Nodyn Cyngor 5 : Adran 53 – Hawliau Mynediad (Deddf Cynllunio 2008)

Statws y Nodyn Cyngor hwn

Mae’r fersiwn hon o nodyn cyngor 5 yn disodli pob fersiwn flaenorol.

Neidio i’r adran:

Cefndir

Mae cais am awdurdodiad adran 53 (a53) (a53 Deddf Cynllunio 2008) ac unrhyw awdurdodiad a53 dilynol yn ymwneud â hawliau mynediad i dir.

Mae nifer o geisiadau am awdurdodiad a dderbyniwyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio hyd yma wedi cael eu cyflwyno heb ddigon o wybodaeth, gan arwain at oedi cyn gwneud penderfyniad. Dylai ymgeiswyr sicrhau eu bod yn darparu’r holl wybodaeth a fanylir yn y nodyn cyngor hwn er mwyn osgoi oedi o’r fath.

Crynodeb o’r Nodyn Cyngor hwn

Mae’r nodyn hwn yn rhoi cyngor i Ymgeiswyr a’r rhai hynny sydd â buddiant yn y tir y mae’r cais am awdurdodiad yn berthnasol iddo (er enghraifft, perchenogion, meddianwyr, tenantiaid a deiliaid prydles) (‘unigolion â buddiant’) ynglŷn â sut mae’r broses yn gweithio a’r hyn y mae angen iddynt ei wneud.

Caiff unigolyn (‘yr Ymgeisydd’) sy’n bwriadu neu sydd wedi gwneud cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu o dan Ddeddf Cynllunio 2008, fel y’i diwygiwyd, wneud cais am awdurdodiad gan yr Ysgrifennydd Gwladol am yr hawl i gael mynediad i dir a berchenogir gan drydydd partïon, er mwyn cynnal arolygon a mesur lefelau a/neu hwyluso cydymffurfiaeth â darpariaethau statudol sy’n gweithredu’r Gyfarwyddeb Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC, dyddiedig 27 Mehefin 1985, ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd (a53(1A)(a) Deddf Cynllunio 2008)) neu’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd (Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EC, dyddiedig 21 Mai 1992, ar gadwraeth cynefinoedd naturiol ac anifeiliaid a phlanhigion gwyllt, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd (a53(1A)(b) Deddf Cynllunio 2008)), o dan a53 Deddf Cynllunio 2008. Gallai hyn gynnwys y pŵer i chwilio a thyllu er mwyn canfod natur yr isbridd neu bresenoldeb mwynau neu sylwedd arall ynddo (a53(3) Deddf Cynllunio 2008) a/neu gymryd a phrosesu samplau (a53(3A) Deddf Cynllunio 2008).

Gall yr Ysgrifennydd Gwladol awdurdodi (a53(1) Deddf Cynllunio 2008) hawl i gael mynediad i dir trydydd parti mewn cysylltiad â’r canlynol yn unig:

  1. cais arfaethedig am Orchymyn Caniatâd Datblygu o dan Ddeddf Cynllunio 2008;
  2. cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu o dan Ddeddf Cynllunio 2008 sy’n ymwneud â’r tir hwnnw neu unrhyw dir arall, a dderbyniwyd i’w archwilio gan yr Ysgrifennydd Gwladol; neu
  3. Orchymyn Caniatâd Datblygu a wnaed o dan Ddeddf Cynllunio 2008, sy’n cynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi caffael y tir hwnnw, neu unrhyw fuddiant ynddo neu hawl drosto, yn orfodol.

Er mwyn rhoi awdurdodiad a53, mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol fod yn fodlon bod yr Ymgeisydd arfaethedig yn ystyried prosiect penodol o sylwedd go iawn sy’n golygu bod angen gwirioneddol i gael mynediad i’r tir (a53(2) Deddf Cynllunio 2008).

Cyn ceisio awdurdodiad a53, dylai Ymgeiswyr fod yn ymwybodol o’r disgwyliadau a amlinellir yng Nghyfarwyddyd yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (DCLG) (Yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol – Deddf Cynllunio 2008: Cyfarwyddyd ynglŷn â Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ffïoedd) 2010 (Mehefin 2013) (‘Cyfarwyddyd y DCLG’)). Mae hyn yn cynnwys y disgwyliad bod Ymgeiswyr wedi gweithredu’n rhesymol, trwy ddangos eu bod wedi ceisio cael y caniatâd perthnasol i gael mynediad i’r tir yn uniongyrchol yn gyntaf, a’u bod yn credu y gwrthodwyd y mynediad hwnnw iddynt yn afresymol (Cyfarwyddyd y DCLG, Atodiad A).

Dylai’r cais/ceisiadau am awdurdodiad a wneir gan yr Ymgeisydd ac unrhyw sylwadau gan yr unigolion â buddiant gael eucyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio, sy’n penderfynu ar geisiadau o’r fath ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol. Rhoddir manylion cyswllt ar ddiwedd y nodyn cyngor hwn o dan y pennawd ‘Gwybodaeth ychwanegol’.

Mae gweddill y nodyn cyngor hwn wedi’i rannu’n dair adran:

  • A. Gwybodaeth a chyngor i Ymgeiswyr
  • B. Gwybodaeth a chyngor i unigolion â buddiant
  • C. Gwybodaeth a chyngor cyffredinol i Ymgeiswyr ac unigolion â buddiant

Gofynnir i bawb sy’n gysylltiedig geisio eu cyngor cyfreithiol eu hunain y gallant ddibynnu arno cyn cyflwyno cais am awdurdodiad a53 neu wneud sylwadau arno.

A) Gwybodaeth a chyngor i Ymgeiswyr

Mae’r adran hon yn rhoi cyngor i Ymgeiswyr ar y wybodaeth y dylid ei chyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio.

1. Cysylltu â’r Arolygiaeth Gynllunio cyn gwneud cais am awdurdodiad i gael yr hawl i gael mynediad i dir

1.1 Anogir ymgeiswyr yn gryf i gysylltu â’r Arolygiaeth Gynllunio o leiaf bedair wythnos cyn cyflwyno unrhyw gais/ceisiadau am awdurdodiad a53. Gall yr Arolygiaeth Gynllunio roi cyngor ynglŷn â’r dystiolaeth y bydd angen i’r Ymgeisydd ei darparu a nifer debygol y ceisiadau am awdurdodiad, yn ogystal â manylion am y ffïoedd a sut y gellir talu.

2. Nifer y ceisiadau am awdurdodiad

2.1 Mae gan yr Arolygiaeth Gynllunio y disgresiwn i bennu nifer y ceisiadau am awdurdodiad a wneir gan yr Ymgeisydd (Cyfarwyddyd y DCLG, Atodiad A). Yn gyffredinol, ac o ystyried Cyfarwyddyd y DCLG, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn trin pob llain o dir sy’n cynrychioli teitl cofrestredig neu ardal o dir anghofrestredig fel un cais am awdurdodiad a53.

2.2 Fodd bynnag, fe allai fod amgylchiadau lle y dylai cais am awdurdodiad a53 sy’n cynnwys mwy nag un llain o dir gael ei drin fel un cais am awdurdodiad. Gallai hyn gynnwys sefyllfaoedd lle mae’n ymddangos bod perchenogaeth ar dir wedi’i his-rannu’n benodol i greu’r angen am geisiadau lluosog, neu lle mae sawl llain o dir yn cael eu dal gan yr un tirfeddiannwr/tirfeddianwyr ac mae’r lleiniau hyn o dir yn ddigon agos i’w gilydd. Dylai Ymgeiswyr roi cyfiawnhad i’r Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â pham y gallai un ffi fod yn briodol, gan ystyried sut mae’r holl leiniau tir yn berthnasol i’w gilydd a chymhlethdod y teitlau.

