfodi gan y Sefydliad Rheoli Morol.
FAQ61 A allaf apelio yn erbyn penderfyniad yr
Ysgrifennydd Gwladol?
Nid oes unrhyw hawl i apelio. Gellir gwneud cais i’r llysoedd am Adolygiad Barnwrol ar ôl i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud ei benderfyniad/phenderfyniad. Dylech geisio eich cyngor cyfreithiol eich hun ynghylch gwneud cais am Adolygiad Barnwrol.

Dogfennau Cwestiynau Cyffredin pwnc-benodol

Paratowyd y dogfennau Cwestiynau Cyffredin isod i ddarparu cymorth manwl i’n cwsmeriaid ar feysydd pwnc penodol.

Deddf Cynllunio 2008, Adran 53: Hawliau mynediad – cwestiynau cyffredin Casgliad o gynghorion sy’n cael eu rhoi i ymgeiswyr (a phobl eraill) yn ymwneud ag awdurdodi hawliau mynediad at dir er mwyn cynnal arolygon a nodi lefelau.

Deddf Cynllunio 2008, Adran 47: Ymgynghori â’r gymuned – cwestiynau cyffredin Casgliad o gynghorion sy’n cael eu rhoi i gymunedau lleol ynghylch y weithdrefn cyn gwneud cais ac ymgynghori â’r gymuned.

Deddf Cynllunio 2008: Y broses gwmpasu – cwestiynau cyffredin Crynhoad o gyngor ynghylch proses gwmpasu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol, a gynhelir gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol

Deddf Cynllunio 2008: Beth yw fy statws yn yr Archwiliad? – cwestiynau cyffredin Cyngor i helpu pobl a sefydliadau i ddeall pam eu bod wedi derbyn gohebiaeth gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data: Digwyddiadau Archwilio Cwestiynau Cyffredin (CC) Cyngor i bobl sy’n ymwneud ag archwilio ceisiadau Prosiect Seilwaith sy’n Sylweddol yn Genedlaethol ynghylch sut mae’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yn berthnasol i sylwadau llafar mewn digwyddiadau Arholiad, a recordiadau sain digidol ohonynt.