Nodyn Cyngor 3: Hysbysiad o AEA ac Ymgynghori

Statws y Nodyn Cyngor hwn

Nid oes gan y Nodyn Cyngor hwn statws statudol, ac mae’n ffurfio rhan o gyfres o nodiadau cyngor a ddarperir gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Mae fersiwn hon y Nodyn Cyngor hwn yn disodli pob fersiwn flaenorol. Caiff ei adolygu’n rheolaidd a’i ddiweddaru pan fydd angen.

Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn cyfeirio at Nodiadau Cyngor eraill, gellir dod o hyd i’r rhain i gyd yr adran nodiadau cyngor ar wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol

Crynodeb o’r Nodyn Cyngor hwn

Diben y Nodyn Cyngor hwn yw esbonio’r ymagwedd a ddefnyddir gan yr Arolygiaeth Gynllunio, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, wrth amlygu cyrff ymgynghori i’w hysbysu a, lle y bo’n berthnasol, ymgynghori â nhw ynglŷn â chwmpas y Datganiad Amgylcheddol yn unol â Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA)) 2017 (Rheoliadau AEA 2017).

Daeth Rheoliadau AEA 2017 i rym yng Nghymru a Lloegr ar 16 Mai 2017. O ganlyniad, bydd yr holl hysbysiadau ac ymgynghoriadau AEA a gynhelir gan yr Arolygiaeth Gynllunio yn cael eu gwneud yn unol â’r Rheoliadau hyn bellach. Mae Rheoliad 37 Rheoliadau AEA 2017 yn cynnwys darpariaethau trosiannol sy’n caniatáu i Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2009 (Rheoliadau AEA 2009) barhau i fod yn gymwys mewn rhai achosion. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n hysbysu ac yn ymgynghori yn unol â Rheoliadau AEA 2009 pan fydd hynny’n ofynnol. Gwneir cyfeiriadau pellach at y ‘Rheoliadau AEA’ yn y Nodyn Cyngor hwn mewn perthynas â Rheoliadau 2017.

Lluniwyd y Nodyn Cyngor hwn gan roi ystyriaeth i rwymedigaethau o dan a42 Deddf Cynllunio 2008 (fel y’i diwygiwyd) ac offerynnau statudol perthnasol, gan gynnwys y Rheoliadau AEA a Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009 (fel y’u diwygiwyd) (y Rheoliadau CFfGR).

Neidio i’r adran:

Cyflwyniad

Mae’n rhaid i Ymgeisydd ar gyfer Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) arfaethedig, wrth fodloni ei rwymedigaethau ymgynghori cyn-ymgeisio statudol o dan a42 Deddf Cynllunio 2008, lle y bo’n berthnasol, wneud ymholiadau diwyd trwy gynnal ei ymchwiliadau ei hun a cheisio ei gyngor cyfreithiol ei hun, fel y bo’n briodol. Yr Ymgeisydd sy’n gyfrifol am sicrhau bod ei ymgynghoriad cyn-ymgeisio yn cydymffurfio’n llwyr â gofynion Deddf Cynllunio 2008, gan gynnwys rheoliadau cysylltiedig, a’i fod wedi rhoi ystyriaeth i ganllawiau perthnasol. Er hynny, gallai fod yn ddefnyddiol i Ymgeiswyr ddeall yr ymagwedd a ddefnyddir gan yr Arolygiaeth Gynllunio, sy’n gweithredu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, wrth fodloni ei rhwymedigaethau hysbysu ac ymgynghori statudol perthnasol o dan y Rheoliadau AEA.

Cefndir

1. Cyrff ymgynghori

1.1 Diffinnir cyrff ymgynghori o dan y Rheoliad 3(1) y Rheoliadau AEA fel:

  • corff a ragnodir o dan a42(1)(a) Deddf Cynllunio 2008 (dyletswydd i ymgynghori) ac a restrir yng ngholofn 1 y tabl a roddir yn Atodlen 1 y Rheoliadau CFfGR, lle y bodlonir yr amgylchiadau a amlinellir yng ngholofn 2 mewn perthynas â’r corff hwnnw (y cyfeirir atynt fel ‘ymgyngoreion rhagnodedig’ yn y Nodyn Cyngor hwn’);
  • pob awdurdod sydd o fewn a43 Deddf Cynllunio 2008 (awdurdodau lleol at ddibenion a42(1)(b)) (y cyfeirir atynt fel ‘awdurdodau lleol a43’ yn y Nodyn Cyngor hwn’); ac
  • os yw’r tir y mae’r cais, neu’r cais arfaethedig, yn ymwneud ag ef, neu unrhyw ran o’r tir hwnnw, yn Llundain Fwyaf, Awdurdod Llundain Fwyaf.

