Nodyn Cyngor 17: Asesu Effeithiau Cronnol mewn perthynas â phrosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol

Statws y Nodyn Cyngor hwn

Nid oes gan y Nodyn Cyngor hwn statws statudol ac mae’n ffurfio rhan o’r gyfres o nodiadau cyngor a ddarperir gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn disodli pob fersiwn flaenorol. Caiff ei adolygu’n barhaus a’i ddiweddaru pan fydd angen.

Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn cyfeirio at Nodiadau Cyngor eraill. Gweld yr holl nodiadau cyngor.

Crynodeb o’r Nodyn Cyngor hwn

Amlinellir y gofyniad i gynnal Asesiad o Effeithiau Cronnol yn y Gyfarwyddeb Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA) (Cyfarwyddeb AEA 2014/52/EU sy’n diwygio Cyfarwyddeb AEA 2011/92/EU ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd.). O ran Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIPs) o dan Ddeddf Cynllunio 2008 (fel y’i diwygiwyd), gweithredir gofynion y Gyfarwyddeb trwy Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017 (“y Rheoliadau AEA”). (Mae’r Rheoliadau AEA yn cynnwys darpariaethau trosiannol ar gyfer Datblygiadau Arfaethedig sydd wedi dechrau proses AEA o dan Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2009.)

Mae amrywiaeth o ganllawiau sector cyhoeddus a chanllawiau a arweinir gan ddiwydiant ar gael ar Asesu Effeithiau Cronnol, ond nid oes un dull safonol ar gael ar hyn o bryd y cytunir arno ar draws y diwydiant. O ganlyniad, mae’r ymagwedd at Asesu Effeithiau Cronnol yn amrywio rhwng ceisiadau. Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn cyflwyno proses fesul cam y gallai ymgeiswyr ddymuno ei defnyddio wrth Asesu Effeithiau Cronnol ar gyfer NSIPs. Mae’n ategu’r cyngor a roddir yn Nodyn Cyngor 9 yr Arolygiaeth Gynllunio: Amlen Rochdale.

Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn ceisio rhoi:

  • disgrifiad byr o’r cyd-destun cyfreithiol a’r rhwymedigaethau a osodir ar ymgeisydd o ran effeithiau cronnol o dan bolisi cynllunio cenedlaethol a’r Rheoliadau AEA (mae Nodyn Cyngor 10 yr Arolygiaeth Gynllunio yn ymdrin ag asesiadau rheoliadau cynefinoedd);
  • trosolwg o’r broses Asesu Effeithiau Cronnol y gallai ymgeiswyr ddymuno ei defnyddio ar gyfer NSIPs; a
  • chyngor ynglŷn ag ymagwedd fesul cam a defnyddio templedi cyson i gofnodi’r Asesiad o Effeithiau Cronnol yn Natganiad Amgylcheddol ymgeisydd.

Neidio i’r adran:

  1. Y Cyd-destun Cyfreithiol a’r Rhwymedigaethau a Osodir ar Ymgeisydd
  2. Trosolwg o’r Broses Asesu Effeithiau Cronnol ar gyfer NSIPs
  3. Ymagwedd Fesul Cam a Fformatau ar gyfer Asesu Effeithiau Cronnol
  4. Diogelu Data
  5. Termau a byrfoddau a ddefnyddir yn y Nodyn Cyngor hwn

Dylid darllen y Nodyn Cyngor hwn ar y cyd â’r:

  • Gyfarwyddeb AEA;
  • y Rheoliadau AEA;
  • Deddf Cynllunio 2008;
  • Polisi Cynllunio perthnasol y Llywodraeth, er enghraifft:
    • Y Datganiadau Polisi Cenedlaethol perthnasol (Cymru a Lloegr);
    • Y Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol (NPPF) (Lloegr);
    • Polisi Cynllunio Cymru (Cymru)
  • canllawiau gan Gyrff Ymgynghori, er enghraifft:
    • Fframwaith Strategol ar gyfer Cwmpasu Effeithiau Cronnol. Y Sefydliad Rheoli Morol (MMO) 2014;
    • Datblygu fframwaith cyffredinol ar gyfer llywio Asesiadau o Effeithiau Cronnol sy’n ymwneud ag Ardaloedd Morol Gwarchodedig trwy werthuso arfer gorau. Natural England 2014; Llawlyfr Dylunio Ffyrdd a Phontydd (DMRB) Cyfrol 11, Adran 2, Rhan 5, yr Asiantaeth Briffyrdd 2008);
  • canllawiau’r Comisiwn Ewropeaidd:
    • Canllawiau ar gyfer Asesu Effeithiau Anuniongyrchol a Chronnol yn ogystal â’r
    • Rhyngweithiad rhwng Effeithiau, y Comisiwn Ewropeaidd 1999 ac
    • Asesu Effeithiau Amgylcheddol Prosiectau – Canllawiau ar baratoi’r Adroddiad Asesu Effeithiau Amgylcheddol. Y Comisiwn Ewropeaidd, 2017);
  • canllawiau sefydliadau perthnasol; a
  • chanllawiau’r diwydiant sy’n dod i’r amlwg.

I gynorthwyo, cyfeirir at rai dogfennau yn y troednodiadau, ond ymgeiswyr sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr holl bolisïau, deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol wedi cael eu cymhwyso.