3. Ffïoedd

3.1 Mae’r ffi gyfredol sy’n daladwy fesul cais ac yn cael ei phennu gan y Rheoliadau (Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ffïoedd) 2010 (OS 2010/106) (fel y’u diwygiwyd) (‘y Rheoliadau Ffïoedd’) neu unrhyw ddeddfwriaeth ddiwygio neu ddisodli ddilynol sydd mewn grym am y tro). Mae ffïoedd yn daladwy trwy daliad BACS. Cysylltwch â’r Arolygiaeth Gynllunio i gael y manylion talu hyn (gweler y manylion cyswllt ar ddiwedd y nodyn cyngor hwn).

3.2 Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn anfon cadarnhad at yr Ymgeisydd ei bod wedi derbyn y ffi/ffïoedd a’r cais/ceisiadau am awdurdodiad. Bydd peidio â thalu’r ffi/ffïoedd yn oedi’r broses oherwydd ni fydd y cais yn cael ei ystyried hyd nes y derbynnir y taliad cywir.

3.3 Ni fydd ad-daliad yn cael ei roi os bydd cais am awdurdodiad yn cael ei dynnu’n ôl.

4. Y wybodaeth sydd i’w darparu gyda chais/ceisiadau am awdurdodiad a53

4.1 Nid yw Deddf Cynllunio 2008 yn rhagnodi ffurflen na phroses i’w dilyn wrth geisio awdurdodiad o dan a523. Dylid cyflwyno’r cais/ceisiadau am awdurdodiad a53 yn ysgrifenedig i’r Arolygiaeth Gynllunio. Dylai’r Ymgeisydd roi un copi caled ac un copi electronig o bob cais am awdurdodiad a53 i’r Arolygiaeth Gynllunio, a ddylai gynnwys yr un wybodaeth. Ni ddylai’r wybodaeth a ddarperir yn electronig fod wedi’i diogelu na’i hamgryptio. Dylai’r copi caled o bob cais gael ei ddarparu mewn ffolder A4. Lle y cyflwynir sawl cais, dylid darparu ffolder A4 ar wahân ar gyfer pob cais. Lle y gwneir mwy nag un cais am awdurdodiad ar yr un dyddiad, gallai’r Ymgeisydd ddymuno osgoi dyblygu dogfennau cyffredin trwy gynhyrchu ffolder dogfennau craidd ar wahân y croesgyfeirir ato ym mhob cais am awdurdodiad.

4.2 Dylai llythyr eglurhaol y cais/ceisiadau am awdurdodiad gynnwys yr holl wybodaeth a restrir isod ac amlygu ble mae’r wybodaeth i ategu cais/ceisiadau’r Ymgeisydd am awdurdodiad wedi’i lleoli ym mhob ffolder. Dylid gwneud hyn trwy gyfeirio at ‘Tab’ penodol ym mhob ffolder, a labelir yn eglur fel a ganlyn:

  • A1. Manylion cyswllt
  • A2. Disgrifiad o’r prosiect y mae angen caniatâd datblygu ar ei gyfer neu y rhoddwyd caniatâd datblygu ar ei gyfer
  • A3. Esboniad o’r rhesymau pam mae angen awdurdodiad, gan ystyried y meini prawf ar gyfer awdurdodiad a53
  • A4. Manylion am yr arolygon a’r gwaith arfaethedig
  • A5. Amlygu unigolion â buddiant
  • A6. Cynlluniau sy’n amlygu’r tir y ceisir awdurdodiad i gael mynediad iddo
  • A7. Gwybodaeth sy’n dangos bod yr Ymgeisydd wedi gweithredu’n rhesymol ac y gwrthodwyd mynediad i’r tir iddo’n afresymol
  • A8. Tystiolaeth sy’n dangos yr hysbyswyd yr unigolion â buddiant bod cais am awdurdodiad wedi’i wneud i’r Arolygiaeth Gynllunio
  • A9. Am ba hyd y ceisir awdurdodiad a53
  • A10. Unrhyw amodau y mae’r Ymgeisydd yn credu y dylid eu pennu ar gyfer rhoi awdurdodiad a53
  • A11. Rhestr wirio

Esbonnir y wybodaeth uchod ymhellach yn yr adrannau canlynol.

A1 – Manylion cyswllt

A1.1 Dylid darparu enw llawn, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost yr unigolyn neu’r sefydliad sy’n gwneud y cais/ceisiadau. Os yw’r cais am awdurdodiad yn cael ei wneud gan sefydliad, dylid enwi unigolyn cyswllt yn y sefydliad ac, mewn achosion o’r fath, os rhoddir yr awdurdodiad, y sefydliad ei hun fydd yr ‘unigolyn a awdurdodwyd’ i gael mynediad i’r tir.

A1.2 Os yw’r cais/ceisiadau am awdurdodiad yn cael ei wneud/eu gwneud gan asiant sy’n gweithredu ar ran yr Ymgeisydd, dylai’r un wybodaeth y gofynnir amdani uchod gael ei darparu ar gyfer yr Ymgeisydd a’r asiant.

A1.3 Lle mae Ymgeisydd yn cyflogi asiant i weithredu ar ei ran, dylai’r Ymgeisydd neu’r asiant ddarparu cadarnhad ysgrifenedig gan yr Ymgeisydd fod yr asiant wedi’i awdurdodi i weithredu ar ei ran.

A2 – Disgrifiad o’r prosiect y mae angen caniatâd datblygu ar ei gyfer neu y rhoddwyd caniatâd datblygu ar ei gyfer

  1. Lle nad yw cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu wedi cael ei gyflwyno eto: Disgrifiad o’r prosiect seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol (NSIP) arfaethedig ac unrhyw ddatblygiad cysylltiedig.
  2. Lle mae cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu wedi cael ei dderbyn i’w archwilio: Cyfeirnod y cais.
  3. Lle mae cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu wedi cael ei roi: Copi o’r Gorchymyn Caniatâd Datblygu a’r cynlluniau tir. Dylai’r Ymgeisydd amlygu yn y llythyr eglurhaol ddarpariaeth(au) perthnasol y Gorchymyn Caniatâd Datblygu sy’n awdurdodi caffael y tir dan sylw yn orfodol (neu fuddiant ynddo neu hawl drosto).

A3 – Esboniad o’r rhesymau pam mae angen awdurdodiad, gan ystyried diben gwneud cais am yr hawl i gael mynediad i dir a bodloni’r meini prawf ar gyfer awdurdodiad a53

A3.1 Dylai’r Ymgeisydd roi esboniad llawn o’r rhesymau pam y ceisir awdurdodiad am yr hawl i gael mynediad. Dylai’r Ymgeisydd nodi p’un a yw mynediad i’r tir ar gyfer ‘arolygu a mesur lefelau’ (a53(1) Deddf Cynllunio 2008) a/neu er mwyn hwyluso cydymffurfiaeth â’r Gyfarwyddeb Asesu Effeithiau Amgylcheddol a/neu’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd (a53(1), a53(1A) ac a53(3A) Deddf Cynllunio 2008).