2. Cyrff Rheoliad 11(1)(c)

2.1 Mae Rheoliad 11(1)(c) y Rheoliadau AEA yn ymwneud ag unigolyn/unigolion penodol sydd, ym marn yr Arolygiaeth Gynllunio, “yn cael eu heffeithio neu’n debygol o gael eu heffeithio, neu sydd â buddiant neu’n debygol o fod â buddiant mewn” Datblygiad Arfaethedig ac sy’n “annhebygol o ddod yn ymwybodol o’r datblygiad arfaethedig trwy gyfrwng y mesurau a gymerir i gydymffurfio â Rhan 5 (ceisiadau am orchmynion sy’n rhoi caniatâd datblygu) y Ddeddf”.

2.2 Bydd angen i Ymgeiswyr roi ystyriaeth i’r gofynion a osodir o dan y Rheoliadau AEA o ran hysbysu ac ymgynghori ag unigolion Rheoliad 11(1)(c) (Mae Rheoliadau AEA 13, 16, 19, 20, 22 a 24 yn cyfeirio at ofynion hysbysu o ran unigolion Rheoliad 11(1)(c) hefyd)

3. Cyrff ymgynghori nad ydynt yn rhagnodedig

3.1 Gallai’r Arolygiaeth Gynllunio ddefnyddio ei disgresiwn i ymgynghori â rhai cyrff nad ydynt wedi’u diffinio o dan y Rheoliadau AEA ond sydd â swyddogaethau a chyfrifoldebau perthnasol. Gelwir y rhain yn ‘gyrff ymgynghori nad ydynt yn rhagnodedig’ ac fe’u disgrifir yn ddiweddarach yn y Nodyn Cyngor hwn.

4. Hysbysiad/cais sgrinio Rheoliad 8

4.1 O dan Reoliad 8 y Rheoliadau AEA, mae’n ofynnol i’r Ymgeisydd ar gyfer Datblygiad Arfaethedig nail ai hysbysu’r Arolygiaeth Gynllunio’n ysgrifenedig ei fod yn bwriadu darparu Datganiad Amgylcheddol mewn perthynas â’r Datblygiad Arfaethedig (‘hysbysiad Rheoliad 8’) neu ofyn am farn sgrinio gan yr Arolygiaeth Gynllunio, cyn cynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio o dan a42 Deddf Cynllunio 2008 (Rheoliad 8(1) y Rheoliadau AEA).

4.2 Mae rhagor o wybodaeth am wneud hysbysiad/cais Rheoliad 8 ar gael yn Nodyn Cyngor 7 yr Arolygiaeth Gynllunio: Asesu Effeithiau Amgylcheddol: Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol, Sgrinio a Chwmpasu

5. Cais cwmpasu Rheoliad 10

5.1 Mae Rheoliad 10 y Rheoliadau AEA yn galluogi unigolyn i geisio barn gan yr Arolygiaeth Gynllunio, sy’n gweithredu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, am y wybodaeth sydd i’w chynnwys mewn Datganiad Amgylcheddol (‘barn gwmpasu’). Cyn mabwysiadu barn gwmpasu, mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio, o dan Reoliad 10(6) y Rheoliadau AEA, ymgynghori â’r cyrff ymgynghori.

5.2 Mae rhagor o wybodaeth am wneud cais cwmpasu ar gael yn Nodyn Cyngor 7 yr Arolygiaeth Gynllunio: Asesu Effeithiau Amgylcheddol.

6 Hysbysiad Rheoliad 11

6.1 Ar ôl i’r Ymgeisydd hysbysu’r Arolygiaeth Gynllunio yn ysgrifenedig ei fod yn bwriadu darparu Datganiad Amgylcheddol, neu ar ôl i farn sgrinio gael ei fabwysiadu sy’n dangos bod y Datblygiad Arfaethedig yn ddatblygiad AEA, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n hysbysu’r cyrff ymgynghori bod yr Ymgeisydd yn bwriadu darparu Datganiad Amgylcheddol ar gyfer y Datblygiad Arfaethedig. Mae hefyd yn ofynnol i’r Arolygiaeth Gynllunio hysbysu’r cyrff ymgynghori o’r ddyletswydd a osodir arnynt gan Reoliad 11(3) y Rheoliadau AEA, sy’n mynnu bod rhaid iddynt, yn dilyn cais gan yr Ymgeisydd, ymgynghori â’r unigolyn hwnnw i bennu a yw’n meddu ar unrhyw wybodaeth yr ystyrir ei bod yn berthnasol i baratoi’r Datganiad Amgylcheddol neu’r Datganiad Amgylcheddol wedi’i ddiweddaru; ac, os felly, bod rhaid iddynt sicrhau bod y wybodaeth honno ar gael i’r Ymgeisydd. Nid yw Rheoliad 11(3) yn berthnasol i unigolion Rheoliad 11(1)(c) nac cyrff ymgynghori nad ydynt yn rhagnodedig.