1. Y Cyd-destun Cyfreithiol a’r Rhwymedigaethau a Osodir ar Ymgeisydd

Cyfarwyddeb yr Undeb Ewropeaidd, Fframwaith Polisi Cynllunio a Rheoleiddio

1.1 Mae’r Rheoliadau AEA yn gweithredu Cyfarwyddeb yr Undeb Ewropeaidd (UE) “ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd” (y cyfeirir ati fel arfer fel y Gyfarwyddeb AEA) ar gyfer cyfundrefn Deddf Cynllunio 2008.

1.2 Mae Atodlen 3, paragraff 1(b) y Rheoliadau AEA, sy’n cyfeirio at y meini prawf dethol ar gyfer sgrinio datblygiad Atodlen 2, yn datgan ‘rhaid i nodweddion datblygiad gael eu hystyried gan roi sylw penodol i’r… … (b) cyfuniad â datblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau a gymeradwywyd’. Mae Atodlen 3, paragraff 3(g), sy’n ymwneud â’r ‘Mathau o effeithiau posibl a’u nodweddion’ hefyd yn mynnu bod ‘(g) cyfuniad yr effaith ag effaith datblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau a gymeradwywyd’ yn cael ei ystyried. Mae’r Rheoliadau AEA yn ymestyn y diffiniad a nodir yn Atodiad III y Gyfarwyddeb, sy’n cyfeirio’n syml at ‘y cyfuniad â phrosiectau eraill’.

1.3 O ran y wybodaeth i’w chynnwys mewn Datganiad Amgylcheddol, mae Atodlen 4, paragraff 5 y Rheoliadau AEA yn mynnu ‘Disgrifiad o effeithiau arwyddocaol tebygol y datblygiad ar yr amgylchedd o ganlyniad i, ymhlith pethau eraill: (e) effeithiau cronnol â phrosiectau eraill presennol a/neu brosiectau a gymeradwywyd, gan ystyried unrhyw broblemau amgylcheddol presennol sy’n ymwneud ag ardaloedd o bwysigrwydd amgylcheddol penodol y mae’n debygol yr effeithir arnynt neu’r defnydd o adnoddau naturiol’. Mae’r testun yn mynd ymlaen i ddweud ‘Dylai’r disgrifiad o’r effeithiau arwyddocaol tebygol ar y ffactorau a nodir yn rheoliad 5(2) ymdrin â’r effeithiau uniongyrchol ac unrhyw effeithiau anuniongyrchol, eilaidd, cronnol, trawsffiniol, tymor byr, tymor canolig a thymor hir, parhaol a dros dro, cadarnhaol a negyddol y datblygiad.’

1.4 Mae’r angen i ystyried effeithiau cronnol wrth gynllunio a gwneud penderfyniadau wedi’i amlinellu yn y polisïau cynllunio (er enghraifft, Y Datganiadau Polisi Cenedlaethol perthnasol (Cymru a Lloegr); y Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol (NPPF) (Lloegr); Polisi Cynllunio Cymru (Cymru)) uchod, yn enwedig y Datganiadau Polisi Cenedlaethol (NPS). Er enghraifft, mae’r NPS Trosfwaol ar gyfer Ynni (EN-1), paragraff 4.2.5, yn datgan “Wrth ystyried effeithiau cronnol, dylai’r Datganiad Amgylcheddol ddarparu gwybodaeth am sut y byddai effeithiau cynnig yr ymgeisydd yn cyfuno ac yn rhyngweithio ag effeithiau datblygiadau eraill (gan gynnwys prosiectau y ceisiwyd neu y rhoddwyd caniatâd ar eu cyfer, yn ogystal â’r rhai sydd eisoes yn bodoli)”. At ddibenion y Nodyn Cyngor hwn, ystyrir bod ‘datblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’ yn cynnwys datblygiadau presennol a chynlluniau a phrosiectau presennol sy’n ‘rhesymol ragweladwy’.

1.5 Mae NPS EN-1, paragraff 4.2.6, yn mynd ymlaen i ddweud y dylai’r Ysgrifennydd Gwladol ystyried “sut y gallai croniad effeithiau a’r gydberthynas rhyngddynt effeithio ar yr amgylchedd, yr economi neu’r gymuned yn ei gyfanrwydd/chyfanrwydd, er y gallent fod yn dderbyniol o’u hystyried yn unigol gyda mesurau lliniaru ar waith.”

1.6 Mae’r amryw NPSs yn datgan y dylai ymgeiswyr, ymhlith materion eraill, ystyried lliniaru effeithiau cronnol mewn ymgynghoriad â datblygwyr eraill; Asesu Effeithiau Cronnol ar iechyd; rhoi ystyriaeth briodol i NSIPs eraill yn eu rhanbarth; ystyried effeithiau cadarnhaol a negyddol; ac ystyried terfynau amgylcheddol (e.e. y posibilrwydd o effeithiau ar ansawdd dŵr o ganlyniad i newidiadau graddol mewn ansawdd dŵr).

2. Trosolwg o’r Broses Asesu Effeithiau Cronnol ar gyfer NSIPs

2.1 Bydd graddfa a natur NSIPs fel arfer yn creu Parth Dylanwad eang o ran lle ac amser. Gallai graddfa a chymhlethdod NSIP arwain at broses Asesu Effeithiau Cronnol gymhleth sy’n ystyried amgylchedd sylfaenol dynamig sy’n mynd y tu hwnt i asesiad sefydlog o’r sefyllfa bresennol. Fe allai’r ymagwedd at amlygu ac asesu ‘datblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’ amrywio’n sylweddol yn rhan o’r broses Asesu Effeithiau Cronnol.

