Deddf Cynllunio 2008 (fel y’i diwygiwyd) Gweithdrefn cyn-ymgeisio: Adran 47 – Ymgynghoriad Cymunedol Cwestiynau Cyffredin

Gorffennaf 2017

TABL CCau

Cyflwyniad a diben y ddogfen hon
Cwestiynau cyffredin
1. Mae gennyf bryderon am ymgynghoriad cymunedol cyn ymgeisio ymgeisydd. Â phwy ddylwn i gysylltu?
2. Mae gennyf bryderon am ymgynghoriad cymunedol cyn-ymgeisio ymgeisydd, ac rwyf wedi anfon sylwadau at yr Ymgeisydd. Â phwy ddylwn i gysylltu os nad wyf yn fodlon bod yr Ymgeisydd wedi ystyried fy sylwadau, neu y bydd yn ystyried fy sylwadau?
3. Beth yw rôl awdurdodau lleol yn ystod cam Cyn-ymgeisio proses Deddf Cynllunio 2008 (DC2008)?
4. A all yr Arolygiaeth Gynllunio wneud i ymgeisydd ailadrodd rhan o’i ymgynghoriad cymunedau cyn gwneud cais, neu’r cyfan ohono?
5. Beth yw Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol? Faint o fanylion y dylai eu cynnwys?
6. Pam na all ymgeisydd ddarparu gwybodaeth benodol am sut bydd Datblygiad Arfaethedig yn effeithio arnaf?
7. Beth yw dull Amlen Rochdale?
8. Sut bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn profi a oedd ymgynghoriad cymunedol Cyn-ymgeisio ymgeisydd yn foddhaol?
9. Sut ydw i’n gwrthwynebu Datblygiad Arfaethedig yn ystod y cam Cyn-ymgeisio?
10. Sut ydw i’n gwneud sylwadau ar Ddatganiad Ymgynghori â’r Gymuned ymgeisydd?
Pam na chefais fy hysbysu am ymgynghoriad cymunedol Cyn ymgeisio yr ymgeisydd?
12. Pam nad oes digwyddiad ymgynghori wedi’i drefnu lle rydw i’n byw?
13. Sut gallaf weld dogfennau ymgynghori’r ymgeisydd?
14. Sut caiff penderfyniadau eu gwneud ynglŷn ag iawndal, a faint fydd gennyf hawl iddo?
15. Pam wyf wedi derbyn holiadur cyfeirnodi tir? A oes rhaid i mi ei lenwi?
16. Pa ddylanwad y mae gwleidyddion lleol yn ei gael ar Ddatblygiad Arfaethedig?
17. Pam y mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi mynychu cyfarfod Cyn- ymgeisio ag ymgeisydd a thrydydd parti?
18. Rwy’n poeni am y modd y mae ymgeisydd wedi ymdrin â’m data personol. Â phwy ddylwn i gysylltu?

1. Cyflwyniad a diben y ddogfen hon

1.1 Mae’r ddogfen Cwestiynau Cyffredin hon wedi’i chyhoeddi dan adran 51 Deddf Cynllunio 2008 (DC2008). Mae’n cynnwys cyngor i gymunedau lleol ar y weithdrefn cyn-ymgeisio a’r ymgynghoriad cymunedol. Yn bwysig, yng nghyd-destun yr ymgynghoriad cymunedol, mae’n egluro rôl a chylch gwaith yr Arolygiaeth Gynllunio yn ystod cam Cyn-ymgeisio proses DC2008.

1.2 Mae adran 47 DC2008 yn amlinellu’r dyletswyddau ar ymgeiswyr mewn perthynas ag ymgynghori â’r gymuned leol, fel a ganlyn:

(1) Rhaid i’r ymgeisydd baratoi datganiad yn amlinellu sut mae’r ymgeisydd yn bwriadu ymgynghori ar y cais arfaethedig â phobl sy’n byw yn agos at y tir.
(2) Cyn paratoi’r datganiad, rhaid i’r ymgeisydd ymgynghori â phob awdurdod lleol yn adran 43(1) ynghylch yr hyn a fydd yn y datganiad.
(3) Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgeisydd yn derbyn ymateb awdurdod lleol i’r ymgynghoriad o dan isadran (2) yw diwedd y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r awdurdod lleol yn derbyn dogfennau’r ymgynghoriad.
(4) Yn is-adran (3) ystyr “dogfennau’r ymgynghoriad” yw’r dogfennau a gyflenwyd i’r awdurdod lleol gan yr ymgeisydd at ddibenion ymgynghori â’r awdurdod lleol o dan is-adran (2).
(5) Wrth baratoi’r datganiad, rhaid i’r ymgeisydd ystyried unrhyw ymateb i’r ymgynghoriad o dan is-adran (2) y mae’r ymgeisydd yn ei dderbyn cyn y dyddiad cau a osodwyd gan yr is-adran (2).
(6) Wedi i’r ymgeisydd baratoi’r datganiad, rhaid i’r ymgeisydd

(za) sicrhau bod y datganiad ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd mewn modd sy’n rhesymol gyfleus i bobl sy’n byw yn agos at y tir,
(a) cyhoeddi mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn agos at y tir hysbysiad yn datgan ble a phryd y gellir archwilio’r datganiad, a
(b) chyhoeddi’r datganiad yn y modd a ragnodir.
(7) Rhaid i’r ymgeisydd gynnal ymgynghoriad yn unol â’r cynigion sydd wedi’u hamlinellu yn y datganiad.

