Nodyn Cyngor 7: Asesu Effeithiau Amgylcheddol: Y Broses, Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol a Datganiadau Amgylcheddol

Mae Deddf Cynllunio 2008 (fel y’i diwygiwyd), ac is-ddeddfwriaeth gysylltiedig, yn sefydlu’r gofynion deddfwriaethol mewn perthynas â cheisiadau a cheisiadau arfaethedig ar gyfer gorchmynion sy’n rhoi caniatâd datblygu ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIPs).

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn cyflawni swyddogaethau penodol yn ymwneud â chynllunio seilwaith cenedlaethol ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol.

Mae profiad hyd yma wedi dangos bod Ymgeiswyr ac eraill yn croesawu cyngor manwl ar nifer o agweddau ar system Deddf Cynllunio 2008. Mae Nodyn Cyngor 8 yn cynnwys trosolwg o system Deddf Cynllunio 2008 ac mae’n arbennig o ddefnyddiol yn hyn o beth. Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn rhan o gyfres o Nodiadau Cyngor o’r fath a ddarperir gan yr Arolygiaeth Gynllunio sydd ar gael ar ein gwefan. Nid oes ganddo statws statudol. Caiff ei adolygu’n rheolaidd a’i ddiweddaru pan fydd angen.

Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn esbonio’r broses Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA) a amlinellir yn Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017 (y Rheoliadau AEA). Yn arbennig, mae’r nodyn yn mynd i’r afael â’r gweithdrefnau ar gyfer sgrinio a chwmpasu AEA; hysbysu ac ymgynghori; materion yn ymwneud â chynhyrchu Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol a pharatoi Datganiadau Amgylcheddol.

Er bod y Nodyn Cyngor hwn wedi’i fwriadu ar gyfer Ymgeiswyr yn bennaf, dylai fod yn ddefnyddiol i bobl eraill sy’n ymwneud â system Deddf Gynllunio 2008 hefyd.

Mae’r Rheoliadau AEA yn cynnwys darpariaethau trosiannol ar gyfer Datblygiadau Arfaethedig penodol. Pan fodlonir y darpariaethau trosiannol, bydd Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2009 (fel y’u diwygiwyd) yn parhau i fod yn berthnasol (gweler ‘Darpariaethau Trosiannol’ isod).

Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn cyfeirio at Nodiadau Cyngor eraill, gellir dod o hyd i’r rhain i gyd yr adran Nodiadau Cyngor ar wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol

Neidio i’r adran:

  1. Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA) – y broses
  2. Coronafeirws (COVID-19) – casglu gwybodaeth a data amgylcheddol
  3. Sgrinio AEA
  4. Hysbysu’r cyrff ymgynghori AEA
  5. Cwmpasu AEA
  6. Cyflwyno ceisiadau sgrinio/ cwmpasu
  7. Hysbysu o flaen llaw a ffeiliau siâp GIS
  8. Rôl Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol
  9. Datganiadau Amgylcheddol
  10. Gwybodaeth a gyhoeddir ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol

1. Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA) – y broses

1.1 Yn ôl y Rheoliadau AEA, mae datblygiad AEA yn golygu datblygiad sydd naill ai’n –

  • ddatblygiad Atodlen 1; neu’n
  • ddatblygiad Atodlen 2, sy’n debygol o gael effeithiau arwyddocaol ar yr amgylchedd o ganlyniad i ffactorau fel ei natur, ei faint neu ei leoliad.

1.2 Mae Rheoliad 5 y Rheoliadau AEA yn esbonio bod AEA yn broses sy’n cynnwys:

  • paratoi datganiad amgylcheddol neu ddatganiad amgylcheddol wedi’i ddiweddaru, fel y bo’n briodol, gan yr Ymgeisydd;
  • cynnal unrhyw ymgynghoriad, cyhoeddiad neu hysbysiad fel sy’n ofynnol o dan y Rheoliadau neu, fel y bo’r angen, unrhyw ddeddfiad arall yn ymwneud â datblygiad AEA; a’r
  • camau y mae’n rhaid iddynt gael eu cymryd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Reoliad 21 neu gan yr awdurdod perthnasol o dan Reoliad 25, fel y bo’n briodol.

1.3 Mae Rheoliad 6 y Rheoliadau AEA yn esbonio bod datblygiad yn ‘ddatblygiad AEA’:

  • os bydd unigolyn yn hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn ysgrifenedig o dan reoliad 8(1)(b) ei fod yn bwriadu darparu datganiad amgylcheddol mewn perthynas â Datblygiad Arfaethedig;
  • os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol neu Awdurdod Archwilio’n mabwysiadu barn sgrinio sy’n pennu bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA; neu
  • os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cyfarwyddo bod cais a dderbyniwyd yn ddatblygiad AEA (cyfarwyddyd sgrinio gan yr Ysgrifennydd Gwladol a wneir yn unol â Rheoliad 7 y Rheoliadau AEA).

1.4 Mae Rheoliad 8(1) y Rheoliadau AEA yn mynnu bod unigolyn sy’n bwriadu gwneud cais am orchymyn sy’n rhoi caniatâd datblygu yn cynnal y broses sgrinio AEA a ddisgrifir isod cyn cynnal ymgynghoriad statudol o dan a42 Deddf Cynllunio 2008.

1.5 Mae Rheoliad 11 yn amlinellu’r weithdrefn ar gyfer hwyluso paratoi datganiadau amgylcheddol, yn enwedig dyletswyddau’r Ysgrifennydd Gwladol o ran ymgynghori.

1.6 Mae Rheoliad 14 yn amlinellu’r wybodaeth y mae’n rhaid i ddatganiad amgylcheddol sy’n cyd-fynd â chais am orchymyn sy’n rhoi caniatâd datblygu ei chynnwys.

1.7 Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn esbonio rôl yr Arolygiaeth Gynllunio wrth weinyddu’r broses AEA ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae’r Nodyn Cyngor hefyd yn rhoi cyngor i Ymgeiswyr i’w cynorthwyo i gwblhau’r broses sy’n berthnasol i NSIPs yn llwyddiannus.

Darpariaethau Trosiannol

1.8 Mae Rheoliad 37 y Rheoliadau AEA yn amlinellu’r amgylchiadau pan fydd Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2009 (Rheoliadau AEA 2009) yn parhau i fod yn berthnasol. Yr amgylchiadau hyn yw pan fydd un o’r canlynol wedi digwydd, cyn i Reoliadau 2017 ddechrau:

  • mae’r Ymgeisydd wedi cyflwyno datganiad amgylcheddol neu ddatganiad amgylcheddol diwygiedig;
  • mae’r Ymgeisydd wedi gofyn i’r Ysgrifennydd Gwladol neu’r awdurdod perthnasol fabwysiadu barn gwmpasu;
  • mae’r Ymgeisydd wedi gwneud cais am farn sgrinio neu farn sgrinio ddilynol; neu
  • mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi cychwyn y cyfarwyddyd sgrinio.

1.9 Dylai Ymgeiswyr gyfeirio at fersiwn flaenorol (Fersiwn 5) y Nodyn Cyngor hwn i gael gwybod am ddatblygiadau y mae Rheoliadau AEA 2009 yn parhau i fod yn berthnasol iddynt.

