Statws y Nodyn Cyngor hwn
Nid oes gan y Nodyn Cyngor hwn unrhyw statws statudol ac mae’n llunio rhan o gyfres o gynghorion a roddir gan yr Arolygiaeth Gynllunio (yr Arolygiaeth).
Mae’r fersiwn hon o Nodyn Cyngor 12 yn disodli pob fersiwn flaenorol. Bydd yn cael ei hadolygu a’i diweddaru pan fo angen.
Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn cyfeirio at Nodiadau Cyngor eraill, ac mae’r rhain i’w cael yn: https://infrastructure.planninginspectorate.gov.uk/cy/legislation-and-advice/ advice-notes/
Mae’r broses gynllunio Seilwaith Cenedlaethol yn broses gyfreithiol sy’n cael ei llywodraethu dan Ddeddf Cynllunio 2008 (‘PA2008’) a deddfwriaeth gysylltiedig. Yn y Nodyn Cyngor hwn, mae’r Arolygiaeth wedi gwneud pob ymdrech i ddefnyddio iaith bob dydd lle bynnag y bo modd one mae cyfeiriadau at nifer o dermau a ddefnyddir yng nghyd-destun o’r broses PA2008. Mae Rhestr Termau ar gael ar wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol yr Arolygiaeth: https://infrastructure.planninginspectorate.gov.uk/cy/help-2/glossary-of- terms/
Crynodeb o’r Nodyn Cyngor hwn
Mae Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017 (‘y Rheoliadau EIA’)1 yn trosi gofynion y Gyfarwyddeb EIA2 EIA (2011/92/EU) sy’n rheoli hysbysu ac ymgynghori statudol mewn perthynas ag effeithiau trawsffiniol datblygiad ar Aelod-wladwriaethau yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (‘Gwladwriaethau EEA’). Mae Rheoliad 32 y Rheoliadau EIA yn sefydlu’r dyletswyddau gweithdrefnol sy’n angenrheidiol pan fo’r Ysgrifennydd Gwladol o’r farn bod Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth EEA; neu pan fo Gwladwriaeth EEA o’r farn bod eu hamgylchedd yn debygol o gael ei heffeithio’n sylweddol gan NSIP. Mae’r dyletswyddau o dan Reoliad 32 yn gymwys hyd nes y gwneir y penderfyniad ar y Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO).
Mae’r Deyrnas Unedig (DU) yn llofnodwr confensiynau Espoo ac Aarhus ac felly mae ganddi rwymedigaethau i ymgysylltu â Gwladwriaethau eraill sy’n llofnodwyr a’u cyhoedd lle bo hynny’n berthnasol.
Neidio i’r adran:
- Cyflwyniad
- Y Cyd-destun Cyfreithiol
- Proses Drawsffiniol Rheoliad EIA
3.1 Sgrinio Trawsffiniol
3.2 Nodi Gwladwriaethau EEA i’w hysbysu
3.3 Hysbysu Gwladwriaethau
3.4 Ymgynghori â Gwladwriaethau EEA - Rheoliad 32: Cyfranogiad yr Ymgeisydd
4.1 Gwybodaeth i’w darparu
4.2 Ystyriaethau i’r Ymgeisydd
4.3 Cyfieithu dogfennau - Rheoliad 32: Cyfranogiad Gwladwriaethau EEA
5.1 Ymateb i gais am hysbysiad
5.2 Ymateb i gais ymgynghori
5.3 Ffrâm amser ar gyfer ymatebion gan Wladwriaethau EEA - Trefniadau Arbennig ar gyfer NSIPs Niwclear
- Cyfranogiad y Cyhoedd
7.1 Hysbysu’r Cyhoedd
7.2 Cymryd rhan yn y broses DCO - Penderfyniadau ar Orchmynion Caniatâd Datblygu
Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn esbonio’r cyd-destun cyfreithiol, a’r broses NSIP trawsffiniol (gan gynnwys trefniadau arbennig) a fydd yn cael eu dilyn gan yr Arolygiaeth ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol yn ystod y cyfnod cyn ymgeisio, y cyfnod archwilio a’r cyfnod argymhellion mewn perthynas â chais DCO. Yn ogystal, mae’r Nodyn Cyngor yn esbonio sut mae Ymgeiswyr, a’r cyhoedd, yn gallu cymryd rhan yn fwy cyffredinol yn y broses DCO lle ceir effeithiau trawsffiniol.
1. Cyflwyniad
1.1 Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn gosod allan y gweithdrefnau ar gyfer yr hysbysu ac ymgynghori trawsffiniol sy’n gysylltiedig â cheisiadau NSIP am ganiatâd datblygu o dan Ddeddf Cynllunio 2008 (fel y’i diwygiwyd) (‘PA2008’). Caiff y gweithdrefnau eu pennu i raddau helaeth trwy gydymffurfio â’r Rheoliadau EIA. Fodd bynnag, mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol ddyletswyddau ehangach hefyd yn unol â chonfensiynau Espoo ac Aarhus (gweler adrannau 2, 6 a 7 y Nodyn Cyngor hwn). Nid yw’r gweithdrefnau a ddisgrifir yn y Nodyn Cyngor hwn yn effeithio ar hawl unigol personau i gofrestru ar gyfer a chymryd rhan mewn archwiliad, ac nid ydynt yn effeithio ar ddisgresiwn yr Awdurdod Archwilio yn hyn o beth.
1.2 Os oes gan Ddatblygiad a Gynigir y potensial i achosi effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth(au) EEA, bydd Rheoliad EIA 32 yn gymwys. Mae Rheoliad 32 yn gosod allan y rhwymedigaethau ar yr Ysgrifennydd Gwladol i hysbysu ac ymgynghori â Gwladwriaeth(au) EEA y mae angen eu hystyried ochr yn ochr â’r fframiau amser statudol fel y rhagnodir gan PA2008.