1.3 Cyfeirir at y dogfennau canlynol yn y Cwestiynau Cyffredin hyn, a dylid eu darllen ar y cyd â’r cyngor yn y ddogfen hon (ar gael yn yr adran Deddfwriaeth a chyngor):

  • Deddf Cynllunio 2008, Pennod 2
  • Planning Act 2008: Guidance on the Pre-application process (DCLG, 2015).
  • Planning Act 2008: Guidance related to procedures for the Compulsory Acquisition of Land (DCLG, 2015).
  • Nodyn Cyngor Dau: Rôl awdurdodau lleol yn y broses caniatâd datblygu (Yr Arolygiaeth Gynllunio, 2015).
  • Nodyn Cyngor Saith: Asesu Effeithiau Amgylcheddol: Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol, Sgrinio a Chwmpasu (Yr Arolygiaeth Gynllunio, 2015).
  • Nodyn Cyngor Wyth: Trosolwg o’r broses cynllunio seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol i aelodau’r cyhoedd a phobl eraill (Yr Arolygiaeth Gynllunio, 2017)
  • Cyhoeddwyd Nodyn Cyngor Wyth mewn pump adran, a’i nod yw arwain y cyhoedd drwy broses Deddf Cynllunio 2008, gam wrth gam:
    • Nodyn Cyngor 8.1: Ymateb i ymgynghoriad y datblygwr cyn gwneud cais
    • Nodyn Cyngor 8.2: Sut i gofrestru i gymryd rhan mewn Archwiliad
    • Nodyn Cyngor 8.3: Dylanwadu ar sut caiff y cais ei archwilio: y Cyfarfod Rhagarweiniol
    • Nodyn Cyngor 8.4: Yr Archwiliad
    • Nodyn Cyngor 8.5: Yr Archwiliad: gwrandawiadau ac arolygiadau safle
  • Nodyn Cyngor Naw: Amlen Rochdale (Yr Arolygiaeth Gynllunio, 2012).
  • Nodyn Cyngor Pedwar ar Ddeg: Llunio’r Adroddiad Ymgynghori (Yr Arolygiaeth Gynllunio, 2012).

1.4 Bydd y Cwestiynau Cyffredin hyn yn cael eu diweddaru o dro i dro, fel y gwêl yr Arolygiaeth Gynllunio orau.

2. Cwestiynau cyffredin

1. Mae gennyf bryderon am ymgynghoriad cymunedol cyn ymgeisio ymgeisydd. Â phwy ddylwn i gysylltu?

Darllenwch Nodyn Cyngor 8.1: Ymateb i ymgynghoriad cyn-ymgeisio’r datblygwr yr Arolygiaeth Gynllunio. (Gweler yr adran Nodiadau cyngor.)

Os ydych yn teimlo bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn annigonol, dylech wneud sylwadau i’r Ymgeisydd yn y lle cyntaf. Dylech godi unrhyw bryderon yn brydlon yn ystod yr ymgynghoriad, neu’n syth ar ei ôl, er mwyn galluogi’r Ymgeisydd i fynd i’r afael â’r materion, os yw’n briodol.

2. Mae gennyf bryderon am ymgynghoriad cymunedol cyn-ymgeisio ymgeisydd, ac rwyf wedi anfon sylwadau at yr Ymgeisydd. Â phwy ddylwn i gysylltu os nad wyf yn fodlon bod yr Ymgeisydd wedi ystyried fy sylwadau, neu y bydd yn ystyried fy sylwadau?

Os ydych wedi rhoi eich sylwadau i’r Ymgeisydd ond nad ydych yn fodlon o hyd, gallwch wneud sylwadau i’w awdurdod lleol perthnasol, a all eu hystyried fel rhan o’i Sylwadau ar Ddigonolrwydd yr Ymgynghoriad i’r Ysgrifennydd Gwladol. Gweler CC 3, sy’n esbonio rôl awdurdodau lleol ym mhroses Deddf Cynllunio 2008 a CC 8, sy’n esbonio rôl awdurdodau lleol o ran darparu Sylwadau ar Ddigonolrwydd Ymgynghori.

Os ydych yn anfodlon o hyd, gallwch gyflwyno sylwadau i’r Ysgrifennydd Gwladol drwy’r Arolygiaeth Gynllunio.

Os bydd cais yn cael ei gyflwyno’n ffurfiol i’r Arolygiaeth Gynllunio, gallwn ystyried eich sylwadau yn ogystal â’r profion Derbyn statudol wrth wneud penderfyniad ynghylch p’un a ddylid derbyn y cais o dan adran 55 Deddf Cynllunio 2008 ai peidio. Y penderfynwr (yr Arolygiaeth Gynllunio ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol) fydd yn penderfynu pa bwys y dylid ei roi i’r safbwyntiau a fynegwyd yn eich sylwadau, ar sail ffeithiau unigol yr achos.

Sylwer mai dim ond gohebiaeth yn ymwneud ag ymgynghoriad statudol ffurfiol ymgeisydd o dan a42, a47 ac/neu a48 y gellir ei hystyried yn ystod y cam Derbyn. Gellir ond ystyried materion yn ymwneud â rhinweddau’r cais yn ystod yr Archwiliad o gais.