2. Coronafeirws (COVID-19) – casglu gwybodaeth a data amgylcheddol

2.1 Mae’r Arolygiaeth yn deall bod gan y mesurau sy’n ofynnol wrth ymateb i COVID-19 oblygiadau o ran Ymgeiswyr a’u gallu i gael gwybodaeth amgylcheddol berthnasol at ddibenion eu hasesiad. Serch hynny, mae gan yr Arolygiaeth ddyletswydd i sicrhau bod y ceisiadau a’r asesiadau sydd eu hangen i lywio archwiliad, argymhelliad neu benderfyniad cadarn yn cael eu hategu gan wybodaeth berthnasol a chyfredol. Bydd yr Arolygiaeth yn cydweithio’n agos ag Ymgeiswyr a rhanddeiliaid perthnasol, yn arbennig ein cyrff ymgynghori statudol, yn hyn o beth. Bydd yr Arolygiaeth yn defnyddio dull hyblyg, gan gydbwyso’r gofyniad am drylwyrder addas a sicrwydd gwyddonol mewn asesiadau, archwiliadau, argymhellion a phenderfyniadau â phragmatiaeth, gan nodi’r angen parhaus i gefnogi’r gwaith o baratoi a phenderfynu ar geisiadau mewn modd amserol.

2.2 Mae’r Arolygiaeth yn deall ei bod yn anodd cynnal arolygon penodol a chael data cynrychioliadol dan yr amgylchiadau presennol am rhai agweddau ar yr amgylchedd fod yn anodd o hyd yn y cyfnod ôl-bandemig.Mae’r Arolygiaeth o’r farn y dylai Ymgeiswyr ymdrechu i gytuno ar eu dull ar gyfer casglu a chyflwyno gwybodaeth â’r corff ymgynghori perthnasol. Yn ei dro, mae’r Arolygiaeth yn disgwyl i gyrff ymgynghori barhau i gydweithio ag Ymgeiswyr i ddod o hyd i ddulliau a phwyntiau cyfeirio addas i helpu i baratoi ceisiadau cadarn. Mae’n ofynnol i’r Arolygiaeth ystyried y cyngor y mae’n ei gael gan y cyrff ymgynghori statudol, a bydd yn parhau i wneud hynny.

3. Sgrinio AEA Penderfynu p’un a oes angen AEA

3.1 Mae Rheoliad 8(1) y Rheoliadau AEA yn mynnu bod yr Ymgeisydd yn gwneud un o’r canlynol cyn cynnal ymgynghoriad statudol o dan a42 Deddf Cynllunio 2008:

  • gofyn i’r Ysgrifennydd Gwladol fabwysiadu barn sgrinio mewn perthynas â’r datblygiad y mae’r cais yn ymwneud ag ef (Rheoliad 8(1)(a)); neu
  • hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn ysgrifenedig ei fod yn bwriadu darparu datganiad amgylcheddol mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw (Rheoliad 8(1)(b)). (Dylai Ymgeiswyr hysbysu o dan y rheoliad hwn os yw’r datblygiad yn un Atodlen 1, neu os yw’n ddatblygiad Atodlen 2 a’u bod yn penderfynu cynnal AEA o’u gwirfodd.)

3.2 Mae’r broses sgrinio’n cael ei chynnal gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol. Dylai Ymgeiswyr gofio na all eu hymgynghoriad statudol ffurfiol o dan a42 Deddf Cynllunio 2008 ddechrau hyd nes bod un o’r ddwy weithred uchod wedi digwydd. Felly, bydd angen i Ymgeiswyr ystyried yr amseru’n ofalus oherwydd fe allai effeithio ar raglen gyflenwi’r Datblygiad Arfaethedig.

Barn sgrinio AEA (Rheoliad 8(1)(a))

3.3 Mae’n rhaid i Ymgeisydd sy’n gwneud cais am farn sgrinio o dan Reoliad 8(1)(a) ddarparu digon o wybodaeth yn unol â’r Rheoliadau AEA (gweler Mewnosodiad 1). Mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio ystyried y wybodaeth a ddarperir gan Ymgeiswyr, canlyniad unrhyw asesiad amgylcheddol perthnasol gan yr Undeb Ewropeaidd sydd ar gael yn rhesymol, a meini prawf perthnasol yn Atodlen 3 y Rheoliadau AEA (Rheoliad 9 ac Atodlen 3 y Rheoliadau AEA. Mae Atodlen 3 yn berthnasol i brosiectau Atodlen 2 yn unig). Mae’n rhaid i’r farn sgrinio gynnwys rhesymau ysgrifenedig dros benderfyniad yr Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â ph’un a yw’r Datblygiad Arfaethedig yn ddatblygiad AEA ai peidio. Mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio fabwysiadu barn sgrinio o fewn 21 diwrnod o dderbyn cais sgrinio (Rheoliad 8(8) y Rheoliadau AEA).

3.4 Dylai Ymgeiswyr fod yn ymwybodol pan fydd barn sgrinio gan yr Arolygiaeth Gynllunio yn cadarnhau nad yw’r Datblygiad Arfaethedig yn ddatblygiad AEA (barn negyddol), nid yw hynny’n golygu na fydd angen cyflwyno gwybodaeth amgylcheddol a fynnir gan ddeddfwriaeth arall, gan gynnwys, er enghraifft, asesiad o berygl llifogydd a gwybodaeth am yr amgylchedd hanesyddol, sy’n ofynnol ym mhob achos (Gweler Rheoliad 5(2) Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009 (fel y’u diwygiwyd) (‘y Rheoliadau CFfGR’)). Dylai Ymgeiswyr gofio hefyd nad yw Deddf Cynllunio 2008 yn sefydlu cydberthynas rhwng y broses sgrinio AEA a’r meini prawf ar gyfer penderfynu a yw Datblygiad Arfaethedig yn NSIP. Yr Ymgeisydd sydd i’w fodloni ei hun a yw Datblygiad Arfaethedig yn gyfystyr ag NSIP yn unol â Deddf Cynllunio 2008.

3.5 Bydd barn sgrinio AEA a fabwysiedir yn ystod y broses cyn-ymgeisio wedi’i seilio, yn anorfod, ar wybodaeth a oedd ar gael ar y pryd a ddarparwyd gan yr Ymgeisydd. Mae’n bosibl y daw gwybodaeth newydd i’r fei yn ystod y broses cyn-ymgeisio a allai effeithio ar y penderfyniad hwnnw. Os bydd hynny’n digwydd, dylai Ymgeiswyr ystyried cyflwyno cais sgrinio newydd i’r Arolygiaeth Gynllunio.

3.6 Pan dderbynnir cais nad yw’n cynnwys datganiad amgylcheddol, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ystyried, unwaith eto, i ba raddau y mae’r Datblygiad Arfaethedig yn ddatblygiad AEA neu nad yw’n Ddatblygiad AEA. Bydd angen i’r ailystyriaeth ar yr adeg dderbyn bwyso a mesur unrhyw wybodaeth newydd sy’n berthnasol i’r penderfyniad sgrinio. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn trin y cais Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) a gyflwynwyd fel cais sgrinio a bydd yn ailsgrinio’r Datblygiad Arfaethedig ar yr un pryd â phenderfynu p’un ai derbyn y cais ai peidio (Rheoliad 15 y Rheoliadau AEA).

