Fferm Wynt Alltraeth Mona

Mae’r dudalen hon yn gosod allan yr amserlen ar gyfer archwilio’r cais. Mae’n cynnwys y terfynau amser ar gyfer gwneud cyflwyniadau i’r Arolygiaeth Gynllunio a dyddiadau digwyddiadau a gynhelir yn ystod yr Archwiliad. Yn ogystal, mae Amserlen yr Archwiliad wedi’i gosod allan yn yr atodiad i’r llythyr rheol 8 a anfonwyd at Bartïon â Buddiant ar ddechrau’r Archwiliad.

Dyddiad digwyddiadDisgrifiad
 Date Passed
16/07/2024
Archwiliad yn dechrau
 Date Passed
16/07/2024
Gwrandawiad Mater Penodol (ISH1)
Gwrandawiad Mater Penodol (ISH1)

ISH1 ar Gwmpas y Datblygiad
 Date Passed
17/07/2024
Gwrandawiad Mater Penodol (ISH2)
Gwrandawiad Mater Penodol (ISH2)

ISH2 ar Faterion Amgylcheddol ar y Tir ac ar y Môr a’r Gorchymyn Caniatâd Datblygu drafft
 Date Passed
18/07/2024
Gwrandawiad Mater Penodol (ISH2) (parhau)
Gwrandawiad Mater Penodol (ISH2) (parhau)

ISH2 ar Faterion Amgylcheddol ar y Tir ac ar y Môr a’r Gorchymyn Caniatâd Datblygu drafft
 Date Passed
19/07/2024
Gwrandawiad Llawr Agored (OFH1)
Gwrandawiad Llawr Agored (OFH1)
 Date Passed
23/07/2024
Yr ExA i gyhoeddi
Yr ExA i gyhoeddi:

- Amserlen yr Archwiliad
 
07/08/2024
Dyddiad Cau 1

I’r ExA dderbyn:
* Sylwadau Ysgrifenedig (WRau), gan gynnwys crynodebau os ydynt yn fwy na 1500 o eiriau
* Sylwadau ar unrhyw ddiweddariadau i ddogfennau’r cais a gyflwynwyd gan yr Ymgeisydd cyn y Cyfarfod Rhagarweiniol
* Adroddiadau ar yr Effaith Leol gan unrhyw awdurdodau lleol
* Sylwadau ar Draciwr Hawliau Tir yr Ymgeisydd
* Amserlen ddrafft yr Ymgeisydd ar gyfer ASI
* Datganiadau Tir Cyffredin (SoCG) a Datganiad Cyffredinrwydd cychwynnol y gofynnwyd amdanynt gan yr Awdurdod Archwilio (gweler Atodiad F o’r llythyr Rheol 6)
* Traciwr Cynnydd Cyn-Archwiliad wedi'i ddiweddaru gan yr Ymgeisydd
* Canllaw i’r Cais wedi’i ddiweddaru gan yr Ymgeisydd – fersiwn lân a fersiwn sy’n dangos newidiadau
* Llyfr Cyfeirio (BoR) wedi’i ddiweddaru gan yr Ymgeisydd a Rhestr Newidiadau i’r BoR (os bydd angen) – fersiwn lân a fersiwn sy’n dangos newidiadau
* Rhestr tracio rhwymedigaethau cynllunio a chytundebau ochr masnachol yr Ymgeisydd ac unrhyw gytundeb a106 drafft (gweler Atodiad F o’r llythyr Rheol 6)
* Rhestr Trafodaethau a Phwerau a Geisir wedi’i diweddaru gan yr Ymgeisydd – fersiwn lân a fersiwn sy’n dangos newidiadau
* Hysbysiad gan Bartïon Statudol o’u dymuniad i gael eu hystyried yn Barti â Buddiant gan yr ExA
* Ceisiadau gan Unigolion yr Effeithir Arnynt i gymryd rhan mewn Gwrandawiad Caffael Gorfodol
* Ceisiadau gan Bartïon â Buddiant i gymryd rhan mewn Gwrandawiad Llawr Agored arall
* Cyflwyniadau ôl-wrandawiad, gan gynnwys cyflwyniadau ysgrifenedig o achosion llafar a sylwadau ar unrhyw gyflwyniadau llafar a wnaed mewn gwrandawiadau
* Hysbysiad o ddymuniad i dderbyn gohebiaeth yn y dyfodol yn electronig
* Crynodebau o bob RR sy’n fwy na 1500 o eiriau (os na ddarparwyd hwy erbyn y Dyddiad Cau Gweithdrefnol Cyn-Archwiliad)
* Ymatebion i RRau (os na ddarparwyd hwy erbyn y Dyddiad Cau Gweithdrefnol Cyn-Archwiliad)
* Unrhyw wybodaeth arall y gofynnwyd amdani gan yr ExA o dan Reol 17 Rheolau Cynllunio Seilwaith (Gweithdrefn Archwilio) 2010
 