1.3 Mae’r Nodyn Cyngor hwn yn mynd i’r afael â’r canlynol mewn perthynas ag effeithiau trawsffiniol:
- Y cyd-destun cyfreithiol;
- Y broses NSIP trawsffiniol;
- Rheoliad EIA 32;
- Y trefniadau arbennig mewn perthynas â NSIPs niwclear;
- Cyfranogiad y cyhoedd;
- Rheoliad 32: Cyfranogiad yr Ymgeisydd;
- Rheoliad 32: Cyfranogiad Gwladwriaethau EEA;
- Cymryd rhan yn y broses DCO; a
- Phenderfyniadau ar Orchmynion Caniatâd Datblygu.
2. Y Cyd-destun Cyfreithiol
2.1 Mae’r DU yn cynnwys Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ac nid yw’n cynnwys Dibyniaethau’r Goron Ynys Manaw a Beiliaethau Jersey a Guernsey, ac nid yw’r Dibyniaethau’r Goron hyn yn Wladwriaethau EEA.
2.2 Mae’r DU yn llofnodwr Confensiwn Comisiwn Economaidd Ewrop y Cenhedloedd Unedig (UNECE) ar Asesu Effeithiau Amgylcheddol mewn Cyd-destun Trawsffiniol4. Mabwysiadwyd y Confensiwn ym 1991 yn ninas Espoo yn y Ffindir ac felly fe’i gelwir yn ‘Gonfensiwn Espoo’.
2.3 Hefyd, mae’r DU yn llofnodwr y Confensiwn ar Fynediad i Wybodaeth, Cyfranogiad y Cyhoedd mewn Gwneud Penderfyniadau a Mynediad i Gyfiawnder mewn Materion Amgylcheddol (‘Confensiwn Aarhus’)5 a’i Brotocol sy’n rhoi hawliau i bobl gael mynediad hawdd i wybodaeth, i gymryd rhan yn effeithiol mewn gwneud penderfyniadau ar faterion amgylcheddol a cheisio cyfiawnder os treisir eu hawliau.
2.4 Mae nifer y llofnodwyr i gonfensiynau Espoo ac Aarhus yn fwy o ran nifer na Gwladwriaethau’r EEA.
2.5 Mae Cyfarwyddeb 2011/92/EU yr Undeb Ewropeaidd (yr UE) (fel y’i diwygiwyd) (y Gyfarwyddeb EIA) yn gweithredu Confensiynau Espoo ac Aarhus yn yr UE ac fe’i trosglwyddwyd i gyfraith y DU trwy’r Rheoliadau EIA a Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (2018 a 2020).
2.6 Mae Rheoliad EIA 14 yn ei gwneud yn ofynnol i gais am orchymyn sy’n rhoi caniatâd datblygu ar gyfer ‘datblygiad EIA’ gynnwys datganiad amgylcheddol (ES). Rhaid i’r ES gynnwys y wybodaeth a nodir gan Reoliad 14 gan gynnwys unrhyw wybodaeth ychwanegol a bennir yn Atodlen 4 (lle bo hynny’n berthnasol). Mae Atodlen 4 yn ei gwneud yn ofynnol i ddisgrifiad o effeithiau sylweddol tebygol gynnwys y rhai sydd o natur drawsffiniol (mae rhagor o wybodaeth am ddatblygiad EIA ac effeithiau trawsffiniol yn yr ES wedi’i gynnwys yn Nodyn Cyngor 7: AEA: Y Broses, Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol, a Datganiadau Amgylcheddol yr Arolygiaeth Gynllunio (yr Arolygiaeth).
2.7 Mae pob penderfyniad NSIP mewn perthynas â Datblygiadau EIA yn ddarostyngedig i’r gofynion gweithdrefnol a osodir allan yn Rheoliad 32 y Rheoliadau EIA. Mae Rheoliad 32 yn gosod dyletswydd statudol ar yr Ysgrifennydd Gwladol i hysbysu ac ymgynghori â Gwladwriaethau EEA lle maen nhw o’r farn:
- yn cael eu hysbysu o dan Reoliad 8(1)(b) y Rheoliadau EIA y bydd ES yn cael ei ddarparu; neu:
- yn mabwysiadu barn sgrinio o dan Reoliad 8(1)(a) y Rheoliadau EIA i’r effaith fod y datblygiad yn ddatblygiad EIA; neu
- yn cyfarwyddo bod y datblygiad yn ddatblygiad EIA yn unol â Rheoliad 7 y Rheoliadau EIA; neu
- daw datblygiad fel arall at sylw’r Ysgrifennydd Gwladol fel un sy’n destun cais ar gyfer datblygiad EIA ac mae’r Ysgrifennydd Gwladol o’r farn bod y datblygiad yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth EEA (Rheoliad 32(1)(b)); neu
- gwneir cais i’r Ysgrifennydd Gwladol gan Wladwriaeth EEA sy’n debygol o gael eu heffeithio’n sylweddol gan ddatblygiad o’r fath (Rheoliad 32(1)(c)).
2.8 Mae’r EEA yn cynnwys holl Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd (UE) yn ogystal â Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy. Nid yw’r Swistir a’r DU yn Aelod-wladwriaethau EEA.
2.9 Yn ogystal â’r Gyfarwyddeb EIA, trosglwyddwyd Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar warchod cynefinoedd naturiol a phlanhigion ac anifeiliaid gwyllt (y Gyfarwyddeb Cynefinoedd) i gyfraith y DU drwy Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (y Rheoliadau Cynefinoedd) a Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017 (y Rheoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth). Mae’r Rheoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth yn berthnasol y tu hwnt i ddyfroedd tiriogaethol y DU (12 milltir forol). Ar ôl i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ar 31 Rhagfyr 2020, diwygiwyd y Rheoliadau Cynefinoedd a’r Rheoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth gan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019.
2.10 Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd a’r Rheoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth yn ei gwneud yn ofynnol, lle bo hynny’n briodol, i awdurdodau cymwys, cyn iddynt roi caniatâd ar gyfer cynllun neu brosiect, gynnal asesiad priodol mewn amgylchiadau lle mae’r cynllun neu’r prosiect yn debygol o gael effaith sylweddol ar safle Ewropeaidd neu safle Morol Ewropeaidd (naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill).