A3.2 Pan fydd Ymgeiswyr yn ceisio awdurdodiad ar gyfer ‘arolygu a mesur lefelau’ ar y tir, dylent hefyd nodi p’un a ydynt yn gofyn am awdurdodiad i ‘chwilio a thyllu er mwyn canfod natur yr isbridd neu bresenoldeb mwynau neu sylwedd arall ynddo’ (a53(1) ac a53(3) Deddf Cynllunio 2008). Lle y ceisir awdurdodiad i gynnwys y pŵer i ‘chwilio a thyllu’, bydd hyn yn cael ei ystyried yn gais am arolygon ymwthiol, a ddylai gael ei adlewyrchu yn yr amodau drafft a gynigir gan yr Ymgeisydd.

(i) Lle nad yw cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu wedi cael ei gyflwyno eto:

A3.3 Dylai’r Ymgeisydd fod yn ymwybodol bod yr Arolygiaeth Gynllunio, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, yn gallu awdurdodi mynediad mewn perthynas â chais Gorchymyn Caniatâd Datblygu arfaethedig dim ond os yw’n ymddangos iddynt fod yr ‘ymgeisydd arfaethedig yn ystyried prosiect penodol o sylwedd go iawn sy’n golygu bod angen gwirioneddol i gael mynediad i’r tir’(a53(1)(b) ac a53(2)(a) Deddf Cynllunio 2008).

A3.4 I ddangos bod yr Ymgeisydd yn ‘ystyried prosiect penodol o sylwedd go iawn’, gallai’r Ymgeisydd, er mwyn rhoi enghraifft, ddarparu’r wybodaeth ganlynol:

  1. manylion am ba gam o’r ymgynghoriad cyn-ymgeisio y mae’r Ymgeisydd wedi ei gyrraedd yn y prosiect;
  2. p’un a yw’r Ymgeisydd wedi rhoi hysbysiad o dan a46 Deddf Cynllunio 2008; a
  3. ph’un a yw’r Ymgeisydd wedi gofyn am farn sgrinio neu gwmpasu gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

A3.5 I ddangos bod y prosiect arfaethedig yn un ‘sy’n golygu bod angen gwirioneddol i gael mynediad i’r tir’, dylai’r Ymgeisydd esbonio pam mae angen mynediad, gan ystyried p’un a geisir mynediad o dan ddarpariaethau a53(1) a/neu a53(1A) Deddf Cynllunio 2008. Gallai’r Ymgeisydd roi manylion am yr arolygon a’r gwaith arfaethedig i ddangos tystiolaeth o hyn (cyfeiriwch at Adran A4 isod i gael rhagor o fanylion).

(ii) Lle mae cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu wedi cael ei dderbyn i’w archwilio; neu

(iii) Lle mae cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu wedi cael ei roi:

A3.6 Lle mae cais am awdurdodiad a53 yn ymwneud â chais am Orchymyn Caniatâd Datblygu a dderbyniwyd i’w archwilio, neu Orchymyn Caniatâd Datblygu a roddwyd (gan gynnwys darpariaeth sy’n awdurdodi caffael y tir neu fuddiant ynddo neu hawl drosto yn orfodol), mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn disgwyl i’r Ymgeisydd ddangos bod ganddo angen go iawn i gael mynediad i’r tir.

A4 – Manylion am yr arolygon a’r gwaith arfaethedig

A4.1 Dylai’r Ymgeisydd nodi’n eglur pa arolygon y mae’n bwriadu eu cynnal, amlinellu ei fethodoleg ac esbonio pam mae’r arolygon yn gysylltiedig â’r Gorchymyn Caniatâd Datblygu arfaethedig/a dderbyniwyd i’w archwilio/a roddwyd.

A4.2 Dylid darparu’r wybodaeth ganlynol mewn perthynas â phob cais am awdurdodiad:

  • cwmpas arolygon a ph’un a yw’r rhain wedi cael eu cytuno ag unrhyw gyrff rheoleiddiol/amgylcheddol perthnasol;
  • ardal, graddfa amser a chyfnod yr arolwg, gan gynnwys syniad o b’un a fyddai angen ailymweliadau ai peidio; ac
  • unrhyw ofynion eraill yr arolwg, gan gynnwys mynediad i adeiladau ac arolygon yn ystod y nos.

Aflonyddu rhywogaethau a warchodir

A4.3 Ni fydd unrhyw awdurdodiad a allai gael ei roi gan yr Arolygiaeth Gynllunio, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, o dan a53 Deddf Cynllunio 2008 yn ymestyn i awdurdodi mynediad i dir ar gyfer unrhyw weithgarwch a allai arwain at gyflawni trosedd o dan:

  • y Rheoliadau Cynefinoedd (Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 (OS 490) fel y’u diwygiwyd (‘y Rheoliadau Cynefinoedd’)) (Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop);
  • Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd); neu
  • ddeddfwriaeth ar gyfer diogelu rhywogaethau penodol, er enghraifft, Deddf Diogelu Moch Daear 1992.

A4.4 Os bydd Ymgeisydd eisiau cynnal gweithgareddau arolygu ar y tir a allai arwain at gyflawni trosedd, dylid ystyried p’un a oes angen cael trwydded gan y corff cadwraeth natur perthnasol, er enghraifft Natural England neu Cyfoeth Naturiol Cymru. Pan fydd angen trwydded, yr Ymgeisydd fydd yn gyfrifol am sicrhau’r drwydded cyn cynnal yr arolygon, os rhoddir awdurdodiad a53 gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol.

A5 – Amlygu unigolion â buddiant

A5.1 Dylid amgáu tabl (‘y Tabl’) gyda’r cais/ceisiadau am awdurdodiad sy’n rhoi’r wybodaeth hysbys am y tir y mae’r cais/ceisiadau am awdurdodiad a53 yn berthnasol iddo a phwy yw’r unigolion â buddiant. Er nad yw categorïau’r unigolion y gall yr Ymgeisydd gyflwyno hysbysiad awdurdodiad a53 iddynt wedi’u rhagnodi yn a53 Deddf Cynllunio 2008, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn disgwyl i’r Ymgeisydd amlygu perchenogion, meddianwyr, tenantiaid a deiliaid prydles y tir y mae’r cais/ceisiadau am awdurdodiad a53 yn berthnasol iddo, ac ymgynghori â nhw a’u hysbysu. Awgrymir fformat ar gyfer y Tabl yn Atodiad A.

A5.2 Dylai’r Ymgeisydd esbonio sut yr amlygwyd pob unigolyn â buddiant. Dylai hyn gynnwys

  • o ran lleiniau cofrestredig o dir: darparu copïau swyddogol cyfredol o’r teitl cofrestredig a’r cynlluniau teitl. (Yn gyffredinol, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn disgwyl i’r dyddiad ar y copïau swyddogol beidio â bod yn hwy na 3 mis o’r dyddiad y cyflwynwyd y cais/ceisiadau am awdurdodiad a53 i’r Arolygiaeth Gynllunio.) Pan fydd y tir yn gofrestredig, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn disgwyl i’r Ymgeisydd ymgynghori ag unrhyw un sydd â buddiant cofrestredig ynglŷn â’r cais/ceisiadau arfaethedig am awdurdodiad a53 a’u hysbysu os gwneir cais/ceisiadau am awdurdodiad. Pan fydd yr Ymgeisydd o’r farn nad yw’r dull hwn yn briodol, dylid esbonio’r rhesymau pam yn eglur yn y cais am awdurdodiad; ac
  • o ran lleiniau anghofrestredig o dir: darparu tystiolaeth sy’n dangos bod y tir yn anghofrestredig, fel copi cyfredol o dystysgrif canlyniad chwiliad o’r map mynegai mewn perthynas â’r tir (gan gynnwys y map a gyflwynwyd i’r Gofrestrfa Tir i gynnal y chwiliad). (Yn gyffredinol, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn disgwyl i’r dyddiad ar dystysgrif canlyniad y chwiliad o’r map mynegai beidio â bod yn hwy na 3 mis o’r dyddiad y cyflwynwyd y cais/ceisiadau am awdurdodiad a53 i’r Arolygiaeth Gynllunio.) Dylai’r Ymgeisydd hefyd ddarparu tystiolaeth sy’n dangos sut yr amlygwyd bod gan yr unigolion â buddiant fuddiant yn y tir anghofrestredig hwn. Er enghraifft, cadarnhad ysgrifenedig gan yr unigolion â buddiant neu gofnod o gyfarfod lle y cadarnhaodd yr unigolyn ei fuddiant yn y tir.

