Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol – Nodyn Cyngor Un ar Ddeg, Atodiad Ch: Asiantaeth yr Amgylchedd

Cyflwyniad

Mae Nodyn Cyngor 11 yr Arolygiaeth Gynllunio: Gweithio gyda Chyrff Cyhoeddus yn ymdrin â llawer o’r pwyntiau rhyngweithio cyffredinol sy’n berthnasol i’r Arolygiaeth Gynllunio ac Asiantaeth yr Amgylchedd. Diben yr Atodiad hwn yw helpu Ymgeiswyr i ddeall rôl benodol Asiantaeth yr Amgylchedd yn y Gyfundrefn Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO).

Mae gan Asiantaeth yr Amgylchedd y pŵer i gyhoeddi hawlenni, cydsyniadau, a thrwyddedau; mae’r Atodiad yn esbonio’n fanylach pam y gallai’r ceisiadau rheoleiddiol hyn fod yn ofynnol, yn ychwanegol at gais Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP).

Argymhellir yn gryf fod Ymgeiswyr yn ystyried amseru ceisiadau am hawlen, trwydded, a chydsyniad nad yw’n ymwneud â chynllunio ar gyfer gweithgareddau gweithredol ac adeiladu er mwyn osgoi oedi i’w prosiect.

Bydd yr Atodiad hwn yn cael ei adolygu’n barhaus i sicrhau ei fod yn aros yn berthnasol ac yn gyfredol, er enghraifft oherwydd newidiadau sefydliadol neu ddeddfwriaethol yn y dyfodol sy’n effeithio ar Asiantaeth yr Amgylchedd a / neu’r Arolygiaeth Gynllunio. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn croesawu adborth ar gynnwys yr Atodiad hwn.

Rolau, swyddogaethau a phwerau statudol cyffredinol

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn rheoleiddio gweithgareddau penodol a allai niweidio’r amgylchedd a phobl. Mae’n penderfynu a ddylid cyhoeddi hawlenni amgylcheddol perthnasol a chydsyniadau a thrwyddedau eraill ac, os felly, pa derfynau ac amodau rheoleiddiol y dylid eu cymhwyso. Mae’n monitro cydymffurfedd ag amodau’r hawlen / y drwydded ac yn cymryd camau gorfodi os yw’n briodol.

Mae pwerau a dyletswyddau rheoleiddiol, trwyddedu, a chynghori Asiantaeth yr Amgylchedd yn deillio (ymhlith pethau eraill) o Ddeddfau a Rheoliadau allweddol, gan gynnwys:

Rhwymedigaethau eraill

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd hefyd yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, Deddf Diogelu Data 2018 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Rhychwant daearyddol rolau a chyfrifoldebau Asiantaeth yr Amgylchedd

Mae cyfrifoldebau Asiantaeth yr Amgylchedd yn cyd-fynd â’r amgylchedd daearol yn Lloegr. Yn ogystal, mae’n gyfrifol am reoleiddio allyriadau i’r amgylchedd morol o fewn 3 môr-filltir ac am Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol hyd at 12 môr-filltir o’r arfordir.

Rôl Asiantaeth yr Amgylchedd o dan Ddeddf Cynllunio 2008

Mae rolau a chyfrifoldebau Asiantaeth yr Amgylchedd o dan Ddeddf Cynllunio 2008 yn dod o fewn y categorïau canlynol:

  • Ymgynghorai statudol
  • Corff / awdurdod cydsynio

Ymgynghorai cyn-ymgeisio

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi’i dynodi’n barti gorfodol at ddibenion ymgynghori o dan Ddeddf Cynllunio 2008 ac is-ddeddfwriaeth gysylltiedig, yn benodol o dan adran 42(a) Deddf Cynllunio 2008 ac Atodlen 1 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009. Yn ogystal, fe gaiff ddod yn barti â buddiant fel yr amlinellir yn adran 102(1) Deddf Cynllunio 2008.

Fel ymgyngoreion gorfodol eraill, bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn cyfrannu yn ystod y cam cyn-ymgeisio, gan ddilyn y canllawiau a amlinellir yn Nodyn Cyngor 11. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn argymell bod Ymgeiswyr yn adolygu Datganiadau Polisi Cenedlaethol perthnasol ac yn cydymffurfio ag unrhyw bolisïau yn ymwneud ag ymgysylltu â nhw cyn ymgeisio. At hynny, maen nhw’n argymell bod Ymgeiswyr yn dechrau ymgynghoriadau cyn-ymgeisio cyn gynted â phosibl ac yn ystyried gofynion rheoleiddiol eraill wrth gynllunio amserlenni prosiectau cynllunio er mwyn osgoi oedi. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd hefyd yn annog Ymgeiswyr i ganiatáu digon o amser i drafod a chytuno ar faterion technegol. Er enghraifft, fe all gymryd llawer o amser i ddatrys modelu llifogydd cymhleth ac anogir Ymgeiswyr i ystyried yr amser sy’n ofynnol i drafod a chytuno ar faterion technegol cyn cyflwyno eu cais DCO i’r Arolygiaeth Gynllunio.