Yn ystod y cyfnod Derbyn, gall yr Arolygiaeth Gynllunio gofyn am yr holl ymatebion i’w ymgynghoriad Cyn-ymgeisio gan yr Ymgeisydd (Rheoliad 5(5) Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Rhagnodedig) 2009).

Ar wahân, os ydych yn credu eich bod wedi nodi mater nad yw’r ymgeisydd wedi mynd i’r afael ag ef yn ddigonol, er i chi godi’r mater hwnnw fel rhan o’r ymarfer ymgynghori Cyn-ymgeisio, efallai yr hoffech wneud Sylw Perthnasol am y mater os caiff y cais ei dderbyn i’w archwilio. Yna, gallai’r Awdurdod Archwilio ystyried y mater hwn yn ystod yr Archwiliad, os yw o’r farn ei fod yn berthnasol. Gweler CC 9. Mae’n bwysig nodi na ellir ailagor y penderfyniad Derbyn yn ystod yr Archwiliad.

Rhoi sylwadau ar ymgynghoriad yr ymgeisydd cyn gwneud cais

1af Gwnewch eich sylwadau i’r Ymgeisydd, yn y lle cyntaf. Mae gan ymgeiswyr ddyletswydd statudol i ystyried unrhyw ymatebion perthnasol sy’n cael eu derbyn yn ystod y cyfnod ymgynghori rhagnodedig.
2il Os nad ydych yn fodlon, gwnewch eich sylwadau i’ch awdurdod lleol. Gall awdurdodau lleol ystyried eich sylwadau wrth baratoi eu Sylwadau ar Ddigonolrwydd yr Ymgynghoriad.
3ydd Os nad ydych yn fodlon o hyd, gwnewch eich sylwadau i’r Ysgrifennydd Gwladol drwy’r Arolygiaeth Gynllunio. Os bydd cais yn cael ei gyflwyno, gallwn ystyried y sylwadau hynny yn ogystal â’r profion Derbyn statudol sydd eu hangen wrth wneud y penderfyniad ynghylch p’un a ddylid derbyn y cais ai peidio.

3. Beth yw rôl awdurdodau lleol yn ystod cam Cyn-ymgeisio proses Deddf Cynllunio 2008 (DC2008)?

Darllenwch Nodyn Cyngor Un yr Arolygiaeth Gynllunio: Adroddiadau ar yr Effaith Leol a Nodyn Cyngor Dau: Rôl awdurdodau lleol yn y broses caniatâd datblygu. (Gweler yr adran Nodiadau cyngor.) Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi cyhoeddi fideo sy’n esbonio rôl awdurdodau lleol hefyd .

Mae gan awdurdodau lleol wybodaeth arbenigol am y gymuned leol, busnes a buddiannau eraill yn eu hardal, ac maent yn gyfrifol am ymgynghoriadau amrywiol a datblygu’r ardal leol. Oherwydd hynny, mae gan awdurdodau lleol rôl arbennig ym mhroses DC2008.

Mae adran 47 DC2008 yn gofyn i ymgeiswyr baratoi Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned (SoCC), sy’n amlinellu sut bydd ymgeisydd yn ymgynghori â’r gymuned leol. Rhaid i ymgeisydd sicrhau bod ei Ddatganiad Ymgynghori â’r Gymuned ar gael i’r cyhoedd ei weld mewn ffordd sy’n rhesymol o gyfleus i bobl sy’n byw’n agos at y tir y byddai’r Datblygiad Arfaethedig wedi’i leoli arno. Yna, rhaid iddo gynnal ei ymgynghoriad yn unol â’r Datganiad. Mae CC 13 yn rhoi rhagor o gyngor ar y Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned.

Cyn i Ddatganiad Ymgynghori â’r Gymuned gael ei gadarnhau a’i gyhoeddi, rhaid i ymgeisydd ymgynghori ar ei gynnwys â phob awdurdod lleol y mae’r Datblygiad Arfaethedig wedi’i leol yn ei ardal. Nod yr awdurdod lleol wrth ymateb i’r ymgynghoriad ynghylch Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned ddylai fod sicrhau y gall y bobl y mae’r cynnig yn effeithio arnynt gymryd rhan mewn ymgynghoriad trylwyr, hygyrch ac effeithiol ynghylch y Datblygiad Arfaethedig.

Yn ystod cam cyn gwneud cais proses DC2008, mae gan awdurdodau lleol:

4. A all yr Arolygiaeth Gynllunio wneud i ymgeisydd ailadrodd rhan o’i ymgynghoriad cymunedau cyn gwneud cais, neu’r cyfan ohono?

Mae’r broses ymgynghori cyn gwneud cais yn hollbwysig o ran effeithiolrwydd y drefn caniatâd ar gyfer seilwaith mawr. Gall proses drylwyr rhoi’r hyder i’r Ysgrifennydd Gwladol bod y materion a all godi yn ystod y cam Archwilio statudol o chwe mis wedi’u nodi, eu hystyried ac yr aethpwyd i’r afael â nhw cyhyd ag y bo hynny’n bosibl / angenrheidiol.

