Abergelli Power

Beth fydd yn digwydd nesaf

Gwnaed penderfyniad ar y cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu ar gyfer ar ac mae wedi’i gyhoeddi erbyn hyn.

Diffinnir y cyfnod ar gyfer her gyfreithiol yn a118 Deddf Cynllunio 2008. Ceir rhagor o wybodaeth am herio cyfreithiol yn y llythyr a anfonir at bob Parti â Buddiant ynghyd â phenderfyniad a datganiad o resymau’r Ysgrifennydd Gwladol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y broses, anfonwch neges e-bost at yr Arolygiaeth Gynllunio:[email protected] neu ffoniwch y llinell gymorth ar 0303 444 5000.

Llinell amser (38 Eitemau)

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wedi cyhoeddi Gorchymyn Cywiro. Am wybodaeth bellach, cyfeiriwch at y ddogfennaeth benderfynu ganlynol:

09/01/2020

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wedi rhoi caniatâd datblygu ar gyfer y cais hwn. Am wybodaeth bellach, cyfeiriwch at y ddogfennaeth benderfynu ganlynol:

Llythyr Penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol
Gorchymyn Caniatâd Datblygu fel y’i gwnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol
Adroddiad Argymhelliad
Atodiadau Adroddiad Argymhelliad
Rhybudd 23 Rheoliad
Hysbysiad o’r Llythyr Penderfyniad

19/09/2019
Gwnaed penderfyniad gan y Ysgrifennydd Gwladol
19/09/2019

Ar 26 Gorffennaf 2019 ysgrifennodd yr Ysgrifennydd Gwladol at yr Ymgeisydd a Llywodraeth Cymru yn gofyn am ragor o wybodaeth mewn perthynas â’r prosiect. Disgwylir yr ymatebion erbyn dydd Gwener 9 Awst 2019.

26/07/2019
Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn rhoi argymhellion
10/07/2019

Daeth yr Archwiliad i ben am 23.59 ar 10 Ebrill 2019.

11/04/2019

Mae’r Ymgeisydd wedi cyflwyno Cytundeb Adran 106 wedi’i diweddaru, sydd wedi’i lofnodi gan APL a CCS. Mae’r Awdurdod Archwilio wedi arfer ei ddisgresiwn i dderbyn y ddogfen i’r Archwiliad.

10/04/2019
Yr archwiliad yn dod i ben

10/04/2019

Cyhoeddwyd cyflwyniadau terfyn amser 7 a ddiwygiwyd Llyfrgell yr Archwiliad.

08/04/2019

Mae’r Awdurdod Archwilio wedi arfer ei ddisgresiwn i dderbyn cyflwyniad Terfynol 6 hwyr gan National Grid. Cyhoeddwyd y llythyr a’i ychwanegu at y Llyfrgell Archwiliad.

27/03/2019
20/03/2019

Mae’r Adroddiad ar y Goblygiadau ar gyfer Safleoedd Ewropeaidd (RIES) wedi ei gyhoeddi.

06/03/2019
22/02/2019

Mae’r Awdurdod Archwilio wedi defnyddio’i disgresiwn i dderbyn cyflwyniadau hwyr Terfyn Amser 4 o Ddinas a Chyngor Abertawe. Mae’r rhain nawr wedi’i chyhoeddi ac ychwanegu i’r Llyfrgell Archwiliad.

12/02/2019

Cyhoeddwyd cyflwyniadau Terfyn Amser 4 a diwygiwyd Llyfrgell yr Archwiliad.

07/02/2019

Daethpwyd â’n sylw bod anghysondeb rhwng y llythyr esboniadol dyddiedig 29 Ionawr 2019 a’r amserlen ddiwygiedig a nodir yn Atodiad A. Er mwyn osgoi amheuaeth, y dyddiadau cau yw’r rhai a nodir yn Atodiad A. Ymddiheuriadau am unrhyw ddryswch a achosir.

30/01/2019

Cyhoeddwyd Cwestiynau Ysgrifenedig Pellach yr Awdurdod Archwilio a diweddarwyd y Llyfrgell Archwiliad.

11/01/2019

Mae’r recordiadau sain ar gyfer gwrandawiadau Rhagfyr 2018 wedi’u cyhoeddi ac mae’r Llyfrgell Archwiliad wedi’i ddiweddaru.

18/12/2018

Daeth ein sylw at y ffaith bod anghysondeb rhwng amseriad Gwrandawiadau Materion Penodol ar ddydd Iau 13 Rhagfyr 2018. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth bydd y Gwrandawiad Mater Penodol ar y Gorchymyn Caniatâd Datblygu drafft yn digwydd am 10.00 a bydd y Gwrandawiad Mater Penodol ar Faterion Amgylcheddol yn cael ei gynnal am 14.00.

12/12/2018

Adolygwyd yr Agenda Gwrandawiad Llawr Agored i gynnwys yr amser cychwyn cywir (19:00). Ymddiheuriadau am unrhyw ddryswch a achosir.

11/12/2018

Cyhoeddwyd ymatebion terfyn amser 2 a diweddarwyd llyfrgell yr awchwiliad.

05/12/2018
milestone icon

Darllen y llythyr

Mae’r amserlen arholiadau (llythyr rheol 8 llythyr) wedi ei anfon at bartïon â buddiant

Penderfyniad gweithdrefnol yn dilyn y Cyfarfod Rhagarweiniol

17/10/2018
Yr archwiliad yn dechrau
11/10/2018
Cynhelir y Cyfarfod Rhagarweiniol
10/10/2018
milestone icon

Mae hysbysiad o’r Cyfarfod Rhagarweiniol (llythyr Rheol 6) wedi ei ddanfon i gyfranogion Darllenwch y llythyr

Mae’r llythyr hefyd yn cynnwys yr Amserlen Archwilio ddrafft a’r Asesiad Cychwynnol o Brif Faterion.

12/09/2018
Cyhoeddi sylwadau perthnasol ar y wefan
08/08/2018
Cofrestru partïon â buddiant yn dod i ben
02/08/2018
Cofrestru’n dechrau i bartïon â buddiant
03/07/2018
milestone icon Darllen y llythyr

Derbyniwyd y cais i’w archwilio

21/06/2018
Penderfyniad ynghylch p’un a ddylid derbyn cais i’w archwilio ai peidio
21/06/2018

Derbyniwyd y cais hwn gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar 25 Mai 2018.

Bydd dogfennau’r cais ar gael os derbynnir y cais i’w harchwilio.

Mater i’r ymgeisydd benderfynu a ellir cyhoeddi dogfennau cais ai peidio ar ôl eu cyflwyno (gweler cymorth MHCLG, yn Saesneg unig).

01/06/2018
  • Disgwylir cais gan yr ymgeisydd
  • Cais wedi cyraedd yr Arolygiaeth Gynllunio
25/05/2018