Adennill Costau

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn darparu cyngor amgylcheddol ar faterion sy’n peri pryder iddo. Mae’n adennill costau ar gyfer ‘gwasanaethau perthnasol’ o dan Ddeddf Cynllunio 2008. Mae hyn yn cynnwys cyngor, gwybodaeth, cymorth ac ymatebion i ymgynghoriadau sy’n gysylltiedig â NSIPs. Diffinnir ‘gwasanaethau perthnasol’ yn adran 54A(2) Deddf Cynllunio 2008 a rhestrir enghreifftiau o ‘wasanaethau perthnasol’ mewn canllawiau ar Ddeddf Cynllunio 2008: Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ffioedd) 2010 – adennill costau gan yr Arolygiaeth Gynllunio a Chyrff Cyhoeddus.

Dylai ymgeiswyr sefydlu cytundeb ysgrifenedig gydag Asiantaeth yr Amgylchedd ar gyfer y gwasanaethau cynghori sydd eu hangen arnynt. Mae hyn er mwyn i ymgeiswyr gael mwy o fanylion am y gwasanaethau a’r hyn y bydd angen iddynt ei dalu.
Ar gyfer gwasanaethau sy’n ymwneud â gorchymyn caniatâd datblygu, bydd y taliadau’n berthnasol gyda neu heb gytundeb ysgrifenedig.

I ofyn am gyngor ar eich cynnig, ac i ddarganfod sut i sefydlu cytundeb ysgrifenedig, gweler ffioedd a thaliadau Asiantaeth yr Amgylchedd a datblygwyr: cael cyngor amgylcheddol ar eich cynigion cynllunio.

Corff ymgynghori Asesu Effeithiau Amgylcheddol (EIA)

Mae gan Asiantaeth yr Amgylchedd rôl statudol fel corff ymgynghori o dan Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017. Pan fydd Ymgeisydd wedi gofyn am farn gwmpasu gan yr Arolygiaeth Gynllunio yn gysylltiedig â datganiad amgylcheddol arfaethedig, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ymgynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd. Bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn sicrhau bod gwybodaeth berthnasol ar gael i’r Ymgeisydd (Rheoliadau 10 ac 11 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017).

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd hefyd yn annog Ymgeiswyr i drafod cwmpas unrhyw ddatganiad amgylcheddol gyda nhw yn gynnar er mwyn archwilio, er enghraifft, p’un a allai dethol safle’n ofalus / mesurau lliniaru leihau effeithiau amgylcheddol i’r eithaf neu eu dileu.

I gynorthwyo Ymgeiswyr, bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn sicrhau bod data amgylcheddol sylfaenol presennol ar gael yn ogystal ag unrhyw strategaethau amgylcheddol sy’n berthnasol. Ar sail adennill costau, all Asiantaeth yr Amgylchedd gynghori Ymgeiswyr ar y cwmpas priodol ar gyfer asesiadau risg / arolygon amgylcheddol sy’n ofynnol.

Rôl Asiantaeth yr Amgylchedd fel rheoleiddiwr

Mae gan Asiantaeth yr Amgylchedd bwerau i roi hawlenni, trwyddedau, a chydsyniadau. Ymgeiswyr sy’n gyfrifol am amlygu’r holl hawlenni, cydsyniadau a thrwyddedau sy’n ofynnol yn ogystal â’r DCO, cyn y gellir adeiladu neu weithredu NSIP. Mae gwneud hynny heb drwydded amgylcheddol yn drosedd.

Mae trwyddedau amgylcheddol Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymdrin â:

  • Rheoleiddio diwydiant;
  • Rheoli gwastraff (gweithrediadau trin, adfer, neu waredu gwastraff);
  • Gollyngiadau i ddŵr wyneb;
  • Gweithgareddau dŵr daear;
  • Gweithgareddau sylweddau ymbelydrol;
  • Gweithgareddau perygl llifogydd (er enghraifft – gosod strwythurau o fewn, o dan neu dros ben prif afon a datblygu’n agos i brif afonydd ac amddiffynfeydd rhag llifogydd).
    • Rhoddir trwyddedau adnodd dŵr ar gyfer;
      • Tynnu dŵr o ddŵr wyneb neu ddŵr daear
      • Cronni dŵr

Mae’n bosibl y bydd angen i chi gael cydsyniad i ymchwilio i ffynhonnell dŵr daear cyn gwneud cais am drwydded tynnu dŵr.