27/08/2024
Dyddiad Cau 2

I’r ExA dderbyn:
* Sylwadau ar WRau
* Sylwadau ar LIRau
* dDCO wedi’i ddiweddaru – fersiwn lân, fersiwn sy’n dangos newidiadau a fersiwn Word (os bydd angen)
* Memorandwm Esboniadol wedi’i ddiweddaru – fersiwn lân, fersiwn sy’n dangos newidiadau a fersiwn Word (os bydd angen)
* Rhestr Newidiadau i’r dDCO wedi’i diweddaru (os bydd angen)
* Diweddariad cyntaf yr Ymgeisydd i’r Traciwr Hawliau Tir
* Canllaw i’r Cais wedi’i ddiweddaru gan yr Ymgeisydd – fersiwn lân a fersiwn sy’n dangos newidiadau
* Rhestr Trafodaethau a Phwerau a Geisir wedi’i diweddaru gan yr Ymgeisydd – fersiwn lân a fersiwn sy’n dangos newidiadau
* Sylwadau ar Ddatganiadau Tir Cyffredin cychwynnol
* Ymatebion i sylwadau ar Sylwadau Perthnasol
* Sylwadau ar deithlen ddrafft yr Ymgeisydd ar gyfer ASI
* Sylwadau ar unrhyw gyflwyniadau eraill a dderbyniwyd erbyn Dyddiad Cau 1
* Unrhyw wybodaeth arall y gofynnwyd amdani gan yr ExA o dan Reol 17 Rheolau Cynllunio Seilwaith (Gweithdrefn Archwilio) 2010
 
13/09/2024
Yr ExA i gyhoeddi
Yr ExA i gyhoeddi:

- Cwestiynau Ysgrifenedig (ExQ1)
 
30/09/2024
Dyddiad Cau 3

I’r ExA dderbyn:
* Ymatebion i’r Cwestiynau Ysgrifenedig (ExQ1)
* dDCO wedi’i ddiweddaru – fersiwn lân, fersiwn sy’n dangos newidiadau a fersiwn Word (os bydd angen)
* Memorandwm Esboniadol wedi’i ddiweddaru – fersiwn lân, fersiwn sy’n dangos newidiadau a fersiwn Word (os bydd angen)
* Rhestr Newidiadau i’r dDCO wedi’i diweddaru (os bydd angen)
* Datganiadau Tir Cyffredin a Datganiad Cyffredinrwydd wedi’u diweddaru y gofynnwyd amdanynt gan yr ExA (gweler Atodiad F o’r llythyr Rheol 6)
* Traciwr Hawliau Tir wedi’i ddiweddaru gan yr Ymgeisydd
* Canllaw i’r Cais wedi’i ddiweddaru gan yr Ymgeisydd – fersiwn lân a fersiwn sy’n dangos newidiadau
* Rhestr Trafodaethau a Phwerau a Geisir wedi’i diweddaru gan yr Ymgeisydd – fersiwn lân a fersiwn sy’n dangos newidiadau
* Traciwr Cynnydd Archwiliad yr Ymgeisydd (gweler Rhan 5 Atodiad F o’r llythyr Rheol 6)
* BoR wedi’i ddiweddaru gan yr Ymgeisydd a Rhestr Newidiadau i’r BoR (os bydd angen) – fersiwn lân a fersiwn sy’n dangos newidiadau
* Hysbysiad o ddymuniad i fynychu Archwiliad Safle gyda Chwmni (ASI) (os bydd angen)
* Sylwadau ar unrhyw gyflwyniadau eraill a dderbyniwyd erbyn Dyddiad Cau 2
* Unrhyw wybodaeth arall y gofynnwyd amdani gan yr ExA o dan Reol 17 Rheolau Cynllunio Seilwaith (Gweithdrefn Archwilio) 2010
 
