Cwestiynau Cyffredin Beth yw fy statws yn yr Archwiliad?

Mai 2019

1. Cyflwyniad a diben y ddogfen hon

1.1 Mae’r ddogfen Cwestiynau Cyffredin hon wedi’i chyhoeddi dan adran 51 Deddf Cynllunio 2008 (DC2008). Mae’n cynnwys cyngor i’r rhai sy’n rhan o broses DC2008 ynghylch eu statws o ran archwilio ceisiadau am ganiatâd datblygu.

1.2 Nod y ddogfen hon yw helpu unigolion i ddeall pam maent wedi cael gohebiaeth gan yr Arolygiaeth Gynllunio (yn benodol, llythyr ‘Rheol 6’ yn cynnwys gwahoddiad i Gyfarfod Rhagarweiniol) ac egluro camau gweithredu y gall fod angen eu cymryd mewn amgylchiadau penodol er mwyn arfer neu gadw hawliau penodol.

1.3 Mae rhagor o wybodaeth am statws ffurfiol Partïon â Buddiant, a sut gallwch gymryd rhan yn y broses, wedi’i hamlinellu yng nghyfres Nodyn Cyngor 8 yr Arolygiaeth.

1.4 Mae gwybodaeth am statws awdurdodau lleol wedi’i hamlinellu yn Nodyn Cyngor Dau.

1.5 Os, ar ôl darllen y dogfennau hyn, nad ydych yn sicr o’ch statws yn yr Archwiliad o hyd, cysylltwch â’r Arolygiaeth Gynllunio.

1.6 Gallai’r Cwestiynau Cyffredin hyn gael eu diweddaru o dro i dro, fel y gwêl yr Arolygiaeth Gynllunio orau.

Fersiwn Diweddariadau
Rhagfyr 2018 Cyhoeddiad gwreiddiol
Mai 2019 Diweddarwyd i gynnwys statws dan a102A Deddf Cynllunio 2008

2. CC: Beth yw fy statws yn yr Archwiliad?

Cyngor adran 51

Os ydych wedi cael llythyr gan yr Arolygiaeth Gynllunio yn eich gwahodd i Gyfarfod Rhagarweiniol ar gyfer cais penodol, mae wedi’i anfon atoch gan eich bod chi (neu’r corff rydych yn ei gynrychioli) yn disgyn i un o’r categorïau yn a88(3) Deddf Cynllunio 2008 (DC2008).

Er hwylustod, byddwn yn cyfeirio at y mathau o bobl sy’n cael eu nodi yn a88(3) fel Grŵp A, Grŵp B or Grŵp C. Mae’r esboniadau manwl a roddir isod wedi’u crynhoi yn Atodiad A.

Grŵp A

Os ydych wedi gwneud Sylw Perthnasol (Mae’r hyn sy’n gyfystyr â Sylw Perthnasol yn cael ei esbonio yn Nodyn Cyngor 8.2: Sut i gofrestru i gymryd rhan mewn Archwiliad, sydd ar gael yn, os oes gennych fuddiant cyfreithiol yn y tir y mae’r cais yn effeithio arno (Neu wedi eich nodi gan yr Ymgeisydd yn rhywun a all fod â hawl i wneud cais perthnasol am iawndal pe byddai’r Gorchymyn Caniatâd Datblygu yn cael ei wneud a’i roi ar waith yn llawn), os ydych yn awdurdod lleol perthnasol lle mae’r datblygiad arfaethedig o fewn eich ffin, neu os ydych wedi cael eich hysbysu o dan a102A DC2008 (Ar gael yn: http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2008/29/section/102A), mae gennych statws ffurfiol fel Parti â Buddiant yn yr Archwiliad.