Tir Ymgymerwyr Statudol

A5.3 Mae angen awdurdod Gweinidog priodol mewn perthynas â thir a ddelir gan ymgymerwyr statudol (Mae ‘ymgymerwyr statudol’ yn golygu unigolion sydd, neu yr ystyrir eu bod, yn ymgymerwyr statudol at ddiben unrhyw un o ddarpariaethau Rhan 11 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (a53(11) Deddf Cynllunio 2008)) sy’n gwrthwynebu’r arolygon arfaethedig oherwydd y byddai’r gwaith yn achosi niwed difrifol i gynnal eu hymgymeriad (a53(10) Deddf Cynllunio 2008). Yn achos tir yng Nghymru a ddelir gan ymgymerwyr dŵr neu garthffosiaeth, mae’n rhaid cael unrhyw awdurdodiad o’r fath gan Weinidogion Cymru (a53(11) Deddf Cynllunio 2008).

A5.4 Cynghorir Ymgeiswyr i gysylltu â’r Arolygiaeth Gynllunio cyn cyflwyno cais am awdurdodiad a53 lle yr amlygwyd bod y cais arfaethedig yn cynnwys tir a ddelir gan ymgymerwyr statudol.

Tir y Goron

A5.5 Caiff awdurdodiad a53 roi’r hawl i gael mynediad i Dir y Goron (a54 Deddf Cynllunio 2008). Fodd bynnag, ni all unigolyn arfer yr hawl honno oni bai bod ganddo ganiatâd awdurdod priodol y Goron neu awdurdod unigolyn sy’n ymddangos bod ganddo’r hawl i roi’r caniatâd hwnnw.

A6 – Cynlluniau sy’n amlygu’r tir y ceisir awdurdodiad i gael mynediad iddo

A6.1 Dylid darparu cynllun, a farciwyd yn ‘Gynllun A’, i gyd-fynd â’r Tabl. Dylai Cynllun A ddangos y wybodaeth ganlynol:

  • wedi’i amlinellu mewn coch: maint y datblygiad a’r gwaith (mae’n rhaid i’r cynllun gwaith (sy’n ofynnol o dan reoliad 5(2)(j) Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009 (OS 2264)(fel y’u diwygiwyd)), ddangos y wybodaeth hon hefyd);
  • wedi’i amlygu mewn glas: unrhyw dir a berchenogir neu a reolir gan yr Ymgeisydd, neu dylid rhoi cadarnhad nad oes unrhyw dir a berchenogir neu a reolir gan yr Ymgeisydd wedi’i ddangos ar Gynllun A; ac
  • wedi’i amlygu mewn gwyrdd: tir y ceisir hawl mynediad iddo, os awdurdodir hynny’n ddiweddarach gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol.

A6.2 Ni ddylai Cynllun A fod yn fwy na maint AO, dylai fod wedi’i lunio wrth raddfa a nodwyd (nad yw’n llai na 1:2500) a dylai ddangos cyfeiriad y gogledd.

A6.3 Lle mae unrhyw ran o’r tir a amlygir mewn gwyrdd ar Gynllun A yn gofrestredig, dylid dangos ffin y rhif(au) teitl cofrestredig yn eglur ar Gynllun A a neilltuo rhif llain iddi. Dylai ffin y rhifau teitl cofrestredig a ddangosir ar Gynllun A gyfateb yn union i ffin y rhif teitl a ddangosir ar gopi swyddogol y cynllun teitl. Lle nad yw hyn yn wir, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ceisio eglurhad gan yr Ymgeisydd a/neu’r unigolion â buddiant. Dylai’r rhif(au) llain a neilltuwyd a’r rhif(au) teitl cofrestredig gael eu croesgyfeirio’n eglur i’r Tabl, a dylid rhoi copïau swyddogol cyfredol o ddogfennau’r Gofrestrfa Tir i’r Arolygiaeth Gynllunio.

A6.4 Lle mae unrhyw ran o’r tir a amlygir mewn gwyrdd ar Gynllun A yn anghofrestredig, dylid dangos ffin y tir anghofrestredig yn eglur ar Gynllun A a neilltuo rhif llain iddi. Dylai’r rhif(au) llain a neilltuwyd fod yn amlwg yn y Tabl a dylid rhoi disgrifiad eglur o ardal y llain trwy gyfeirio at y ffin ac unrhyw nodweddion ffisegol. Dylai cyfeirnodau grid yr Arolwg Ordnans ar gyfer pob llain o dir anghofrestredig gael eu cynnwys yn y Tabl.

A6.5 Lle na ellir dangos ehangder llawn y tir sy’n ofynnol ar gyfer y datblygiad arfaethedig, neu’r tir y mae’r datblygiad arfaethedig yn effeithio arnoA (er enghraifft, mae’n rhaid i’r cynllun tir (sy’n ofynnol o dan reoliad 5(2)(i) Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009 (OS 2264) (fel y’u diwygiwyd)), ddangos y wybodaeth hon a gellid ei ddefnyddio fel sail ar gyfer Cynllun A), ar un ‘Cynllun A’, er enghraifft o ganlyniad i faint y datblygiad arfaethedig, dylid darparu ‘Cynllun Allwedd’ gyda mewnosodiadau. Dylai’r Cynllun Allwedd ddangos ehangder llawn y tir sy’n ofynnol ar gyfer y datblygiad arfaethedig, neu’r tir y mae’r datblygiad arfaethedig yn effeithio arno, a lleoliad y llain/lleiniau tir y ceisir awdurdodiad ar eu cyfer a’r cynlluniau mewnosod, y dylid eu hanodi fel Cynllun A1; Cynllun A2 ac ati.

A7 – Gwybodaeth sy’n dangos bod yr Ymgeisydd wedi gweithredu’n rhesymol ac y gwrthodwyd mynediad i’r tir iddo’n afresymol

A7.1 Er nad oes prawf statudol mewn perthynas â’r hyn y dylai’r Ymgeisydd ei wneud i geisio cael mynediad i’r tir cyn gwneud cais am awdurdodiad a53 i’r Arolygiaeth Gynllunio, mae Cyfarwyddyd y DCLG yn datgan ‘Disgwylir i Ymgeiswyr weithredu’n rhesymol, gan geisio cael caniatâd perthnasol yn gyntaf i gael mynediad i’r tir yn uniongyrchol cyn ceisio awdurdodiad o dan y darpariaethau hyn. Yn benodol, dylai Ymgeiswyr gyflwyno ceisiadau dim ond i gael mynediad i leiniau o dir yr ystyriant y gwrthodwyd rhoi’r hawl iddynt gael mynediad iddynt yn afresymol’ (Cyfarwyddyd y DCLG, Atodiad A).

