Mae’r rhestr isod yn rhoi enghreifftiau o’r hyn y mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn eu hystyried yn enghreifftiau o ddogfennaeth dda a gyflwynwyd mewn perthynas â Phrosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIPau).
Nid yw cynnwys dogfen ar y rhestr hon yn awgrymu bod yr Arolygiaeth Gynllunio yn cytuno â’i chynnwys. Mae’n awgrymu bod yr arddull, fformat a’r dull a ddefnyddiwyd wedi bod o fudd wrth archwilio’r cais NSIP cysylltiedig. Lle y bo’n berthnasol, mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi datgan yr hyn sy’n dda yn y ddogfen enghreifftiol, a’r hyn y gellid ei wella.
Caiff enghreifftiau da eu hychwanegu at y rhestr hon pan gaiff enghreifftiau addas eu canfod. Bydd dogfennau ond yn cael eu hychwanegu wedi i’r cyfnod ar gyfer Adolygiad Barnwrol ddod i ben yn dilyn penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol (neu ar ôl i brosiect gael ei dynnu’n ôl), neu ar ôl i Adolygiad Barnwrol gael ei gwblhau.
Rydym yn croesawu sylwadau ac awgrymiadau ynghylch dogfennau posibl i’w cynnwys ar y rhestr hon drwy’r e-bost at: [email protected]
Datganiad Cyffredinrwydd
Prosiect | Cyflwynwyd gan | Pam y mae’n dda? |
---|---|---|
Prosiect Cysylltiad Richborough | National Grid | Roedd y Datganiad Cyffredinrwydd (PDF, 706KB) yn ddogfen ‘fyw’ yn ystod yr Archwiliad. Cyflwynwyd y fersiwn wreiddiol (ar ddyddiad cau 2) i ymateb i gais yr Awdurdod Archwilio (AA) i’r ymgeisydd ddarparu tabl yn dangos cyffredinrwydd ar bwyntiau penodol rhwng Datganiadau o Dir Cyffredin. Yna, diweddarwyd y fersiwn wreiddiol sawl gwaith yn ystod yr Archwiliad ar ddyddiadau cau priodol i ddangos y sefyllfa gyfredol ar y pwyntiau penodol. Helpodd strwythur clir a chyson y Datganiadau o Dir Cyffredin unigol a’r Datganiad Cyffredinrwydd yr AA (a phartïon eraill) trwy roi trosolwg hygyrch o’r sefyllfa bresennol rhwng yr ymgeisydd a’r partïon perthnasol. Helpodd hefyd o ran amlygu gwahaniaethau rhwng y partïon. Roedd y ddogfen wedi’i strwythuro’n ddefnyddiol fel a ganlyn: - Roedd Adran 2 yn manylu ar strwythur y dogfennau Datganiad o Dir Cyffredin ac yn rhoi rhestr gyfredol o’r Datganiadau o Dir Cyffredin (ar gyfer pob un o ddyddiadau cau yr Archwiliad); - Roedd Adran 3 yn rhoi diweddariad ar statws pob Datganiad o Dir Cyffredin; - Roedd Adran 4 yn amlinellu’r hyn a oedd yn gyffredin rhwng y Datganiadau o Dir Cyffredin a chrynodeb o’r prif faterion a oedd yn weddill; ac - Roedd Adran 4.2 yn rhoi crynodeb o feysydd penodol lle y nodwyd bod materion yn ‘destun trafodaethau cyfredol’ neu ‘heb eu cytuno’. |
Canllaw i’r Cais
Prosiect | Cyflwynwyd gan | Pam y mae’n dda? |
---|---|---|
