Nodyn Cyngor 11, Atodiad B – Y Sefydliad Rheoli Morol

Cyflwyniad

Atodiad B yw hwn i Nodyn Cyngor un ar ddeg: Gweithio gyda chyrff cyhoeddus yn y broses cynllunio seilwaith. Mae Nodyn Cyngor 11 yn cwmpasu llawer o bwyntiau rhyngweithio generig sy’n berthnasol i’r Arolygiaeth Gynllunio a’r Sefydliad Rheoli Morol. Fodd bynnag, mae rhai pwyntiau penodol nad eir i’r afael â nhw yn y Nodyn Cyngor ac y mae angen eu hegluro, ac ymdrinnir â’r rhain yn yr atodiad hwn, gan gynnwys:

  • Rolau penodol gan yr Arolygiaeth Gynllunio a’r corff cyhoeddus perthnasol
  • Cytundebau neu drefniadau lefel uchel penodol a phwyntiau cyswllt perthnasol
  • Rhestr o ganiatadau, trwyddedau neu awdurdodiadau sy’n gymwys, ac ystyriaethau’n ymwneud â’r modd y mae’r rheiny’n rhyngweithio â’r broses caniatâd datblygu.

Mae’r fframwaith ar gyfer y berthynas weithio rhwng yr Arolygiaeth Gynllunio a’r Sefydliad Rheoli Morol wedi’i ffurfio gan ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth berthnasol, yn ogystal â chanllaw’r llywodraeth (‘Government guidance to the Marine Management Organisation (MMO) on its role in relation to applications, and proposed applications, to the Infrastructure Planning Commission for development consent under the Planning Act 2008’.) gan yr Ysgrifenyddion Gwladol cyfrifol.

Caiff y ddogfen hon ei diweddaru o dro i dro i sicrhau bod y wybodaeth yn parhau’n berthnasol o ystyried newidiadau sefydliadol neu ddeddfwriaethol sy’n effeithio ar yr Arolygiaeth Gynllunio a’r Sefydliad Rheoli Morol.

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn croesawu adborth ar gynnwys yr atodiad hwn.

Swyddogaethau’r Sefydliad Rheoli Morol

Sefydlwyd y Sefydliad Rheoli Morol o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir, ac mae’n cyflawni ystod o swyddogaethau yn unol â’i ‘amcan cyffredinol’ i wneud cyfraniad at gyflawni datblygu cynaliadwy yn ardal forol y DU (Adran 2(1), MCAA).

Mae Datganiad Polisi Morol Llywodraeth y DU yn ffurfio’r fframwaith ar gyfer rheolaeth y Sefydliad Rheoli Morol ar yr ardal forol, ac mae i’w gael yma. Mae’r Sefydliad Rheoli Morol wrthi’n paratoi cynlluniau morol a fydd yn amlinellu’r modd y bydd y Datganiad Polisi Morol yn cael ei weithredu mewn ardaloedd daearyddol penodol.

Mae cyfrifoldebau’r Sefydliad Rheoli Morol yn cynnwys cyflwyno a gorfodi system newydd o drwyddedu morol o dan rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir. Mae hon yn cwmpasu nifer fawr o weithgareddau a datblygiadau yn yr amgylchedd morol (Adran 66(1), MCAA).

Mae gan y Sefydliad Rheoli Morol gyfrifoldeb dirprwyedig am orchmynion harbwr hefyd o dan Ddeddf Harbyrau 1964 yn ogystal â chyfrifoldebau cadwraeth natur forol, yn cynnwys gwarchod bywyd gwyllt.

Mae’r Sefydliad Rheoli Morol yn gweithio’n agos â chyrff cenedlaethol ac is-genedlaethol eraill sydd â chyfrifoldeb am drwyddedau morol a mathau eraill o ganiatadau yn ardal forol y DU. Mae cyfres o femoranda cyd-ddealltwriaeth wedi’u cytuno i bennu cyfrifoldebau priodol y cyrff hynny a’r egwyddorion cyffredinol ar gyfer cydweithredu rhyngddynt.