2.2 Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn cyflwyno ymagwedd pedwar cam at Asesu Effeithiau Cronnol y gallai ymgeiswyr ddymuno ei defnyddio. Dangosir y camau yn y ffigur isod ac fe’u hamlinellir yn fanylach yn Adran 3 y Nodyn Cyngor hwn. Yn ddelfrydol, dylid cynnal camau 1 – 2 yn gynnar yn ystod y cam cyn-ymgeisio a chyn gofyn am Farn Gwmpasu. Dylai ymgeiswyr ddefnyddio’r broses AEA i ddarparu gwybodaeth am yr Asesiad o Effeithiau Cronnol a sicrhau ei fod yn briodol o gymesur ac yn canolbwyntio ar y pethau iawn. Mae’n bosibl y bydd angen asesiad ychwanegol ac iddo ffocws penodol wrth archwilio ‘datblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’ sydd newydd eu hamlygu a allai arwain at effeithiau arwyddocaol. Gallai’r Awdurdod Archwilio ofyn am hyn.

2.3 Mae’r Arolygiaeth wedi cynhyrchu templedi y gellir eu defnyddio gan ymgeiswyr i gofnodi’r broses Asesu Effeithiau Cronnol fesul cam ac i helpu i sicrhau bod yr ymagwedd yn gyson. Darperir y templedi yn Atodiad 1 ac Atodiad 2 y Nodyn Cyngor hwn. Mae’r templedi’n sicrhau bod gwybodaeth am ganlyniadau pob cam o’r broses yn cael ei chyflwyno’n glir mewn fformat safonol a’i bod yn fuddiol i’r rhai sy’n ymwneud â’r cais a’r archwiliad. Anogir ymgeiswyr i’w defnyddio i sicrhau asesiad cadarn o’r effeithiau ac i hwyluso ymgynghoriad ystyrlon yn ystod y cam cyn-ymgeisio a thu hwnt. Y nod yw helpu’r Ysgrifennydd Gwladol i wneud y penderfyniad trwy gyflwyno’r broses Asesu Effeithiau Cronnol mewn fformat tryloyw a hawdd ei ddeall.

2.4 Mae’r broses Asesu Effeithiau Cronnol a gynigir gan yr Arolygiaeth wedi’i threfnu fesul camau dilynol. Fodd bynnag, dylai’r asesiad fod yn ailadroddus ac mae’n bosibl y bydd angen ei gynnal sawl gwaith wrth i gais Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) gael ei baratoi weithiau yn ystod yr archwiliad.

Yr ymagwedd fesul cam at y broses Asesu Effeithiau Cronnol:

  • Cam 1: Creu’r rhestr hir
  • Cam 2: Creu’r rhestr fer
  • Cam 3: Casglu gwybodaeth
  • Cam 4: Asesu

2.5 Mae’r broses a argymhellir yn canolbwyntio ar effeithiau cronnol gyda ‘datblygiadau eraill presennol a/ neu ddatblygiadau cymeradwy’. Ni ddylai hyn gael ei ddrysu ag asesu’r gydberthynas rhwng agweddau sy’n ymwneud â’r NSIP arfaethedig (e.e. rhwng ecoleg a hydroleg). Fel arfer, bydd y rhain wedi cael eu hasesu yn rhan o’r penodau ar agweddau arbenigol. Mae 1 a 2 yn olynol yn y Nodyn Cyngor hwn, ond fe allai fod yn ymarferol cyfuno’r camau hyn a’u cynnal ar yr un pryd.

3. Ymagwedd Fesul Cam a Fformatau ar gyfer Asesu Effeithiau Cronnol

3.1 Cam 1: Creu’r rhestr hir o ‘ddatblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’

3.1.1 Dylai ‘datblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’ sy’n debygol o arwain at effeithiau cronnol arwyddocaol gael eu hamlygu a’u hasesu gan yr ymgeisydd yn yr Asesiad o Effeithiau Cronnol. Er mwyn sefydlu’r ‘datblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’ perthnasol, dylai’r ymgeisydd bennu’r Parth Dylanwad ar gyfer pob agwedd amgylcheddol a ystyrir yn y Datganiad Amgylcheddol. Dylai’r Parth Dylanwad ar gyfer pob agwedd gael ei gofnodi yn y Datganiad Amgylcheddol. Argymhellir defnyddio tabl i gyflwyno hyn yn glir (gweler Tabl 1).

3.1.2 Mae’r Arolygiaeth hefyd yn argymell bod y Parth Dylanwad ar gyfer pob agwedd yn cael ei fapio gan ddefnyddio meddalwedd GIS. Bydd y Parth Dylanwad (pan fydd wedi’i gynhyrchu) yn creu ardal chwilio dryloyw a chyfiawnadwy y gallai ‘datblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’ fod wedi’u lleoli ynddi. Gallai’r ymgeisydd ddymuno cyflwyno’r wybodaeth hon (mewn cynlluniau neu ffigurau) fel atodiad i’r Datganiad Amgylcheddol.