A7.2 Felly, disgwylir i Ymgeiswyr ddangos eu bod wedi gwneud ymdrech resymol i gael mynediad i’r tir a amlygir mewn gwyrdd ar Gynllun A cyn cyflwyno’r cais/ceisiadau am awdurdodiad a53 i’r Arolygiaeth Gynllunio, ac esbonio pam, yn eu barn nhw, y gwrthodwyd y mynediad hwnnw iddynt yn afresymol.

A7.3 Lle bynnag y bo’n bosibl, disgwylir i’r Ymgeisydd a’r unigolion â buddiant ohebu a thrafod â’i gilydd mewn ymgais i gael mynediad i’r tir, cyn gwneud y cais/ceisiadau am awdurdodiad a53. Pan fydd y trafodaethau wedi digwydd dros gyfnod byr, dylai’r Ymgeisydd esbonio yn ei lythyr eglurhaol pam mae’n credu y gwrthodwyd mynediad iddo’n afresymol, o ystyried y cyfnod byr i ddod i gytundeb â’r unigolion â buddiant.

A7.4 Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn disgwyl i’r Ymgeisydd roi gwybod i’r unigolion â buddiant ei fod yn ystyried ceisio awdurdodiad o dan a53, a hynny cyn gwneud y cais/ceisiadau am awdurdodiad, gan gyfeirio’r unigolion hyn at y nodyn cyngor hwn. Dylai Ymgeiswyr hefyd geisio trafod amodau posibl i’w cysylltu ag unrhyw awdurdodiad a53 posibl gyda’r unigolion â buddiant, cyn gwneud y cais/ceisiadau am awdurdodiad. Dylai’r Ymgeisydd ddarparu tystiolaeth o drafodaethau o’r fath yn y cais/ceisiadau am awdurdodiad.

Atodlen Gohebiaeth

A7.5 Er mwyn cynorthwyo’r Arolygiaeth Gynllunio i adolygu’r cais/ceisiadau am awdurdodiad, dylai’r Ymgeisydd ddarparu atodlen (‘yr Atodlen Gohebiaeth’) sy’n amlinellu unrhyw ohebiaeth rhwng yr Ymgeisydd a’r unigolion â buddiant a/neu eu hasiant, sy’n cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • unrhyw lythyrau, nodiadau cyfarfod a nodiadau ffôn perthnasol
  • y dyddiadau yr anfonwyd ac y derbyniwyd yr ohebiaeth.

A7.6 Dylid darparu copïau o’r dogfennau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen Gohebiaeth gyda’r cais/ceisiadau am awdurdodiad. Lle mae’r dogfennau hyn yn cyfeirio at unrhyw ddogfennau eraill e.e. llythyrau blaenorol, dylid darparu’r rhain hefyd. Os na ddarperir y dogfennau hyn, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn gofyn am gopïau, a allai achosi oedi cyn gwneud penderfyniad ynglŷn â’r cais/ceisiadau am awdurdodiad.

Gohebu â mwy nag un unigolyn â buddiant

A7.7 Os oes mwy nag un unigolyn â buddiant yn y tir mewn perthynas â phob cais am awdurdodiad a53, ond mae’r Ymgeisydd wedi bod yn gohebu ag unigolyn penodol, dylai’r Ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig fod gan yr unigolyn hwn yr awdurdod i weithredu ar ran yr holl unigolion â buddiant.

A7.8 Yn yr un modd, os yw’r Ymgeisydd wedi bod yn gohebu ag asiant ar ran yr unigolion â buddiant, dylid darparu tystiolaeth ysgrifenedig i gadarnhau bod gan yr asiant yr awdurdod i weithredu ar ran yr unigolion â buddiant.

A7.9 Dylai’r dystiolaeth hon fod ar ffurf gohebiaeth gan yr holl unigolion â buddiant sy’n cadarnhau bod gan yr unigolyn penodol/asiant yr awdurdod i weithredu ar eu rhan.

A8 – Tystiolaeth sy’n dangos yr hysbyswyd yr unigolion â buddiant bod cais am awdurdodiad wedi’i wneud i’r Arolygiaeth Gynllunio

A8.1 Nid yw’n ofynnol i’r Arolygiaeth Gynllunio ymgynghori â’r unigolion â buddiant yn y tir ar ôl i gais am awdurdodiad a53 gael ei gyflwyno. Fodd bynnag, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn disgwyl i’r Ymgeisydd anfon llythyr hysbysu at bob unigolyn a amlygwyd gan yr Ymgeisydd yn y Tabl (ac anfon copi ohono at asiantau sy’n gweithredu ar eu rhan, os yw’n berthnasol), sy’n cynnwys copi union o’r cais/ceisiadau am awdurdodiad a ddarparwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio. Dylai’r llythyr hysbysu roi gwybod i’r unigolion â buddiant y cânt gyflwyno sylwadau i’r Arolygiaeth Gynllunio ar y cais/ceisiadau am awdurdodiad erbyn y dyddiad a nodir yn y llythyr hysbysu; ni ddylai’r dyddiad hwn fod llai na 14 diwrnod yn dechrau y diwrnod ar ôl y diwrnod y disgwylir i’r unigolion â buddiant dderbyn yr hysbysiad. Er enghraifft, os anfonir y llythyr trwy ddanfoniad arbennig sy’n gwarantu y bydd yn cyrraedd y diwrnod wedyn, bydd y cyfnod lleiaf o 14 diwrnod yn dechrau y diwrnod ar ôl y diwrnod y disgwylir i’r llythyr gyrraedd h.y. 2 ddiwrnod ar ôl i’r llythyr gael ei anfon.

A8.2 Os yw’r tir yn gofrestredig, dylid anfon copi o’r cais am awdurdodiad i gyfeiriad yr unigolion â buddiant, fel yr amlygir yn y Rhif Teitl cofrestredig perthnasol. Os anfonir gohebiaeth i gyfeiriad sy’n wahanol i’r cyfeiriad hwnnw, dylai’r Ymgeisydd esbonio pam yn y llythyr cais am awdurdodiad.

A8.3 Dylai pob unigolyn a restrir yn y Tabl dderbyn copi ar wahân o’r dogfennau, hyd yn oed os yw’r Rhif Teitl cofrestredig perthnasol yn dangos bod dau neu fwy ohonynt wedi’u cofrestru yn yr un cyfeiriad. Diben hyn yw sicrhau yr anfonir copi o’r llythyr hysbysu a’r cais am awdurdodiad at bob un ohonynt.

A8.4 Dylid rhoi copïau o’r llythyrau hysbysu i’r Arolygiaeth Gynllunio. Dylai Ymgeiswyr fod yn ymwybodol y gallai’r Arolygiaeth Gynllunio ofyn am dystiolaeth i ddangos bod y llythyrau hysbysu hyn wedi cael eu danfon, e.e. os yw’r unigolion â buddiant yn honni nad ydynt wedi derbyn y llythyr hysbysu. Felly, dylai Ymgeiswyr ystyried o flaen llaw sut y gallai’r dystiolaeth hon gael ei darparu.

