Nodyn Cyngor 11: Gweithio gyda chyrff cyhoeddus yn y broses cynllunio seilwaith

Yr Arolygiaeth Gynllunio a Phrosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol

Sefydlwyd y broses gynllunio ar gyfer ymdrin â chynigion ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol gan Ddeddf Cynllunio 2008 (DC2008).Mae proses DC2008 yn ymwneud ag archwilio cynigion mawr sy’n ymwneud â phrosiectau ynni, trafnidiaeth, dŵr, gwastraff, dŵr gwastraff a busnes a masnachol, ac mae’n cynnwys cyfleoedd i bobl gael dweud eu barn cyn y gwneir penderfyniad gan yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol p’un ai y dylid rhoi caniatâd datblygu ai peidio.

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn cyflawni rhai swyddogaethau sy’n gysylltiedig â chynllunio seilwaith cenedlaethol ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol. Yn y fersiwn hon o Nodyn Cyngor 11, cyfeirir yn gyffredinol at ‘yr Arolygiaeth Gynllunio’, fodd bynnag, wrth ymdrin â gwneud penderfyniadau mewn perthynas â cheisiadau neu geisiadau

Statws y Nodyn Cyngor hwn

Mae profiad hyd yn hyn wedi dangos bod ymgeiswyr ac eraill yn croesawu cyngor manwl ar nifer o agweddau ar broses DC2008. Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn llunio rhan o gasgliad o gyngor o’r fath a ddarperir gan yr Arolygiaeth Gynllunio. Mae’r fersiwn hon o Nodyn Cyngor 11 dyddiedig Tachwedd 2017 yn disodli pob fersiwn flaenorol. Nid oes iddo statws statudol.

Neidio i’r adran:

  1. Cyflwyniad
  2. Trefniadau gweithio cyffredinol
  3. Ymgynghoriad cyn ymgeisio o dan a42 DC2008
  4. Asesiad Effeithiau Amgylcheddol
  5. Caniatáu
  6. Rhyngweithio rhwng yr Arolygiaeth Gynllunio a chyrff cyhoeddus perthnasol

1. Cyflwyniad

Mae Deddf Cynllunio 2008 (DC2008) a’r is-ddeddfwriaeth gysylltiedig yn gosod allan ystod o gyrff a fydd o bosibl yn gallu cymryd rhan yn y broses o gynllunio seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol.

1.1 Mae’r Nodyn Cyngor hwn wedi’i anelu at:

  • gyrff cyhoeddus sy’n ymgyngoreion o dan DC2008; a’r
  • cyrff cyhoeddus hynny (lle bo hynny’n berthnasol) sydd â phwerau i roi caniatâd ac ati, heblaw am ganiatâd datblygu, y gallai fod ei angen ar gyfer adeiladu, defnyddio neu weithredu Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol.

1.2 Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn esbonio’r fframwaith sy’n llywodraethu cyfranogiad ymgyngoreion ym mhob cam ym mhroses DC2008 ac mae’n gosod allan yr egwyddorion allweddol y mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn gobeithio y byddant yn sail i’r trefniadau gweithio. Nid yw’r Nodyn Cyngor hwn yn ymdrin â rôl awdurdodau lleol o dan DC2008, a ddisgrifir yn hytrach yn Nodyn Cyngor Dau yr Arolygiaeth Gynllunio.

1.3 Mae’r Nodyn Cyngor wedi’i strwythuro fel a ganlyn:

  • Mae’r prif gorff yn cwmpasu agweddau generig ar waith yr Arolygiaeth Gynllunio â chyrff cyhoeddus eraill yn y broses, mewn perthynas â’u rôl fel ymgyngoreion ar gyfer ceisiadau am ganiatâd datblygu a gynigir, a lle mae ganddynt bwerau cydsynio cyfochrog.
  • Mae atodiadau ar wahân yn nodi’n fanylach y rolau penodol a chwaraeir gan gyrff unigol ac yn rhoi sylw i’w rhyngweithiadau penodol â’r Arolygiaeth Gynllunio, yn ystod cyfnodau allweddol ym mhroses DC2008. Mae’n bosibl y bydd atodiadau ychwanegol yn cael eu hychwanegu maes o law. Gellir lawrlwytho atodiadau o wefan yr Arolygiaeth Gynllunio.