Heb ymgynghoriad digonol, ni fydd y cais dilynol yn cael ei dderbyn gan yr Ysgrifennydd Gwladol pan gaiff ei gyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio. Ar ddiwedd y cam Derbyn, os daw’r Ysgrifennydd Gwladol i’r canlyniad bod yr ymgynghoriad yn annigonol, gall ef neu hi argymell bod yr Ymgeisydd yn cynnal gweithgarwch ymgynghori pellach cyn y gellir ailgyflwyno a derbyn y cais.

5. Beth yw Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol? Faint o fanylion y dylai eu cynnwys?

Mae’r Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol (DCLG) wedi cyhoeddi arweiniad ar y broses cyn gwneud cais, sy’n esbonio rôl y Wybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol (PEI). (Gweler yr adran Canllawiau.) Mae arweiniad DCLG wedi’i ategu gan Nodyn Cyngor Saith yr Arolygiaeth Gynllunio: Asesu Effeithiau Amgylcheddol: Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol, Sgrinio a Chwmpasu.

Os yw Datblygiad Arfaethedig yn ddatblygiad lle mae angen Asesiad o’r Effaith Amgylchedd (AEA), rhaid i ymgeisydd amlinellu yn ei Ddatganiad Ymgynghori â’r Gymuned (SoCC) sut mae’n bwriadu rhoi cyhoeddusrwydd ac ymgynghori ar ei Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol. Mae CC 3 a CC 13 yn rhoi rhagor o gyngor ar y Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned.

O 16 Mai 2017, mae Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017 (Rheoliadau AEA 2017) ar waith. Mae Rheoliadau AEA 2017 yn cynnwys darpariaethau trawsnewidiol sydd (lle y’u bodlonir) yn cynnal perthnasedd Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2009 ar gyfer y Datblygiad Arfaethedig. (Mae’r ddau ar gael yn yr adran Ddeddfwriaeth .) Bydd Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol ymgeisydd yn destun i’r dehongliad sydd wedi’i roi yn y Rheoliadau sy’n berthnasol i’r prosiect. Mae pa reoliadau sy’n berthnasol yn dibynnu ar gymhwysedd y darpariaethau trawsnewidiol i’w prosiect dan sylw.

Yn gyffredinol, bydd Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol yn cyflwyno canfyddiadau rhagarweiniol yr AEA sy’n cael ei gynnal gan ymgeisydd mewn perthynas â Datblygiad Arfaethedig.

Ar gyfer y broses ymgynghori cyn gwneud cais, caiff ymgeiswyr eu cynghori i gynnwys digon o Wybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol i alluogi ymgyngoreion i lunio barn wybodus am y Datblygiad Arfaethedig. Mae gan yr Ymgeisydd rywfaint o ddisgresiwn o ran paratoi’r Wybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol. Yn gyffredinol, ni ddisgwylir i’r Wybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol ailadrodd y Datganiad Amgylcheddol (DA) na bod yn ddrafft ohono, er nad yw hyn yn cael ei atal ychwaith.

Rhaid i ymgeiswyr amlinellu’n glir yr hyn y maent yn ymgynghori arno. Rhaid iddynt fod yn ofalus eu bod yn ei gwneud yn glir i gymunedau lleol beth sydd wedi’i benderfynu a pham, a’r hyn y mae angen ei benderfynu o hyd, er mwyn i gymunedau lleol ddeall yn glir beth i’w ddisgwyl. Yn hyn o beth, mae’r Wybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol yn ‘rhagarweiniol’, a dylai ymgeiswyr geisio sylwadau’n weithredol gan ymgyngoreion ar ei chynnwys, ac ystyried y sylwadau hynny, lle bo hynny’n berthnasol.

Y mater allweddol yw bod rhaid i’r wybodaeth sy’n cael ei chyflwyno yn y Wybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol roi eglurder i’r holl ymgyngoreion. Dylai ymgeiswyr fod yn ofalus i beidio â thybio na fyddai gan ymgyngoreion nad ydynt yn arbenigwyr ddiddordebau mewn unrhyw wybodaeth amgylcheddol dechnegol.

Rhaid i Ddatganiad Ymgynghori â’r Gymuned ymgeisydd gynnwys datganiad ar sut mae’r Ymgeisydd yn bwriadu ymgynghori ar Wybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol.

Nid yw’r Arolygiaeth Gynllunio yn rhoi sylwadau ar gynnwys nac ansawdd Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol ymgeisydd. Bydd angen i ymgeisydd asesu effeithiau amgylcheddol sylweddol Datblygiad Arfaethedig fel rhan o’r AEA a’u cyflwyno yn y DA. Bydd yr Awdurdod Archwilio penodedig yn cynnal yr archwiliad o wybodaeth amgylcheddol drwy ystyried y wybodaeth yn DA yr Ymgeisydd.

6. Pam na all ymgeisydd ddarparu gwybodaeth benodol am sut bydd Datblygiad Arfaethedig yn effeithio arnaf?

Yn ystod yr ymgynghoriad Cyn-ymgeisio, efallai na fydd ymgeiswyr wedi pennu  manylion dylunio union mewn perthynas â Datblygiad Arfaethedig. Mae hefyd yn bosibl, fel rhan o’r cais, y gallai ymgeisydd geisio cadw rhywfaint o hyblygrwydd yn nyluniad y Datblygiad Arfaethedig. Pan digwydd hynny, bydd yn arwain at lefel asesu mwy cymhleth i benderfynu ar yr effeithiau sylweddol tebygol. Ar gyfer datblygiadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA), bydd angen i ymgeiswyr baratoi Datganiad Amgylcheddol sy’n cynnwys asesiad o’r effeithiau sylweddol tebygol sy’n gysylltiedig â’r Datblygiad Arfaethedig. Er mwyn mynd i’r afael â hyblygrwydd yn y dyluniad, mae dull sefydledig sy’n berthnasol i AEA, sydd wedi’i seilio ar asesiad wedi’i lywio gan baramedrau a nodi’r ‘sefyllfa waethaf’. Gweler CC 7.