Prosiect Cysylltiad Richborough | National Grid | Y Canllaw hwn i'r cais (PDF, 82KB) ddogfen fyw’ a oedd yn cynnwys yr holl ddiweddariadau/diwygiadau i ddogfennau’r cais ac unrhyw ddogfennau newydd a gyflwynwyd i’r Archwiliad gan yr ymgeisydd. Cafodd ei diweddaru’n rhagweithiol gan yr ymgeisydd ar ôl pob dyddiad cau yn Amserlen yr Archwiliad. Ar y cyd â Llyfrgell Archwiliad yr Arolygiaeth Gynllunio, rhoddodd gwaith yr ymgeisydd i lunio a chynnal y ddogfen hon sicrwydd i’r Awdurdod Archwilio (AA) a phartïon â buddiant ynghylch fersiynau’r ddogfen. Roedd hefyd yn galluogi partïon â buddiant i wirio a oeddent yn gwneud sylwadau yn seiliedig ar fersiwn ddiweddaraf y ddogfen a gyflwynwyd i’r Archwiliad. Helpodd yr AA yn ystod y cyfnod adrodd, gan roi cofnod cynhwysfawr o’r ‘cais terfynol’ o safbwynt yr ymgeisydd. Yn yr un cyd-destun, roedd hefyd yn egluro pa fersiynau o’r dogfennau roedd yr ymgeisydd yn cynnig eu hardystio yn nrafft argymelledig y Gorchymyn Caniatâd Datblygu. Mae i’r ddogfen strwythur defnyddiol oherwydd: - Mae’n cynnwys cyfeiriad at Lyfrgell Archwiliad yr Arolygiaeth Gynllunio a chyfeiriad at ddogfennau lleol cyfatebol yr ymgeisydd; - Mae’n rhoi codau lliw deuaidd clir i sefydlu statws pob un o ddogfennau’r cais; ac - Mae’n cynnal strwythur y cais fel y’i cyflwynwyd, sy’n helpu o ran pa mor hawdd ydyw i’w llywio. Gellid gwella’r ddogfen hon ymhellach trwy: - Gynnwys hyperddolenni i bob dogfen ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio. |
Adroddiad Ymgynghori
Prosiect | Cyflwynwyd gan | Pam y mae’n dda? |
---|---|---|
Fferm Wynt Alltraeth Triton Knoll | Triton Knoll Offshore Wind Farm Limited | Mae'r Adroddiad Ymgynghori hwn a gyflwynwyd gan Triton Knoll Offshore Wind Farm Limited (PDF, 6MB) yn clir a hawdd i’w lywio, gyda diagram defnyddiol o’r broses yn agos at ddechrau’r adroddiad. |
Dogger Bank Creyke Beck | Forewind | Cyflwynwyd yr Adroddiad Ymgynghori hwn gan (PDF, 4MB) wedi’i strwythuro’n dda oherwydd ei fod yn gwahanu ymarferion ymgynghori anstatudol a statudol yn glir, yn ogystal ag ymarferion ymgynghori sy’n ofynnol dan Reoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Mae hefyd yn cynnwys ‘rhestr wirio cydymffurfio’, sy’n offeryn defnyddiol wrth adolygu dogfennau yn ystod y cam Derbyn. Mae’r tablau yn yr adroddiad yn nodi’n glir y gofynion yn ystod y cam Derbyn, sydd eto’n helpu wrth adolygu cais. |
Sylwadau ar Ddigonolrwydd Ymgynghori
Prosiect | Cyflwynwyd gan | Pam y mae’n dda? |
---|---|---|
Fferm Wynt Alltraeth Rampion | Brighton & Hove Council | Digonolrwydd yr Ymateb Ymgynghori hwn (PDF, 1.8MB) gryno ond hefyd yn gynhwysfawr, ac mae’n rhoi cyfiawnhad clir ynghylch pam roedd yr ymgynghori’n ddigonol. |
Adroddiad ar yr Effaith Leol
Prosiect | Cyflwynwyd gan | Pam y mae’n dda? |
---|---|---|
Atgyfnerthu Llinell Drydan Gogledd Llundain | Greater London Authority | Mae'r Adroddiad Effaith Lleol hwn a gyflwynwyd gan y Greater London Authority yn (PDF, 865KB) arbennig o ddefnyddiol gan ei fod yn defnyddio dull ar raddfa strategol i amlygu effeithiau cynllun llinol sy’n ymestyn dros nifer o ardaloedd awdurdodau lleol, ac yn sicrhau y caiff yr effeithiau ar wasanaethau fel priffyrdd, trafnidiaeth ac ati, eu hintegreiddio. |