Mae nodweddion trwyddedau amgylcheddol yn cynnwys:

  • Cânt eu rhoi i weithredwyr (nid i dir);
  • Gall Asiantaeth yr Amgylchedd eu dirymu neu eu hamrywio;
  • Mae gweithredwyr yn ddarostyngedig i brofion cymhwysedd;
  • Caiff gweithredwyr wneud cais i drosglwyddo trwyddedau amgylcheddol i weithredwyr eraill yn ddarostyngedig i brawf cymhwysedd;
  • Gellid gosod amodau ynghlwm wrthynt; a
  • Gellir eu hildio.

Mae Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 (EPR) yn mynnu bod gweithredwr cyfreithlon y cyfleuster neu’r gweithgaredd yn caffael y trwyddedau y mae arno eu hangen. Mae’n rhaid bod gan y gweithredwr cyfreithlon ‘awdurdod digonol’ dros y cyfleuster neu’r gweithgaredd. Rhoddir rhai adnoddau ychwanegol isod:

Cyngor Cyn-ymgeisio ar Drwyddedu

Lle mae angen trwyddedau ganiatâd gan Asiantaeth yr Amgylchedd maent yn annog ymgeiswyr i drafod y rhain cyn gynted â phosibl. Gellir darparu cyngor cyn ymgeisio trwyddedu manwl, yn amodol ar ffi fesul awr. Gall ymgymryd â chyngor cyn ymgeisio helpu i leihau’r risg o ofynion o dan EPR sy’n gwrthdaro â’r gwaith a awdurdodwyd gan y DCO (e.e. pentwr o uchder mwy na’r hyn a awdurdodir gan y DCO) a’r risgiau cysylltiedig i’w gweithredu.

Y Cyfundrefnau Cynllunio a Thrwyddedu

Pan fydd angen trwydded amgylcheddol, yn ogystal â’r DCO, o dan yr EPR, bydd y farn ragarweiniol gan Asiantaeth yr Amgylchedd hefyd yn nodi un o dri safbwynt o ran y tebygolrwydd o gael y drwydded:

  • Safbwynt 1 – Dim pryderon trwyddedu mawr.
  • Safbwynt 2 – Mae angen ystyriaeth fanylach, ac argymhellir olrhain cyfochrog; neu
  • Safbwynt 3 – Peidiwch â symud ymlaen – mae trwydded yn annhebygol o gael ei rhoi.

Gellir disgwyl yr un ymagwedd ar gyfer trwyddedau tynnu neu gronni dŵr o dan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991.

Bydd Asiantaeth yr Amgylchedd ond yn gallu dweud p’un a yw’n debygol o roi trwydded pan fydd yn cyhoeddi penderfyniad drafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus, y bydd yn ei wneud ar gyfer cynigion yr ystyrir eu bod o ddiddordeb mawr i’r cyhoedd. Bydd hyn yn digwydd yn ystod cam datblygedig o’r broses drwyddedu yn unig (gweler atodiad 1). Fel y cyfryw, os nad yw’r cais/ceisiadau DCO a thrwydded yn cael eu cydlynu’n briodol, mae perygl na fydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn gallu gwneud sylwadau ar faterion technegol manwl a godir gan yr Awdurdod Archwilio yn ystod yr archwiliad o’r cais NSIP.

Amseru cais/ceisiadau

Anogir Ymgeiswyr i ystyried amseru eu cais/ceisiadau am drwydded amgylcheddol yn gysylltiedig â’u cais NSIP i hwyluso gwneud penderfyniadau’n amserol ac osgoi oedi wrth symud ymlaen â’r prosiect.

Olrhain Cyfochrog

Dyma’r broses o wneud cais am drwydded amgylcheddol gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn unol â’r un amserlen â pharatoi a chyflwyno cais NSIP i’r Arolygiaeth Gynllunio.

Os yw hawlen neu drwydded yn allweddol i weithredu’r datblygiad arfaethedig, mae’n bwysig ystyried p’un a oes modd olrhain y cais am drwydded ac NSIP yn gyfochrog. Gallai’r ymagwedd hon roi mwy o sicrwydd ynglŷn â phenderfyniadau ar drwyddedau sy’n berthnasol i’r cais NSIP.

Pan ddeëllir y dechnoleg arfaethedig yn dda, ac mae’r technegau gorau sydd ar gael yn cael eu defnyddio, argymhellir bod datblygwyr yn cyflwyno eu cais am drwydded ar yr un pryd â chyflwyno’r cais NSIP, er enghraifft os yw hawlen neu drwydded yn allweddol i weithredu’r datblygiad arfaethedig. Bydd hyn yn caniatáu i Asiantaeth yr Amgylchedd symud ymlaen â’r asesiadau a chyhoeddi penderfyniad llawn neu ddrafft, yn amodol ar ymgynghoriad cyhoeddus ychwanegol, cyn i’r archwiliad o’r NSIP gau. Argymhellir yr ymagwedd hon. Ceir diagram yn Atodiad 1 sy’n dangos sut mae’r cyfundrefnau DCO ac EPR yn cydgysylltu.

