Fferm Wynt Alltraeth Mona

Beth fydd yn digwydd nesaf

Cyhoeddir manylion y Cyfarfod Rhagarweiniol ar y dudalen hon yn fuan.

Bydd yr Awdurdod Archwilio’n cynnal Asesiad Cychwynnol o’r Prif Faterion sy’n codi o ddarllen y cais a’r Sylwadau Perthnasol a dderbyniwyd ac yn gosod dyddiad ar gyfer y Cyfarfod Rhagarweiniol.

Bydd Partïon â Buddant yn derbyn gwahoddiad i’r Cyfarfod Rhagarweiniol a fydd yn trafod materion gweithdrefnol yn unig, ac fe’i cynhelir yn gyhoeddus. Nid yw mynychu’r Cyfarfod Rhagarweiniol yn hanfodol. P’un ai y bydd Parti â Buddiant yn dewis mynychu’r Cyfarfod Rhagarweiniol ai peidio, byddant yn parhau i dderbyn manylion sut i gymryd rhan bellach yn yr Archwiliad.

Caiff y Penderfyniad Gweithdrefnol a wneir ar ôl y Cyfarfod Rhagarweiniol ei gyhoeddi ar ein gwefan a hefyd bydd ar gael ar gais oddi wrth ac oddi wrth ein llinell gymorth: 0303 444 5000. Mae’n bwysig nodi y bydd y Penderfyniad Gweithdrefnol hwn yn gosod yr amserlen ar gyfer yr Archwiliad. Bydd Amserlen yr Archwiliad, ymhlith pethau eraill, yn gosod terfynau amser ar gyfer derbyn Sylwadau Ysgrifenedig manwl a sylwadau ar y Sylwadau Perthnasol a wneir gan Bartïon eraill â Buddiant.

Os ydych yn Barti â Buddiant, naill ai oherwydd rydych yn un o’r cyrff penodol a nodir yn a102 Deddf Cynllunio 2008 neu oherwydd eich bod wedi cyflwyno Sylw Perthnasol, byddwch yn derbyn hysbysiadau am yr Archwiliad a chopi o benderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol ar y cais wedi iddo gael ei wneud.

Os oes gennych fuddiant cyfreithiol mewn tir a effeithir gan Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol ac:

  • nid ydych wedi’ch nodi gan yr Ymgeisydd; ac
  • nid oeddech wedi cofrestru i ddod yn Barti â Buddiant;

gallwch o dan a102A Deddf Cynllunio 2008.

Llinell amser (6 Eitemau)

  • Cofrestru’n dechrau i bartïon â buddiant
  • Cyhoeddi sylwadau perthnasol ar y wefan
28/03/2024
milestone icon Darllen y llythyr

Derbyniwyd y cais i’w archwilio

21/03/2024
Penderfyniad ynghylch p’un a ddylid derbyn cais i’w archwilio ai peidio
21/03/2024

Derbyniwyd y cais hwn gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar 22 Chwefror 2024.

Bydd dogfennaur cais ar gael ar dudalen prosiect y wefan hon os ywr cais yn cael ei dderbyn iw archwilio.

23/02/2024
Cais wedi cyraedd yr Arolygiaeth Gynllunio
22/02/2024
Disgwylir cais gan yr ymgeisydd
21/02/2024