1.4 Bydd y Nodyn Cyngor hwn, a’r atodiadau iddo, yn cael eu hadolygu yng ngoleuni unrhyw newidiadau i’r broses cynllunio seilwaith a chyfrifoldebau statudol cyrff perthnasol.

2. Trefniadau gweithio cyffredinol

Mae nifer o egwyddorion cyffredinol a all helpu i hyrwyddo perthynas waith effeithiol rhwng yr Arolygiaeth Gynllunio ac ymgyngoreion perthnasol:

  • Cyfathrebu a deialog dda yn y cam cyn ymgeisio. Mae gan ymgyngoreion nifer o rolau pwysig i’w chwarae yn y cam hwn, a thrafodir hyn ymhellach isod. Er enghraifft, mae rhannu gwybodaeth rhwng yr Arolygiaeth Gynllunio ac ymgyngoreion am wahanol elfennau’r broses gydsynio ar gyfer Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol penodol yn ategiad pwysig i rolau ffurfiol ymgyngoreion wrth ymateb i unrhyw ymgynghoriad cwmpasu Asesiad Effeithiau Amgylcheddol (Rheoliad 10 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017 (“y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol”)) ac i ddyletswyddau ymgynghori ymgeiswyr o dan adran 42 DC2008.
  • Amseroldeb. Mae DC2008 a’r is-ddeddfwriaeth berthnasol yn nodi amserlenni sy’n berthnasol i’r broses, er enghraifft mewn perthynas ag ymgynghoriadau cwmpasu Asesiad Effeithiau Amgylcheddol ac a42. Felly, mae’n bwysig iawn i ymgyngoreion ymateb yn brydlon i derfynau amser statudol gan gynnwys unrhyw geisiadau ymgynghori. Er enghraifft, os na fydd corff ymgynghori yn ymateb i geisiadau ymgynghoriad cwmpasu Asesiad Effeithiau Amgylcheddol o fewn y terfyn amser statudol diffiniedig, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio (ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol) yn tybio nad oes ganddynt sylwadau i’w gwneud ar yr wybodaeth sydd i’w darparu yn Natganiad Amgylcheddol yr ymgeisydd.
  • Tryloywder. Mae gan ymgyngoreion a’r Arolygiaeth Gynllunio rolau gwahanol o fewn proses DC2008. Er mwyn sicrhau y caiff didueddrwydd ei ddiogelu, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn gweithredu polisi o fod yn agored a thryloyw. Dylai ymgyngoreion ddisgwyl y bydd nodiadau o unrhyw gyfarfodydd gyda’r Arolygiaeth Gynllunio ynghylch cynigion am Brosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, a gohebiaeth, ar gael i’r cyhoedd.

Y cam cyn ymgeisio

3. Ymgynghoriad cyn ymgeisio o dan a42 DC2008

3.1 Mae ymgynghoriad cyn ymgeisio gan ymgeiswyr yn rhan allweddol o broses DC2008. Mae DC2008 yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ymgynghori ag ystod o ymgyngoreion. Mae’r rhain yn cynnwys sefydliadau sydd ag arbenigedd neu gyfrifoldeb penodol yn ymwneud â materion sy’n berthnasol i’r cynnig, megis y sefydliadau hynny sydd wedi’u cynnwys yn yr atodiadau i’r Nodyn Cyngor hwn.