Pan fydd yr NSIP yn cynnig defnyddio technoleg newydd ac nid oes llawer o ddealltwriaeth o’r technegau gorau sydd ar gael, neu ddim dealltwriaeth ohonynt, bydd ymgysylltu a chyflwyno’r cais am drwydded yn gynnar yn allweddol i alinio’r penderfyniad ar drwydded (neu benderfyniad drafft) â’r archwiliad DCO. Mewn achosion o’r fath, a / neu os gallai datblygiad arfaethedig effeithio ar safle Rheoliadau Cynefinoedd dynodedig, mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn argymell bod cais/ceisiadau am drwydded yn cael eu cyflwyno cyn y cais NSIP.

Ceisiadau Fesul Cam

Ceir gofyn am gais fesul cam pan nad oes digon o wybodaeth fanwl i ymgeisio’n gynnar, ond mae’r Ymgeisydd yn dymuno olrhain ei gais yn gyfochrog. Gall asesiadau rhagarweiniol ddechrau gyda’r wybodaeth sydd ar gael, ac mae’n rhaid i’r Ymgeisydd gyflwyno’r data sy’n weddill yn unol ag amserlen gytunedig. Mae hyn yn ddewisol ac yn destun ffi fesul awr.

Datgymhwyso

Mae Adran 120 Deddf Cynllunio 2008 yn caniatáu i gydsyniadau, hawlenni a thrwyddedau nad ydynt yn ymwneud â chynllunio gael eu cynnwys yn y DCO, sy’n golygu nad oes rhaid i’r Ymgeisydd wneud cais amdanynt ar wahân. Gelwir hyn yn ‘ddatgymhwyso’.

Mae Adran 150 Deddf Cynllunio 2008 yn datgan, ar gyfer rhai mathau o gydsyniadau, bod rhaid i Asiantaeth yr Amgylchedd roi caniatâd i’r ddeddfwriaeth gael ei chynnwys yn y DCO. Rhestrir y cydsyniadau hyn yn Atodlen 2 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Partïon â Buddiant a Darpariaethau Rhagnodedig Amrywiol) 2015. Mae’r rhestr hon yn cynnwys llawer o’r trwyddedau a’r cydsyniadau a roddir gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Os bydd Ymgeiswyr yn ceisio datgymhwyso unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth drwyddedu, dylent gysylltu ag Asiantaeth yr Amgylchedd cyn gynted â phosibl. Bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn ystyried ceisiadau i ddatgymhwyso ar sail achosion unigol. Fodd bynnag, pan gysylltir â nhw, bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn ystyried rhai egwyddorion yn dilyn cais i ddatgymhwyso:

  • Bydd gan y gweithgaredd risg amgylcheddol isel,
  • Dylai’r gweithgaredd naill ai fod dros dro, neu gellir cytuno arno yn rhan o’r cam adeiladu,
  • Ni fydd angen i’r gweithgaredd gael ei fonitro’n barhaus ac ni fydd angen gorfodi unrhyw derfynau diffiniedig yn ddilynol,
  • Mae’r gweithgaredd yn annhebygol o gael ei ystyried yn un sydd o Ddiddordeb Mawr i’r Cyhoedd neu a allai greu diddordeb mawr ymhlith y cyhoedd. Bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn penderfynu p’un a yw cais o ddiddordeb mawr i’r cyhoedd ar sail achosion unigol. Ystyrir yr holl wybodaeth berthnasol er mwyn gwneud penderfyniad, gan gynnwys:
    • P’un a yw’r diddordeb yn ymwneud â materion sy’n cael eu rheoleiddio o dan drwydded amgylcheddol,
    • Hyd a lled a graddau’r diddordeb – er enghraifft, nifer y gwahanol ffynonellau fel unigolion, grwpiau diddordeb, busnesau, cynghorwyr lleol, y cyfryngau a ph’un a fydd ymgysylltiad parhaus gan yr AS lleol
    • P’un a fydd y diddordeb yn parhau am gyfnod, neu’n debygol o barhau am gyfnod.

Dylai’r Ymgeisydd ddarparu digon o wybodaeth gyda’i gais i ddatgymhwyso er mwyn i Asiantaeth yr Amgylchedd allu gwneud y penderfyniadau uchod ynglŷn â’r gweithgaredd.