A8.5 TBydd yr Arolygiaeth Gynllunio hefyd yn ysgrifennu at yr unigolion â buddiant i gadarnhau bod cais am awdurdodiad wedi cael ei wneud gan yr Ymgeisydd ac i gadarnhau’r dyddiad erbyn pryd y dylent gyflwyno unrhyw sylwadau i’r Arolygiaeth Gynllunio (bydd y dyddiad hwn yr un fath â hwnnw a nododd yr Ymgeisydd yn ei lythyr hysbysu at yr unigolion â buddiant, cyn belled ag nad yw’r dyddiad olaf a bennwyd gan yr Ymgeisydd llai na 14 diwrnod yn dechrau y diwrnod ar ôl y diwrnod y disgwylir i’r unigolion â buddiant dderbyn yr hysbysiad). Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn tybio nad oes gan yr unigolion â buddiant unrhyw sylwadau i’w gwneud ar y cais am awdurdodiad a53 os nad yw’r Arolygiaeth Gynllunio wedi derbyn unrhyw sylwadau erbyn y dyddiad hwn.

A9 – Am ba hyd y ceisir awdurdodiad a53

A9.1 Yn y rhan fwyaf o achosion, disgwylir y byddai awdurdodiad, pe byddai’n cael ei roi, yn dod i ben 12 mis ar ôl y dyddiad awdurdodi, neu, pe byddai’n cael ei roi yn ystod y cam cyn-ymgeisio, ar ddyddiad cyflwyno cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu ar gyfer y datblygiad arfaethedig yn unol ag a37 Deddf Cynllunio 2008 (lle y cyflwynir y cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu cyn diwedd y cyfnod 12 mis hwnnw).

A9.2 Os yw’r Ymgeisydd eisiau i’r cyfnod awdurdodi ymestyn yn hwy na 12 mis, neu ddyddiad cyflwyno’r cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu i’r Ysgrifennydd Gwladol, dylai’r Ymgeisydd ofyn am hyn yn ei lythyr eglurhaol gan roi esboniad clir o’r rhesymau pam. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ystyried hyn wrth bennu hyd yr hysbysiad awdurdodi, os yw’n credu y dylid rhoi awdurdodiad ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol.

A10 – Unrhyw amodau y mae’r Ymgeisydd yn credu y dylid eu pennu ar gyfer rhoi awdurdodiad a53

A10.1 Os yw’r Arolygiaeth Gynllunio, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, yn credu y dylid rhoi awdurdodiad i unigolyn gael mynediad i dir, mae’n rhaid i’r cyfryw unigolyn a awdurdodwyd gydymffurfio â gofynion a53 Deddf Cynllunio 2008 ac unrhyw amodau sy’n gysylltiedig â’r awdurdodiad (a53(4)(c) Deddf Cynllunio 2008). Felly, dylai’r Ymgeisydd hefyd gynnwys unrhyw amodau arfaethedig y mae’n credu y dylid eu cysylltu â’r awdurdodiad, os caiff ei roi, yn rhan o’i gais. Byddai o gymorth i’r Arolygiaeth Gynllunio pe gallai’r Ymgeisydd roi manylion pa amodau drafft, os o gwbl, y cytunwyd arnynt gyda’r unigolion â buddiant. Lle na chytunwyd ar amodau drafft, dylai’r Ymgeisydd esbonio pam.

A10.2 Lle mae’r Ymgeisydd wedi amlygu sawl cais am awdurdodiad a bod yr holl amodau arfaethedig yr un fath, dylai’r Ymgeisydd ddatgan hyn yn llythyr eglurhaol y ceisiadau am awdurdodiad. Yn yr amgylchiadau hyn, nid oes angen darparu amodau drafft ar wahân ar gyfer pob cais am awdurdodiad. Lle mae’r Ymgeisydd wedi amlygu sawl cais am awdurdodiad ac yn cynnig amodau gwahanol ar gyfer pob cais, dylai’r Ymgeisydd ddarparu cyfres ar wahân o amodau ar gyfer pob cais.

A10.3 Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, yn penderfynu p’un a yw unrhyw amodau arfaethedig yn briodol, a gallai hefyd nodi rhai eraill yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol.

A11 – Rhestr wirio

A11.1 Gweler Atodiad B y dylai’r Ymgeisydd ei chwblhau er mwyn helpu i sicrhau bod y wybodaeth ofynnol yn cael ei darparu i’r Arolygiaeth Gynllunio. Dylai’r rhestr wirio wedi’i chwblhau gael ei rhoi i’r Arolygiaeth Gynllunio gyda phob cais am awdurdodiad a53



Cyfeirir ymgeiswyr hefyd at Adran C isod


B) Gwybodaeth a chyngor i unigolion â buddiant yn y tir

Mae’r adran hon wedi’i bwriadu ar gyfer unigolion â buddiant, er mwyn eu helpu i ddeall y broses a53 a sut y gallant gyflwyno sylwadau i’r Arolygiaeth Gynllunio, cyn i benderfyniad gael ei wneud.

1.1 Dylai unigolion â buddiant fod yn ymwybodol bod awdurdodiad a53 yn ymwneud yn unig â chael mynediad i dir at ddibenion penodol mewn cysylltiad ag NSIP neu NSIP arfaethedig (cyfeiriwch at adran ‘Cyflwyniad’ y nodyn cyngor hwn i gael rhagor o fanylion). Pan nad yw cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu wedi’i gyflwyno eto, nid yw awdurdodiad o dan a53 yn rhagbennu p’un a fyddai’r cais arfaethedig yn cael ei dderbyn i’w archwilio gan yr Ysgrifennydd Gwladol, na ph’un a fyddai’r datblygiad arfaethedig yn cael caniatâd datblygu pe byddai’n cael ei dderbyn. Yn yr un modd, pan fydd cais wedi cael ei dderbyn i’w archwilio, nid yw awdurdodiad o dan a53 yn rhagbennu p’un a fyddai caniatâd datblygu’n cael ei roi i’r datblygiad arfaethedig.

2. Cyn i’r cais am awdurdodiad a53 gael ei wneud

2.1 Disgwylir i Ymgeisydd weithredu’n rhesymol cyn cyflwyno cais am awdurdodiad a53 a cheisio cael caniatâd yn wirfoddol gan yr unigolyn/unigolion perthnasol i gael mynediad i’r tir at y diben(ion) gofynnol yn gyntaf (yn unol â Chyfarwyddyd y DCLG, Atodiad A). Lle bynnag y bo’n bosibl, disgwylir i’r Ymgeisydd a’r unigolion â buddiant ohebu a thrafod â’i gilydd mewn ymgais i gael y cyfryw fynediad i’r tir, cyn gwneud y cais am awdurdodiad a53. Os nad yw hyn wedi digwydd, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn gofyn i’r Ymgeisydd esbonio pam. Lle y bo’n briodol, byddai’r Arolygiaeth Gynllunio yn disgwyl i’r trafodaethau rhwng yr Ymgeisydd a’r unigolion â buddiant gynnwys trafodaethau ynglŷn ag unrhyw amodau arfaethedig a fyddai’n gysylltiedig â rhoi mynediad i’r tir, gan ystyried defnydd presennol y tir.

2.2 Pan fydd gan fwy nag un unigolyn fuddiant yn y tir, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn disgwyl i’r Ymgeisydd fod wedi ceisio caniatâd gan bob un o’r unigolion hynny, ac os nad yw hyn wedi digwydd, bydd yn gofyn i’r Ymgeisydd esbonio pam.

2.3 Dylai’r Ymgeisydd ystyried gwneud cais i’r Arolygiaeth Gynllunio am awdurdodiad dim ond pan fydd o’r farn y gwrthodwyd rhoi’r mynediad angenrheidiol iddo yn afresymol (Cyfarwyddyd y DCLG, Atodiad A). Mewn amgylchiadau o’r fath, dylai’r Ymgeisydd roi gwybod i’r unigolion â buddiant am ei fwriad i gyflwyno cais am awdurdodiad a53, a hynny cyn gwneud cais o’r fath, gan gyfeirio’r unigolion hyn at y nodyn cyngor hwn.