6.2 Yn unol â Rheoliad 11(1)(b) y Rheoliadau AEA, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n rhoi rhestr i’r Ymgeisydd o’r cyrff ymgynghori a hysbyswyd ac unrhyw unigolion Rheoliad 11(1)(c). Bydd manylion unrhyw cyrff ymgynghori nad ydynt yn rhagnodedig (gweler isod) yn cael eu darparu, os yw’n briodol. Llunnir y ‘rhestr Rheoliad 11’ gan yr Arolygiaeth Gynllunio i gydymffurfio â’i dyletswydd i hysbysu’r cyrff ymgynghori yn unol â Rheoliad 11(1)(a) y Rheoliadau AEA. Caiff Ymgeiswyr ddefnyddio’r rhestr hon i lywio eu hymgynghoriad cyn-ymgeisio, ond ni ddylent ddibynnu arni wrth gynnal eu hymarfer ymgynghori a42 eu hunain.

6.3 Yn ystod cam derbyn cais am ganiatâd datblygu, mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, ymhlith materion eraill, benderfynu p’un a yw’r Ymgeisydd wedi cydymffurfio â phennod 2 Deddf Cynllunio 2008 (gweithdrefn cyn-ymgeisio). Weithiau, bydd Ymgeiswyr yn amlygu ac ymgynghori â llai o ymgyngoreion neu ymgyngoreion gwahanol (yn rhan o’u rhwymedigaethau a42) nag y mae’r Arolygiaeth Gynllunio’n eu hysbysu/ymgynghori â nhw o dan Reoliadau 10 ac 11 y Rheoliadau AEA. Yn yr achos hwn, dylai Ymgeiswyr sicrhau eu bod yn esbonio’r rheswm pam yn eglur yn eu hadroddiad ymgynghori. Mae’n rhaid i gais am ganiatâd datblygu gynnwys adroddiad ymgynghori (a37(3)(c) Deddf Cynllunio 2008).

6.4 Dylai Ymgeiswyr hefyd ystyried canllawiau perthnasol yr Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol ar ymgynghori cyn-ymgeisio a Nodyn Cyngor 14: Llunio’r Adroddiad Ymgynghori a Nodyn Cyngor 16: Dyletswyddau’r Datblygwr o ran Ymgynghori, Cyhoeddusrwydd a Hysbysu Cyn-ymgeisio yr Arolygiaeth Gynllunio.

Hysbysu ac ymgynghori gan yr Arolygiaeth Gynllunio

Yn unol â’r ymagwedd a esbonnir isod yn y Nodyn Cyngor hwn, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n hysbysu (o dan Reoliad 11(3) y Rheoliadau AEA) a/neu’n ymgynghori (o dan Reoliad 10(6) y Rheoliadau AEA) â’r canlynol:

  • A. ymgyngoreion rhagnodedig;
  • B. awdurdodau lleol a43; ac
  • C. cyrff ymgynghori nad ydynt yn rhagnodedig.

A) Ymgyngoreion rhagnodedig

A1. Atodlen 1 o’r Rheoliadau CFfGR

A1.1 Yr ymgyngoreion rhagnodedig, y mae’n ofynnol i’r Arolygiaeth Gynllunio eu hysbysu ac ymgynghori â nhw, yw’r cyrff hynny a amlygir yn Atodlen 1 y Rheoliadau CFfGR. Fe’u rhestrir naill ai:

  • yn ôl eu henw (er enghraifft, y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur); neu
  • yn ôl categori (er enghraifft, awdurdodau priffyrdd ac ymgymerwyr statudol perthnasol).

A1.2 Wrth benderfynu p’un a ddylid hysbysu ac ymgynghori ag ymgynghorai rhagnodedig, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio naill ai’n:

  • gorfod hysbysu neu ymgynghori ym mhob achos (er enghraifft, mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio ymgynghori â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, gan fod y tabl yn Atodlen 1 y Rheoliadau CFfGR yn datgan bod rhaid ymgynghori â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ‘ym mhob achos’); neu’n
  • cael defnyddio disgresiwn wrth benderfynu pa gyrff y dylid eu hysbysu neu ymgynghori â nhw trwy fabwysiadu ‘prawf perthnasedd’ a/neu drwy benderfynu p’un a yw amgylchiadau penodol yn berthnasol (y ‘prawf amgylchiadau’); disgrifir sut y defnyddir y disgresiwn hwn isod.

A1.3 Dylai Ymgeiswyr fod yn ymwybodol bod newidiadau a wnaed i’r Rheoliadau CFfGR yn 2013 (Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ymgyngoreion Rhagnodedig a Phartïon â Buddiant ac ati) (Diwygio) 2013) wedi cyflwyno gwahaniaethau i’r dull y mae’n rhaid ei ddefnyddio i amlygu cyrff ymgynghori yng Nghymru a Lloegr, a hynny o ran cymhwyso’r prawf perthnasedd (gweler isod) a’r cyrff a restrir yn Atodlen 1 y Rheoliadau CFfGR.