Pan fydd Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cytuno i ddatgymhwyso eu deddfwriaeth, maen nhw wedi datblygu cyfres o Ddarpariaethau Amddiffynnol safonol, sydd ar gael ar gais. Mae’n bwysig i’r Ymgeisydd nodi mai Asiantaeth yr Amgylchedd fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol a bod ganddynt yr hawl i wrthod unrhyw gais i ddatgymhwyso.

Awdurdod cymwys

Argymhellir bod Ymgeiswyr yn ceisio barn Asiantaeth yr Amgylchedd ynglŷn â’r holl feysydd technegol isod yn gynnar yn ystod y broses cyn-ymgeisio, ac yn parhau â’r ymgysylltiad hwn hyd at (ac yn ystod) yr archwiliad o’r DCO. Mae Nodyn Cyngor 18 yr Arolygiaeth Gynllunio yn rhoi rhagor o wybodaeth.

Rheoliadau Cynefinoedd 2017

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweithredu fel awdurdod cymwys o dan y Rheoliadau Cynefinoedd wrth asesu ceisiadau ar gyfer hawlenni, cydsyniadau, a thrwyddedau y mae ganddi awdurdod rheoleiddiol ar eu cyfer. Mewn achosion lle y gallai NSIP gael effaith niweidiol ar safleoedd Ewropeaidd ac mae arno angen hawlen, cydsyniad, neu drwydded, mae’n rhaid i Asiantaeth yr Amgylchedd, ochr yn ochr â’r awdurdod cymwys a benodwyd o dan Ddeddf Cynllunio 2008, werthuso tebygolrwydd a graddau’r effeithiau hyn. Os ystyrir bod angen, mae’n rhaid i Asiantaeth yr Amgylchedd gynnal asesiad addas wedi hynny, a allai gynnwys ymgynghori â’r corff cadwraeth natur priodol, cyn gwneud penderfyniad yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Pan fydd yr Ymgeisydd yn cynnwys y cyrff rheoleiddiol perthnasol yn y broses hon, gellir cynnal trafodaethau cynnar ynglŷn â materion Rheoliadau Cynefinoedd gan osgoi oedi posibl yn y broses cynllunio a chydsynio oherwydd gwybodaeth sydd ar goll. Anogir Ymgeiswyr i gydlynu eu hymgynghoriad ag un Natural England ar yr asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd. Mae Nodyn Cyngor 10 yr Arolygiaeth Gynllunio yn rhoi rhagor o wybodaeth.

Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn awdurdod cymwys ar gyfer y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD) hefyd, ac mae ganddi ddyletswydd gyffredinol o dan Reoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017 (y Rheoliadau WFD). Mae Rheoliad 3 yn mynnu bod Asiantaeth yr Amgylchedd yn ‘arfer ei swyddogaethau perthnasol er mwyn sicrhau y cydymffurfir â gofynion y Gyfarwyddeb’. Amlinellir y gofynion ar gyfer pob basn afon yn y Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd (RBMP). Cyhoeddwyd y drydedd gyfres o RBMPau ym mis Hydref 2022.

Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr

O ran Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 2015 (Rheoliadau COMAH), Asiantaeth yr Amgylchedd yw’r awdurdod cymwys COMAH, ar y cyd â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE). Os yw Ymgeiswyr yn ansicr ynghylch p’un a yw’r Rheoliadau COMAH yn berthnasol i NSIP, dylent gysylltu â’r HSE neu Asiantaeth yr Amgylchedd.

Ymaddasu i’r Newid yn yr Hinsawdd

Mae’r Datganiadau Polisi Cenedlaethol yn pwysleisio bod rhaid i NSIPau allu gwrthsefyll effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Er enghraifft, mae’r Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Seilwaith Adnoddau Dŵr yn amlinellu polisi’r llywodraeth ynglŷn ag ymaddasu i’r hinsawdd. Mae’r Cynllun Gwella Amgylcheddol yn amlinellu ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau bod polisïau, rhaglenni, a phenderfyniadau buddsoddi’n ystyried graddau posibl y newid yn yr hinsawdd. Bydd mesurau ymaddasu i’r newid yn yr hinsawdd yn hanfodol i reoli effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r effeithiau hyn yn cynnwys perygl uwch o sychder a llifogydd, hafau sychach a gaeafau cynhesach a gwlypach, digwyddiadau glawiad dwysach a chodiadau yn lefel y môr.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn annog Ymgeiswyr i ystyried yr ystod o risgiau i’r hinsawdd, gan gynnwys perygl llifogydd, newid arfordirol, cyflenwad dŵr a bioamrywiaeth. Dylid asesu a rheoli’r risgiau hyn yn y tymor hwy mewn ffordd flaengar gan ddefnyddio dulliau arfer gorau presennol, fel dilyn y gofynion a’r canllawiau a amlinellir yn safonau rhyngwladol ISO14090 ac ISO14091.