3.7 Dylai Ymgeiswyr fod yn ymwybodol os bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn sgrinio neu’n ailsgrinio’r Datblygiad Arfaethedig yn ystod y broses dderbyn ac yn penderfynu ei fod yn ddatblygiad AEA, bydd rhaid i Ymgeiswyr ddarparu datganiad amgylcheddol (Rheoliad 5(2)(a) y Rheoliadau CFfGR) a bydd y broses o ystyried y cais DCO yn cael ei gohirio hyd nes bod yr Ymgeisydd yn darparu datganiad amgylcheddol (Rheoliad 15(4) y Rheoliadau AEA).

Mewnosodiad 1 – Y wybodaeth sydd i’w darparu gyda chais sgrinio

Mae’r wybodaeth y mae’n rhaid i Ymgeiswyr ei darparu gyda chais sgrinio wedi’i hamlinellu yn Rheoliad 8(3) y Rheoliadau AEA. Mae hyn yn cynnwys:

  • cynllun sy’n ddigonol i amlygu’r tir;
  • disgrifiad o nodweddion ffisegol y Datblygiad Arfaethedig cyfan;
  • disgrifiad o’r lleoliad ac unrhyw ardaloedd sensitif y mae’r datblygiad yn debygol o effeithio arnynt;
  • disgrifiad o’r agweddau ar yr amgylchedd y mae’r datblygiad yn debygol o gael effaith arwyddocaol arnynt;
  • gwybodaeth am yr effeithiau arwyddocaol tebygol o ganlyniad i weddillion ac allyriadau a defnyddio adnoddau naturiol; a
  • manylion unrhyw rai o nodweddion y Datblygiad Arfaethedig ac unrhyw fesurau a ddisgwylir i osgoi neu atal yr hyn a allasai wedi bod yn effaith niweidiol arwyddocaol ar yr amgylchedd fel arall.

Hysbysiad AEA (Rheoliad 8(1)(b))

3.8 Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn gofyn i hysbysiadau a wneir yn unol â Rheoliad 8(1)(b) gynnwys digon o wybodaeth i hwyluso Rheoliad 11. Felly, dylai Ymgeiswyr sy’n cyflwyno hysbysiad o dan Reoliad 8(1)(b) gynnwys y wybodaeth a bennir yn Rheoliad 8(3), a fanylir uchod ym Mewnosodiad 1. Ni fydd yr hysbysiad yn cael ei ystyried yn ddilys oni bai bod y wybodaeth hon yn cael ei darparu.

3.9 Mae’r Arolygiaeth Gynllunio hefyd yn gofyn, ni waeth pa lwybr a ddilynir gan yr Ymgeisydd (cais neu hysbysiad), i ffeil siâp GIS gael ei pharatoi a’i chyflwyno yn unol â’r wybodaeth a gynhwysir o dan yr is-bennawd isod ‘Hysbysu o flaen llaw a ffeiliau siâp GIS’.

Cyngor ymarferol ynglŷn â cheisiadau sgrinio

3.10 Dylai Ymgeiswyr fod yn ymwybodol mai diben y wybodaeth ym Mewnosodiad 1 uchod yw sicrhau barn sgrinio wedi’i seilio ar wybodaeth briodol. Mae’n bwysig bod y wybodaeth yn cael ei chasglu ynghyd mewn ffordd sy’n hwyluso’r bwriad hwn. Dylai Ymgeiswyr roi ystyriaeth ofalus i amseru’r cais sgrinio (gan gynnwys y broses a ddisgrifir isod yn ‘Hysbysu o flaen llaw a ffeiliau siâp GIS’ ) wrth baratoi’r cais DCO. Dylid ystyried faint o sicrwydd a hyder sy’n gysylltiedig â’r wybodaeth er mwyn cynorthwyo’r Arolygiaeth Gynllunio i benderfynu.

Manylion yn ymwneud â’r wybodaeth sydd i’w darparu gyda chais sgrinio

3.11 Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn gofyn i’r wybodaeth ganlynol gael ei dangos ar y cynllun er mwyn gallu amlygu’r tir:

  • ffin safle’r DCO drafft arfaethedig (a ddangosir gan linell goch), gan gynnwys unrhyw ddatblygiad cysylltiedig;
  • unrhyw dir y mae angen ei feddiannu’n barhaol ar gyfer y Datblygiad Arfaethedig;
  • unrhyw dir y mae angen ei feddiannu dros dro ar gyfer y gwaith adeiladu, gan gynnwys unrhyw gyfadeiladau adeiladu;
  • unrhyw seilwaith presennol a fyddai’n cael ei gadw neu ei uwchraddio i’w ddefnyddio yn rhan o’r Datblygiad Arfaethedig, ac unrhyw seilwaith presennol a fyddai’n cael ei ddileu; a
  • nodweddion perthnasol, gan gynnwys cyfyngiadau amgylcheddol a chynllunio (e.e. ardaloedd dynodedig ar y safle ac o’i gwmpas, fel parciau cenedlaethol neu dirweddau hanesyddol).

3.12 Lle y bo’n ymarferol, dylai’r wybodaeth gael ei chynnwys ar un cynllun. Os oes angen mwy nag un cynllun, dylent fod wrth yr un raddfa a dylid darparu cynllun trosolwg (fel y bo’n briodol).

3.13 Wrth ymdrin â’r disgrifiad o’r datblygiad a’i effeithiau posibl ar yr amgylchedd, dylai Ymgeiswyr sicrhau bod y wybodaeth yn cyfeirio at y meini prawf yn Atodlen 3 y Rheoliadau AEA, sef:

  • nodweddion y datblygiad;
  • l leoliad y datblygiad; a’r
  • mathau o effeithiau posibl a’u nodweddion.

3.14 Dylai Ymgeiswyr hefyd sicrhau bod pob agwedd ar yr amgylchedd y mae’r datblygiad yn debygol o gael effaith arwyddocaol arni yn derbyn sylw. Ystyr ‘agweddau’ o safbwynt yr Arolygiaeth Gynllunio yw’r disgrifiadau perthnasol o’r amgylchedd a amlygwyd yn unol â’r Rheoliadau AEA.

3.15 Os yw Ymgeiswyr yn dibynnu ar fesurau a ddisgwylir i osgoi neu atal effeithiau niweidiol arwyddocaol ar yr amgylchedd, dylent esbonio’r rhain yn fanwl, gan gynnwys sut y bydd y cyfryw fesurau’n cael eu darparu a’u sicrhau.

3.16 Cynghorir Ymgeiswyr i ystyried y cwestiynau canlynol mewn perthynas â’u Datblygiad Arfaethedig cyn gwneud cais sgrinio:

  1. A oes digon o fanylion a sicrwydd ynglŷn â lleoliad a nodweddion y Datblygiad Arfaethedig?
  2. A oes hyder rhesymol na fydd newidiadau sylweddol i’r wybodaeth uchod a allai effeithio ar unrhyw ganlyniad wrth ystyried effeithiau arwyddocaol tebygol?
  3. A yw absenoldeb effeithiau niweidiol arwyddocaol tebygol yn dibynnu ar fesurau arfaethedig a ddisgwylir i osgoi neu atal y cyfryw effeithiau?
  4. A ellir diffinio’r mesurau hyn yn briodol er mwyn dangos eu heffeithiolrwydd?
  5. A oes llwybr eglur ar gyfer darparu’r mesurau uchod y dibynnir arnynt e.e. gofyniad cynllunio neu ddull arall sy’n gyfreithiol rwymol?