2.11 Mae’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) (bellach yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS)) wedi rhyddhau canllawiau sy’n nodi y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol, wrth ystyried a ddylid rhoi caniatâd i brosiectau ynni, yn gweithredu egwyddorion y Gyfarwyddeb Cynefinoedd yn achos unrhyw ddatblygiad ynni lle mae’n debygol y bydd effeithiau sylweddol ar y Rhwydwaith Safleoedd Cenedlaethol neu safleoedd ymgeisiol mewn Gwladwriaethau EEA. Mae BEIS o’r farn bod yr ymagwedd hon yn fwyaf perthnasol i ddatblygiadau ffermydd gwynt alltraeth.
2.12 Ceir trafodaeth bellach ar effeithiau trawsffiniol sy’n berthnasol i’r Rheoliadau Cynefinoedd a’r Rheoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth yn Nodyn Cyngor 10: Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yr Arolygiaeth.
3. Proses Drawsffiniol Rheoliad EIA 32
3.1 Yn ystod y cam cyn ymgeisio a chyn y gwneir argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol, caiff y swyddogaethau sy’n ofynnol gan Reoliad EIA 32 eu gweithredu gan yr Arolygiaeth ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol.
3.2 Lle mae’r Arolygiaeth o’r farn bod yr NSIP yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar amgylchedd Gwladwriaeth(au) EEA, rhaid iddynt:
- Anfon disgrifiad o’r datblygiad ‘cyn gynted â phosibl’ at y Wladwriaeth/Gwladwriaethau EEA ynghyd ag unrhyw wybodaeth sydd ar gael am effeithiau sylweddol posibl y datblygiad ar yr amgylchedd yn eu Gwladwriaeth ynghyd â gwybodaeth am natur y penderfyniad y gellir ei wneud (Rheoliad 32(2)(a)); a
- Chyhoeddi hysbysiad yn y London Gazette (a’r Edinburgh Gazette os yw’r datblygiad yn yr Alban) yn gosod allan y wybodaeth am y datblygiad a gynigir (Rheoliad 32(2)(b)).
3.3 Ar ôl derbyn yr hysbysiad hwn, mae’r Wladwriaeth/Gwladwriaethau EEA yn gallu nodi, o fewn ‘amser rhesymol’, p’un ai y mae’n dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn Rheoliad 32 (Rheoliad 32(2)(c)). Pan fo Gwladwriaeth(au) EEA yn dymuno cymryd rhan, bydd yr Arolygiaeth yn:
- Anfon copi ‘cyn gynted â phosibl’ o’r cais, manylion yr awdurdod sy’n gyfrifol am benderfynu ar y cais, yr ES a baratowyd yn unol ag Atodlen 4 y Rheoliadau EIA ac unrhyw wybodaeth berthnasol ar weithdrefnau Rheoliad 32 at y Wladwriaeth honno;
- Ymgynghori â’r Wladwriaeth/Gwladwriaethau EEA ynghylch effeithiau sylweddol posibl y datblygiad ar amgylchedd yn y Wladwriaeth honno a’r mesurau i leihau neu ddileu effeithiau o’r fath (Rheoliad 32(6)(a));
- Cytuno ar gyfnod rhesymol o amser ar gyfer cynnal yr ymgynghoriad (Rheoliad 32(6)(b)); a
- Hysbysu’r Wladwriaeth/Gwladwriaethau EEA, fel yr ymgynghorwyd â hwy, ynghylch y penderfyniad (Rheoliad 32(7)).
3.4 Mae Rheoliad 32 a phennu DCO o dan PA2008 yn wahanol ac ar wahân. Mae’r dyletswyddau o dan Reoliad 32 yn barhaus trwy gydol pob cam o’r cais DCO, o’r cam cyn ymgeisio hyd at benderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol ynghylch p’un ai i roi caniatâd datblygu ai peidio. Gall hyn arwain at sgriniadau trawsffiniol lluosog, a’r posibilrwydd o gylchoedd lluosog o ymgynghori â Gwladwriaethau EEA, ar gyfer NSIP a gynigir, yng ngoleuni gwybodaeth berthnasol newydd a ddarperir trwy gydol y broses DCO. Nid yw’r dyletswyddau a sefydlwyd o dan Reoliad 32 yn ddarostyngedig i fframiau amser statudol ac nid ydynt yn ddarostyngedig i’r terfynau amser a sefydlir wrth archwilio NSIP.
3.5 Ystyrir defnydd ymarferol y gweithdrefnau hyn yng nghyd-destun y gyfundrefn PA2008 yn fanylach trwy gydol y Nodyn Cyngor hwn.
3.1 Sgrinio Trawsffiniol
3.1.1 Daw’r Arolygiaeth yn ymwybodol o brosiect NSIP sy’n ddatblygiad EIA o ganlyniad i’r digwyddiadau canlynol:
- penderfyniad bod prosiect yn ddatblygiad EIA yn dilyn cais gan Ymgeisydd am farn sgrinio (Rheoliad 8(1)(a)); neu
- dderbyn hysbysiad bod Ymgeisydd i ddarparu ES mewn perthynas â’r datblygiad (Rheoliad 8(1)(b)); neu
- gyfarwyddyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol bod y datblygiad yn ddatblygiad EIA (Rheoliad 7).
3.1.2 Pan fydd un o’r digwyddiadau hyn yn digwydd (gan gadarnhau mai datblygiad EIA yw’r datblygiad), bydd angen i’r Arolygiaeth benderfynu p’un ai yw’r datblygiad yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth EEA ai peidio.
3.1.3 Lle nad yw NSIP a gynigir yn cael ei ystyried yn Ddatblygiad EIA fel y’i diffinnir gan y Rheoliadau EIA, bydd gofynion Rheoliad 32 ond yn berthnasol os bydd Gwladwriaeth EEA sy’n debygol o gael eu heffeithio’n sylweddol gan ddatblygiad o’r fath yn gwneud cais o’r fath.