Ehangder daearyddol cyfrifoldebau’r Sefydliad Rheoli Morol

Mae swyddogaethau trwyddedu a gorfodi’r Sefydliad Rheoli Morol yn cwmpasu rhanbarth glannau Lloegr yn ogystal â rhanbarthau dyfroedd môr mawr Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae gan y Sefydliad Rheoli Morol gyfrifoldeb am orchmynion harbwr yng Nghymru a Lloegr, ac eithrio harbyrau pysgodfeydd Cymru (Gorchymyn Deddf Harbyrau 1964 (Dirprwyo Swyddogaethau) 2010 (SI 2010 rhif.674)). Yn ogystal, mae gan y Sefydliad Rheoli Morol gyfrifoldeb am wneud cynlluniau morol yn rhanbarth glannau a rhanbarth dyfroedd môr mawr Lloegr (A.50 MCAA).

Cyfundrefn Deddf Cynllunio 2008

Mae Deddf 2008, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Lleoliaeth 2011, yn darparu’r fframwaith statudol ar gyfer ymgeisio, ac os derbynnir ceisiadau, archwilio, a phenderfynu ar geisiadau am ganiatâd datblygu ar gyfer prosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol (NSIPau) ar dir a môr (Rhan 3, Deddf 2008).

Y Sefydliad Rheoli Morol yw corff arbenigol Llywodraeth y DU ar reoli morol ac fel y cyfryw mae ganddo rolau pwysig o dan gyfundrefn Deddf 2998 mewn perthynas ag NSIPau arfaethedig yn yr ardal forol.

Mae categorïau NSIP yn cynnwys gorsafoedd cynhyrchu mawr, yn cynnwys prosiectau ynni adnewyddu alltraeth dros 100 megawat (ffermydd gwynt alltraeth yn bennaf), yn ogystal â phrosiectau datblygu harbwr mawr. Mae’r cyfryw brosiectau’n debygol o fod angen trwydded forol am y byddant yn cynnwys gweithgareddau sy’n rhai trwyddedadwy o dan rhan 4 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir.

Rolau’r Sefydliad Rheoli Morol o dan gyfundrefn Deddf 2008

Mae prif rolau’r Sefydliad Rheoli Morol o dan gyfundrefn Deddf 2008:

  • fel ymgynghorai statudol yn y cyfnod cyn gwneud cais o dan a.42(1)(aa) Deddf 2008 ac fel parti â buddiant yn ystod y cam archwilio, ac
  • fel corff trwyddedu a rhoi caniatadau.

Ymdrinnir yn fanylach isod â chyfrifoldebau’r Sefydliad Rheoli Morol mewn perthynas â thrwyddedau morol. Gall darpariaethau ar gyfer creu awdurdod harbwr neu newidiadau i’w bwerau neu’i ddyletswyddau gael eu cynnwys mewn gorchymyn caniatâd datblygu (A.145 Deddf 2008). Ymdrinnir â hwn yn fanylach isod hefyd.

Efallai y gellid dileu’r angen am ganiatâd cadwraeth natur a chaniatadau eraill y mae’r Sefydliad Rheoli Morol yn gyfrifol amdanynt ar yr amod bod y Sefydliad Rheoli Morol yn cytuno (A.150 Deddf 2008).

Byddai’n well pe na bai ceisiadau am drwyddedau morol, trwyddedau bywyd gwyllt neu orchmynion harbwr yn cael eu gwneud yn uniongyrchol i’r Sefydliad Rheoli Morol lle mae darpariaeth mewn perthynas â’r un materion wedi’i chynnwys (‘tybiedig’ neu beidio) mewn cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu i’r Arolygiaeth Gynllunio (gweler y testun isod mewn perthynas â gorchmynion o dan Ddeddf Harbyrau 1964).

Mae rolau’r Sefydliad Rheoli Morol yn ystod y camau amrywiol o dan gyfundrefn Deddf 2008 wedi’u hamlinellu’n fanylach isod.

Cyfundrefn Deddf 2008 – y Sefydliad Rheoli Morol fel ymgynghorai statudol a pharti â buddiant

Mae’r cam cyn gwneud cais o dan gyfundrefn Deddf 2008 yn galluogi datblygwr i nodi materion perthnasol, ymgynghori ar ei gynllun, a’i fireinio a rhoi cyhoeddusrwydd iddo, a gobeithio datrys unrhyw faterion sy’n weddill cyn bod cais yn cael ei gyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio.

Rhaid ymgynghori â’r Sefydliad Rheoli Morol ynghylch unrhyw ddarpar geisiadau am ganiatâd datblygu lle byddai’n effeithiol, neu’n debygol o effeithio, ar yr amgylchedd morol (Adran 42(1)(aa), Deddf 2008).