Mae adran 102 DC2008 (Ar gael yn: http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2008/29/section/102), ymhlith pethau eraill, yn rhoi diffiniad o ystyr Parti â Buddiant. Mae gan Bartïon â Buddiant statws arbennig wrth archwilio ceisiadau am ganiatâd datblygu, a byddant yn cael hysbysiadau gan yr Arolygiaeth Gynllunio am yr Archwiliad ar hyd y broses. Yn bwysig, mae gan Bartïon â Buddiant hawl gyfreithiol i wneud cyflwyniadau ysgrifenedig a llafar ynghylch y cais yn ystod yr Archwiliad.

Mae adran 59(4) DC2008, ymhlith pethau eraill, yn rhoi diffiniad o ‘Unigolyn yr Effeithir Arno’. Unigolyn yr Effeithir Arno yw rhywun sydd â buddiant cyfreithiol yn y tir, neu unrhyw rhan o’r dir, y mae cais yn effeithio arno. Mae Unigolion yr Effeithir Arnynt yn Bartïon â Buddiant, ynghyd ag unrhyw un arall y mae’r Ymgeisydd wedi nodi’n unigolyn a all fod â hawl i wneud cais perthnasol am iawndal pe byddai’r Gorchymyn Caniatâd Datblygu yn cael ei wneud a’i roi ar waith yn llawn. Am fwy o wybodaeth, darllennwch ‘Deddf Cynllunio 2008: Canllawiau yn ymwneud â gweithdrefnau ar gyfer caffael tir yn orfodol’.

Grŵp B

Os ydych yn Barti Statudol (At ddibenion y cyngor hwn, yr ystyr yw corff sydd wedi’i nodi yn Atodlen 1 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Partïon â Buddiant a Darpariaethau Rhagnodedig Amrywiol) 2015 (ond nid Unigolyn yr Effeithir Arno)) neu’n awdurdod lleol sy’n ffinio ar yr awdurdod lleol y mae’r datblygiad arfaethedig wedi’i leoli ynddo, ond nad ydych wedi gwneud Sylwadau Perthnasol, ni fyddwch yn Barti â Buddiant fel mater o drefn. Bydd yr Awdurdod Archwilio (AA) yn pennu dyddiad cau yn gynnar yn Amserlen yr Archwiliad, a gofynnir i chi gadarnhau i’r Archwiliad erbyn y dyddiad hwnnw yr hoffech gael eich trin yn Barti â Buddiant. Serch hynny, gallech roi gwybod i’r AA yr hoffech gael eich trin yn Barti â Buddiant ar unrhyw adeg yn ystod yr Archwiliad.

Bydd Partïon Statudol nad ydynt wedi gwneud Sylwadau Perthnasol, ac nad ydynt yn rhoi gwybod i ni yr hoffent fod yn Barti â Buddiant, yn cael Penderfyniad Gweithdrefnol yr AA ar ôl y Cyfarfod Rhagarweiniol, ond ni fyddant yn cael unrhyw ohebiaeth bellach yn ystod yr Archwiliad; ar wahân i benderfyniad terfynol yr Ysgrifennydd Gwladol.

Grŵp C

Os nad ydych yn Barti â Buddiant neu’n Barti Statudol, rydych wedi eich gwahodd i’r Cyfarfod Rhagarweiniol fel Unigolyn Arall, oherwydd ei fod yn ymddangos i’r AA y gallai eich cyfranogiad lywio’r Archwiliad.

Os ydych yn Unigolyn Arall, nid ydych yn Barti â Buddiant. Byddwch yn cael Penderfyniad Gweithdrefnol yr AA ar ôl y Cyfarfod Rhagarweiniol, ond ni fyddwch yn cael unrhyw ohebiaeth bellach yn ystod yr Archwiliad, oni bai ei bod i roi gwybod i chi fod Amserlen yr Archwiliad wedi newid (Rheol 8(3) Rheolau Cynllunio Seilwaith (Gweithdrefn Archwilio) 2010), neu os oes gan yr AA gwestiynau penodol i chi.

Ddim yn siwr o hyd?