3.1.4 Bydd pob NSIP sy’n ddatblygiad EIA yn destun proses sgrinio trawsffiniol a gaiff ei phennu a’i gweithredu gan yr Arolygiaeth ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol. Pan fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn fodlon bod tebygolrwydd effeithiau trawsffiniol yn isel iawn, bydd y penderfyniad sgrinio trawsffiniol yn cael ei gynnwys mewn barn gwmpasu (os gofynnwyd amdani) neu ar ffurf profforma fer ar wahân, os na ofynnwyd am farn gwmpasu. Os nad yw’r Ysgrifennydd Gwladol yn fodlon bod tebygolrwydd effeithiau trawsffiniol yn isel iawn, bydd y penderfyniad sgrinio trawsffiniol yn cael ei ddarparu ar ffurf profforma hir ar wahân. Bydd y safbwynt o ran tebygolrwydd effeithiau trawsffiniol yn cael ei adolygu’n barhaus hyd nes y daw unrhyw wybodaeth newydd neu sylweddol wahanol i’r amlwg. Fodd bynnag, ni fydd yr Arolygiaeth yn diweddaru’r penderfyniad sgrinio os yw’n parhau i fod yn ddilys.
3.1.5 Bydd y broses sgrinio trawsffiniol yn nodi a yw’r Datblygiad a Gynigir yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth EEA yn unol â Rheoliad 32.
3.1.6 Hefyd, mae’n bosibl y bydd yr Arolygiaeth yn dewis sgrinio prosiect ar gyfer effeithiau trawsffiniol sylweddol tebygol ar unrhyw adeg, yn enwedig os daw gwybodaeth berthnasol newydd ar gael.
3.1.7 Mae Atodiad 1 (ODT, 40kb) ac Atodiad 2 y Nodyn Cyngor hwn yn gosod allan y profformâu ffurf hir a ffurf fer yn y drefn honno gyda’r meini prawf a’r ystyriaethau perthnasol a gaiff eu hystyried gan yr Arolygiaeth wrth benderfynu ar y potensial ar gyfer effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth(au) EEA.
3.2 Nodi Gwladwriaethau EEA i’w hysbysu
3.2.1 Bydd yr Arolygiaeth yn nodi’r Gwladwriaethau EEA i’w hysbysu o dan Reoliad 32 yn bennaf ar sail y math o NSIP, ei leoliad a natur yr amgylchedd sy’n derbyn (gweler Atodiad 1 y Nodyn Cyngor hwn). Bydd yr Arolygiaeth yn arfer disgresiwn rhesymol i bennu effeithiau sylweddol tebygol mewn unrhyw Wladwriaeth EEA, yn seiliedig yn rhannol ar y wybodaeth a ddarperir gan yr Ymgeisydd. Wrth arfer y disgresiwn hwn a nodi bod NSIP yn ‘debygol o gael effeithiau sylweddol’ ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaethau EEA, dylid ystyried bod hyn yn golygu, ym marn yr Arolygiaeth, bod posibilrwydd (gan fabwysiadu ymagwedd ragofalus) y gallai’r datblygiad gael effaith, ac nid y bydd datblygiad yn bendant yn cael effaith.
3.3 Hysbysu Gwladwriaethau EEA
3.3.1 Lle mae’r Arolygiaeth yn nodi effaith sylweddol debygol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth(au) EEA, bydd yn hysbysu’r Wladwriaeth/Gwladwriaethau EEA perthnasol. Bydd yr hysbysiad yn darparu gwybodaeth berthnasol ynglŷn â’r Datblygiad a Gynigir a’r broses PA2008 ac yn gwahodd y Wladwriaeth/Gwladwriaethau EEA i gymryd rhan yn y weithdrefn. Cyhoeddir y wybodaeth berthnasol yn y London Gazette (a’r Edinburgh Gazette fel y bo’n briodol) yn unol â Rheoliad 32(2).
3.3.2 Mae’r wybodaeth y mae’n rhaid ei hanfon at Wladwriaeth(au) EEA berthnasol/perthnasol fel rhan o’r hysbysiad yn cynnwys:
- disgrifiad o’r datblygiad ynghyd â’r wybodaeth sydd ar gael ynghylch yr effeithiau sylweddol posibl ar Wladwriaeth(au) EEA; a
- gwybodaeth am natur y penderfyniad y gellir ei wneud.
3.3.3 Er nad yw’n ofyniad statudol, bydd yr Arolygiaeth yn darparu gwybodaeth am y broses PA2008 hefyd. Bydd yr Arolygiaeth yn tybio nad yw Gwladwriaeth(au) EEA yn dymuno cymryd rhan yn y broses drawsffiniol Rheoliad 32 (Erthygl 3.4 Confensiwn Espoo) os na dderbynnir ymateb gan Wladwriaeth(au) EEA o fewn yr amser a nodir yn y llythyr hysbysu. Mae’r Arolygiaeth yn ystyried 6 wythnos i fod yn gyfnod rhesymol o amser ar gyfer ymateb i’r hysbysiad ond byddai’n derbyn estyniadau rhesymol i’r cyfnod hwn lle bo angen.
3.3.4 Bydd yr Arolygiaeth yn defnyddio’r cysylltiadau ar wefan UNECE ar gyfer hysbysu Gwladwriaeth(au) EEA.
3.3.5 Caiff y Datblygiad a Gynigir ei ail-sgrinio ar gyfer effeithiau trawsffiniol ar ôl derbyn y cais a/neu os daw gwybodaeth newydd berthnasol ar gael. Os bydd angen, bydd yr Arolygiaeth yn ail-hysbysu Gwladwriaeth(au) EEA eu bod wedi ail- sgrinio’r NSIP a gynigir ar gyfer effeithiau trawsffiniol. Yn yr amgylchiadau hyn, bydd gan Wladwriaeth(au) EEA perthnasol gyfle arall i ofyn am gymryd rhan yn y weithdrefn Rheoliad 32. Hefyd, bydd yr Arolygiaeth yn ail-hysbysu’r Gwladwriaethau perthnasol hynny na fynegodd unrhyw ddymuniad i gymryd rhan yn flaenorol, rhag ofn y bydd eu sefyllfa’n newid yng ngoleuni’r wybodaeth berthnasol newydd sy’n sail i’r ail-sgrinio. Os bydd Gwladwriaeth EEA yn ymateb i’r hysbysiad ac yn mynegi dymuniad i ymgynghori â hwy, yna bydd yr Arolygiaeth yn ymgynghori â’r Wladwriaeth/Gwladwriaethau EEA ni waeth beth fydd unrhyw benderfyniad(au) sgrinio diweddarach.