3. Gwneud sylwadau ar gais/ceisiadau’r Ymgeisydd am awdurdodiad a53

3.1 Pan fydd Ymgeisydd yn gwneud cais am awdurdodiad a53, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn disgwyl i’r Ymgeisydd anfon llythyr hysbysu at bob unigolyn â buddiant (ac, os yw’n berthnasol, anfon copi ohono at asiantau sy’n gweithredu ar eu rhan) gan amgáu copi union o’r cais am awdurdodiad a roddwyd i’r Arolygiaeth Gynllunio. Dylai’r llythyr hysbysu roi gwybod i’r unigolion â buddiant y cânt gyflwyno sylwadau i’r Arolygiaeth Gynllunio ar y cais/ceisiadau am awdurdodiad erbyn y dyddiad cau a nodir yn y llythyr hysbysu; ni ddylai’r dyddiad hwn fod llai na 14 diwrnod yn dechrau y diwrnod ar ôl y diwrnod y disgwylir i’r unigolion â buddiant dderbyn yr hysbysiad. Er enghraifft, os anfonir y llythyr trwy ddanfoniad arbennig sy’n gwarantu y bydd yn cyrraedd y diwrnod wedyn, bydd y cyfnod lleiaf o 14 diwrnod yn dechrau y diwrnod ar ôl y diwrnod y disgwylir i’r llythyr gyrraedd h.y. 2 ddiwrnod ar ôl i’r llythyr gael ei anfon.

3.2 Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio hefyd yn ysgrifennu at yr unigolion â buddiant i gadarnhau bod cais am awdurdodiad wedi cael ei wneud gan yr Ymgeisydd ac i gadarnhau’r dyddiad erbyn pryd y dylent gyflwyno unrhyw sylwadau i’r Arolygiaeth Gynllunio. (Bydd y dyddiad hwn yr un fath â hwnnw a nododd yr Ymgeisydd yn ei lythyr hysbysu at yr unigolion â buddiant, cyn belled ag nad yw’r dyddiad olaf a bennwyd gan yr Ymgeisydd llai na 14 diwrnod yn dechrau y diwrnod ar ôl y diwrnod y disgwylir i’r unigolion â buddiant dderbyn yr hysbysiad.) Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn tybio nad oes gan yr unigolion â buddiant unrhyw sylwadau i’w gwneud ar y cais os nad yw’r Arolygiaeth Gynllunio wedi derbyn unrhyw sylwadau ganddynt erbyn y dyddiad hwn.

3.3 Gallai unigolion â buddiant ddymuno cyflogi asiant i weithredu ar eu rhan. Mewn achosion o’r fath, dylai’r asiant neu’r unigolyn/unigolion perthnasol â buddiant ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig i’r Arolygiaeth Gynllunio sy’n cadarnhau bod yr asiant wedi’i awdurdodi i weithredu ar ran pob un ohonynt.

3.4 Cynghorir unigolion â buddiant i adolygu’r cais/ceisiadau am awdurdodiad a anfonwyd atynt gan yr Ymgeisydd yn ofalus ac fe’u hanogir i wneud sylwadau i’r Arolygiaeth Gynllunio, fel y manylir isod.

3.5 Os hoffai unigolyn â buddiant wneud sylwadau, byddai’n ddefnyddiol i’r Arolygiaeth Gynllunio pe byddai’r sylw/sylwadau yn cynnwys y wybodaeth ganlynol, wedi’i labelu fel a ganlyn:

  • B1. Cadarnhad bod y wybodaeth a gyflwynwyd yng nghais yr Ymgeisydd am awdurdodiad yn gywir
  • B2. Rhesymau dros wrthod rhoi mynediad i’r tir
  • B3. Sylwadau ar hyd unrhyw awdurdodiad a53
  • B4. Sylwadau ar amodau arfaethedig yr Ymgeisydd

B1 – Cadarnhad bod y wybodaeth a gyflwynwyd yng nghais yr Ymgeisydd am awdurdodiad yn gywir

B1.1 Anogir unigolion â buddiant i gadarnhau i’r Arolygiaeth Gynllunio p’un a ydynt yn credu bod y wybodaeth a gyflwynwyd yng nghais yr Ymgeisydd am awdurdodiad yn gywir. Mae hyn yn cynnwys cadarnhau p’un a yw’r Atodlen Gohebiaeth a amgaewyd gyda’r cais/ceisiadau am awdurdodiad yn cynnwys yr holl ohebiaeth berthnasol; p’un a oedd yr unigolion â buddiant wedi derbyn yr holl ohebiaeth a restrir ynddi; a bod unrhyw nodiadau cyfarfod a/neu nodiadau ffôn neu ddogfennau eraill a ddarparwyd yn adlewyrchiad cywir o’r trafodaethau rhwng yr Ymgeisydd a’r unigolion â buddiant y mae’r cais/ceisiadau am awdurdodiad a53 yn ymwneud â nhw.

B1.2 Gofynnir i unigolion â buddiant hefyd roi copïau i’r Arolygiaeth Gynllunio o unrhyw ohebiaeth arall a fu rhyngddynt â’r Ymgeisydd na ddarparwyd gan yr Ymgeisydd ac y maen nhw’n credu ei bod yn berthnasol i’r cais/ceisiadau am awdurdodiad a53.

B2 – Rhesymau dros wrthod rhoi mynediad i’r tir

B2.1 Anogir unigolion â buddiant i esbonio’n glir i’r Arolygiaeth Gynllunio eu rhesymau dros wrthod caniatáu i’r Ymgeisydd gael mynediad i’r tir (os gwnaethant wrthod).

B3 – Sylwadau ar hyd unrhyw awdurdodiad a53

B3.1 Yn y rhan fwyaf o achosion, disgwylir y byddai awdurdodiad, pe byddai’n cael ei roi, yn dod i ben 12 mis ar ôl y dyddiad awdurdodi, neu, pe byddai’n cael ei roi yn ystod y cam cyn-ymgeisio, ar ddyddiad cyflwyno cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu ar gyfer y datblygiad arfaethedig yn unol ag a37 Deddf Cynllunio 2008 (lle y cyflwynir y cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu cyn diwedd y cyfnod 12 mis hwnnw).

B3.2 Os yw’r unigolion â buddiant eisiau i’r cyfnod awdurdodi fod yn wahanol i’r hyd disgwyliedig a esbonnir uchod, dylent roi manylion unrhyw gyfnod amgen a awgrymant i’r Arolygiaeth Gynllunio, gan esbonio’r rhesymau pam yn eglur. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ystyried hyn wrth bennu hyd yr hysbysiad awdurdodi, os yw’n credu y dylid rhoi awdurdodiad ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol.

B4 – Sylwadau ar amodau arfaethedig yr Ymgeisydd

B4.1 Gallai unrhyw awdurdodiad o dan a53 gael ei roi yn ddarostyngedig i amodau sy’n briodol ym marn yr Ysgrifennydd Gwladol (a53(4)(c) Deddf Cynllunio 2008). Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn annog unigolion â buddiant i wneud sylwadau ar unrhyw amodau drafft a gynigir gan yr Ymgeisydd, yn ogystal ag awgrymu amodau yr hoffent i’r Ysgrifennydd Gwladol ystyried eu gorfodi, gan gadw defnydd presennol y tir mewn cof.

B4.2 Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, yn penderfynu p’un a yw unrhyw amodau arfaethedig yn briodol a chaiff hefyd nodi unrhyw rai eraill y mae’n ystyried eu bod yn briodol.