Byddai’r Sefydliad Rheoli Morol yn dymuno derbyn y wybodaeth ganlynol yn y cam cyn gwneud cais fel rhan o ymgynghoriad a.42 y datblygwr:-

  • map a/neu siart o faint a graddfa ddigonol sy’n cydlynu mewn fformat priodol fel bod modd nodi’r lleoliad(au) arfaethedig i’w ddatblygu
  • disgrifiad lefel uchel o’r math o brosiect a maint y prosiect
  • amlinelliad o unrhyw opsiynau prosiect, yn cynnwys unrhyw ddewisiadau eraill i’r opsiynau hynny sydd eisoes yn cael eu hystyried;
  • gwybodaeth ddigonol i alluogi asesu effeithiau’r cynigion ar ei feysydd diddordeb;
  • manylion unrhyw ddeunyddiau peryglus a allai fod yn gysylltiedig ag adeiladu’r datblygiad neu ddefnydd dilynol o’r datblygiad
  • gwybodaeth am unrhyw bryniant tir gorfodol a all fod ei angen, a lle bo’n berthnasol, unrhyw dir i’w roi yn gyfnewid
  • gwybodaeth am b’un a oes asesiad o effeithiau amgylcheddol (AEA) yn cael ei gynnal, neu a fydd yn cael ei gynnal
  • y terfyn amser ar gyfer gorfod derbyn ymatebion
  • gwybodaeth am pryd y bwriedir i gais gael ei gyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio.

Rhaid i ddatblygwyr roi o leiaf 28 diwrnod i’r Sefydliad Rheoli Morol i ymateb i’r cyfryw ymgynghoriad (Adran 45, Deddf 2008) ac mae’n ofynnol i ddatblygwyr ystyried unrhyw ‘ymateb perthnasol’ y gall y Sefydliad Rheoli Morol ei roi (Adran 49, Deddf 2008). Nid oes rhaid i ddatblygu ystyried unrhyw ymatebion a dderbynnir gan y Sefydliad Rheoli Morol ar ôl i’r terfyn amser fynd heibio.

Dylai ymgynghori digon cynnar cyn gwneud cais gan ddatblygwyr â’r Sefydliad Rheoli Morol, boed o dan a.42 neu’n anffurfiol, ganiatáu ar gyfer trafodaethau priodol er mwyn galluogi’r Sefydliad Rheoli Morol (fel corff sy’n gyfrifol am fonitro ar ôl rhoi caniatâd, amrywio, gorfodi a dirymu trwyddedau morol), os oes modd, i gefnogi cais pan fydd wedi’i wneud i’r Arolygiaeth Gynllunio.

Dylai ymgynghori felly leihau’r risg y bydd angen gwybodaeth ychwanegol hefyd pan fydd cais wedi’i wneud i’r Arolygiaeth Gynllunio, a allai fel arall arwain at oedi o ran archwilio’r cais. Dylai’r holl faterion perthnasol fod wedi’u datrys cyn gwneud cais, os oes modd.

Dylai datblygwyr ystyried y Datganiad Polisi Morol yn ystod ymgynghoriadau cyn gwneud cais gyda’r Sefydliad Rheoli Morol yn ogystal ag unrhyw gynlluniau morol perthnasol ar gyfer yr ardal dan sylw. Caiff penderfyniadau trwyddedu eu gwneud yn unol â’r Datganiad Polisi Morol ac unrhyw gynlluniau morol drafft neu fabwysiedig.

Disgwylir i ddatblygwyr ymgysylltu â’r holl gyrff perthnasol lle mae prosiect yn croesi dros un neu fwy o ffiniau cenedlaethol, lle mae gerllaw ffin genedlaethol neu lle mae’n debygol o gael effaith ar Aelod-wladwriaeth arall o’r Undeb Ewropeaidd neu Ardal Economaidd Ewropeaidd. Amlinellir cyngor pellach ar ble y mae datblygiadau arfaethedig yn debygol o gael effeithiau trawsffiniol sylweddol yn Nodyn Cyngor 12 yr Arolygiaeth Gynllunio.

Os yw’r Ysgrifennydd Gwladol yn penderfynu derbyn cais, rhaid i ddatblygwyr hysbysu’r Sefydliad Rheoli Morol lle mae’r datblygiad arfaethedig yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn yr amgylchedd morol.