3.3.6 Fel y nodwyd eisoes, gall y gofynion o dan Reoliad 32 gael eu sbarduno hefyd gan gais gan Wladwriaeth EEA sy’n ystyried bod eu hamgylchedd yn debygol o brofi effeithiau sylweddol o’r Datblygiad a Gynigir (Rheoliad 32(1)(c)). Gweler Adran 5 y Nodyn Cyngor hwn am ragor o fanylion.
3.3.7 Yn ogystal, gallai Gwladwriaeth EEA nodi hefyd, er nad ydynt yn dymuno cymryd rhan yn yr archwiliad, eu bod yn hytrach yn dymuno parhau i dderbyn gwybodaeth am yr NSIP. Yn yr amgylchiadau hyn, rhoddir dolen electronig i’r Wladwriaeth EEA ar gyfer gwefan y prosiect ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol, a fydd yn darparu gwybodaeth am gynnydd yr NSIP a gynigir.
3.3.7 Yn ogystal, gallai Gwladwriaeth EEA nodi hefyd, er nad ydynt yn dymuno cymryd rhan yn yr archwiliad, eu bod yn hytrach yn dymuno parhau i dderbyn gwybodaeth am yr NSIP. Yn yr amgylchiadau hyn, rhoddir dolen electronig i’r Wladwriaeth EEA ar gyfer gwefan y prosiect ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol, a fydd yn darparu gwybodaeth am gynnydd yr NSIP a gynigir.
3.4 Ymgynghori â Gwladwriaethau EEA
3.4.1 Ni fydd ymgynghori â Gwladwriaethau EEA yn gallu dechrau hyd nes y bydd gan yr Arolygiaeth y wybodaeth sydd ei hangen i gyflawni’r ddyletswydd ymgynghori hon, a bydd hyn yn digwydd dim ond ar ôl i’r cais am ganiatâd datblygu gael ei dderbyn i’w archwilio. Mae’n rhaid ymgynghori â Gwladwriaeth(au) EEA sy’n cadarnhau eu bod yn dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn drawsffiniol Rheoliad 32, er mwyn sicrhau y bydd ganddynt gyfle (cyn rhoddir caniatâd datblygu) i ofyn am farn eu cyhoedd (rhoddir gwybodaeth bellach mewn perthynas â chyfranogiad y cyhoedd yn adran 7 y Nodyn Cyngor hwn) ac awdurdodau perthnasol ynghylch y cais DCO a’i effeithiau trawsffiniol. Bydd yr Arolygiaeth yn cytuno ar y cyfnod ymgynghori â’r Wladwriaeth/Gwladwriaethau EEA berthnasol/perthnasol. Fel canllaw, mae’r Arolygiaeth yn ystyried 6 wythnos i fod yn gyfnod rhesymol o amser.
3.4.2 Darperir y wybodaeth ganlynol i Wladwriaeth(au) EEA fel rhan o’r ymgynghoriad (os na ddarparwyd hyn yn gynharach):
- copi electronig o’r cais gan gynnwys yr ES; a
- manylion y gweithdrefnau i’w dilyn o dan PA2008.
3.4.3 Bydd dogfennau’r cais, gan gynnwys yr ES, ar gael ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol a bydd dolenni’n cael eu darparu yn yr ohebiaeth ymgynghori i gyfeirio’r Wladwriaeth/Gwladwriaethau EEA at rannau perthnasol y wefan.
3.4.4 Darperir gwybodaeth gan yr Arolygiaeth i’r Wladwriaeth/Gwladwriaethau EEA berthnasol/perthnasol yn Saesneg oni bai bod y Wladwriaeth yr effeithir arnynt yn gofyn am gyfieithiad ac yn cyfiawnhau hynny (darperir gwybodaeth bellach mewn perthynas â chyfieithu dogfennau yn adran 6.3 y Nodyn Cyngor hwn).
4. Rheoliad 32: Cyfranogiad yr Ymgeisydd
4.1 Gwybodaeth i’w darparu
4.1.1 Nid oes gan yr Ymgeisydd rôl ffurfiol o dan y broses Rheoliad 32, gan fod y dyletswyddau a ragnodir gan Reoliad 32 o ran hysbysu ac ymgynghori â Gwladwriaeth(au) EEA ynghylch effeithiau trawsffiniol posibl, yn nwylo’r Arolygiaeth, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol fel y disgrifir uchod.
4.1.2 Fodd bynnag, wrth gyflawni’r dyletswyddau hyn, mae’r Arolygiaeth yn defnyddio’r wybodaeth a ddarperir gan yr Ymgeisydd i gynorthwyo gyda phennu’r potensial ar gyfer effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaethau EEA. I’r perwyl hwn, gofynnir i’r Ymgeisydd ddarparu gwybodaeth i’r Arolygiaeth i alluogi llunio barn ynghylch p’un ai yw’r datblygiad yn debygol o gael effeithiau trawsffiniol sylweddol ar Wladwriaethau EEA. Dylai’r Ymgeisydd ddarparu gwybodaeth am y potensial ar gyfer effeithiau trawsffiniol fel rhan:
- O’r cais cwmpasu, os bydd yr Ymgeisydd yn gofyn am farn gwmpasu gan yr Arolygiaeth o dan Reoliad 8 y Rheoliadau EIA, ac
- O’r gyfres o ddogfennau a ddaw gyda’r cais am ganiatâd datblygu.
4.1.3 Os na ddarperir gwybodaeth o’r fath yn wirfoddol, neu gyfiawnhad clir a rhesymegol ynghylch pam na ystyrir ei bod yn angenrheidiol, mae’n bosibl y bydd angen i’r Arolygiaeth ofyn am ragor o wybodaeth er mwyn penderfynu p’un ai yw’n debygol y bydd effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth EEA, a bydd yn mabwysiadu ymagwedd ragofalus wrth wneud hynny.