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn ymwybodol efallai na fydd ymgeiswyr yn gallu rhoi asesiad manwl o effeithiau tebygol prosiect yn ystod yr ymgynghoriad Cyn-ymgeisio. Fodd bynnag, dylai’r wybodaeth fod yn ddigonol i fodloni’r gofynion cyfreithiol yn ymwneud ag ymgynghori.

Mae hyn yn golygu na ddylai’r wybodaeth a roddir fod mor amwys ei bod yn atal ymgynghorai rhag cyfrannu at yr ymgynghoriad Cyn-ymgeisio mewn ffordd ystyrlon. Gall ymgynghoriad sydd wedi’i seilio ar lai o sicrwydd o ran opsiynau dylunio fod yn rhwystr rhag ymgysylltu’n effeithiol. Fodd bynnag, gall caniatáu hyblygrwydd o ran dylunio roi mwy o gyfle i ymatebion yr ymgynghoriad lunio Datblygiad Arfaethedig. Wrth baratoi ymateb, dylai ymgyngoreion ystyried y ffordd orau y gallant effeithio ar Ddatblygiad Arfaethedig. Mae gan ymgeiswyr ddyletswydd statudol i esbonio mewn unrhyw gais yn y dyfodol sut maent wedi ystyried yr ymatebion perthnasol a gafwyd. Gweler hefyd CC 8.

7. Beth yw dull Amlen Rochdale?

Mae dull Amlen Rochdale yn ddull Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA) sy’n deillio’n bennaf o ddau achos yn ymwneud â cheisiadau cynllunio amlinellol dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn ystyried y dull a’i berthnasedd i broses Deddf Cynllunio 2008 yn Nodyn Cyngor Naw: Amlen Rochdale.

Yn gryno, mae Amlen Rochdale yn ddull AEA sy’n darparu modd i sicrhau y caiff yr effeithiau sylweddol tebygol sy’n gysylltiedig â Datblygiad Arfaethedig eu hasesu’n briodol mewn amgylchiadau lle y ceisir hyblygrwydd yn y dyluniad. Mae’r dull yn galluogi ymgeisydd i geisio hyblygrwydd priodol o ran dylunio mewn Gorchymyn Caniatâd Datblygu, a chynnal asesiad ar sail paramedrau. Mae’r paramedrau’r llywio’r diffiniad o ‘sefyllfa waethaf’, a bydd hyn yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr asesiad.

Mae’r angen am hyblygrwydd yn fater i’r Ymgeisydd ei esbonio, ond gallai ymwneud â rhesymau fel ansicrwydd o ran gofynion y farchnad a defnyddwyr, caffael contractw(y)r ac arloesedd technolegol y dyfodol, gan gynnwys newidiadau i dechnoleg weithredol, a thechnolegau a dulliau adeiladu.

8. Sut bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn profi a oedd ymgynghoriad cymunedol Cyn-ymgeisio ymgeisydd yn foddhaol?

Mae Deddf Cynllunio 2008 (DC2008) yn rhoi nifer o ddyletswyddau ar ymgeiswyr mewn perthynas â’r ymgynghoriad Cyn-ymgeisio, a rhaid i ‘Adroddiad Ymgynghori’ gyd-fynd â phob cais am ganiatâd datblygu. Caiff yr Adroddiad Ymgynghori ei baratoi o dan adran 37 DC2008, a rhaid iddo roi manylion am:

  1. yr hyn a wnaed i gydymffurfio ag adrannau 42, 47 a 48 DC2008 mewn perthynas â chais;
  2. unrhyw ymatebion perthnasol; a’r
  3. ystyriaeth a roddwyd i unrhyw ymatebion perthnasol.

Yn ystod y cyfnod Derbyn (h.y. y 28 diwrnod ar ôl cyflwyno cais yn ffurfiol), bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn craffu ar holl ddogfennau’r cais, gan gynnwys y dystiolaeth a ddarperir yn yr Adroddiad Ymgynghori, ac yn cymhwyso’r profion statudol sydd wedi’u hamlinellu yn a55 DC2008. Erbyn diwedd y cyfnod Derbyn, rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio (ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol) benderfynu, yn unol â’r profion yn a55 DC2008, a ddylid derbyn cais i’w Archwilio ai peidio.

Wrth wneud y penderfyniad uchod, mae a55(4) DC2008 yn ei gwneud yn glir bod rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio ystyried yr Adroddiad Ymgynghori ac unrhyw Sylwadau ar Ddigonolrwydd yr Ymgynghoriad a wnaed gan ymgyngoreion yr awdurdod lleol. Caiff Sylwadau ar Ddigonolrwydd yr Ymgynghoriad eu diffinio dan a55(5) DC2008 fel sylwadau ynghylch p’un a gydymffurfiodd yr Ymgeisydd â’i (d)dyletswyddau o dan adrannau 42, 47 a 48. Gofynnir amdanynt gan bob awdurdod lleol perthnasol ar ôl derbyn cais am ganiatâd datblygu.