3.17 Os ‘na’ neu ‘ddim yn gwybod’ yw’r ateb i unrhyw un o’r cwestiynau 1-5 uchod, dylai Ymgeiswyr ystyried yn ofalus a yw amseriad y cais sgrinio’n briodol. Sut bynnag, dylai Ymgeiswyr gysylltu â’r Arweinydd Cynllunio Seilwaith perthnasol yn yr Arolygiaeth Gynllunio a fydd yn trefnu cyfarfod cychwynnol cyn i unrhyw gais gael ei gyflwyno er mwyn trafod manylion y Datblygiad Arfaethedig. Argymhellir yn gryf bod Ymgeiswyr yn cysylltu â’r Arolygiaeth Gynllunio ac yn cynnal y drafodaeth hon cyn gofyn am farn sgrinio. (Gellir cysylltu â’r Arweinydd Cynllunio Seilwaith perthnasol trwy ffonio Llinell Gymorth yr Arolygiaeth Gynllunio ar 0303 444 5000.)

4. Hysbysu’r cyrff ymgynghori AEA Hysbysu o dan Reoliad 11 a Rhestr Rheoliad 11

4.1 Ar ôl i’r Ymgeisydd hysbysu’r Arolygiaeth Gynllunio yn ysgrifenedig ei fod yn bwriadu darparu datganiad amgylcheddol, neu ar ôl i farn sgrinio gael ei mabwysiadu sy’n datgan bod y Datblygiad Arfaethedig yn ddatblygiad AEA, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn hysbysu’r cyrff ymgynghori bod yr Ymgeisydd yn bwriadu darparu datganiad amgylcheddol ar gyfer y Datblygiad Arfaethedig. Mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio hefyd hysbysu’r cyrff ymgynghori o’u dyletswydd o dan Reoliad 11(3) y Rheoliadau AEA i ymgynghori â’r Ymgeisydd, os bydd yr Ymgeisydd yn gofyn iddynt, i weld a oes ganddynt unrhyw wybodaeth yr ystyrir ei bod yn berthnasol i baratoi’r datganiad amgylcheddol neu’r datganiad amgylcheddol diwygiedig; os oes, rhaid iddynt sicrhau bod y wybodaeth honno ar gael i’r Ymgeisydd. Nid yw Rheoliad 11(3) yn berthnasol i unigolion Rheoliad 11(1)(c) nac ymgyngoreion nad ydynt yn rhagnodedig.

4.2 Yn unol â Rheoliad 11(1)(b) y Rheoliadau AEA, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn rhoi rhestr i’r Ymgeisydd o’r cyrff ymgynghori a hysbyswyd ac unrhyw unigolion Rheoliad 11(1)(c). Darperir manylion unrhyw ymgyngoreion nad ydynt yn rhagnodedig hefyd (gweler isod), os yw’n briodol.

Cyrff Rheoliad 11(1)(c)

4.3 Dyma gyrff y mae’r Arolygiaeth Gynllunio o’r farn (i) y bydd y Datblygiad Arfaethedig yn effeithio arnynt neu’n debygol o effeithio arnynt, neu sydd â buddiant yn y Datblygiad Arfaethedig; a (ii) cyrff sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol o’r Datblygiad Arfaethedig trwy gyfrwng y mesurau a gymerir i gydymffurfio â Rhan 5 Deddf Cynllunio 2008 (ymgynghoriad cyn-ymgeisio). Mae Rheoliad 11(1)(c) yn mynnu bod yr Arolygiaeth Gynllunio yn hysbysu’r Ymgeisydd am unrhyw gyrff o’r fath, ac mae’n ddyletswydd ar yr Ymgeisydd i’w cynnwys yn ei ymgynghoriad. Dylai Ymgeiswyr fod yn ymwybodol o’r gofynion, mewn rhai amgylchiadau, i hysbysu cyrff Rheoliad 11(1)(c). Adlewyrchir y gofyniad hwn yn y Ffurflen Gais DCO o dan Adran 14(c) lle y gofynnir i’r Ymgeisydd ddatgan p’un a hysbyswyd y cyrff hyn.

4.4 Rhoddir gwybodaeth fanylach am hysbysiadau ac ymgynghoriadau AEA yn Nodyn Cyngor 3 yr Arolygiaeth Gynllunio.

5. Cwmpasu AEA Ynglŷn â’r broses gwmpasu

5.1 Mae Rheoliad 10(1) yn caniatáu i unigolyn sy’n bwriadu gwneud cais am orchymyn sy’n rhoi caniatâd datblygu ofyn i’r Ysgrifennydd Gwladol ddatgan yn ysgrifenedig ei farn ynglŷn â chwmpas a manylder y wybodaeth sydd i’w darparu yn y datganiad amgylcheddol.

5.2 Mae’n rhaid i’r cais a wneir o dan Reoliad 10(1) gynnwys:

  • cynllun sy’n ddigonol i amlygu’r tir;
  • disgrifiad o’r Datblygiad Arfaethedig, gan gynnwys ei leoliad a’i gapasiti technegol;
  • esboniad o effeithiau arwyddocaol tebygol y datblygiad ar yr amgylchedd; ac
  • unrhyw wybodaeth arall y gallai’r unigolyn sy’n cyflwyno’r cais ddymuno ei darparu neu gynrychiolaethau eraill yr hoffai eu cyflwyno.

5.3 Mae gwybodaeth fanylach am y wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cais cwmpasu wedi’i hamlinellu ym Mewnosodiad 2.

5.4 Mae’r broses gwmpasu’n cael ei chynnal gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol.

5.5 Mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio fabwysiadu barn gwmpasu o fewn 42 niwrnod o dderbyn cais cwmpasu (copïau electronig). (Rheoliad 10(6) y Rheoliadau AEA. Os cyflwynir ceisiadau sgrinio a chwmpasu ar yr un pryd ar gyfer yr un prosiect, bydd y cyfnod 42 niwrnod yn dechrau o’r dyddiad y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn mabwysiadu barn sgrinio gadarnhaol (Rheoliad 10(7)).) Cyn mabwysiadu barn gwmpasu, mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio ymgynghori â’r cyrff ymgynghori, y rhoddir 28 niwrnod iddynt ymateb (Rheoliad 10(11) y Rheoliadau AEA). Yn ogystal, gallai’r Arolygiaeth Gynllunio ymgynghori â’r cyrff ymgynghori perthnasol nad ydynt yn rhagnodedig (i’w hamlygu yn unol â Nodyn Cyngor 3), a fyddai’n cael 28 niwrnod i ymateb hefyd. Ni fydd ymatebion a dderbynnir ar ôl y terfyn amser 28 niwrnod yn cael eu hystyried wrth lunio’r farn gwmpasu, ond fe’u hanfonir ymlaen at yr Ymgeisydd i’w hystyried ganddo ac fe’u Cyhoeddir ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol.