Statws ‘parti statudol’ sydd gan y Sefydliad Rheoli Morol mewn perthynas ag archwilio ceisiadau am ganiatâd datblygu (o dan a.88(3)(c) ac a.102(ca) Deddf 2008 fel y’i diwygiwyd). Rhoddir rhagor o gyngor ar archwilio ceisiadau am ganiatâd datblygu yn
Nodyn Cyngor 8 yr Arolygiaeth Gynllunio.

Ymdrinnir isod â chyfrifoldeb y Sefydliad Rheoli Morol yn y cam ar ôl caniatâd o dan gyfundrefn Deddf 2008.

Y Sefydliad Rheoli Morol fel corff caniatáu

Trwyddedau morol

Mae Deddf 2008 yn galluogi Gorchmynion Caniatâd Datblygu ar gyfer prosiectau sy’n effeithio ar yr amgylchedd morol i gynnwys darpariaethau sy’n tybio trwyddedau morol (A.149A Deddf 2008). Fel arall, gall datblygwyr fod eisiau ceisio caniatâd ar wahân ar gyfer trwydded forol gan y Sefydliad Rheoli Morol yn uniongyrchol yn hytrach na bod y drwydded yn dybiedig gan y Gorchymyn Caniatâd Datblygu.

Lle mae datblygwyr yn dewis cael trwydded forol sy’n dybiedig gan Orchymyn Caniatâd Datblygu, rhagwelir y bydd datblygwyr yn ceisio cytuno’r drwydded forol ddrafft gyda’r Sefydliad Rheoli Morol cyn cyflwyno’u cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu i’r Arolygiaeth Gynllunio. Dylai’r amodau a gynhwysir mewn trwydded forol fod yn orfodadwy, yn glir ac yn ddigon manwl i alluogi monitro a gorfodi. Bydd y Sefydliad Rheoli Morol yn ceisio sicrhau lle bynnag y bo modd fod unrhyw drwydded dybiedig yn gyson yn gyffredinol â’r rheiny a roddir yn annibynnol gan y Sefydliad Rheoli Morol.

Mae’r Sefydliad Rheoli Morol yn gyfrifol am orfodi trwyddedau morol p’un a yw’r rhain yn drwyddedau ‘tybiedig’ gan Orchmynion Caniatâd Datblygu neu y rhoddwyd caniatâd iddynt yn annibynnol gan y Sefydliad Rheoli Morol. Gall y Sefydliad Rheoli Morol amrywio, atal neu ddirymu trwydded forol os yr ymddengys bod unrhyw rai o’i darpariaethau wedi’u torri. Mae’r amgylchiadau lle gall y Sefydliad Rheoli Morol gymryd camau gorfodi wedi’u hamlinellu o dan a.72 Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir. Mae’r Sefydliad Rheoli Morol yn gyfrifol hefyd am sicrhau bod amodau’n cael eu cyflawni o dan drwyddedau morol sydd wedi cael caniatâd annibynnol a thrwyddedau morol tybiedig.

Darpariaethau harbwr

Gall darpariaethau ar gyfer creu awdurdod harbwr, ar gyfer newid pwerau neu ddyletswyddau awdurdod harbwr, neu at ddibenion eraill yn ymwneud ag awdurdod o’r fath gael eu cynnwys mewn Gorchymyn Caniatâd Datblygu (A.145 Deddf 2008), oni bai eu bod wedi’u heithrio’n benodol gan Ddeddf 2008.

Oni bai bod y datblygiad neu’r harbwr ei hun yn NSIP, neu’n rhan annatod o NSIP, gall y Sefydliad Rheoli Morol ymdrin ar wahân hefyd â cheisiadau am orchymyn harbwr o dan Ddeddf Harbyrau 1964.

Fodd bynnag, mae a.33(2)(a) Deddf 2008 yn golygu na ellir rhoi gorchmynion grymuso harbwr ac adolygu harbwr (ar wahân) os digwydd bod darpariaethau mewn perthynas â’r un materion wedi’u cynnwys mewn Gorchymyn Caniatâd Datblygu.

Os oes cais ar wahân wedi’i wneud am orchymyn adolygu harbwr neu orchymyn grymuso harbwr i’r Sefydliad Rheoli Morol o dan Ddeddf Harbyrau 1964 a bod trwydded forol dybiedig i’w chynnwys mewn Gorchymyn Caniatâd Datblygu Drafft mewn perthynas â’r un gwaith, yna ni all y Sefydliad Rheoli Morol fod mewn sefyllfa i ddarparu trwydded forol ddrafft hyd nes bod y gorchymyn harbwr y mae’r Sefydliad Rheoli Morol yn ei brosesu ar ei ffurf derfynol.