9. Sut ydw i’n gwrthwynebu Datblygiad Arfaethedig yn ystod y cam Cyn-ymgeisio?

Dylech wneud sylwadau ynghylch Datblygiad Arfaethedig i’r Ymgeisydd, yn y lle cyntaf. Gweler CC 1.

Ni all yr Arolygiaeth Gynllunio ystyried gwrthwynebiadau i Ddatblygiad Arfaethedig yn ystod cam Cyn-ymgeisio proses Deddf Cynllunio 2008.

Am wybodaeth am ba bryd a sut i gofrestru’n Barti â Buddiant mewn Archwiliad (os bydd cais yn cael ei gyflwyno a bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn penderfynu ei fod o safon foddhaol i’w archwilio), gweler

Nodyn Cyngor 8.2 yr Arolygiaeth Gynllunio: Sut i gofrestru i gymryd rhan mewn Archwiliad.

10. Sut ydw i’n gwneud sylwadau ar Ddatganiad Ymgynghori â’r Gymuned ymgeisydd?

Rhaid i ymgeiswyr ymgynghori â’r awdurdod neu awdurdodau lleol perthnasol ynghylch cynnwys y Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned drafft, gan roi cyngor ar briodoldeb technegau a dulliau awgrymedig yr ymgeisydd ar gyfer ymgynghori â’r gymuned. Nid oes unrhyw ofyniad statudol i ymgeisydd ymgynghori â’r gymuned leol ynghylch cynnwys Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned.

Gall aelod o’r cyhoedd wneud awgrymiadau i ymgeisydd ynghylch cynnwys Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned yn y dyfodol yn ystod unrhyw ymgynghoriad anstatudol sy’n rhagflaenu ei ymgynghoriad statudol o dan a47 Deddf Cynllunio 2008. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ofyniad statudol i ymgeisydd ystyried yr awgrymiadau hynny.

11. Pam na chefais fy hysbysu am ymgynghoriad cymunedol Cyn ymgeisio yr ymgeisydd?

Mae adran 42 Deddf Cynllunio 2008 (DC2008) yn amlinellu pwy y mae’n rhaid i ymgeisydd ymgynghori â nhw ynghylch Datblygiad Arfaethedig.

O ran ymgynghori â’r gymuned leol, mae a47 DC2008 yn rhagnodi sut mae’n rhaid i ymgeisydd ymgynghori â phobl sy’n byw yn agos at y Datblygiad Arfaethedig. Mae adran 47(6) yn amlinellu sut mae’n rhaid i ymgeisydd sicrhau bod y Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned (SoCC) ar gael i bobl sy’n byw yn agos at y Datblygiad Arfaethedig. Nid oes unrhyw ddyletswydd statudol i ymgeisydd ymgynghori’n uniongyrchol â’r gymuned leol drwy lythyrau a / neu daflenni.

Mae CC 3 a CC 13 yn rhoi rhagor o gyngor ar y Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned.

Ar wahân, ar ôl cynnal ymchwiliad dyfal, mae hefyd yn ofynnol i ymgeiswyr nodi ac ymgynghori ag unigolion y maent yn credu y byddant neu y gallant wneud hawliad perthnasol am iawndal (e.e. mewn perthynas â llygredd sŵn neu olau sy’n deillio o ddefnyddio’r Datblygiad Arfaethedig). Rhaid ymgynghori’n uniongyrchol â’r unigolion hyn o dan a42(d) DC2008.

Gweler CC 14 am fwy o wybodaeth am hawliadau perthnasol.

12. Pam nad oes digwyddiad ymgynghori wedi’i drefnu lle rydw i’n byw?

Yr ymgeisydd sy’n penderfynu, ar y cyd â’r awdurdodau lleol lletyol ac ar ôl ystyried ymatebion ymgynghori ganddynt, lleoliad y digwyddiadau ymgynghori â’r gymuned statudol. Mae’r broses hon yn digwydd wrth baratoi’r Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned (SoCC) o dan a47 Deddf Cynllunio 2008. Mae CC 3 a CC13 yn rhoi rhagor o gyngor ar y Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned.

Os bydd unigolion neu grŵp yn credu y dylid cynnal digwyddiad ymgynghori mewn lleoliad penodol, dylent rannu eu barn â’r Ymgeisydd a’r awdurdod lleol lletyol yn ddigon cynnar i alluogi’r Ymgeisydd ac / neu’r awdurdod lleol ystyried hyn wrth ddatblygu’r Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned.

Lle na chaiff barn debyg ei rhannu’n ddigon cynnar i’w galluogi i lywio’r Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned, efallai y bydd yr ymgeisydd, fel y gwêl orau, yn fodlon cynnar ymgynghoriad cymunedol ychwanegol y tu allan i ofynion statudol y Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned.