5.6 Pan ofynnir am farn gwmpasu ac nid yw Rheoliad (1) wedi cael ei gwblhau eto, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn gofyn i’r Ymgeisydd hysbysu yn unol â Rheoliad 8(1)(b) ei fod yn bwriadu darparu datganiad amgylcheddol mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn mynnu bod Ymgeiswyr yn darparu ffeil siâp GIS ac yn rhoi rhybudd o’u bwriad i gyflwyno cais cwmpasu (gweler ‘Hysbysu o flaen llaw a ffeiliau siâp GIS’ isod).

Cyngor ymarferol ynglŷn â cheisiadau cwmpasu

5.7 Dylai proses gwmpasu effeithiol ddarparu modd o fireinio’r asesiad ac, yn y pen draw, y wybodaeth sy’n ofynnol i ffurfio’r datganiad amgylcheddol. O’i gwneud yn dda, mae’n caniatáu ar gyfer amlygu’n gynnar yr effeithiau arwyddocaol tebygol sy’n berthnasol i’r Rheoliadau AEA (yn enwedig Atodlen 4) ac yn rhoi cyfle i gytuno ar ba agweddau a materion nad oes angen eu hasesu ymhellach. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn defnyddio’r term ‘materion’ i gyfeirio at y rhannau hynny sy’n is-adran o’r agwedd, er enghraifft, mae asesiad o rywogaeth benodol yn ‘fater’ sy’n rhan o’r agwedd fioamrywiaeth. Er nad yw gofyn i’r Ysgrifennydd Gwladol ddarparu barn gwmpasu yn ofyniad statudol, mae’r farn gwmpasu’n ddogfen bwysig ac mae’r Rheoliadau AEA yn mynnu bod y datganiad amgylcheddol wedi’i seilio ar yr un fwyaf diweddar a fabwysiadwyd (Rheoliad 14(3) y Rheoliadau AEA 2017. Mae’r Rheoliad yn nodi ‘Ar yr amod bod y datblygiad arfaethedig yn parhau i fod yr un fath, yn ei hanfod, â’r datblygiad arfaethedig a oedd yn destun y farn honno’).

5.8 Cyn cyflwyno cais cwmpasu, gallai Ymgeiswyr ddewis cynnal eu hymgynghoriad anstatudol eu hunain â’r cyrff ymgynghori, neu eraill. Gallai hyn ganiatáu ar gyfer mireinio dewisiadau cyn gwneud cais ffurfiol. Er enghraifft, gallai Ymgeiswyr ddewis ymgynghori ynglŷn â safleoedd neu ddatrysiadau a ffefrir. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn argymell bod unrhyw ymgynghoriad anstatudol yn cael ei gynnal cyn y broses ffurfiol er mwyn osgoi unrhyw orgyffwrdd â phroses ymgynghoriad cwmpasu statudol yr Arolygiaeth Gynllunio. Felly, dylai Ymgeiswyr ystyried amseriad a natur unrhyw ymarfer ymgynghori anstatudol yn ofalus er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ddryswch â’r broses ymgynghoriad cwmpasu statudol y bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ei chychwyn cyn gynted ag y bydd yn derbyn cais cwmpasu.

5.9 Dylai Ymgeiswyr ystyried yr adeg orau i ofyn am farn gwmpasu yn ofalus. Er mwyn cael y budd mwyaf, dylai Ymgeiswyr ystyried gofyn am y farn pan fydd digon o sicrwydd ynglŷn â dyluniad y Datblygiad Arfaethedig a’r prif elfennau dylunio sy’n debygol o gael effaith arwyddocaol ar yr amgylchedd. Dylai Ymgeiswyr osgoi cyflwyno ceisiadau sy’n cynnwys dewisiadau lluosog ac amrywiol o ran dyluniad a gosodiad. Fodd bynnag, os na ellir osgoi hyn a bod dewisiadau’n parhau i gael eu hystyried (er enghraifft, nifer o goridorau llwybr sy’n gysylltiedig â datblygiad llinol arfaethedig), dylai Ymgeiswyr fod yn ymwybodol y gallai hyn effeithio ar allu’r Arolygiaeth Gynllunio a chyrff ymgynghori i ddarparu sylwadau manwl. Yn ogystal, os bydd llawer o ansicrwydd yn parhau ynglŷn ag elfennau dylunio allweddol y Datblygiad Arfaethedig, mae hyn yn debygol o gyfyngu ar allu’r Arolygiaeth Gynllunio i gytuno i hepgor agweddau/materion o’r farn gwmpasu er mwyn gallu mireinio’r datganiad amgylcheddol.

5.10 Mae’n hanfodol sicrhau bod datganiadau amgylcheddol yn canolbwyntio’n briodol ar agweddau a materion sy’n agored i effaith arwyddocaol debygol. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn awyddus i sicrhau bod y broses gwmpasu’n cael ei defnyddio’n effeithiol, gan sicrhau bod y broses AEA yn gymesur. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn cytuno i hepgor agweddau a materion o’r angen i’w hasesu ymhellach, pan fo’n briodol. Er mwyn cynorthwyo’r Arolygiaeth Gynllunio i wneud hyn, dylai Ymgeiswyr sicrhau bod eu ceisiadau’n cynnwys digon o gyfiawnhad ar gyfer hepgor agweddau/materion. Dylai’r cyfiawnhad fod wedi’i seilio ar dystiolaeth a chyfeirio at y broses asesu.

5.11 Mae’r Arolygiaeth Gynllunio o’r farn y dylai cyfiawnhad addas ar gyfer hepgor agweddau a materion gynnwys gwybodaeth i fynd i’r afael â’r cwestiynau canlynol:

  1. A oes llwybr effaith o’r Datblygiad Arfaethedig i’r agwedd/mater?
  2. A yw’r agwedd/mater yn sensitif i’r effaith dan sylw?
  3. A yw’r effaith yn debygol o fod ar raddfa a allai arwain at effeithiau arwyddocaol ar yr agwedd/mater?
  4. A allai’r effaith gyfuno ag effeithiau eraill i arwain at effeithiau arwyddocaol ar yr agwedd/mater?
  5. A oes mesur osgoi neu liniaru ar gael a fyddai’n lleihau’r effaith ar yr agwedd/mater i lefel lle na fyddai effeithiau arwyddocaol yn digwydd?
  6. A oes digon o hyder yn y mesur osgoi neu liniaru o ran cyflawnadwyedd ac effeithiolrwydd i gefnogi’r cais?
  7. A oes tystiolaeth empirig ar gael i gefnogi’r cais?
  8. A yw’r ymgyngoreion statudol perthnasol yn cytuno â’r cais?
  9. A ydych chi wedi ystyried (a) Datganiad(au) Polisi Cenedlaethol perthnasol ac, yn benodol, unrhyw ofyniad a nodwyd ynddo/ynddynt mewn perthynas ag asesu’r agwedd hon/y mater hwn?

5.12 IBydd cynnwys gwybodaeth sy’n ymateb i’r pwyntiau uchod yn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn gallu cytuno ar unrhyw ‘geisiadau hepgor’.

5.13 Dylai Ymgeiswyr fod yn ymwybodol na fydd agweddau/materion yn cael eu hepgor oni bai y cadarnheir yn benodol eu bod wedi’u hepgor yn y farn gwmpasu.