A1.4 Mae Tabl 1 yn yr Atodiad i’r Nodyn Cyngor hwn yn amlygu’r ymgyngoreion rhagnodedig a restrir yn Atodlen 1 y Rheoliadau CFfGR ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’n amlinellu’r prawf amgylchiadau sy’n berthnasol pan fydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n penderfynu p’un a ddylid ymgynghori ag ymgynghorai rhagnodedig ai peidio; disgrifir y broses hon yn fanylach isod.

A2. Cymhwyso ‘prawf perthnasedd’ y Rheoliadau CFfGR

O ran prosiectau a leolir yn Lloegr

A2.1 Mae’r prawf perthnasedd yn Atodlen 1 y Rheoliadau CFfGR yn datgan: “‘bydd ‘perthnasol’, o ran corff, yn golygu’r corff sy’n gyfrifol am y lleoliad lle y gallai’r cynigion gael eu lleoli neu lle y byddant yn cael eu lleoli” (fel y’i diffinnir yn y ‘Nodiadau i’r Tabl’ yn Atodlen 1 y Rheoliadau CFfGR).

A2.2 Esbonnir isod sut mae’r Arolygiaeth Gynllunio’n dehongli’r termau a ddefnyddir yn y diffiniad hwn o ‘berthnasol’:

  • ‘mae ‘y lleoliad’ yn golygu’r lleoliad sy’n cynnwys y tir sy’n ofynnol ar gyfer y datblygiad y mae angen caniatâd datblygu ar ei gyfer a’r tir sy’n ofynnol ar gyfer unrhyw ddatblygiad cysylltiedig;
  • mae’r ‘cynigion’ yn golygu’r Datblygiad Arfaethedig, gan gynnwys unrhyw ddatblygiad cysylltiedig y ceisir caniatâd datblygu ar ei gyfer’; ac
  • mae’r ‘corff sy’n gyfrifol am y lleoliad’ yn golygu’r corff sy’n gyfrifol am y man lle mae’r Datblygiad Arfaethedig, gan gynnwys unrhyw ddatblygiad cysylltiedig, wedi’i leoli.

O ran prosiectau a leolir yng Nghymru:

A2.3 Mae’r prawf perthnasedd yn Atodlen 1 y Rheoliadau CFfGR yn datgan: “bydd ‘perthnasol’, o ran corff, yn golygu’r corff sy’n gyfrifol am y lleoliad lle y gallai’r cynigion gael eu lleoli neu lle y byddant yn cael eu lleoli, neu sy’n gyfrifol am ardal sy’n gyfagos i’r lleoliad hwnnw” (fel y’i diffinnir yn y ‘Nodiadau i’r Tabl’ yn Atodlen 1 y Rheoliadau CFfGR).

A2.4 Mae’r Arolygiaeth Gynllunio’n dehongli’r termau ‘y lleoliad’, ‘y cynigion’ a’r ‘corff sy’n gyfrifol am y lleoliad’ yn yr un modd â’r esboniadau uchod ar gyfer prosiectau yn Lloegr. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio’n dehongli’r corff sy’n ‘gyfrifol am ardal sy’n gyfagos i’r lleoliad hwnnw’ fel y corff sy’n gyfrifol am ardal sy’n agos i leoliad arfaethedig y Datblygiad Arfaethedig ac unrhyw ddatblygiad cysylltiedig. Yn gyffredinol, mae’r Arolygiaeth Gynllunio o’r farn bod corff yn ‘gyfagos’ os yw’r cynigion o fewn 1km o unrhyw ran o ardal gyfrifoldeb y corff. (O ran Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yng Nghymru, ni all yr Ysgrifennydd Gwladol roi caniatâd datblygu ar gyfer datblygiad cysylltiedig heblaw mewn amgylchiadau cyfyngedig. Felly,mae “lleoliad” yng Nghymru yn golygu’r lleoliad sy’n cynnwys y tir sy’n ofynnol ar gyfer y datblygiad y mae angen caniatâd datblygu ar ei gyfer, oni bai bod y datblygiad hwn o fewn a15(3A), a15 (3B), a14(1)(b), neu a17(3), pryd y bydd “lleoliad” yn golygu’r lleoliad sy’n cynnwys y tir sy’n ofynnol ar gyfer y datblygiad y mae angen caniatâd datblygu ar ei gyfer a’r tir sy’n ofynnol ar gyfer unrhyw ddatblygiad cysylltiedig.)

A3. Cymhwyso ‘prawf amgylchiadau’ y Rheoliadau CFfGR

A3.1 Mae’r Arolygiaeth Gynllunio’n cymhwyso’r ‘prawf amgylchiadau’, fel y’i hamlinellir yng ngholofn 2 y tabl yn Atodlen 1 y Rheoliadau CFfGR. Bydd hyn yn pennu p’un a oes angen hysbysu neu ymgynghori â chyrff yr amlygir eu bod yn ‘berthnasol’, neu gyrff penodol a enwir yn y Rheoliadau CFfGR, ai peidio. Mater o farn yw penderfynu a yw’r ‘amgylchiadau’ yn berthnasol, a bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n ystyried pob achos yn unigol.