13. Sut gallaf weld dogfennau ymgynghori’r ymgeisydd?

Rhaid manylu ar y lleoliadau lle gan y gymuned leol weld dogfennau ymgynghori’r ymgeisydd yn y Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned (SoCC). Rhaid i’r Ymgeisydd sicrhau bod y Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned ar gael i’r cyhoedd ei weld mewn ffordd sy’n rhesymol gyfleus i bobl sy’n byw’n agos at y tir y byddai’r Datblygiad Arfaethedig wedi’i leoli arno. Mae CC 3 yn rhoi rhagor o gyngor ar y Datganiad Ymgynghori â’r Gymuned.

Ar wahân, mae’n ofynnol yn ôl adran 48 Deddf Cynllunio 2008 i ymgeiswyr roi cyhoeddusrwydd i Ddatblygiad Arfaethedig. Rhaid cyhoeddi Hysbysiad o Ddatblygiad Arfaethedig:

  • o leiaf dwy wythnos yn olynol mewn un neu fwy o bapurau newydd lleol sy’n cael eu cylchredeg yn agos at leoliad y Datblygiad Arfaethedig;
  • unwaith mewn papur newydd cenedlaethol;
  • unwaith yn y London Gazette ac, os yw’n effeithio ar dir yn Yr Alban, yn yr Edinburgh Gazette; a
  • lle mae’r cais arfaethedig yn ymwneud â datblygiad alltraeth —
  • unwaith yn Lloyd’s List; ac
  • unwaith mewn newyddiadur priodol y fasnach bysgod.Ymhlith gwybodaeth bwysig arall a ragnodir gan Reoliad 4 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009, (rhaid i’r hysbysiad gynnwys):
    • datganiad bod dogfennau’r ymgynghoriad, cynlluniau a mapiau’n dangos natur a lleoliad y Datblygiad Arfaethedig ar gael i’w harchwilio’n rhad ac am ddim yn y mannau (gan gynnwys o leiaf un cyfeiriad sy’n agos at y datblygiad arfaethedig) ac ar yr amseroedd a nodir yn yr hysbysiad;
    • y dyddiad olaf y bydd y dogfennau, cynlluniau a’r mapiau hynny ar gael i’w harchwilio; a
    • ph’un a godir tâl am unrhyw gopïau o’r dogfennau, cynlluniau a’r mapiau, a swm unrhyw dâl.

    14. Sut caiff penderfyniadau eu gwneud ynglŷn ag iawndal, a faint fydd gennyf hawl iddo?

    Mae hawliadau am iawndal yn fater yr eir i’r afael ag ef y tu allan i broses Deddf Cynllunio 2008 (DC2008). Nid yw materion yn ymwneud ag iawndal ariannol yn disgyn o fewn cwmpas Archwiliad, sydd wedi’i gyfyngu i ystyried p’un a yw’r pwerau Caffael Gorfodol arfaethedig y mae’r ymgeisydd yn eu ceisio yn bodloni’r profion sydd wedi’u hamlinellu yn DC2008.

    Yn gyffredinol, gall iawndal gael ei hawlio gan unigolion neu sefydliadau y gallai Datblygiad Arfaethedig effeithio ar eu tir neu eu hawliau ar dir. Efallai na fydd eu tir na’u hawliau’n destun i’r pwerau Caffael Gorfodol y mae cais yn eu ceisio, neu efallai na fyddant o fewn y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, ond efallai y bydd ganddynt hawl i gael iawndal o hyd naill ai o dan Ran 1 Deddf Digollediad Tir 1973, a10 Deddf Prynu Gorfodol 1965 neu a152 DC2008, os yw’r datblygiad yn effeithio ar eu tir neu fuddiannau.

    Gallai’r mater o iawndal godi os caiff caniatâd datblygu eu roi, a bod yr ymgeisydd yn rhoi Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) ar waith. Gan fod y materion hyn yn cael eu llywodraethu gan y ddeddfwriaeth prynu gorfodol perthnasol (gweler uchod), gallai’r hawliad ac unrhyw iawndal cysylltiedig fod yn rhywbeth i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd) ei ystyried. Fodd bynnag, mae digonolrwydd cyllid i fodloni unrhyw rwymedigaethau iawndal yn y dyfodol sy’n deillio o weithredu DCO, ac unrhyw ddulliau y mae’r ymgeisydd yn eu cynnig i sicrhau’r cyllid, yn faterion y byddai’r Awdurdod Archwilio yn eu hystyried fel rhan o Archwiliad.

    Mae’r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi arweiniad ar y Gweithdrefnau ar gyfer Caffael Gorfodol.

    15. Pam wyf wedi derbyn holiadur cyfeirnodi tir? A oes rhaid i mi ei lenwi?

    Os bydd Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) yn ceisio pwerau Caffael Gorfodol a / neu Feddiant Dros Dro, dywed adrannau 44, 57 a 59 Deddf Cynllunio 2008 (DC2008), wrth geisio nodi’r holl fuddiannau tir a’r unigolion a all fod â hawl i wneud hawliad perthnasol, rhaid i ymgeisydd gynnal ymchwiliad diwyd. Mae paragraff 50 dogfen ‘Deddf Cynllunio 2008: Arweiniad ar y broses cyn-ymgeisio’ yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn esbonio:

    “Yr Ymgeisydd sy’n gyfrifol am ddangos wrth gyflwyno’r cais y gwnaed diwydrwydd dyladwy o ran nodi’r holl fuddiannau tir, a dylai ymgeiswyr wneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod y Llyfr Cyfeirnodi (sy’n cofnodi ac yn categoreiddio’r buddiannau tir hynny) yn gyfredol adeg cyflwyno’r cais.”