14/10/2024
Gwrandawiadau
Wythnos yn dechrau dydd Llun 14 Hydref 2024 neilltuedig ar gyfer:

- Archwiliad Safle gyda Chwmni
- Gwrandawiad(au) Mater Penodol ychwanegol
- Gwrandawiad(au) Caffael Gorfodol
- Gwrandawiad(au) Llawr Agored ychwanegol (os oes angen)
 
21/10/2024
Gwrandawiadau
Wythnos yn dechrau dydd Llun 21 Hydref 2024 neilltuedig ar gyfer:

- Archwiliad Safle gyda Chwmni
- Gwrandawiad(au) Mater Penodol ychwanegol
- Gwrandawiad(au) Caffael Gorfodol
- Gwrandawiad(au) Llawr Agored ychwanegol (os oes angen)
 
04/11/2024
Dyddiad Cau 4

I’r ExA dderbyn:
* Cyflwyniadau ôl-wrandawiad, gan gynnwys cyflwyniadau ysgrifenedig o achosion llafar a sylwadau ar unrhyw gyflwyniadau llafar a wnaed mewn gwrandawiadau (os bydd angen)
* dDCO wedi’i ddiweddaru – fersiwn lân, fersiwn sy’n dangos newidiadau a fersiwn Word (os bydd angen)
* Memorandwm Esboniadol wedi’i ddiweddaru – fersiwn lân, fersiwn sy’n dangos newidiadau a fersiwn Word (os bydd angen)
* Rhestr Newidiadau i’r dDCO wedi’i diweddaru (os bydd angen)
* Traciwr Hawliau Tir wedi’i ddiweddaru gan yr Ymgeisydd
* Canllaw i’r Cais wedi’i ddiweddaru gan yr Ymgeisydd – fersiwn lân a fersiwn sy’n dangos newidiadau
* Rhestr Trafodaethau a Phwerau a Geisir wedi’i diweddaru gan yr Ymgeisydd – fersiwn lân a fersiwn sy’n dangos newidiadau
* Sylwadau ar ymatebion i gwestiynau ysgrifenedig cyntaf yr ExA (ExQ1)
* Sylwadau ar unrhyw gyflwyniadau eraill a dderbyniwyd erbyn Dyddiad Cau 3
* Unrhyw wybodaeth arall y gofynnwyd amdani gan yr ExA o dan Reol 17 Rheolau Cynllunio Seilwaith (Gweithdrefn Archwilio) 2010
 
19/11/2024
Yr ExA i gyhoeddi
Yr ExA i gyhoeddi:

- Cwestiynau Ysgrifenedig Ychwanegol (ExQ2)
- Adroddiad ar y Goblygiadau i Safleoedd Ewropeaidd (RIES)
- Sylwadau’r ExA ar y DCO drafft neu restr newidiadau iddo (os bydd angen)
 
03/12/2024
Dyddiad Cau 5

I’r ExA dderbyn:
* Ymatebion i Gwestiynau Ysgrifenedig Ychwanegol yr ExA (ExQ2)
* Sylwadau ar yr RIES
* Sylwadau ar sylwadau’r ExA ar y DCO drafft neu’r rhestr newidiadau iddo (os bydd angen)
* Datganiad Cyffredinrwydd wedi’i ddiweddaru ynghylch Datganiadau Tir Cyffredin
* Darpariaethau Amddiffynnol terfynol y cytunwyd arnynt gydag ymgymerwyr statudol perthnasol
* Canllaw i’r Cais wedi’i ddiweddaru gan yr Ymgeisydd – fersiwn lân a fersiwn sy’n dangos newidiadau
* Rhestr Trafodaethau a Phwerau a Geisir wedi’i diweddaru gan yr Ymgeisydd – fersiwn lân a fersiwn sy’n dangos newidiadau
* Sylwadau ar unrhyw gyflwyniadau eraill a dderbyniwyd erbyn Dyddiad Cau 4
* Unrhyw wybodaeth arall y gofynnwyd amdani gan yr ExA o dan Reol 17 Rheolau Cynllunio Seilwaith (Gweithdrefn Archwilio) 2010
 