Tabl 1: Enghraifft o gofnod tabl cryno ZOI

Agwedd amgylcheddol Parth Dylanwad
Ansawdd Aer e.e. Llwch adeiladu ac allyriadau cerbydau – diffinnir y Parth Dylanwad gan ganllawiau’r sefydliad perthnasol.
e.e. Allyriadau peiriannau gweithredol – diffinnir y Parth Dylanwad gan fodelu ansawdd aer.
Treftadaeth e.e. Effeithiau ffisegol ar archaeoleg gladdedig – diffinnir y Parth Dylanwad gan ganllawiau’r sefydliad perthnasol.

3.1.3 Dylai’r Parth Dylanwad ar gyfer pob agwedd gefnogi ymarfer astudiaeth ddesg i amlygu’r rhestr hir o ddatblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy ar ffurf ceisiadau cynllunio, cynlluniau datblygu perthnasol ac unrhyw ffynonellau eraill sydd ar gael ac yn berthnasol (e.e. gwybodaeth o ymatebion ymgynghori, yn enwedig gan awdurdod cynllunio perthnasol). Gellid defnyddio Matrics 1 yn Atodiad 1 i gasglu’r wybodaeth hon.

3.1.4 Rhestrir mathau o ‘ddatblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’ a ddylai gael eu sefydlu ar gyfer yr Asesiad o Effeithiau Cronnol yn Nhabl 2. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn cydnabod y bydd argaeledd y wybodaeth sy’n angenrheidiol i gynnal yr Asesiad o Effeithiau Cronnol yn dibynnu ar statws presennol y ‘datblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’. Dylai’r ymgeisydd ddatgan yn glir unrhyw dybiaethau neu gyfyngiadau yn ymwneud â’r data a gasglwyd am y ‘datblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’. Argymhellir bod lefel o sicrwydd, sy’n adlewyrchu faint o fanylion a gwybodaeth a oedd ar gael ar gyfer yr asesiad, yn cael ei briodoli i bob datblygiad a’i gofnodi.

3.1.5 Mae Tabl 2 yn darparu meini prawf y gellid eu defnyddio i ddangos y sicrwydd y gellir ei briodoli i bob un o’r ‘datblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’. Rhennir y meini prawf yn haenau sy’n disgyn o Haen 1 (mwyaf sicr) i Haen 3 (lleiaf sicr) ac sy’n adlewyrchu’r gostyngiad graddol mewn sicrwydd y gellir ei briodoli i bob datblygiad. Argymhellir bod ymgeiswyr yn cofnodi’r haen a briodolwyd gan ddefnyddio’r templed a ddarperir yn Atodiadau 1 a 2. Bydd y wybodaeth hon yn dangos yn glir faint o sicrwydd y mae’r ymgeisydd wedi’i gymhwyso i’r wybodaeth sydd ar gael.

Tabl 2 – Priodoli sicrwydd i ‘ddatblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’

Mae lefel ostyngol o fanylion yn debygol o fod ar gael wrth i chi fynd o Haen 1 i Haen 3.

Haen 1
  • wrthi’n cael eu hadeiladu (gweler y Nodyn);
  • cais wedi’i ganiatáu/ceisiadau wedi’u caniatáu, boed hynny o dan Ddeddf Cynllunio 2008 neu gyfundrefnau eraill, ond heb ei weithredu/eu gweithredu hyd yma;
  • cais wedi’i gyflwyno/ceisiadau wedi’u cyflwyno, boed hynny o dan Ddeddf Cynllunio 2008 neu gyfundrefnau eraill, ond heb eu penderfynu eto
Haen 2
  • prosiectau ar Raglen Brosiectau’r Arolygiaeth Gynllunio lle y cyflwynwyd adroddiad cwmpasu.
Haen 3
  • prosiectau ar Raglen Brosiectau’r Arolygiaeth Gynllunio lle na chyflwynwyd adroddiad cwmpasu.
  • wedi’u hamlygu yn y Cynllun Datblygu perthnasol (a Chynlluniau Datblygu sy’n dod i’r amlwg – gyda phwys priodol wedi’i roi wrth iddynt symud yn agosach at gael eu mabwysiadu), gan gydnabod na fydd llawer o wybodaeth ar gael am y cynigion perthnasol;
  • wedi’u hamlygu mewn cynlluniau a rhaglenni eraill (fel y bo’n briodol) sy’n gosod y fframwaith ar gyfer cydsyniadau/cymeradwyaethau datblygu yn y dyfodol, lle mae datblygiad o’r fath yn rhesymol debygol o gael ei gyflwyno.

Nodyn: Lle y disgwylir i brosiectau eraill gael eu cwblhau cyn i’r NSIP arfaethedig gael ei adeiladu ac mae effeithiau’r prosiectau hynny wedi’u pennu’n llawn, dylai’r effeithiau sy’n deillio ohonynt gael eu hystyried yn rhan o’r wybodaeth sylfaenol a gellid eu hystyried yn rhan o’r asesiad adeiladu a gweithredol. Dylai’r Datganiad Amgylcheddol wahaniaethu’n glir rhwng prosiectau sy’n ffurfio rhan o’r wybodaeth sylfaenol ddynamig a’r rhai yn yr Asesiad o Effeithiau Cronnol.