Os ydych yn ansicr o’ch statws yn yr Archwiliad o hyd, cysylltwch â’r Arolygiaeth Gynllunio.

Mae gwybodaeth am statws ffurfiol Partïon â Buddiant, a sut gallwch gymryd rhan yn y broses, wedi’i hamlinellu yng nghyfres Nodyn Cyngor 8 yr Arolygiaeth.

Mae gwybodaeth am statws awdurdodau lleol wedi’i hamlinellu yn Nodyn Cyngor Dau.

Atodiad A – Tabl statws cryno

Grŵp Categori Esboniad Cyfranogiad Derbyn
A Wedi gwneud Sylwadau Perthnasol / Unigolyn yr Effeithir Arno / Nodwyd yn hawliwr posibl / Awdurdod lleol lletyol / Hysbyswyd dan a102A Mae adran 102 Deddf Cynllunio 2008 yn amlinellu pwy sy’n Barti â Buddiant
  • Hawl gyfreithiol i gymryd rhan
  • Gall wneud sylwadau ysgrifenedig
  • Gall wneud cyflwyniad llafar mewn unrhyw wrandawiad
  • Gall ofyn am Wrandawiadau Llawr Agored
  • Gall ofyn am Wrandawiadau Caffael Gorfodol (Unigolion yr Effeithir Arnynt)
  • Gall gymryd rhan mewn Arolygiadau Safle â Chwmni
  • Gwahoddiad i’r Cyfarfod Rhagarweiniol (llythyr ‘Rheol 6’)
  • Penderfyniad Gweithdrefnol ar ôl y Cyfarfod Rhagarweiniol (llythyr ‘Rheol 8’)
  • Hysbysiad o unrhyw wrandawiadau ac Arolygiadau Safle â Chwmni
  • Pob Penderfyniad Gweithdrefnol arall a wneir yn ystod yr Archwiliad
  • Hysbysiad o unrhyw newidiadau i Amserlen yr Archwiliad
  • Hysbysiad o benderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol
B Parti Statudol / Awdurdod lleol cyfagos Mae Atodlen 1 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Partïon â Buddiant a Darpariaethau Rhagnodedig Amrywiol) 2015 yn amlinellu pwy sy’n Barti Statudol /
Mae adran 56A(2) a (3) Deddf Cynllunio 2008 yn amlinellu pwy sy’n awdurdod lleol cyfagos
  • Nid yw’n Barti â Buddiant
  • Gall ofyn i fod yn Barti â Buddiant (os nad yw wedi gwneud Sylwadau Perthnasol)
  • Mae gofyn yn cychwyn hawl cyfranogi Grŵp A
Nid yw’n gofyn i fod yn Barti â Buddiant: Llythyr ‘Rheol 6’Llythyr ‘Rheol 8’/ Mae’n gofyn i fod yn Barti â Buddiant: Gohebiaeth Grŵp A
C Unigolyn Arall Unigolion nad ydynt yng ngrŵp A neu B sydd wedi’u gwahodd i’r Cyfarfod Rhagarweiniol gan yr Awdurdod Archwilio fel Unigolyn Arall
  • Nid yw’n Barti â Buddiant
  • Gall wneud cyflwyniad llafar yn y Cyfarfod Rhagarweiniol
  • Gall wneud cyflwyniadau ysgrifenedig i’r Archwilio a chyflwyniadau llafar mewn unrhyw wrandawiad, yn ôl disgresiwn yr Awdurdod Archwilio
  • Gallai’r Awdurdod Archwilio ofyn cwestiynau i Unigolion Eraill yn ystod yr Archwiliad
  • Gwahoddiad i’r Cyfarfod Rhagarweiniol (llythyr ‘Rheol 6’)
  • Penderfyniad Gweithdrefnol ar ôl y Cyfarfod Rhagarweiniol (llythyr ‘Rheol 8’)
  • Hysbysiad o unrhyw newidiadau i Amserlen yr Archwiliad