3.2 Mae nifer o bwyntiau pwysig y dylai ymgyngoreion fod yn ymwybodol ohonynt gan gynnwys:

  • Bod ymgyngoreion yn gallu darparu gwybodaeth dechnegol y dylai ymgeiswyr ei hystyried yn gynnar, er enghraifft wrth ddrafftio Erthyglau a Gofynion yn eu Gorchymyn Caniatâd Datblygu drafft i liniaru effeithiau negyddol. Mae’n nodwedd allweddol ym mhroses DC2008 fod ymgeiswyr yn gallu cynnwys manylion fel hyn yn eu ceisiadau cyn iddynt gael eu cyflwyno. Mae hyn golygu y bydd archwiliad ynghylch ceisiadau a dderbynnir yn gallu canolbwyntio ar faterion lle mae cwestiynau’n parhau. Hefyd, mae ymgynghoriad llawn ac ystyrlon, cyn cyflwyno cais, yn lleihau’r perygl o newidiadau sylweddol a/ neu ansylweddol i’r cais yn cael eu cynnig yn ystod cam rhy hwyr yn y broses.
  • Felly, dylai ymgyngoreion ymateb mor llawn a chyn gynted ag y bo modd i geisiadau gan ymgeiswyr am gyngor ar gynigion. Bydd hyn yn helpu i hwyluso llunio ceisiadau sydd wedi’u paratoi’n dda ar gyfer caniatâd datblygu.
  • Mae’n bosibl i ymgeiswyr gyfuno ymgynghoriad sy’n ofynnol gan a42 DC2008 gyda chais am farn gwmpasu Asesiad Effeithiau Amgylcheddol a gynhelir gan yr Arolygiaeth Gynllunio (ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol). Os defnyddir y dull hwn, bydd yn golygu y bydd mwy nag un math o ymgynghoriad yn digwydd ar yr un pryd. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio o’r farn y dylid osgoi’r dull hwn gan y gallai arwain at ddryswch a rhwystro’r broses yn y pen draw.
  • Hefyd, mae’n bosibl y gofynnir i ymgyngoreion roi gwybod i ymgeiswyr am faterion o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 (fel y’u diwygiwyd) (y Rheoliadau Cynefinoedd) a/ neu Reoliadau Amgylchedd Dŵr (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi cyhoeddi Nodiadau Cyngor ar wahân ar y pynciau hyn:
    • Gweler Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010/490 fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau (Diwygio) 2011 (dylid cyfeirio at Nodyn Cyngor 10 yr Arolygiaeth Gynllunio).
    • Gweler Rheoliadau Amgylchedd Dŵr (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017 (dylid cyfeirio at Nodyn Cyngor 18 yr Arolygiaeth Gynllunio)
  • Rhaid i ymgeiswyr gynnwys Gofynion drafft yn eu Gorchymyn Caniatâd Datblygu drafft, gan gymryd i ystyriaeth safbwyntiau ymgyngoreion perthnasol ac eraill. Mae’n bosibl y bydd ymgyngoreion yn gyfrifol am gyflawni Gofynion o’r fath os rhoddir caniatâd datblygu.
  • Yn y cyfnod cyn ymgeisio, lle bo hynny’n bosibl, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn annog ymgyngoreion â meysydd cyfrifoldeb cysylltiedig i gydlynu eu hymatebion.

4. Asesiad Effeithiau Amgylcheddol

4.1 Un maes allweddol o ran rhyngweithio rhwng yr Arolygiaeth Gynllunio ac ymgyngoreion yw lle mae datblygiadau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol a gynigir yn ddatblygiad sydd angen Asesiad Effeithiau Amgylcheddol. Dyma’r pwyntiau allweddol i’w nodi:

  • Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gwblhau Asesiad Effeithiau Amgylcheddol Rheoliad 8 drwy naill ai nodi eu bwriad i ddarparu Datganiad Amgylcheddol mewn perthynas â’r datblygiad neu, os yw’n ansicr p’un ai yw’n ddatblygiad sydd angen Asesiad Effeithiau Amgylcheddol, gall ymgeiswyr ofyn i’r Arolygiaeth Gynllunio (ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol) ddarparu barn sgrinio. Os yw’r datblygiad yn un sydd angen Asesiad Effeithiau Amgylcheddol, rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio hysbysu rhestr o ‘gyrff ymgynghori’ (cyrff ymgynghori fel y’u diffinnir gan Reoliad 3(1) y Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol) ynghylch eu dyletswyddau mewn perthynas â gwybodaeth a ystyrir yn berthnasol wrth baratoi Datganiad Amgylcheddol yr Ymgeisydd (gweler Rheoliad 11 y Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol).
  • Er nad oes gofyniad cyfreithiol i ymgeiswyr ofyn am farn gwmpasu ar gyfer datblygiad sydd angen Asesiad Effeithiau Amgylcheddol, bydd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn gwneud hynny. Pan wneir cais, mae’n ofynnol i’r Arolygiaeth Gynllunio (ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol) ymgynghori â’r cyrff ymgynghori.
  • Mae Nodyn Cyngor Tri a Nodyn Cyngor Saith yr Arolygiaeth Gynllunio yn rhoi cyngor pellach ar y materion hyn. Mae’r Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol yn ei gwneud yn ofynnol i’r Arolygiaeth Gynllunio (ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol) gyhoeddi barn gwmpasu o fewn 42 diwrnod o dderbyn cais neu o dderbyn gwybodaeth ychwanegol lle nad yw ymgeisydd wedi darparu digon o wybodaeth gyda’u cais. O fewn y cyfnod hwn, mae gan ymgyngoreion 28 diwrnod i ddarparu unrhyw sylwadau ar gais cwmpasu ymgeisydd.
  • Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn cynghori ymgeiswyr mewn barnau cwmpasu i osod allan yn eu Datganiad Amgylcheddol pa effeithiau cronnol sy’n deillio o ddatblygiadau mawr eraill, gan gynnwys y rhai a ganiatawyd o dan gyfundrefnau statudol eraill, a nodwyd ac a aseswyd yn yr Asesiad Effeithiau Amgylcheddol. Dylai ymgeiswyr sicrhau hefyd y bydd yr holl ganiatadau perthnasol sydd eu hangen i alluogi adeiladu a gweithrediad eu Datblygiad a Gynigir i fynd yn eu blaen wedi’u gosod allan yn y Datganiad Amgylcheddol. Dylai ymgyngoreion gynorthwyo ymgeiswyr i fodloni’r rhwymedigaethau hyn pan ofynnir iddynt wneud hynny.
  • Mae’n bwysig i ymgeiswyr sicrhau bod eu Datganiad Amgylcheddol yn ddigonol. Yn ystod y cam Derbyn, os na ystyrir bod y Datganiad Amgylcheddol yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Rheoliad 14 y Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol), ni fydd y cais yn cael ei dderbyn i fynd ymlaen i Archwiliad. Ar ben hynny, yn ystod y cam Archwilio, os daw i’r amlwg bod y Datganiad Amgylcheddol yn annigonol ac y dylai gynnwys gwybodaeth bellach er mwyn iddo gael ei ystyried yn Ddatganiad Amgylcheddol, gellid atal y cais rhag cael ei ystyried dros dro hyd nes y bydd gwybodaeth bellach wedi’i derbyn (Rheoliad 20 y Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol) . Dylai ymgyngoreion gynorthwyo ymgeiswyr yn y cam cyn ymgeisio er mwyn lleihau’r risg hon.

5. Caniatáu

5.1 Mae’n bosibl y bydd gan rai ymgyngoreion bwerau hefyd i roi caniatadau, trwyddedau neu awdurdodiadau (‘caniatadau a.y.b.’), ar wahân i Orchymyn Caniatâd Datblygu, sy’n ofynnol ar gyfer adeiladu, defnyddio neu weithredu Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol. Mae cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu yn gwneud darpariaeth i ymgeiswyr roi manylion am ganiatadau a.y.b. eraill sydd eu hangen o dan ddeddfwriaeth ar wahân i DC2008.

5.2 Gellir rhoi caniatâd ar wahân ar gyfer rhai caniatadau a.y.b. a ragnodir neu eu cynnwys mewn Gorchymyn Caniatâd Datblygu. Mae Adran 150 DC2008 yn darparu y gellir cynnwys y caniatadau hyn mewn Gorchymyn Caniatâd Datblygu dim ond os bydd y corff cydsynio perthnasol yn cytuno i’w cynnwys. Bydd angen i ymgeiswyr ymgysylltu’n gynnar yn y cam cyn ymgeisio ag ymgyngoreion sydd â phwerau cydsynio o’r fath, fel y bydd yn glir erbyn cyfnod cyflwyno’r cais p’un ai y bydd caniatadau o’r fath yn cael eu cynnwys mewn Gorchymyn Caniatâd Datblygu drafft.