Lle mae darpariaethau harbwr i’w cynnwys mewn Gorchymyn Caniatâd Datblygu drafft, bydd y Sefydliad Rheoli Morol am gynghori datblygwyr ynglŷn â chwmpas a geiriad y cyfryw ddarpariaethau er mwyn ceisio sicrhau, lle bynnag y bo modd, bod darpariaethau a gynhwysir mewn gorchmynion o dan Ddeddf Harbyrau 1964 a’r rheiny a wneir o dan Ddeddf 2008 yn gyson yn gyffredinol.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyfrifol am wneud newidiadau i, neu ddirymu, darpariaethau gorchymyn harbwr a gynhwysir mewn Gorchmynion Caniatâd Datblygu a roddwyd. Mae rheoliadau yn amlinellu’r modd yr ymdrinnir â newidiadau i Orchmynion Caniatâd Datblygu wedi’u gwneud o dan Ddeddf 2008 (Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Newid a Dirymu Gorchmynion Caniatâd Datblygu) 2011).

Asesiad o Effeithiau Amgylcheddol (AEA)

Yn amodol ar yr eithriadau perthnasol mewn perthynas â thrwyddedau morol (gweler rheoliad 10 Rheoliadau Gwaith Morol (Asesiad Effeithiau Amgylcheddol) 2007 fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Gwaith Morol (Asesiad Effeithiau Amgylcheddol) (Diwygiad) 2011) lle gwneir cais ar wahân am drwydded forol neu orchymyn harbwr yn hytrach na bod yn dybiedig neu’n gynwysedig mewn Gorchymyn Caniatâd Datblygu drafft, yna, os yw’r cyfryw waith yn ddatblygiad AEA, gall fod angen cyflwyno datganiad amgylcheddol gydag unrhyw gais felly i’r Sefydliad Rheoli Morol. Gall hyn fod yn ychwanegol at unrhyw ddatganiad amgylcheddol a gyflwynir i’r Arolygiaeth Gynllunio gyda chais am ganiatâd datblygu lle mae’r cyfryw ddatblygiad yn ddatblygiad AEA. Yn yr amgylchiadau hynny, byddai’n rhaid i unrhyw effeithiau cronnus yn deillio o ddatblygiadau perthnasol eraill gael eu hystyried ym mhob AEA a’u hamlinellu yn y ddau ddatganiad amgylcheddol.

Darpariaethau cadwraeth natur

Gall trwydded o dan reoliad 49 Rheoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth (Cynefinoedd Naturiol) 2007, y cyfeirir atynt yn aml fel ‘Trwydded Bywyd Gwyllt’, gael ei rhoi i awdurdodi’r hyn a fyddai fel arall yn drosedd o dan y ddeddfwriaeth cadwraeth natur. Dim ond yn amgylchedd morol Lloegr neu amgylchedd alltraeth Cymru y gall trwydded gael ei rhoi, lle mae’r gweithgarwch yn bodloni dibenion penodol a lle nad oes unrhyw ddewis arall boddhaol.

Y ddeddfwriaeth sy’n gymwys yw:

Os yw’r Sefydliad Rheoli Morol yn cytuno, bydd y gofyniad am gael trwydded o’r fath ar wahân yn cael ei ddileu yn rhinwedd a.150 Deddf 2008 a’r atodlen i Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Darpariaethau Rhagnodedig Amrywiol) 2010.

Bydd angen i ddatblygwyr fod wedi setlo telerau unrhyw gyfryw ‘hawlildiad’ gyda’r Sefydliad Rheoli Morol cyn cyflwyno’u cais am ganiatâd datblygu i’r Arolygiaeth Gynllunio. Gellir cyflawni hyn drwy ymgynghori cyn gwneud cais fel yr amlinellwyd uchod.

Arweiniad a chyngor perthnasol

Gweler yr adran ‘Rheoleiddio a thrwyddedu morol / Marine regulation and licensing’ o wefan y Sefydliad Rheoli Morol sydd ar gael drwy’r ddolen ganlynol: http://www.marinemanagement.org.uk/licensing/index.htm

Manylion cyswllt y Sefydliad Rheoli Morol

Gwefan: www.gov.uk/government/organisations/marine-management-organisation

Ffôn: 0300 123 1032

E-bost: [email protected]