Datblygiad sy’n gysylltiedig â’r NSIP (gan gynnwys datblygiad a ganiateir)

Gallai NSIP arfaethedig gynnwys nifer o safleoedd datblygu sydd wedi’u gwasgaru’n ddaearyddol (e.e. safle datblygu a ategir gan welliannau priffyrdd a chanolfannau cyfuno cludo nwyddau oddi ar y safle), gan gynnwys datblygiad y ceisir caniatâd ar ei gyfer o dan gyfundrefn gynllunio wahanol (e.e. cais o dan y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref). Yn yr amgylchiadau hyn, dylai’r ymgeisydd ystyried y posibilrwydd y gallai effeithiau cronnol ddeillio o’r rhyngweithio rhwng gwahanol elfennau o’i NSIP, yn ogystal â chyda ‘datblygiadau eraill perthnasol a/ neu ddatblygiadau cymeradwy’.

Lle mae’r NSIP arfaethedig yn cynnwys elfennau o waith a ystyrir yn ddatblygiad a ganiateir, dylai’r ymgeisydd sicrhau bod y rhain wedi’u cynnwys yn yr Asesiad o Effeithiau Cronnol, os nad ydynt eisoes wedi’u hystyried yn yr asesiadau o agweddau unigol.


3.2 Cam 2: Creu rhestr fer o ‘ddatblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’

3.2.1 Ar ôl Cam 1, dylai ymgeiswyr gymhwyso meini prawf trothwy i’r rhestr hir, er mwyn creu rhestr fer o ddatblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy ac i sicrhau bod yr Asesiad o Effeithiau Cronnol yn gymesur. Dylid defnyddio’r meini prawf i lywio penderfyniad ynglŷn â ph’un a ddylai ‘datblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’ sy’n dod o fewn Parth Dylanwad yr NSIP arfaethedig gael eu cynnwys mewn asesiad pellach, neu eu heithrio.

3.2.2 Yn ddelfrydol, dylai’r meini prawf a ddefnyddiwyd i benderfynu p’un ai cynnwys neu eithrio datblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy gael eu cyflwyno’n gynnar, er enghraifft yn adroddiad cwmpasu’r ymgeisydd. Bydd hyn yn galluogi’r Arolygiaeth Gynllunio i roi ei barn ar y meini prawf.

3.2.3 Dylai’r meini prawf gael eu strwythuro mewn modd sy’n cefnogi asesiad cymesur. Dylent sicrhau mai dim ond datblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy sy’n debygol o arwain at effaith gronnol arwyddocaol sy’n mynd ymlaen i’r cam asesu. Dylid bod yn ofalus yn hyn o beth; mae’n bwysig nad yw effeithiau na ystyrir eu bod yn arwyddocaol ar eu pen eu hunain yn cael eu heithrio o’r Asesiad o Effeithiau Cronnol, oherwydd gallai effaith gronnol nifer o effeithiau anarwyddocaol fod yn arwyddocaol ynddi’i hun.

3.2.4 Dylai’r meini prawf a ddefnyddir i benderfynu p’un a ddylai ‘datblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’ gael eu cynnwys mewn asesiad pellach, neu eu heithrio ohono, fod yn glir. Dylent gael eu paratoi gan ystyried dogfennau polisi neu ganllawiau perthnasol ac mewn ymgynghoriad â’r cyrff ymgynghori statudol priodol (yn enwedig yr awdurdod cynllunio lleol). Dylai’r meini prawf fynd i’r afael â’r canlynol:

  • Cwmpas amser: Gallai’r ymgeisydd ddymuno ystyried rhaglenni adeiladu, gweithredu a datgomisiynu perthynol y ‘datblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’ a amlygwyd yn y Parth Dylanwad ynghyd â’r rhaglen NSIP, i sefydlu a oes gorgyffyrddiad ac unrhyw bosibilrwydd o ryngweithio.
  • Graddfa a natur y datblygiad: Gallai’r ymgeisydd ddymuno ystyried p’un a yw graddfa a natur y ‘datblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’ a amlygwyd yn y Parth Dylanwad yn debygol o ryngweithio â’r NSIP arfaethedig. Gallai diffiniadau statudol o ddatblygiad mawr a throthwyon sgrinio AEA fod o gymorth wrth ystyried materion yn ymwneud â graddfa.
  • Ffactorau eraill: Dylai’r ymgeisydd ystyried a oes unrhyw ffactorau eraill, fel natur a/neu gapasiti’r amgylchedd derbyn, a fyddai’n gwneud effaith gronnol arwyddocaol gyda ‘datblygiadau eraill presennol a/ neu ddatblygiadau cymeradwy’ yn fwy neu’n llai tebygol, ac fe allai ystyried defnyddio ymagwedd ffynhonnellllwybr- derbynnydd i lywio’r asesiad.
  • Dogfennau: Gallai’r broses o greu rhestr fer ar gyfer yr Asesiad o Effeithiau Cronnol gael ei chofnodi gan ddefnyddio Matrics 1 (Atodiad 1). Dylai’r rhesymau dros eithrio unrhyw ddatblygiad rhag ystyriaeth bellach gael eu cofnodi’n glir. Bydd hyn yn rhoi cofnod eglur i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, cyrff ymgynghori ac aelodau’r cyhoedd o’r ‘datblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’ a ystyriwyd a phroses benderfynu’r ymgeisydd o ran yr angen am asesiad ychwanegol.

