Canllawiau

Cyhoeddir y canlynol gan y llywodraeth i roi arweiniad ar ystod o faterion sy’n ymwneud â phroses Deddf Cynllunio 2008.

Canllawiau ar ofynion gweithdrefnol ar gyfer prosiectau seilwaith mawr

(Cyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, Rhagfyr 2020)

Canllawiau ar rai gofynion ymgynghori a chyhoeddusrwydd cyfundrefn y Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol.

Deddf Cynllunio 2008: Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ffioedd) 2010 – Canllawiau

(Cyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, Mai 2019)

Canllawiau anstatudol i helpu i ddehongli Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ffioedd) 2010 ac i ddarparu enghreifftiau o sut mae’r ffioedd yn gweithio’n ymarferol.

Deddf Cynllunio 2008: canllawiau ar brosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol a thai

(a gyhoeddwyd gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol gynt, mis Mawrth 2017)

Mae’r Canllawiau hyn yn ymdrin â newidiadau i Ddeddf Cynllunio 2008 a wnaed gan adran 160 Deddf Tai a Chynllunio 2016. Mae’r newidiadau’n caniatáu am gael caniatâd datblygu ar gyfer tai sy’n gysylltiedig â Phrosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol o dan Ddeddf Cynllunio 2008.

Deddf Cynllunio 2008: canllawiau ar newidiadau i Orchmynion Caniatâd Datblygu

(a gyhoeddwyd gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol gynt, mis Rhagfyr 2015)

Mae’r Canllawiau hyn yn esbonio’r gweithdrefnau a amlinellir yn y Rheoliadau ynglŷn â gwneud newidiadau i Orchmynion Caniatâd Datblygu (DCO) ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol o dan Ddeddf Cynllunio 2008.

Maen nhw’n ymdrin â’r ddau fath o newid y gellir eu gwneud i DCO (ansylweddol neu sylweddol) a’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud y cyfryw  newidiadau.

Deddf Cynllunio 2008: canllawiau ar y broses Cyn-ymgeisio

(a gyhoeddwyd gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol gynt, mis Mawrth 2015)

Mae’r Canllawiau hyn yn amlinellu’r gofynion a’r gweithdrefnau sy’n berthnasol i’r broses Cyn-ymgeisio ac ymgynghori ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol. Mae’r ddogfen hon yn ymgorffori ac yn disodli canllawiau cynharach, sef ‘Deddf Cynllunio 2008: Canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol’ (a gyhoeddwyd gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, mis Mawrth 2010), sydd wedi cael eu tynnu’n ôl erbyn hyn.

Deddf Cynllunio 2008: archwilio ceisiadau am ganiatâd datblygu

(a gyhoeddwyd gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol gynt, mis Mawrth 2015).
Darperir y Canllawiau hyn i sicrhau bod gweithdrefnau archwilio’n cael eu cymhwyso’n gyson, ac i hybu tegwch, tryloywder a chymesuredd. Maen nhw hefyd yn amlinellu’r meini prawf y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn eu cymhwyso wrth benderfynu ar y broses archwilio ar gyfer cais penodol.

Deddf Cynllunio 2008: canllawiau yn ymwneud â gweithdrefnau ar gyfer caffael tir yn orfodol

(a gyhoeddwyd gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol gynt, mis Medi 2013).

Lluniwyd y Canllawiau hyn i gynorthwyo’r rhai hynny sy’n bwriadu gwneud cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu o dan Ddeddf Cynllunio 2008 y mae eu cais yn ceisio awdurdodiad ar gyfer caffael tir neu hawliau dros dir yn orfodol. Nod y Canllawiau yw helpu ymgeiswyr i ddeall y pwerau a gynhwysir yn Neddf Cynllunio 2008, a sut y gellir eu defnyddio i gael yr effaith orau.

Dyfarnu costau: archwilio ceisiadau am orchmynion caniatâd datblygu (a gyhoeddwyd gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol gynt, mis Gorffennaf 2013)

Mae’r Canllawiau hyn yn amlinellu’r egwyddorion cyffredinol ar gyfer dyfarnu costau mewn perthynas ag archwilio ceisiadau am orchmynion sy’n rhoi caniatâd datblygu o dan Ddeddf Cynllunio 2008.

Deddf Cynllunio 2008: ceisiadau datblygiad cysylltiedig ar gyfer prosiectau seilwaith mawr

(a gyhoeddwyd gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol gynt, mis Ebrill 2013).

Lluniwyd y Canllawiau hyn i helpu’r rhai hynny sy’n bwriadu gwneud cais am ganiatâd datblygu o dan Ddeddf Cynllunio 2008 i benderfynu sut mae’r darpariaethau sy’n ymwneud â Datblygiad Cysylltiedig yn berthnasol i’w cynigion.

Newidiadau ôl-ymgeisio

(a dderbyniwyd gan y Comisiwn Cynllunio Seilwaith gynt, mis Tachwedd 2011)

Cadarnhaodd yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol gynt nad oedd yn  bwriadu gwneud mwy o Reoliadau o dan adran 114(2) Deddf Cynllunio 2008. Ysgrifennodd y Gweinidog at Gadeirydd y Comisiwn Cynllunio Seilwaith gynt ynglŷn â newidiadau ôl-ymgeisio, a gellir darllen ei lythyr yma.

Rhwydweithiau Ynni Traws-Ewropeaidd (TEN-E)

Mae’r Llawlyfr Gweithdrefnau hwn, a gynhyrchwyd gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd gynt, yn amlinellu canllawiau ymarferol ar gyfer hyrwyddwyr (ymgeiswyr/ datblygwyr) Prosiectau Buddiant Cyffredin TEN-E, a’r cyhoedd, sy’n dymuno deall y broses ar gyfer penderfynu ar roi caniatâd ar gyfer Prosiectau Buddiant Cyffredin.

Llythyrau egluro ynglŷn â Chaffael Gorfodol

Llythyrau egluro ynglŷn â chaffael mannau agored yn orfodol

Gohebiaeth â’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol gynt ynglŷn â sut mae Deddf Twf a Seilwaith 2013 yn diwygio Deddf Cynllunio 2008 o ran adrannau 131 a 132 (caffael mannau agored yn orfodol).

Llythyrau egluro ynglŷn â chaffael tir comin yn orfodol

Gohebiaeth ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ynglŷn â sut mae Deddf Twf a Seilwaith 2013 yn diwygio Deddf Cynllunio 2008 o ran adrannau 131 a 132 (caffael tir comin yn orfodol).

Llythyr cynghori ynglŷn â chanllawiau polisi dŵr a ffefrir ar gyfer symud llwythi anghyffredin

Llythyr cynghori ynglŷn â chanllawiau polisi dŵr a ffefrir ar gyfer symud llwythi anghyffredin

Gohebiaeth gan yr Adran Drafnidiaeth sy’n tynnu sylw at y sefyllfa bolisi ar gyfer symud llwythi anwahanadwy anghyffredin ar y dŵr, a rôl gynghori Highways England.