4.2 Ystyriaethau i’r Ymgeisydd
4.2.1 Mae’n bosibl y bydd yr Ymgeisydd eisiau ystyried a ddylid ymgymryd â’u hymgynghoriad eu hunain ag adrannau llywodraethol a grwpiau buddiant o fewn Gwladwriaeth(au) EEA berthnasol/perthnasol a/neu wladwriaethau perthnasol eraill (y rhai sy’n bartïon i Gonfensiynau Espoo neu Aarhus yn ôl gwefan UNECE).
4.2.2 Gallai hyn gael ei hysbysu gan ymchwil yr Ymgeisydd eu hunain ar faterion amgylcheddol a gallai gael ei hysbysu hefyd gan y penderfyniadau sgrinio trawsffiniol a gyhoeddir gan yr Arolygiaeth.
4.2.3 Mae Atodiad 1 (ODT, 40kb) y Nodyn Cyngor hwn yn gosod allan y meini prawf a’r ystyriaethau perthnasol a fydd yn cael eu hystyried gan yr Arolygiaeth wrth ymgymryd â sgrinio trawsffiniol. Lle mae’r Arolygiaeth o’r farn bod yr NSIP a gynigir yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth(au) EEA, mae’n bosibl y bydd yr Ymgeisydd yn dymuno ymgysylltu â rhai cyrff priodol penodol o fewn y Wladwriaeth/Gwladwriaethau EEA a/neu wladwriaethau perthnasol eraill. Gallai unrhyw ymgysylltiad/ymgynghoriad lunio rhan o ymgynghoriad statudol neu anstatudol yr Ymgeisydd o dan gam cyn ymgeisio’r broses DCO, a dylid rhoi tystiolaeth o hyn yn yr adroddiad ymgynghori a gyflwynir gyda’r cais DCO. Mae Adroddiad Ymgynghori yn ofynnol o dan a.37(3)c PA 2008.
4.2.4 Cynghorir yr Ymgeisydd i gynnal ymgynghoriad o’r fath er mwyn sicrhau bod y materion a’r pryderon posibl yn cael sylw, lle bo hynny’n bosibl, cyn cyflwyno’r cais DCO, ac i geisio ystyried materion sy’n ymwneud ag effeithiau trawsffiniol, a allai fel arall ddod yn faterion yn ystod yr archwiliad.
4.3 Cyfieithu dogfennau
4.3.1 Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol, er mwyn cael archwiliad effeithlon ac amserol, y bydd o fudd iddynt sicrhau bod unrhyw Wladwriaeth(au) EEA a/neu wladwriaeth(au) berthnasol arall/perthnasol eraill, gan gynnwys eu cyhoedd, yn deall manylion y cynllun gan gynnwys mesurau diogelwch a mesurau lliniaru priodol a gynigir, a’u bod yn cael y cyfle i gymryd rhan. Bydd hyn yn gofyn am drosglwyddo gwybodaeth. Er mae’n bosibl mai Saesneg yw’r iaith fwyaf priodol ar gyfer dogfennau, gan mai dyma’r iaith a ddeallir yn fwyaf eang, yn enwedig lle’r effeithir ar fwy nag un Wladwriaeth, bydd yr angen i gyfieithu yn dibynnu ar y gwahaniaethau o ran iaith rhwng Gwladwriaethau EEA a/neu wladwriaeth(au) berthnasol arall/perthnasol eraill.
4.3 2 Nid yw’r Arolygiaeth yn dymuno gosod unrhyw faich diangen ar Ymgeiswyr trwy ofyn am gyfieithu dogfennau cais i un neu ragor o ieithoedd. Fodd bynnag, yn unol â chynsail ac arferion da, bydd yr Arolygiaeth yn disgwyl i Ymgeiswyr (lle mae’n rhesymol i wneud hynny) drefnu a chwrdd â chostau cyfieithu dogfennau a lunnir gan yr Ymgeisydd, os gwneir cais rhesymol am gyfieithiad i’r Arolygiaeth trwy Wladwriaeth/Gwladwriaethau EEA yr effeithir arnynt a/neu wladwriaeth/ gwladwriaethau berthnasol arall/perthnasol eraill gan gynnwys eu cyhoedd. Yn yr un modd, bydd yr Arolygiaeth yn disgwyl i Ymgeiswyr dalu costau unrhyw gyfieithiadau sy’n ofynnol i hysbysu’r cyhoedd (gweler adran 7.1 o’r Nodyn Cyngor hwn).
5. Rheoliad 32: Cyfranogiad Gwladwriaethau EEA
5.1 Ymateb i gais am hysbysiad
5.1.1 Gofynnir i Wladwriaethau EEA ymateb i gais am hysbysiad gan yr Arolygiaeth, lle mae’r Arolygiaeth o’r farn bod yr NSIP a gynigir yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd yn eu gwladwriaeth. Dylai’r ymateb hysbysu’r Arolygiaeth p’un ai ydynt yn dymuno cymryd rhan yn y broses o dan Reoliad 32 ai peidio. Mae’r un peth yn wir mewn perthynas â gwladwriaethau Espoo / Aarhus sydd wedi’u hysbysu ynghylch NSIP a gynigir. Gofynnir am ymatebion o fewn y ffrâm amser a nodir yn y llythyr hysbysu a dylid eu hanfon at sylw’r Tîm Gwasanaethau Amgylcheddol yn yr Arolygiaeth gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a ddarperir yn y llythyr hysbysu.
5.1.2 Os yw Gwladwriaeth EEA a hysbysir yn cadarnhau eu bod yn dymuno cymryd rhan yn y broses Rheoliad 32, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydnabod yr ymateb hwn ac os derbynnir y cais DCO, byddant yn ymgynghori â’r Wladwriaeth EEA ar yr NSIP a gynigir. Os yw Gwladwriaeth EEA a hysbysir yn cadarnhau nad ydynt yn dymuno cymryd rhan yn y broses Rheoliad 32, bydd yr Arolygiaeth yn cydnabod yr ymateb hwn ac ni fyddant yn cysylltu â’r Wladwriaeth EEA eto oni bai y daw gwybodaeth berthnasol newydd ar gael sy’n ymwneud ag effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd yn eu gwladwriaeth.