    Mae dosbarthu holiaduron cyfeirnodi tir yn un o nifer o ddulliau y mae ymgeiswyr yn eu defnyddio’n rheolaidd wrth geisio nodi’r holl fuddiannau tir, ac felly bodloni’r prawf diwydrwydd dyladwy a nodir yn DC2008. Wrth ystyried y prawf hwn, mae gan y broses cyfeirnodi tir, o safbwynt yr ymgeisydd, rôl bwysig o ran paratoi cais ar gyfer DCO sy’n ceisio pwerau Caffael Gorfodol a / neu Feddiant Dros Dro. O safbwynt unigolion sydd â buddiant yn y tir, bydd cynnig manylion am eu buddiant / buddiannau yn y tir i ymgeisydd yn helpu i sicrhau y caiff eu buddiannau eu hadlewyrchu’n gywir mewn unrhyw gais, ac yn sicrhau nad yw eu gallu i gyfrannu at yr archwiliad o’r cais hwnnw yn cael ei gyfaddawdu.

    Felly, am y rhesymau hyn, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn annog derbynwyr i ymateb i’r holiaduron cyfeirnodi tir ar yr adeg briodol. Gallai methu ymateb i ymarfer cyfeirnodi tir ymgeisydd fod â goblygiadau o ran gallu unigolion i gyfrannu’n effeithiol at unrhyw Archwiliad sy’n dilyn.

    Serch hynny, nid yw’n fandadol i’r rhai sy’n derbyn yr holiadur roi gwybodaeth am eu buddiant / buddiannau mewn tir i’r ymgeisydd, os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny, ac ni fyddai dewis atal gwybodaeth am fuddiannau tir yn niweidio unrhyw hawliad am iawndal o dan Ddeddf Prynu Gorfodol 1965; Deddf Digollediad Tir 1973; a / neu a152 DC2008 yn y dyfodol.

    16. Pa ddylanwad y mae gwleidyddion lleol yn ei gael ar Ddatblygiad Arfaethedig?

    Os bydd cais yn cael ei gyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio, ac os canfu wedi hynny ei fod o safon foddhaol i’w archwilio, bydd Awdurdod Archwilio annibynnol a diduedd yn cael ei benodi i gasglu tystiolaeth a phrofi gwybodaeth yn ystod yr Archwiliad o’r cais, sy’n para chwe mis. Yna, bydd argymhelliad yn cael ei wneud i’r Ysgrifennydd Gwladol perthnasol (y gweinidog sy’n gyfrifol am faes busnes y llywodraeth y mae cais yn ymwneud ag ef), sy’n gorfod gwneud ei benderfyniad / ei phenderfyniad yn unol â Phennod 5 Deddf Cynllunio 2008 (DC2008). Gwybodaeth bellach am y broses.

    Gall unrhyw un gofrestru diddordeb mewn Archwiliad a dod yn Barti â Buddiant (ar yr adeg briodol yn ystod y broses), ac mae gan bob Parti â Buddiant yr un statws yn unol ag a102 DC2008. Gweler CC 2 a CC 9.

    Dywed DC2008 na all unrhyw unigolyn neu sefydliad (h.y. Parti â Buddiant), sydd â chysylltiadau gwleidyddol neu beidio, fod â’r potential i fod â mwy o ddylanwad ar yr Archwiliad o gais nag unrhyw un arall.

    17. Pam y mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi mynychu cyfarfod Cyn ymgeisio ag ymgeisydd a thrydydd parti?

    Gall yr Arolygiaeth Gynllunio gynnig rôl hwyluso, yn ôl yr angen, drwy gymryd rhan mewn cyfarfodydd bord gron, er enghraifft, rhwng ymgeisydd, awdurdod lleol ac ymgyngoreion statudol. Mae diben y cyfarfodydd hyn yn cael ei esbonio yn ein Prosbectws Cyn-ymgeisio.

    Mae’r Arolygiaeth Gynllunio hefyd yn ymateb i gyfarfodydd ar gais rhanddeiliaid eraill. Byddai’r Arolygiaeth Gynllunio yn ystyried mynychu’r cyfarfodydd hyn lle bynnag y byddai o’r farn y byddai gwerth digonol mewn mynychu’r cyfarfodydd, gan ystyried y lleoliad a’r amser arfaethedig, a’r cam ym mhroses Deddf Cynllunio 2008 (DC2008).

    Rhaid i unrhyw gyngor y mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn ei roi mewn unrhyw gyfarfodydd gael ei gofnodi a’i gyhoeddi ar ei gwefan o dan a51 DC2008. Yn ymarferol, bydd y cyngor hwn yn cael ei gyflwyno ar ffurf nodyn o’r cyfarfod, fel arfer, a all gynnwys crynodeb hefyd o’r wybodaeth gyd-destunol a gwybodaeth arall a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.

    18. Rwy’n poeni am y modd y mae ymgeisydd wedi ymdrin â’m data personol. Â phwy ddylwn i gysylltu?

    Ym mhob achos, yr Ymgeisydd sy’n gyfrifol am sicrhau bod gofynion Deddf Diogelu Data 1998 yn cael eu bodloni.

    Gallwch dynnu sylw Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth at unrhyw bryderon yn ymwneud ag ymdrin â data.