Cyfeirir unigolion â buddiant at Adran C isod hefyd


C) Gwybodaeth a chyngor cyffredinol i ymgeiswyr ac unigolion â buddiant

Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg cyffredinol sy’n berthnasol i Ymgeiswyr ac unigolion â buddiant, ac yn esbonio sut y gweinyddir y cais/ceisiadau am awdurdodiad a53.

1. Cais am wybodaeth ychwanegol

1.1 Ar ôl i’r unigolion â buddiant gael cyfle i wneud sylwadau ar y cais/ceisiadau am awdurdodiad, ac os yw’r Arolygiaeth Gynllunio yn credu bod hynny’n briodol, gallai’r Arolygiaeth Gynllunio ofyn i’r Ymgeisydd a/neu’r unigolion â buddiant am sylwadau neu wybodaeth ychwanegol. Os felly, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn nodi dyddiad terfyn ar gyfer cyflwyno’r wybodaeth hon, na fydd yn llai na 7 diwrnod yn dechrau’r diwrnod ar ôl y diwrnod y disgwylir i’r cais hwnnw gael ei dderbyn gan y sawl y’i cyfeiriwyd ato (er enghraifft, os anfonir y cais am wybodaeth ychwanegol yn electronig, bydd y terfyn amser lleiaf o 7 diwrnod yn dechrau y diwrnod ar ôl y diwrnod y disgwylir iddo gyrraedd h.y. y diwrnod ar ôl iddo gael ei anfon os caiff ei anfon yn electronig, oherwydd tybir bod unrhyw wybodaeth a anfonir yn electronig yn cael ei derbyn y diwrnod y’i hanfonir). Yn union ar ôl diwedd y terfyn amser hwn, ac yn amodol ar unrhyw geisiadau dilynol am wybodaeth ychwanegol, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn symud ymlaen i benderfynu ar y cais ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol.

1.2 Felly, cynghorir yr Ymgeisydd a/neu’r unigolion â buddiant i gyflwyno unrhyw sylwadau neu wybodaeth erbyn y terfyn(au) amser a nodwyd er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu hystyried gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

2. Penderfynu ar y cais/ceisiadau am awdurdodiad a53

2.1 Ar ôl derbyn digon o wybodaeth, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ystyried unrhyw wybodaeth a ddarparwyd gan yr Ymgeisydd a’r unigolion â buddiant erbyn y terfynau amser a nodwyd, ac yn gwneud penderfyniad ar y cais/ceisiadau am awdurdodiad ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol.

2.2 Ar ôl penderfynu ar y cais, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn anfon copi o’r penderfyniad at yr Ymgeisydd a’r unigolion â buddiant, naill ai’n awdurdodi rhoi mynediad i’r tir gan gynnwys unrhyw amodau neu’n gwrthod y cais/ceisiadau. Rhoddir rhesymau i ategu’r penderfyniad.

2.3 Bydd y penderfyniad yn cael ei gyhoeddi ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol ac yn cynnwys y rhesymau sy’n ategu’r penderfyniad.

3. Amserlen ar gyfer penderfynu ar geisiadau am awdurdodiad

3.1 Nid oes amserlen statudol ragnodedig y mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio ei dilyn wrth benderfynu ar gais am awdurdodiad ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol. Fodd bynnag, mae profiad yn awgrymu y gallai gymryd o leiaf 3 mis i benderfynu ar geisiadau am awdurdodiad a53, o ddyddiad derbyn y cais/ceisiadau am awdurdodiad. Mae hyn yn dibynnu’n rhannol ar ansawdd dogfennau’r cais a/neu angen yr Arolygiaeth Gynllunio i ofyn am wybodaeth ychwanegol.

3.2 Canllaw yn unig yw’r amserlen hon ac mae’n dibynnu ar gymhlethdod a nifer y ceisiadau am awdurdodiad, digonolrwydd y wybodaeth gychwynnol a ddarparwyd gan yr Ymgeisydd ac unrhyw faterion a godwyd mewn ymatebion gan yr unigolion â buddiant. Bydd angen i Ymgeiswyr fod yn ymwybodol o’r amserlen ddisgwyliedig hon a’i heffaith bosibl ar raglen gyffredinol eu prosiect.

4. Deddf Hawliau Dynol 1998

4.1 Mae Erthygl 1 Protocol Cyntaf y Confensiwn Ewropeaidd (y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (y Confensiwn ar Amddiffyn Hawliau Dynol a Rhyddid Sylfaenol gynt)) yn rhoi’r hawl i fwynhau eiddo mewn tawelwch. Dylai unrhyw amhariad ar yr hawl hon fod yn gyfreithlon ac yn gymesur; gall amharu ar hawl unigolion i fwynhau eu heiddo mewn tawelwch fod er budd y cyhoedd yn unig. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, yn ystyried p’un a fyddai awdurdodi mynediad i dir trydydd parti yn gyfreithlon ac yn gymesur mewn perthynas â phob cais am awdurdodiad a53.

5. Gweithredu’r awdurdodiad

5.1 Os rhoddir awdurdodiad, caiff unrhyw unigolyn a chanddo awdurdodiad ysgrifenedig priodol gan yr Ysgrifennydd Gwladol gael mynediad i’r tir ar unrhyw adeg resymol yn unol â darpariaethau a53 Deddf Cynllunio 2008 a thelerau’r awdurdodiad, gan gynnwys unrhyw amodau a amlinellir yn yr awdurdodiad (a53(4)(c) Deddf Cynllunio 2008). Cyn cael mynediad i’r tir, mae’n rhaid i unigolyn, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth o’i awdurdod i gael mynediad i’r tir hwnnw. Os yw’r tir yn cael ei feddiannu, mae’n rhaid rhoi 14 diwrnod o rybudd cyn cael mynediad iddo (a53(4)(b) Deddf Cynllunio 2008).

5.2 Lle yr achosir unrhyw ddifrod i dir neu declynnau o ganlyniad i arfer hawliau mynediad neu wrth gynnal unrhyw arolwg, gellid adfer iawndal (s53(7) of the PA2008). Bydd anghydfodau ynglŷn â lefel yr iawndal sy’n daladwy yn cael eu hatgyfeirio i’r Uwch Dribiwnlys (a53(8) Deddf Cynllunio 2008).

5.3 Bydd unrhyw un sy’n rhwystro mynediad a awdurdodwyd yn fwriadol yn cyflawni trosedd a53(5) Deddf Cynllunio 2008 a allai arwain at atebolrwydd troseddol (a53(6) Deddf Cynllunio 2008).

5.4 Ni fydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth ag unrhyw awdurdodiadau a53 a gyflwynir ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol.

6. Diogelu data

6.1 Bydd unrhyw wybodaeth a roddir gan yr Ymgeisydd, yr unigolyn/unigolion â buddiant, neu eu hasiantau, yn cael ei thrin gan yr Arolygiaeth Gynllunio yn unol â’i rhwymedigaethau o dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Oherwydd bod y wybodaeth hon yn ymwneud â mater tir preifat, ni fydd ar gael fel mater o drefn ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Fodd bynnag, bydd llythyr penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol, ynghyd ag unrhyw amodau a’r rhesymau dros y penderfyniad, ar gael ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol ar ôl i’r broses ddod i ben.

7. Adolygu’r nodyn cyngor hwn

7.1 Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn adolygu’r nodyn cyngor hwn yn rheolaidd a’i ddiweddaru fel y bo’n briodol.