3.2.5 Gellid defnyddio barn broffesiynol hefyd i ategu’r meini prawf trothwy ac i osgoi eithrio ‘datblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’ sydd:

  • Islaw terfynau’r meini prawf trothwy ond sydd â nodweddion sy’n debygol o arwain at effaith arwyddocaol; neu
  • Islaw terfynau’r meini prawf trothwy ond a allai arwain at effaith gronnol o ganlyniad i’w hagosrwydd i’r NSIP arfaethedig.

3.2.6 Yn yr un modd, gellid defnyddio barn broffesiynol i eithrio ‘datblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’ sy’n uwch na’r trothwyon ond efallai na fyddent yn arwain at effeithiau amlwg. Dylai’r holl ‘ddatblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’ a ystyrir gael eu cofnodi a dylai’r rhesymau dros eu cynnwys neu eu heithrio gael eu datgan yn glir.

3.2.7 Lle mae’r ymgeisydd wedi amlygu ‘datblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’ a allai arwain at effaith gronnol arwyddocaol, dylai’r ymgeisydd symud ymlaen i Gam 3 – Casglu Gwybodaeth. Dylai’r ymgeisydd ymgynghori â’r cyrff ymgynghori perthnasol, gan gynnwys yr awdurdodau cynllunio lleol, ynglŷn â’r rhestr fer o ‘ddatblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’ i’w hasesu.


Ymgynghori

Cynghorir ymgeiswyr yn gryf i fanteisio ar yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio â’r cyrff ymgynghori, gan gynnwys yr awdurdod(au) cynllunio lleol perthnasol a sefydliadau eraill perthnasol, i sicrhau bod y rhestr fer o ‘ddatblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’ a amlygwyd ar gyfer yr Asesiad o Effeithiau Cronnol yn gynhwysfawr ac yn gywir. Yn ddelfrydol, dylai ymgeiswyr ddefnyddio matricsau wedi’u cwblhau i amlygu a thrafod materion â’r cyrff ymgynghori a sefydliadau eraill perthnasol. Yn y pen draw, dylai’r ymagwedd hon hefyd helpu i amlygu mesurau lliniaru cadarn i’w cyflwyno gyda’r cais am ganiatâd datblygu a allai, fel arall, fod heb eu datrys a golygu bod angen eu harchwilio yn ystod yr archwiliad. Mae’n bosibl y bydd angen ailadrodd y broses hon yn ystod y cam cyn-ymgeisio, ac fe ddylai gael ei seilio ar y rhestr ar gael o ddatblygiadau. Dylai’r Asesiad o Effeithiau Cronnol gynnwys crynodeb o unrhyw ymgynghoriadau o’r fath a gynhaliwyd a thystiolaeth o unrhyw gytundebau y daethpwyd iddynt.


3.3 Cam 3: Casglu Gwybodaeth

3.3.1 Mae Cam 3 y broses Asesu Effeithiau Cronnol yn gofyn i’r ymgeisydd gasglu gwybodaeth am bob un o’r ‘datblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’ a gynhwyswyd yn y rhestr fer yng Ngham 2. Yn rhan o broses Cam 3, disgwylir i’r ymgeisydd gasglu gwybodaeth fanwl i lywio’r asesiad Cam 4. Dylai’r wybodaeth a gesglir gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddi:

  • Gwybodaeth am ddyluniad a lleoliad arfaethedig;
  • Rhaglen adeiladu, gweithredu a datgomisiynu arfaethedig; ac
  • Asesiadau amgylcheddol sy’n amlinellu data sylfaenol ac effeithiau sy’n deillio o’r ‘datblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’.

3.3.2 Mae’n debygol y bydd y data perthnasol ar gael o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys gwefan yr awdurdod(au) cynllunio lleol perthnasol, gwefan yr Arolygiaeth Gynllunio ac, o bosibl, trwy gysylltu’n uniongyrchol â rhanddeiliaid eraill gan gynnwys awdurdodau lleol eraill, cyrff statudol ac ymgeiswyr/datblygwyr perthnasol. Dylai manylion allweddol y wybodaeth a gasglwyd gael eu nodi a’u cyflwyno mewn fformat hygyrch, er enghraifft yn unol â Matrics 2 (Atodiad 2).

3.4 Cam 4: Asesu

3.4.1 Dylai’r ymgeisydd Asesu Effeithiau Cronnol yr NSIP arfaethedig gyda’r ‘datblygiadau eraill presennol a/ neu ddatblygiadau cymeradwy’ a amlygwyd yng Nghamau 1-3 y broses a amlinellwyd uchod. Fel y dangoswyd uchod, mae’n bosibl y bydd rhywfaint o orgyffwrdd ac ailadrodd rhwng camau amrywiol yr Asesiad o Effeithiau Cronnol.

3.4.2 Dylai’r asesiad gynnwys lefel briodol o fanylion, yn gymesur â’r wybodaeth sydd ar gael ar adeg yr asesiad. Mae’n bosibl y bydd y wybodaeth sydd ar gael am rai cynigion yn gyfyngedig, a dylid cydnabod bylchau o’r fath yn yr asesiad. Bydd yr asesiad yn newid o fod yn asesiad mwy ansoddol i un mwy meintiol wrth i fwy o wybodaeth ddod ar gael a/neu ddod yn fwy sicr. Dylai unrhyw ansicrwydd yn yr asesiadau gael ei gofnodi’n glir.