A3.2 Mae’r Arolygiaeth Gynllunio’n defnyddio ymagwedd ragofalus, felly pan fydd y prawf amgylchiadau’n dangos ‘yn debygol o effeithio’, ystyrir bod hynny’n golygu bod tebygolrwydd neu risg y bydd y Datblygiad Arfaethedig yn cael effaith, ac nid y bydd Datblygiad Arfaethedig yn bendant yn cael effaith.

A3.3 O ystyried y tebygolrwydd neu’r risg y bydd pob Datblygiad Arfaethedig yn cael effaith o ryw fath (beth bynnag fo’i graddau) ar yr amgylchedd, boed hynny’n dir, aer neu ddŵr, mae’r Arolygiaeth Gynllunio o’r farn ei bod yn rhesymol hysbysu ac ymgynghori â’r holl gyrff ymgynghori rhagnodedig lle mae’r ‘prawf amgylchiadau’ yng ngholofn 2 Atodlen 1 yn dangos ‘pob cais arfaethedig sy’n debygol o effeithio ar dir’ yng Nghymru neu Loegr.

A3.4 Ym mhob achos arall, bydd penderfyniad ar yr angen i hysbysu neu ymgynghori’n cael ei wneud ar sail achosion unigol. Wrth wneud hynny, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n ystyried natur a lleoliad y datblygiad, graddau daearyddol tebygol yr effeithiau (os ydynt yn hysbys) a chyfrifoldebau a swyddogaethau statudol y cyrff ymgynghori.

4. Amlygu’r cynghorau plwyf/cymuned/tref perthnasol

A4.1 Mae gan gynghorau plwyf/cymuned/tref (y cyngor plwyf perthnasol yn Lloegr neu’r cyngor cymuned/tref perthnasol os yw’r cais yn ymwneud â thir yng Nghymru) wybodaeth werthfawr am yr amgylchedd sy’n derbyn y maen nhw’n gyfrifol amdano. Felly, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n hysbysu ac ymgynghori â chynghorau plwyf/cymuned lle yr amlygir eu bod yn ‘berthnasol’.

O ran prosiectau a leolir yn Lloegr:

A4.2 Wrth gymhwyso’r prawf ‘perthnasedd’, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n amlygu’r cyngor plwyf perthnasol y byddai’r Datblygiad Arfaethedig ac unrhyw ddatblygiad cysylltiedig yn cael ei leoli ynddo (y cyfeirir ato fel y cyngor plwyf ‘B’). Yn unol â’r ‘prawf amgylchiadau’, hysbysir ac ymgynghorir â’r cynghorau plwyf ‘B’ ym mhob achos

O ran prosiectau a leolir yng Nghymru:

A4.3 Wrth gymhwyso’r prawf ‘perthnasedd’, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n amlygu’r cynghorau cymuned/tref perthnasol canlynol:

  • y cyngor/cynghorau cymuned/tref y byddai’r Datblygiad Arfaethedig ac unrhyw ddatblygiad cysylltiedig yn cael ei leoli ynddo/ynddynt (y cyfeirir ato/atynt fel y cyngor/cynghorau cymuned/tref ‘B’; a’r
  • cynghorau cymuned/tref cyfagos sy’n rhannu ffin â’r cyngor/cynghorau cymuned/tref ‘B’ (y cyfeirir atynt fel y cynghorau plwyf/cymuned ‘A’).

A4.4 Yn unol â’r ‘prawf amgylchiadau’, hysbysir ac ymgynghorir â’r cyngor/cynghorau cymuned/tref ‘B’ a’r cynghorau cymuned/tref ‘A’ cyfagos ym mhob achos.

A5. Amlygu ymgymerwyr statudol fel y’u rhagnodir yn y Rheoliadau CFfGR

A5.1 Mae Atodlen 1 y Rheoliadau CFfGR yn cynnwys ‘ymgymerwyr statudol perthnasol’. Mae’r diffiniad o ‘Ymgymerwr Statudol’ yn y Rheoliad 2(1) y Rheoliadau CFfGR yr un fath â hwnnw yn a127 Deddf Cynllunio 2008, sy’n diffinio ymgymerwyr statudol fel:

  • y rhai sy’n cyd-fynd â’r ystyr a roddir gan a8 Deddf Caffael Tir 1981, sy’n ymgymerwyr statudol mewn sectorau penodol;
  • y rhai hynny yr ystyrir eu bod yn ymgymerwyr statudol at ddibenion y Ddeddf Caffael Tir, trwy gyfrwng deddfiad arall; a’r
  • rhai hynny sy’n ymgymerwyr statudol at ddibenion a16(1) a (2) y Ddeddf Caffael Tir, sy’n gyrff iechyd penodol.