Mewnosodiad 2 – Y wybodaeth sydd i’w darparu gyda chais cwmpasu

Er nad yw’n ofyniad statudol, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn awgrymu y dylai Ymgeiswyr ddarparu eu gwybodaeth ar gyfer cais cwmpasu ar ffurf adroddiad cwmpasu, gan rifo paragraffau’n syml er mwyn hwyluso cyfeirio. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn argymell y dylai’r adroddiad cwmpasu gynnwys y wybodaeth ganlynol:

Y Datblygiad Arfaethedig

  • esboniad o’r ymagwedd at fynd i’r afael ag ansicrwydd lle y mae’n parhau mewn perthynas ag elfennau o’r Datblygiad Arfaethedig, e.e. paramedrau dylunio;
  • cynlluniau wedi’u cyfeirnodi a gyflwynwyd wrth raddfa briodol i gyfleu’r wybodaeth a’r holl nodweddion hysbys sy’n gysylltiedig â’r Datblygiad Arfaethedig yn eglur;

Ymagwedd a Meysydd Pwnc AEA

  • amlinelliad o’r dewisiadau eraill rhesymol a ystyriwyd a’r rhesymau dros ddewis yr opsiwn a ffefrir;
  • tabl sy’n crynhoi pob un o’r agweddau a’r materion y gofynnir am eu hepgor, fel y gellir amlygu problemau’n gyflym;
  • disgrifiad manwl o’r agweddau a’r materion y gofynnir am eu hepgor o asesiad pellach, gyda chyfiawnhad;
  • canlyniadau astudiaethau bwrdd gwaith a llinell sylfaen, lle y bônt ar gael ac yn berthnasol i’r penderfyniad i gynnwys neu hepgor agweddau neu faterion;
  • agweddau a materion i’w cynnwys – dylai’r adroddiad gynnwys manylion am y dulliau y bwriedir eu defnyddio i asesu effeithiau a phennu arwyddocâd effaith, e.e. meini prawf ar gyfer pennu sensitifrwydd a maint;
  • unrhyw fesurau osgoi neu liniaru a gynigir, sut y gellid eu sicrhau a’r effeithiau gweddilliol a ddisgwylir;

Ffynonellau Gwybodaeth

  • cyfeiriadau at unrhyw ganllawiau ac arfer gorau y bwriedir dibynnu arnynt;
  • tystiolaeth o gytundebau y daethpwyd iddynt â chyrff ymgynghori (er enghraifft, cyrff cadwraeth natur statudol neu awdurdodau lleol); ac
  • amlinelliad o strwythur y datganiad amgylcheddol arfaethedig.

Effeithiau trawsffiniol

5.14 Ar yr un pryd â chyflwyno cais cwmpasu, gallai’r Ymgeisydd hefyd ddymuno darparu matrics sgrinio trawsffiniol wedi’i gwblhau sy’n ymdrin ag effeithiau posibl y datblygiad arfaethedig ar wladwriaethau eraill yr Ardal Economaidd Ewropeaidd. (Rhoddir rhagor o fanylion am y fformat a awgrymir ar gyfer y matrics sgrinio trawsffiniol yn Nodyn Cyngor 12 yr Arolygiaeth Gynllunio, sef ‘Ymgynghori ar Effeithiau Trawsffiniol’.) Byddai hyn yn hwyluso ystyriaeth yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Reoliad 32 y Rheoliadau AEA. O dan y ddarpariaeth honno, mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol hysbysu gwladwriaethau eraill yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a chyfnewid gwybodaeth â nhw os yw o’r farn bod y datblygiad arfaethedig yn debygol o gael effeithiau arwyddocaol ar yr amgylchedd yn y gwladwriaethau hyn.

6. Cyflwyno ceisiadau sgrinio/cwmpasu

6.1 Mae’n ofynnol i ymgeiswyr ddarparu copi electronig o ddogfennau’r cais sgrinio/cwmpasu, a gellir ei ddarparu drwy system rhannu ffeiliau (a ffefrir), cryno ddisg neu ddyfais storio gludadwy arall.

6.2 Dylai’r copi electronig fod yn ffeil unigol sy’n cynnwys yr holl atodiadau a ffigurau. Lle mae dogfen y cais yn cynnwys cynlluniau/ffigurau cydraniad uchel, mae’r Arolygiaeth Gynllunio’n gofyn am gopi electronig cydraniad isel hefyd, er mwyn i’r rhai sy’n edrych ar y ddogfen drwy’r wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol allu ei lawrlwytho’n haws. Bydd copi electronig o ddogfen y cais yn cael ei lanlwytho i’r wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol, felly dylai gael ei optimeiddio ar gyfer y we ac ni ddylai fod yn fwy na 50MB fesul dogfen.

6.3 Dylai prif gorff y testun mewn adroddiadau fod â maint ffont o 12pt, o leiaf, gan ddefnyddio ffont glir fel Arial neu Verdana (am ragor o wybodaeth, gweler canllawiau dylunio print clir Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall).

6.4 Dylai unrhyw gyfeiriadau at ddogfennau perthnasol (e.e. Datganiad Polisi Cenedlaethol, canllawiau methodolegol neu unrhyw ddogfen arall y dibynnir arni) gyfeirio at y darn, polisi neu’r rhan berthnasol o’r ddogfen. Fel arfer, nid yw cyfeirio’n amhenodol â dolenni i ddogfennau cyfan yn ddefnyddiol, a gallai’r angen am esboniad achosi oedi yn y broses.

6.5 Ni ddylid cyflwyno gwybodaeth fideo neu sain heblaw drwy gytuno hynny â’r Arolygiaeth ymlaen llawn, gan na fydd yn sicr bod gan yr holl bartïon â buddiant offer priodol i weld y wybodaeth honno.

6.6 Ceir gwybodaeth fanwl am gyflwyno dogfennau ceisiadau, gan gynnwys y Datganiad Amgylcheddol, yn Nodyn Cyngor 6.

7. Hysbysu o flaen llaw a ffeiliau siâp GIS

7.1 Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn gofyn i Ymgeiswyr ei hysbysu o flaen llaw cyn gwneud unrhyw gais sgrinio/ cwmpasu. Mae’n well gan yr Arolygiaeth Gynllunio gael gwybod yn gynnar am y bwriad i gyflwyno hysbysiad/ cais sawl mis cyn i’r cais gael ei wneud, yn ddelfrydol. Bydd hyn yn galluogi’r Arolygiaeth Gynllunio i sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i fodloni’r galw perthnasol.

7.2 Yn ogystal, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn gofyn i Ymgeiswyr ei hysbysu o flaen llaw am gais sgrinio a/neu gwmpasu sydd ar fin cael ei gyflwyno, ac yn argymell eu bod yn rhoi o leiaf ddeng niwrnod gwaith o rybudd.

7.3 Ar yr un adeg ag y rhoddir yr hysbysiad o flaen llaw, dylid rhoi ffeil siâp GIS i’r Arolygiaeth Gynllunio sy’n amlygu’r tir y mae’r cais sgrinio a/neu gwmpasu’n ymwneud ag ef. Bydd hyn yn galluogi’r Arolygiaeth Gynllunio i neilltuo adnoddau i ymdrin â’r cais ac amlygu’r cyrff ymgynghori cyn derbyn y cais, gan felly sicrhau y bydd y broses yn dechrau’n brydlon.