5.2 Ymateb i gais ymgynghori
5.2.1 Gofynnir i Wladwriaethau EEA ymateb i gais ymgynghori gan yr Arolygiaeth. Os ydynt yn cadarnhau eu bod yn dymuno cymryd rhan yn y broses Rheoliad 32, dylent roi sylwadau ar y canlynol (Rheoliad 32(6)):
- Effeithiau posibl y datblygiad a gynigir ar yr amgylchedd yn eu Gwladwriaeth; a’r
- Mesurau a ragwelir er mwyn lleihau neu ddileu effeithiau o’r fath.
5.3 Ffrâm amser ar gyfer ymatebion gan Wladwriaethau EEA
5.3.1 Mae Rheoliad 32 yn ei gwneud yn ofynnol i Wladwriaeth EEA gael ‘amser rhesymol’ i roi barn eu cyhoedd a’r awdurdodau y cyfeirir atynt yn Erthygl 6(1) y Gyfarwyddeb EIA (Rheoliad 32(5)).
5.3.2 Oni bai bod y Wladwriaeth/Gwladwriaethau EEA berthnasol/perthnasol yn darparu sylwadau rhesymol dros ganiatáu cyfnod hirach, bydd y cyfnod o amser ar gyfer ymateb i’r hysbysiad a’r ceisiadau ymgynghori yn 6 wythnos. Fodd bynnag, nid yw hwn yn derfyn amser statudol a gall Gwladwriaethau EEA ofyn am estyniad rhesymol.
6. Trefniadau Arbennig ar gyfer NSIPs Niwclear
6.1 Mae trefniadau arbennig yn cael eu cymhwyso i’r broses effaith drawsffiniol yn achos NSIPs sy’n orsafoedd cynhyrchu trydan niwclear (NSIP niwclear) a ddiffinnir o dan adran 15 PA2008 ac Atodlen 1 y Rheoliadau EIA. Mae’r trefniadau arbennig yn ystyried nodweddion penodol NSIP datblygu niwclear a darpariaethau canfyddiadau Confensiynau Espoo ac Aarhus.
6.2 Caiff pob NSIP niwclear ei sgrinio gan ddefnyddio’r profforma rhestr hir (Atodiad 1 (ODT, 40kb) y Nodyn Cyngor hwn) yn unol â’r broses a ddisgrifir yn adran 3.1 uchod. Pan fo’r Arolygiaeth o’r farn bod NSIP niwclear a gynigir yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth(au) EEA, bydd yr Arolygiaeth yn hysbysu ac (os oes angen) yn ymgynghori â’r Wladwriaeth/Gwladwriaethau EEA yn benodol yn unol â Rheoliad 32, yn dilyn y broses fel yr amlinellir yn Adran 3 y Nodyn Cyngor hwn.
6.3 Beth bynnag, bydd yr Arolygiaeth, fel mater o drefn, yn hysbysu’r holl wladwriaethau perthnasol sy’n rhan o gonfensiynau UNECE Espoo ac Aarhus am NSIP niwclear arfaethedig (a fydd yn cynnwys Gwladwriaethau nad ydynt yn EEA). Rhoddir yr un wybodaeth a fyddai’n cael ei roi i Wladwriaeth(au) EEA sy’n cael eu hysbysu neu yr ymgynghorir â hwy o dan Reoliad EIA 32, a’r un gallu i gymryd rhan yn y broses pe baent yn dymuno gwneud hynny (gweler adran 7.2 y Nodyn Cyngor hwn).
6.4 Yn ogystal â’r uchod ac fel mater o arfer da, bydd yr Arolygiaeth yn hysbysu Dibyniaethau’r Goron hefyd (sef Ynys Manaw a Beiliaethau Jersey a Guernsey) bod yr NSIP niwclear a gynigir wedi’i sgrinio ar gyfer effeithiau trawsffiniol sylweddol.
7. Cyfranogiad y Cyhoedd
7.1 Hysbysu’r Cyhoedd
7.1.1 Mae confensiynau Espoo ac Aarhus yn gosod allan darpariaethau ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd yn y weithdrefn EIA. Bydd yr Arolygiaeth (lle bo hynny’n berthnasol) yn gwahodd cyfranogiad yn y broses PA2008 gan y cyhoedd mewn Gwladwriaeth(au) EEA ac unrhyw wladwriaethau Confensiwn perthnasol eraill.. Bydd cyfranogiad y cyhoedd yn digwydd:
- lle mae’r datblygiad a gynigir, ym marn yr Arolygiaeth, yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth(au) EEA benodol /penodol; a
- lle mae’r datblygiad a gynigir yn NSIP niwclear.
7.1.2 Bydd yr Arolygiaeth yn cyhoeddi datganiad i’r wasg i’r cyfryngau yn Nhalaith (au) yr EEA a/neu wladwriaethau perthnasol eraill. Cyhoeddir hwn, ochr yn ochr ag unrhyw gyfieithiadau perthnasol, ar wefan gov.uk a’i gysylltu â gwefannau Llysgenhadaeth Prydain mewn unrhyw wladwriaethau perthnasol. Bydd y datganiad i’r wasg yn cynnwys gwybodaeth am yr asesiad sgrinio trawsffiniol gan gynnwys dolenni i Wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol yr Arolygiaeth, a manylion am sut y gall eu cyhoedd fynegi eu barn ar y cais am gydsyniad datblygu ac (os dymunant) sut y gallant gymryd rhan yn ffurfiol yn y broses archwilio PA2008. Ochr yn ochr â’r gweithredoedd hyn, gofynnir i ymgeiswyr gyhoeddi rhybudd i’r wasg yng nghyfryngau print pob gwladwriaeth (au) EEA lle nodwyd effaith sylweddol ar eu hamgylchedd. Yn achos NSIP niwclear, gofynnir i’r Ymgeisydd hefyd gyhoeddi rhybudd i’r wasg yn holl daleithiau cyfagos y DU ni waeth a yw effeithiau sylweddol yn cael eu nodi1. Ar y sail hon rhoddir yr un gallu i aelodau’r cyhoedd â chyhoedd y DU i gymryd rhan yn y broses pe byddent yn dymuno gwneud hynny (gweler adran 7.2 o’r Nodyn Cyngor hwn).