3.4.3 Dylid darparu asesiad ar gyfer yr holl ‘ddatblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’ Haen 1 a Haen 2, lle y bo’n bosibl. O ran ‘datblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’ Haen 3, dylai’r ymgeisydd geisio cynnal asesiad lle y bo’n bosibl, er y gallai hwn fod yn ansoddol ac ar lefel uchel iawn. Dylai’r asesiad gael ei gynnal gydag ymdrech resymol a’i gofnodi’n glir yn y Datganiad Amgylcheddol, er enghraifft gan ddefnyddio’r fformat a gyflwynir ym Matrics 2.

3.4.4 Mae’n bosibl y bydd rhai asesiadau, fel asesiadau trafnidiaeth a gweithredol cysylltiedig allyriadau cerbydol (gan gynnwys aer a sŵn), yn asesiadau cronnol yn eu hanfod. Y rheswm am hyn yw oherwydd gallent gynnwys twf data traffig wedi’i fodelu ar gyfer llif traffig yn y dyfodol. Lle mae’r asesiadau hyn yn gynhwysfawr ac yn cynnwys achos gwaethaf yn y paramedrau asesu diffiniedig, nid oes angen asesiad cronnol ychwanegol o’r agweddau hyn (mae’n bosibl y bydd angen rhoi ystyriaeth ar wahân i groniad neu gydberthynas yr effeithiau hyn ar set unigol o dderbynyddion e.e. yn rhan o asesiad economaiddgymdeithasol). Dylai unrhyw dybiaethau o’r fath gael eu datgan yn glir yn y bennod ar agwedd technegol a’r bennod ar Asesu Effeithiau Cronnol. Fodd bynnag, dylid adolygu’r asesiad yn barhaus rhag ofn y bydd unrhyw ‘ddatblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’ newydd yn cael eu hamlygu a allai fynd dros y tybiaethau achos gwaethaf blaenorol yn seiliedig ar ddata twf (e.e. na chynhwyswyd mewn rhagolygon wedi’u modelu). Gallai hyn ysgogi’r angen i ddiweddaru gwaith modelu blaenorol.

3.4.5 Wrth baratoi’r asesiad, dylid cofio mai un o ddibenion allweddol y Datganiad Amgylcheddol yw galluogi’r archwiliad sy’n angenrheidiol i lywio penderfyniadau (mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol archwilio’r wybodaeth amgylcheddol wrth ddod i gasgliad rhesymedig ynglŷn ag effeithiau arwyddocaol y datblygiad arfaethedig) (Rheoliad 21(1) Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (AEA) 2017). Er y dylai ymgeiswyr wneud ymdrech ddilys i asesu’r effeithiau sy’n deillio o effeithiau lluosog nad ydynt yn arwyddocaol ar eu pen eu hunain, dylai’r Asesiad o Effeithiau Cronnol fod yn gymesur ac ni ddylai fod yn hwy nag sydd ei angen i amlygu ac asesu unrhyw effeithiau cronnol arwyddocaol tebygol.

3.4.6 Lle mae effeithiau cronnol arwyddocaol rhwng yr NSIP arfaethedig a ‘datblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’ yn debygol o godi mewn perthynas ag un agwedd amgylcheddol yn unig, dylai’r asesiad ganolbwyntio ar y mater hwnnw yn unig. Dylai’r asesiad fod yn briodol i’r effaith sy’n cael ei hasesu, a bydd angen rhoi gwybodaeth gryno iawn yn unig am rai effeithiau i ddangos eu bod wedi cael eu hystyried. Lle mae data sylfaenol neu ddata am effeithiau amgylcheddol ‘datblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’ yn anghyflawn, dylid defnyddio ymagwedd ragofalus ond pragmatig, wedi’i seilio ar y dystiolaeth orau sydd ar gael, er y dylai ymgeiswyr allu dangos eu bod wedi ceisio dod o hyd i’r data hwn lle y bo’n berthnasol.


Yr ymagwedd gydlynol

Lle mae’n ofynnol i Ymgeisydd gyflwyno Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) yn ogystal â Datganiad Amgylcheddol, dylai’r Ymgeisydd sicrhau nad yw gwybodaeth yn cael ei dyblygu rhwng asesiadau. Argymhellir defnyddio setiau data a rennir.


3.4.7 Meini Prawf Arwyddocâd: Dylai’r meini prawf arwyddocâd a ddefnyddir i Asesu Effeithiau Cronnol ystyried gallu’r amgylchedd sy’n derbyn a derbynyddion i ymdopi â’r newidiadau sy’n debygol o ddigwydd. Dylai’r derminoleg a ddefnyddir i bennu arwyddocâd fod yn benodol ac ategu cyflwyniad a dealltwriaeth eglur o ganlyniad yr Asesiad o Effeithiau Cronnol.