A5.2 Mae Tabl 2 yn yr Atodiad i’r Nodyn Cyngor hwn yn amlygu’r categorïau ymgymerwyr statudol y mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi dehongli eu bod yn dod o fewn y diffiniad o ‘ymgymerwyr statudol

B) Awdurdodau lleol a43

B1.1 Mae’r Rheoliadau AEA yn diffinio’r cyrff ymgynghori. Mae hyn yn cynnwys pob awdurdod lleol sydd o fewn a43 Deddf Cynllunio 2008 (fel y’i diwygiwyd). Mae a43 yn diffinio awdurdodau lleol o ran p’un a ydynt yn dod o fewn categorïau awdurdod lleol ‘A’, ‘B’, ‘C’ neu ‘D’:

  • ‘A’ – awdurdod lleol cydffiniol (a43(3)) sy’n rhannu fin ag awdurdod cynhaliol ‘B’);
  • ‘B’ – cyngor unedol neu gyngor dosbarth haen is lle mae’r Datblygiad Arfaethedig ac unrhyw ddatblygiad cysylltiedig wedi’i leoli (awdurdod cynhaliol);
  • ‘C’ – cyngor sir haen uwch lle mae’r Datblygiad Arfaethedig wedi’i leoli (awdurdod cynhaliol); a
  • ‘D’ – awdurdod lleol cydffiniol (a43(3)) nad yw’n gyngor dosbarth haen is ac sy’n rhannu ffin ag awdurdod ‘C’.

Diffinnir ‘A’ a ‘B yn a43(2) Deddf Cynllunio 2008; Diffinnir ‘C’ a ‘D’ yn a43(2A) Deddf Cynllunio 2008

B1.2 Rhoddir rhagor o wybodaeth am amlygu awdurdodau lleol a43 yn Nodyn Cyngor 2 yr Arolygiaeth Gynllunio: Rôl awdurdodau lleol yn y broses caniatâd datblygu.

C) Cyrff ymgynghori nad ydynt yn rhagnodedig

C1.1 Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi amlygu nifer o gyrff nad ydynt wedi’u diffinio fel cyrff ymgynghori o dan y Rheoliadau AEA, ond sydd â swyddogaethau a chyfrifoldebau perthnasol sy’n debyg i gyrff ymgynghori eraill. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n arfer ei barn a gallai ymgynghori â’r cyrff hyn, yn ôl ei disgresiwn ac ar sail anstatudol, ynglŷn â’r wybodaeth sydd i’w chynnwys mewn Datganiad Amgylcheddol.

C1.2 Crynhoir y cyrff hyn isod. Rhoddir rhagor o wybodaeth am eu cyfrifoldebau a’r amgylchiadau pryd y byddai’r Arolygiaeth Gynllunio’n ymgynghori â’r cyrff hyn yn Nhabl 3 yr Atodiad i’r Nodyn Cyngor hwn.

C1.3 Os bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n penderfynu ymgynghori â chyrff ymgynghori nad ydynt yn rhagnodedig cyn mabwysiadu barn gwmpasu ar gyfer Datblygiad Arfaethedig, bydd unrhyw safbwyntiau a dderbynnir gan y cyrff hyn erbyn y terfyn amser penodedig yn cael eu hystyried cyn mabwysiadu’r farn gwmpasu.

C1.4 Nid oes rhaid i’r Ymgeisydd ymgynghori â’r cyrff ymgynghori nad ydynt yn rhagnodedig er mwyn bodloni ei rwymedigaethau ymgynghori cyn-ymgeisio. Fodd bynnag, mae’r Arolygiaeth Gynllunio’n annog Ymgeiswyr i ymgynghori ag ystod mor eang â phosibl o gyrff ag yr ystyriant yn briodol yn ystod y cam cyn-ymgeisio, gan gynnwys wrth baratoi’r Datganiad Amgylcheddol.

C1.5 Os derbynnir cais am ganiatâd datblygu i’w archwilio, mae’n ofynnol i’r Ymgeisydd hysbysu’r categori unigolion a nodir yn a56(2) Deddf Cynllunio 2008 (sy’n adlewyrchu’r ymgyngoreion a amlygir o dan a42 Deddf Cynllunio 2008). Yn wahanol i’r cyrff ymgynghori, nid oes gofyniad statudol i’r Ymgeisydd hysbysu’r cyrff ymgynghori and ydynt yn rhagnodedig bod y cais am ganiatâd datblygu wedi cael ei dderbyn, hyd yn oed os yw’r Ymgeisydd wedi ymgynghori â nhw yn ystod y cam cyn-ymgeisio. Fodd bynnag, byddai’r Arolygiaeth Gynllunio’n annog Ymgeiswyr i wneud hynny.