Yn benodol, dylid integreiddio mesurau i sicrhau bod seilwaith yn gallu gwrthsefyll senario cynhesu 2°C, yn ogystal â chynllunio ar gyfer senarios uwch, fel cynnydd 4°C mewn tymereddau, pan fydd risgiau penodol yn dangos bod angen ymagwedd fwy cadarn. O ran perygl llifogydd, mae canllawiau yn argymell cynllunio ar gyfer cynnydd 4°C o ganlyniad i risgiau uchel a chyfyngiadau i addasu trwy ôl-osod. Mae’r Lwfansau Newid yn yr Hinsawdd (CCAau) yn rhan o’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer llifogydd ac maen nhw’n darparu fframwaith ar gyfer gwrthsefyll cynnydd 4°C erbyn 2100. Dylid defnyddio’r CCAau i lywio DCOau NSIP, gan alluogi Ymgeiswyr i asesu ystod o beryglon llifogydd yn y dyfodol ar gyfer dŵr afonol, llanw ac wyneb.

Mae Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017 (gweler Atodlen 3, paragraff 1 ac Atodlen 4, paragraff 5(f)) yn mynnu, wrth sgrinio datblygiad Atodlen 2, bod nodweddion y datblygiad yn cael eu hystyried yn gysylltiedig â pherygl damweiniau mawr a / neu drychinebau sy’n berthnasol i’r datblygiad, gan gynnwys y rhai hynny a achosir gan y newid yn yr hinsawdd. Maen nhw hefyd yn mynnu bod rhaid i unrhyw NSIP gynnwys disgrifiad o effaith y prosiect ar yr hinsawdd a pha mor fregus ydyw i’r newid yn yr hinsawdd. Rhoddir arweiniad penodol ynglŷn â llifogydd, adnoddau dŵr a newid arfordirol. Fodd bynnag, dylid nodi bod angen ystyried mathau eraill o beryglon tywydd hefyd er mwyn gwrthsefyll risgiau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd yn y presennol a’r dyfodol.

Mae gan Asiantaeth yr Amgylchedd gyfrifoldebau statudol ar gyfer peryglon sy’n gysylltiedig â llifogydd, erydu arfordirol ac adnoddau dŵr, a rôl gynghori mewn perthynas â pheryglon eraill sy’n gysylltiedig â’r tywydd. Crynhoir hyn yn Atodiad 2, sydd hefyd yn rhoi rhestr o ffynonellau gwybodaeth i’w defnyddio wrth asesu a chynllunio ar gyfer pob perygl.

Dylai’r datganiad amgylcheddol roi esboniad cryno o sut mae peryglon sy’n gysylltiedig â’r tywydd a’r hinsawdd wedi cael eu hystyried. Dylai hyn gynnwys manylion mesurau gwrthsefyll a gynlluniwyd a lle mae lwfans / hyblygrwydd ar gyfer mesurau yn y dyfodol. Dangosir hyn yn Atodiad 3, y gellir ei ddefnyddio fel templed. Dylai Ymgeiswyr nodi’r ffynonellau gwybodaeth a ddefnyddiwyd a’r tybiaethau a wnaed yn benodol, bod yn ymwybodol bod gwyddor hinsawdd yn cael ei hadolygu a’i mireinio’n barhaus a sicrhau bod y rhagolygon hinsawdd diweddaraf yn cael eu cymhwyso lle y bo’n berthnasol.

Budd Net i Fioamrywiaeth

Strategaeth i ddatblygu tir a chyfrannu at adfer natur yw Budd Net i Fioamrywiaeth (BNG). Mae’n ceisio cynyddu a gwella bioamrywiaeth er mwyn i ddatblygiad arwain at ganlyniadau cadarnhaol.

Bwriedir i hyn ddod yn berthnasol i NSIPau ym mis Tachwedd 2025. Felly, anogir Ymgeiswyr i ddechrau ystyried sut y bydd BNG yn cael ei gynnwys yn eu cynigion datblygu, yn enwedig yr NSIPau hynny sy’n debygol o gyflwyno eu cais DCO ar ôl y dyddiad gweithredu neu’n ddiweddarach.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am BNG trwy ddilyn y dolenni isod:
– Budd Net i Fioamrywiaeth – GOV.UK – Yr hyn y gallwch ei gyfrif tuag at fudd net i fioamrywiaeth (BNG) datblygiad – GOV.UK

Adroddiadau, cyngor a chanllawiau perthnasol

Mae gwefan Asiantaeth yr Amgylchedd yn darparu gwybodaeth am bynciau amgylcheddol sy’n ymwneud â’i rôl statudol a rheoleiddio amgylcheddol.

Mae gan Asiantaeth yr Amgylchedd Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda National Highways (Highways England gynt) a Network Rail a gefnogir gan ganllawiau technegol, sy’n berthnasol i gynigion seilwaith priffyrdd a rheilffyrdd y mae arnynt angen DCO.