3.4.8 Lle y datblygir meini prawf wedi’u teilwra i bennu arwyddocâd effeithiau cronnol, bydd angen ystyried y canlynol:

  • hyd yr effaith, h.y. a fydd yn fyrhoedlog neu’n barhaol;
  • graddau’r effaith, e.e. ardal ddaearyddol effaith;
  • y math o effaith, e.e. p’un a yw’n ychwanegol (colli 2 ddarn o goetir 1ha, sy’n arwain at golled gronedig o 2ha o goetir) neu’n synergyddol (mae dau ollyngiad yn cyfuno i effeithio ar rywogaeth nad yw’r gollyngiadau’n effeithio arni ar wahân);
  • amlder yr effaith;
  • ‘gwerth’ a chydnerthedd y derbynnydd yr effeithir arno; a
  • llwyddiant tebygol mesurau lliniaru.

3.4.9 Dyddiad Terfyn ar gyfer Asesu: Deëllir bod rhaid i ymgeiswyr roi’r gorau i waith asesu ar adeg benodol i allu cwblhau a chyflwyno cais. Dylai’r ymgeisydd nodi’r dyddiad terfyn ar gyfer asesu. Fodd bynnag, lle mae ‘datblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’ newydd yn cael eu cyflwyno ar ôl y dyddiad terfyn a nodwyd ar gyfer asesu, gallai’r Awdurdod Archwilio ofyn am wybodaeth ychwanegol yn ystod yr archwiliad ynglŷn ag effeithiau sy’n codi o ddatblygiadau o’r fath. Dylai’r ymgeisydd fod yn ymwybodol o’r posibilrwydd y bydd angen cynnal asesiadau ychwanegol i leihau oedi a chwestiynau yn ystod archwiliad.

3.4.10 Lliniaru a monitro: Dylai’r Ymgeisydd ddisgrifio’r mesurau a ragwelir i osgoi, atal, lleihau neu, os yw’n bosibl, wrthbwyso unrhyw effeithiau cronnol arwyddocaol a amlygwyd a, lle y bo’n briodol, unrhyw drefniadau monitro arfaethedig. Dylid esbonio sut y bydd y mesurau hyn yn cael eu cyflawni. Dylid cofnodi hyn ym Matrics 2 (Atodiad 2). Dylai’r holl fesurau lliniaru y dibynnir arnynt yn yr asesiad gael eu disgrifio a’u cyflwyno yn y Datganiad Amgylcheddol. Lle y bwriedir sicrhau a chyflawni mesurau lliniaru a/neu fonitro trwy ofyniad yn y DCO drafft, e.e. o fewn Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu (CEMP), yn hytrach nag wedi’u hymgorffori yn nyluniad yr NSIP, dylid cyfeirio at y gofyniad drafft yn eglur yng ngholofn liniaru Matrics 2 yr ymgeisydd a/neu yn rhan o atodlen mesurau lliniaru drosfwaol yr ymgeisydd.

3.4.11 Disgwylir i ymgeiswyr, o leiaf, gynnwys y mesurau lliniaru sy’n angenrheidiol i fynd i’r afael ag effeithiau sy’n gysylltiedig â’u NSIP arfaethedig. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd yn dderbyniol rhannu effeithiau a mesurau lliniaru rhwng yr NSIP arfaethedig a ‘datblygiadau eraill presennol a/neu ddatblygiadau cymeradwy’ mewn rhai achosion, yn amodol ar gyfiawnhad cadarn a chytundeb â’r cyrff ymgynghori perthnasol a/neu ymgeisydd arall/ymgeiswyr eraill.

3.4.12 Lle y bo’n bosibl, dylai ymgeiswyr ystyried cyfleoedd i ddatblygu strategaethau lliniaru cyfannol ar y cyd â chyrff eraill perthnasol a amlygwyd yn yr Asesiad o Effeithiau Cronnol, er enghraifft, NPS EN-3, paragraff 2.6.120, sy’n argymell defnyddio coridorau ceblau a rennir i leihau ‘effeithiau cronnol llwybrau ceblau lluosog ….sy’n croesi’r parth islanw’. Dylai’r ymgeisydd gytuno ar y dull perthnasol o sicrhau mesurau lliniaru o’r fath mewn ymgynghoriad â’i gynghorwyr cyfreithiol a chyrff eraill perthnasol.

4. Diogelu Data

4.1. Os derbynnir cais i symud ymlaen i’w archwilio gan yr Ysgrifennydd Gwladol, fe’i cyhoeddir ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol

4.2. Mae’n rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir gyda’u cais yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data a bod unrhyw wybodaeth gyfrinachol neu bersonol am unigolion preifat yn cael ei thrin yn briodol – gallai hyn gynnwys hepgor y wybodaeth neu gael caniatâd yr unigolion dan sylw i brosesu eu gwybodaeth bersonol.

5. Termau a byrfoddau a ddefnyddir yn y Nodyn Cyngor hwn

  • AEA Asesiad o Effeithiau Amgylcheddol
  • CEA Asesiad o Effeithiau Cronnol
  • CEMP Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu
  • DCO Gorchymyn Caniatâd Datblygu
  • ES Datganiad Amgylcheddol
  • ExA Awdurdod Archwilio
  • GIS Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol
  • HRA Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
  • NPPF Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol
  • NPS Datganiad(au) Polisi Cenedlaethol
  • NSIP Prosiect(au) Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol
  • Ymgeisydd Y sawl sy’n gwneud cais am ganiatâd datblygu. Mae’n gyfrifol am gynnal y gwaith paratoi angenrheidiol i ategu’r cais er mwyn galluogi’r awdurdod cymwys i gyflawni ei ddyletswyddau
  • ZOI Parth Dylanwad