7.4 Dyma’r manylion technegol ar gyfer y ffeil siâp:

  • dylai fod o fath geometreg bolygon a chynnwys un neu fwy o nodweddion polygon sy’n cynrychioli ffin safle’r DCO arfaethedig (gan gynnwys unrhyw ddatblygiad dros dro, parhaol a chysylltiedig);
  • dylai fod yn Ffeil Siâp ESRI unigol, ddilys ar gyfer ffin safle’r DCO arfaethedig, a ddarperir fel ffeil *.zip gan ddefnyddio gosodiadau diofyn WinZip (h.y. dim amgryptio, cywasgiad arferol ac ati);
  • rhaid i’r ffeil *.zip gynnwys un o bob un o’r ffeiliau canlynol: *.prj, *.dbf, *.shp, *.shx; a
  • rhaid i’r ffeil *.zip beidio â chynnwys unrhyw ffeiliau eraill;
  • dylai ddilyn fformat y Grid Cenedlaethol Prydeinig (OSGB1936);
  • nid yw ffeiliau *.zip neu .shp lluosog mewn un ffeil sip yn addas ar gyfer system yr Arolygiaeth Gynllunio. Os yw ffin safle’r DCO arfaethedig yn cynnwys nifer o bolygonau ar wahân, dylai’r rhain i gyd gael eu cynnwys yn y ffeil siâp unigol a gynhwysir yn y ffeil *.zip.

7.5 Mae’n rhaid i’r ffeil siâp gyfateb yn union i’r llinell goch a fydd yn cael ei chyflwyno yn y cais cwmpasu.

8. Rôl Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol

8.1 Yn rhan o’u dyletswyddau ymgynghori cyn-ymgeisio, mae’n ofynnol i Ymgeiswyr baratoi Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned sy’n amlinellu sut y byddant yn ymgynghori â’r gymuned leol ynglŷn â’r Datblygiad Arfaethedig, yn unol ag adran 47 Deddf Cynllunio 2008 (gweler hefyd rannau perthnasol o Nodyn Cyngor 8). Mae’n rhaid i’r Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned ddatgan p’un a yw’r Datblygiad Arfaethedig yn ddatblygiad AEA ac, os ydyw, sut mae’r Ymgeisydd yn bwriadu rhoi cyhoeddusrwydd i wybodaeth amgylcheddol ragarweiniol ac ymgynghori arni (Rheoliad 12 y Rheoliadau AEA 2017).

8.2 Diffinnir gwybodaeth amgylcheddol ragarweiniol yn y Rheoliadau AEA 2017 fel:

8.3 ‘gwybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 14(2) sydd –

  1. wedi cael ei chrynhoi gan yr ymgeisydd; ac
  2. sy’n ofynnol yn rhesymol er mwyn i’r cyrff ymgynghori ddatblygu barn wybodus am effeithiau amgylcheddol arwyddocaol tebygol y datblygiad (ac unrhyw ddatblygiad cysylltiedig)’ (Rheoliad 12(2)(b) y Rheoliadau AEA).

8.4 Nid oes fformat rhagnodedig ar gyfer yr hyn y dylai gwybodaeth amgylcheddol ragarweiniol ei gynnwys, ac ni ddisgwylir iddi ddyblygu’r datganiad amgylcheddol na bod yn ddrafft ohono. Fodd bynnag, os yw’r Ymgeisydd o’r farn bod hyn yn briodol (ac yn fwy cost-effeithiol), gellir ei chyflwyno yn y modd hwn. Mae dogfen gwybodaeth amgylcheddol ragarweiniol dda yn un sy’n galluogi ymgyngoreion (arbenigol ac anarbenigol) i ddeall effeithiau amgylcheddol tebygol y Datblygiad Arfaethedig, ac sy’n helpu i lywio eu hymatebion i’r ymgynghoriad ar y Datblygiad Arfaethedig yn ystod y cam cyn-ymgeisio.

8.5 Felly, gallai gwybodaeth amgylcheddol ragarweiniol amrywio o ran faint o fanylion a ddarperir a ffurf y ddogfen, yn dibynnu ar:

  • ba gam o’r broses ddylunio y cynhelir yr ymgynghoriad;
  • y gynulleidfa darged; a
  • chymhlethdod y Datblygiad Arfaethedig a’r amgylchedd sy’n ei dderbyn.

8.6 Dylai Ymgeiswyr ymateb i’r pwyntiau hyn ac ystyried y ffurf fwyaf priodol ar gyfer cyflwyno’r wybodaeth amgylcheddol ragarweiniol. Dylai Ymgeiswyr fod yn ymwybodol y gallai faint o fanylion a roddir yn y wybodaeth amgylcheddol arweiniol ddylanwadu ar gynnwys ymatebion ymgyngoreion. Er enghraifft, gallai ymgyngoreion chwilio am fwy neu lai o wybodaeth dechnegol, yn dibynnu ar eu buddiannau. Dylai’r wybodaeth amgylcheddol ragarweiniol fod yn hygyrch ar yr un pryd â bodloni anghenion gwahanol ymgyngoreion. Gallai fod yn ddefnyddiol i Ymgeiswyr ddarparu mwy nag un fersiwn o wybodaeth amgylcheddol ragarweiniol, yn dibynnu ar bwy maen nhw’n ymgynghori ag ef.

8.7 Dylai Ymgeiswyr ystyried yn ofalus p’un a fyddai cyhoeddi’r wybodaeth amgylcheddol ragarweiniol yn ddiweddarach yn ystod proses ddylunio’r NSIP, pan fydd ganddynt wybodaeth fanylach am y Datblygiad Arfaethedig a’i effeithiau amgylcheddol, yn cynhyrchu ymatebion manylach ac felly’n llywio dyluniad y Datblygiad Arfaethedig a’u AEA yn well. Gallai hyn arwain at ymarfer ymgynghori mwy effeithiol.

8.8 Er mwyn egluro rôl gwybodaeth amgylcheddol ragarweiniol i ymgyngoreion, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn argymell bod Ymgeiswyr yn esbonio’n eglur bod y wybodaeth yn ‘rhagarweiniol’; bod yr Ymgeisydd yn ceisio sylwadau ymgyngoreion ac y bydd cyfle i ddyluniad y Datblygiad Arfaethedig a’r AEA ystyried unrhyw sylwadau a dderbynnir trwy’r ymgynghoriad hwn.

8.9 Nid oes rhaid i Ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth amgylcheddol ragarweiniol wrth gynnal eu hymgynghoriad ffurfiol (ond os byddant yn gwneud hynny, rhaid iddynt amlinellu sut y bwriedir rhoi cyhoeddusrwydd iddi ac ymgynghorir arni yn rhan o’r broses hon). Fodd bynnag, anogir Ymgeiswyr i ddarparu gwybodaeth amgylcheddol ragarweiniol i alluogi’r ymgyngoreion statudol i ddeall effeithiau amgylcheddol y datblygiad ac i lywio cyd-destun yr ymgynghoriad. Gallai darparu gwybodaeth amgylcheddol ragarweiniol gynorthwyo i amlygu problemau posibl, gan alluogi’r rhain i dderbyn sylw yn gynharach yn ystod y broses ymgynghori cyn-ymgeisio.