7.2 Cymryd rhan yn y broses DCO
7.2.1 Yn ystod archwiliad NSIP, mae gan yr Awdurdod Archwilio (Penodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau o dan Adran 61 PA 2008) ddyletswydd statudol i gwblhau eu harchwiliad o fewn cyfnod o 6 mis. Mae’r archwiliad yn broses a lywodraethir gan statud, lle rhoddir ystyriaeth ofalus i’r holl faterion pwysig a pherthnasol. Mae’r olaf yn cynnwys sylwadau’r holl ‘bartïon â buddiant’18, unrhyw dystiolaeth a gyflwynwyd ac atebion a ddarparwyd i gwestiynau a osodwyd allan yn ysgrifenedig ac a esboniwyd mewn gwrandawiadau. Yn ystod y cyfnod archwilio, gwahoddir pob ‘parti â buddiant’ i roi tystiolaeth ysgrifenedig bellach, os dymunant, ynghylch y materion a nodwyd ganddynt yn eu sylwadau. Diffinnir ‘parti â buddiant’ o dan a.102 PA 2008.
7.2.2 Mae Gwladwriaeth(au) EEA, gwladwriaeth(au) berthnasol arall/perthnasol eraill ac unrhyw berson(au) neu grwpiau yn gallu cymryd rhan a mynegi eu barn mewn perthynas ag archwilio’r cais DCO trwy gofrestru fel ‘parti â buddiant’, neu drwy gael eu gwahodd i’r archwiliad (yn ôl disgresiwn yr Awdurdod Archwilio) fel ‘person arall’ (Rheoliad 6(1) Rheolau Cynllunio Seilwaith (Gweithdrefn Archwilio) 2010). Os na fydd unrhyw Wladwriaeth(au) EEA yn cymryd rhan yn y broses Rheoliad 32, ni fydd hyn yn atal unrhyw wladwriaeth(au), person(au) neu grwpiau rhag cymryd rhan a mynegi eu barn mewn perthynas ag archwilio cais DCO NSIP.
7.2.3 Lle bydd Gwladwriaeth(au) EEA neu wladwriaeth(au) berthnasol arall/perthnasol eraill wedi cofrestru i fod yn ‘barti â buddiant’, gall yr Awdurdod Archwilio gyfeirio cwestiynau atynt mewn perthynas ag ystyried effeithiau trawsffiniol yn ystod yr archwiliad, i hysbysu eu hargymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch a ddylid rhoi caniatâd neu beidio.
7.2.4 Mae cyfres Nodyn Cyngor 8 yr Arolygiaeth yn rhoi cyngor pellach ar y broses NSIP, gan gynnwys sut i gofrestru a dod yn ‘barti â buddiant’:
- Nodyn Cyngor 8.1: Sut mae’r broses yn gweithio
- Nodyn Cyngor 8.2: Ymateb i ymgynghoriad y datblygwr cyn gwneud cais
- Nodyn Cyngor 8.3: Sut i gofrestru a dod yn barti â buddiant mewn cais
- Nodyn Cyngor 8.4: Dylanwadu ar sut y caiff cais ei archwilio – y Cyfarfod Rhagarweiniol
- Nodyn Cyngor 8.5: Cymryd rhan yn yr archwiliad
7.2.5 Fel y disgrifir uchod, mae gan yr Awdurdod Archwilio’r disgresiwn o dan PA2008 i wahodd yn benodol ‘personau eraill’ i gymryd rhan yn y broses archwilio, lle nad yw’r personau hynny wedi cofrestru fel ‘partïon â buddiant’. Gall hyn gynnwys gwahodd Gwladwriaeth(au) EEA a gwladwriaeth(au) berthnasol /perthnasol i’r cyfarfod rhagarweiniol ar gyfer yr archwiliad.
7.2.6 Lle nad yw’r Awdurdod Archwilio penodedig yn fodlon cyn diwedd yr archwiliad bod mesurau wedi’u darparu i osgoi, lleihau ac, os yn bosibl, gwrthbwyso unrhyw effeithiau trawsffiniol niweidiol sylweddol o’r NSIP, mae’n bosibl na fydd unrhyw ddewis arall ar y cam hwnnw ond argymell gwrthod caniatâd datblygu. Ni ddylai’r Ysgrifennydd Gwladol roi caniatâd datblygu, pe bai gwneud hynny’n golygu y bydd y DU yn torri ei rhwymedigaethau rhyngwladol (a.104(4) PA 2008).
8. Penderfyniadau ar Orchmynion Caniatâd Datblygu
8.1 Yn dilyn penderfyniad ar y cais DCO gan yr Ysgrifennydd Gwladol, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn hysbysu’r Wladwriaeth/Gwladwriaethau EEA hynny yr ymgynghorwyd â hwy ynghylch y penderfyniad ac yn anfon copi o’r hysbysiad penderfyniad yn unol â Rheoliad EIA 32(7). Hefyd, mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol ddyletswydd i hysbysu’r holl ‘bartïon â buddiant’ (fel diffininir o dan PA2008) ynghylch y penderfyniad, a fydd hefyd ar gael ar wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol Yr Arolygiaeth Gynllunio.
8.2 Yn ogystal â hyn ac yn unol â Rheoliad 31(2), bydd crynodeb o’r modd y cafodd canlyniadau’r ymgynghoriad, yn enwedig y rhai a dderbyniwyd gan Wladwriaeth(au) EEA eu hymgorffori neu eu trin mewn perthynas â’r cais, ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd trwy Wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol yr Arolygiaeth.