Pwyntiau Cyswllt

Yn y lle cyntaf, dylai Ymgeiswyr gysylltu â Chanolfan Cyswllt Cwsmeriaid Genedlaethol Asiantaeth yr Amgylchedd:

  • Os ydych yn y Deyrnas Unedig, trwy ffonio 03708 506 506;
  • Os ydych y tu allan i’r Deyrnas Unedig, trwy ffonio +44 (0) 114 282 5312
  • Trwy anfon neges e-bost at: [email protected]
  • Trwy’r post: National Customer Contact Centre
    PO Box 544
    Rotherham S60 1BY

Atodiad 1: Diagram sy’n dangos sut mae’r cyfundrefnau DCO ac EPR yn cydgysylltu

Atodiad 2: Rôl Asiantaeth yr Amgylchedd o ran ymaddasu i’r hinsawdd a ffynonellau gwybodaeth

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn arwain ar reoli ac ymateb i ystod o risgiau’r hinsawdd sy’n gysylltiedig â gormod o ddŵr a dim digon ohono, sef yn bennaf y rhai hynny sy’n ymwneud â llifogydd ac argaeledd dŵr. Mae gan Asiantaeth yr Amgylchedd rôl hefyd wrth fynd i’r afael â risgiau’r hinsawdd i gynefinoedd a rhywogaethau dŵr croyw. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd ar y rheng flaen wrth gefnogi cymunedau i baratoi ar gyfer tywydd eithafol a chynnydd yn lefel y môr, ac ymateb i hynny.

Mae adroddiad Asiantaeth yr Amgylchedd, ‘Byw’n well gyda hinsawdd sy’n newid’, yn dangos sut mae’r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar adnoddau dŵr a bywyd gwyllt y wlad, a risgiau gormod o ddŵr neu ddim digon ohono. Llifogydd (afonol, arfordirol, dŵr wyneb, cronfeydd dŵr, dŵr daear) ac erydu arfordirol yw rhai o brif effeithiau’r hinsawdd y mae angen i ni baratoi ar eu cyfer. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn defnyddio’r dystiolaeth ddiweddaraf i asesu risgiau i’r hinsawdd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol a chynllunio sut i ddelio â nhw. Mae’n hanfodol gweithredu’n gynnar a chynnwys mesurau i ymdopi â risgiau’r hinsawdd yn y dyfodol.

Mae’r dolenni canlynol yn rhoi rhagor o wybodaeth:

Defnyddio tystiolaeth o effeithiau lleol i amlygu ffactorau risg penodol i leoliad

Gall tystiolaeth leol o effeithiau’r newid yn yr hinsawdd fod yn werthfawr wrth ganfod ffactorau risg penodol i leoliad. Mae sylfeini tystiolaeth sy’n ymwneud â pherygl llifogydd a newid arfordirol yn cynnwys:

  • Mae Asesiadau Risg Llifogydd Strategol (SFRA) Awdurdodau Lleol yn cyflenwi tystiolaeth i ddeall effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar bob ffynhonnell perygl lifogydd ar hyd oes ddisgwyliedig datblygiad.
  • Mae’r CCAau yn llywio SFRAau UKCP18. Y tair prif elfen yw dwysedd glawiad uchaf, llif afonydd uchaf a chynnydd yn lefel y môr.
  • Mae’r Map Perygl Erydu Arfordirol Cenedlaethol(NCERM) yn dangos cyfraddau erydu arfordirol ar gyfer y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir. Ategir y rhain gan Gynlluniau Rheoli Traethlin (SMPau), Cynlluniau Rheoli Parth Arfordirol Integredig a Strategaethau Traethlin/Arfordirol.

Mae SFRAau yn dwyn ynghyd wybodaeth am ystod o ffynonellau perygl llifogydd a newid arfordirol a sut bydd y newid yn yr hinsawdd yn effeithio arnynt. Maen nhw’n defnyddio’r CCAau, yr NCERM a’r SMPau i ffurfio dealltwriaeth gynhwysfawr o berygl llifogydd a newid arfordirol. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn annog Ymgeiswyr i ystyried SFRAau er mwyn helpu i sicrhau bod NSIPau yn gydnerth ar hyd oes ddisgwyliedig y datblygiad.

Darperir rhagor o wybodaeth yn ymwneud â pherygl llifogydd trwy’r dolenni isod.

Dylai Ymgeiswyr ddefnyddio’r ffynonellau gwybodaeth hyn i ddeall a chynllunio ar gyfer y risgiau hinsawdd hyn.