C2. Cyrff ymgynghori nad ydynt yn rhagnodedig yng Nghymru

C2.1 Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi amlygu’r ymgyngoreion canlynol nad ydynt yn rhagnodedig sy’n gweithredu yng Nghymru a/neu ddyfroedd tiriogaethol Cymru. At ei gilydd, mae gan y cyrff hyn swyddogaethau a chyfrifoldebau perthnasol sy’n debyg i rai’r cyrff ymgynghori rhagnodedig a restrir yn Atodlen 1 y Rheoliadau CFfGR sy’n gweithredu yn Lloegr:

  • Cadw – gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, sydd â swyddogaeth debyg i Historic England;
  • Comisiynydd y Gymraeg – corff annibynnol a sefydlwyd gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn bennaf i hyrwyddo a hwyluso defnydd o’r iaith Gymraeg yng Nghymru;
  • Cyd-awdurdodau Trafnidiaeth – sy’n debyg i Weithrediaethau Trafnidiaeth Teithwyr (PTEs) neu Awdurdodau Trafnidiaeth Integredig (ITAs) sy’n gweithredu yn Lloegr; a’r
  • Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn – a amlygir fel ymgynghorai rhagnodedig yn Atodlen 1 y Rheoliadau CFfGR ar gyfer prosiectau yn Lloegr yn unig; mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi dehongli hyn i olygu ‘y Weinyddiaeth Amddiffyn’.

C3. Tiriogaethau Prydeinig perthnasol sy’n Ddibynnol ar y Goron

C3.1 Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi amlygu’r Tiriogaethau Prydeinig canlynol sy’n Ddibynnol ar y Goron, nad ydynt wedi’u rhestru yn Atodlen 1 y Rheoliadau CFfGR ond sydd â swyddogaethau cynllunio sy’n debyg i awdurdod lleol:

  • Ynys Manaw; ac
  • Ynysoedd y Sianel (Beiliaethau Jersey a Guernsey).

C4. Corfforaethau datblygu perthnasol yng Nghymru a Lloegr

C4.1 Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi amlygu’r cyrff canlynol fel cyrff ymgynghori nad ydynt yn rhagnodedig gan eu bod yn gweinyddu swyddogaeth gynllunio berthnasol, ond nid ydynt wedi’u diffinio fel ‘awdurdod lleol’ yn a43(3) Deddf Cynllunio 2008:

  • corfforaethau datblygu trefol – a ddiffinnir fel corfforaeth a sefydlwyd trwy orchymyn o dan a135 Deddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980; a
  • chorfforaethau datblygu maerol – a ddiffinnir fel corfforaeth a sefydlwyd trwy orchymyn o dan a198 Deddf Lleoliaeth 2011.

C5. Awdurdodau cyfunol yn Lloegr

C5.1 Gall awdurdodau cyfunol gael eu sefydluC1 yn Lloegr yn unig (yn unol â Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 a Deddf Dinasoedd a Datganoli Llywodraeth Leol 2016). Bydd gweithrediaeth awdurdod cyfunol yn cynnwys naill ai un cynrychiolydd o bob awdurdod sy’n aelod; neu un cynrychiolydd o bob awdurdod sy’n aelod yn ogystal â maer a etholwyd yn uniongyrchol (‘awdurdod cyfunol maerol’). Mae swyddogaethau awdurdod cyfunol yn ymwneud yn bennaf â’r canlynol (ond nid yn gyfyngedig iddynt): datblygu economaidd, adfywio, trafnidiaeth (gan gynnwys swyddogaethau a drosglwyddwyd o ITA neu PTE (a104 Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009)) a swyddogaethau eraill y mae’r awdurdodau sy’n aelodau’n cytuno i’w trosglwyddo.

C6. Ymgynghori pan fydd Datblygiad Arfaethedig yn cynnwys elfen alltraeth

C6.1 Mae gan nifer o gyrff gyfrifoldebau statudol ac anstatudol mewn perthynas â’r amgylchedd morol, yn arbennig awdurdodau chwilio ac achub morol a’r awdurdodau sy’n gyfrifol am amddiffyn llongddrylliadau, fel yr amlygir isod. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n arfer ei barn a gallai ymgynghori â’r cyrff hyn yn unol â’I disgresiwn.

C6.2 Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol bod rhai o’r cyrff ymgynghori nad ydynt yn rhagnodedig hefyd yn ymddangos fel ymgyngoreion rhagnodedig yn Atodlen 1 y Rheoliadau CFfGR. Fodd bynnag, mae ganddynt swyddogaethau a chyfrifoldebau sy’n ymestyn i’r ardal alltraeth nad ydynt wedi’u hadlewyrchu yn y profion perthnasedd na’r profion amgylchiadau yn Atodlen 1 y Rheoliadau CFfGR. Os yw’r Arolygiaeth Gynllunio o’r farn bod y swyddogaethau a’r cyfrifoldebau hyn yn berthnasol i ddatblygiad arfaethedig, ymgynghorir â’r cyrff hyn ar sail anstatudol, os nad ydynt eisoes wedi cael eu hamlygu fel ymgyngoreion rhagnodedig.