8.10 Yr Ymgeisydd sydd i benderfynu pryd yn ystod y broses cyn-ymgeisio i ddechrau’r ymgynghoriad cynymgeisio statudol, a phenderfynu a yw eisiau darparu gwybodaeth amgylcheddol ragarweiniol ac, os felly, pryd y bydd hyn yn fwyaf effeithiol. Mae Nodyn Cyngor 11 yn cynnwys cyngor ar weithio gyda chyrff cyhoeddus yn ystod y cam cyn-ymgeisio a allai gynorthwyo â’r penderfyniadau hyn.

9. Datganiadau Amgylcheddol

9.1 Mae Rheoliad 14 y Rheoliadau AEA 2017 yn amlinellu’r wybodaeth y mae’n rhaid i ddatganiad amgylcheddol sy’n cyd-fynd â chais DCO ei chynnwys. Mae’r gofynion yn cynnwys cyfeiriad at gynnwys gwybodaeth ychwanegol a bennir yn Atodlen 4 lle y bo’n berthnasol i nodweddion arbennig y datblygiad penodol neu’r math penodol o ddatblygiad ac i’r nodweddion amgylcheddol y mae’r datblygiad yn debygol o gael effaith arwyddocaol arnynt (Rheoliad 14(2)(f ) y Rheoliadau AEA 2017).

9.2 Bydd gofynion Atodlen 4 y Rheoliadau AEA 2017 yn cael eu hystyried yn ofalus gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar adeg cais DCO i sicrhau bod unrhyw ddatganiad amgylcheddol cysylltiedig yn ddigonol ac yn cydymffurfio â’r Rheoliadau AEA. Fel yr amlygwyd uchod, mae’r Rheoliadau AEA yn esbonio y dylai’r datganiad amgylcheddol gael ei seilio ar y farn gwmpasu fwyaf diweddar a fabwysiadwyd (lle mae’r prosiect yn parhau i fod yr un fath yn ei hanfod), ac mae hyn yn pwysleisio’r gofal a’r ystyriaeth y dylid ei r(h)oi i’r broses gwmpasu er mwyn sicrhau bod agweddau/materion sydd wedi’u cynnwys yn y Rheoliadau, ac yn enwedig yn Atodlen 4 (lle y bo’n berthnasol), yn derbyn sylw yn briodol.

9.3 Mae’r Arolygiaeth Gynllunio o’r farn bod datganiad amgylcheddol da yn un sy’n:

  • darparu disgrifiad eglur o’r Datblygiad Arfaethedig yn ystod pob cam o’r datblygiad yn gyson â’r DCO h.y. o ran camau adeiladu, gweithredu a datgomisiynu;
  • esbonio’n eglur y prosesau sydd i’w dilyn i ddatblygu’r datganiad amgylcheddol, gan gynnwys y cwmpas sefydledig ar gyfer yr asesiad;
  • esbonio’r dewisiadau eraill rhesymol a ystyriwyd a’r rhesymau dros benderfynu ar yr opsiwn a ddewiswyd, gan ystyried effeithiau’r Datblygiad Arfaethedig ar yr amgylchedd;
  • manylu ar y dulliau darogan ar gyfer yr asesiad a’r cyfyngiadau (fel y bo’n berthnasol);
  • asesu mewn ffordd agored a chadarn yr asesiad o effeithiau arwyddocaol tebygol, gan esbonio os yw canlyniadau’n ansicr;
  • darparu digon o fanylion am y mesurau a ddisgwylir i atal, lleihau a, lle y bo’n bosibl, gwrthbwyso unrhyw effeithiau niweidiol arwyddocaol, effeithiolrwydd tebygol y cyfryw fesurau a sut y bwriedir eu sicrhau;
  • manylu ar yr angen am unrhyw fesurau monitro neu adfer parhaus; ac yn
  • dangos bod y wybodaeth yn ddigonol i allu dod i gasgliad rhesymegol.

9.4 Rhoddir cyngor ymarferol ynglŷn â chynhyrchu datganiad amgylcheddol, gan gynnwys technegau cyflwyno, yn Atodiad 1 a dylid ei ystyried ochr yn ochr â’r Nodyn Cyngor hwn.

9.5 Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn cydnabod bod y broses AEA yn ailadroddol a bod cyfranogiad y cyhoedd yn rhan hanfodol ohoni. Anogir Ymgeiswyr yn gryf i ymroi amser ac ymdrech i ymarferion ymgynghori AEA statudol ac anstatudol. Dylai hyn gynnwys caniatáu amser i ystyried a mynd i’r afael â sylwadau gan ymgyngoreion, gan gynnwys, os bydd angen, cynnal arolygon a dadansoddiadau ychwanegol.

9.6 Dylai’r agweddau a’r materion penodol a amlygir yn y Rheoliadau AEA 2017, ac yn enwedig Atodlen 4, gael eu hystyried mewn perthynas â phob Datblygiad Arfaethedig (fel y bo’n berthnasol). Rhoddir cyngor manylach ynglŷn â’r pwyntiau hyn yn Atodiad 1. Yn ogystal, yn ôl Rheoliad 14 y Rheoliadau AEA 2017, rhaid i’r datganiad amgylcheddol gynnwys y wybodaeth sy’n ofynnol yn rhesymol i ddod i gasgliad rhesymegol ynglŷn â’r effeithiau amgylcheddol arwyddocaol. Dylai’r casgliad rhesymegol ystyried y wybodaeth bresennol a’r dulliau asesu. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn awyddus i bwysleisio’r gofyniad hwn gan ei fod yn uniongyrchol gysylltiedig â’r rhwymedigaeth ar y penderfynwr (yr Ysgrifennydd Gwladol) o dan Reoliad 21(b) y Rheoliadau AEA 2017.

10. Gwybodaeth a gyhoeddir ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol

10.1 Bydd y dogfennau cyn-ymgeisio canlynol ar gael ar dudalen y prosiect perthnasol ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol:

  • ceisiadau sgrinio a chwmpasu Ymgeiswyr a gyflwynwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio;
  • unrhyw wybodaeth sgrinio a chwmpasu ychwanegol y gofynnwyd amdani gan yr Arolygiaeth Gynllunio ac a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd;
  • barn sgrinio’r Arolygiaeth Gynllunio;
  • barn gwmpasu’r Arolygiaeth Gynllunio, gan gynnwys yr holl ymatebion ymgynghori a dderbyniwyd o fewn y terfyn amser statudol; ac
  • ymatebion hwyr i’r ymgynghoriad cwmpasu a dderbyniwyd ar ôl y terfyn amser statudol.

10.2 Bydd gwybodaeth yn ymwneud â thrydydd partïon yn cael ei thrin yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.

10.3 Gan y bydd dogfennau’r cais yn cael eu cyhoeddi ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol, dylai Ymgeiswyr osgoi cynnwys unrhyw ddata personol yn ymwneud ag unigolion yn y dogfennau y maent yn eu cy lwyno; yn benodol, yr adroddiad ymgynghori. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ymdrin â gwybodaeth yn unol â Hysbysiad Preifatrwydd Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Rydym yn dilyn protocolau a bennir gan Swyddfa’r

10.4 Comisiynydd Gwybodaeth, a cheir rhagor o fanylion yn www.ico.org.uk. Cysylltwch â’r tîm achos Seilwaith Cenedlaethol i gael mwy o wybodaeth a chyngor ar y mater hwn.