5.3 Gall ymgeiswyr ddewis i ganiatadau eraill gael eu hystyried gan Orchymyn Caniatâd Datblygu. Er enghraifft, gellir gwneud cais am Drwydded Forol naill ai ar wahân i’r Sefydliad Rheoli Morol neu i’w ystyried mewn Gorchymyn Caniatâd Datblygu a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Nid yw cynnwys caniatâd o’r fath mewn Gorchymyn Caniatâd Datblygu, yn wahanol i ganiatadau a150, yn gofyn am gymeradwyaeth y corff cydsynio perthnasol. Bydd angen i ymgeiswyr benderfynu ar y cam cyn ymgeisio a ydynt eisiau gwneud cais ar wahân neu geisio cael caniatadau o’r fath wedi’u hystyried gan Orchymyn Caniatâd Datblygu.

5.4 Gellir cynnwys darpariaethau ar gyfer creu awdurdod harbwr, newid pwerau neu ddyletswyddau, neu wneud darpariaethau eraill mewn perthynas ag awdurdod o’r fath, mewn cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu. Hefyd, gall y Sefydliad Rheoli Morol ymdrin â cheisiadau am Orchymyn Harbwr ar wahân, oni bai y bydd datblygiad harbwr yn Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yn ei hun neu’n rhan annatod o Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (gweler a33(2) DC2008) . Er mai mater i ymgeiswyr ei benderfynu yw pa lwybr sydd fwyaf priodol ar gyfer y Datblygiad a Gynigir ganddynt, dylid nodi nad oes unrhyw awdurdodaeth ddeuol rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol a’r Sefydliad Rheoli Morol mewn perthynas â’r un gyfres o waith (gweler a120(9)(a) DC2008).

5.5 Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn annog ymgeiswyr i ddarparu ‘rhestr o ganiatadau’ yn gosod allan unrhyw ganiatadau sy’n ofynnol ochr yn ochr â’r Gorchymyn Caniatâd Datblygu ar gyfer y Datblygiad a Gynigir cyn gynted ag y bo modd yn ystod y cam cyn ymgeisio er mwyn egluro pa gyrff y bydd y ceisiadau angenrheidiol hynny’n cael eu cyflwyno iddynt a sut mae cyflwyniadau o’r fath yn alinio â’r broses o wneud cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu. Dylai ymgyngoreion geisio cynorthwyo ymgeiswyr i lunio atodlen gynhwysfawr a chywir.

5.6 Lle bydd caniatadau a.y.b. eraill i’w cynnwys mewn cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu, dylai ymgyngoreion ac ymgeiswyr amseru eu rhyngweithio i alluogi cytundeb ar faterion cymaint ag y bo modd yn y cam cyn ymgeisio. Hefyd, gall ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth i gefnogi eu cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu gan nodi pa mor agos ydynt at dderbyn unrhyw ganiatadau a.y.b. sy’n ofynnol o dan ddeddfwriaeth arall.

5.7 Gall amseriad penderfyniadau ar ganiatadau ac eithrio’r Gorchymyn Caniatâd Datblygu gael effaith bwysig ar yr archwiliad i’r cais a dylid ystyried hyn yn ofalus. Bydd polisi’r Llywodraeth ar y pwynt hwn, fel y gosodir allan yn y Datganiadau Polisi Cenedlaethol, yn ystyriaeth bwysig yn hyn o beth. Gosodir allan rhagor o fanylion am y rhyngweithio rhwng DC2008 a chaniatadau a.y.b. penodol, perthnasol sy’n ofynnol o dan ddeddfwriaeth arall yn yr atodiadau i’r Nodyn Cyngor hwn mewn perthynas ag ymgyngoreion unigol. Bydd ystyriaethau penodol yn debygol o fod yn berthnasol mewn achosion unigol hefy.

6. Rhyngweithio rhwng yr Arolygiaeth Gynllunio a chyrff cyhoeddus perthnasol

6.1 Mae pwyntiau penodol nad ymdrinnir â hwy yn y nodyn cyngor hwn yn cael eu hegluro mewn cyfres o atodiadau ar wahân. Mae pob atodiad yn cynnwys:

  • y rolau penodol a chwaraeir gan yr Arolygiaeth Gynllunio a’r corff cyhoeddus perthnasol;
  • cytundebau a threfniadau lefel uchel penodol;
  • pwyntiau cyswllt perthnasol; a
  • rhestr o ganiatadau, trwyddedau neu awdurdodiadau perthnasol, ac ystyriaethau yn ymwneud â sut y mae’r rhain yn rhyngweithio â phroses DC2008.