Awdurdodau chwilio ac achub

C6.3 Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gyfrifol am awdurdodau chwilio ac achub morol sifiliaid yn y Deyrnas Unedig a’i rhanbarthau chwilio ac achub yn yr awyr ac ar y môr, sy’n ymestyn y tu hwnt i ddyfroedd tiriogaethol (12 môr-filltir). Rhwymedigaeth gyfreithiol yw hon sy’n deillio o ymlyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gonfensiynau rhyngwladol (Y Confensiwn ar Gyfraith y Môr (UNCLOS), y Confensiwn ar Ddiogelwch Bywyd ar y Môr (SOLAS) (1974), y Confensiwn Chwilio ac Achub Morol (1979) a’r Confensiwn ar Hedfan Sifil Rhyngwladol (Chicago 1944) (Atodiad 12)). Mae awdurdodau chwilio ac achub yn cynnwys:

  • comisiynydd perthnasol yr heddlu a throseddu (Gwasanaeth yr Heddlu sy’n gyfrifol am gydlynu gweithrediadau chwilio ac achub ar y tir ac ar ddyfroedd mewndirol, gan gynnwys agweddau mewndirol y digwyddiadau hynny sy’n dechrau ar y môr. Trwy ei seilwaith rheoli, bydd comisiynydd perthnasol yr heddlu a throseddu yn cydlynu’r holl wasanaethau brys ac awdurdodau eraill lle y bo’n briodol);
  • awdurdodau tân ac achub perthnasol (Mae gan bob awdurdod tân ac achub y pŵer i ddefnyddio’r adnoddau a ddarperir yn bennaf ar gyfer ymladd tân i ymdrin â digwyddiadau nad ydynt yn ymwneud â thân, a allai gynnwys gweithrediadau chwilio ac achub. Nid yw’r pŵer hwn wedi’i gyfyngu i fôr tiriogaethol y Deyrnas Unedig (12 môr-filltir));
  • ymddiriedolaethau ambiwlans perthnasol (Mae’n bosibl y bydd gan ymddiriedolaethau ambiwlans y GIG sy’n gweithredu yng Nghymru a Lloegr hofrennydd meddygol brys a allai gynorthwyo â gweithrediadau chwilio ac achub); a
  • Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI). Sefydliad gwirfoddol yw’r RNLI wedi’i gorffori gan Siarter Frenhinol at ddiben achub bywydau, hyrwyddo diogelwch a lleddfu effeithiau trychineb ar y môr (yn nyfroedd tiriogaethol y Deyrnas Unedig a thu hwnt).

Awdurdodau sy’n gyfrifol am ddiogelu llongddrylliadau

C6.4 Yr awdurdodau sy’n gyfrifol am ddiogelu llongddrylliadau yn nyfroedd tiriogaethol Cymru a Lloegr yw:

  • Comisiwn Adeiladau Hanesyddol a Henebion Lloegr (Historic England) (Historic England yw’r corff perthnasol yn Lloegr ar gyfer llongddrylliadau dynodedig o dan adran 1 ac adran 2 Deddf Diogelu Llongddrylliadau 1973 a’r corff perthnasol mewn perthynas ag unrhyw safleoedd tanddwr sydd wedi’u rhestru o dan Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979);
  • Cadw (Cadw yw’r corff perthnasol yng Nghymru ar gyfer llongddrylliadau dynodedig o dan adran 1 ac adran 2 Deddf Diogelu Llongddrylliadau 1973); a’r
  • Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD). Y Weinyddiaeth Amddiffyn yw’r corff perthnasol, o dan Ddeddf Diogelu Olion Milwrol 1986, mewn perthynas â drylliach (unrhyw) awyren filwrol neu long ddynodedig sydd wedi dryllio neu suddo neu sydd wedi mynd yn sownd

C7. Awdurdodau lleol o fewn pyrth dylanwad gweledol (ZVI)

C7.1 Mae rhai Datblygiadau Arfaethedig wedi’u lleoli ar safleoedd gerllaw morydiau neu afonydd, mewn lleoliadau arfordirol, neu’n cynnwys elfen alltraeth. Gallai datblygiadau o’r fath gael effaith weledol bosibl ar ardaloedd mewn awdurdodau lleol nad ydynt wedi’u hamlygu’n awdurdodau ‘A’, ‘B’, ‘C’, neu ‘D’ o dan a43 Deddf Cynllunio 2008. Er enghraifft, lle mae awdurdod lleol wedi’i leoli yr ochr arall i foryd i Ddatblygiad Arfaethedig, ond nid yw’n rhannu ffin â’r awdurdod ‘B’ neu ‘C’. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n defnyddio ei disgresiwn wrth benderfynu p’un ai ymgynghori â’r awdurdod(au) lleol hyn ar sail anstatudol, o ystyried y parth dylanwad gweledol tebygol.