09/12/2024
Gwrandawiadau
Wythnos yn dechrau dydd Llun 9 Rhagfyr 2024 neilltuedig ar gyfer:

- Wrandawiad(au) Mater Penodol Ychwanegol (os bydd angen)
- Gwrandawiad(au) Llawr Agored Ychwanegol (os bydd angen)
- Gwrandawiad(au) Caffael Gorfodol Ychwanegol (os bydd angen)
- Archwiliad Safle Ychwanegol gyda Chwmni (os bydd angen)
 
20/12/2024
Dyddiad Cau 6
Dyddiad Cau 6

I’r ExA dderbyn:
* Cyflwyniadau ôl-wrandawiad, gan gynnwys cyflwyniadau ysgrifenedig o achosion llafar (os yw’n berthnasol)
* Sylwadau ar ymatebion i gwestiynau ysgrifenedig pellach yr ExA (ExQ2)
* Sylwadau ar unrhyw gyflwyniadau eraill a dderbyniwyd erbyn Dyddiad Cau 5
* Unrhyw wybodaeth arall y gofynnwyd amdani gan yr ExA o dan Reol 17 Rheolau Cynllunio Seilwaith (Gweithdrefn Archwilio) 2010
 
14/01/2025
Dyddiad Cau 7

I’r ExA dderbyn:
* Datganiad(au) i Gloi gan Bartïon â Buddiant (os dymunir, gweler Atodiad F o’r llythyr Rheol 6)
* Traciwr Cynnydd Diwedd yr Archwiliad gan yr Ymgeisydd (gweler Rhan 5 Atodiad F o’r llythyr Rheol 6)
* DCO drafft terfynol i’w gyflwyno gan yr Ymgeisydd yn y templed Offeryn Statudol gydag adroddiad dilysu templed Offeryn Statudol (fersiwn lân a fersiwn sy’n dangos newidiadau)
* Memorandwm Esboniadol terfynol – fersiwn lân, fersiwn sy’n dangos newidiadau a fersiwn Word
* Rhestr Newidiadau i’r dDCO derfynol (os bydd angen)
* Datganiad Cyffredinrwydd terfynol a SoCGau terfynol
* BoR terfynol a Rhestr Newidiadau i’r BoR
* Traciwr Hawliau Tir terfynol yr Ymgeisydd
* Canllaw i’r Cais terfynol yr Ymgeisydd – fersiwn lân a fersiwn sy’n dangos newidiadau
* Rhestr Trafodaethau a Phwerau a Geisir derfynol yr Ymgeisydd – fersiwn lân a fersiwn sy’n dangos newidiadau
* Rhestrau tracio rhwymedigaethau cynllunio a chytundebau ochr masnachol terfynol yr Ymgeisydd (gweler Rhan 11 Atodiad F o’r llythyr Rheol 6)
* Unrhyw gytundebau adran 106 llofnodedig a dyddiedig terfynol, ynghyd ag atodlen cydymffurfio â’r Ardoll Seilwaith Cymunedol (CIL)
* Sylwadau ar unrhyw gyflwyniadau eraill a dderbyniwyd erbyn Dyddiad Cau 6
* Unrhyw wybodaeth arall y gofynnwyd amdani gan yr ExA o dan Reol 17 Rheolau Cynllunio Seilwaith (Gweithdrefn Archwilio) 2010
 
16/01/2025
Cau’r Archwiliad
Mae’n ddyletswydd ar yr ExA i gwblhau’r Archwiliad o’r cais erbyn diwedd y cyfnod o chwe mis
 
16/01/2025
Deadline for close of examination