Fferm Wynt Alltraeth East Anglia ONE | Suffolk County Council, Mid Suffolk District Council and Suffolk Coastal District Council | Mae'r Adroddiad Effaith Lleol hwn a gyflwynwyd gan y Suffolk County Council, Mid Suffolk District Council and Suffolk Coastal District Council yn (PDF, 2.4MB) darparu rhoi asesiad cynnar cynhwysfawr o’r holl brif effeithiau a amlygwyd gan yr Awdurdod Archwilio. Mae’n amlinellu’r cynlluniau datblygu amrywiol (gan gynnwys statws a pholisïau perthnasol bob un ohonynt) ac yna’n rhoi asesiad clir o’r effeithiau dan feysydd gwahanol, ynghyd â chasgliad ar gyfer pob un. Mae hefyd yn esbonio sut gellid gwella’r Gorchymyn Caniatâd Datblygu neu’r dogfennau cysylltiedig. Mae’n cydymffurfio â’r arweiniad perthnasol a Nodyn Cyngor 1: Adroddiadau ar yr Effaith Leol, yn benodol trwy fod yn wrthrychol a pheidio â dod i gasgliadau ynghylch derbynioldeb y datblygiad arfaethedig, felly mae’n asesiad technegol o natur ymgynghorol i gynorthwyo’r Awdurdod Archwilio. Mae hefyd yn enghraifft dda o awdurdodau lleol yn cydweithio â’i gilydd. |
Datganiad o Dir Cyffredin
Prosiect | Cyflwynwyd gan | Pam y mae’n dda? |
---|---|---|
Fferm Wynt Alltraeth Rampion | E.ON Climate & Renewables UK Rampion Offshore Wind Farm Limited and South Downs National Park Authority | Mae'r Datganiad hwn o Dir Cyffredin a gyflwynwyd gan y E.ON Climate & Renewables UK Rampion Offshore Wind Farm Limited and South Downs National Park Authority (PDF, 416KB) gryno, ond mae’n rhoi digon o wybodaeth o hyd i ddeall y safbwynt. Mae’n cynnwys materion heb eu cytuno (neu ‘dir anghyffredin’) yn ddefnyddiol. Mae’n croesgyfeirio’r materion hyn â’r Adroddiad ar yr Effaith Leol er mwyn osgoi unrhyw ddyblygu. |
Fferm Wynt Alltraeth Walney Extension | DONG Energy Walney Extension (UK) Limited & Natural England & Joint Nature Conservation Committee | Y Datganiad hwn o Dir Cyffredin a gyflwynwyd gan DONG Energy Walney Extension (UK) Limited & Natural England (PDF, 1.8MB) roedd yn canolbwyntio’n glir ar faterion heb eu datrys ac yn olrhain cynnydd tuag at eu datrys. Roedd yn offeryn defnyddiol iawn i’r partïon dan sylw a rhoddodd y newyddion diweddaraf i’r Awdurdod Archwilio ar gynnydd a chynlluniau at y dyfodol erbyn pob dyddiad cau yn Amserlen yr Archwiliad. Gellid gwella’r dogfennau hyn ymhellach trwy eu croesgyfeirio â dogfennau perthnasol er mwyn gwneud eu maint cyffredinol yn fyrrach. |
Ymateb i Gwestiynau Ysgrifenedig
Prosiect | Cyflwynwyd gan | Pam y mae’n dda? |
---|---|---|
Fferm Wynt Alltraeth Rampion | Natural England | Mae hyn yn Ymateb i Gwestiynau Ysgrifenedig (PDF, 647KB) ymatebion wedi’u gosod yn ddefnyddiol ar ffurf tabl gyda’r cwestiwn a’r ateb wrth ochr ei gilydd. |
Sylwadau Ysgrifenedig
Prosiect | Cyflwynwyd gan | Pam y mae’n dda? |
---|---|---|
Fferm Wynt Alltraeth Burbo Bank Extension | Mersey Docks and Harbour Company | Sylwadau Ysgrifenedig (PDF, 1.4MB) gosod cyd-destun, mae’n rhesymegol ac mae’n amlinellu mesurau lliniaru (a rhesymau). |