O ran ceisio cyngor penodol, mae’r canlynol yn berthnasol:

  • Mae gan Asiantaeth yr Amgylchedd gylch gwaith statudol o ran perygl llifogydd o brif afonydd a’r môr. Bydd yn arfarnu safon yr asesiad risg ac yn ystyried p’un a ystyriwyd risgiau’r hinsawdd yn y dyfodol yn briodol.
  • O ran perygl llifogydd o gyrsiau dŵr bach (nid prif afon), dŵr wyneb, cronfeydd dŵr, a dŵr daear, yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol yw’r awdurdod cyfrifol a dylid ymgynghori ag ef i gael cyngor.

Sylfeini tystiolaeth lleol sy’n ymwneud ag argaeledd dŵr:

Rôl Asiantaeth yr Amgylchedd

Gall Asiantaeth yr Amgylchedd gynghori ar bwysau adnoddau dŵr a goblygiadau’r newid yn yr hinsawdd yn lleol, ond dylid ymgynghori â’r cwmni dŵr lleol i gael cyngor, hefyd.

Atodiad 3: Asesu a chynllunio ar gyfer risgiau yn ymwneud â’r hinsawdd

Fel y disgrifir yn y Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Seilwaith Adnoddau Dŵr, dylai’r Ymgeisydd ystyried y polisi ar ymaddasu i’r newid yn yr hinsawdd fel yr amlinellir yn y Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol a chanllawiau ategol. Dylai’r Ymgeisydd ystyried effeithiau posibl y newid yn yr hinsawdd gan ddefnyddio Asesiad Risg Newid yn yr Hinsawdd diweddaraf y Deyrnas Unedig, Rhagolygon Hinsawdd diweddaraf y Deyrnas Unedig, a ffynonellau eraill perthnasol o dystiolaeth ar y newid yn yr hinsawdd. Dylai’r Ymgeisydd hefyd sicrhau bod unrhyw Ddatganiad Amgylcheddol ac Asesiad Risg Llifogydd yn amlygu mesurau lliniaru neu ymaddasu priodol a sut bydd y rhain yn cael eu sicrhau. Dylai hyn rychwantu oes amcangyfrifedig y seilwaith newydd. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn annog Ymgeiswyr i ddefnyddio’r ymagwedd hon i lywio pob NSIP newydd.

Yn unol â’n cyngor i lywio Cynlluniau Datblygu a cheisiadau cysylltiedig â Chynllunio Gwlad a Thref, mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn annog Ymgeiswyr i ystyried y pwyntiau isod.

  • Mae angen i’r safleoedd a ddewisir ystyried effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn argymell bod Ymgeiswyr yn ystyried senarios achos gwaethaf rhesymol wrth ystyried lleoliadau ar gyfer seilwaith newydd. Mae’r CCAau yn darparu’r senarios hyn ar gyfer perygl llifogydd. Dylid cyfeirio datblygiad tuag at ardaloedd lle y ceir y perygl isaf o lifogydd.
  • Wrth ddatblygu seilwaith newydd, mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn annog Ymgeiswyr i ymgorffori seilwaith gwyrdd a glas newydd a chysylltu â seilwaith o’r fath sydd eisoes yn bodoli.Gall hyn gynnig buddion niferus fel helpu i sicrhau gwelliannau i ansawdd dŵr, a darparu’r gallu i wrthsefyll effeithiau’r hinsawdd, fel llifogydd a gorgynhesu, ar yr un pryd â chefnogi adfer natur.
  • Ymgorffori Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS) sy’n arwain at fuddion niferus a sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a’u cadw.Gall SuDS helpu i leihau perygl llifogydd, gwella bioamrywiaeth a lliniaru pwysau ar adnoddau dŵr.
  • Safonau effeithlonrwydd dŵr uwch.Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn cefnogi cynyddu effeithlonrwydd dŵr seilwaith sy’n lleihau’r defnydd o ddŵr ac yn torri allyriadau carbon. Mewn ardaloedd lle y ceir straen dŵr difrifol, neu lle mae tystiolaeth arall yn cyfiawnhau gofyniad effeithlonrwydd dŵr tynnach, mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn argymell safon ragorol BREEAM ar gyfer datblygiadau dibreswyl.

Yn fwy cyffredinol, dylai Ymgeiswyr fod yn ymwybodol bod y Datganiad Polisi Cenedlaethol ar gyfer Seilwaith Adnoddau Dŵr yn datgan y dylai egwyddorion dylunio, fel y rhai hynny a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol (NIC), gael eu sefydlu ar ddechrau’r prosiect i arwain y datblygiad o’r syniad cychwynnol hyd at weithredu. Yn benodol, dylid ystyried Egwyddorion Dylunio ar gyfer Seilwaith Cenedlaethol NIC, sy’n ailadrodd y dylai dylunio da ymgorffori hyblygrwydd, gan ganiatáu i’r prosiect addasu dros amser a chynyddu ein gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd.