Nodyn Cyngor 10: Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd sy’n berthnasol i brosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol

Statws y Nodyn Cyngor hwn

Mae’r fersiwn hon o nodyn cyngor 10 yn disodli pob fersiwn flaenorol ac yn cynnwys diwygiadau a wnaed mewn ymateb i arfer gorau sy’n dod i’r amlwg.

Neidio i’r adran:

Crynodeb
1. Cefndir
2. Proses yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
3. Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yr Ymgeisydd a’r Cam Cym-ymgeisio
4. Cam Derbyn a’r Archwiliad
5. Ystyriaethau Eraill
6. Cyflwyno Gwybodaeth
7. Termau a thalfyriadau a ddefnyddiwyd yn y nodyn cyngor hwn

Crynodeb o’r Nodyn Cyngor hwn

Diben y nodyn cyngor hwn yw:

  • rhoi disgrifiad byr o’r cyd-destun cyfreithiol a’r rhwymedigaethau ar y penderfynwr a’r Ymgeisydd o dan y Rheoliadau Cynefinoedd;
  • nodi camau proses yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ac egluro’r wybodaeth y dylid ei darparu gyda chais DCO mewn perthynas â’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ym mhob cam o broses Deddf Gynllunio 2008 (PA2008); a
  • sôn yn fras am faterion eraill yn ymwneud â phroses  PA2008 a’u perthynas â phroses yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.

Cyd-destun

Dylid darllen y nodyn cyngor hwn ar y cyd â’r Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau (Diwygio) (Ymadael â’r UE ) 2019) a Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017 (y ‘Rheoliadau Morol Alltraeth’) (ar gyfer cynlluniau a phrosiectau y tu hwnt i ddyfroedd tiriogaethol y DU (sef 12 milltir forol), hefyd fel y’u diwygiwyd). Er hwylustod mynegiant, mae’r term ‘Rheoliadau Cynefinoedd’ yn y nodyn cyngor hwn yn cynnwys y ddwy set o reoliadau, oni nodir fel arall.

Dylid ei ddarllen hefyd ar y cyd â: y PA2008; Polisïau Cynllunio perthnasol y Llywodraeth, fel y Datganiadau Polisi Cenedlaethol (Cymru a Lloegr) perthnasol, National Planning Policy Framework (NPPF) (England), Polisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 5 (TAN 5): Cadwraeth Natur a Chynllunio (Cymru); Cylchlythyrau’r Llywodraeth fel Cylchlythyr ODPM 06/2005: Bioamrywiaeth a Chadwraeth Ddaearegol – rhwymedigaethau statudol a’u heffaith o fewn y system gynllunio; a chanllawiau cydnabyddedig y Llywodraeth a’r Comisiwn Ewropeaidd, gan gynnwys Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), Natural England, Llywodraeth Cymru, a Cyfoeth Naturiol Cymru (2021) Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd: Gwarchod safle Ewropeaidd, a Canllawiau Ymarfer Cynllunio: Asesiad Priodol.

Gallai fod yn fuddiol i ymgeiswyr fwrw golwg ar y cyngor canlynol hefyd: Y Comisiwn Ewropeaidd (2001) Asesu cynlluniau a phrosiectau mewn perthynas â Natura 2000 – Canllawiau methodolegol ar ddarpariaethau Erthygl 6(3) a (4) Cyfarwyddeb Cynefinoedd 92/43/ EEC; y Comisiwn Ewropeaidd (2018) Rheoli Safleoedd Natura 2000 – Darpariaethau Erthygl 6 Cyfarwyddeb ‘Cynefinoedd’ 92/43/EEC; Barn y Comisiwn (2007/2012) Dogfen Ganllaw ar Erthygl 6(4) Cyfarwyddeb Cynefinoedd 92/43/EEC – Egluro cysyniadau: Datrysiadau Amgen, Rhesymau Hanfodol er Budd Cyhoeddus Tra Phwysig, Mesurau Digolledu; y Comisiwn Ewropeaidd (2011) Dogfen Ganllaw ar Ddatblygiadau Ynni’r Gwynt a Natura 2000;  a’r Comisiwn Ewropeaidd (2011) Dogfen Ganllaw – Gweithredu Cyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd mewn Aberoedd ac Ardaloedd Arfordirol: gan roi sylw penodol i ddatblygu porthladdoedd a charthu.

Crybwyllir y dogfennau uchod yn nodyn cyngor hwn i gynorthwyo Ymgeiswyr, ond yr Ymgeisydd sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr holl bolisïau, deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol a chyfredol wedi cael eu hystyried.

1. Cefndir

Deddfwriaeth

1.1 O ran ceisiadau ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP), yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol yw’r Awdurdod Cymwys at ddibenion y Rheoliadau Cynefinoedd.

1.2 Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd yn darparu ar gyfer dynodi safleoedd ar gyfer gwarchod rhywogaethau a chynefinoedd penodol. Gelwir yr holl safleoedd hyn yn ‘safleoedd Ewropeaidd’ ac maent yn ffurfio rhan o rwydwaith o safleoedd gwarchodedig ledled y DU a elwir yn ‘rhwydwaith safleoedd cenedlaethol’ (NSN). Er hwylustod mynegiant, mae’r nodyn cyngor hwn yn defnyddio’r term ‘safle Ewropeaidd’ ar gyfer safleoedd Ewropeaidd a safleoedd morol alltraeth Ewropeaidd. Mae safleoedd Ewropeaidd a warchodir gan y Rheoliadau Cynefinoedd yn cynnwys Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA). Yn ogystal, mae’n fater o bolisi ac arweiniad Llywodraeth y DU y dylai’r safleoedd canlynol fod yn destun Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd hefyd, lle’r effeithir arnynt gan gynllun neu brosiect: ACAau arfaethedig; AGAau potensial; a safleoedd Ramsar (arfaethedig a rhestredig); ac ardaloedd sydd wedi’u sicrhau fel safleoedd digolledu ar gyfer difrod i safle Ewropeaidd.

1.3 O dan y Rheoliadau Cynefinoedd, mae’n rhaid i Awdurdod Cymwys ystyried p’un a fydd datblygiad yn cael effaith arwyddocaol debygol ar safle Ewropeaidd, naill ai ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad â chynlluniau neu brosiectau eraill. Lle mae effeithiau arwyddocaol tebygol yn debygol ac nad yw prosiect yn uniongyrchol gysylltiedig â, neu’n angenrheidiol i, reoli’r safle hwnnw (safleoedd hynny), mae’n ofynnol cynnal asesiad priodol o oblygiadau’r cynllun neu’r prosiect ar gyfer y safle(oedd) hwnnw o ystyried ei amcanion cadwraeth.

1.4 Yn ychwanegol at hyn, pan fydd asesiad priodol wedi cael ei gynnal ac yn arwain at asesiad negyddol (h.y. lle na ellir diystyru Effeithiau Niweidiol ar Gyfanrwydd Safle(-oedd) Ewropeaidd, er gwaethaf unrhyw fesurau osgoi neu leihau (lliniaru) arfaethedig), gellir ond rhoi caniatâd os: nad oes unrhyw ddatrysiadau amgen; os oes Rhesymau Hanfodol er Budd Cyhoeddus Tra Phwysig (IROPI); ac os yw Mesurau Digolledu wedi cael eu sicrhau. Gelwir y camau olaf hyn yn ‘rhanddirymiadau’. At ddibenion y nodyn hwn, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn defnyddio’r term ‘Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd / HRA’ i ddisgrifio’r holl gamau yn y broses asesu, gan gynnwys hynny a fynnir gan Reoliad 63 (Asesiad Priodol) ac ystyriaeth o Effeithiau Niweidiol ar Gyfanrwydd a Rheoliadau 64 a 68 y Rheoliadau Cynefinoedd (y rhanddirymiadau), lle bo’n gymwys.

Ystyried effeithiau trawsffiniol datblygiadau ynni ar safleoedd Ewropeaidd

1.5 Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), sef yr hen Adran Ynni a Newid Hinsawdd DECC), wedi rhyddhau canllawiau, sy’n datgan y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol, wrth ystyried p’un ai caniatáu prosiectau ynni, yn cymhwyso egwyddorion y Gyfarwyddeb Cynefinoedd i unrhyw ddatblygiad ynni sy’n debygol o gael effeithiau arwyddocaol ar safleoedd Natura 2000 yr Undeb Ewropeaidd (UE) (y rhwydwaith o safleoedd Ewropeaidd y tu allan i’r DU) neu safleoedd ymgeisiol mewn Aelod-wladwriaethau Ewropeaidd eraill. Mae BEIS yn disgwyl y bydd hyn yn fwyaf perthnasol i ddatblygu ffermydd gwynt ar y môr.

1.6 Dylai Ymgeiswyr sy’n ceisio caniatâd ar gyfer datblygiadau sy’n debygol o gael effaith arwyddocaol (naill ai ar eu pennau’u hunain neu ar y cyd) ar safle Natura 2000 yng Ngwladwriaethau’r Ardal Economaidd Ewropeaidd gael yr holl wybodaeth berthnasol, fel y bo’n rhesymol ymarferol, a’i darparu gyda’u cais DCO. Yna, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol yn gallu ystyried effeithiau tebygol eu cynigion ar y cyfryw safleoedd cyn penderfynu p’un ai rhoi caniatâd datblygu ai peidio.

2. Proses yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

2.1 Mae’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn broses aml-gam sy’n nodi Effeithiau Arwyddocaol Tebygol, yn asesu unrhyw effeithiau niweidiol ar gyfanrwydd safle Ewropeaidd, ac yn ystyried y rhanddirymiadau (fel bo’n briodol). Mae canllawiau ar y cyd gan Defra, Llywodraeth Cymru, Natural England a Cyfoeth Naturiol Cymru (2021) ‘Asesiadau rheoliadau cynefinoedd: gwarchod safle Ewropeaidd’ (y cyfeirir ato ar ôl hyn fel y ‘canllawiau ar y cyd’) yn nodi proses tri cham, fel yr amlinellir isod. Efallai na fydd yn angenrheidiol i gwblhau pob cam, gan ddibynnu ar ba gasgliad y deuir iddo ym mhob cam. Mae’r camau fel a ganlyn:

  • Cam 1. Sgrinio – gwirio a yw’r cynnig yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar amcanion cadwraeth safle(oedd) Ewropeaidd, ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad â chynlluniau neu brosiectau eraill. Yn y cam hwn, ac yn unol â’r gyfraith achosion (People Over Wind a Sweetman v Coillte Teoranta (Achos C-323/17)), ni ddylai mesurau lliniaru a gynigiwyd at ddiben osgoi neu leihau risg i safle Ewropeaidd gael eu hystyried. Os deuir i gasgliad nad oes unrhyw effaith arwyddocaol debygol ar gyfer yr holl safleoedd Ewropeaidd ac yr ystyriwyd eu nodweddion cymhwyso, nid yw’n angenrheidiol mynd ymlaen i gamau nesaf yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.
  • Cam 2. Asesiad priodol – asesu goblygiadau’r cynnig ar gyfer nodweddion cymhwysol y safle(oedd) Ewropeaidd, gan ystyried amcanion cadwraeth y safle(oedd), a nodi ffyrdd i osgoi neu leihau unrhyw effeithiau.
  • Cam 3. Rhanddirymiad – ystyried a yw cynigion a fyddai’n cael effeithiau niweidiol ar gyfanrwydd safle(oedd) Ewropeaidd yn cymhwyso ar gyfer esemptiad. Mae tri phrawf i’r cam hwn i’w dilyn mewn trefn: ystyried datrysiadau amgen; ystyried IROPI; a sicrhau mesurau digolledu. Rhaid pasio pob prawf yn eu trefn er mwyn caniatáu rhanddirymiad.

 3.    Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yr Ymgeisydd a’r Cam Cym-ymgeisio

3.1 Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n gwneud cais am ganiatâd datblygu ar gyfer NSIP, yn unol â’r Rheoliadau Cynefinoedd, ddarparu’r gyfryw wybodaeth i’r Awdurdod Cymwys y gellir ei mynnu’n rhesymol ‘at ddibenion yr asesiad’ neu ‘i’w galluogi i bennu p’un a a oes angen asesiad priodol’. Mae’r wybodaeth hon i’w chyflwyno gyda’r cais DCO ar ffurf Adroddiad Dim Effeithiau Arwyddocaol (NSER) fel arfer, lle mai dim ond sgrinio Cam 1 sydd wedi’i wneud ac y daethpwyd i gasgliad dim Effaith Arwyddocaol Debygol ar safle(oedd) Ewropeaidd, neu ‘gwybodaeth i lywio Adroddiad Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd’ (cyfeirir ato o hyn ymlaen fel ‘Adroddiad HRA’ yn y nodyn cyngor hwn), sy’n cynnwys camau amrywiol y broses HRA, fel y wybodaeth i lywio asesiad priodol a rhanddirymiadau (fel bo’n berthnasol).

3.2 Lle mae Ymgeiswyr wedi dod i’r casgliad nad oes unrhyw lwybrau a allai arwain at effeithiau ar safle(oedd) Ewropeaidd o’r Datblygiad Arfaethedig, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn dal i ddisgwyl i Ymgeiswyr gadarnhau hyn mewn datganiad sydd i’w gyflwyno gyda’r cais, a chyfeirio’n glir ar y datganiad hwn o’r ffurflen gais DCO.

3.3 Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol, os cyflwynir gwybodaeth annigonol gyda chais, efallai na fydd y cais yn cael ei dderbyn i’w Archwilio. Felly, cynghorir Ymgeiswyr yn gryf i ddefnyddio’r broses ymgynghori cyn-ymgeisio i gael sicrwydd gan y corff(cyrff) cadwraeth natur priodol (ANCB) fel y’i diffiniwyd yn y Rheoliadau Cynefinoedd, a chyrff eraill fel y bo’n briodol, fod yr holl effeithiau posibl wedi cael eu hystyried yn briodol ac yn ddigon manwl cyn cyflwyno cais. Dylai tystiolaeth o ganlyniad yr ymgynghoriad hwn gael ei hatodi i’r NSER, yr Adroddiad HRA, neu’r datganiad llwybr dim effaith (fel bo’n berthnasol). Cynghorir bod y cyfryw ymatebion i’r ymgynghoriad yn gyfredol ar y pwynt cyflwyno. Bydd hyn yn allweddol i’r cam derbyn a’r broses benderfynu, oherwydd o dan y Rheoliadau Cynefinoedd a’r Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009 (y Rheoliadau APFP) mae’n rhaid i’r Ymgeisydd ddarparu’r gyfryw wybodaeth i’r Awdurdod Cymwys fel y mynnir yn rhesymol at ddibenion yr asesiad a rhaid i’r Awdurdod Cymwys ymgynghori â’r ANCB a rhoi ystyriaeth i unrhyw sylwadau a wneir ganddynt.

3.4 Cynghorir ymgeiswyr yn gryf i ddefnyddio’r broses Cynllun Tystiolaeth. Ffordd o gytuno a chofnodi ymlaen llaw y wybodaeth y mae angen i’r Ymgeisydd ei darparu i’r Arolygiaeth Gynllunio wrth wneud cais am DCO yw Cynllun Tystiolaeth, fel y gellir cynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn effeithlon. Mae ar gael i’r holl Ymgeiswyr ar gyfer NSIPau arfaethedig sydd yn Lloegr, neu Gymru a Lloegr.

3.5 Gallai Cynlluniau Tystiolaeth Cytûn a/neu Ddatganiadau Tir Cyffredin (SoCG) gydag ANCB a gyflwynir gyda’r cais DCO gynnwys datganiadau yn ymwneud â’r safleoedd Ewropeaidd a’r nodweddion cymwys a nodwyd ac a ystyriwyd yn yr Adroddiad NSER/HRA, y data sylfaenol, y fethodoleg a fabwysiadwyd, y cam y cyrhaeddwyd ym mhroses yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, a’r casgliadau y daethpwyd iddynt o ran effeithiau arwyddocaol tebygol a/neu effeithiau ar gyfanrwydd safle, fel y bo’n briodol. Gallai’r Cynllun Tystiolaeth/Datganiad Tir Cyffredin ddogfennu hefyd lle mae’r ANCB yn cytuno y gall effeithiau ar safle(oedd) Ewropeaidd gael eu hepgor yn gyfan gwbl gan nad oes unrhyw lwybrau effaith, lle bo’n berthnasol.

3.6 Dylai Adroddiad NSER/HRA yr Ymgeisydd ddarparu’r rhesymeg a’r dystiolaeth wrth wraidd ei gasgliadau. Mae hyn yn debygol o gael ei ategu gan y wybodaeth a gyflwynwyd yn y Datganiad Amgylcheddol ar gyfer y cais DCO. Mae’n rhaid i Adroddiad NSER/HRA yr Ymgeisydd ddangos sut mae’r wybodaeth a gasglwyd wedi cael ei chymhwyso i’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a’r profion sy’n berthnasol i’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd. Ceir rhagor o gyngor yn yr adran ‘Y berthynas ag asesu effeithiau amgylcheddol (EIA)’ o’r nodyn cyngor hwn.

3.7 Cyfeirir ymgeiswyr hefyd at ‘Brosbectws ar gyfer Ymgeiswyr’ yr Arolygiaeth Gynllunio, sy’n esbonio’r gwasanaeth a gynigir gan yr Arolygiaeth Gynllunio i Ymgeiswyr yn ystod y cam cyn-ymgeisio, gan gynnwys adolygu dogfennau cais drafft. Gall ymgeiswyr fod eisiau cyflwyno Adroddiadau NSER/HRA drafft i’r Arolygiaeth Gynllunio cyn cyflwyno’r cais DCO, ar gyfer sylwadau. Dylai ymgeiswyr drafod amseriad rhannu’r cyfryw ddrafftiau gyda’r Arolygiaeth er mwyn cyflawni gymaint o fudd ag y bo modd o’u hadolygiad. Cynghorir Ymgeiswyr hefyd i gyflwyno dogfennau drafft i’r ANCB perthnasol, er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw sylwadau y gallai’r cyrff hyn eu gwneud cyn cyflwyno’r cais DCO.

3.8 Mae’r ymagwedd a gynhwysir yn y nodyn cyngor hwn yn ffurfio elfen allweddol o baratoi cais DCO, ac fe’i cynlluniwyd i helpu Ymgeiswyr gyflwyno gwybodaeth HRA gadarn gyda’r cais DCO, fel yr eir â chyn lleied â phosibl o faterion heb eu datrys ymlaen i’r Archwiliad.

Cam 1 HRA: Sgrinio

3.9 Mae Cam 1 HRA yn sefydlu p’un a fydd y Datblygiad Arfaethedig ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad â chynlluniau neu brosiect arall yn arwain at Effaith Arwyddocaol Debygol. O ran y cam hwn, cynghorir bod yr Ymgeisydd yn dechrau ymgynghori â’r ANCB perthnasol ac unrhyw gorff(gyrff) anstatudol perthnasol cyn gynted â phosibl yn y broses cyn ymgeisio. Er mai cyfrifoldeb yr Ymgeisydd yw hyn yn ystod cam cyn-ymgeisio’r broses, maes o law bydd angen i’r Awdurdod Cymwys fod yn fodlon p’un a yw’n cytuno â chasgliadau’r Ymgeisydd. Mae’n debygol y bydd safbwyntiau’r ANCB a’r corff(cyrff) anstatudol perthnasol o ddiddordeb wrth wneud hynny.

3.10 Dylai’r asesiad Cam 1 roi ystyriaeth ofalus i nodweddion y Datblygiad Arfaethedig a ph’un a oes unrhyw lwybrau posibl a allai arwain at effeithiau ar safle Ewropeaidd. Dylai ystyried p’un a oes risg neu bosibilrwydd gwirioneddol o effaith arwyddocaol debygol ar sail y dystiolaeth. Os na ellir diystyru’r risg y bydd y cynnig ar ei ben ei hun yn cael effaith arwyddocaol debygol, bydd Cam 2 HRA yn ofynnol.

3.11 Gellir dod i gasgliad y gallai’r Datblygiad Arfaethedig ar ei ben ei hun gael effaith ar safle(oedd) Ewropeaidd nad yw’n arwyddocaol. Yn y sefyllfa hon, mae’n rhaid i’r Ymgeisydd ystyried wedyn a allai’r effaith hon gyfuno ag unrhyw gynllun neu brosiect arall sy’n effeithio ar yr un safle(oedd) Ewropeaidd a’r nodwedd(ion) gymwys, nad ydyw ar ei ben yn cael effaith arwyddocaol hefyd. Os, mewn cyfuniad, y gallai’r Datblygiad Arfaethedig gael effaith arwyddocaol ar y safle Ewropeaidd, bydd Cam 2 HRS yn ofynnol.

3.12 Er nad oes diffiniad cyfreithiol o gynllun neu brosiect at ddibenion y Rheoliadau Cynefinoedd, mae’r Arolygiaeth Gynllunio’n cynghori y dylai’r canlynol gael eu hystyried ar gyfer yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd mewn cyfuniad (nodwch nad yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr):

  • prosiectau sy’n cael eu hadeiladu;
  • cais (ceisiadau) a ganiatawyd nad yw wedi’i weithredu eto;
  • cais (ceisiadau) a gyflwynwyd na wnaed penderfyniad arno/arnynt hyd yma;
  • pob gwrthodiad sy’n destun gweithdrefnau apêl na wnaed penderfyniad arnynt eto;
  • prosiectau sy’n rhan o Raglen Brosiectau’r Seilwaith Cenedlaethol; a
  • phrosiectau a amlygwyd yn y cynllun datblygu perthnasol (a chynlluniau datblygu sy’n dod i’r amlwg – gan roi pwys priodol iddynt wrth iddynt symud yn agosach at gael eu mabwysiadu), gan gydnabod y bydd llawer o’r wybodaeth am unrhyw gynigion perthnasol yn gyfyngedig ac ystyried graddau’r ansicrwydd a allai fod yn bresennol.

3.13 Dylai’r Ymgeisydd ystyried dynodiadau safle Ewropeaidd neu ddiwygiadau i nodweddion cymwys yn y dyfodol y gallai’r Datblygiad Arfaethedig effeithio arnynt. Byddai’r rhain, ar ôl i ymgynghoriad ddechrau, yn cael eu hystyried yn safle Ewropeaidd o dan bolisi. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn annog ymgysylltu a thrafod ag ANCB yn gynnar i gytuno ar yr ymagwedd a chytuno ar y safleoedd perthnasol a’r nodweddion cymwys. Wrth wneud hynny, dylai Ymgeiswyr nodi’n glir yn eu hadroddiadau beth yw statws presennol safleoedd Ewropeaidd a nodweddion cymwys o’r fath.

3.14 Dylai’r ymagwedd gyffredinol tuag at Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd drwy gydol y broses o baratoi’r cais DCO fod yn ailadroddol er mwyn sicrhau bod sgrinio cadarn o effaith arwyddocaol debygol (LSE) yn cael ei gynnal. Dylai’r ymgynghoriad ar LSE ddatblygu drwy gydol y cam cyn-ymgeisio ac wrth i ganlyniadau tebygol y broses ddod i’r amlwg. Fodd bynnag, er mwyn osgoi dryswch, dim ond un fersiwn derfynol o’r wybodaeth sgrinio Cam 1 y dylid ei chyflwyno.

3.15 Mae’r Gyfraith Achosion (Llys Cyfiawnder Ewrop (ECJ) yn Achos C-323/17, ‘People Over Wind’) wedi sefydlu nad yw’n briodol yng Ngham 1 HRA: Sgrinio i ystyried mesurau a fwriadwyd i osgoi neu leihau effeithiau niweidiol. Mae angen i’r mesurau lliniaru hyn gael eu hystyried yng Ngham 2 HRA: Asesiad Priodol. Gallai ymgeiswyr ddymuno haeru bod mesurau wedi’u gwreiddio/ yn annatod/ wedi’u hymgorffori o fewn y cais DCO. Er bod y safbwynt hwn yn ddichonadwy ac yn agored i’r Ymgeisydd fel ymagwedd, gallai Ymgeiswyr yn lle hynny ddewis mabwysiadu ymagwedd ragofalus a symud unrhyw fesur ymlaen i Gam 2 HRA. Os oes hyder yn effeithiolrwydd y mesur(au) arfaethedig, ni ddylai ystyried y cyfryw fesur(au) yng Ngham 2 HRA arwain at lefel ymdrech ychwanegol amlwg, ond bydd yn lleihau’r angen i graffu ar y weithdrefn a ddilynwyd.

Canlyniadau sgrinio

3.16 Yng Ngham 1 HRA: Sgrinio, mewn perthynas â phob safle Ewropeaidd a nodwedd gymwys, bydd angen i’r Ymgeisydd ddod i gasgliad ar sail y dystiolaeth a gasglwyd ac unrhyw ymatebion i ymgynghoriad ANCB a dderbyniwyd, naill ai:

  1. Ni fyddai unrhyw effaith ddirnadwy ar/lwybrau effaith bosibl ar unrhyw safle Ewropeaidd a’i nodweddion cymwys o ganlyniad i’r Datblygiad Arfaethedig. Mae datganiad i’w ddarparu o fewn dogfennau’r cais i’r perwyl hwn; neu
  2. Gall effaith arwyddocaol debygol (LSE) ar safle(oedd) Ewropeaidd o ganlyniad i’r Datblygiad arfaethedig, ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad â chynlluniau neu brosiectau eraill, gael ei heithrio ac felly nid oes angen symud ymlaen i Gam 2 HRA. Mae NSER i’w ddarparu yn nogfennau’r cais i’r perwyl hwn; neu
  3. Ystyrir bod LSE yn bodoli mewn perthynas â safle(oedd) Ewropeaidd a nodweddion cymwys, naill ai ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad â chynlluniau neu brosiectau eraill, ac mae’n debygol y bydd asesiad priodol gan yr Awdurdod Cymwys yn ofynnol. Dylai’r Ymgeisydd symud i Gam 2 HRA a dogfennu canfyddiadau sgrinio Cam 1 HRA mewn adroddiad HRA.

Cam 2 HRA: Asesiad Priodol

3.17 Mae Cam 2 HRA: Asesiad Priodol yn ofynnol pan na ellir diystyru effeithiau arwyddocaol tebygol (LSE) ar safle(oedd) Ewropeaidd, naill o’r Datblygiad Arfaethedig ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad â chynlluniau neu brosiectau eraill. Mae angen i’r Ymgeisydd ystyried p’un a fydd yr effeithiau hynny’n cael effaith niweidiol ar gyfanrwydd y safle(oedd) Ewropeaidd o ran ei amcanion cadwraeth. Rhaid i’r amcanion cadwraeth ar gyfer pob safle Ewropeaidd a ystyrir yng Ngham 2 HRA gael eu darparu gyda’r Adroddiad HRA.

3.18 Dylai Adroddiad HRA yr ymgeisydd nodi’n glir ba safle(oedd) Ewropeaidd a nodweddion cymwys sy’n cael eu dwyn ymlaen i Gam 2 HRA: Asesiad Priodol, a pha safle(oedd) Ewropeaidd a nodweddion gymwys sydd wedi’u sgrinio allan o asesiad ychwanegol.

3.19 Yng Ngham 2 HRA, dylai’r Apelydd ystyried ffyrdd i osgoi neu leihau (lliniaru) unrhyw botensial am effeithiau niweidiol ar gyfanrwydd (AEol) safle(oedd) Ewropeaidd. Rhaid i fesurau lliniaru y dibynnir arnynt fod wedi’u sicrhau’n ddigonol drwy’r DCO neu fodd arall. Dylid darparu gwybodaeth am sut byddent yn cael eu gweithredu a’u monitro, gan gynnwys y graddfeydd amser cysylltiedig. Dylid datgan effeithlonrwydd y mesurau, ynghyd â pha mor hir y bydd yn ei gymryd i’r mesurau ddod yn weithredol a lefel y llwyddiant a ddisgwylir. Argymhellir gofyn am gyngor gan yr ANCB ynglŷn â’r mesurau lliniaru arfaethedig.

3.20 Dylai’r Adroddiad HRA ddod i gasgliad ynglŷn â ph’un a ellir diystyru effaith niweidiol ar gyfanrwydd (AEol) safle(oedd) Ewropeaidd a nodweddion cymwys neu beidio. Dylai’r wybodaeth hon ‘gael ei hamlygu yng ngoleuni’r wybodaeth wyddonol orau yn y maes’. Rhaid diystyru pob amheuaeth wyddonol resymol na fyddai’r Datblygiad Arfaethedig yn cael AEol, ar ei ben eu hun neu mewn cyfuniad â chynlluniau neu brosiectau eraill; fel arall, bydd angen i asesiad yr Ymgeisydd symud i Gam 3 HRA: Rhanddirymiadau.

3.21 Fel y dywedwyd yn flaenorol, argymhellir yn gryf y dylid ymgynghori â’r ANCB perthnasol ynglŷn â’r Adroddiad HRA, a dylid gofyn am eu safbwyntiau.

Cam 3 HRA 3: Rhanddirymiadau

3.22 Mewn rhai amgylchiadau, lle na ellir eithrio AEol, gall cynnig fynd ymlaen o dan yr hyn a elwir yn rhanddirymiad. Mae tri phrawf cyfreithiol i’r cam hwn, ac mae angen pasio bob prawf er mwyn caniatáu rhanddirymiad. Os yw ANCB, yn ystod y cam cyn-ymgeisio, yn dynodi bod y Datblygiad Arfaethedig yn debygol o effeithio’n niweidiol ar safle(oedd) Ewropeaidd, dylai Ymgeiswyr gynnwys, gyda’u cais DCO, y gyfryw wybodaeth a all fod yn rhesymol angenrheidiol i asesu rhanddirymiadau posibl o dan y Rheoliadau Cynefinoedd. Gellir darparu’r wybodaeth hon gyda’r cais DCO ‘heb ragfarnu’ penderfyniad terfynol yr Ysgrifennydd Gwladol ynglŷn â ph’un a weithredir rhanddirymiadau. P’un a chawsant eu penderfynu gan yr Ymgeisydd neu eu hargymell gan yr ANCB, dylai Ymgeiswyr ddilyn yr argymhellion a ddarperir isod.

Prawf 1: Asesu Datrysiadau Amgen

3.23 Lle mae Ymgeisydd yn nodi effaith niweidiol ar gyfanrwydd (AEol) safle(oedd) Ewropeaidd a’i nodwedd(ion) cymwys, dylai’r Ymgeisydd ddarparu asesiad i nodi ac asesu’r datrysiadau amgen sydd wedi’u hystyried. Dylai’r Ymgeisydd ddiffinio’n glir beth y mae’n ei ystyried yw amcanion y Datblygiad Arfaethedig a pham y gallai’r Datblygiad Arfaethedig effeithio’n niweidiol ar y safle(oedd) Ewropeaidd. Mae’n ddefnyddiol i’r Ymgeisydd gymharu’r datrysiadau amgen a ystyriwyd yn erbyn yr opsiwn ‘gwneud dim’. Gallai datrysiadau amgen gynnwys Datblygiad Arfaethedig mewn lleoliad gwahanol, sy’n defnyddio llwybr gwahanol ar draws safle, neu raddfa, maint, dyluniad, dull neu amseriad gwahanol.

3.24 Er mai’r Awdurdod Cymwys (sef yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol yn yr achos hwn) sydd i benderfynu p’un a oes absenoldeb datrysiadau amgen, mae er budd yr Ymgeisydd i ddarparu’r dystiolaeth er mwyn galluogi’r Awdurdod Cymwys ddod i gasgliad.

3.25 Mae datrysiad amgen yn dderbyniol:

  • os yw’n cyflawni’r un amcan cyffredinol â’r cynnig gwreiddiol;
  • os yw’n ymarferol yn ariannol, yn gyfreithiol ac yn dechnegol; ac
  • os yw’n llai niweidiol i’r safle Ewropeaidd ac nad yw’n cael effaith niweidiol ar gyfanrwydd y safle Ewropeaidd hwn neu unrhyw safle Ewropeaidd arall.

3.26 Mae’r canllawiau ar y cyd hefyd yn nodi enghreifftiau o ddatrysiadau amgen nad ydynt yn cyflawni’r amcan gwreiddiol o bosibl, ac fel y cyfryw ni fyddai angen eu hystyried, fel cynigion sy’n cynnig ynni niwclear yn lle ynni gwynt ar y môr; cludiant ar y rheilffordd yn hytrach nag ar y ffordd; neu fewnforio nwyddau mewn ffordd wahanol yn hytrach na chynyddu capasiti porthladdoedd.

Prawf 2: Ystyried IROPI

3.27 Lle gellir dangos nad oes datrysiadau amgen dichonadwy i’r Datblygiad Arfaethedig a fyddai’n cael llai o effaith neu’n osgoi effaith niweidiol ar gyfanrwydd y safle(oedd) Ewropeaidd, gellid cyflawni’r Datblygiad Arfaethedig o hyd os yw’r Awdurdod Cymwys yn fodlon bod rhaid ei gyflawni o safbwynt IROPI.

3.28 Er mai’r Awdurdod Cymwys sydd i ystyried p’un a oes IROPI i ganiatáu rhanddirymiad, dylai Ymgeiswyr ddarparu gyda’u Hadroddiad HRA y dystiolaeth a’r dadleuon sy’n cyfiawnhau’r Datblygiad Arfaethedig, er gwaetha’r effeithiau niweidiol y bydd yn eu cael neu y gallai eu cael ar y safle(oedd) Ewropeaidd. Dylai’r achos dros IROPI yn yr Adroddiad HRA egluro’r rhesymau pam mae:

  • yn orfodol – mae’n angenrheidiol ei fod yn mynd rhagddo am resymau budd y cyhoedd;
  • er budd y cyhoedd – mae’n fanteisiol i’r cyhoedd, nid yn fanteisiol i fuddiannau preifat yn unig; a
  • thra phwysig – mae budd y cyhoedd yn drech na’r niwed, neu’r risg niwed, i gyfanrwydd y safle(oedd) Ewropeaidd fel y rhagwelwyd gan yr asesiad priodol.

3.29 Mae’r canllawiau yn nodi bod Cynlluniau strategol cenedlaethol, datganiadau polisi a phrosiectau mawr yn fwy tebygol o fod â lefel uchel o fudd y cyhoedd a gallu dangos eu bod yn hanfodol ac yn dra phwysig. Mae cynlluniau neu brosiectau sy’n darparu manteision tymor byr neu leol iawn yn unig yn llai tebygol o allu dangos rhesymau hanfodol er budd cyhoeddus tra phwysig (IROPI).

3.30 Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddweud yn glir a yw’r nodwedd(ion) gymwys yr effeithir arni yn gynefin neu rywogaeth flaenoriaeth, oherwydd yn y cyfryw achosion mae’n rhaid i’r cyfiawnhad IROPI fel arfer ond ystyried rhesymau o fudd y cyhoedd sy’n ymwneud ag iechyd pobl; diogelwch y cyhoedd; neu ganlyniadau buddiol o’r pwys mwyaf i’r amgylchedd. Os yw rhesymau eraill o fudd cyhoeddus tra phwysig yn cael eu hystyried, fel buddion cymdeithasol neu economaidd, rhaid i’r Awdurdod Cymwys ofyn am farn y llywodraeth genedlaethol berthnasol yn Lloegr (Defra, Ysgrifennydd Gwladol) neu Gymru (Gweinidogion Cymru), fel y bo’n gymwys. Er mai’r Awdurdod Cymwys sydd i geisio barn o’r fath, fel y nodwyd uchod, dylai Ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth a chyfiawnhadau am eu rhesymau dros yr achos IROPI, gan gynnwys p’un a yw rhesymau eraill yn cael eu hystyried lle byddai cynefinoedd neu rywogaethau blaenoriaeth yn cael eu heffeithio.

Prawf 3: Mesurau Digolledu

3.31 Os yw’r Ymgeisydd yn bwrw ymlaen o dan Gam 3 HRA: Rhanddirymiadau, rhaid nodi Mesurau Digolledu addas. Dylai’r Adroddiad HRA ddisgrifio’r mesurau a sut y sicrheir eu cyflawni. Mae angen i’r mesurau ddigolledu’n llawn am effeithiau niweidiol y Datblygiad Arfaethedig er mwyn cynnal cydlyniant y rhwydwaith safleoedd cenedlaethol (NSN). Mae’r canllawiau ar y cyd yn pennu ystyriaethau priodol ar gyfer y Mesurau Digolledu, gan gynnwys:

  • ymarferoldeb technegol;
  • hyfywedd ariannol;
  • sut y byddai’r mesurau yn cael eu rhoi ar waith, eu rheoli a’u monitro;
  • pellter o’r safle yr effeithiwyd arno; a
  • faint o amser y byddai’n ei gymryd i’r Mesurau Digolledu gyflawni ansawdd a maint y cynefin gofynnol.

3.32 Dylai Mesurau Digolledu fod ar waith ac yn weithredol cyn y gallai’r effaith negyddol ar y safle(oedd) Ewropeaidd ddigwydd.

3.33 Bydd angen i’r Ysgrifennydd Gwladol, fel yr Awdurdod Cymwys, fod yn fodlon bod yr holl drefniadau angenrheidiol ar gyfer sicrhau bod y mesurau digolledu ar waith cyn y gellid rhoi caniatâd i’r Datblygiad Arfaethedig fynd rhagddo. Dylai’r Ymgeisydd ddarparu gwybodaeth yn ymwneud â’r trefniadau cyfreithiol, ariannol a thechnegol, ynghyd â monitro arfaethedig, fel y mynnir i ddarparu/gyflawni’r mesurau digolledu.

3.34 Anogir ymgeiswyr yn gryf i weithio gyda’r ANCB perthnasol (a thirfeddianwyr, lle bo’n gymwys) i nodi’r Mesurau Digolledu mor gynnar ag y bo modd yn ystod y cam cyn-ymgeisio.

4. Cam Derbyn a’r Archwiliad

4.1 Rhoddir crynodeb o’r broses ar ôl cyflwyno cais DCO ar wefan Cynllunio’r Seilwaith Cenedlaethol a hefyd yn Nodyn Cyngor 8.

Derbyn

4.2 Yn y cam Derbyn, mae’n bwysig nodi nad yw’r Arolygiaeth Gynllunio’n gallu gofyn am ragor o wybodaeth i ategu’r cais DCO. Dylai ymgeiswyr, felly, fod yn ymwybodol fod yna risg sylweddol na fydd y cais am ganiatâd datblygu yn cael ei dderbyn i’w Archwilio o bosibl, os deuir i’r casgliad na ddarparwyd gwybodaeth ddigonol ar gyfer yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.

4.3 Nid yw Derbyn y Datblygiad Arfaethedig, fodd bynnag, yn atal yr Awdurdod Archwilio rhag gofyn am wybodaeth ychwanegol ynglŷn â materion HRA yn ystod yr Archwiliad.

Archwiliad

4.4 Ar unrhyw adeg yn ystod y cam Archwiliad, gall yr Awdurdod Archwilio ofyn i’r Ymgeisydd ddarparu gwybodaeth ychwanegol, mae’n ystyried ei bod yn ofynnol yn rhesymol er mwyn i’r Awdurdod Cymwys ymgymryd â’i asesiad. Os na ellir cyflwyno’r gyfryw wybodaeth, ac ymgynghori arni o fewn cyfnod yr Archwiliad, gall fod rhaid i’r Awdurdod Archwilio ystyried naill ai argymell bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwrthod caniatâd, neu’n ystyried gofyn am estyniad i’r amserlen.

4.5 Os yw’r Awdurdod Archwilio o’r farn fod y wybodaeth yn angenrheidiol er mwyn i’r Datganiad Amgylcheddol a gyflwynwyd gydymffurfio â’r gofynion ar gyfer Datganiad Amgylcheddol a gynhwysir yn y Rheoliadau AEA perthnasol, rhaid i’r Awdurdod Archwilio ohirio ystyried y cais hyd nes y darperir y wybodaeth (i gael rhagor o wybodaeth gweler ‘Y berthynas ag asesu effeithiau amgylcheddol (AEA)’ isod). Fodd bynnag, dylai Ymgeiswyr nodi nad yw gohirio’r Archwiliad yn effeithio ar yr amserlen hwyaf gyffredinol, sef chwe mis, a ganiateir i’r  Awdurdod Archwilio gwblhau’r Archwiliad o’r cais. Mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd ceisio cytundeb, a dod i gytundeb, yn y cam cyn-ymgeisio gyda’r ANCB perthnasol bod gwybodaeth ddigonol wedi’i darparu yn nogfennau’r cais, er mwyn lleihau’r risg y bydd yr Awdurdod Archwilio’n gofyn am wybodaeth ychwanegol, na all yr Ymgeisydd ei darparu o fewn cyfnod chwe mis statudol yr Archwiliad.

Yr Adroddiad ar Oblygiadau i safleoedd Ewropeaidd (RIES)

4.6 Yn ystod y cam Archwiliad, a lle mae Datblygiad Arfaethedig wedi ymgysylltu â’r Rheoliadau Cynefinoedd, gall yr Arolygiaeth Gynllunio ar ran yr Awdurdod Archwilio lunio Adroddiad ar Oblygiadau i safleoedd Ewropeaidd (RIES). Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi, dogfennu a chyfeirio at y wybodaeth yn ymwneud â’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, fel y gellid fod wedi’i darparu yn y cais DCO ac wedi’i chyflwyno yn ystod yr Archwiliad gan yr Ymgeisydd, yr ANCB a Phartïon â Buddiant, hyd at derfyn amser penodedig yr Archwiliad. Bydd y RIES hefyd yn nodi p’un a oes achos ar gyfer Datrysiadau Amgen ac IROPI wedi’i drafod yn yr Archwiliad (lle bo’n berthnasol).

4.7 Bydd y RIES yn nodi’r safbwynt, adeg cyhoeddi, o ran Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) yr Ymgeisydd, ANCB, a Phartïon eraill â Buddiant. Bydd yn amlygu’r materion sydd wedi bod yn ffocws yr Archwiliad ac yn nodi unrhyw faterion sy’n parhau’n destun dadl neu lle mae ansicrwydd yn parhau, er mwyn ceisio eglurder ynglŷn â’r pwyntiau hyn yn aml.

4.8 Mae’r RIES yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr Archwiliad hefyd i hwyluso sylwadau penodol gan yr ANCB perthnasol ar faterion Rheoliadau Cynefinoedd. Gall yr Ysgrifennydd Gwladol ddibynnu ar y broses hon at ddibenion Rheoliad 63(3) y Rheoliadau Cynefinoedd a/neu Reoliad 28(4) y Rheoliadau Morol Alltraeth.

4.9 Bydd yr amserlen ar gyfer ymgynghori ar y RIES yn cael ei phennu gan yr Awdurdod Archwilio a gellir ei drafod yn ystod y Cyfarfod Rhagarweiniol. Fel arfer, bydd yr Awdurdod Archwilio’n caniatáu 21 diwrnod o leiaf o fewn yr amserlen i alluogi ANCB a’r holl Bartïon â Buddiant i adolygu’r RIES ac ymateb i’r ymgynghoriad arno.

4.10 Ar ôl ymgynghori, bydd yr ymatebion yn cael eu hystyried gan yr Awdurdod Archwilio wrth wneud ei argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol, a threfnir ei fod ar gael i’r Ysgrifennydd Gwladol ynghyd â’i adroddiad argymhellion. Nid yw’r RIES yn cael ei ddiwygio ar ôl ymgynghori.

5.     Ystyriaethau Eraill

Y Berthynas ag Asesu Effeithiau Amgylcheddol

5.1 Mae mwyafrif y cynigion NSIP yn debygol o fynnu Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) ac Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (AEA). Er bod yr HRA a’r AEA yn elfennau gwahanol ac annhebyg o’r broses DCO, mae’r ddwy elfen yn anhepgor iddi. Bydd yr AEA yn asesu effeithiau ar safleoedd Ewropeaidd a bydd yn cynnwys asesiad o effeithiau ar fflora a ffawna (fel y’u diffiniwyd yn Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol) 2017 (fel y’u diwygiwyd) (y ‘Rheoliadau AEA’). Mae’r wybodaeth yn debygol o lywio Adroddiad HRA yr Ymgeisydd. Mae’r Rheoliadau AEA yn mynnu bod yr Ysgrifennydd Gwladol neu awdurdod perthnasol, lle bo’n briodol, yn cydlynu’r HRA a’r AEA; fodd bynnag, nid oes rhaid i’r AEA a’r HRA gael eu cyflwyno mewn un ddogfen. Os yw’r Ymgeisydd yn dewis cyfuno’r wybodaeth mewn un ddogfen, dylai fod yn ofalus i sicrhau bod y wybodaeth sy’n berthnasol i’r HRA a’i gasgliadau yn amlwg.

5.2 Mae’r angen i wahaniaethu rhwng casgliadau’r prosesau EIA a HRA yn deillio o ofynion gwahanol y Rheoliadau EIA a’r Rheoliadau Cynefinoedd. Er bod canlyniad yr EIA fel y’i hadroddir yn y Datganiad Amgylcheddol yn amlygu effeithiau amgylcheddol arwyddocaol tebygol o’r Datblygiad Arfaethedig, nid yw’r rhain yn atal y penderfynwr rhag caniatáu awdurdodiad; ond gallai effeithiau arwyddocaol sy’n arwain at effeithiau niweidiol ar gyfanrwydd (AEoI) safle(oedd) Ewropeaidd a nodir trwy broses yr HRA wneud hynny.

Cydlynu caniatadau cyfochrog ac asesiadau priodol eraill

5.3 Mae’n debygol y bydd angen i NSIPs, yn sgil eu graddfa a’u cymhlethdod, fynnu trwyddedau neu ganiatadau ar wahân o dan gyfundrefnau rheoleiddiol eraill. Gallai gweithgareddau y mae angen caniatâd ar eu cyfer nad ydynt wedi’u cynnwys, neu na ellir eu cynnwys, mewn cais am ganiatâd datblygu o dan PA2008, gael effaith arwyddocaol ar safle(oedd) Ewropeaidd hefyd a golygu bod angen cynnal asesiad priodol gan benderfynwr gwahanol (Awdurdod Cymwys) o dan gyfundrefnau rheoleiddiol eraill cyn y gellir ei awdurdodi.

5.4 Anogir ymgeiswyr i ymgynghori ag Awdurdodau Cymwys eraill ynglŷn â lefel y wybodaeth y bydd ei hangen ar yr Awdurdodau Cymwys hynny er mwyn cynnal eu hasesiad priodol, lle bo’n ofynnol. Dylai Ymgeiswyr gadarnhau gyda’r Awdurdodau Cymwys hynny p’un a ydynt yn debygol o ddymuno mabwysiadu rhesymeg neu gasgliadau’r asesiad priodol gynhaliwyd gan yr Awdurdod Cymwys (yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol) o dan broses PA2008.

5.5 Dylai adroddiad HRA yr Ymgeisydd nodi’n glir fod unrhyw effaith arwyddocaol debygol (LSE) o’r Datblygiad Arfaethedig, a allai gael ei rheoleiddio gan Awdurdodau Cymwys eraill, wedi cael ei hystyried yn briodol yn HRA yr Ymgeisydd ar gyfer y cais DCO.

5.6 Os bydd yr Ymgeisydd yn penderfynu gwneud cais, neu os bydd angen iddo wneud cais, am ganiatadau o dan gyfundrefnau rheoleiddiol eraill sydd eu hunain yn mynnu asesiad priodol, dylai’r cais DCO gynnwys gwybodaeth am ba mor debygol yw’r caniatâd (caniatadau) trwydded arall o gael ei awdurdodi. Dylai’r Ymgeisydd hefyd ystyried amseriad y cais am ganiatadau eraill a’r amserlen debygol ar gyfer penderfyniad yr Awdurdod Cymwys ar gyfer caniatadau o’r fath, a’r effaith y gallai hyn ei chael ar yr Archwiliad o’r cais DCO a pharatoi ei asesiad priodol. Er enghraifft, lle mae NSIP yn mynnu Trwydded Amgylcheddol gan Asiantaeth yr Amgylchedd a bod ganddo’r potensial i effeithio ar safle(oedd) Ewropeaidd. Cynghorir ymgeiswyr yn gryf i gyflwyno cais (ceisiadau) am Drwydded Amgylcheddol i Asiantaeth yr Amgylchedd o leiaf 6 mis cyn cyflwyno DCO. Os na chaiff y cais (ceisiadau) DCO a Thrwydded Amgylcheddol eu cydlynu’n briodol, mae yna risg na fydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn gallu rhoi sylwadau ar faterion technegol manwl a godir gan yr Awdurdod Archwilio yn ystod yr Archwiliad o’r DCO. At hynny, gallai methiant i ddatrys y cyfryw faterion cyn diwedd yr archwiliad atal yr ANCB ac Asiantaeth yr Amgylchedd hefyd rhag gallu darparu cyngor cynhwysfawr i’r penderfynwr ynglŷn â’r potensial am effeithiau niweidiol ar gyfanrwydd (AEoI) a graddfa unrhyw fesurau lliniaru neu ddigolledu a fydd yn ofynnol.

5.7 Rhoddir cyngor pellach ynglŷn â gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd yn Atodiad D i Nodyn Cyngor 11. Argymhellir hefyd fod Ymgeiswyr yn cyflwyno gyda’r cais DCO, sylwadau/safbwyntiau perthnasol Awdurdodau Cymwys eraill a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio.

Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop (EPS) ac Adar Gwyllt

5.8 Nid yw cael DCO ar ôl bodloni’r gofynion ar gyfer HRA yn dileu’r angen am unrhyw drwydded a allai fod yn ofynnol hefyd e.e. ar gyfer effeithiau ar Rywogaethau a Warchodir gan Ewrop neu adar gwyllt. Rhoddir cyngor pellach ynglŷn â gweithio gyda Natural England a Cyfoeth Naturiol Cymru yn Atodiad C ac A (yn y drefn honno) i Nodyn Cyngor 11.

6.    Cyflwyno Gwybodaeth

6.1 Dylai ymgeiswyr ddarparu’r wybodaeth HRA ganlynol gyda’u cais:

  • Tabl cryno o’r holl safleoedd Ewropeaidd a nodweddion cymwys a phob llwybr effaith a ystyriwyd ym mhob Cam yr HRA (sgrinio, asesiad priodol/IROPI, a’r rhanddirymiadau, fel y bo’n gymwys), ar gyfer pob cam o’r Datblygiad Arfaethedig (adeiladu, gweithredu, datgomisiynu, fel bo’n berthnasol);
  • copi o’r cyfeiriad/dalen ddata Natura 2000 ar gyfer pob safle Ewropeaidd;
  • copi o’r amcanion cadwraeth ar gyfer yr holl safleoedd Ewropeaidd nad yw LSE wedi’u heithrio ar eu cyfer, ac wedi’u dwyn ymlaen i Gam 2 HRA;
  • cynllun o’r safle(oedd) Ewropeaidd yr effeithir arno/arnynt o bosibl mewn perthynas â’r Datblygiad Arfaethedig (fel y mynnir ei gyflwyno gyda’r cais DCO yn unol â Rheoliad 5(2)(l)(i) y Rheoliadau APFP);
  • datganiad sy’n nodi (gyda rhesymau) p’un a ystyrir a yw effeithiau arwyddocaol yn debygol o ran safleoedd Ewropeaidd mewn gweinyddiaethau datganoledig neu o fewn Gwladwriaethau’r Ardal Economaidd Ewropeaidd;
  • tystiolaeth (fel Cynlluniau Tystiolaeth, copïau o ohebiaeth, cofnodion cytundebau, neu Ddatganiad Tir Cyffredin) o gytundeb rhwng yr Ymgeisydd a’r ANCBs perthnasol (gan gynnwys y rheiny yn y gweinyddiaethau datganoledig a/neu gyrff perthnasol yng Ngwladwriaethau’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, lle bo’n gymwys) ynglŷn â chwmpas, methodolegau, dehongliad, a chasgliadau’r asesiad sgrinio; a
  • chroesgyfeiriadau at ofynion DCO drafft perthnasol, datblygu rhwymedigaethau caniatâd ac unrhyw fecanweithiau eraill a gynigir i sicrhau mesurau y dibynnir arnynt yn yr asesiad priodol ac achosion rhanddirymiad (fel bo’n gymwys), gan gynnwys nodi unrhyw ffactorau a allai effeithio ar sicrwydd neu effeithiolrwydd eu gweithredu.

Telerau a thalfyriadau a ddefnyddiwyd yn y Nodyn Cyngor hwn

AA Asesiad priodol
AEA Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol
AEoI Effeithiau Niweidiol ar Gyfanrwydd
ANCB Corff(Cyrff) Cadwraeth Natur Priodol
Awdurdod Cymwys Yn achos NSIPs yr awdurdod cymwys, y penderfynwr, yw’r Ysgrifennydd Gwladol perthnasol
BEIS Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol
Canllawiau ar y cyd Canllawiau ar y cyd gan Defra, Llywodraeth Cymru, Natural England a Cyfoeth Naturiol Cymru (2021) ‘Asesiadau rheoliadau cynefinoedd: gwarchod safle Ewropeaidd’
Cynllun Tystiolaeth Ffordd o gytuno a chofnodi ymlaen llaw y wybodaeth y mae angen i’r Ymgeisydd ei darparu i’r Arolygiaeth Gynllunio wrth wneud cais am DCO fel y gellir cynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd o’r cais yn effeithlon. Gweler Atodiad H i Nodyn Cyngor 11.
DCO Gorchymyn Caniatâd Datblygu
DECC Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd
EEA Ardal Economaidd Ewropeaidd
ES Datganiad Amgylcheddol
ExA Awdurdod Archwilio
HRA Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd – defnyddir HRA yn y nodyn cyngor hwn i ddisgrifio’r holl gamau yn y broses asesu, gan gynnwys hynny a fynnir gan Reoliad 63 (yr Asesiad Priodol ac ystyriaeth o Effeithiau Niweidiol ar Gyfanrwydd) a Rheoliadau 64 a 68 y Rheoliadau Cynefinoedd (a elwir yn ‘rhanddirymiadau’)
IROPI Rhesymau Hanfodol er Budd Cyhoeddus Tra Phwysig
LSE Effaith arwyddocaol tebygol
Maen/Meini Prawf Y rheswm penodol dros restru Ramsar fel gwlyptir o bwysigrwydd rhyngwladol o dan Gonfensiwn Ramsar. Mae’r meini prawf ar gyfer pob Ramsar wedi’u nodi ar y Daflen Wybodaeth Ramsar. Mae naw o feini prawf penodol ar gyfer dynodi gwlyptiroedd o bwysigrwydd rhyngwladol o dan Gonfensiwn Ramsar.
Nodwedd gymwys Y nodwedd(ion) y mae’r safle Ewropeaidd wedi’i ddynodi ar eu cyfer ac y mae’n rhaid eu gwarchod a’u rheoli ar gyfer cadwraeth

Mewn perthynas â Ramsar, y nodwedd gymwys yw’r rheswm dros restru Ramsar fel gwlyptir o bwysigrwydd rhyngwladol o dan y Confensiwn Ramsar, ac fe’i dynodir fel Maen/Meini Prawf (gweler y diffiniad uchod)

NSIP Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol
NSN Rhwydwaith Safleoedd Cenedlaethol – y rhwydwaith o safleoedd Ewropeaidd yn y DU
PA2008 Deddf Gynllunio 2008
Ramsar Safle gwlyptir o bwys rhyngwladol fel y’i rhestrwyd o dan y Confensiwn ar Wlyptiroedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol 1971 (fel y’i diwygiwyd ym 1982 a 1987)
RIES Adroddiad ar y Goblygiadau i Safleoedd Ewropeaidd
Rhanddirymiadau Rheoliadau 64 a 68 y Rheoliadau Cynefinoedd
Rheoliadau AEA Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol) 2017 (fel y’u diwygiwyd)
Rheoliadau APFP Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009
Rheoliadau Cynefinoedd Er hwylustod mynegiant, mae’r term ‘Rheoliadau Cynefinoedd’ yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau (Diwygio) (Ymadael â’r UE ) 2019) a Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017 (y ‘Rheoliadau Morol Alltraeth’) (hefyd, fel y’u diwygiwyd), oni nodwyd fel arall
Rheoliadau Morol Alltraeth Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017 (fel y’u diwygiwyd)
SAC Ardal Cadwraeth Arbennig
Safle Ewropeaidd Defnyddir y term hwn yn y nodyn cyngor hwn i ddisgrifio safleoedd Ewropeaidd a safleoedd morol alltraeth Ewropeaidd (oni nodwyd fel arall). Mae’n cynnwys ACAau, AGAau, ACAau arfaethedig, AGAau potensial, safleoedd Ramsar (arfaethedig a rhestredig), ac ardaloedd wedi’u sicrhau fel safleoedd sy’n digolledu ar gyfer difrod i safle Ewropeaidd
Safleoedd morol alltraeth Ewropeaidd Safleoedd Ewropeaidd wedi’u dynodi o dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017 (y ‘Rheoliadau Morol Alltraeth’). Maent yn cynnwys AGAau ac ACAau sydd wedi’u lleoli’n gyfan gwbl (neu’n rhannol) y tu hwnt i derfyn 12 milltir forol dyfroedd tiriogaethol y DU.
Safleoedd Natura 2000 Y rhwydwaith o safleoedd Ewropeaidd y tu allan i’r DU
SoCG Datganiad Tir Cyffredin
SPA Ardal Gwarchodaeth Arbennig
UE Undeb Ewropeaidd